a1

Asgre Lân (1916)

Robert Griffith Berry

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1


Cegin y Berthlwyd.

Saif y lle tân ar y chwith i'r edrychwyr a'r drws ar y dde. Dodrefner mewn dull hen-ffasiwn─setl ar yr ochr dde i'r tân, a'r dresar wrth y pared gyferbyn â'r edrychwyr. Gosoder y bwrdd ar ganol y gegin a'r cadeiriau mewn mannau cyfleus. Pan y cyfyd y llen gwelir DAFYDD ROBERTS, y Bwlch, yn eistedd ar y setl yn smocio, a GRUFFYDD HUWS yn sefyll wrth y bwrdd yn ymyl MORUS eí fab, yr hwn sydd yn ysgrifennu llythyr dros ei dad. Mae DAFYDD a GRUFFYDD, er ym wahanol iawn i'w gilydd, yn hen gyfeillion.

Morus

Be di'r rhif lluosog o'r gair clo, nhad?

Gruffydd

Rhif lluosog─be wyt ti'n feddwl?

Morus

(Yn ddi-amynedd.) Be ddeydwch chi am fwy nag un clo─tri o gloiau, tri o gloion, ne dri o gloedigaethau?

Gruffydd

Dyna ti'n siarad yn blaen rwan; waeth gen i glywad dyn yn tyngu a rhegi na'i glywad o'n siarad fel llyfr mewn trowsus. (Ym tro af DAFYDD.) Dafydd, be di'r llif rhuosog (be gebyst ydi'r enw?) o'r gair clo?

Dafydd

"Tri chlo"' ddeydwn ni, yntê?

Gruffydd

Diain i, un ciwt wyt ti'r hen law! Ond er hynny, sciam wael ydi peth fel yna i sgoi anhawstar. Llo─lloiau, yntê?

Dafydd

Ia, siwr.

Gruffydd

Dyn o'i go─dynion o'u coiau | os felly, clo─cloiau: rho fo i lawr Morus, achos ma'r ironmonger na'n bry gramadegol ofnadwy.

Morus

(Ar ol diweddu'r llythyr.) Dyna fo; mi af a fo i'r post rwan.

Gruffydd

(Yn gellweirus pan mae MORUS yn mynd drwy'r drws.) Cofia di bostio fo yn y Post Offis ac nid yn nhŷ Mr. Evans y gweinidog.

Dafydd

Ma gen ti fachgen dan gamp, Gruffydd.

Gruffydd

Oes, ma Morus yn fachgan go lew; ond mod i'n leicio berian dipyn arno fo weithia ynghylch Gwen Evans, merch y gweinidog.

Dafydd

Ma'r ddau'n caru, yn tydy nhw?

Gruffydd

Felly ma pobol yn deyd, os oes rhyw goel arnyn nhw. Gyda llaw, Dafydd, ma Mr. Evans y gweinidog yn mynd yn hen hwsmon efo chi yn Horeb acw bellach; sut mae o'n dal i dir, dywad?

Dafydd

Siort ora; fydd Mari ddim yn i gamol o wrtho ti weithia?

Gruffydd

Bydd, debig iawn; ond mi gamoli'th Mari ni bob pregethwr; chaiff neb ddeyd gair bach am yr un enaid byw bedyddiol ohonyn nhw os bydd hi wrth ymyl. Mi fydda'n i phlagio hi amball dro drwy redag dipyn ar bregethwrs; ond welis di rioed mor fuan y bydd hi'n codi'r pastwn i gadw'i plaid nhw.

Dafydd

Go lew hi; ma gyno ni glamp o feddwl o Mari Huws tua Horeb acw.

Gruffydd

Rwan, Dafydd, deyda'r gwir rhwng dau frawd─be di'r farn gyffredin am Mari ni yn Horeb? Ofynnis i rioed o'r blaen iti. Tipyn o ddoctor a difein ydi hi, yntê, yng ngolwg rhai ohonoch chi?

Dafydd

Mae mwy ym mhen Mari, wel di, na'n hannar ni, a choeliet ti byth mor anodd ydi cael y gora arni hi ar bwnc o ddadl mewn dosbarth rwan─ma'i hatab hi mor barod rywsut bob cynnig.

Gruffydd

Dyna ti i'r blewyn─"atab parod bob cynnig"; pe dasa ti wedi byw efo hi fel fi am yn agos i ddeugain mlynedd, fasa ti ddim yn tynnu gwell llun ohoni na hwnna─"atab parod"; yn ddistaw bach yn dy glust fel hen ffrind, rhy barod o lawar, wyddost, i mhlesio i, achos mi fydda i'n leicio clywad y cloc yn rhuo dipyn yn i gorn cyn taro; dda gen i mo'r clocia ma sy'n taro'n ddirybudd fel bwlat o wn.

