|
|
|
(Morus) Be di'r rhif lluosog o'r gair clo, nhad? |
|
|
|
(Gruffydd) Dafydd, be di'r llif rhuosog (be gebyst ydi'r enw?) o'r gair clo? |
(1, 0) 15 |
"Tri chlo"' ddeydwn ni, yntê? |
|
(Gruffydd) Diain i, un ciwt wyt ti'r hen law! |
|
|
|
(Gruffydd) Llo─lloiau, yntê? |
(1, 0) 19 |
Ia, siwr. |
|
(Gruffydd) Dyn o'i go─dynion o'u coiau | os felly, clo─cloiau: rho fo i lawr Morus, achos ma'r ironmonger na'n bry gramadegol ofnadwy. |
|
|
|
(Gruffydd) Cofia di bostio fo yn y Post Offis ac nid yn nhŷ Mr. Evans y gweinidog. |
(1, 0) 25 |
Ma gen ti fachgen dan gamp, Gruffydd. |
|
(Gruffydd) Oes, ma Morus yn fachgan go lew; ond mod i'n leicio berian dipyn arno fo weithia ynghylch Gwen Evans, merch y gweinidog. |
|
|
|
(Gruffydd) Oes, ma Morus yn fachgan go lew; ond mod i'n leicio berian dipyn arno fo weithia ynghylch Gwen Evans, merch y gweinidog. |
(1, 0) 27 |
Ma'r ddau'n caru, yn tydy nhw? |
|
(Gruffydd) Felly ma pobol yn deyd, os oes rhyw goel arnyn nhw. |
|
|
|
(Gruffydd) Gyda llaw, Dafydd, ma Mr. Evans y gweinidog yn mynd yn hen hwsmon efo chi yn Horeb acw bellach; sut mae o'n dal i dir, dywad? |
(1, 0) 30 |
Siort ora; fydd Mari ddim yn i gamol o wrtho ti weithia? |
|
(Gruffydd) Bydd, debig iawn; ond mi gamoli'th Mari ni bob pregethwr; chaiff neb ddeyd gair bach am yr un enaid byw bedyddiol ohonyn nhw os bydd hi wrth ymyl. |
|
|
|
(Gruffydd) Mi fydda'n i phlagio hi amball dro drwy redag dipyn ar bregethwrs; ond welis di rioed mor fuan y bydd hi'n codi'r pastwn i gadw'i plaid nhw. |
(1, 0) 33 |
Go lew hi; ma gyno ni glamp o feddwl o Mari Huws tua Horeb acw. |
|
(Gruffydd) Rwan, Dafydd, deyda'r gwir rhwng dau frawd─be di'r farn gyffredin am Mari ni yn Horeb? |
|
|
|
(Gruffydd) Tipyn o ddoctor a difein ydi hi, yntê, yng ngolwg rhai ohonoch chi? |
(1, 0) 37 |
Mae mwy ym mhen Mari, wel di, na'n hannar ni, a choeliet ti byth mor anodd ydi cael y gora arni hi ar bwnc o ddadl mewn dosbarth rwan─ma'i hatab hi mor barod rywsut bob cynnig. |
|
(Gruffydd) Dyna ti i'r blewyn─"atab parod bob cynnig"; pe dasa ti wedi byw efo hi fel fi am yn agos i ddeugain mlynedd, fasa ti ddim yn tynnu gwell llun ohoni na hwnna─"atab parod"; yn ddistaw bach yn dy glust fel hen ffrind, rhy barod o lawar, wyddost, i mhlesio i, achos mi fydda i'n leicio clywad y cloc yn rhuo dipyn yn i gorn cyn taro; dda gen i mo'r clocia ma sy'n taro'n ddirybudd fel bwlat o wn. |
|
|
(1, 0) 40 |
Aros di Gruffydd, rwyt ti wedi rhoi darn go fawr at yr hyn ddywedis i; nid parodrwydd fel yna oedd yn y meddwl i. |
|
(Gruffydd) Na, na, mi rydw i'n dy ddallt di'n burion─sôn yr oedda ti am i pharodrwydd hi ar bwnc o ddadl. |
