Drama un-act

Y Sosban (1982)

Myrddin ap Dafydd

Ⓗ 1982 Myrddin ap Dafydd
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



GOLYGFA

Mae'r llwyfan wedi ei rannu'n dri ─ mae golygfa llys ynadon yn y cefn, yna cynulleidfa y llys ac ar y dechrau mae blaen y llwyfan yn wag. Cyn codi'r golau mae pawb yn ei le yn barod ar wahân i'r ynadon. Pan ddaw'r golau, clywir cymeradwyaeth swnllyd gan aelodau'r oriel gyhoeddus. Mae un ohonynt ar ei draed yn eu hannerch.

Robin

Ac yn fwy na hynny mae'r achos hwn yn garreg filltir yn hanes brwydr yr unigolyn. Mi glywsoch i gyd am 1984, police state a gormes gwladwriaeth ─ mae a wnelo'r achos hwn a hynny i gyd. Nid achos cyffredin o ddwyn ydi hwn, nid dwyn arwydd ydi'r cyhuddiad y dylai'r ynadon drwodd fanna ei ystyried ond y cyhuddiad o sefyll dros iaith, sefyll dros hawliau a sefyll dros gyfiawnder i'r unigolyn. (Cymeradwyaeth a gweiddi.)

Sian

Rhyddid i'r unigolyn!

Robin

Mi rydan ni'n mynd i sefyll dros ein hawliau.

Clerc

(Gan godi ar ei draed.) Mi fyddwch chi'n sefyll yn rh'wla arall os na fyddwch chi'n byhafio. Rwan, gawn ni dipyn o drefn.

Robin

Newid y drefn sy' isho.

Clerc

Byddwch ddistaw neu fe fyddwch chi'n gorfod gadael.

Sian

Ond mae gennon ni hawl i leisio'n barn.

Clerc

'Does gennoch chi ddim hawl i godi trwbwl.

Robin

Tŷ cyhoeddus ydi llys barn, a mae gennon ni...

Clerc

Tŷ cyfiawnder ydi llys barn, nid syrcas i bobol fel chi. Does gennoch chi'r bobol ifanc 'ma ddim parch at ddim byd.

Gwyn

Yn wahanol i fel roeddach chi ynte?

Clerc

Mi rwyt ti'n dipyn o lanc yn 'dwyt? ─ Wel, gwranda di ar hyn, o leia' mi roeddan ni'n dangos parch at rywun arall...

Gwyn

Parch at arch rhywun arall.

Robin

Gawn ni dipyn o dawelwch er mwyn dyledus barch at gyfiawnder, yr hwn a'n gadawodd ni mor ddisymwth.

Sian

Gorffwysed mewn hedd.

Gwyn

Heddwch i'w lwch o.

Clerc

Trefn! Dipyn o drefn yn y llys os gwelwch yn dda. Sefwch...

Gwyn

...ar ganiad y corn gwlad!

Clerc

Sefwch i'r fainc...

Robin

...y ddawns flodau.



Daw'r ynadon i mewn yn gwisgo hetiau blodeuog.

Clerc

Gawn ni DREFN yn y lle 'ma...

Robin

Hist rwan, does dim eisiau gweiddi yn nagoes?

Sian

A oes heddwch?

Pawb:

HEDDWCH!

Gwyn

Gorffwysed y llys yn hedd ei gyfiawnder.

Clerc

(Wrth yr ynadon.) Barchus Ynadon? (Yna'n troi at y gynulleidfa.) Wnaiff y diffynydd sefyll? (Saif Robin.)

Cadeiryddes y Fainc

(Pesychiad bach.) Mi rydan ni fel ynadon yn cael Robin ap Edwart yn euog o ladrad a gwneud difrod maleisus i eiddo'r Weinyddiaeth Drafnidiaeth. (Y gynulleidfa'n bwio.) Ond, gan ein bod yn credu ei fod yn sefyll ar dir moesol arbennig, rydym yn gytun ein bod yn ei ryddhau'n ddiamod...



(Y gynulleidfa'n cymeradwyo ac yn cychwyn canu 'Fe orchfygwn ni'.)

Clerc

Tawelwch! Pa achos sy'n dod nesa' offisar?

Offisar

Un Samuel Jones, Llantraeth syr.

Robin

(Wrth ei gynulleidfa:.) Canlyniad gwych! Mae hyn wedi bod yn fuddugoliaeth fawr i'n hymdrech ni. (Cymeradwyaeth.)

Clerc

Os bydd 'na fwy o drwbwl, mi fydda i'n clirio'r cyfleusterau cyhoeddus...

Sian

Yr oriel gyhoeddus 'dach chi'n feddwl.

Clerc

Dewch a'r diffynydd i'r llys.



Daw'r Offisar a Samuel Jones i mewn. Mae Sami'n edrych ar goll braidd.

Robin

'Gaf i apelio arnoch i aros yn eich llefydd am fymryn eto. Mae Iago ap Rhydderch ─ ymgyrchydd arall ger bron yn nes ymlaen ac mi rydan ni isho cymaint o gefnogaeth ag sy'n bosibl iddo fo.

Clerc

Rhowch o i eistedd yn fanna wrth Ben Little, Offisar.

Un o'r Gynulleidfa

Hei dwi'n nabod hwn.

Un arall

Ia, dod o'r seilam mae o. Nytar ydi o.

Clerc

(Wrth yr ynadon.) Cyn cychwyn ar yr achos hwn mi garwn i chi, barchus ynadon, wrando ar dystiolaeth seicolegydd am gyflwr meddyliol y diffynnydd. (Gan amneidio.) Doctor?

Doctor

Mi rydw i wedi astudio'r person hwn yn ofalus iawn ─ mae o dan fy ngofal personol i yn yr ysbyty. Ces diddorol iawn, iawn. Elfennau o'r clefydau nosophobia, ffilophobia a ffrwadophobia'n perthyn iddo fo. Eithriadol! Meddwl plentyn er ei fod o yn tynnu at ei drigain. Wedi ei fagu gan ei nain mae'n debyg, ─ er nad ydan ni'n siwr os oedd hi'n perthyn drwy waed. Diddorol 'dach chi'n gweld. Wedyn mi rydan ni wedi cael llawer o dystiolaeth gan gyn-athrawon, gan gyfoedion oedd yn yr ysgol hefo fo ─ a gwahanol aelodau o'i gymdeithas leol o...



Mae'n rhannu adroddiadau i'r ynadon a'r clerc tra mae'r gynulleidfa yn siarad ymysg ei gilydd.

Un o'r Gynulleidfa

(A'i fys ar ei dalcen.) Mae o'n honco bost.

