| (Y Criwr) Pell ac agos yma dewch, | |
| (Pobun) Croeso i chwi bawb, a diolch i chwi heno am roddi arnaf yr anrhydedd olaf. | |
| (0, 4) 341 | Duw fo'n gwarchod, y câr Pobun, beth yw rhyw gyfarchiad fel yna? |
| (0, 4) 342 | Beth sydd o'i le arnat? |
| (Meistres Pobun) Pa beth sydd arnat, beth sy'n dy flino? | |
| (Car Tenau) Yr argen fawr, fy nghâr Pobun, a fynnech chwi'n gyrru ni adref eto? | |
| (0, 4) 363 | Ni bydd hynny ddim mor hawdd i chwi, myn gafr, achos y mae'ch cogydd yn un mor dda, a'r gwin heblaw hynny yn twymo'r gwaed. |
| (0, 4) 364 | 'Rwyf i'n ddigon cartrefol lle'r wyf. |
| (Pobun) Ie, ie,... dim ond... ond yr oedd yn fy meddwl i gynneu, pan ddaethoch i mewn yma gyntaf, y gallswn eich prynu i gyd a'ch gwerthu wedi hynny hefyd, ac na buasai hynny'n fwy o beth i mi na phe bawn yn torri f'ewin. | |
| (Gwahoddedig 1) Beth a wnawn ni o ryw siarad cras fel hyn? | |
| (0, 4) 367 | Ni bydd ef ddim yn gyffredin yn siarad fel hyn. |
| (Meistres Pobun) A saif y gair amdanaf innau hefyd? | |
| (Car Tenau) Ac onid do, yna pa aflwydd sydd arnoch? | |
| (0, 4) 396 | Mi wn. |
| (0, 4) 397 | Y tu ôl i'r talcen y mae'r drwg, rhyw sychter yn yr ymennydd. |
| (0, 4) 398 | Mi welais yr un helynt ar fy nhad fy hun, [fe fyddai'n aml fel hyn]. |
| (0, 4) 399 | Rhaid iti yfed llwnc er mwyn i'r gwin ireiddio d'ymennydd di. |
| (0, 4) 400 | Hwdiwch, hogiau! |
| (0, 4) 401 | Poethwch y gwin nes bod yr angerdd yn codi i'r awyr, a dodwch sinamwn a sinsir ynddo. |
| (Morwyn Ieuanc 2) [Mi glywais sôn fod maen i'w gael y tu mewn i'r wennol, a bod y meddygon mawr yn ei ddefnyddio, Chelidonius y gelwir ef.] | |
| (Pobun) Na boed eisiau hir grefu arnoch, tyrd, dyro inni gân, fy annwyl gâr. | |
| (0, 4) 455 | [Fy nghyfaill tenau, gwae ni, gwae ni, cawn glywed ei gân am yr eira oer!] |
| (Car Tenau) {Yn canu.} | |
| (Pobun) ['Rwy'n erfyn na sonioch ddim mwy am y peth—ni chlywaf mono mwy, pob peth yn dda.] | |
| (0, 4) 485 | O ryw ddrwg yn y gwaed y cyfyd peth fel hyn. |
| (0, 4) 486 | Mi baraf dwymo cwpanaid o win eto i chwi. |
| (Pobun) Llawer o ddiolch, fy nghâr, ond gadewch hynny. | |
| (Meistres Pobun) Ni chlywaf i ddim sain. | |
| (0, 4) 514 | Ni chlywaf i ddim llef. |
| (Car Tenau) Nac ychwaith un adlais gwan. | |
| (Pobun) "Mae gwaed yn dewach na dŵr"—fe'i profir gennych heddiw'n llwyr,] a chwithau, yn fy nghyfyngder, yn rhoi i mi gymorth llaw a genau. | |
| (0, 7) 688 | Gan bwyll, fy nghâr Pobun. |
| (0, 7) 689 | Os gwrandewi arnaf i, dim ond un gair—gan bwyll! |
| (Pobun) Ni adewch chwi monof ychwaith— | |
| (Pobun) Ni adewch chwi monof ychwaith— | |
| (0, 7) 691 | Dim ond gan bwyll. |
| (0, 7) 692 | Nid am adael y mae'r sôn—cywilydd i mi fyddai'ch gadael mewn trybini, |
| (Car Tenau) Digwydded i chwi ai da ai drwg, cymerwn ein dau ein rhan gyda chwi. | |
| (Car Tenau) Digwydded i chwi ai da ai drwg, cymerwn ein dau ein rhan gyda chwi. | |
| (0, 7) 694 | [Cymerwn, fel y dywedwyd, ynwir! |
| (0, 7) 695 | Gwelwch ein bod yn ffyddlon i chwi.] |
| (Pobun) O, llawer o ddiolch i chwi, fy ngheraint. | |
| (Pobun) O, llawer o ddiolch i chwi, fy ngheraint. | |
| (0, 7) 697 | Perthynasau ydym ni! |
| (Pobun) Fe welsoch ddyfod cennad ataf ar orchymyn brenin galluog. | |
| (Pobun) Fe welsoch ddyfod cennad ataf ar orchymyn brenin galluog. | |
| (0, 7) 699 | [Do... |
| (0, 7) 700 | Mi wn, Pobun... |
| (0, 7) 701 | Felly y bu, ond nid wyf i'n deall y cwbl!] |
