Absalom Fy Mab

Cue-sheet for Cŵsi

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(1, 0) 280 Clywaf ac ufuddhaf.
(Joab) {Gan daflu ei law o amgylch y neuadd.}
 
(1, 0) 322 Sefwch! Dim cam ymhellach heb roi'r gair!
(Beneia) {O'r golwg.}
 
(1, 0) 326 Ewch ymlaen eich dau.
(Beneia) {Yn dyrchafu ei law dde mewn saliwt wrth ganfod Joab.}
 
(Abisâg) Y Brenin nid ysgogir byth...
(2, 2) 1585 Brad! Brad!! Brad!!!
 
(Joab) Pa beth sy'n bod? Pa beth a wnaeth gwŷr Hebron?
(2, 2) 1589 Cyhoeddi Absalom yn Frenin Jwda.
(Joab) Yr wyt ti'n drysu. Ni chydsyniai byth.
 
(Joab) Yr wyt ti'n drysu. Ni chydsyniai byth.
(2, 2) 1591 Mae Absalom eisoes yn teyrnasu yn Hebron,
(2, 2) 1592 Calon gwŷr Jwda a aeth ar ei ôl.
(Dafydd) Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog?
 
(Dafydd) Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog?
(2, 2) 1594 Barn Duw a'i hyso! Ef yw tad y drwg.
(2, 2) 1595 Bradwr! Rhagrithiwr! Cythraul o lwynog ffals!
(Hŵsai) Onid yw am ddychwelyd i Gaersalem?
 
(Hŵsai) Onid yw am ddychwelyd i Gaersalem?
(2, 2) 1597 O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw.
(Hŵsai) Caiff roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth.
 
(Hŵsai) Caiff roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth.
(2, 2) 1599 Ar flaen eu byddin y daw Ahitoffel,
(2, 2) 1600 Tan gario baner teyrn-fradwriaeth Absalom.
 
(Joab) Ar flaen eu byddin? A chyrhaeddant heddiw?
(2, 2) 1604 Rhedais bob cam... Cyrhaeddant hwy 'mhen dwyawr.
(Joab) Estyn fy arfau... Cân y Gloch Alarwm!
 
(3, 2) 2651 Buddugoliaeth!
 
(3, 2) 2655 Gwrando fy nghenadwri innau, arglwydd;
(3, 2) 2656 Myfi a anfonwyd gyntaf... Dial gwaedlyd
(3, 2) 2657 Heddiw a fu ar bawb o'r bradwyr budron.
(3, 2) 2658 Miloedd o'u cyrff fydd 'fory'n fwyd i frain
(3, 2) 2659 Tan farn y duwiau..
(Dafydd) {Yn ddiamynedd.}
 
(3, 2) 2663 Fel hyn... a hyn...a hyn, boed i bob bradwr
(3, 2) 2664 A godo i'th erbyn... Felly y bu i'r llanc
(3, 2) 2665 Sydd heno'n gelain gegrwth...
(Dafydd) O, fy mab!
 
(3, 2) 2678 Pob parch i'w dad. Thraethais-i ddim ond y gwir
(3, 2) 2679 Am ddiwedd bradwr.
(Beneia) Sut y lladdwyd ef?
 
(Beneia) Sut y lladdwyd ef?
(3, 2) 2681 Yn awr y fuddugoliaeth, a'n gelynion
(3, 2) 2682 Yn rhusio bendramwnwgwl drwy'r coed,
(3, 2) 2683 Safodd fy Meistr i dynnu saeth o'i glun
(3, 2) 2684 A golchi ei glwyf; a daeth picellwr ato
(3, 2) 2685 Gan ddweud mewn arswyd: "Fy Nghadfridog Joab,
(3, 2) 2686 Ganllath oddi yma gwelais olygfa syn—
(3, 2) 2687 Mae Absalom yn hongian wrth ei hirwallt
(3, 2) 2688 Tan dewfrig derwen, a'i anifail mud
(3, 2) 2689 Gerllaw'n ei ffroeni, wedi colli ei farchog
(3, 2) 2690 Oddi ar ei gefn wrth rusio o dan y gangen...
(3, 2) 2691 Mae'r llanc yn fyw!... "O, ynfyd!" medd fy Meistr,
(3, 2) 2692 ~
(3, 2) 2693 "Paham na threwaist ef ac ennill gennyf
(3, 2) 2694 Wregys anrhydedd a deg o siclau arian?"
(3, 2) 2695 ~
(3, 2) 2696 "Na," meddai yntau, "cofia air y Brenin!
(3, 2) 2697 Er mil o siclau byth nis lladdwn ef."
(3, 2) 2698 ~
(3, 2) 2699 Yna'r Cadfridog, o gawell arfau'r gŵr
(3, 2) 2700 A gipiodd yn ei lid dair o'i bicellau
(3, 2) 2701 A gwaeddodd arnom, "Hai! Dilynwch fi!"
(3, 2) 2702 ~
(3, 2) 2703 Ac â'r tair picell, ac Absalom eto'n fyw
(3, 2) 2704 Yn hongian felly, brathodd ef trwy'i galon.
(3, 2) 2705 A gwaeddodd ar ei lanciau oll i'w daro
(3, 2) 2706 A'i roi o'i boen... Felly y trengodd ef.
(3, 2) 2707 ~
(3, 2) 2708 A chan nad oedd ei gorff dan yr holl glwyfau
(3, 2) 2709 Yn gymwys i'w ddwyn adref at ei dad,
(3, 2) 2710 Fe'i claddwyd mewn ffos ddofn o dan y coed,
(3, 2) 2711 A gosod arno garnedd gerrig fawr;
(3, 2) 2712 Ac felly y darfyddo am bob bradwr!
(Dafydd) O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab!
 
(Beneia) Dos, galw hi yma ar frys,—a Solomon!
(3, 2) 2720 'Rwy'n deall, Gapten. Gwnaf yn ôl dy air.