Robin

Dod o'r dre ar un bys wedyn aros oria' yn y bys stop am y bys nesa'n ôl i'r dre!

Sian

Ie, rwy'n cofio nawr ─ roedd o'n arfer rhedeg ar ôl plant bach efo ffon a nhwtha'n gneud dim byd ond cael dipyn o hwyl.

Un arall

Doedd o ddim yn saff iawn efo hen bobol chwaith. Wyddech chi ddim be wna' i o nesa. Doedd o'n gneud dim ond hel ei draed o gwmpas y lle.

Robin

Roedd o'n byw ac yn bod yn y dymp yn hel petha roedd pawb call yn eu taflu i ffwrdd.

Un arall

Roedd o'n berig i iechyd y lle 'ma ─ yn fudur ac yn drewi. Ych a fi. Mi roedd hi'n hen bryd iddyn nhw fynd â fo i ffwrdd wir.

Doctor

Felly mi garwn argymell fod y llys yn ystyried Samuel Jones yn ddiffygiol ei feddwl ac yn un nad yw'n gyfrifol am ei weithrediadau.

Clerc

Mae hynny'n golygu na chaiff o bledio na thyngu llw, na gofyn nac ateb unrhyw gwestiwn na'i gael yn euog na chael ei gosbi chwaith. Mi fydd y cyfreithiwr Ben Little yn ymddangos ar ei ran.

Ben

(Mae'n deintio ymlaen, wedi ei wisgo'n smwdd ac yn siarad llediaith.) Y mae Mr Samuel Jones yn bresennol yn yr achos, barchus ynadon, achos mae e'n ddigon yn ei synwyrusrwydd iddo fe adnabod beth sy'n mynd ymlaen. Ond, ond y fi fydd yn deud y siarad achos rwy'n ei wybod e ers blynyddoedd.

Clerc

Cyhuddir Samuel Jones o ddwyn côt fawr ar y degfed o Awst y flwyddyn hon, côt o eiddo David Howells. P.C. Davies?

Sami

Dwi'n oer! (Gan godi'i law fel plentyn mewn dosbarth.)

Clerc

Ben Little! Wnewch chi gadw eich cleiant dan reolaeth? Does ganddo fo ddim hawl i ddeud dim byd ─ mae hynny er ei les ei hun. (Troi at P.C.) P.C. Davies?

P.C. Davies

(Yn fecanyddol.) Rwy'n tyngu 'mod i'n deud y gwir, yr holl wir a dim ond y gwir; P.C. 73, plismon pentra Llantraeth. Yn y ffors ers ugain mlynedd... (I gyd ar un gwynt; yna'n arafach.) ... byth wedi cael dyrchafiad. Dim lot o betha'n digwydd o gwmpas Llan 'cw, dach chi'n gweld, heb gael siawns i ddangos fy...

Clerc

(Yn cychwyn blino.) Gawn ni fynd yn ôl at yr achos dan sylw, P.C. Davies?

P.C. Davies

Ia...wrth gwrs. Do, mi ges i fy nghyfla fis Awst diwetha. Mi ddôth ar blat...

Clerc

Beth yn union rwan cwnstabl?

P.C. Davies

Wel... (cychwyn yn bendant, wedyn edrych yn blanc)... ym... wel, sgiwsiwch fi.



Mae'n tynnu ei lyfr nodiadau allan o'i boced a throi i'r dudalen gywir. Mae'n darllen yn fawreddog.

P.C. Davies

Ar y degfed o Awst y flwyddyn hon am bedwar munud wedi tri yn y prynhawn, fe gefais neges ffôn oddi wrth Mr David Howells yn dweud fod ei gôt wedi ei dwyn o'i fodur tra roedd o'n nofio. Euthum ar fy union i'r fan lle roedd modur Mr Howells a gofynais iddo ddychwelyd i'r swyddfa gyda mi. Nepell o'r fan fe waeddodd Mr Howells, 'Dacw hi', gofynnais innau 'Beth?' 'Fy nghot wrth gwrs', atebodd gan gyfeirio'i fys at ddyn yn cysgu wrth ochr y ffordd gyda chôt fawr amdano.

Clerc

(Pwyntio at gôt gan yr Offisar.) Ai hon oedd y gôt?

P.C. Davies

Ie.

Clerc

Ewch ymlaen.

P.C. Davies

Diolch. Wel, euthum allan o'r car ac at y dyn a gwelais mai Sami So...mai Samuel Jones ydoedd.

Clerc

Mi roeddach chi'n ei nabod felly?

P.C. Davies

Yn rhy dda mae gen i ofn. Dwedais wrtho am dynnu'r gôt a dod gyda mi heb ddim nonsens.

Ben

Esgeuluswch fi, a wnaiff y llys nodi rhagfarn P.C. 73?

P.C. Davies

Nid rhagfarn, ond precoshyns ─ mi rydw i wedi cael trafferth gyda fo o'r blaen.

Clerc

Oedd o'n anystywallt y tro yma?

P.C. Davies

Na, mi ddoth fel oen. Mi wyddwn ei fod o'n mynd i'r seila... i'r sbyty am driniaeth ddwywaith yr wythnos ac mae o wedi bod yn reit dawal ers iddo ddechra ca'l rheiny.

Clerc

'Lwyddoch chi i'w gael o i ddeud rhywbeth?

Ben

Esgeuluswch fi, ond 'doedd genno fe ddim hawl gan fe wyddai fe nad oedd fe yn normal.

Clerc

Peidiwch â thorri ar draws o hyd.

P.C. Davies

Na, ddwedodd o ddim byd.

Clerc

Dim byd?

P.C. Davies

Wel... wel, mi roedd o'n mwmial wrtho'i hun.

Clerc

Am be'?

P.C. Davies

Rwbath am y tywydd.

Clerc

Beth yn union 'rwan?

P.C. Davies

Wel... ei bod hi'n oer...

Clerc

A sut dywydd oedd hi?

P.C. Davies

Un o'r dyddiau poethaf yn Awst.

Clerc

Dwi'n gweld...diddorol iawn.

Doctor

Os oedd meddwl abnormal Samuel yn deud ei fod o'n oer...



Y golau'n tywyllu a llais Sami i'w glywed yn fain dros yr uchelseinydd yn dweud 'Dwi'n oer... dwi'n oer..." gan gryfhau fel mae'r doctor yn mynd rhagddo.

Doctor

...yna mi fyddai'i gorff o'n wirioneddol oer. Roedd hyn yn mynd yn ôl i'w blentyndod o mae'n debyg ─ diddorol wyddoch chi ─ ac mae o i'w weld drwy'i lencyndod o adeg y rhyfel hefyd diddorol iawn...



