(Gruffydd) A wnewch chwi ddwedyd wrthyf fi fy nhad, | |
(Kendal) O fargyfreithwyr dysgedica'r oes. | |
(1, 2) 197 | Rhaid dweyd y gwir, 'rwyf finau'n cofio 'n dda |
(1, 2) 198 | Am dano yn y fyddin. Nid oedd neb |
(1, 2) 199 | Mwy hynaws, mwy caredig, na mwy dewr, |
(1, 2) 200 | Na mwy o wir foneddwr nag oedd ef. |
(1, 2) 201 | Fel byddai'r galw, calon dynes fwyn, |
(1, 2) 202 | Neu ddiofn galon llew oedd ganddo ef; |
(1, 2) 203 | A'i lygaid wylent,—neu a fflachient dân; |
(1, 2) 204 | Yn ol fel galwai amgylchiadau arno. |