g1g2g3g4a1, g1

Y Llyffantod (1973)

Aristoffanes [Ἀριστοφάνης]
add. Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1973 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 1


Golygfa 1
Mae Nicias yn eistedd yn fyfyrgar ar y llwyfan-ffedog. Dealler mai ar lan afonig y mae, ac o bryd i'w gilydd clywir crawcian y llyffantod yn y brwyn cyfagos. Cymer ambell ddracht o botel win sydd ganddo, a thoc, dengys ei werthfawrogiad ohono drwy fytheirio'n hyglyw a chyda boddhad amlwg.

Yna, heb yn wybod iddo, daw Iris, ei wraig, a Harmonia, ei fam-yng-nghyfraith, i'r golwg o'r ochr arall. Safant mewn syndod.

Harmonia

Yli!

Iris

Nic! Be ar y ddaear mae o'n 'i wneud wrth yr afon yna!

Harmonia

Yfed!

Iris

Pam nad ydy o yn 'i waith?

Harmonia

Dyna gwestiwn. Mae gen ti ŵr ar y naw, Iris! Wel, mi ge'st ti ddigon o rybudd. Taet ti ond wedi gwrando arna i. Gwaith? Mae o'n rhy ddiog i gymryd 'i wynt.

Iris

Ond mam, rhaid bod yna ryw reswm!



Daw'r ddwy ymlaen at Nicias.

Iris

Wel?

Nicias

Wel, be?

Iris

Be wyt ti'n 'i wneud yn fan 'ma?

Nicias

Mae hynny'n ddigon amlwg, 'ddyliwn.

Iris

Pam nad wyt ti yn dy waith?

Nicias

Am nad oes gen i ddim gwaith.

Iris

Be wyt ti'n 'i feddwl?

Nicias

Wedi cael fy nghardia y bore yma. Cic yn fy mhen-ôl. Fi a phedwar arall.

Iris

Pam?

Harmonia

Gamblo reit siwr. Ne hel diod. Ne gymryd dwy awr i ginio. Ne glertian yn Theatr Dionysos yn edrach ar sothach.

Nicias
Fel mater o ffaith, mi ydw i wedi bod yma ers awr yn gwrando ar Gôr y Llyffantod. Glywch chi nhw?... Wyddoch chi be mae nhw'n 'i ganu? Mi ddweda i wrtha chi:

C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
Mor hyfryd yw anthem y Broga!
A dyma ni'n glyd,
Yn hapus ein byd,
Peidiwch, da chi, â'i ddiffetha.

Harmonia

Digri dros ben!

Nicias

Pam na chwerthwch chi 'te, 'rhen grimpan!

Iris

Paid â siarad efo mam fel 'na! Rhaid iti fynd i rywle arall i chwilio am waith.

Nicias

Dim gobaith. Mi fydd pob ffatri yn Athen wedi cau gyda hyn, myn cebyst!

Harmonia

Rwyt ti am eistedd yma felly, ar dy ben-ôl.

Nicias

Mae'n rhaid imi, w'chi.

Harmonia

Rhaid? Pam?

Nicias

Am reswm anatomegol.

Harmonia

Am beth wyt ti'n siarad?

Nicias

Oherwydd gwneuthuriad fy nghorff mi fydda'n bur anodd imi eistedd ar fy mol.

Harmonia

Clyfar iawn!

Iris

Ond be wyt ti'n mynd i' wneud?

Nicias

Wn i ddim. Disgwyl cardod gan y duwia am wn i.

Iris

Pam oeddech chi'n cael eich cardia?

Nicias

Mater o egwyddor.

Iris

Pa egwyddor?

Nicias

Pwy sydd i fod i wneud be.

Iris

Egwyddor wir! Fedri di ddim fforddio egwyddor fel yna a thitha efo pump o blant bach.

Harmonia

Ac un arall ar y ffordd!

Nicias

Be!

Harmonia

Ia, mi wyddwn y bydda hynna'n rhoi sgytwad iti. Ble 'rwyt ti'n 'i feddwl rydan ni wedi bod y bore yma? D'wed wrtho fo, Iris.

Iris

Gweld y doctor.

Harmonia

Ia, dyna iti ble. A does yna ddim amheuaeth, medda fo. Dim amheuaeth o gwbwl. Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd!

Nicias

Nefoedd!

Iris

Wn i ddim be sy'n mynd i ddigwydd inni. Na ple i droi. Mi fyddwn ar y clwt. Ac arnat ti mae'r bai. Llipryn di-ddim wyt ti!

Harmonia

Hunanol.

Iris

Di-asgwrn cefn.

Harmonia

Pen-yn-y-gwynt.

Iris

Rabscaliwn! Dowch mam. Mi fydd y plant yn dwad o'r ysgol gyda hyn. A'u bolia bach nhw'n wag. Mi fyddan yn crafu yn y tun-sbwriel am grystyn sych cyn bo hir.

Harmonia

Egwyddor wir, a thitha ddim uwch baw-sawdl!



Exit lris a Harmonia.

Nicias

Diolch am funud o heddwch! Merchaid, myn cythral! Mi edrychan ar greadur o ddyn yn gweithio'i fysedd i'r asgwrn. A mynd dan draed rhyw labwst o fforman. Ac ar ddiwedd yr wythnos mi ddalian eu dwylo allan i fachu'r ddima ola goch-y-delyn. A be sy gan y pwar-dab i ddangos am ei lafur? Affliw o ddim ond cyrn ar ei ddwylo, a chrys chwyslyd ar ei gefn.



Daw merch ifanc ymlaen gyda phecyn o bamffledi.

Merch

Gymerwch chi bamffled?

Nicias

Dim arian.

Merch

Rhad ac am ddim.

Nicias

Dim gwerth ei chael felly... Politics?

Merch

Wel, ia mewn ffordd.

Nicias

Cad dy bamffled. Does gen i ddim diddordeb mewn politics.

Merch

Mae gan bolitics ddiddordeb ynoch chi.

