| (Oll) {Yn canu.} | |
| (Hotspur) Ie, a'i spaniel bach gydag ef. | |
| (1, 2) 288 | Arglwyddi Lloegr! |
| (1, 2) 289 | Gwysiais chwi i'r llys i glywed achos Arglwydd Grey yn erbyn Syr Owen de Glendore. |
| (1, 2) 290 | Ein doeth Brif Farnwr Gascoigne! |
| (1, 2) 291 | Y chwi raid ddweyd sut saif y gyfraith o'r naill du a'r llall. |
| (1, 2) 292 | Fy Arglwydd Grey, a ydych chwi'n barod i wynebu Syr Owen de Glendore? |
| (Grey) {Yn moesgrymu.} | |
| (Tywysog) Mae parch i lys dy deyrn, heb son am glod Glyndwr fel un o brif farchogion dewra'i oes, yn gwahardd i ti ddweyd iddo gael ei alw yma i'w hela gennyt ti na'r un ci arall. | |
| (1, 2) 301 | Fy mab! |
| (1, 2) 302 | Gwnaf fi amddiffyn fy anrhydedd a'm llys pan welaf raid! |
| (1, 2) 303 | Ymlaen, fy Arglwydd |
| (Grey) Fy Arglwydd Frenin. | |
| (Glyndwr) {Yn taflu ei faneg wrth draed Grey.} | |
| (1, 2) 314 | Beth! |
| (1, 2) 315 | A feiddi di roi her i neb ym mhresenoldeb y brenin yn ei lys? |
| (Glyndwr) Nid myfi yw'r cyntaf a wnaeth hynny. | |
| (1, 2) 318 | Beth a ddwedaist ti? |
| (1, 2) 319 | Wyt ti'n dannod imi yr hyn a wnes flynyddoedd maith yn ol? |
| (1, 2) 327 | Ymlaen, De Grey! |
| (Grey) Dymunaf ofyn cwestiwn teg i'r gwr difoes a saif mor haerllug yma o flaen ei deyrn. | |
| (Grey) {Yn moesgrymu i'r Brenin.} | |
| (1, 2) 330 | Dos yn dy flaen, De Grey! |
| (Grey) {Yn troi at Glyndwr.} | |
| (Grey) Ni ellir derbyn llw'r un Cymro byth yn erbyn llw Sais. | |
| (1, 2) 346 | Fy Arglwydd Farnwr, a yw De Grey yn iawn? |
| (Barnwr) Er cywilydd i gyfreithiau Lloegr, felly y mae. | |
| (Barnwr) Gall hawlio rhoi ei lw fel un o bendefigion Lloegr. | |
| (1, 2) 374 | Aed y prawf felly ymlaen. |
| (1, 2) 375 | Syr Owen de Glendore, pa beth a ddywedi di? |
| (Glyndwr) Fy Arglwydd Frenin. | |
| (1, 2) 387 | Adgofiaist fi iti ymladd wrth fy ystlys gynt mewn cad; gwna'r atgo hwnnw imi anghofio'r geiriau gwyllt a lefarwyd heddyw gennyt ger fy mron mewn llys. |
| (Grey) Ond nid anghofiaf fi! | |
| (Esgob) Ac er mwyn heddwch gwlad apelio 'rwyf na fydded i ti gynhyrfu pob ryw ysbryd drwg trwy roi dyfarniad yn yr achos hwn ar sail deddf mor anghyfiawn─deddf sy'n sarhad ar degwch Lloegr ac ar hunanbarch pob Cymro! | |
| (1, 2) 408 | Fy Arglwydd Esgob! |
| (1, 2) 409 | Mae dy wisg a'th swydd yn esgus dros i ti ddadleu heddwch yn fy llys. |
| (1, 2) 410 | Ond nid yw bygwth Cymru arnaf, fel y gwnei, yn debyg o fy nhroi o'i phlaid. |
| (1, 2) 411 | Ac, wedi'r cwbl, deddf yw deddf, a rhaid i'r neb a drosedda hon, ddwyn ei chosb. |
| (1, 2) 412 | Ac yn ol deddf y tir, fel y'i dehonglwyd yma'n glir, nid oes un llw yn erbyn hawl De Grey. |
| (1, 2) 413 | Rhaid i mi felly gyhoeddi fod tir y Croesau yn eiddo Arglwydd Grey. |