Clywir Sami'n dweud 'Dwi'n oer...dwi'n oer!" nes ei fod yn gweiddi'n niwrotig. Mae tywyllwch llwyr ar ôl geiriau'r Doctor ─ digon o amser i rai o'r gynulleidfa yn y llys i adael y llwyfan. Cwyd sbot o olau ar ochr flaen chwith y llwyfan lle mae Sami yn ei gwman. Ar ôl i'r llais dros yr uchelseinydd orffen, daw rhai o gynulleidfa'r llys i flaen y llwyfan mewn dillad plant. Mae'r golau'n codi arnynt ac maent yn dawnsio mewn cylch gan weiddi-canu 'Sami bach yn oer, Sami bach yn oer!' Yna daw clerc y llys ─ mae wedi tynnu ei siwt a'i dei ac mae'n gwisgo trowsus bach; P.C. Davies ─ mae'n gwisgo cap ysgol yn lle helmed ac wedi rowlio ei drowsus i fyny at ei bengliniau, a'r Doctor sydd hefyd mewn dillad plentyn, ymlaen at weddill y plant. Mae'r golau'n ehangu i gynnwys canol y llwyfan ond gan gadw golygfa'r llys yn y tywyllwch os yn bosibl.

Clerc

(Yn rhedeg i ganol cylch y plant.) Brysiwch, brysiwch ─ mae hi'n dod. Hei, rho'r gadair na'n fanna yli. (Mae dau o'r plant yn dod a chadair Sami o olygfa'r llys i flaen y llwyfan.) Na, tro hi rownd fel arall. (Mae'n wynebu'r gynulleidfa rwan.) ... Ia, dyna chi. Brysiwch rwan ─ i ffwrdd oddi wrthi ─ mae Annie Pi-Pi'n trwsus yn dod.



Daw Cadeiryddes y Fainc i mewn fel Annie gyda sgarff rownd ei llygaid a'i breichiau allan yn ymbalfalu ei ffordd. Mae'r plant yn rhedeg o'i chwmpas.

Plant

Annie Pi-Pi'n trwsus! Annie Pi-Pi'n trwsus!

Annie

(Mewn tempar.) O, stopiwch, STOPIWCH! Fydda i ddim yn chwara' os ydach chi'n galw enwa' arna'i... (Y plant yn chwerthin am ei phen.) STOPIWCH! Neu 'fydda i ddim yn chwara... (Mae'n dechrau tynnu'r sgarff i ffwrdd.)

Clerc

O cê hogia, gadwch lonydd iddi am rwan i ni gael mynd ymlaen efo'r gêm. Cym on Annie ti'n oer, oer ar hyn o bryd...

Annie

(Cerdded tua cefn y llwyfan.) Sut ydw i rwan?

Plant

Oerach! Oerach!

Annie

(Mynd tua'r chwith.) Sut ydw i rwan ta?

Plant

Oerach! Oerach!

Un ohonynt

O, Annie, ti'n dda i ddim...

Annie

Peidiwch â galw enwa' arna' i ne'...

Clerc

Ty'd o'na Annie, tria rhwla arall...

Annie

Ffordd yma 'ta? (Mynd tua'r gadair.)

Plant

C'nesu! C'nesu!

Clerc

Dal ati, Annie ─ mi rwyt ti bron â bod yno.

Plant

Poethi! Poethi! (Mae Annie'n rhoi 'i llaw ar y gadair ac yna'n eistedd arni.) Hwre!

Annie

(Gan dynnu'r sgarff.) Hy, mi roedd hynny'n hawdd. Pwy sy' nesa?

Clerc

Reit, tro pwy ydi hi rwan?

Un o'r plant

Tro fi! Fy nhro i ydi hi rwan!

P.C. Davies

Nage ddim boi bach ─ mi gest ti dy dro ar fy ôl i ddwytha...

Doctor

Dwi heb gael tro ers lot...

P.C. Davies

Cau dy geg!

Clerc

(Gan neidio i ben y gadair.) O hist, hist! Mi wna i ddewis 'ta am ych bod chi mor anhrefnus.

Un o'r plant

Nage ─ dewis yn iawn efo ini-mini-maini-mô.

Clerc

Fi 'di boss y gêm ─ mi wna i ddewis... (Edrych o'i gwmpas.) Gadewch i mi weld rwan.

Un o'r plant

Hy, dewis ei gariad wneith o ─ watsia di rwan. (Gweddill y plant yn ategu hyn a bwian y clerc.)

Clerc

Nage ddim. (Mae'n gweld Sami.) Hei, dwi'n gw'bod pwy fydd nesa' ─ sbiwch pwy sy'n fan'na! (Mae'n dod i lawr oddi ar ei gadair a mynd drwy ganol y plant at Sami yng nghornel chwith y llwyfan.) Sbiwch wir. Dowch yma. (Sami'n crynu fwyfwy wrth i'r plant gasglu o'i amgylch.) Sami-babi-mami! Wyt ti isho gem Sami? Wyt ti isho sgarff rownd dy lygaid?

Sami

(Crebachu mwy eto.) Na...na...agoes. Gadwch lonydd i fi... dwi ddim isio.

Clerc

Pam? E? Be wyt ti'n mynd i'w wneud 'ta?

Sami

(Gan godi.) Dwi... dwi am fynd i'r clas-rwm.

Un o'r plant

(Gan ei dynnu'n ôl i lawr.) Ond chei di ddim. Mae hi'n amser chwara' rwan.

P.C. Davies

Ia, chei di ddim ond row gan Miss. (Gan roi cic iddo.)

Clerc

(Fel petai'n cael gweledigaeth sydyn.) Ho! mi wn i ─ dwi'n ei dallt hi rwan. Hen gena slei wyt ti ynte Sami? Sam slei... (Troi at y lleill.) Wyddoch chi be mae o am wneud?

Un o'r lleill

Be?

Clerc

Mae o... yn mynd i'r clastrwm... i lyfu Miss Robyts. Titsiars pet ─ dyna be ydi o. Titsiars pet ynte Sami?

Sami

Na...na.

Clerc

Dal bag i Miss Robyts, agor drws i Miss Robyts, rhoi llyfra allan i Miss Robyts, hel llyfra fewn i Miss Robyts, dod a bloda i Miss Robyts. Titsiars pet!

Plant

Titsiars' pet! Titsiars' pet!

Sami

Wnes i 'rioed... naddo... NADDO! ( Saib.)

Clerc

(Yn ddistaw a milain.) Na, dwi'n gw'bod. Dwyt ti ddim yn pet siŵr iawn. A deud y gwir, dydi Miss Robyts ddim dy lecio dy di o gwbwl.

