| (Robin) Ac yn fwy na hynny mae'r achos hwn yn garreg filltir yn hanes brwydr yr unigolyn. | |
| (1, 0) 14 | Mi fyddwch chi'n sefyll yn rh'wla arall os na fyddwch chi'n byhafio. |
| (1, 0) 15 | Rwan, gawn ni dipyn o drefn. |
| (Robin) Newid y drefn sy' isho. | |
| (Robin) Newid y drefn sy' isho. | |
| (1, 0) 17 | Byddwch ddistaw neu fe fyddwch chi'n gorfod gadael. |
| (Sian) Ond mae gennon ni hawl i leisio'n barn. | |
| (Sian) Ond mae gennon ni hawl i leisio'n barn. | |
| (1, 0) 19 | 'Does gennoch chi ddim hawl i godi trwbwl. |
| (Robin) Tŷ cyhoeddus ydi llys barn, a mae gennon ni... | |
| (Robin) Tŷ cyhoeddus ydi llys barn, a mae gennon ni... | |
| (1, 0) 21 | Tŷ cyfiawnder ydi llys barn, nid syrcas i bobol fel chi. |
| (1, 0) 22 | Does gennoch chi'r bobol ifanc 'ma ddim parch at ddim byd. |
| (Gwyn) Yn wahanol i fel roeddach chi ynte? | |
| (Gwyn) Yn wahanol i fel roeddach chi ynte? | |
| (1, 0) 24 | Mi rwyt ti'n dipyn o lanc yn 'dwyt? ─ |
| (1, 0) 25 | Wel, gwranda di ar hyn, o leia' mi roeddan ni'n dangos parch at rywun arall... |
| (Gwyn) Parch at arch rhywun arall. | |
| (Gwyn) Heddwch i'w lwch o. | |
| (1, 0) 30 | Trefn! |
| (1, 0) 31 | Dipyn o drefn yn y llys os gwelwch yn dda. |
| (1, 0) 32 | Sefwch... |
| (Gwyn) ...ar ganiad y corn gwlad! | |
| (Gwyn) ...ar ganiad y corn gwlad! | |
| (1, 0) 34 | Sefwch i'r fainc... |
| (Robin) ...y ddawns flodau. | |
| (Robin) ...y ddawns flodau. | |
| (1, 0) 37 | Gawn ni DREFN yn y lle 'ma... |
| (Robin) Hist rwan, does dim eisiau gweiddi yn nagoes? | |
| (1, 0) 43 | Barchus Ynadon? |
| (1, 0) 45 | Wnaiff y diffynydd sefyll? |
| (Cadeiryddes y Fainc) Ond, gan ein bod yn credu ei fod yn sefyll ar dir moesol arbennig, rydym yn gytun ein bod yn ei ryddhau'n ddiamod... | |
| (1, 0) 52 | Tawelwch! |
| (1, 0) 53 | Pa achos sy'n dod nesa' offisar? |
| (Offisar) Un Samuel Jones, Llantraeth syr. | |
| (Robin) {Cymeradwyaeth.} | |
| (1, 0) 59 | Os bydd 'na fwy o drwbwl, mi fydda i'n clirio'r cyfleusterau cyhoeddus... |
| (Sian) Yr oriel gyhoeddus 'dach chi'n feddwl. | |
| (Sian) Yr oriel gyhoeddus 'dach chi'n feddwl. | |
| (1, 0) 61 | Dewch a'r diffynydd i'r llys. |
| (Robin) 'Gaf i apelio arnoch i aros yn eich llefydd am fymryn eto. | |
| (Robin) Mae Iago ap Rhydderch ─ ymgyrchydd arall ger bron yn nes ymlaen ac mi rydan ni isho cymaint o gefnogaeth ag sy'n bosibl iddo fo. | |
| (1, 0) 66 | Rhowch o i eistedd yn fanna wrth Ben Little, Offisar. |
| (Un o'r Gynulleidfa) Hei dwi'n nabod hwn. | |
