| (Y Criwr) Pell ac agos yma dewch, | |
| (Pobun) Yr ydych yn edrych yn union fel estroniaid i mi. | |
| (0, 4) 362 | Yr argen fawr, fy nghâr Pobun, a fynnech chwi'n gyrru ni adref eto? |
| (Car Tew) Ni bydd hynny ddim mor hawdd i chwi, myn gafr, achos y mae'ch cogydd yn un mor dda, a'r gwin heblaw hynny yn twymo'r gwaed. | |
| (Meistres Pobun) Ni wn i ddim beth a all fod wedi digwydd iddo. | |
| (0, 4) 394 | Ar f'enaid, Pobun, fy nghâr, a ddaeth iselder ysbryd trosoch? |
| (0, 4) 395 | Ac onid do, yna pa aflwydd sydd arnoch? |
| (Car Tew) Mi wn. | |
| (Morwyn Ieuanc 2) [Mi glywais sôn fod maen i'w gael y tu mewn i'r wennol, a bod y meddygon mawr yn ei ddefnyddio, Chelidonius y gelwir ef.] | |
| (0, 4) 404 | [Nage, Calcedon! |
| (0, 4) 405 | Mynych y clywais sôn amdano. |
| (0, 4) 406 | Y mae'n fawr ei effaith yn erbyn iselder ysbryd.] |
| (Morwyn Ieuanc 3) 'Rwy'n meddwl fy hun mai drwy gydymdeimlad y bydd raid ei wella. | |
| (0, 4) 458 | Gwae fi, gwae fi, O Wener, gwae fyfi, |
| (0, 4) 459 | O Wener, |
| (0, 4) 460 | E weli faint fy nolur; |
| (0, 4) 461 | Gwae fi! |
| (0, 4) 462 | Pe byddai eira mân |
| (0, 4) 463 | Yn gorwedd ar fy mynwes |
| (0, 4) 464 | Fe'i cadwai'r galon dân |
| (0, 4) 465 | O hyd i gyd yn gynnes, |
| (0, 4) 466 | O gwrando, Wener lân! |
| (Pobun) Ond pa sŵn clychau yw hwnyna? | |
| (Pobun) Dywed, fy nghyfaill, pwy sy'n galw "Pobun"' mor groch? | |
| (0, 4) 503 | Atsain ein canu ni sy'n rhedeg yn eich clustiau, efallai. |
| (Pobun) Na, na! | |
| (Car Tew) Ni chlywaf i ddim llef. | |
| (0, 4) 515 | Nac ychwaith un adlais gwan. |
| (Cydymaith) {Gan fynd i ymyl Pobun.} | |
| (Car Tew) Nid am adael y mae'r sôn—cywilydd i mi fyddai'ch gadael mewn trybini, | |
| (0, 7) 693 | Digwydded i chwi ai da ai drwg, cymerwn ein dau ein rhan gyda chwi. |
| (Car Tew) [Cymerwn, fel y dywedwyd, ynwir! | |
| (Car Tew) [Nid wrth glustiau byddar yr oeddych yn llefaru.] | |
| (0, 7) 711 | [Ha, nage'n wir, myn fy ffydd!] |
| (Pobun) [Ni welir monof byth yn f'ôl.] | |
| (Car Tew) H'm, gâr! | |
| (0, 7) 719 | Ie, feddyliwn i, trueni am hynny. |
| (Car Tew) Felly'r ydych yn barnu megis finnau? | |
| (Pobun) Fy nghâr, oni ddeui di gyda mi? | |
| (0, 7) 744 | Duw annwyl! |
| (0, 7) 745 | Y mae cwlwm gwythi yn fy nhroed, peth blin gynddeiriog, Pobun—bydd yn digwydd i mi'n sydyn iawn. |
| (Car Tew) [{Gan aros ennyd a dywedyd dros ei ysgwydd.} | |
| (Pobun) Addawsant lawer i mi'n rhwydd, ond wedi'r cwbl, torri eu gair.] | |
| (0, 7) 755 | [{Gan droi unwaith eto at Pobun.} |
| (0, 7) 756 | Nid yw'n arferiad gofyn i bobl fynd i ganlyn rhywun ar daith yn y fath fodd; nid yw'r fath beth yn gymwys nac yn iawn, yn ôl fy meddwl i. |
| (0, 7) 757 | Y mae gennyt ddigon o daeogion a chennyt hawl i alw arnynt, ond y mae mwy o werth na hynny ar d'annwyl geraint.] |