Un o'r merched

Dwi wedi clywed hi'n deud wrth Mistar Williams dy fod ti'n rêl niwsans a'i bod hi wedi cael llond bol ohonat ti.

P.C. Davies

Mae hi'n deud dy fod ti'n hen hogyn bach budur.

Un arall

Ia, hen fochyn bach. Byth yn mynd i'r tŷ bach pan ddyliat ti. Fatha Annie Pi-Pi'n trwsus!

Annie

Hei, paid a galw enwa' ne'...

Clerc

Na, mae o'n llawar iawn gwaeth.

Un arall

A mae Miss Robyts yn gwylltio efo ti.

Clerc

Ia, fel hyn... (Dynwared llais uchel hen ferch.) Ow! Beth ar wyneb y ddaear ydi'r ogla 'ma? Ow! Pwy wnaeth yr ogla drwg 'ma?

Plant

(Mae pawb ond Sami mewn dwy res gweddol ddestlus rwan yn cogio bod mewn dosbarth.)Samuel Jones, Miss Robyts.

Clerc

Ow, yr hen hogyn bach drwg. Samuel, dowch ata i'r funud hon. Dewch yma, Samuel Jones. (Mae'r plant yn ei wthio ato.) Chi wnaeth yr hen ogla drwg ych-a-fi yna eto Samuel Jones? (Saib.) Atebwch fi!

Sami

Ia... y... ia, Miss Robyts.

Clerc

Gadewch i mi weld. (Ei droi rownd ac edrych lawr ei drowsus.) Ow, dear me! YCH-A-FI! Yr hen fochyn bach budur, budur, budur. (Mae'n ei daro ar draws ei ben ol.) Samuel Jones, pam ych bod chi'n baeddu'ch trowsus o hyd ac o hyd ac o HYD! Does gennoch chi ddim ofn codi'ch llaw yn nagoes?

Sami

(A'i ben i lawr.) Nagoes, Miss Robyts.

Clerc

Ac mi wyddoch chi lle mae'r tŷ bach?

Sami

Yndw, miss.

Clerc

Wel, pam 'ta? ( Saib.) Wir, dydi'r ddynas 'na ddim ffit i edrach ar ôl ci heb sôn am hogyn bach.

Sami

Nain?

Clerc

Nain wir. Hen ddynas wyllt o'r coed fasa'n nes ati. Mi fydd yn rhaid i mi ei riportio hi a mynd a thi i'r cartra' lle cei di ofal go iawn.

Sami

Ond mae tŷ nain yn gynnas. (Y Clerc yn troi'i gefn amo.).

P.C. Davies

O! Miss! Mi wnaeth Sami dynnu stumia hyll arnoch chi rwan.

Sami

Na...addo.

Clerc

Ow, yr hen hogyn bach drwg ─ mi ddysga i di...

Sami

Ond mae o'n deud clwydda!

Clerc

(Gan droi at P.C. Davies) Wel?

P.C. Davies

Dwi'n deud y gwir i gyd, Miss.

Clerc

Dydi plant da ddim yn deud clwydda. (Wrth Sami.) Dim ond plant drwg sy'n gneud hynny. Dos i sefyll yn y gornal tra bydda i yn dysgu'r plant da i sgwennu. Dim ond plant da sy'n cael dysgu sgwennu a gneud syms. Plant da sy'n cael dysgu darllen. Plant da sy'n cael testimonial i gael job dda. Ond mae plant drwg yn mynd i drwbwl. Rwan dos i'r gornal...

Sami

Ond dwi'n oer yn y gomal, Miss...



Mae'r plant yn gadael rhesi'r 'dosbarth' ac yn rhedeg o amgylch Sami. Exit y Doctor.

Plant

Sami bach yn oer! Sami bach yn oer!

Un ohonynt

Wyt, mi rwyt ti'n oer, Sami. (Gan glymu'r sgarff am ei lygaid.) Rwan, chwilia am y gadair.

Clerc

(Yn ei lais plentyn yn awr.) Ia, chwilia am y gadair Sami. (Mae'n gafael yng nghefn y gadair a'i phwyntio at Sami.) Fan hyn yli ─ fan hyn Sami.

Plant

C'nesu! C'nesu!

Sami

Dwi'n chwilio... dwi'n chwilio...

Plant

Poethi! Poethi!

Sami

(Gan roi un llaw ar y gadair.) Dwi wedi'i chyrraedd hi! (Mae'n gwenu'n braf wrth baratoi i eistedd ynddi ond ar y funud olaf mae'r Clerc yn chwipio'r gadair i ffwrdd oddi tano ac mae'n disgyn ar ei gefn ar lawr i swn chwerthin y plant.)

Clerc

Ha! ha! Dydi o ddim mor hawdd a hynny, Sami bach. Fan hyn mae hi yli.



Sami yn cychwyn ato eto ─ tua chornel chwith y llwyfan a'r un peth yn digwydd eto. Ar ôl iddo ddisgyn yr ail waith, nid yw'n codi tan i'r plant fynd allan i'r chwith efo'r gadair yn gweiddi 'Sami bach yn oer, Sami bach yn oer' ac i un ohonynt gymryd y sgarff oddi ar ei lygaid cyn mynd.

Fel mae sŵn y plant yn distewi, daw Siopwraig i mewn o'r chwith i flaen chwith y llwyfan, yr Helth Inspector i mewno'r dde i ganol y llwyfan a'r Doctor i mewn o'r dde i flaen dde y llwyfan. Maent yn cario bwrdd neu ddesg fechan bob un gyda rhowlyn o bapur linen wedi ei binio i flaen pob desg. Yn union cyn dechrau siarad maent yn gollwng y rhowlyn o'u blaenau. Byddai'n medru bod yn effeithiol pe gellir cael sbot yn dilyn Sami o'r naill i'r llall.

Siopwraig

(Mae'n dad-rowlio ei phoster, ac arno mewn llythrennau bras mae 'Yn eisiau: llanc cryf, gweithgar.) Yn eisiau, llanc cryf, gweithgar i gario allan o'r siop. Un parod ei wên a pharod ei wasanaeth sy'n nabod yr ardal yn dda ac yn fodlon gweithio gyda'r nos ac ar Sadyrna'. Rhoddir tal yn ôl y cyfrifoldeb y rhoddwn arno. (Pesychiad bach, ac yna ail-gychwyn ar yr hysbyseb.) Yn eisiau, llanc cryf...

Sami

(Sy'n dangos cryn ddiddordeb erbyn hyn.)| Sgiwsiwch fi, miss...

