|
|
|
(Pleser) |Now, by your leave, gentlemen and ladies|: |
|
|
(1, 1) 714 |
On'd dedwydd a godidog |
(1, 1) 715 |
Yw gweithred gwr cywaethog ' |
(1, 1) 716 |
Cysgod crefydd, gwisgiad cry', |
(1, 1) 717 |
Sy'n hardd fantellu'r tyllog. |
(1, 1) 718 |
Peth dawnus yn mhlith dynion, |
(1, 1) 719 |
Yw enw crefydd union, |
(1, 1) 720 |
Ac anrhydeddus barchus bur, |
(1, 1) 721 |
Wrth agwedd gwyr cwaethogion; |
(1, 1) 722 |
Nid yw'r tlodedd daeredd dôn |
(1, 1) 723 |
Ond gwirion a digariad; |
(1, 1) 724 |
Yr iawn arianog enwog wr, |
(1, 1) 725 |
Gaiff wrando'n siwr ei siarad, |
(1, 1) 726 |
Dyna'r dyn trwy |honour| da, |
(1, 1) 727 |
Mae'r mawredd a'r cymeriad; |
(1, 1) 728 |
Mewn |society| a phob swydd, |
(1, 1) 729 |
Mae'n ddedwydd a ddywedo, |
(1, 1) 730 |
Ac yn y purdan gan y Pab |
(1, 1) 731 |
Fe guddir mab ag eiddo; |
(1, 1) 732 |
Yr arian s'yn goreuro swydd, |
(1, 1) 733 |
Gwna i gelwydd gael ei goelio. |
(1, 1) 734 |
~ |
(1, 1) 735 |
Nid buddiol cydnabyddiaeth |
(1, 1) 736 |
A'r gweiniaid yn eu gweniaeth, |
(1, 1) 737 |
Os can' nhwy'i cynwys, a'n o'u co' |
(1, 1) 738 |
I ffals ymrwbio am rywbeth, |
(1, 1) 739 |
Mae'n rhaid i ddyn pwerus |
(1, 1) 740 |
Fyw'n filain a gofalus, |
(1, 1) 741 |
A rheswm |short|, a golwg sur, |
(1, 1) 742 |
Yn nghanol gwyr anghenus. |
(1, 1) 743 |
Mae'n calonau ni'n yn mhob man |
(1, 1) 744 |
Yn c'ledu o ran ein clydwch, |
(1, 1) 745 |
Talcen putain i ni sydd |
(1, 1) 746 |
Heb arwydd c'wilydd, coeliwch, |
(1, 1) 747 |
A wyneb pres rhag anhap bri, |
(1, 1) 748 |
Yw'n hurddas ni a'n harddwch, |
(1, 1) 749 |
Tebyg ydym ni wrth ein chwant |
(1, 1) 750 |
Heb fethiant i'r lefiathan, |
(1, 1) 751 |
Fe 'sgydwa'i ben, fe chwardd yn bur, |
(1, 1) 752 |
Ar bicell ddur neu darian, |
(1, 1) 753 |
Ac felly ninau, swyddau serth, |
(1, 1) 754 |
Oherwydd nerth ein harian. |
|
(Rondol) Mi a dawaf a chrychnadu, |
|
|
(1, 1) 855 |
Tosturus ydyw ystyried, |
(1, 1) 856 |
Wrth weled anferth wall; |
(1, 1) 857 |
A'r gofid byd sy'n gwasgu, |
(1, 1) 858 |
'Mron llethu hwn a'r llall, |
(1, 1) 859 |
I b'le troir, na b'o bloedd trwst; |
(1, 1) 860 |
Ac anian ffrwst, rhyw gwynion ffraeth, |
(1, 1) 861 |
A dynol blant yn dynn eu bloedd, |
(1, 1) 862 |
Eu bod yn g'oedd a'u byd yn gaeth, |
(1, 1) 863 |
Prudd, prudd, gwae anfon swn gofidiau sydd, |
(1, 1) 864 |
Yn gas o ran, gwir eisiau 'mroi; |
(1, 1) 865 |
Am rym i ffoi dan rwymau ffydd, |