Dafydd

(Dan ysgwyd es ben a gwenu.) Aros di Gruffydd, rwyt ti wedi rhoi darn go fawr at yr hyn ddywedis i; nid parodrwydd fel yna oedd yn y meddwl i.

Gruffydd

Na, na, mi rydw i'n dy ddallt di'n burion─sôn yr oedda ti am i pharodrwydd hi ar bwnc o ddadl. Fum i rioed mewn dosbarth efo hi yn yr Ysgol Sul; ond mi wranta mai'r fan yma ar yr aelwyd wrth bracteisio arna i y dysgodd hi sut i drin i harfau.

Dafydd

Mi sonist am yr Ysgol Sul rwan; pam na ddoi di i'r Ysgol, Gruffydd? Wel, mi ofynna i beth arall i ti: mi rydw i wedi bod yn meddwl i ofyn o iti ar hyd y blynydda. Rwyt ti'n wrandawr yn Horeb acw erioed; pam na ddoi di'n aelod, rhen ffrind? Peth digon chwithig, wyddost, ydi gweld Mari mor selog a thitha, i gŵr hi, y tuallan yn y byd.

Gruffydd

Chwara teg i ti am ofyn; ond dyma gwestiwn i titha─pa wahaniaeth yno i fasa hynny'n i neud.

Dafydd

Pa wahaniaeth─be wyt ti'n feddwl?

Gruffydd

Fasa dod yn aelod yn y ngneud i'n ddyn gwell nag ydyw i rwan?

Dafydd

Cwestiwn go gynnil ydi hwnna, achos gofyn rwyt ti mewn ffordd neis be ydw i'n feddwl o dy gymeriad di fel dyn.

Gruffydd

O'r gora; fasa dwad yn aelod o Horeb yn y ngneud i fymryn yn fwy geirwir a gonest nag ydw i ar hyn o bryd. Gneud dynion da, decini, ydi amcan aelodaeth eglwysig?

Dafydd

Ia, wrth gwrs: ond gofala na roi di ddim ystyr bach ysgafn i'r gair "da"; gair mawr iawn ydi'r gair "da," wyddost.

Gruffydd

Howld on, ngwas i, paid ti a siarad efo fi fel taswn i'n sasiwn ne'n llond capal o bobol, a phaid a hollti blew hefyd; ateb yn blaen─ydi deyd y gwir a byw'n onest yn dda?

Dafydd

Ydi, wrth gwrs, ma daioni yn cynnwys hynny, a rhagor hefyd.

Gruffydd

Ah, rhen sciemar, mi rwyt ti am dorri bwlch yn y clawdd efo'r gair "rhagor'' na, er mwyn cael slipio drwyddo fo os daw hi'n glos cwartars arnat ti; y pwnc yn blaen ydi hwn─a ddyla crefyddwr ddeyd y gwir a delio'n onest?

Dafydd

Wel, gwarchod pawb! mi ddyla neud hynny bach wrth ddechra crefydda.

Gruffydd

O'r gora; ma Huw'r Ffridd yn aelod yn Horeb acw, yn tydi o?

Dafydd

Ydi, mae o'n flaenor fel finna yn y sêt fawr.

Gruffydd

(Cyfyd ac â at y weather glass.) Ah, ie, y sêt fawr, sêt bwysig ydi honno, yntê? Edrach ar y weathar glas ma. Y sêt fawr, wyddost, ydi'r very dry ac weddar glas yr eglwys: ond fel rwyt ti'n nesu oddiwrth y sêt fawr at y seti wrth y drws rwyt ti'n dwad at Fair a Change; y tuallan i'r capel, wrth gwrs, rwyt ti yn y Rain a'r Very Stormy. Mi rydw i, Gruffydd Huws y Berthlwyd, yn y very stormy, ac ma Huw'r Ffridd yn very dry y sêt fawr.

Dafydd

Aros funud─

Gruffydd

Gad lonydd i mi orffen. Chydig bach yn ol, fe werthodd Huw'r Ffridd geffyl i mi, ac fe aeth ar i lw nad oedd dim anghaffael na chastia drwg yn perthyn iddo fo. Mi cymrais o ar i air, am i fod o'n gymydog agos, ac yn un o bobol y sêt fawr; ond cyn sicred a dy fod yn eista yn y fan na, cyn pen yr wsnos mi ddalltis fod gan y ceffyl gast ne ddau mor gas fel nad oedd o'n dda i ddim ond i'w seuthu, a'i grogi hefyd ran hynny.