Nicias

Clyfar iawn! Dos adra at dy fam i newid dy glwt, 'merch i. Paid â dweud wrtho i beth i wneud! (Exit y ferch.) Hen bryd torri criba'r bobl ifanc yma. Trio rhedeg cyn dysgu cropian. (Saib) Nefoedd, un arall ar y ffordd! Ro'n i yn y theatr ddoe yn gweld drama am ryw frenin o'r enw Oidipos. Roedd y creadur hwnnw hefyd mewn tipyn o strâch. Ond doedd ei dynged o'n ddim i'r felltith sydd arna i! Mae yna ddeugain mil o ferched yn Athen, ond 'roedd yn rhaid i mi ddewis yr hen grimpan gegog yna'n fam-yng-nghyfraith. (Yn dynwared Harmonia) "Ble rwyt ti'n 'i feddwl rydan ni wedi bod y bore yma?... A does dim amheuaeth medda'r doctor. Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd!" (Saib) Beth 'tae hi'n cael efeilliaid! Mae yna rai yn y teulu yn rhywle. A dyna dyaid o saith o blant! Rhaid imi chwilio am rywbeth i' wneud mae'n amlwg. Wn i ddim be, chwaith. Sgubo'r stryd efallai. Mi fydda hynny'n well na llwgu... am wn i! O wel, digon buan poeni am hynny fory. Llymaid arall o'r gwin yma rwan. (Cymer ddracht.) Ben-di-ged-ig! Diolch amdano. (Codi ei lais.) Ewch i Hades yr hen widdan drwynsur! A gobeithio y bydd Cerberws yn brathu eich, be-ydach chi'n alw... sodla"!



O dan ddylanwad y gwin mae'n syrthio i gysgu. Miwsig addas. Ymddengys Dionysos wedi'i wisgo fel twristiad nodweddiadol, gyda'i gamera a'i recordydd-tâp. Mae'n cario cas mawr trwm. Daw at Nicias ac edrych arno, ac ar ôl ennyd neu ddau mae hwnnw'n agor ei lygaid. Y miwsig yn distewi.

Dionysos

Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill.

Nicias

Sut wyddoch chi?

Dionysos

Ro'n i'n digwydd sefyll ar y gornel yn y fan acw, a'ch clywed chi. Rhywun wedi sathru'ch corn yn amlwg.

Nicias

Merched, w'chi. Mae'n nhw'n anhydrin iawn weithia. Fel maen-melin am eich gwddw chi. Mi ydw i wedi dweud erioed, dydyn nhw ddim 'run fath â ni ddynion.

Dionysos

Nac ydyn, mae'n debyg!

Nicias

A dydy heddiw ddim wedi bod yn ddiwrnod lwcus imi o gwbwl. Yn gynta mi ydw i wedi colli 'ngwaith. Ac yn ail, mi ydw i newydd glywed fod y wraig yn mynd i ddal y dorth ymhell.

Dionysos

Yn beth?

Nicias

Wedi llyncu pry. (Nid yw Dionysos yn deall) Magu mân-esgyrn fel y byddwn ni'n deud. Wyddoch chi — (Gwna ystum i ddisgrifio beichiogrwydd)

Dionysos

O, rwy'n gweld. Llongyfarchion.

Nicias

Llongyfarchion? Nid dyna ddwedodd fy mam-yng-nghyfraith rwan, Syr. Dyna ichi'r ddynes fwya gecrus yn Athen. Tafodi? Edliw? A wyddoch chi beth ydy ei henw hi? Harmonia! Dyna ichi jôc! Mi fasa Rhagan-rug yn ei siwtio hi'n well... (Cyfyd Nicias ar ei draed.) Ar eich gwylia rydach chi, mae'n debyg? Ydach chi am aros dipyn?... Oes arnoch chi eisio rhywun i ddangos y Ddinas ichi? Cario'r bag yna?



Nid yw Dionysos yn ateb. Saif ac edrych o'i amgylch.

Dionysos

Welais i erioed wlad mor dlos â hon. Mwynder môr a mynydd. Mae hi wedi fy swyno'n llwyr. Rhaid dy fod yn ei charu hi â'th holl galon.

Nicias

Beth? O ydw am wn i. "Cas gŵr..." ac yn y blaen. Ond fedrwch chi ddim byw ar brydferthwch, Syr.... Che's i mo'ch enw chi'n iawn.... Mi garia i'r bag mawr trwm yna am bris rhesymol.... Cil-dwrn, fel tae....



Saib, Dionysos yn meddwl.

Dionysos

Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas?

Nicias

Athen? Ydw, fel cledr fy llaw, er mai ar y cyrion rydw i'n byw. Mi fedrwn fynd â chi o gwmpas os mynnwch chi. Dangos y llefydd o ddiddordeb ac ati.... Be ydach chi'n i ddweud?



Mae Dionysos yn arogli'r botel win.

Dionysos

Sothach!

Nicias

Tybed? Digon da i mi. A pheth arall, fedra i fforddio dim gwell. Rydach chi'n arbenigwr ar win, yn amlwg?

Dionysos

Felly maen nhw'n dweud. Beth ydy d'enw di?

Nicias

Nicias, Syr. Ond Nic mae pawb sy'n fy nabod i'n fy ngalw i.

Dionysos

Rwy'n gweld. (Saib) Rwy'n bryderus iawn ynghylch Athen, Nicias.

Nicias

O?

Dionysos

Mae'n debyg dy fod tithau'n teimlo run fath.

Nicias

Cytuno'n llwyr. Dim gwaith. Prisiau'n codi. Cyfloga isel. Effaith y rhyfel felltith yma, w'chi.

Dionysos

Ia siwr. Ond nid at y sefyllfa economaidd yn unig roeddwn i'n cyfeirio. Beth am y gymdeithas a'i diwylliant enaid y genedl, os mynni di?

Nicias

Dydw i ddim wedi meddwl rhyw lawer am betha felly, Syr. Dim amser efo gwraig a phump o blant. Mi fydda i'n eitha bodlon os ca' i lond bol o fwyd, ac ambell botel o win. Yn reit hoff o ddrama hefyd, ond iddi beidio â bod yn rhy anodd.

Dionysos

Felly! Diddorol. Mae'n dda gen'i glywed hynna.

Nicias

Beth amdani, Syr? Ga' i gario'ch bag chi?

Dionysos

O'r gora. Mae o'n drwm, cofia. Cymer ofal ohono.

Nicias

Peidiwch â phoeni. Mi ydw i'n gry fel ceffyl.