|
|
|
(Gruffydd) Fum i rioed mewn dosbarth efo hi yn yr Ysgol Sul; ond mi wranta mai'r fan yma ar yr aelwyd wrth bracteisio arna i y dysgodd hi sut i drin i harfau. |
(1, 0) 43 |
Mi sonist am yr Ysgol Sul rwan; pam na ddoi di i'r Ysgol, Gruffydd? |
(1, 0) 44 |
Wel, mi ofynna i beth arall i ti: mi rydw i wedi bod yn meddwl i ofyn o iti ar hyd y blynydda. |
(1, 0) 45 |
Rwyt ti'n wrandawr yn Horeb acw erioed; pam na ddoi di'n aelod, rhen ffrind? |
(1, 0) 46 |
Peth digon chwithig, wyddost, ydi gweld Mari mor selog a thitha, i gŵr hi, y tuallan yn y byd. |
|
(Gruffydd) Chwara teg i ti am ofyn; ond dyma gwestiwn i titha─pa wahaniaeth yno i fasa hynny'n i neud. |
|
|
|
(Gruffydd) Chwara teg i ti am ofyn; ond dyma gwestiwn i titha─pa wahaniaeth yno i fasa hynny'n i neud. |
(1, 0) 48 |
Pa wahaniaeth─be wyt ti'n feddwl? |
|
(Gruffydd) Fasa dod yn aelod yn y ngneud i'n ddyn gwell nag ydyw i rwan? |
|
|
|
(Gruffydd) Fasa dod yn aelod yn y ngneud i'n ddyn gwell nag ydyw i rwan? |
(1, 0) 50 |
Cwestiwn go gynnil ydi hwnna, achos gofyn rwyt ti mewn ffordd neis be ydw i'n feddwl o dy gymeriad di fel dyn. |
|
(Gruffydd) O'r gora; fasa dwad yn aelod o Horeb yn y ngneud i fymryn yn fwy geirwir a gonest nag ydw i ar hyn o bryd. |
|
|
|
(Gruffydd) Gneud dynion da, decini, ydi amcan aelodaeth eglwysig? |
(1, 0) 53 |
Ia, wrth gwrs: ond gofala na roi di ddim ystyr bach ysgafn i'r gair "da"; gair mawr iawn ydi'r gair "da," wyddost. |
|
(Gruffydd) Howld on, ngwas i, paid ti a siarad efo fi fel taswn i'n sasiwn ne'n llond capal o bobol, a phaid a hollti blew hefyd; ateb yn blaen─ydi deyd y gwir a byw'n onest yn dda? |
|
|
|
(Gruffydd) Howld on, ngwas i, paid ti a siarad efo fi fel taswn i'n sasiwn ne'n llond capal o bobol, a phaid a hollti blew hefyd; ateb yn blaen─ydi deyd y gwir a byw'n onest yn dda? |
(1, 0) 55 |
Ydi, wrth gwrs, ma daioni yn cynnwys hynny, a rhagor hefyd. |
|
(Gruffydd) Ah, rhen sciemar, mi rwyt ti am dorri bwlch yn y clawdd efo'r gair "rhagor'' na, er mwyn cael slipio drwyddo fo os daw hi'n glos cwartars arnat ti; y pwnc yn blaen ydi hwn─a ddyla crefyddwr ddeyd y gwir a delio'n onest? |
|
|
|
(Gruffydd) Ah, rhen sciemar, mi rwyt ti am dorri bwlch yn y clawdd efo'r gair "rhagor'' na, er mwyn cael slipio drwyddo fo os daw hi'n glos cwartars arnat ti; y pwnc yn blaen ydi hwn─a ddyla crefyddwr ddeyd y gwir a delio'n onest? |
(1, 0) 57 |
Wel, gwarchod pawb! mi ddyla neud hynny bach wrth ddechra crefydda. |
|
(Gruffydd) O'r gora; ma Huw'r Ffridd yn aelod yn Horeb acw, yn tydi o? |
|
|
|
(Gruffydd) O'r gora; ma Huw'r Ffridd yn aelod yn Horeb acw, yn tydi o? |