(1, 1) 866 |
P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'? |
(1, 1) 867 |
Cheir odid beth, o ryddid byd, |
(1, 1) 868 |
Heb gadwyn gofid gyda e'. |
(1, 1) 869 |
~ |
(1, 1) 870 |
Gofidus byw dan rwymau, |
(1, 1) 871 |
Gofidus bod yn rhydd, |
(1, 1) 872 |
Gofidus nos mewn gwely, |
(1, 1) 873 |
Gofidus ganol ddydd, |
(1, 1) 874 |
Mae gofid blin yn gafod bleth, |
(1, 1) 875 |
Wrth dalu treth neu ddilyn trâd, |
(1, 1) 876 |
I dori dyn ar dir a dwr, |
(1, 1) 877 |
Mae mawr ystwr ymhob rhyw stâd. |
(1, 1) 878 |
Blin, blin, gofidiau traws, gwael fod eu trin, |
(1, 1) 879 |
Eu pwyth sy'n bwys 'mhob peth sy'n bod, |
(1, 1) 880 |
Trwy |riwl| y rhod, trwy'r haul a'r hin, |
(1, 1) 881 |
P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'? |
(1, 1) 882 |
Cheir odid beth o ryddid byd, |
(1, 1) 883 |
Heb gadwyn gofid gydag e'. |
(1, 1) 884 |
~ |
(1, 1) 885 |
Mae gofid yn y plentyn, |
(1, 1) 886 |
Mae gofid yn y fam, |
(1, 1) 887 |
Mae gofid mewn rhieni, |
(1, 1) 888 |
Mae cyni lawer cam. |
(1, 1) 889 |
Gofidiau'r byd, anfeidrol bwys, |
(1, 1) 890 |
Raid ddiodde'n ddwys o ddydd i ddydd, |
(1, 1) 891 |
Gofidiau maith yw'n iaith a'n tôn, |
(1, 1) 892 |
A gresyn son am groesau sydd— |
(1, 1) 893 |
Briw, briw sy'n dynn ar elfen dynolryw, |
(1, 1) 894 |
Gofidiau crych trwy'r cnawd a'r croen, |
(1, 1) 895 |
Mewn amryw boen 'ry'm ni yma'n byw, |
(1, 1) 896 |
P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'i |
(1, 1) 897 |
Cheir odid beth o ryddid byd, |
(1, 1) 898 |
Heb gadwyn gofid gydag e'. |
(1, 1) 899 |
~ |
(1, 1) 900 |
Heblaw'r allanol ofid, |
(1, 1) 901 |
Sy'n llid rhwng nef a llawr, |
(1, 1) 902 |
Gofidiau syn olynol, |
(1, 1) 903 |
Tufewnol eto'n fawr, |
(1, 1) 904 |
Cydwybod flin a dibaid floedd, |
(1, 1) 905 |
Sy'n gwaeddi'n g'oedd, a'i gwaed yn gaeth; |
(1, 1) 906 |
Bu Suddas ffals, bu Esau ffol, |
(1, 1) 907 |
Bu Cain a Saul yn cwyno'i saeth, |
(1, 1) 908 |
Duw, Duw, a wnelo i bawb anelu byw, |
(1, 1) 909 |
Trwy gadw a'r draul cydwybod rydd, |
(1, 1) 910 |
Ond ê, ddaw'r dydd, bydd brudd y briw, |
(1, 1) 911 |
Ffydd gre'r creadur newydd eiff i'r ne'; |
(1, 1) 912 |
Fe dderfydd poen, fe dderfydd byd, |
(1, 1) 913 |
Fe dderfydd gofid gydag e'. |
|
(Boddlondeb) Pwy sydd yma'n taenu canu cwynion? |
|
|
(1, 1) 1001 |
O b'le mae'r holl ofidiau |
(1, 1) 1002 |
A'r plaau sydd yn ein plith? |
(1, 1) 1003 |
Ond 'ddiwrth yr aflan anian wyniau |