Cymer y cas mawr

Nicias

Dowch ar f'ôl i rwan. Dyma'r ffordd ora i'r Ddinas.



Mae Nicias yn arwain y ffordd oddi ar y llwyfan. Ar ôl ennyd neu ddau, agorir y llenni a gwelir nifer o rostra yn cynrychioli sgwâr yn Athen. Mae nifer o bobl yma ac acw, rhai'n eistedd; rhai'n sgwrsio, eraill yn darllen papur-newydd neu chwarae cardiau ac yn y blaen. Mae'r Côr — a fydd ar brydiau'n ymrannu'n ddau grŵp — yn sefyll gyda'i gilydd yn weddol agos i ffrynt y llwyfan. Daw Dionysos a Nicias at y gris sy'n codi o'r gynulleidfa i'r llwyfan, a phetruso yno am ychydig. Mae un o'r Côr yn eu gweld a thynnu sylw'r lleill atynt.

Blaenor y Côr
Edrychwch!
Be welwch chi draw yna ar gwr y sgwâr
Fel pe'n ansicr ple i droi?
Dieithriaid i bob golwg.

Côr
Gwas a meistr, ddwedwn i, a barnu wrth eu gwisg
A'u hymarweddiad. Ys gwn i o ble y daethon nhw?
O Delffi, Thebau, neu o Gorinth bell ei hun?
Does wybod yn y byd pwy ydyn nhw,
Prun ai pererinion llesg neu garedigion llon
Y Ddrama. Neu Thesbiaid hwyrach — dau actor brwd
A'u bryd ar ennill clod ar hen lwyfannau Athen.
Beth bynnag ydyn nhw, mae hyn yn amlwg ddigon
Nid caridyms mo'r rhain, nid dau o'r llu twristiaid hurt
Sy'n tyrru yma o bob cwr, pob un â'i dafod allan, bron
Yn awchio am ddiwylliant tridiau,
A llygad-rythu'n geg-agored, syn
Ar ogoniannau adfeiliedig ein gorffennol.


Gwelir rhywun yn mynd at y ddau ymwelydd

Côr
Ond dacw rywun yn mynd atyn nhw i ysgwyd llaw,
A dweud bod croeso Athen 'run mor hael
Er gwaetha gwae y rhyfel.



Mae Dionysos yn dringo'r gris o'r llawr i'r llwyfan a Nicias yn honcian yn llafurus ar ei ôl. Rhydd y cas yn ofalus i lawr ac eistedd ar un o'r rostra i gael ei wynt ato.

Dionysos

Wedi blino?

Nicias

Go lew. Mi hoffwn i gael sbelan fach am funud os medrwch chi sbario'r amser.

Dionysos

Wrth gwrs. Does dim brys. Cyfle imi gael gweld dipyn ar y sgwâr. Mi ddo i'n ôl yn y man.



Mae Dionysos yn cerdded hwnt ac yma i edrych ar y bobl gyda'u gwahanol ddiddordebau, ond does neb yn cymryd y sylw lleiaf ohono. Yn sydyn, clywir cyffro, a daw dau ddyn i'r golwg yn hebrwng dyn arall rhyngddynt â'i arddyrnau mewn cyffion. Gwelir nifer o bobl ifainc yn ceisio'u rhwystro.

Pobl Ifainc

Gormes! Trais! Dwrn Dur! Rhyddhewch o! Gorthrwm! Gwarth!



Teflir y gwrthwynebwyr o'r fordd gan y ddau dditectif ac ânt â'r carcharor ar draws y sgwâr ac o'r golwg, heb i neb gymryd fawr sylw ohonynt. Daw Dionysos yn ôl at Nicias.

Dionysos

Beth oedd y cyffro yna? Pwy oedd y dynion? Wyddost ti?

Nicias

Plismyn am wn i.

Dionysos

A'r carcharor?

Nicias

Lleidar reit siwr. Pigwr-pocedi wedi cael ei ddal yn y Theatr. Mae nhw'n tyrru i fan'no ar bob Gŵyl Ddrama, w'chi.

Dionysos

Ond pam oedd y bobol ifainc yna'n ceisio'u rhwystro?

Nicias

Dim byd gwell i' wneud, w'chi. Unrhyw beth i greu cynnwrf. Yn y fyddin ddylen nhw fod. Buan iawn y bydda'r Sbartiaid yn dwad â nhw at eu coed! Torri eu gwalltia hir a'u criba nhw!

Dionysos

Tybed? Wn i ddim beth i' feddwl. (Saib) Mae'n lecsiwn yma rwy'n deall.

Nicias

Ydy, wrth gwrs! Wyddoch chi be, ro'n i wedi llwyr anghofio. Ond does gen i fawr o ddiddordeb yn y busnas politicaidd yma. Wedi cael llond bol a deud y gwir.

Dionysos

Rwyt ti'n hoff o fetaffor y bol, rwy'n sylwi.

Nicias

Dydw i ddim yn deall, Syr.

Dionysos

Hida befo... Yn ôl a glywais i mi fydd areithio yma gyda hyn. Cynrychiolwyr y ddwy Blaid Fawr yn dwad i'r Sgwâr yma i siarad.

Nicias

Y ddau yn addo'r byd reit siwr. A chyfarth fel dau gi ar ei gilydd.



Daw llais drwy'r corn-siarad.

Llais

Atheniaid! Dalier sylw! Fel y gwyddoch, mae'r lecsiwn unwaith eto ar y trothwy. Ac yn ôl yr arfer, bydd cynrychiolwyr y ddwy Blaid Fawr yn unig yn mynd o le i le drwy'r Ddinas i'ch annerch. Dyma'ch cyfle i wybod pa bolisïau a arfaethir ganddyn nhw, a'u mantoli. Rhowch glust iddyn nhw pan ddôn nhw atoch.

Côr
Nid i glywed newydd drwg, gobeithio!
Rydym wedi hen flino ar bryder, gwae a gofid;
Ac yn dyheu am ryw friwsionyn bach o gysur;
Llygedyn bach o obaith.
Gad inni fwynhau rhyw awr ne ddwy o seibiant,
I stelcian yma ar y sgwâr
A sgwrsio'n ddioglyd efo hwn a'r llall
Heb sôn am ryfel. Wedi'r cyfan
Rhyw bethau bach fel hyn sy'n bwysig
I sgafnu'r baich sydd ar ein sgwyddau beunydd,
Rhag bod ein bywyd yn ddiflastod llwyr.
A heno, mae'n rhy braf i fwydro am faterion dwfn
Na datrys cymhlethdodau'r byd.
Yn hytrach, noson yw i wneud dim oll
Ond sipian gwin, neu wrando'n swrth ar felys gân,
Neu garu!



Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r bobl wedi ymgynnull ger un o'r rostra, a gwelir Cleon yn dringo arno. Adwaith cymysglyd gan ei gynulleidfa.

Nicias

Cleon ydy hwn, Syr. Llefarydd y Democratiaid brwd — plaid y Chwith.

Dionysos

Felly! Be fydd ganddo fo i ddweud sgwn i?

Cadmos

Atheniaid a chymrodyr! Wna i mo'ch cadw chi yn hir; anerchiad byr sy gen i. Eto i gyd fedra i ddim gorbwysleisio fy neges. Fel y gwyddoch, Gyfeillion, cyfnod cythryblus ydy hwn. Cyfnod o argyfwng. Yn wir nid gor-liwio fai dweud bod tynged Athen yn y fantol.

Llais

Beth wyt ti'n i wneud i'w hachub?

Y Dorf

Clywch! Clywch!... Gosteg! (Ac yn y blaen)

Cleon

Gyfeillion, wnes i erioed gelu dim oddi wrthych. Nac addo dim ond chwys a llafur a dagrau a gwaed. A wyddoch chi pam? Am fy mod i'n nabod fy mhobol. Yn gwybod natur y graig y'm naddwyd i ohoni.

Dyn Ifanc

Y graig rwyt ti'n 'i malu!

Y Dorf

Clywch! Clywch!... Cauwch 'i geg o! (Ac yn y blaen)

Cleon

Na, gadwch iddo fo heclo, druan! Fedr o wneud dim arall. (Chwerthin)

Nicias

Mi fydd yn mynd yn ddagreuol unrhyw funud rwan, Syr. Dyn o anianawd nionyn.

Dionysos

O?

Cleon

Gyfeillion mi wn i am y pryderon sy'n llethu'ch ysbryd. A'r amheuon sy'n cymylu'ch meddyliau. Does yna run fam drallodus nad yw ei dagrau'n chwerw ar fy ngwefus. Run plentyn amddifad nad yw fy mraich yn gynnes am ei sgwyddau. Mae curiad calon Athen yn annwyl imi.

Pobl Ifainc

Celwydd! Rhagrith! Beth am Socrates? Socrates? Socrates? Bradwr! (Ac yn y blaen)



Mae rhai yn y dyrfa yn bygwth troi'n erbyn y protestwyr, ond atelir hwy gan Cleon.

Cleon

Na, na hidiwch nhw, Gyfeillion. Ifanc a gwirion ydyn nhw. Protest yw eu braint. Fe ddôn nhw, toc, i barchus gydymffurfiol ganol-oed a phwyllog gyfrifoldeb... (Cwyd ei fraich dde.)

Nicias

Pwt barddonllyd rwan!

Dionysos

Sut wyddost ti?

Nicias

Bob tro y bydd o'n codi ei fraich fel yna, ac edrych fel tae o'n mynd i gystadlu ar adrodd.

Cleon

Ro'n i'n cerdded ar y traeth heddiw yn y bore bach. Roedd y môr fel gwin. A gwrid y wawr ar ruddiau swil y dwyrain. Dim sŵn ond siffrwd pell y feiston. A chri rhyw wylan unig draw o'r niwlen lwyd. Roedd heddwch, Gyfeillion, fel bendith ar y byd. Mi godais fy llygaid a be gredech chi welais i wrth odre'r clogwyn serth?

Llais

Cocos!



Rhai o'r dyrfa'n chwerthin

Cleon

Nid dyma'r amser i gellwair, Gymrodyr. Mae rhai proliadau'n gysegredig... Na, mi ddweda i be welais i — hen wreigen fach gwmanllyd yn hel gwymon. A'r funud honno mi es yn ôl i ddyddiau mebyd. A mi wylais! Mi wylais am ddiniweidrwydd bachgendod. Am ddyddiau hirfelyn heddychlon. Am ddireidi ysgafala. Am gynhesrwydd cariad mam!



Mae Cleon fel petai'n brwydro i reoli ei deimladau.

Dionysos

Denwr dagrau da!

Nicias

Ia. Mae o'n sôn am 'i fam ymhob araith w'chi. Gwybod y tricia i gyd. Gwleidydd proffesiynol. A cheiliog-gwynt. Ust!

Cleon

Daeth llawer tro ar fyd ers hynny. Mae cymylau rhyfel wedi tywyllu'r ffurfafen. Gwelsom y Sbartiaid fel bytheiaid yn sgyrnygu dannedd wrth furiau'r Ddinas. Yn bygwth y gyfundrefn ddemocrataidd sy mor gysegredig inni... (Cwyd ei fraich.)

Nicias

Pwt barddonllyd arall ar y ffordd, Syr!

Cleon

Gyfeillion, mi welais rywbeth arall ar y traeth heddiw. Llong fach yn hercian yn llafurus tua'r lan. Ei hwyliau'n garpiau llac. A'i llyw yn yfflon. Roedd y ddrycin wedi'i dyrnu a'i darnio draw ar y cefnfor. Ond o'r diwedd daeth hindda a hafan ddiogel y porthladd... I mi, roedd y llong fach honno'n symbol o Athen. Ar hyn o bryd rydan ni ynghanol y storm. Mae'r gwynt yn groes a'r môr yn ferw —

Côr
A'r morwyr wedi blino;
A hyd y gwyddon nid oes i ni na hafan deg na hindda.
Rydym yn dechrau cynefino â thywydd drwg;
Diflastod inni bellach yw addewidion gwag
A geiriau teg na ellir eu gwireddu.
Rho inni rywbeth pendant i gynnal a chryfhau ein ffydd,
A chodi ein calonnau.