Dafydd

Os daru mi dy ddallt ti, yr hen geffyl sy'n dy gadw di rhag bod yn aelod yn Horeb?

Gruffydd

(Yn danllyd.) Nage, meistar yr hen geffyl─ Huw gastiog efo'i sêt fawr a'i gybôl ffug-dduwiol: a dyna ydw i'n ddeyd, os petha fel Huw sy'n uchel i cloch yn y capel, dydy nhw ddim yn haeddu papur aelodaeth i ddwad i berthyn i'r byd heb son am yr eglwys, yn siwr i ti.

Dafydd

Tro sâl oedd hwnna, rhaid cyfadda; ond un ydi Huw'r Ffridd; yn eno'r taid annwyl, dwyt ti ddim yn taflu'n bod ni i gyd yn Horeb yn palu celwydd fel y gnath Huw'r tro yna?

Gruffydd

O, nag ydw; ond cofia di ma na rai tatws drwg yn sach Horeb heblaw Huw.



Daw MARI HUWS mewn gyda llyfr go fawr dan un fraich, a phapur newydd yn y llaw arall.

Mari

Mi feddylis mod i'n clywad sŵn ych llais chi, Dafydd. (Teifl olwg ar GRUFFYDD.) Hylo, be di'r matar arnoch chi heno? Ma'ch gwynab chi cyn goched a chrib ceiliog; be sy wedi codi'ch gwrychyn chi rwan?

Gruffydd

Dim, dim: ymresymu dipyn hefo Dafydd yr oeddwn i.

Mari

Wel, yn wir, o'r holl greduriaid sydd ar y ffarm chi'r dynion ydi'r rhai rhyfedda! Chi ddynion yn fodau rhesymol─chi sy'n colli'ch tempar y funud yr ewch i drio ymresymu?

Gruffydd

Doedd yma neb yn colli'i dempar cyn i ti ddwad i mewn beth bynnag.

Dafydd

Na, fi oedd yn ceisio perswadio Gruffydd i ddod yn aelod o Horeb acw.

Mari

Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo?

Dafydd

Wel ia─

Mari

Mi fuoch yn dangos y fath fraint i'r eglwys fasa medru bachu samon mawr fel Gruffydd ni? Begera aeloda y galwa i beth fel na; fasa Paul byth yn plygu i gardota pobol i'r eglwys yn y ffordd yna; ac er bod Gruffydd ma'n burion dyn, nid wrth i gosi o a phorthi i falchtar o y medrwch chi i gael o i mewn i'r eglwys; y gwir plaen ydi─

Gruffydd

(Ar ei draed.) Hannar munud, Mari: ma dy wir cyffredin di'n ddigon crafog, os doi di a dy wir plaen allan, mi mlingi fi i'r asgwrn.

Mari

Y gwir plaen ydi─ma Gruffydd yn credu i fod o'n ddigon o eglwys i hunan.

Gruffydd

Ar y ngair i, os ydw i'n eglwys ti ydi'r person a'r clochydd arni hi; brensiach fawr, Dafydd, pam na rowch chi Mari ni yn y sêt fawr?

Mari

Peidiwch a chellwar hefo petha na wyddoch chi ddim am danyn nhw; byddwch yn fodlon i fod yn awdurdod ar fenyn a chaws a ffowls. (Try at DAFYDD..) Dafydd, glywsoch chi fod Mr. Evans yn agent dros y cwmni na yn Llunden?

Dafydd

Pa gwmni?

Mari

Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel.

Dafydd

O! 'r Auxilary Society?

Mari

Dyna fo.

Dafydd

(Mewn syndod.) Mr. Evans, y gweinidog, yn agent iddyn nhw?

Mari

Ia, pam lai? Does dim o le yn y swydd, oes yna? Mi wyddoch fod dega lawer o weinidogion y gwahanol enwada yn agents i'r Auxiliary.

Dafydd

Eitha gwir; ond fedra i yn y myw rywsut feddwl am Mr. Evans yn agent: fel myfyriwr a phregethwr y bydda i'n arfar edrach arno fo.

Gruffydd

Hynny ydi, Dafydd, dy syniad di ydi fod Mr. Evans yn ormod o freuddwydiwr i drin busnes arian? Mae fel pe baet ti'n meddwl am Williams, Pantycelyn, yn cyfri arian y tu ol i'r cowntar! Grym annwyl, mae o'n syniad digri hefyd i feddwl am yr hen Evans yn canu mawl yr Auxiliary Society ac yn dosbarthu prospectuses ar hyd y wlad ma. Diaist i, rwan y basa shar o ddawn busnes Huw'r Ffridd yn dod yn handi iddo fo. Mi ddyla'r hen Huwcyn ddod a llyfr allan, mi ro i deitl iddo fo'n rhad ac am ddim.