Siopwraig

Noswaith dda...beth alla i wneud i chi?

Sami

Mi rydach chi isho hogyn meddech chi...

Siopwraig

(Yn bendant.) Llanc cryf, gweithgar sy' gen i isho.

Sami

Wel, mi rydw i'n gryf. Sbiwch. (Dangos ei freichiau.) A dwi wedi arfer codi petha trwm... a... a ma' nain yn deud na welodd hi fy math i am dorri coed. Mi fedra'i...

Siopwraig

Mi rwyt ti wedi gadael yr ysgol, debyg?

Sami

Do, ers talwm.

Siopwraig

A be' fuost ti'n ei wneud ers hynny?

Sami

Y... dim byd lot. Anodd cael gwaith wyddoch chi... ond, mi ron i'n gneud dipyn o gwmpas y ty adra...

Siopwraig

(Yn sgwennu ar gerdyn.) Rwan, elli di ddeud wrtha i lle mae'r ty yma pe taswn i eisiau i ti fynd a neges yno ar gefn dy feic?

Sami

(Yn cymryd y cerdyn.) Ond... ond 'does genno'i ddim beic...

Siopwraig

Beic y siop fyddi di'n 'ddefnyddio siŵr iawn.

Sami

Ond dydach chi ddim yn dallt...

Siopwraig

(Yn siarp.) Beth na fedra i mo'i ddallt?

Sami

Fedra i... wel, fedra i ddim reidio beic...

Siopwraig

Ddim reidio beic! Llanc dy oed ti yn methu mynd ar gefn beic! Mi rwyt ti yn tynnu 'nghoes i, yn dwyt? Gwylia di...

Sami

Nachdw! NACHDW! Dwi'n deud y gwir.



Saib.

Sami

Fuodd gen i erioed feic. 'Na'th neb brynu un i mi erioed... a 'doedd 'run o'r plant eraill yn gadael i mi gael tro ar eu beicia' nhwtha chwaith.

Siopwraig

Dwi'n gweld. Wel, darllen hwnna beth bynnag i mi gael gweld os wyt ti'n gw'bod lle mae o.



Saib. Nid yw Sami'n edrych ar y cerdyn.

Siopwraig

Wel, darllen o.

Sami

Ond dydach chi ddim yn dallt.

Siopwraig

Be nad ydw i'n ei ddallt 'tro yma?

Sami

Ond... 'fedra i ddim darllen.

Siopwraig

Ddim... ddim darllen.



Saib.

Siopwraig

Ond be' fuost ti'n ei wneud yn yr ysgol 'ta? E?

Sami

Ond... mi 'roeddan nhw'n fy ngyrru i i'r gornel.

Siopwraig

Hogyn drwg ia? Hogyn drwg oeddat ti yn yr ysgol.

Sami

Nhw oedd yn...

Siopwraig

Wel, dwi ddim isho hogyn drwg yn fy siop i. Dwi isho un cyfrifol, un sy'n barod ei wên a'i wasanaeth. Yn eisiau, llanc cryf, gweithgar sy'n medru reidio beic a darllen.



Mae'r Helth Inspector yn gollwng ei rhowlyn o flaen ei desg ac arno mae'r geiriau 'Yn eisiau, gofalwr tai bach'.

Inspector

Yn eisiau, gofalwr tai bach yng nghyfleusterau cyhoeddus y dre'. Rhaid iddo fod yn gyfarwydd a glanhau, newid papur a delio ag unrhyw fandaliaeth. Ni fydd cyflog ond dylai'r gofalwr wneud ceiniog go lew o gael tips gan ymwelwyr. Yn eisiau, gofalwr tai bach...

Sami

(Sydd wedi symud ati hi erbyn hyn.) Tybad fedrwch chi ddeud wrtha i...

Inspector

Helo, ymgeisydd ar gyfer y swydd ia?

Sami

Ia, dyna chi.

Inspector

Enw?

Sami

(Yn eiddgar.) Samuel Jones.

Inspector

Profiad blaenorol?

Sami

E?

Inspector

Fuest ti'n g'neud y math yma o waith o'r blaen?

Sami

Fi oedd yn carthu cwt y ci adra...

Inspector

Paid ti a meiddio a chymharu ein tai bach ni a chwt dy gi di adra 'ngwas i. Wyt ti'n sylweddoli bod rhain yn rhai cyhoeddus ─ yn adlewyrchiad o gymeriad y dre? Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn lan ac yn foethus ─ meddal nid papur sglein sydd ynddyn nhw. Wyt ti'n debol i le fel'na, 'ddyliet ti?

Sami

Dwi ddim yn gwbod...

Inspector

Fedri di ddelio efo fandaliaeth?

Sami

(Gan droi i ffwrdd.) Dwn 'im. Dwn 'im.

Inspector

Fedri di ddarllen y sgwennu ar y wal?

Sami

Na fedra.

Inspector

Fedri di son am y gwahaniaeth rhwng papur meddal a phapur sglein?

Sami

Na fedra.

Inspector

Fedri di...

Sami

Na fedra! Na fedra! (Saib.)

Inspector

(Yn ddistawach.) Pam na wnei di ymuno â'r armi 'ngwas i? Mi fydd pawb yn gorfod g'neud hynny toc, felly waeth dy fod ti ym mlaen y ciw ddim.



Mae'r Doctor yn dadrowlio'r hysbyseb ar flaen ei ddesg ac arno mae'r geiriau: 'Yn eisiau: Dynion i'r Armi.'

Doctor

Isho ymuno a'r armi ia? Wel, maen nhw'n cymryd rwbath ond iddyn nhw basio'r medical yn gynta ti'n gweld. Rwan agor dy geg a deud "A".

Sami

A.

Doctor

Yr argian fawr, mi roedd hwnna'n swnio'n wag. Tria fo eto.

Sami

Aaa.

Doctor

Mm. Wyt ti wedi gweld doctor o'r blaen, Sami?

Sami

Naddo, 'rioed.

Doctor

Mae gen i lythyrau gan athrawon ysgol fan hyn ac un gan dy blismon pentra di ac yn ôl be' maen nhw'n ddeud, mi ddylat ti fod wedi gweld un ers blynyddoedd. Be' ydi dy broblem di, Sami?

Sami

Dim byd... dim byd, dwi'n iawn.

Doctor

Be' wyt ti'n da yn fa'ma 'ta?

Sami

Isho mynd i'r armi.

Doctor

Methu cael job, ia? (Saib.) Agor dy grys.

Sami

(Camu'n ôl mewn dychryn.) Na... na wna.