(1, 0) 59 |
Ydi, mae o'n flaenor fel finna yn y sêt fawr. |
|
(Gruffydd) {Cyfyd ac â at y weather glass.} |
|
|
|
(Gruffydd) Mi rydw i, Gruffydd Huws y Berthlwyd, yn y |very stormy|, ac ma Huw'r Ffridd yn |very dry| y sêt fawr. |
(1, 0) 65 |
Aros funud─ |
|
(Gruffydd) Gad lonydd i mi orffen. |
|
|
|
(Gruffydd) Mi cymrais o ar i air, am i fod o'n gymydog agos, ac yn un o bobol y sêt fawr; ond cyn sicred a dy fod yn eista yn y fan na, cyn pen yr wsnos mi ddalltis fod gan y ceffyl gast ne ddau mor gas fel nad oedd o'n dda i ddim ond i'w seuthu, a'i grogi hefyd ran hynny. |
(1, 0) 69 |
Os daru mi dy ddallt ti, yr hen geffyl sy'n dy gadw di rhag bod yn aelod yn Horeb? |
|
(Gruffydd) {Yn danllyd.} |
|
|
|
(Gruffydd) Huw gastiog efo'i sêt fawr a'i gybôl ffug-dduwiol: a dyna ydw i'n ddeyd, os petha fel Huw sy'n uchel i cloch yn y capel, dydy nhw ddim yn haeddu papur aelodaeth i ddwad i berthyn i'r byd heb son am yr eglwys, yn siwr i ti. |
(1, 0) 73 |
Tro sâl oedd hwnna, rhaid cyfadda; ond un ydi Huw'r Ffridd; yn eno'r taid annwyl, dwyt ti ddim yn taflu'n bod ni i gyd yn Horeb yn palu celwydd fel y gnath Huw'r tro yna? |
|
(Gruffydd) O, nag ydw; ond cofia di ma na rai tatws drwg yn sach Horeb heblaw Huw. |
|
|
|
(Gruffydd) Doedd yma neb yn colli'i dempar cyn i ti ddwad i mewn beth bynnag. |
(1, 0) 84 |
Na, fi oedd yn ceisio perswadio Gruffydd i ddod yn aelod o Horeb acw. |
|
(Mari) Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo? |
|
|
|
(Mari) Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo? |
(1, 0) 86 |
Wel ia─ |
|
(Mari) Mi fuoch yn dangos y fath fraint i'r eglwys fasa medru bachu samon mawr fel Gruffydd ni? |
|
|
|
(Mari) Dafydd, glywsoch chi fod Mr. Evans yn |agent| dros y cwmni na yn Llunden? |
(1, 0) 96 |
Pa gwmni? |
|
(Mari) Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel. |
|
|
|
(Mari) Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel. |
(1, 0) 98 |
O! 'r |Auxilary Society|? |
|
(Mari) Dyna fo. |
|
|
(1, 0) 101 |
Mr. Evans, y gweinidog, yn |agent| iddyn nhw? |
|
(Mari) Ia, pam lai? |
|
|
|
(Mari) Mi wyddoch fod dega lawer o weinidogion y gwahanol enwada yn |agents| i'r |Auxiliary|. |
(1, 0) 105 |
Eitha gwir; ond fedra i yn y myw rywsut feddwl am Mr. Evans yn |agent|: fel myfyriwr a phregethwr y bydda i'n arfar edrach arno fo. |
|
(Gruffydd) Hynny ydi, Dafydd, dy syniad di ydi fod Mr. Evans yn ormod o freuddwydiwr i drin busnes arian? |
|
|
(1, 0) 112 |
Pa deitl roet ti iddo fo? |
|
(Gruffydd) Be di enw llyfr Tomos Binney hefyd─y llyfr na fuost ti'n ddarllen chydig yn ol, Mari? |
|
|
|