Dafydd

(Dan wenu.) Pa deitl roet ti iddo fo?

Gruffydd

Be di enw llyfr Tomos Binney hefyd─y llyfr na fuost ti'n ddarllen chydig yn ol, Mari?

Mari

"Pa fodd i wneud y goreu o'r ddau fyd."

Gruffydd

Dyna fo. Wel, dyma deitl i lyfr Huw─"Pa fodd y ces i'r goreu ar y byd hwn," sef, arna i, Gruffydd Huws, wyddost.

Mari

Peidiwch a boddro am Huw mor amal; mi rydw i wedi laru'ch clywad chi byth a hefyd yn barnu crefyddwyr wrth Huw, a chitha'n gwbod ma un o chwyn yr eglwys ydi o.

Gruffydd

(Yn danllyd.) Pam gebyst ynta rydach chi yn Horeb yn gadael iddo fo dyfu yn y gwely gora sydd yn y capal? Rhyw bwnsh o ddalan poethion fel fo yn y sêt fawr! Mi fasa'n harddach i chi i garthu o allan i'r lobby o lawer.



Distawrwydd.

Dafydd

Fedra i yn y myw beidio meddwl am Mr. Evans yn agent yr Auxiliary. Gawsoch chi'r newydd o le go saff, Mari Huws?

Mari

Morus, y bachgan ma, roth hum i mi.

Dafydd

Ha, mi gwela hi rwan; Gwen Evans ddeydodd wrth Morus am i thad; ma Morus a hitha'n caru'n o glos, yn tydy nhw?

Mari

Felly ma nhw'n deyd. Mi fydd Morus yn lwcus i chael hi, achos mi ŵyr sut i gadw tŷ; dyma hi wedi cadw'r tŷ i'w thad byth er pan bu farw i mam.

Gruffydd

Mi ddeydist rwan, Mari, ma Morus roth hum i ti; ddeydith yr hen walch yr un pwmp wrtho i; ond rwyt ti'n medru cocsio i secrats o i gyd.

Dafydd

Paid ag achwyn, Gruffydd, rwyt ti yn yr un manshar a phob tad arall. Wel, ma'n ddrwg gen i fod Mr. Evans yn mynd i ffwndro 'i ben efo'r cwmni na; ma rhyw gloch bach yn canu'n y nghlust i: gobeithio'r annwyl ma nid rhyw gnafon twyllodrus o gwmpas Llunden na sy'n gwthio'r busnes yn i flaen.

Mari

(Yn ddigllon.) Cnafon twyllodrus, yn wir! Ma'r cwmni'r un mwya parchus yn y wlad, ac ma rhai o'r bobol ora ynglŷn a fo. Dyna'r pen dyn, Mr. Francis, yn aelod seneddol ac yn proffesu crefydd, a mawr o arian mae o'n gyfrannu o hyd at achosion crefydd.

Gruffydd

Wyt ti dy hun, Mari, yn peidio bod yn agent ar y slei dywad? Rwyt ti'n siarad run ffunud a phrospectus y gymdeithas. Da i byth o'r fan ma, nid peth dwl fasa cael plat melyn ar y lidiart o flaen y tŷ: "Mari Huws, Agent for the Auxiliary Society."

Mari

Wfft fawr i'ch coegni chi. Mi wn be ydw i'n ddeyd; ma'r papura newydd yn llawn o'r gymdeithas bob wsnos. Mi welis yn "Utgorn Cymru'' y dydd o'r blaen fod Mr. Francis yn rhoi pum mil o bunnau at wahanol gymdeithasa cenhadol, roedd o hefyd yn gosod carreg sylfaen dau ne dri o gapeli yn Llunden chydig yn ol.

Gruffydd

(Dan wincio ar DAFYDD.) I ba enwad, sgwn i, ma Francis yn perthyn, achos ma'n bwysig i ni wybod yng Nghymru prun ai Sentar ne Fethodis ne Fatist ydi o cyn ymddiried yn harian iddo fo.



Daw MR. EVANS i mewn ŵr gegin ar ol curo ar y drws.

Gruffydd

Dyma'r dyn fedar sponio'r dirgelwch i ni; Mr. Evans, i ba enwad ma Francis, pen manijar yr Auxiliary Society yn perthyn?

Mari

Da chi, Gruffydd, rhowch ben ar y gwawd annuwiol na; peidiwch a sylwi arno fo, Mr. Evans.