Cleon

Gwell angau na chywilydd! Does gen i ddim ond adduned i ymladd ymlaen. Ymladd hyd at fuddugoliaeth. Ymladd hyd nes bydd y Sbartiaid yn y llwch. Ymladd nes bydd muriau'r Ddinas yn lân o'u halogiad. Ond rhaid inni ehangu ein gorwelion, Gymrodyr, a chodi uwchlaw plwyfoldeb cul. Ie, a meddwl yn ymerodrol! Dyna'r ffordd i sicrhau gwell Athen i'n plant ac i blant ein plant.



Adwaith cymysglyd o'r gynulleidfa

Cleon

Ac fel ernes o'n ffydd yn y dyfodol, gwelodd y Llywodraeth yn dda i godi'r pensiwn henoed ddau swllt yr wythnos! Dau swllt, Gyfeillion! Ac fei rhown â'r pleser mwya!



Adwaith cymysglyd eto a gwelir Cadmos yn dringo ar rostrwm arall.

Cadmos

(Codi ei lais) Rhagrith!



Mae'r dyrfa'n troi oddi wrth Cleon i wrando ar Cadmos.

Nicias

Cadmos ydy hwn, Syr, Llefarydd yr Oligarchiaid — yr Wrth-Blaid. Ceidwadwr rhonc.

Dionysos

Rwy'n gweld. Diddorol.

Côr A
Rhydd i bob dyn ei farn,
Ac i bob barn ei llafar.
Clywsom eiriau Cleon a'i addewid gwag,
Sydd inni, bellach, o'i ail-adrodd fynych dro
Yn ddincod ar y dannedd.
Tyrd, Cadmos, be sy gennyt ti i'w ddweud?
Beth yw dy neges di i Athen?

Cadmos

Gyfeillion dydy huodledd Gleon ddim gen i. Fedra i ddim byseddu tannau eich calonnau. Na chorddi eich teimladau efo ffregod barddonllyd ffug.



Adwaith cymysglyd y dyrfa.

Cadmos

Fe glywsoch Cleon rwan yn rhestru cardod prin ei Blaid fel tae o'n fendith hael o'r nef. A disgwyl i chwithau syrthio'n ufudd-ddiolchgar ar eich gliniau. Plaid y Bobol, wir! Plaid y Tlodion! Rhagrith gwên-deg. Ond dyna'u hanes nhw erioed cynllwyn a thwyll dan gochl rhinwedd. Pregethu rheidrwydd aberth yn ddi-baid — gan eraill. O, mae Cleon a'i Blaid yn eitha bodlon! Swyddi bras i'r hogia. A phawb yn pluo 'i nyth ei hun. Ond gwneud sŵn gwerinol wrth wneud... Dau swllt yr wythnos i'r henoed! Dau swllt! Prin ddigon i brynu crystyn sych i rygnu byw ymlaen. Yn y cyfamser, mae'r rhyfel gwallgo yma'n mynd o ddrwg i waeth. Ac Athen yn gwaedu'n raddol i farwolaeth.



Adwaith y dyrfa eto.

Cadmos

Fy neges i yn syml ydy hyn — heddwch! A diwedd ar y lladd a'r rheibio, yr anrhaith a'r diodde. Tywalltwyd gormod o waed yn barod. Mae'r Ddinas yn llawn gweddwon a phlant amddifaid. Heddwch, ar unrhyw delerau fydd yn diogelu ein hunan-barch. Heddwch cyn i Athen fynd yn sarn, a dim ar ôl ond pentwr o adfeilion myglyd!



Adwaith cymysglyd.

Lleisiau

Rhagrithiwr arall! Nid o fradwr y ceir gwladwr! Beth am Socrates? Socrates? Socrates?



Yn ystod y cynnwrf daw Cadmos a Cleon i lawr oddi ar eu rostra a mynd ymaith i annerch cynulleidfa mewn rhan arall o'r Ddinas.

Côr B
Roedd hynna i gyd yn swnio'n dda!
Gwladgarwr pybyr ddwedech chi,
A thynged Athen yn ing enaid iddo;
A'i ofal beunydd am y tlawd a'r gwan.
Ond cofiwch hyn: does fawr o dro
Ers pan oedd hwn a'i Blaid
Ar fin bradychu'r Ddinas a'i thrigolion oll
I'r Sbartiaid am aur a mantais masnach.
O na, nid ffyliaid ydym!
Ofer disgwyl dim gan hwn a'i griw,
Plaid yr Ychydig a'r Breintiedig Rai,
Plaid elw glwth; Plaid busnes calon-galed.

Dionysos

Wel, beth wyt ti'n i feddwl?

Nicias

Yn y niwl. Ond mi wyddwn mai fel yna y bydda hi. Y ddau'n pregowthan o'i hochor hi heb ddweud dim. Malu awyr! Dyna'u hanes nhw erioed.

Dionysos

Ond beth sydd i ddwad o Athen?

Nicias

O mi fyddwn yn siwr o fwnglera drwyddi rywsut.

Dionysos

Wyt ti'n sylweddoli be sydd yn y fantol?



Daw llais drwy'r corn-siarad.

Llais

Dalier sylw. Dyma ddatganiad gan yr Heddlu: "Fore heddiw dan warrant arbennig yr Ynadon, fe restiwyd Socrates a'i fwrw i'r Ddalfa. Cyhuddir ef yn bennaf o lygru mebyd y Ddinas a'u harwain ar gyfeiliorn. Cyhoeddir eto pryd y dygir ef o flaen ei well i sefyll ei braw." Dyna ddiwedd y datganiad.



Erbyn hyn mae'r bobl wedi mynd yn ôl at eu gweithgareddau a'u diddordebau blaenorol. Nid oes neb yn cymryd nemor ddim sylw o'r datganiad ar wahân i'r grŵp ifanc a fu'n protestio eisoes. Mae'n nhw'n sefyll fel petaent wedi'u syfrdanu.

Côr A
Be ddwedodd o — Socrates yn y Ddalfa?
Wel, a bod yn hollol onest,
Dyw hynna ddim yn syndod inni.
Wedi'r cyfan, dyn peryglus ydy o — eithafwr,
Sy'n arwain ein ieuenctid ar ddisberod
A mwydro eu meddyliau â'i syniadau od.
Fe fydd yn ddiogel yn y carchar: dyna'r lle
I ddysgu'r wers fod ufuddhau a chydymffurfio llwyr
Yn bwysig mewn cymdeithas.