(Gruffydd) Mi fasa'n harddach i chi i garthu o allan i'r |lobby| o lawer. |
(1, 0) 123 |
Fedra i yn y myw beidio meddwl am Mr. Evans yn |agent| yr |Auxiliary|. |
(1, 0) 124 |
Gawsoch chi'r newydd o le go saff, Mari Huws? |
|
(Mari) Morus, y bachgan ma, roth hum i mi. |
|
|
|
(Mari) Morus, y bachgan ma, roth hum i mi. |
(1, 0) 126 |
Ha, mi gwela hi rwan; Gwen Evans ddeydodd wrth Morus am i thad; ma Morus a hitha'n caru'n o glos, yn tydy nhw? |
|
(Mari) Felly ma nhw'n deyd. |
|
|
|
(Gruffydd) Mi ddeydist rwan, Mari, ma Morus roth hum i ti; ddeydith yr hen walch yr un pwmp wrtho i; ond rwyt ti'n medru cocsio i secrats o i gyd. |
(1, 0) 130 |
Paid ag achwyn, Gruffydd, rwyt ti yn yr un manshar a phob tad arall. |
(1, 0) 131 |
Wel, ma'n ddrwg gen i fod Mr. Evans yn mynd i ffwndro 'i ben efo'r cwmni na; ma rhyw gloch bach yn canu'n y nghlust i: gobeithio'r annwyl ma nid rhyw gnafon twyllodrus o gwmpas Llunden na sy'n gwthio'r busnes yn i flaen. |
|
(Mari) {Yn ddigllon.} |
|
|
|
(Mr Evans) Fydd y swydd wrth gwrs yn ymyrryd dim â ngwaith i fel gweinidog Horeb, a wela i ddim fod y ddau waith yn taro chwaith yn erbyn i gilydd yn y gronyn lleia, achos does dim amheuaeth am onestrwydd y Gymdeithas; mae hi fel y banc, ac mae dynion o ymddiried wrth i chefn hi─dynion sydd â'u henwau yn barchus mewn cylchoedd eglwysig. |
(1, 0) 155 |
Does dim dowt nad oes mynd mawr arni hi ar hyn o bryd; ond, a gadael i hynny fod, ofni rydw i, os ca i ddeyd heb y'ch digio chi, nad ydach chi, Mr. Evans, ddim wedi'ch torri ar gyfar y fath waith. |
(1, 0) 156 |
Fel deydis i rwan jest wrth Gruffydd a Mari Huws, teimlo rydw i bob amser y'ch bod chi'n fwy naturiol o lawar i mi yn y stydi a'r pulpud nag efo rhyw waith fel hyn sy'n gofyn am wybodaeth go helaeth o gylch masnach. |
|
(Gruffydd) Twt, twt! deyda'n blaen fachgan, teimlo rwyt ti ma pysgodyn mewn cae tatws fydd Mr. Evans fel |agent| yr |Auxiliary|. |
|
|
|
(Gruffydd) Twt, twt! deyda'n blaen fachgan, teimlo rwyt ti ma pysgodyn mewn cae tatws fydd Mr. Evans fel |agent| yr |Auxiliary|. |
(1, 0) 158 |
Wel ia, hwyrach; ond rho di dy farn, Gruffydd. |
|
(Mari) Dafydd, dydw i ddim o gwbl o'r un farn a chi. |
|
|
|
(Gruffydd) Mae ceffyl castiog Huw yn y nghroen i o hyd, Mari bach; ond yn wirionadd i mi, fydd yn hwb da ymlaen i'r Gymdeithas yn yr ardal ma fod Huw wedi credu yni hi efo'i dafod ac hefo'i boced. |
(1, 0) 181 |
Mi rowch chitha'ch arian yni hi, Mr. Evans? |
|
(Mr Evans) Os na wna i, pwy wnaiff? |
|
|
|
(Mr Evans) Nos dawch i chi'ch tri. |
(1, 0) 205 |
Waeth i mi ddwad hefo chi Mr. Evans, mae'n bryd i minna fynd i glwydo. |
(1, 0) 206 |
Nos dawch. |