Doctor

Paid a dychryn. Dim ond gofyn i ti agor dy grys wnes i. Dim ond eisiau testio curiadau dy galon di 'rydw i. Rwan agor...

Sami

Na wna'. 'Wna' i ddim.

Doctor

Ond pam? Be 'di'r matar?

Sami

Mi faswn i'n oer wedyn yn baswn.

Doctor

Oes gen ti ofn bod yn oer 'ta?

Sami

(Yn grynedig gan grebachu i gornel dde'r llwyfan.) Oes, mae gen i. 'Gen i ofn bod yn y gornel hefyd achos dwi'n unig yn y gornel a mae rhywun yn oer os ydi o ar ei ben ei hun.



Saib.

Doctor

Hym. Diddorol iawn. Mi rwyt ti'n ges arbennig iawn. 'Does 'na ddim lle i rai fel ti yn yr armi wrth gwrs, ond mi rwyt ti'n ddiddorol iawn.



Mae'r Siopwraig, Yr Helth Inspector a'r Doctor yn gafael yn eu byrddau a mynd allan.

Clywir lleisiau'r plant dros yr uchelseinydd yn gweiddi-canu: Sami bach yn oer. Oeri! Oeri! OERI!

Daw dwy ferch i mewn o ochr chwith y llwyfan, maent yn gwisgo dillad y 40au, llawer o golur, sgidia sodlau uchel a handbags.

Catherine

'Esu, 'dwi 'di ca'l llond bol o'r hen le 'ma.

Anwen

Mae o'n mynd dan 'y nghroen inna hefyd.

Catherine

Mor dawal.

Anwen

Ddim byd yn digwydd 'ma yntol.

Catherine

Hen le oer.

Anwen

A neb i gadw rhywun yn gynnas yn nag oes?

Catherine

Mae o bron â 'ngyrru fi rownd y bend.

Anwen

Hew, wyt ti mor ffrystrated â hynny?



Daw Megan i'r golwg.

Catherine

Ond, chwara' teg Ann ─ mae hi'n galad arnon ni...

Anwen

Yli, mae Meg yn dod ─ a mae hi'n gwenu fel giat.

Catherine

Hy, cath wedi cael ei chaneri neithiwr debyg.

Megan

Haia, smai?

Anwen

Mae Catherine down yn y dymps.

Catherine

Mae'n galad ar rei 'sdi.

Megan

Be' ti'n feddwl?

Anwen

Sut oedd Dafydd neithiwr?

Catherine

'Roedd hi'n galad arno fynta hefyd dwi'n siŵr.

Megan

Be' gyth...

Catherine

Am fod 'i 'leave' o wedi gorffen o'n i'n 'i feddwl siŵr. Nôl i'r ffrynt heddiw ia?

Megan

Ia.

Catherine

Join ddy clyb 'ta, 'ngenath i.

Megan

Be'?

Catherine

Clwb dim dynion 'de? 'Does 'na 'run i'w ga'l yn unlla 'sdi.

Anwen

Hei, paid â siarad yn rhy gynnar ─ sbïa be sy gennon ni yn fan 'ma... (Cyfeirio at Sami.)

Catherine

Dyn! 'Choelia i ddim yn fy mywyd.

Megan

Dim ond 'rhen Sami wirion sy' na. Paid â mynd yn rhy ecseited cyw.

Catherine

(Gan fynd ato.) Dwn 'im ─ 'chydig o trening i hwn a mi fydd cystal ag unrhyw ddyn.

Anwen

Be' ti'n feddwl?

Catherine

Dowch yn nes. (Mae'n plygu i lawr at Sami.) Hei, Sami ─ ti'n gw'bod be'? (Cwyd Sami ei ben.) Mae'r hogan acw... (mae'n pwyntio at Anwen) yn dy ffansio di...

Anwen

Hei! Rho'r gora iddi hi.

Catherine

Actia'r part hogan i mi ga'l dipyn o hwyl. (Troi'n ôl at Sami.) Wel, be' ti'n mynd i'w wneud am y peth, e?

Sami

E?

Catherine

I'w cha'l hi i ddod allan efo ti siŵr iawn.

Sami

E?

Catherine

Gwranda. Wyt ti isho i imi ddangos i ti? Mi fyddi di'n ddyn wedyn yli. Yn ffilm star ella. Rwan cwyd i mi gael dangos i ti.



Mae'n ei godi a chan afael rownd iddo fo mae'n mynd at Anwen ac yn defnyddio ei freichiau ef fel petai'n bwped i gyffwrdd Anwen.

Catherine

Sbia ar hyn. (Yna mewn llais dwfn ac acen Ianci.) Hi there, pussy cat. Ti'n dod am diod bach efo fi? (Wrth Anwen, fel petai'n gweini.) Siampen! Keep 'da change! (Rhoi braich Sami dros ysgwydd Anwen.) Here's lookin' at you, kid. (Yna mae'n troi Sami rownd i'w hwynebu.) Ti'n gweld? Mae o'n hawdd yn tydi? Rwan tria di o...

Sami

Y?

Catherine

(Yn famol.) Ty'd rwan Sami bach.

Sami

Haia... pwsi...

Catherine

(Yn chwerthin efo'r lleill.) O, ti'n rel llo gwlyb yn dwyt?

Megan

Nid rhoi bwyd i'r gath wyt ti sdi.

Catherine

Faint ydi dy oed di Sami?

Sami

E?

Catherine

Faint ydi dy oed di'r lembo?

Sami

Y... y... tua... y... ugain oed.

Catherine

(Yn ei ddynwared.) Y... y... newydd droi ugain... y... dest iawn... ydi o wchi...

Sami

Ia.

Megan

Mi rwyt ti'n ddyn felly yn dwyt? (Sami'n nodio.)

Anwen

Hei, am funud ─ os wyt ti'n ddyn... pam nad wyt ti efo'r dynion eraill?

Sami

Y?

Megan

Yn y rhyfel?

Catherine

Dwyt ti ddim yn ffarmwr yn nagwyt, a dwyt ti ddim yn conshi ─ fasa fo ddim yn gw'bod be' mae hynny'n ei feddwl. Felly pam nad wyt ti yn yr armi 'ta, 'mlodyn gwyn i?

Sami

'Nes... nes i fethu'r test.

Megan

Methu'r medical ia?

Sami

Ia..a.

Catherine

(Yn famol gan fynd y tu ôl iddo a'i dynnu'n ol ar ei mynwes.) R'wbath yn bod arnat ti, ia Sami bach? Deud ti be rwan 'ngwas bach annwyl i.

Sami

Am bod fi'n...

Catherine

(Yn gas.) Am bod ti'n dwlali. (Gan ei ollwng yn swp ar lawr.)