Côr B
Ond eto i gyd, peth trist yw gweld
Neb dyn o'r fath athrylith fawr
Yn cael ei lusgo gan yr Heddlu Cudd
A'i gladdu'n fyw mewn carchar,
Ynghanol lladron meddw, caridyms —
Gwehilion ein cymdeithas.
Ai dyna'r ffordd mae Athen Fawr yn trin
Y diniweitiaf wron yn ein plith?
A thoc fe ddaw o flaen y Llys
A'r Fainc Ynadon cib-ddall, brwd,
Mor ffyddlon i'r Sefydliad;
Sy'n haeru'n danbaid ymhob Praw,
Fod Deddf uwchlaw Cyfiawnder.

Dionysos

Aros funud.

Nicias

Reit, Syr.



Mae Dionysos yn mynd at y grŵp sy'n chwarae cardiau, gyda'i recordydd-tâp, a'r meicroffon yn ei law.

Dionysos

Esgudowch fi, gyfeillion. Ymwelydd ydw i ar wyliau yn Athen... (Does neb yn cymryd sylw ohono.) Ga'i ofyn eich barn, os gwelwch yn dda?... Y peth yma a'r peth arall...? Y sefyllfa'n gyffredinol yn Athen ac yn y blaen...? Eich barn ynonest...?

Un o'r Grŵp

(Prin godi ei ben) Be?

Dionysos

Dyfodol Athen?... Beth am Socrates?



Mae un o'r chwaraewyr yn amlwg wedi twyllo

Dyn 1

(Taflu ei gardiau i lawr) Hanner munud y cythral!

Dyn 2

Be sy'n dy gorddi di?

Dyn 1

Mi welais i di rwan, y twyllwr diawl! Wyt ti'n meddwl mod i'n ddall?

Dyn 2

(Codi'n fygythiol) Pwy wyt ti'n 'i alw'n dwyllwr?

Dyn 1

(Yntau hefyd yn codi) Paid â sgyrnygu arna i, mêt!



Mae'r ddau yn mynd i yddfau'i gilydd. Daw'r lleill rhyngddynt, ac o'r diwedd mae'r cyffro'n tawelu.

Dyn 1

(Eistedd) Paid â thrio hynna eto efo fi, dyna'r cwbwl!

Dyn 2

(Eistedd) O, tyrd yn dy flaen! Paid titha â bod mor groen-dena... Reit, twrn pwy ydy hi?



A'r chwarae ymlaen, try Dionysos at hen wraig sy'n croesi'r sgwâr.

Dionysos

Hanner munud, rhen wraig. Ga 'i air, os gwelwch yn dda?

Hen Wraig

(Mae braidd yn fyddar) Be ddwedsoch chi?

Dionysos

(Codi ei lais ychydig) Gair bach efo chi. Beth ydych chi'n 'i feddwl o'r sefyllfa bresennol?

Hen Wraig

Pwy ydach chi, deudwch? Dyn y Llywodraeth?

Dionysos

Dim o gwbwl —

Hen Wraig

(Mae'n amlwg nad yw'n deall, ac â ymlaen i fwmial ei chŵyn.) Wel edrych yma, machgen i, wn i ddim sut rydach chi'n disgwyl inni fyw. Ni, yr hen begnos, ar ein mymryn pensiwn. A'r prisia mor uchel. Cynilo hyd at yr asgwrn. Byw ar botas-maip a sucan. Ac eto'n hanner llwgu.

Dionysos

Tewch â dweud —!

Hen Wraig

Ac yn fferru gyda'r nos heb dewyn o dân. Dydan ni ddim yn gofyn am gardod, w'sti. Dim ond ichi gofio bod gynnon ni dipyn bach o hunan-barch o hyd. Mi ddylen ni gael ein trin fel pobol nid fel sbwriel wedi cael ei daflu ar y domen.

Dionysos

Cytuno'n llwyr... Beth ydy'ch barn chi am Socrates?

Hen Wraig

(Nid yw wedi deall eto) Be?

Dionysos

Socrates — mae o yn y Ddalfa.

Hen Wraig

(Pesychu) Wn i ddim be wnawn ni pan ddaw'r gaea', a'r gwynt a'r glaw a'r tarth. Mi fydd rhen fegin yma'n gwichian fel olwyn ferfa. Mi ddweda i wrtha ti be hoffwn i, os ca'i fyw ac iach, 'machgen i. Cael mynd o'r hen fyd yma, pan ddaw f'amser, efo traed cynnes. Dydy o ddim llawer i ofyn. Ond yn ormod i' ddisgwyl reit siwr. (Pesychu eto) Ia, wel, peswch sych diwedd pob nych, meddan nhw, ynte... Ia siwr... Digon gwir... Digon gwir!



Exit yr hen wraig dan fwmial. Try Dionysos at ddyn busnes llewyrchus yr olwg a ddaw heibio

Dionysos

Eich pardwn, Syr.

Dyn Busnes

Ia?

Dionysos

Cwestiwn ne ddau, os gwelwch yn dda.

Dyn Busnes

Wel, rwy' i braidd yn brysur ond —

Dionysos

Wna i mo'ch cadw chi'n hir. Rwy'i yma ar ymweliad, ac yn awyddus i gasglu hynny o wybodaeth ag sy bosib am Athen.

Dyn Busnes

Sut fedra i eich helpu?

Dionysos

Beth yw eich barn am y sefyllfa'n gyffredinol?

Dyn Busnes

Dydy petha ddim mor ddrwg. Gresyn am y Rhyfel wrth gwrs. Ond does yna run drwg na ddaw â rhyw ddaioni yn ei sgîl. Mae'r Gyllideb yn gadarn a busnes, ar y cyfan, yn ffynnu, er bod y gwan yn mynd i'r wal. Ond dyna ydy bywyd onide?

Dionysos

Mae Socrates yn y Ddalfa.

Dyn Busnes

Felly ro'n i'n clywed. Ia, wel, fel yna mae hi, wyddoch chi. Rhaid imi fynd. Dyma rai o'm gweithwyr yn dwad rwan.



Pwyntio at ddau ddyn mewn dillad peirianwyr yn dod heibio

Dyn Busnes

Mwynhewch eich gwylia. Dydd da ichi. (Exit)

Dionysos

(Wrth y gweithwyr) Maddeuwch i mi, ga' i ofyn sut mae hi ar y gweithwyr yn Athen y dyddia yma?

