|
|
|
(Rhagddoedydd) Chwychwi rasusol gwmpeini, yr achos o'm dyfodiad yma |
|
|
(0, 17) 2193 |
Syrs, y sawl a ddirmygo ei dduw ei hun yn annuwiol |
(0, 17) 2194 |
ar ei air neu ar ei weithred er trwstaneiddrwydd bydol, |
(0, 17) 2195 |
i'r duwiau eraill i gyd mae'n gwneuthur cywilydd a cholled |
(0, 17) 2196 |
a hwn a ddylai ddwyn cosbedigaeth galed. |
(0, 17) 2197 |
Hyn a wnaeth y ffilog yma, Cresyd, |
(0, 17) 2198 |
a fu gynt yn ben ar lendid. |
(0, 17) 2199 |
Yr owran mae yn rhoi beiau |
(0, 17) 2200 |
ar waith Fenws a minnau, |
(0, 17) 2201 |
~ |
(0, 17) 2202 |
yn dywedyd ac yn achwyn am ei rhyglyddus ddrygioni |
(0, 17) 2203 |
mai fy mam a minnau oedd yn achos o hynny; |
(0, 17) 2204 |
yn galw Fenws yn dduwies ddall, anwadal, |
(0, 17) 2205 |
a llawer o ddrwg eiriau anosbarthus, gwamal. |
(0, 17) 2206 |
Hi a fynn fwrw atom ninnau |
(0, 17) 2207 |
ei godinebus fuchedd hithau. |
(0, 17) 2208 |
I hon erioed dangosais |
(0, 17) 2209 |
gymaint o help ag y gellais. |
(0, 17) 2210 |
~ |
(0, 17) 2211 |
Ac yn gymaint â bod hyn atoch chwi eich pump yn perthyny, |
(0, 17) 2212 |
a chwithau'ch pump yn rhannog o'r holl ysbrydol allu, |
(0, 17) 2213 |
y neb a wnaeth gam i'ch uchel alwedigaeth |
(0, 17) 2214 |
a ddylech chwi ei gosbi â thrwm gosbedigaeth. |
(0, 17) 2215 |
Ni chawsoch, mi a wrantaf, |
(0, 17) 2216 |
y fath gamfraint â hyn yma. |
(0, 17) 2217 |
Cytunwch am y dialedd |
(0, 17) 2218 |
a rowch arni am y camwedd. |