| (Pobun) Gorchmynnodd i mi gymryd taith. | |
| (Pobun) Gorchmynnodd i mi gymryd taith. | |
| (0, 7) 703 | [Ie, fel y dywedwyd—] |
| (Pobun) [O'r daith hon...] | |
| (Pobun) [O'r daith hon...] | |
| (0, 7) 705 | [Ie, fel y dywedwyd eisoes, "Mae gwaed yn dewach na dŵr."] |
| (Pobun) O'r daith hon, mi wn yn dda, ni ddof i byth yn f'ôl. | |
| (Pobun) O'r daith hon, mi wn yn dda, ni ddof i byth yn f'ôl. | |
| (0, 7) 707 | [Ha, byth? |
| (0, 7) 708 | Yn siwr, lle ni bo dim byd, yno bydd hawl y brenin wedi colli.] |
| (Pobun) [Fy ngheraint, a glywsoch chwi pa beth a ddywedais?] | |
| (Pobun) [Fy ngheraint, a glywsoch chwi pa beth a ddywedais?] | |
| (0, 7) 710 | [Nid wrth glustiau byddar yr oeddych yn llefaru.] |
| (Car Tenau) [Ha, nage'n wir, myn fy ffydd!] | |
| (Pobun) [Ni welir monof byth yn f'ôl.] | |
| (0, 7) 713 | [Ai sicr gennych i chwi ddeall y gennad yn iawn?] |
| (Pobun) [Myfi?] | |
| (Pobun) [Myfi?] | |
| (0, 7) 715 | [Y geiriau a'u hystyr, a ddeallsoch chwi'r cwbl yn iawn?] |
| (Pobun) [A ddarfu i mi?] | |
| (Pobun) [A ddarfu i mi?] | |
| (0, 7) 717 | Hynny yw, meddaf i—rhyw ymwelwr heb ei eisiau ydoedd? |
| (0, 7) 718 | H'm, gâr! |
| (Car Tenau) Ie, feddyliwn i, trueni am hynny. | |
| (Car Tenau) Ie, feddyliwn i, trueni am hynny. | |
| (0, 7) 720 | Felly'r ydych yn barnu megis finnau? |
| (0, 7) 721 | Ie, fel y dywedwyd, ie, Duw'n rhwydd gyda thi, fy nghâr, Pobun, dyna i chwi'r cwbl sy gennyf i i'w ddywedyd. |
| (Pobun) Fy ngheraint, aroswch, gwrandewch arnaf! | |
| (Pobun) Fy ngheraint, aroswch, gwrandewch arnaf! | |
| (0, 7) 723 | [Ond odid nad oes i ti ryw ddymuniad arall? |
| (0, 7) 724 | Siarad yn eglur, y câr.] |
| (Pobun) Bydd raid i mi roddi cyfrif yno, [ac y mae gelyn i mi, a bydd hwnnw ar fy ffordd yn rymus iawn o hyd. | |
| (Pobun) O, gwrandewch arnaf!] | |
| (0, 7) 727 | Pa fath gyfrif, dywed? |
| (Pobun) Cyfrif o'm holl weithredoedd ar y ddaear. | |
| (Pobun) [Y modd y treuliais fy nyddiau, a pha beth a wneuthum yn fy nigofaint, ar hyd y flwyddyn, ddydd a nos;] am hynny, er mwyn Crist, da chwi, rhowch gymorth i mi amddiffyn f'achos. | |
| (0, 7) 730 | [Beth? |
| (0, 7) 731 | Y tu draw? |
| (0, 7) 732 | Ai dyna fel y mae hi? |
| (0, 7) 733 | Na, Pobun, nid af i yno, ac ni'm cei i i'th ganlyn! |
| (0, 7) 734 | Byddai well gennyf fod mewn tywyllwch ar fara a dŵr am ddeng mlynedd!] |
| (Pobun) [Och na bawn heb fy ngeni! | |
| (Pobun) Ni byddaf ddedwydd byth mwy, os gadewch fi fel hyn!] | |
| (0, 7) 737 | Hai, ŵr! |
| (0, 7) 738 | Beth sydd? |
| (0, 7) 739 | Cymer galon, ddyn, a phaid â dechrau cwyno! |
| (0, 7) 740 | Ond rhaid iti adael i mi ddywedyd hyn—ni ddygi di monof i unwaith ar hyd y llwybr yna. |
| (Pobun) {Wrth y Car Tenau.} | |
| (Car Tenau) Y mae cwlwm gwythi yn fy nhroed, peth blin gynddeiriog, Pobun—bydd yn digwydd i mi'n sydyn iawn. | |
| (0, 7) 746 | [{Gan aros ennyd a dywedyd dros ei ysgwydd.} |
| (0, 7) 747 | Ni elli di mo'n hudo ni, gad hynny heibio, ond y mae i mi enethig lân adref sy'n awyddus dros ben am deithio. |
| (0, 7) 748 | Pe bai honno wrth dy fodd, fe'i rhoddwn iti o ewyllys da. |
| (0, 7) 749 | Efallai yr ai hi gyda thi i'r daith.] |
| (Pobun) [Na, dangos i mi beth yn wir yw dy feddwl, a ddoi di gyda mi ai aros yma, dyna'r cwbl y mynnwn ei wybod.] | |
| (Pobun) [Na, dangos i mi beth yn wir yw dy feddwl, a ddoi di gyda mi ai aros yma, dyna'r cwbl y mynnwn ei wybod.] | |
| (0, 7) 751 | Aros yma, a dymuno pob da i tithau! |