Gweithiwr 1

Yn y lle cynta, rydych chi'n ddiolchgar os medrwch chi sgoi mynd i'r rhyfel.

Gweithiwr 2

Wedyn rydach chi'n crafu a llyfu i gael gwaith. Mae'n anodd drybeilig, wyddoch chi.

Dionysos

Rydych chi'n lwcus, yn amlwg?

Gweithiwr 1

Rydan ni'n iawn, ydan, diolch yn fawr!

Gweithiwr 2

Pawb drosto'i hun, 'te Jac!

Dionysos

Mae Socrates yn y Carchar.

Gweithiwr 1

O? Blydi ffŵl, pwy bynnag ydi o. (Wrth ei gyfaill) Tyrd, rydan ni'n hwyr yn barod. Mi fydd dyn biau'r drol yn tantro eto!



Exit y gweithwyr. Daw merch ifanc heibio.

Dionysos

Maddeuwch i mi, os gwelwch yn dda.

Merch

Ia, cariad?

Dionysos

(Mae'n sylweddoli beth yw hi, ond mae'n rhy hwyr.) Ga i ofyn eich barn am y sefyllfa yn Athen?

Merch

Dim yn llewyrchus iawn ar hyn o bryd, cariad. Ond siawns na fydd petha'n pigo i fyny pan ddaw'r sowldiwrs yn ôl. Does yna ddim llawer o ddynion yn Athen y dyddia yma. A'r rhan fwya o'r rheiny'n hen, ac wedi colli diddordeb braidd. Hynny ydy — wel mi ydach chi'n gwybod be ydw i'n 'i feddwl... Rhywbeth arall fedra 'i wneud ichi cariad?

Dionysos

Na, dim, diolch yn fawr ichi.

Merch

Croeso, cariad. Unrhyw dro. Mi ydw i o gwmpas bob amser. (Mae Dionysos yn hanner troi oddi wrthi) Hanner munud cariad.

Dionysos

Ia?

Merch

(Cyfrinachol) Welwch chi hon sy'n dwad rwan? (Cyfeiria at ferch arall sy'n croesi'r sgwâr yn araf ac eistedd ar un o'r rostra gan syllu'n syfrdan fel petai ei meddwl ymhell.) Peidiwch â'i phoeni hi. Mae hi newydd golli 'i gŵr a'i phlant yn y rhyfel, druan fach. Dydi hi ddim efo ni, wyddoch chi... Da boch, cariad.



Exit y ferch, edrych Dionysos ar y weddw am ennyd, yna try at y grŵp ifanc.

Dionysos

Ga' i air bach, os gwelwch yn dda? Beth ydy barn yr ifanc?

Llanc

Mae mynegi barn onest yn Athen yn beryglus, heddiw. Taw piau hi. Mae rhai ohonon ni yn y carchar yn barod.



Maent yn troi eu cefnau arno ac o'r diwedd try yntau at 'y côr.

Dionysos

Atheniaid!

Côr
Na, na Ddieithryn, ofer gofyn dim i ni
Does gennym ni run farn i'w chynnig;
Neu, yn hytrach, gwir f'ai dweud bod gennym amryw.
Mae rhai ar dân ynghylch y peth a'r peth,
Ac eraill sydd yn haeru run mor daer
Yn hollol i'r gwrthwyneb.
Pob un, wrth gwrs,
Yn credu gydag argyhoeddiad llwyr
Mai efô sy'n iawn, a bod pob daliad
Sy'n wahanol, nid yn unig yn sarhâd
Personol iddo ef ei hun, ond hefyd
Yn golygu aflwydd mawr i Athen.
Ond teg yw dweud, yn ddistaw bach, fod ambell lais,
Os nad yw'n plesio'r Awdurdodau'n llawn,
Yn cael ei fygu, neu ei foddi'n llwyr
Gan gytgan cryf y cydymffurfwyr.

Fe welwch, felly, mai peth anodd iawn
I ni yw rhoi ein barn yn bendant, glir.
Rhyw ymbalfalu, rydym, yn y niwl,
A gogr-droi mewn penbleth. Beth arall
Allwn ni ei wneud? A dal ein gobaith
Y bydd Athen annwyl drwy ryw hynod wyrth
Yn dal i fyw; gan syfrdan sylweddoli
Yr arswydus ffaith fod ein diwylliant,
Etifeddiaeth, iaith — yn wir, bod ein bodolaeth
Hyd yn oed, yn gwegian uwch y gwagle.



Mae'r côr yn mynd allan, a thywyllir y llwyfan i gyd ac eithrio pelydryn ar Dionysos a Nicias.

Nicias

Dim llawer o dderbyniad, Syr?

Dionysos

(Eistedd) Na, siomedig braidd... Dwed i mi, beth wyt ti'n 'i feddwl o'r sefyllfa yn Athen?

Nicias

Fi? Wel...

Dionysos

Ond rwy i wedi gofyn y cwestiwn yna i ti o'r blaen, on'do. A siomedig oedd d'ateb dithau hefyd, os wy'n cofio.

Nicias

Mater o farn ydy hynny, 'te?

Dionysos

Fy marn i ydy mai tipyn o wag wyt tl. Tipyn o walch. Does yna fawr o ddim yn dy boeni os cei di lond dy fol o fwyd, a digon o win, ac amrywiol bleserau dy wely.

Nicias

Dwy' i ddim yn honni mod i'n wahanol i'r mwyafrif o ddynion, w'chi... Maddeuwch imi am ddweud, ond rydach chi'n pendroni'n amlwg. Poeni am eich busnes reit siwr? Gofal eiddo a buddiannau ac ati? Diofal yw dim. Mi ydw i'n cydymdeimlo.

Dionysos

Tyrd yma am funud. (Saif Nicias o'i flaen.) Pwy wyt ti'n 'i feddwl ydw i?

Nicias

Dim syniad yn y byd.

Dionysos

Celwydd!

Nicias

Be —?

Dionysos

Paid â dweud nad wyt ti ddim wedi sbecian i mewn i'r cas yna.

Nicias

Fi? Tawn i byth o'r fan yma!

Dionysos

Nicias!