(1, 1) 1004 |
A'r melys chwantau chwith, |
(1, 1) 1005 |
Mae melldith barn cyfiawnder |
(1, 1) 1006 |
Yn egrarnom ni, |
(1, 1) 1007 |
Tra fo'm yn aros mewn anwiredd, |
(1, 1) 1008 |
Swn llygredd sarphaidd sy'. |
(1, 1) 1009 |
A rhaid yw deffro dyn |
(1, 1) 1010 |
I weled ei ddrwg wyn, |
(1, 1) 1011 |
Cyn delo mewn cwyn dilys, |
(1, 1) 1012 |
Fel mab afradlon gwarthus, |
(1, 1) 1013 |
Yn dlawd alarus lun. |
(1, 1) 1014 |
Rhaid gwasgu'r grawnion llawn, |
(1, 1) 1015 |
Cyn delo eu nodd yn iawn; |
(1, 1) 1016 |
Rhaid clwyfo cyn cael meddyg, |
(1, 1) 1017 |
'Does ar yr iach diysig |
(1, 1) 1018 |
Mo'i ddiffyg ef na'i ddawn. |
(1, 1) 1019 |
~ |
(1, 1) 1020 |
Fel hyn mae llais yr Arglwydd, |
(1, 1) 1021 |
A'i ddoeth berffeithrwydd ef, |
(1, 1) 1022 |
A'i faith ragluniaeth, wir ganlyniad, |
(1, 1) 1023 |
Yn alwad ini o'r nef; |
(1, 1) 1024 |
Dwfr, tân, a gwyntoedd creulon, |
(1, 1) 1025 |
Peryglon o bob rhyw, |
(1, 1) 1026 |
Sydd wrthddrych hynod ini ganfod |
(1, 1) 1027 |
Awdurdod gallu Duw: |
(1, 1) 1028 |
Pob profiad gallu prudd, |
(1, 1) 1029 |
Pob gofid serthfyd sydd, |
(1, 1) 1030 |
Yn rhywbeth fel o rybudd |
(1, 1) 1031 |
I'n galw ni at yr Arglwydd, |
(1, 1) 1032 |
Yn cael hoff arwydd ffydd, |
(1, 1) 1033 |
Os cawn ni nerth o'r nef |
(1, 1) 1034 |
I ymorphwys arno ef, |
(1, 1) 1035 |
Mewn gwir uniondeb gwaraidd |
(1, 1) 1036 |
Ni a gawn, ni a gawn ddigonedd, |
(1, 1) 1037 |
Yn groywaidd o'i law gref. |
(1, 1) 1038 |
~ |
(1, 1) 1039 |
Ar bwy gorphwysodd Abel |
(1, 1) 1040 |
Yn ddirgel, ond ar Dduw; |
(1, 1) 1041 |
Ac Enoc hefyd, enw cyfion, |
(1, 1) 1042 |
Ga'dd foddion ganddo i fyw; |
(1, 1) 1043 |
Ffydd ffyddlon yn 'raddewid |
(1, 1) 1044 |
Oedd hyfryd i Abraham, |
(1, 1) 1045 |
Ei groes ragluniaeth a ganlynodd, |
(1, 1) 1046 |
Nis gwyrodd naws ei gam; |
(1, 1) 1047 |
Boddloni ar lwybrau ffydd |
(1, 1) 1048 |
Yw'r gylfaen benaf sydd; |
(1, 1) 1049 |
Ymddiried yn yr Arglwydd |
(1, 1) 1050 |
'Roedd Moses, Job, a Dafydd, |
(1, 1) 1051 |
Trwy'r prawf a'r cystudd prudd; |
(1, 1) 1052 |
O! ryfedd, ryfedd ras, |
(1, 1) 1053 |
Uwchlaw pob gofid cas, |
(1, 1) 1054 |
Trwy gael boddlondeb goleu, |
(1, 1) 1055 |
Gwell pryd o ddail na seigiau |
(1, 1) 1056 |
O gigau breintiau bras. |
(1, 1) 1057 |
~ |
(1, 1) 1058 |
Yn mha rhyw gyflwr bynag, |
(1, 1) 1059 |
Medd Apostol dinag Duw, |
(1, 1) 1060 |
Tan bob helbulon gofid calon, |
(1, 1) 1061 |