| (1, 0) 71 | Cyn cychwyn ar yr achos hwn mi garwn i chi, barchus ynadon, wrando ar dystiolaeth seicolegydd am gyflwr meddyliol y diffynnydd. |
| (1, 0) 73 | Doctor? |
| (Doctor) Mi rydw i wedi astudio'r person hwn yn ofalus iawn ─ mae o dan fy ngofal personol i yn yr ysbyty. | |
| (Doctor) Felly mi garwn argymell fod y llys yn ystyried Samuel Jones yn ddiffygiol ei feddwl ac yn un nad yw'n gyfrifol am ei weithrediadau. | |
| (1, 0) 95 | Mae hynny'n golygu na chaiff o bledio na thyngu llw, na gofyn nac ateb unrhyw gwestiwn na'i gael yn euog na chael ei gosbi chwaith. |
| (1, 0) 96 | Mi fydd y cyfreithiwr Ben Little yn ymddangos ar ei ran. |
| (Ben) {Mae'n deintio ymlaen, wedi ei wisgo'n smwdd ac yn siarad llediaith.} | |
| (Ben) Ond, ond y fi fydd yn deud y siarad achos rwy'n ei wybod e ers blynyddoedd. | |
| (1, 0) 100 | Cyhuddir Samuel Jones o ddwyn côt fawr ar y degfed o Awst y flwyddyn hon, côt o eiddo David Howells. |
| (1, 0) 101 | P.C. Davies? |
| (Sami) Dwi'n oer! | |
| (Sami) {Gan godi'i law fel plentyn mewn dosbarth.} | |
| (1, 0) 104 | Ben Little! |
| (1, 0) 105 | Wnewch chi gadw eich cleiant dan reolaeth? |
| (1, 0) 106 | Does ganddo fo ddim hawl i ddeud dim byd ─ mae hynny er ei les ei hun. |
| (1, 0) 108 | P.C. Davies? |
| (P.C. Davies) {Yn fecanyddol.} | |
| (1, 0) 116 | Gawn ni fynd yn ôl at yr achos dan sylw, P.C. Davies? |
| (P.C. Davies) Ia...wrth gwrs. | |
| (P.C. Davies) Mi ddôth ar blat... | |
| (1, 0) 120 | Beth yn union rwan cwnstabl? |
| (P.C. Davies) Wel... {cychwyn yn bendant, wedyn edrych yn blanc}... ym... wel, sgiwsiwch fi. | |
| (1, 0) 129 | Ai hon oedd y gôt? |
| (P.C. Davies) Ie. | |
| (P.C. Davies) Ie. | |
| (1, 0) 131 | Ewch ymlaen. |
| (P.C. Davies) Diolch. | |
| (P.C. Davies) Wel, euthum allan o'r car ac at y dyn a gwelais mai Sami So...mai Samuel Jones ydoedd. | |
| (1, 0) 134 | Mi roeddach chi'n ei nabod felly? |
| (P.C. Davies) Yn rhy dda mae gen i ofn. | |
| (P.C. Davies) Nid rhagfarn, ond precoshyns ─ mi rydw i wedi cael trafferth gyda fo o'r blaen. | |
| (1, 0) 139 | Oedd o'n anystywallt y tro yma? |
| (P.C. Davies) Na, mi ddoth fel oen. | |
| (P.C. Davies) Mi wyddwn ei fod o'n mynd i'r seila... i'r sbyty am driniaeth ddwywaith yr wythnos ac mae o wedi bod yn reit dawal ers iddo ddechra ca'l rheiny. | |
| (1, 0) 142 | 'Lwyddoch chi i'w gael o i ddeud rhywbeth? |
| (Ben) Esgeuluswch fi, ond 'doedd genno fe ddim hawl gan fe wyddai fe nad oedd fe yn normal. | |
| (Ben) Esgeuluswch fi, ond 'doedd genno fe ddim hawl gan fe wyddai fe nad oedd fe yn normal. | |
| (1, 0) 144 | Peidiwch â thorri ar draws o hyd. |