Megan

Dy ben di fel rwdan.

Anwen

'Fasat ti ddim yn gw'bod pa ffor'i ddal gwn.

Sami

Na, am bod fi'n...

Catherine

Mi fasat ti'n lladd yn hogia ni.

Anwen

Yn berig bywyd.

Megan

Dowch, genod ─ mi awn ni i chwilio am ddyn go iawn ─ nid rhyw frych o foi fel hwn.



Mae'r tair yn mynd allan i'r dde. Clywir sŵn Sarjant yr Hôm Gards yn gweiddi 'lefft, rait, lefft, rait' etc. o ochr chwith y llwyfan am dipyn cyn iddo ef a thri milwr yn cario sosban, cot a brwsh llawr ymddangos.

Sarjant

Lefft, rait, lefft-rait ─ dowch o'na hogia bach ─ lefft, rait, lefft, rait. Sgwadron aten-shyn. Halt! Right wheel. Stand at ease. Mi wna i filwyr ohonoch chi eto. (Troi at Sami.) Reit o, Samuel Jones, mi rydan ni wedi dod i dy nol di.

Sami

(Mae ar ei draed erbyn hyn.) Yy?

Sarjant

Mi rydan ni wedi dod i dy ricriwtio di i'r Hôm Gards. Myn yffarn i ─ mae'r rheiny'n cymryd rhywbeth.

Sami

Ond... ond dwi'n...

Sarjant

Cau di dy geg y dwat, neu mi fydda i'n stwffio'r ffon 'ma i fyny dy dwll a wriglo dy glustiau. Reit, mi rydan ni'n mynd i dy citio di rwan.



Troi at y milwyr.

Sarjant

Private Evans! Côt i Private Jones.



Mae'r milwr yn cerdded mewn sgwar ffurfiol ymlaen, yna at Sami, rhoi'r gôt iddo ac yn ôl rownd y cefn i'w safle.

Sarjant

Gwisga hi ─ dyna fachgen da. Private Jenkins! Gwn i Private Jones.



Mae'n martsio fel yr un o'i flaen a rhoi brwsh llawr iddo.

Sarjant

Private Huws! Helmet iddo.



Mae yntau'n rhoi sosban am ben Sami. Yna a'r Sarjant at Sami.

Sarjant

Duw annwyl wir, mi rwyt ti'n edrych yn smart iawn rwan Sami Sosban. Reit, stand to atenshyn!



Sami'n ceisio ymsythu.

Sarjant

Stand to atenshyn boi! Myn yffarn i bois bach, mae hwn fel sach datws. Reit, get ffel in, boi.



Sami yn mynd o flaen rhes y milwyr.

Sarjant

Mi rydan ni'n mynd lawr i'r pentre am dipyn o drill. Stand to atenshyn! Lefft whîl!



Sami'n cychwyn troi i'r dde ond yn cywiro'i hun.

Sarjant

Cwic march! Lefft, right, lefft, right, lefft, right...



Maent yn mynd rownd i gefn y llwyfan gyda Sami yn arwain, yna fel y maent yn dod yn ôl tua blaen y llwyfan mae'r tri milwr arall yn aros yn y cefn gan adael i Sami droi mewn cylchoedd dan orchmynion y Sarjant sy'n sefyll ar ochr dde'r llwyfan.

Sarjant

Bac stret, lefft rait, turn to the rait, cwic march, turn to the lefft and swing those bloody arms, lifft those legs, look straight ahead and turn to the right...(Ac ati.).



Daw'r plant a chynulleidfa'r llys i mewn gan weiddi 'Sami Sosban! Sami Sosban!' yn wawdlyd. Ar uchafbwynt y gweiddi daw P.C. Davies a'r Offisar i mewn.

P.C. Davies

Hei! Hei! Beth sy'n digwydd yma?



Mae'r lle'n tawelu'n raddol.

P.C. Davies

Breach of the peace? Reiot? Mae hyn yn beth difrifol iawn.



Mae'n troi a gweld Sami.

P.C. Davies

A! Sami Sosban, ti sydd wrth wraidd hyn ynte? Ti oedd yn codi'r cynnwrf.

Sami

Na...nage. Nhw oedd yn fy ricriwtio i.

P.C. Davies

Dy ricriwtio di? Wyt ti'n meddwl mai helmet yw'r sosban hon..?



Mae'n ei thynnu a'i rhoi i'r Offisar.

P.C. Davies

...ac mai gwn yw'r brwsh llawr yma...?



Mae'n ei roi i'r Offisar.

P.C. Davies

...ac mai côt armi ydi'r rhacsyn yma?



Ei rhoi i'r Offisar sy'n mynd allan.

P.C. Davies

Sami... (Mae'n rhoi ei law ar ei ysgwydd.) ...mi rydan ni fel cymdeithas yr ardal hon wedi bod yn poeni amdanat ti ers rhai blynyddoedd bellach ac mi rydan ni wedi penderfynu mai'r peth gorau i ti fydd cael help arbenigwr. Doctor! Mi rydan ni am dy adael di yng ngofal doctor ─ a chofia Sami, mai er dy les di rydan ni'n gneud hyn.



Daw'r Doctor i mewn; mae P.C. Davies yn mynd allan, mae'r plant a chynulleidfa'r llys wedi rhannu'n ddau grwp ─ un yn mynd yn ôl i un ochr y llwyfan yn lein syth a'r llall yn mynd yn ôl i ochr arall y llwyfan. Mae dwy stand dal cotiau ar bob ochr i'r llwyfan ers y dechrau a chynfasau gwynion arnynt. Maer criw yn cymryd cynfas wen bob un oddi ar y standiau ac yn eu gwisgo amdanynt. Rhaid mesur y cynfasau a rhoi pinnau ynddynt ymlaen llaw fel bod pawb yn gwybod pa un yw ei un ef a bod modd ei rhoi amdano'n gyflym a heb dynnu gormod o sylw. Ar hyn o bryd mae'r ddwy res a'u cefnau at ganol y llwyfan.

Doctor

(Mae'n cario coban wen i Sami.) Dyma ti Sami, gwisga hon.

Sami

Ond mae hi'n wyn.

Doctor

Wrth gwrs ei bod hi ─ mae popeth yn wyn mewn 'sbyty. Rwan gwisga hi...



Sami'n gwneud.

Doctor

Mi gei di berffaith hedd a chwarae teg i wella yn fan'ma ti'n gweld. Mi gei di lonydd...



Ar y gair hwn mae'r ddwy res yn troi i wynebu canol y llwyfan GYDA'I GILYDD gan droi'r ysgwydd sy'n wynebu'r gynulleidfa gyntaf.