Mi ddysgais foddlon fyw; |
(1, 1) 1062 |
Boddlondeb ffydd, a hyder, |
(1, 1) 1063 |
Bydd ddoethder mawr i ddyn, |
(1, 1) 1064 |
A gweddi fywiol, dduwiol, ddiwad, |
(1, 1) 1065 |
Â'r teimlad yn gyttun; |
(1, 1) 1066 |
Os croes yw'n hoes o hyd, |
(1, 1) 1067 |
Gan bwys gofidiau'r byd, |
(1, 1) 1068 |
Boddlonwn yn yr Arglwydd, |
(1, 1) 1069 |
Cawn adael heibio'n ebrwydd |
(1, 1) 1070 |
Y byd a'i dramgwydd drud; |
(1, 1) 1071 |
Cynaliodd Duw mewn gwên, |
(1, 1) 1072 |
Y tlawd a'i blawd a'i 'sten, |
(1, 1) 1073 |
Gweddiwn am gael profiad |
(1, 1) 1074 |
O'i gerydd yn ei gariad, |
(1, 1) 1075 |
A'i ymweliad i ni, Amen. |
|
(Boddlondeb) Ffarwel 'rwan, mi af ar gerdded, |
|
|
(1, 1) 1160 |
Chwychwi wragedd lygredd lun, |
(1, 1) 1161 |
Bydd a'u gwyn am ga'lyn golud; |
(1, 1) 1162 |
Mawr yw'ch rhyfyg yn mhob rhyw, |
(1, 1) 1163 |
Yn rhwyldaidd i'w gyrhaeddyd; |
(1, 1) 1164 |
Cym'rwch siampl ddyfal ddefod, |
(1, 1) 1165 |
O ran mae'ch einioes mewn och! hynod, |
(1, 1) 1166 |
Achwyn dirfawr, i chwi'n darfod. |
(1, 1) 1167 |
'Roedd hon yn ddynes anian ddoniau, |
(1, 1) 1168 |
A gogoniant iddi gyneu, |
(1, 1) 1169 |
Ni fedd hi yma rwan ddimau. |
(1, 1) 1170 |
~ |
(1, 1) 1171 |
Hi aeth o'r byd mae'n chwith i'w bol, |
(1, 1) 1172 |
Am lawn ddigonol giniaw; |
(1, 1) 1173 |
A chan na ddaw hi fyth yn ol, |
(1, 1) 1174 |
Mae'n drwm i Rondol wrando; |
(1, 1) 1175 |
Clywed cwyniad c'leta cynen, |
(1, 1) 1176 |
A llais ehodiad llaes eu haden, |
(1, 1) 1177 |
Taera dim o'r ty i'r domen, |
(1, 1) 1178 |
Chwerw gwaedd y moch a'r gwyddau, |
(1, 1) 1179 |
A'r hwyaid anwyl aeth yn deneu; |
(1, 1) 1180 |
Ow golli Sian, mae gwall i'w 'senau, |
(1, 1) 1181 |
~ |
(1, 1) 1182 |
Mae'r lloiau bach yn brefu'n gaeth, |
(1, 1) 1183 |
A'r buchod llaeth yn beichio, |
(1, 1) 1184 |
A'r gaseg farchnad, goesreg fwyn, |
(1, 1) 1185 |
Mae hynod gwyn gan hono. |
(1, 1) 1186 |
Och! o'r achos ni cha'r ychen, |
(1, 1) 1187 |
Na'r wyn llywaeth, awr yn llawen, |
(1, 1) 1188 |
Ond eu gwarchae heb odid gyrchen, |
(1, 1) 1189 |
Ni waeth pe dryllid yr hen droellau, |
(1, 1) 1190 |
Fe dorwyd calon troad chwiliau, |
(1, 1) 1191 |
Nerth y gweuoedd aeth o'i couau, |
(1, 1) 1192 |
~ |
(1, 1) 1193 |
Oer yw'r aelwyd arw nith, |
(1, 1) 1194 |
Mae dwned chwith am dani; |
(1, 1) 1195 |
I'r cwn a'r cathod cethin floedd, |
(1, 1) 1196 |
Awch wallus oedd ei cholli; |
(1, 1) 1197 |
Ac ni chai llygod byth mo'u llwgu, |
