|
|
|
(Harmonia) Yli! |
|
|
|
(Y Dorf) {Ac yn y blaen} |
(0, 1) 359 |
Gyfeillion, wnes i erioed gelu dim oddi wrthych. |
(0, 1) 360 |
Nac addo dim ond chwys a llafur a dagrau a gwaed. |
(0, 1) 361 |
A wyddoch chi pam? |
(0, 1) 362 |
Am fy mod i'n nabod fy mhobol. |
(0, 1) 363 |
Yn gwybod natur y graig y'm naddwyd i ohoni. |
|
(Dyn Ifanc) Y graig rwyt ti'n 'i malu! |
|
|
|
(Y Dorf) {Ac yn y blaen} |
(0, 1) 368 |
Na, gadwch iddo fo heclo, druan! |
(0, 1) 369 |
Fedr o wneud dim arall. |
|
|
|
(Dionysos) O? |
(0, 1) 374 |
Gyfeillion mi wn i am y pryderon sy'n llethu'ch ysbryd. |
(0, 1) 375 |
A'r amheuon sy'n cymylu'ch meddyliau. |
(0, 1) 376 |
Does yna run fam drallodus nad yw ei dagrau'n chwerw ar fy ngwefus. |
(0, 1) 377 |
Run plentyn amddifad nad yw fy mraich yn gynnes am ei sgwyddau. |
(0, 1) 378 |
Mae curiad calon Athen yn annwyl imi. |
|
(Pobl Ifainc) Celwydd! |
|
|
|
(Pobl Ifainc) {Ac yn y blaen} |
(0, 1) 387 |
Na, na hidiwch nhw, Gyfeillion. |
(0, 1) 388 |
Ifanc a gwirion ydyn nhw. |
(0, 1) 389 |
Protest yw eu braint. |
(0, 1) 390 |
Fe ddôn nhw, toc, i barchus gydymffurfiol ganol-oed a phwyllog gyfrifoldeb... |
|
|
|
(Nicias) Bob tro y bydd o'n codi ei fraich fel yna, ac edrych fel tae o'n mynd i gystadlu ar adrodd. |
(0, 1) 395 |
Ro'n i'n cerdded ar y traeth heddiw yn y bore bach. |
(0, 1) 396 |
Roedd y môr fel gwin. |
(0, 1) 397 |
A gwrid y wawr ar ruddiau swil y dwyrain. |
(0, 1) 398 |
Dim sŵn ond siffrwd pell y feiston. |
(0, 1) 399 |
A chri rhyw wylan unig draw o'r niwlen lwyd. |
(0, 1) 400 |
Roedd heddwch, Gyfeillion, fel bendith ar y byd. |
(0, 1) 401 |
Mi godais fy llygaid a be gredech chi welais i wrth odre'r clogwyn serth? |
|
(Llais) Cocos! |
|
|
|
(Llais) Cocos! |
(0, 1) 404 |
Nid dyma'r amser i gellwair, Gymrodyr. |
(0, 1) 405 |
Mae rhai proliadau'n gysegredig... |
(0, 1) 406 |
Na, mi ddweda i be welais i — hen wreigen fach gwmanllyd yn hel gwymon. |
(0, 1) 407 |
A'r funud honno mi es yn ôl i ddyddiau mebyd. |
(0, 1) 408 |
A mi wylais! |
(0, 1) 409 |
Mi wylais am ddiniweidrwydd bachgendod. |
(0, 1) 410 |
Am ddyddiau hirfelyn heddychlon. |
(0, 1) 411 |
Am ddireidi ysgafala. |
(0, 1) 412 |
Am gynhesrwydd cariad mam! |
|
(Dionysos) Denwr dagrau da! |
|
|
|
(Nicias) Ust! |
(0, 1) 421 |
Daeth llawer tro ar fyd ers hynny. |
(0, 1) 422 |
Mae cymylau rhyfel wedi tywyllu'r ffurfafen. |
(0, 1) 423 |
Gwelsom y Sbartiaid fel bytheiaid yn sgyrnygu dannedd wrth furiau'r Ddinas. |
(0, 1) 424 |
Yn bygwth y gyfundrefn ddemocrataidd sy mor gysegredig inni... |
|
|
|
(Nicias) Pwt barddonllyd arall ar y ffordd, Syr! |
(0, 1) 427 |
Gyfeillion, mi welais rywbeth arall ar y traeth heddiw. |
(0, 1) 428 |
Llong fach yn hercian yn llafurus tua'r lan. |
(0, 1) 429 |
Ei hwyliau'n garpiau llac. |
(0, 1) 430 |
A'i llyw yn yfflon. |
(0, 1) 431 |
Roedd y ddrycin wedi'i dyrnu a'i darnio draw ar y cefnfor. |
(0, 1) 432 |
Ond o'r diwedd daeth hindda a hafan ddiogel y porthladd... |
(0, 1) 433 |
I mi, roedd y llong fach honno'n symbol o Athen. |
(0, 1) 434 |
Ar hyn o bryd rydan ni ynghanol y storm. |
(0, 1) 435 |
Mae'r gwynt yn groes a'r môr yn ferw — |
|
(Côr) A'r morwyr wedi blino; |
|
|
|
(Côr) A chodi ein calonnau. |
(0, 1) 443 |
Gwell angau na chywilydd! |
(0, 1) 444 |
Does gen i ddim ond adduned i ymladd ymlaen. |
(0, 1) 445 |
Ymladd hyd at fuddugoliaeth. |
(0, 1) 446 |
Ymladd hyd nes bydd y Sbartiaid yn y llwch. |
(0, 1) 447 |
Ymladd nes bydd muriau'r Ddinas yn lân o'u halogiad. |
(0, 1) 448 |
Ond rhaid inni ehangu ein gorwelion, Gymrodyr, a chodi uwchlaw plwyfoldeb cul. |
(0, 1) 449 |
Ie, a meddwl yn ymerodrol! |
(0, 1) 450 |
Dyna'r ffordd i sicrhau gwell Athen i'n plant ac i blant ein plant. |
|
|
(0, 1) 452 |
Ac fel ernes o'n ffydd yn y dyfodol, gwelodd y Llywodraeth yn dda i godi'r pensiwn henoed ddau swllt yr wythnos! |
(0, 1) 453 |
Dau swllt, Gyfeillion! |
(0, 1) 454 |
Ac fei rhown â'r pleser mwya! |