| (P.C. Davies) Na, ddwedodd o ddim byd. | |
| (P.C. Davies) Na, ddwedodd o ddim byd. | |
| (1, 0) 146 | Dim byd? |
| (P.C. Davies) Wel... wel, mi roedd o'n mwmial wrtho'i hun. | |
| (P.C. Davies) Wel... wel, mi roedd o'n mwmial wrtho'i hun. | |
| (1, 0) 148 | Am be'? |
| (P.C. Davies) Rwbath am y tywydd. | |
| (P.C. Davies) Rwbath am y tywydd. | |
| (1, 0) 150 | Beth yn union 'rwan? |
| (P.C. Davies) Wel... ei bod hi'n oer... | |
| (P.C. Davies) Wel... ei bod hi'n oer... | |
| (1, 0) 152 | A sut dywydd oedd hi? |
| (P.C. Davies) Un o'r dyddiau poethaf yn Awst. | |
| (P.C. Davies) Un o'r dyddiau poethaf yn Awst. | |
| (1, 0) 154 | Dwi'n gweld...diddorol iawn. |
| (Doctor) Os oedd meddwl abnormal Samuel yn deud ei fod o'n oer... | |
| (1, 0) 168 | Brysiwch, brysiwch ─ mae hi'n dod. |
| (1, 0) 169 | Hei, rho'r gadair na'n fanna yli. |
| (1, 0) 171 | Na, tro hi rownd fel arall. |
| (1, 0) 173 | ... Ia, dyna chi. |
| (1, 0) 174 | Brysiwch rwan ─ i ffwrdd oddi wrthi ─ mae Annie Pi-Pi'n trwsus yn dod. |
| (Plant) Annie Pi-Pi'n trwsus! | |
| (Annie) {Mae'n dechrau tynnu'r sgarff i ffwrdd.} | |
| (1, 0) 186 | O cê hogia, gadwch lonydd iddi am rwan i ni gael mynd ymlaen efo'r gêm. |
| (1, 0) 187 | Cym on Annie ti'n oer, oer ar hyn o bryd... |
| (Annie) {Cerdded tua cefn y llwyfan.} | |
| (Annie) Peidiwch â galw enwa' arna' i ne'... | |
| (1, 0) 198 | Ty'd o'na Annie, tria rhwla arall... |
| (Annie) Ffordd yma 'ta? | |
| (Plant) C'nesu! | |
| (1, 0) 203 | Dal ati, Annie ─ mi rwyt ti bron â bod yno. |
| (Plant) Poethi! | |
| (Annie) Pwy sy' nesa? | |
| (1, 0) 211 | Reit, tro pwy ydi hi rwan? |
| (Un o'r plant) Tro fi! | |
| (1, 0) 218 | O hist, hist! |
| (1, 0) 219 | Mi wna i ddewis 'ta am ych bod chi mor anhrefnus. |
| (Un o'r plant) Nage ─ dewis yn iawn efo ini-mini-maini-mô. | |
| (Un o'r plant) Nage ─ dewis yn iawn efo ini-mini-maini-mô. | |
| (1, 0) 221 | Fi 'di boss y gêm ─ mi wna i ddewis... |
| (1, 0) 223 | Gadewch i mi weld rwan. |
| (Un o'r plant) Hy, dewis ei gariad wneith o ─ watsia di rwan. | |
| (Un o'r plant) {Gweddill y plant yn ategu hyn a bwian y clerc.} | |
| (1, 0) 226 | Nage ddim. |
| (1, 0) 228 | Hei, dwi'n gw'bod pwy fydd nesa' ─ sbiwch pwy sy'n fan'na! |
| (1, 0) 230 | Sbiwch wir. |
| (1, 0) 231 | Dowch yma. |
| (1, 0) 233 | Sami-babi-mami! |
| (1, 0) 234 | Wyt ti isho gem Sami? |
| (1, 0) 235 | Wyt ti isho sgarff rownd dy lygaid? |
| (Sami) {Crebachu mwy eto.} | |
| (Sami) Gadwch lonydd i fi... dwi ddim isio. | |
| (1, 0) 239 | Pam? |
| (1, 0) 240 | E? |
| (1, 0) 241 | Be wyt ti'n mynd i'w wneud 'ta? |