(1, 1) 1198 |
Hi gadwa'r yd i gyd i fraenu |
(1, 1) 1199 |
Heibio'n warthus heb ei werthu, |
(1, 1) 1200 |
A'r tylodion, hwy hi a'a lediai, |
(1, 1) 1201 |
Ni roi hi damaid ond i'w ffrindiau, |
(1, 1) 1202 |
Newydd iddi hi fydd dioddeu, |
|
(Rondol) Wel, dyma 'ran cariad, i ti haner coron, |
|
|
(1, 1) 1660 |
Ieuengctyd ffri, gwmpeini per, |
(1, 1) 1661 |
Sy'n caru ofer bleser blysig, |
(1, 1) 1662 |
Ac yn dilyn unig daith, |
(1, 1) 1663 |
Naturiaeth ry faith ryfyg; |
(1, 1) 1664 |
Ond er fod rhyddid yn eich rhan, |
(1, 1) 1665 |
Chwi ddylech wiwlan gyfan gofio, |
(1, 1) 1666 |
'R erdeiniodd doeth Greawdwr dyn, |
(1, 1) 1667 |
Yn addas derfyn iddo, |
(1, 1) 1668 |
Ond pob creadur eglur hyglod, |
(1, 1) 1669 |
Ych a'r asyn wedi eu gosod, |
(1, 1) 1670 |
Sy'n troi tan wybr gan adnabod, |
(1, 1) 1671 |
Gallu defod, gwell na dyn: |
(1, 1) 1672 |
Mae hyny'n g'wilydd i ni'n gwyn, |
(1, 1) 1673 |
Y moch a'r ceirw, a'r meirch o'u cyrau, |
(1, 1) 1674 |
Ehediad awyr, hyder diau |
(1, 1) 1675 |
A edwyn fanoedd en terfynau, |
(1, 1) 1676 |
Naturiaeth ffrwythau, |
(1, 1) 1677 |
Maent oll i'w nod yn well na ni. |
(1, 1) 1678 |
~ |
(1, 1) 1679 |
Ond ydyw'n dost mor ddrwg yw dyn, |
(1, 1) 1680 |
A Duw ei hun wedi ei wahanu, |
(1, 1) 1681 |
I wneud yn wir, ar nod y nef, |
(1, 1) 1682 |
Ei ewyllys ef a'i allu? |
(1, 1) 1683 |
Gosodwyd bywyd ger ein bron, |
(1, 1) 1684 |
Ac am fyw'n waelion—mae marwolaeth, |
(1, 1) 1685 |
A dewis marw'r y'm ni'n llwyr, |
(1, 1) 1686 |
Ddisynwyr, trwy'r gwasanaeth: |
(1, 1) 1687 |
Dewis pechod, nod anhydyn, |
(1, 1) 1688 |
Sydd a marwolaeth yn ei ddilyn: |
(1, 1) 1689 |
Y siwgwr chwant mae cant yn derbyn, |
(1, 1) 1690 |
Eithaf gwenwyn gwarth a chnawd, |
(1, 1) 1691 |
Ac byth eu cnoi am borthi cnawd. |
(1, 1) 1692 |
Rhyfeddol amlwg mor ddideimlad, |
(1, 1) 1693 |
Wawd anmarchus, ydyw merched, |
(1, 1) 1694 |
A maint sy' o siamplau goleu gweled, |
(1, 1) 1695 |
O rai wnai fyned yn rhy fall |
(1, 1) 1696 |
Mewn gafael Gofid gwendid gwall. |
(1, 1) 1697 |
~ |
(1, 1) 1698 |
Os dianc meibion am ryw hyd, |
(1, 1) 1699 |
'Rych chwi'n y Gofid, o ran gafael, |
(1, 1) 1700 |
Fel llawer meinwen, gangen gu, |
(1, 1) 1701 |
A ga'dd ei nesu'n isel. |
(1, 1) 1702 |
C'wilyddio'ch wyneb, aflwydd chwith, |
(1, 1) 1703 |
Wrth fyn'd i blith pob rhith o ddynion, |
(1, 1) 1704 |
A'ch ffryndiau llon oedd gynt gerllaw, |
(1, 1) 1705 |
Dry gwegil draw yn goegion; |