Nicias

Wel, dim ond rhyw led-godi congol y caead. Wnes i mo'i agor o fel 'tae.

Dionysos

Wnawn ni ddim hollti blew yn 'i gylch. Wel, pwy wyt ti'n 'i feddwl rydw i?

Nicias

(Ar ôl dyfalu ychydig.) Mi ydw i'n meddwl, te...

Dionysos

Ia?

Nicias

Mi ydw i'n meddwl mai trafaeliwr ydach chi. Trafaeliwr ne fasnachwr gwin. O Gorinth, efalla. Iawn, Syr?

Dionysos

Dim yn hollol. Ond mae yna rywfaint o gysylltiad.

Nicias

Does gen i ddim syniad, w'chi.

Dionysos

Rwyt ti'n hoff o Ddrama meddet ti.

Nicias

Ydw... Nid actor ydach chi?

Dionysos

(Ysgwyd ei ben.) Na, nid hynny chwaith. Ond mae yna gysylltiad eto... (Saib) Rwyt ti wedi tyngu yn f'enw i lawer tro. A'i sibrwd yn awchus-ddiolchgar wrth agor potel o win... Edrych ar honna sydd yn dy boced.

Nicias

(Yn tynnu potel allan o'i boced) Hon?

Dionysos

Be ydy'r enw sydd arni?

Nicias

(Darllen) Dionysos (Mae'n sylweddoli) Dionysos! (Sibrwd gyda pharchus-ofn) Duw y Gwin a- a-

Dionysos

A nawdd-dduw'r Ddrama, ia, Nicias.



Mae Nicias yn sefyll yn syfrdan, fel tae'n ansicr beth i'w wneud. Tyn ei gap a disgyn yn drwsgl ar un ben-lin. Rhydd Dionysos arwydd iddo godi ar ei draed.

Dionysos

Does dim angen y sioe ymgreinio yna. Fe ddylet wybod mai fi yw'r lleiaf deddfol o'r duwiau. Y mwyaf eangfrydig. A'r parotaf i ddeall amrywiol wendidau'r natur-ddynol.

Nicias

Diolch am hynny, Eich Anrhydedd... hynny ydi Eich duwdod...

Dionysos

Gad inni ddeall ein gilydd. Dwyt ti ddim i sôn am hyn wrth neb. Mi gadwn ni'r gyfrinach i ni'n dau. Gwas a meistr fyddwn ni o hyd. Ydy hynna'n glir?

Nicias

Yn berffaith glir, Syr. Peidiwch â phryderu.

Dionysos

O'r gorau... Eto i gyd, fel y dwedais i o'r blaen, mae gen i achos pryder.

Nicias

Chi o bawb, Syr?

Dionysos

Ia. Fel y gwyddost ti cymeriad digon cellweirus ydw i, ac yn draddodiadol siriol. Serch hynny, mae yna un peth yn fy mhoeni.

Nicias

Beth ydy hwnnw, Syr, mor hy â gofyn?

Dionysos

Tynged Athen, Nicias.

Nicias

O mi ddaw petha eto, w'chi, unwaith y rhown ni gosfa i'r Sbartiaid gythral yna.

Dionysos

Nid y Sbartiaid ydy'r gelyn mwya.

Nicias

O? Pwy felly? (Mae Nicias yn pwyso yn erbyn rostra.)

Dionysos

(Sydyn) Sytha! (Nicias yn neidio i sythu.) Mae dy ymddygiad di'n nodweddiadol o Athen. Llipa, difater a di-asgwrn cefn. Dyna'r peryg mwya, nid y Sbartiaid. Ond mae'r difrawder yna fel afiechyd drwy'r Ddinas... Yr unig lygedyn o obaith a welais i oedd protest yr ifainc.

Nicias

Tybed, d'wch? Stwrllyd ac anghyfrifol —

Dionysos

Ydyn nhw'n pigo dy gydwybod di?

Nicias

Dim o gwbwl. Y ffaith ydi, mae'r busnes politicaidd yma ymhell uwch fy mhen i.

Dionysos

Esgus da am beidio â gwneud dim!

Nicias

Wel, os ydy'r sefyllfa'n eich poeni chi gymaint â hynny, Syr — maddeuwch imi am ofyn — fedrwch chi mo'i newid hi? Hynny ydi, gan eich bod chi, wel, yr hyn ydach chi.

Dionysos

Yn anffodus, fedra i ddim ymyrryd yn uniongyrchol, Nicias. Rhyw dduw bach digon od ydw i. A mae yna derfyn pendant ar f'awdurdod a'm dylanwad.

Nicias

Mae'r rhagolygon yn bur bethma felly? Andros o broblem ddwedwn i.

Dionysos

Ia, a does yna ond un ffordd i'w datrys hyd y gwelaf i.

Nicias

Pa ffordd ydy honno, Syr?

Dionysos

Rhaid mynd ar siwrna bur enbydus.

Nicias

O? Ga'i ofyn ble? (Saib ennyd.)

Dionysos

I Hades.

Nicias

Hades? Arswyd y byd, be wnewch chi yn y fan honno?

Dionysos

Fedra i ddim datguddio'r cynllun ar hyn o bryd. Ond dyna'r unig obaith, hyd y gwelaf, i achub Athen. Ddoi di efo fi, Nicias?

Nicias

Fi?

Dionysos

I gario hwnna. (Pwyntio at y cas.)

Nicias

Ond... ond chawn i ddim mynd yno, Syr. Hynny ydy —

Dionysos

Rwy'n credu bod modd trefnu hynny. Ystumio'r rheolau ryw chydig... Wel, ddoi di?

Nicias

Gofyn go fawr, Syr. Rhaid imi gael amser i feddwl.

Dionysos

Wrth gwrs, rwy'n deall... Edrych yma, rwy 'i am d'adael di am ychydig. Rhaid imi roi dillad gweddus i ymweld â Hades. Hwyrach y byddi di wedi penderfynu erbyn y dof yn ôl.

Nicias

Wel, mi dria i 'ngora.

Dionysos

Da iawn... Fydda i ddim yn hir.



Exit Dionysos. Saib ennyd

Nicias

(Eistedd yn araf) Hades?... Nefoedd yr adar!



Llen neu dywyllwch.

g1g2g3g4a1, g1