| (Beti) Dyma'r bywyd yntê, Doris? | |
| (Doris) Ia? | |
| (2, 0) 312 | Ia, be? | 
| (Doris) {Ochenaid.} | |
| (Doris) Ia, meistr? | |
| (2, 0) 315 | Dyna welliant. | 
| (Doris) Be dach chi isio? | |
| (Doris) Be dach chi isio? | |
| (2, 0) 317 | Am bedwar munud union oeddet ti fod i ferwi'r ŵy 'ma. | 
| (Doris) Dyna wnes i. | |
| (Doris) Dyna wnes i. | |
| (2, 0) 319 | Paid â deud celwydd. | 
| (2, 0) 320 | Mae'n amlwg i mi bod yr ŵy yma wedi bod yn y dŵr am beth bynnag bedwar munud a hanner. | 
| (2, 0) 321 | Dos â fo o 'ma a gwna un arall! | 
| (Doris) O-ce. | |
| (Beti) Be ga' i 'neud i chi, Charles? | |
| (2, 0) 329 | Mae yna ormod o lwch yn yr ystafell yma ac mae'r ffenestri angen eu glanhau. | 
| (2, 0) 330 | Chi sydd yn gyfrifol fod y gweision yn gwneud eu gwaith yn iawn a dach chi ddim yn gwneud eich job. | 
| (Beti) Ond Charles... | |
| (Beti) Ond Charles... | |
| (2, 0) 332 | Dwi ddim isio esgusion. | 
| (2, 0) 333 | Gewch chi fynd rŵan. | 
| (Doris) Dim ond dwy funud mae o wedi bod! | |
| (Doris) Dim ond dwy funud mae o wedi bod! | |
| (2, 0) 337 | Mae'r te yma yn oer. | 
| (2, 0) 338 | Cer i wneud peth ffres! | 
| (Doris) Ar y ffordd allan gyda'r tebot a'i chefn at Charles.} | |
| (Ben) Ia, syr? | |
| (2, 0) 346 | Mi fydda i isio'r car mewn hanner awr. | 
| (Ben) Syr! | |
| (Ben) {Yn mynd allan.} | |
| (2, 0) 354 | Helo David, sut ydach chi? | 
| (2, 0) 356 | Wrth gwrs mi wna' i ei ddarllen o'n syth. | 
| (2, 0) 357 | Wnewch chi anfon o yma? | 
| (2, 0) 359 | Diolch yn fawr. | 
| (2, 0) 360 | Hwyl. | 
| (Ben) Syr! | |
| (Ben) Syr! | |
| (2, 0) 365 | Mae yna adroddiad pwysig ar y ffordd. | 
| (2, 0) 366 | Tyrd â fo i mi yn syth pan y daw o. | 
| (2, 0) 367 | Mi ddyle fod yma mewn tua dau funud. | 
| (Ben) Wrth gwrs, syr. | |
| (Doris) Ydi hwnna'n well! | |
| (2, 0) 373 | Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro. | 
| (Doris) Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn. | |
| (Ben) Newydd gyrraedd, meistr. | |
| (2, 0) 382 | Rargian fawr! | 
| (2, 0) 384 | Car mewn pum munud. | 
| (Ben) Syr! | |
| (Ben) {Ben yn mynd allan.} | |
| (2, 0) 388 | 'Rydw i ar frys. | 
| (2, 0) 389 | Tyrd â fy sgidie du newydd i mi. | 
| (Doris) Iawn. | |
| (Doris) {Yn mynd allan.} | |
| (2, 0) 393 | Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd. | 
| (Beti) Wrth gwrs, Charles. | |
| (Beti) Wrth gwrs, Charles. | |
| (2, 0) 397 | Rho nhw ar fy nhraed i. | 
| (2, 0) 398 | Rydw isio cario ymlaen i ddarllen. | 
| (Doris) Be nesa! | |
| (Doris) {Rhoi yr esgidiau am ei draed.} | |
| (2, 0) 403 | Rhowch y tei ymlaen. | 
| (2, 0) 406 | Dwi ddim yn gallu darllen, Beti. | 
| (2, 0) 407 | Mae'ch breichiau chi ymhob man. | 
| (Beti) Sori, Charles. | |
| (Doris) 'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr. | |
| (2, 0) 414 | Tyrd a fo yma 'ta. | 
| (2, 0) 417 | Fedri di ddim gweld, mae 'nwylo i yn llawn! | 
| (2, 0) 418 | Bwyda fi! | 
| (Doris) Wel, agorwch eich ceg 'ta. | |
| (2, 0) 424 | Bowler! | 
| (Beti) Pardwn. | |
| (Beti) Pardwn. | |
| (2, 0) 426 | Yr het bowler. | 
| (2, 0) 427 | Estynnwch hi! | 