| (Sami) {Gan godi.} | |
| (1, 0) 250 | Ho! mi wn i ─ dwi'n ei dallt hi rwan. |
| (1, 0) 251 | Hen gena slei wyt ti ynte Sami? |
| (1, 0) 252 | Sam slei... |
| (1, 0) 254 | Wyddoch chi be mae |o| am wneud? |
| (Un o'r lleill) Be? | |
| (Un o'r lleill) Be? | |
| (1, 0) 256 | Mae |o|... yn mynd i'r clastrwm... i lyfu Miss Robyts. |
| (1, 0) 257 | Titsiars pet ─ dyna be ydi o. |
| (1, 0) 258 | Titsiars pet ynte Sami? |
| (Sami) Na...na. | |
| (Sami) Na...na. | |
| (1, 0) 260 | Dal bag i Miss Robyts, agor drws i Miss Robyts, rhoi llyfra allan i Miss Robyts, hel llyfra fewn i Miss Robyts, dod a bloda i Miss Robyts. |
| (1, 0) 261 | Titsiars pet! |
| (Plant) Titsiars' pet! | |
| (1, 0) 267 | Na, dwi'n gw'bod. |
| (1, 0) 268 | Dwyt ti ddim yn pet siŵr iawn. |
| (1, 0) 269 | A deud y gwir, dydi Miss Robyts ddim dy lecio dy di o gwbwl. |
| (Un o'r merched) Dwi wedi clywed hi'n deud wrth Mistar Williams dy fod ti'n rêl niwsans a'i bod hi wedi cael llond bol ohonat ti. | |
| (Annie) Hei, paid a galw enwa' ne'... | |
| (1, 0) 276 | Na, mae o'n llawar iawn gwaeth. |
| (Un arall) A mae Miss Robyts yn gwylltio efo ti. | |
| (Un arall) A mae Miss Robyts yn gwylltio efo ti. | |
| (1, 0) 278 | Ia, fel hyn... |
| (1, 0) 280 | Ow! |
| (1, 0) 281 | Beth ar wyneb y ddaear ydi'r ogla 'ma? |
| (1, 0) 282 | Ow! |
| (1, 0) 283 | Pwy wnaeth yr ogla drwg 'ma? |
| (Plant) {Mae pawb ond Sami mewn dwy res gweddol ddestlus rwan yn cogio bod mewn dosbarth.}Samuel Jones, Miss Robyts. | |
| (Plant) {Mae pawb ond Sami mewn dwy res gweddol ddestlus rwan yn cogio bod mewn dosbarth.}Samuel Jones, Miss Robyts. | |
| (1, 0) 285 | Ow, yr hen hogyn bach drwg. |
| (1, 0) 286 | Samuel, dowch ata i'r funud hon. |
| (1, 0) 287 | Dewch yma, Samuel Jones. |
| (1, 0) 289 | Chi wnaeth yr hen ogla drwg ych-a-fi yna eto Samuel Jones? |
| (1, 0) 291 | Atebwch fi! |
| (Sami) Ia... y... ia, Miss Robyts. | |
| (Sami) Ia... y... ia, Miss Robyts. | |
| (1, 0) 293 | Gadewch i mi weld. |
| (1, 0) 295 | Ow, dear me! |
| (1, 0) 296 | YCH-A-FI! |
| (1, 0) 297 | Yr hen fochyn bach budur, budur, budur. |
| (1, 0) 299 | Samuel Jones, pam ych bod chi'n baeddu'ch trowsus o hyd ac o hyd ac o HYD! |
| (1, 0) 300 | Does gennoch chi ddim ofn codi'ch llaw yn nagoes? |
| (Sami) {A'i ben i lawr.} | |
| (Sami) Nagoes, Miss Robyts. | |
| (1, 0) 303 | Ac mi wyddoch chi lle mae'r tŷ bach? |
| (Sami) Yndw, miss. | |
| (Sami) Yndw, miss. | |
| (1, 0) 305 | Wel, pam 'ta? |
| (1, 0) 307 | Wir, dydi'r ddynas 'na ddim ffit i edrach ar ôl ci heb sôn am hogyn bach. |
