g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 1

GOLYGFA 1
Mae Calchas yn teithio mewn cylch o amgylch y llwyfan, yn araf, mewn rhythm - yn ei ddwylo, y mae powlen o thus yn gollwng mwg.

Rhagddoedydd
Chwychwi rasusol gwmpeini, yr achos o'm dyfodiad yma
ydyw i ddangos prudd-der mab brenin Troea,
y modd y dygodd hirnych cariad a thrymder,
a'r modd y trôdd hyn i lawenydd, a'i lawenydd i brudd-der.

Helpia, Tisiffone, myfi sy'n traethu hyn drosto:
buchedd hwn a wnaeth i lawer glanddyn wylo;
Tydi, uffernol dduwies, arnat mae fy ngoglyd;
tydi ffurie greulon yn pruddhau mewn penyd.
Helpia myfi sy'r owran dosturus achlysur
i helpu cariad-ddynion trwy gwyno'u poen a'u dolur.

Myfi nid wyf ond gwas i wasnaethwyr cariad;
caru fy hyn nis gallaf oherwydd y digwyddiad.

Chwychwi gariadau sy'n ymdrochi mewn llawenydd,
os oes deigryn ynddoch o'r trugarog ddeunydd,
meddyliwch am eich blinder cyn dechreuad cytundeb,
a meddyliwch am drymder rhai eraill a'u gwrthwyneb,
a byddwch mewn cywirdeb bob amser yn cyd-dynnu
ac na feddyliwch nas gall cariad beri i chwi sorri.
A gweddiwch dros y neb sydd yn y cyffelyb gaethiwed
ag y bu Troelus am Gresyd - y modd a'r sut cewch glywed.


Dumb show: Rhyfeloedd Troea

Rhagddoedydd
I lawer mae'n hysbys fel y daeth y Groegwyr yn llidiog
â mil o longau rhyngddynt yn llawn o wŷr arfog
i ddinistrio Troea a'r Troeaid oedd eu bwriad,
a'r rhyfel a barhaodd ddeng mlynedd yn wastad.
Yr achos - am ddwyn o Baris y frenhines Helena
o drais oddiar ei gŵr i dref Troea.
Yn y dref hon yr oedd arglwydd o enedigaeth,
hwn a elwid Calcas, â llawer o wybodaeth.

Gwrandewch yn ddyfal fy annwyl garedigion,
bellach mi a draethaf i chwi chwaneg o'r achosion,
ac o'r trymder o ddug Troelus yn caru Cresyda,
ac fel y gwrthododd Cresyd Troelus yn y diwetha.


Daw Cresyd a Troelus ymlaen i ymuno a rhythm Calchas, yna yn gadael.

Rhagddoedydd
Tri pheth sy yn hyn i'w ddeall ar unwaith,
cariad ffyddlon, cariad gwnieithus, a chymdeithas perffaith.
Tri dyn sy'n arwyddo y tri gair hygar,
y rhain ydy Troelus, Cresyd, a Pandar.

Ac nis gellir, medd arglwyddes y gwirionedd,
ddeall neb yn eglur ond wrth ei ddiwedd:
"Nes gweld ei ddiwedd nis gwyddai pwy oedd hapus".

Cesglwch gyda'r wenynen y mêl o'r llysieuyn
a gollyngwch trwy'ch clustiau y gwenwyn i'r prycopyn.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19