| (2, 0) 430 | Rhowch hi ar fy mhen. | 
| (Ben) Car yn barod syr! | |
| (Beti) Gwrandwch arna' i, Charles. | |
| (2, 0) 505 | Allan! | 
| (Beti) Ond... | |
| (Beti) Ond... | |
| (2, 0) 507 | Allan ddeudais i. | 
| (2, 0) 508 | Doris cliria'r bwrdd. | 
| (Doris) {Wrthi ei hun.} | |
| (2, 0) 514 | Reit, cym on ferchaid. | 
| (2, 0) 515 | Mae yna ddigon o ystafelloedd eraill yn y tŷ. | 
| (2, 0) 516 | (Rhoi eu paneidiau yn eu dwylo a'u hebrwng at y drws. | 
| (2, 0) 517 | Beti yn dilyn) | 
| (2, 0) 519 | Rydw i yn disgwyl dau ffrind. | 
| (2, 0) 520 | Dwedwch wrth Doris am ddod â nhw i mewn yma yn syth. | 
| (Beti) Wrth gwrs, Charles. | |
| (Beti) Yn mynd allan.} | |
| (2, 0) 526 | Hylo, Seimon. | 
| (2, 0) 527 | Hylo, Emlyn. | 
| (2, 0) 528 | Dowch i eistedd. | 
| (2, 0) 531 | Diolch Doris. | 
| (2, 0) 533 | Rydan ni yn lwcus iawn o gael Doris. | 
| (2, 0) 534 | Halen y ddaear wyddoch chi. | 
| (Doris) {Wrthi ei hun.} | |
| (Doris) {Yn mynd allan.} | |
| (2, 0) 538 | Eisteddwch, gyfeillion. | 
| (Emlyn) Diolch C.J. | |
| (2, 0) 544 | Diolch, gyfeillion. | 
| (Emlyn) Be' ydi'r gyfrinach G.J.? | |
| (Emlyn) Be' ydi'r gyfrinach G.J.? | |
| (2, 0) 546 | O, mi fuaswn i yn deud ─ bod yn garedig wrth bobol. | 
| (Seimon) Mae hynny yn siŵr o fod yn wir. | |
| (Seimon) Mae hynny yn siŵr o fod yn wir. | |
| (2, 0) 548 | Reit gyfeillion, beth am drafod busnes. | 
| (Emlyn) Rydan ni yn gwrando C.J. | |
| (2, 0) 551 | Dyma blan o'r gwesty newydd, Bryn Awelon, fydd yn cael ei adeiladu y flwyddyn nesaf ar gyrion y dref. | 
| (Seimon) Mae o'n edrych yn broject go fawr C.J. | |
| (Seimon) Mae o'n edrych yn broject go fawr C.J. | |
| (2, 0) 553 | Tua miliwn a hanner. | 
| (Emlyn) 'Rargian fawr! | |
| (Emlyn) Mi fydd eich ffî chi am y cynllun yma yn un sylweddol. | |
| (2, 0) 556 | Wel, mae'n rhaid iddyn nhw dalu am y gorau. | 
| (Seimon) Rhaid yn wir. | |
| (Emlyn) Fedrwn ni gyfrannu i lwyddiant y fenter C.J.? | |
| (2, 0) 559 | Wrth gwrs, wrth gwrs. | 
| (2, 0) 560 | Dyna pam fy mod i wedi eich gwadd chi yma heddiw. | 
| (2, 0) 561 | Dach chi'n gwerthu dodrefn da, Emlyn, a chitha garpedi gwych, Seimon. | 
| (Seimon) Oes posib rhoi gair i mewn drosom ni? | |
| (Seimon) Oes posib rhoi gair i mewn drosom ni? | |
| (2, 0) 563 | Wrth gwrs, ond mae yna un broblem bach. | 
| (Emlyn) Be ydi honno C.J.? | |
| (Emlyn) Be ydi honno C.J.? | |
| (2, 0) 565 | Meddwl bod hi'n bryd i ni feddwl am newid y dodrefn a'r carpedi yn yr hen dŷ yma. | 
| (Seimon) Say no more C.J. | |
| (Emlyn) Ie, wir. | |
| (2, 0) 568 | Rydw i'n falch ein bod yn deall ein gilydd ffrindiau. | 
| (2, 0) 569 | Rŵan, rwy'n cynnig ein bod yn cael ychydig o fy ngwin cartref i ddathlu, | 
| (2, 0) 571 | Rydw i wedi cael hwyl ar wneud hwn. | 
| (2, 0) 572 | Fy un gorau i ers talwm. | 
| (Pawb) I Bryn Awelon. | |
| (Pawb) I Bryn Awelon. | |
| (2, 0) 575 | 'Dych chi ddim wedi cyfarfod y wraig yn naddo? | 
| (2, 0) 576 | Mi af i'w nôl hi, mi fydd wrth ei bodd eich cyfarfod chi. | 
| (Seimon) Syniad da. | |
| (2, 0) 585 | Rwyf am i chi gyfarfod dau gyfaill i mi, cariad. | 
| (2, 0) 586 | Gyfeillion, dyma fy annwyl wraig, Beti. | 