| (Sami) Nain? | |
| (Sami) Nain? | |
| (1, 0) 309 | Nain wir. |
| (1, 0) 310 | Hen ddynas wyllt o'r coed fasa'n nes ati. |
| (1, 0) 311 | Mi fydd yn rhaid i mi ei riportio hi a mynd a thi i'r cartra' lle cei di ofal go iawn. |
| (Sami) Ond mae tŷ nain yn gynnas. | |
| (Sami) Na...addo. | |
| (1, 0) 318 | Ow, yr hen hogyn bach drwg ─ mi ddysga i di... |
| (Sami) Ond mae o'n deud clwydda! | |
| (Sami) Ond mae o'n deud clwydda! | |
| (1, 0) 320 | (Gan droi at P.C. Davies) |
| (1, 0) 321 | Wel? |
| (P.C. Davies) Dwi'n deud y gwir i gyd, Miss. | |
| (P.C. Davies) Dwi'n deud y gwir i gyd, Miss. | |
| (1, 0) 323 | Dydi plant da ddim yn deud clwydda. |
| (1, 0) 325 | Dim ond plant drwg sy'n gneud hynny. |
| (1, 0) 326 | Dos i sefyll yn y gornal tra bydda i yn dysgu'r plant da i sgwennu. |
| (1, 0) 327 | Dim ond plant da sy'n cael dysgu sgwennu a gneud syms. |
| (1, 0) 328 | Plant da sy'n cael dysgu darllen. |
| (1, 0) 329 | Plant da sy'n cael testimonial i gael job dda. |
| (1, 0) 330 | Ond mae plant drwg yn mynd i drwbwl. |
| (1, 0) 331 | Rwan dos i'r gornal... |
| (Sami) Ond dwi'n oer yn y gomal, Miss... | |
| (1, 0) 341 | Ia, chwilia am y gadair Sami. |
| (1, 0) 343 | Fan hyn yli ─ fan hyn Sami. |
| (Plant) C'nesu! | |
| (Sami) {Mae'n gwenu'n braf wrth baratoi i eistedd ynddi ond ar y funud olaf mae'r Clerc yn chwipio'r gadair i ffwrdd oddi tano ac mae'n disgyn ar ei gefn ar lawr i swn chwerthin y plant.} | |
| (1, 0) 352 | Ha! ha! |
| (1, 0) 353 | Dydi o ddim mor hawdd a hynny, Sami bach. |
| (1, 0) 354 | Fan hyn mae hi yli. |
| (Siopwraig) {Mae'n dad-rowlio ei phoster, ac arno mewn llythrennau bras mae 'Yn eisiau: llanc cryf, gweithgar.} | |
| (1, 0) 712 | Trefn! |
| (1, 0) 713 | Gawn ni drefn yn y llys. |
| (1, 0) 717 | Cyfiawnder sydd yn y lle yma nid carnifal. |
| (1, 0) 719 | Ewch 'mlaen efo'ch adroddiad, doctor. |
| (Doctor) Ie, wel ar ôl cyfnod y rhyfel 'roedd yn amhosibl i'r claf gael gwaith wrth gwrs. | |
| (Sami) ...i'r ffrij! | |
| (1, 0) 726 | Wnewch chi gadw'ch cleiant dan reolaeth Ben Little ─ dydw i ddim eisiau dweud hynny eto. |
| (Ben) Mae'n ddrwg gen i. | |
| (Ben) Wneith fe ddim digwydd eto. | |
| (1, 0) 729 | Daliwch ati, doctor. |
| (Doctor) Y cyfan sydd gen i i'w ddweud yw awgrymu mai'r peth gorau fyddai iddo ddychwelyd atom ni. | |
| (Doctor) Mae gen i ofn ei fod o'n un o'r rheiny sydd wedi cael eu geni i'r byd er mwyn i weddill cymdeithas ofalu amdanyn nhw. | |
| (1, 0) 733 | Barchus ynadon? |
| (Cadeiryddes) Y-hym. | |
| (1, 0) 755 | Pa achos sy nesa'? |