(1, 1) 1706 |
A'ch hen gariadau, eiriau oerwedd, |
(1, 1) 1707 |
Wrth eich pasio'n codi bysedd, |
(1, 1) 1708 |
A chodlant siarad chwedlau guredd, |
(1, 1) 1709 |
Afiach agwedd, ar eich ol, |
(1, 1) 1710 |
I'ch poeni'n ddwys, a'ch pen yn ddol |
(1, 1) 1711 |
Ac heblaw'r cwbwl, drwbwl driban, |
(1, 1) 1712 |
A faeddo'r-bobl, fe ddaw'r baban; |
(1, 1) 1713 |
Dyna'r ergyd, Gofid gyfan, |
(1, 1) 1714 |
Chwi fyddwch truan, bron eich tranc, |
(1, 1) 1715 |
Mewn galar llwyr am goelio'r llanc. |
(1, 1) 1716 |
~ |
(1, 1) 1717 |
A gwaeth na'i goelio, gwythen gas, |
(1, 1) 1718 |
Os cym'ra'n fas y gwnes ei goesau, |
(1, 1) 1719 |
A'ch gadael chwithau, gwyrthiau gwan, |
(1, 1) 1720 |
I'ch pwnio tan eich poenau. |
(1, 1) 1721 |
Cwyd y plwyf rhag cadw plant, |
(1, 1) 1722 |
A heliant |warrant| helynt oeredd; |
(1, 1) 1723 |
Mae amryw |blag| a Gofid blin |
(1, 1) 1724 |
O drin a dilyn dialedd. |
(1, 1) 1725 |
Hwn yw'r pechod, hynod hanes, |
(1, 1) 1726 |
Dechreu dychryn dyn a dynes; |
(1, 1) 1727 |
Mae amryw leidr a lladrones |
(1, 1) 1728 |
Oddiwrth y |business| yma'n bod, |
(1, 1) 1729 |
Mewn gwallau'r clwyf yn colli clod; |
(1, 1) 1730 |
Ac amryw'n dilyn cam-dystiolaeth, |
(1, 1) 1731 |
Hyll afrywddaidd, a llofruddiaeth, |
(1, 1) 1732 |
I geisio cuddio'u llygredigaeth, |
(1, 1) 1733 |
Anian bariaeth yn y byd, |
(1, 1) 1734 |
Er na phery hyny o hyd, |
(1, 1) 1735 |
Meddyliwch oll o ddilyn chwant, |
(1, 1) 1736 |
Os rhai a ddihangant yn ddihangol, |
(1, 1) 1737 |
Rhaid i'r sawl sy'n tramwy'r farn |
(1, 1) 1738 |
Agweddu barn drag'wyddol. |
(1, 1) 1739 |
Nid ydyw gwatwar, gleber gwlad, |
(1, 1) 1740 |
Na dim siarad ond amserol, |
(1, 1) 1741 |
Wrth waedd cydwybod ddrwg e' rhan |
(1, 1) 1742 |
A phoenau anorphenol. |
(1, 1) 1743 |
Gan hyny ieuenctid ahyddid rhodus, |
(1, 1) 1744 |
Meibion, merched, nid anmharchus, |
(1, 1) 1745 |
I chwi ystyried yn dosturi, |
(1, 1) 1746 |
Wyliadwrus waelod iawn, |
(1, 1) 1747 |
Rhag myn'd i'r llid o'r mwynder llawn; |
(1, 1) 1748 |
Ni cheir y melus heb y chwerw; |
(1, 1) 1749 |
Dull doe'n ol nid eill dyn alw. |
(1, 1) 1750 |
Ceisiwn heddwch cyson heddyw, |
(1, 1) 1751 |
Y fory'n feirw gallwn fod, |
(1, 1) 1752 |
Heb obaith newid byth y nod. |
|
(Pleser) Wel, cofiwch hyn o ganiad ofer, |
|
|
(1, 1) 2216 |
Dyn anwyd i flinder dan boender dibaid', |
(1, 1) 2217 |
Fel yr 'heda'r wreichionen i'r nen ar ei naid: |