| (2, 0) 587 | Beti, dyma Emlyn Prytherch a Seimon Pyrs. | 
| (Beti) {Yn ddi-wên.} | |
| (Beti) Falch o'ch cyfarfod chi. | |
| (2, 0) 590 | Mae Beti a fi wedi bod yn briod ers ugain mlynedd. | 
| (2, 0) 591 | Pob un ohonyn nhw y tu hwnt o hapus. | 
| (2, 0) 592 | Yntê, cariad? | 
| (Beti) {Heb wenu.} | |
| (Beti) Ia, Charles. | |
| (2, 0) 595 | Gyfeillion, mae'ch gwydrau chi'n wag. | 
| (2, 0) 596 | Rhaid i chi gael mwy. | 
| (Emlyn) Na, dim diolch C.J. | |
| (Seimon) Rhaid ini fynd. | |
| (2, 0) 599 | Twt lol, mae gennych chi ddigon o amser am wydriad bach arall. | 
| (Beti) Dach chi'n meddwl? | |
| (2, 0) 604 | Wel, lawr â fo gyfeillion. | 
| (2, 0) 605 | Fe awn ni rŵan i weld perchennog y gwesty. | 
| (Emlyn) Iawn C.J. | |
| (Emlyn) Iawn C.J. | |
| (2, 0) 608 | Gyfeillion, rwy'n synnu atoch chi. | 
| (2, 0) 609 | Mae yna lot o win ar ôl yn eich gwydrau. | 
| (2, 0) 610 | Dewch rŵan, dach chi ddim yn mynd i wastraffu gwin da! | 
| (Seimon) Wel mi rydan ni ar fai C.J. | |
| (Seimon) Campus ydi'r unig air amdano fo. | |
| (2, 0) 616 | Dewch gyfeillion. | 
| (2, 0) 618 | Gwelaf chi yn hwyrach, siwgwr. | 
| (Doris) Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei. | |
| (Doris) Ar ôl iddo fo setlo, mi gaiff meistres ddod i mewn ato fo. | |
| (2, 0) 709 | Lle gebyst mae pawb? | 
| (2, 0) 711 | Lle mae'r merchaid 'ma? | 
| (Beti) Charles, rydan ni... | |
| (Doris) Mae rhywun yn dod. | |
| (2, 0) 757 | A dyma be mae fy ngweision i yn wneud pan rydw i'n troi fy nghefn. | 
| (2, 0) 758 | Talu cyflogau uchel iddyn nhw gael chwarae mig. | 
| (Doris) Hy, be ydi cyflog? | |
| (Doris) Hy, be ydi cyflog? | |
| (2, 0) 760 | Paid ti â meiddio fy ateb i yn ôl. | 
| (Ben) Sori syr. | |
| (Ben) Wnawn ni byth eto. | |
| (2, 0) 763 | A lle mae fy ngwraig i wedi mynd? | 
| (2, 0) 764 | Rydw i isio gair ymhellach gyda hi. | 
| (2, 0) 765 | Mae isio dysgu gwers iddi. | 
| (Ben) Newydd fynd allan meistr. | |
| (Ben) Newydd fynd allan meistr. | |
| (2, 0) 767 | Pan ddaw hi'n ôl, dwedwch wrthi fy mod isio ei gweld hi yn syth. | 
| (Ben) Gwnawn wrth gwrs, syr. | |
| (2, 0) 833 | Beti, Doris, Ben. | 
| (2, 0) 834 | Sut ydych chi erbyn hyn? | 
| (Doris) {Wrth Beti a Ben.} | |
| (Doris) Fasach chi'n meddwl nad ydi o ddim wedi'n gweld ni ers chwe mis. | |
| (2, 0) 837 | Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i'n teimlo mewn mwd caredig iawn heddiw. | 
| (Doris) Tro cynta ers naintin-sicsti! | |
| (Doris) Tro cynta ers naintin-sicsti! | |
| (2, 0) 839 | Er fy mod i yn cael fy ngadael i lawr gennych mor aml, dw i ddim yn un am ddal dig am amser hir. | 
| (2, 0) 840 | Na, fel mae Mr Davies y Gweinidog yn ei ddweud, rhaid maddau yn yr hen fyd 'ma. | 
| (2, 0) 841 | Felly dyma anrhegion i chi'ch tri. | 
| (2, 0) 842 | I chi, Beti ─ côt ffyr. | 
| (2, 0) 843 | I ti, Doris ─ cyflog tri mis a bonws o gan punt. | 
| (2, 0) 844 | Ac i tithau, Ben ─ bonws o gan punt a watsh aur. | 
| (Doris) Ew, dw i ddim wedi cael gymaint o arian ers talwm. | |
| (Beti) Well ini fynd i newid yn sydyn. | |
| (2, 0) 850 | Ardderchog. | 
| (2, 0) 851 | Mi ddo' i gyda chi. |