Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Rhagymadrodd
Y Criwr
Pell ac agos yma dewch,
Hanes Pobun heddiw cewch;
Dowch ynghyd, dowch ynghyd,
Bawb i gyd, mae'n bryd,
mae'n bryd.


Y Prolog


Y Criwr
Gostegwch bawb yr ennyd hon
I wrando'r hyn a roir ger bron!
Rhyw fath ar chwarae moesol yw,
Sef "Galwad Pobun ger bron Duw,"
Cewch weled drwyddo ar ei hyd
Y modd y byddwn yn y byd,
A'n hoedl a'n llafur am y sala;
Bydd glir y chwedl a theg ei gwala;
Ar ddull y chwarae, gwerth a fydd,
A thano hefyd llawer sydd
A'ch dwg i weled a chymhwyso
I chwi'r ddysgeidiaeth a gynhwyso.

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14