(1, 1) 2218 |
Gwagedd o wagedd, a llygredd sy'n llym, |
(1, 1) 2219 |
A'r byd a'i holl dreigliad yn dwad i'r dim. |
(1, 1) 2220 |
~ |
(1, 1) 2221 |
O'r pedair elfenau fe greai Dduw'n grych, |
(1, 1) 2222 |
Fyd, a phob creadur a welir yn wych; |
(1, 1) 2223 |
Felly mae diwedd holl agwedd byd llym, |
(1, 1) 2224 |
Yn rhedeg i'w elfen, a'i ddyben i ddim. |
(1, 1) 2225 |
~ |
(1, 1) 2226 |
O! fel mae troell natur tra eglur yn troi, |
(1, 1) 2227 |
Damweiniau trwy arfaeth rhagluniaeth'n ymgloi; |
(1, 1) 2228 |
Fel olwyn mewn olwyn manylaidd ei grym, |
(1, 1) 2229 |
A'u troion oyfanedd yn diwedd i'r dim. |
(1, 1) 2230 |
~ |
(1, 1) 2231 |
Mae son am hen dadau fel blodau fu o'r blaen, |
(1, 1) 2232 |
Yn gefnog ardderchog, wyr enwog o raen; |
(1, 1) 2233 |
Y rhei'ny trwy rinwedd oedd ryfedd o rym, |
(1, 1) 2234 |
Er maint eu gogoniant hwy ddaethant i'r dim. |
(1, 1) 2235 |
~ |
(1, 1) 2236 |
Bu'n hynod frenhinoedd â'u bloedd yn dra blin, |
(1, 1) 2237 |
Trwy rwysg a grymusder mewn trawsder yn trin |
(1, 1) 2238 |
Yn filain ryfelwyr trallodwyr tra llym, |
(1, 1) 2239 |
A'u rhyfyg a'u mawredd yn diwedd i'r dim. |
(1, 1) 2240 |
~ |
(1, 1) 2241 |
Er cryfder a balchder hoff wychder byd ffol, |
(1, 1) 2242 |
Ni welir fawr elw'r dydd heddyw ar eu hol: |
(1, 1) 2243 |
Monachlogydd a chestyll gorchestol eu grym, |
(1, 1) 2244 |
Er cymaint y gorchwyl hwy gyrchwyd i ddim. |
(1, 1) 2245 |
~ |
(1, 1) 2246 |
Nid oes i ddyn yma un rhodfa barhaus, |
(1, 1) 2247 |
Ond poen a gofidiau trwy foddau trofaus: |
(1, 1) 2248 |
Rhaid i ni gael cryfdwr Cregwdwr teg rym, |
(1, 1) 2249 |
A greodd y cyfan yn ddoethlan o ddim. |
(1, 1) 2250 |
~ |
(1, 1) 2251 |
Rhaid felly'n cael ninau â'n c'lonau'n un clais, |
(1, 1) 2252 |
'N afluniaidd wael anian wag druan rwyg drais; |
(1, 1) 2253 |
Ar dyfroedd diafraid o'n llygaid yn llym, |
(1, 1) 2254 |
Cawn Ysbryd Duw'n gweithio pan ddelom i ddim. |
(1, 1) 2255 |
~ |
(1, 1) 2256 |
Tra f'o dyn yn gweled ei weithred yn wych, |
(1, 1) 2257 |
A'i serch arno'i hunan mewn anian ddinych, |
(1, 1) 2258 |
Ni ddichon gael bywyd o'r Ysbryd a'i rym, |
(1, 1) 2259 |
Nes byddo i'w ddyn pechod ef ddarfod i ddim. |
(1, 1) 2260 |
~ |
(1, 1) 2261 |
I'r dim fel plant bychain, heb bechod na chas, |
(1, 1) 2262 |
Yn dlodion drylliedig, sychedig am ras, |
(1, 1) 2263 |
I adnabod a chredu gair Iesu'n gu rym, |
(1, 1) 2264 |
Amen yn dragywydd, ni dderfydd ef ddim. |