Doctor

Mi fydd y nyrsus yn edrych ar dy ol di ─ yn rhoi bwyd i ti, yn dy folchi di, yn newid dy ddillad di ac mi fydda inna'n trio dy wella di. Fydd dim rhaid i ti wneud dim byd, na phoeni am ddim byd. Rwan gorwedd i lawr yn dy wely...



Mae Sami'n mynd ar ei benliniau.

Doctor

... gad lonydd i ni wneud y cyfan. Cofia paid â phoeni, a phaid â meddwl.



Mae'r Doctor yn mynd allan drwy gefn y llwyfan a phan yw Sami'n cychwyn siarad mae'r gynulleidfa a'r plant yn cerdded i mewn i ganol y llwyfan yn raddol gan gau'n hanner cylch o gwmpas Sami ─ fel muriau tafell.

Sami

Ond... ond mae pob man yn wyn. (Saib, ac yna'n uwch.) Mae pob man yn wyn... doctor mewn gwyn...



Edrych yn wyllt o'i gwmpas ar y 'waliau' sydd wedi cau amdano bellach. Yng nghefn y llwyfan mae swyddogion y llys yn mynd i'w safleoedd yn ddistaw yn barod ar gyfer yr olygfa nesa')

Sami

...y fi mewn gwyn... gwlau gwyn... waliau gwyn...



Mae'n gweiddi yn awr gan dynnu ei goban i ffwrdd.

Sami

Mae pob man yn wyn!



Yna'n ddistawach, fel un wedi ei ddychryn.

Sami

Gwyn fel eira... gwyn fel rhew... fel ffrij... a dwi'n oer... (Gweiddi eto.) Dwi'n oer, dwi'n oer. OER! OER!

Clerc

(Gan daro'r bwrdd yn bwysig ac urddasol.) Trefn! Gawn ni drefn yn y llys.



Mae'r ddwy 'wal' yn symud yn ôl gyda'i gilydd ond yn dal i wisgo'r cynfasau gwynion gan edrych yn syth o'u blaenau fel doliau yn awr. Mae'r golau'n codi'n gyflym ar olygfa'r llys. Mae Sami yng nghanol y llwyfan.

Clerc

Cyfiawnder sydd yn y lle yma nid carnifal. ( Saib.) Ewch 'mlaen efo'ch adroddiad, doctor.

Doctor

Ie, wel ar ôl cyfnod y rhyfel 'roedd yn amhosibl i'r claf gael gwaith wrth gwrs. Doedd ganddo fo ddim cymwysterau na thestimonials ac mi roedd pobl yn sylwi fod rhywbeth o'i le arno fo. Ac yn y diwedd mi ddaethon nhw ag o atom ni i'r ysbyty...

Sami

(Yn ei gwman o hyd.) ...i'r ffrij!



Ben Little yn ceisio'i dawelu.

Clerc

Wnewch chi gadw'ch cleiant dan reolaeth Ben Little ─ dydw i ddim eisiau dweud hynny eto.

Ben

Mae'n ddrwg gen i. Wneith fe ddim digwydd eto.

Clerc

Daliwch ati, doctor.

Doctor

Y cyfan sydd gen i i'w ddweud yw awgrymu mai'r peth gorau fyddai iddo ddychwelyd atom ni. Mae gen i ofn ei fod o'n un o'r rheiny sydd wedi cael eu geni i'r byd er mwyn i weddill cymdeithas ofalu amdanyn nhw.



Yr ynadon yn sibrwd ymysg ei gilydd.

Clerc

Barchus ynadon?

Cadeiryddes

Y-hym. Diolch i dystiolaeth y doctor, mi rydan ni'n sylweddoli cyflwr meddyliol y diffynnydd.



Saib.

Cadeiryddes

Ond ar y llaw arall, fedrwn ni ddim anwybyddu'r ffaith ei fod o'n lleidr. Mi ddaru o ddwyn côt. Mae o'n euog o geisio 'chydig gynhesrwydd.

Robin

(Heb symud dim ond ei geg.) Anifail.

Gwyn

'Dydi o ddim ffit i fod a'i draed yn rhydd.

Un arall

Mae o'n berig.

Sian

Rhaid i ni feddwl am ddiogelwch ein plant ni.

Cadeiryddes

Ond, y-hym, mae gweddill yr ynadon a minnau wedi penderfynu mai ei wendid o oedd yn gyfrifol am hyn. Doedd o ddim yn ymwybodol o'r peth. Gan ei fod o mor anabl ei hun, mi rydan ni'n teimlo mai ein dyletswydd ni, bawb ohonom, ydi edrych ar ei ôl o. (Saib fer.) Felly mi rydan ni wedi penderfynu ei yrru o i ffwrdd i'r 'sbyty.

Y Ddwy Res

(Gyda'i gilydd.) 'Sbyty.



Ar yr un pryd mae'r Clerc yn rhoi nod i'r Doctor sy'n symud ymlaen at Sami, yn rhoi'r goban dros ei ysgwydd a'i symud i gornel flaen chwith y llwyfan ─ lle mae'r sbot yn codi arno ar y diwedd. Yna ar ôl geiriau olaf y Gadeiryddes a'r Doctor allan.

Clerc

(Wrth yr Offisar.) Pa achos sy nesa'?



Ar y geiriau hyn mae'r ddwy res yn tynnu eu cynfasau gwyn a symud ymlaen i ganol y llwyfan ac eistedd i lawr ─ ar y cynfasau fel yr oeddent ar ddechrau'r ddrama. Mae popeth yn bywiogi eto.

Offisar

Achos Iago ap Rhydderch.

Robin

Achos Iago sydd nesa'! Byddwch yn barod. Mae'n rhaid i ni fynnu ei fod o'n cael tegwch...

Sain

Cyfiawnder i'r unigolyn!

Robin

Rhaid dangos fod gennom ni asgwrn cefn!

Sian

I wrthsefyll y drefn!

Robin

Rhaid i ni fynnu ein hawliau...



Y gynulleidfa'n canu 'Fe orchfygwn ni'. Mae'r golau'n graddol dywyllu arnynt ac maent yn canu'n ysgafnach. Mae'r sbot yn codi ar Sami yng nghornel chwith y llwyfan a chlywir ei lais dros yr uchelseinydd yn dweud yn ysgafn i ddechrau 'Dwi'n oer... dwi'n oer'. Diffoddir y golau ar olygfa'r llys gan adael dim ond y sbot a chlywir llais Sami'n dweud yr un geiriau yn uwch ac yn uwch nes ei fod yn fyddarol. Tywyllwch.

Drama un-act