Mr Evans

O, fe wnaf o'r goreu â Gruffydd Huws; does dim ofn i frathiad o arna i.

Gruffydd

Y nghyfarthiad i ydi'r gwaetha, ia, Mr. Evans? Eitha gwir: roedd gen i gi defaid amsar yn ol a chena drwg oedd hwnnw─roedd o'n brathu heb gyfarth, a thacla melltigedig ydi rheini. Mi ddyla pob ci respectabl gyfarth unwaith beth bynnag cyn brathu. Ond be ydi'r si ma sy ar led, Mr. Evans, y'ch bod chi'n agent i'r Auxiliary?

Mr Evans

O, mae hi wedi'ch cyrraedd chitha felly? Wel, cael f'annog gan amryw gyfeillion ddaru mi i gymryd agency dros y Gymdeithas yn y gymdogaeth hon, ac mi gydsyniais. Fydd y swydd wrth gwrs yn ymyrryd dim â ngwaith i fel gweinidog Horeb, a wela i ddim fod y ddau waith yn taro chwaith yn erbyn i gilydd yn y gronyn lleia, achos does dim amheuaeth am onestrwydd y Gymdeithas; mae hi fel y banc, ac mae dynion o ymddiried wrth i chefn hi─dynion sydd â'u henwau yn barchus mewn cylchoedd eglwysig.

Dafydd

Does dim dowt nad oes mynd mawr arni hi ar hyn o bryd; ond, a gadael i hynny fod, ofni rydw i, os ca i ddeyd heb y'ch digio chi, nad ydach chi, Mr. Evans, ddim wedi'ch torri ar gyfar y fath waith. Fel deydis i rwan jest wrth Gruffydd a Mari Huws, teimlo rydw i bob amser y'ch bod chi'n fwy naturiol o lawar i mi yn y stydi a'r pulpud nag efo rhyw waith fel hyn sy'n gofyn am wybodaeth go helaeth o gylch masnach.

Gruffydd

Twt, twt! deyda'n blaen fachgan, teimlo rwyt ti ma pysgodyn mewn cae tatws fydd Mr. Evans fel agent yr Auxiliary.

Dafydd

Wel ia, hwyrach; ond rho di dy farn, Gruffydd.

Mari

Dafydd, dydw i ddim o gwbl o'r un farn a chi.

Gruffydd

Dyma ti eto, Mari, yn taflu dy gribin i mewn o mlaen i. Mr. Evans, gofyn y marn i roedd Dafydd rwan, ac i ddeyd y gwir yn onest, mi rydw inna'n ofni'ch gweld chi'n gafael yn y swydd ma.

Mr Evans

Mi wela wrth gwrs ma nid ameu'r Gymdeithas yr ydach chi ond ameu y nghymwyster i i'r swydd yntê? Wel, mae llu go fawr o weinidogion o bob enwad yn agents iddi hi, ac yn sicr mae gen i gystal siawns i lwyddo a llawer ohonyn nhw. Mi wnaf ddigon ohoni, gobeithio, i gael ambell i lyfr newydd i mi fy hun; anodd ydi cael rheini fel mae petha rwan─''y pris yn rhy fawr a'r pres yn rhy fach." Heblaw hynny, mi rydw i wedi cael dau'n barod i gymryd shares yn y Gymdeithas.

Gruffydd

(Yn fywiog.) Dau'n barod! Go lew wir. Oes drwg gofyn pwy ydy nhw?

Mr Evans

Pirs Davies, Rhyd y Fen, ydi un.

Gruffydd

Rhen Birs yn shareholder! Pirs sydd wedi cadw'i arian yn i sana drwy'r blynyddoedd, rhag ofn i'r bancia dorri! Da i byth o'r fan ma.

Mr Evans

Huw Tomos y Ffridd ydi'r llall.

Gruffydd

(Neidia ar ei draed.) Ar f'engoch i, Huw ffals wedi mentro! Wel, myn cebyst, dydi dydd y gwyrthia ddim ar ben. Huwcyn wedi credu yn sicrwydd y six per cents; mi fasa'n mynd i'r nefoedd yn i grynswrth tasa gyno fo chwarter cymin o grêd yn i grefydd, y lluman cyfrwys.

Mari

Rhag cywilydd i chi Gruffydd!─yn siarad fel pagan yng ngŵydd Mr. Evans fel hyn.

Gruffydd

Mae ceffyl castiog Huw yn y nghroen i o hyd, Mari bach; ond yn wirionadd i mi, fydd yn hwb da ymlaen i'r Gymdeithas yn yr ardal ma fod Huw wedi credu yni hi efo'i dafod ac hefo'i boced.

Dafydd

Mi rowch chitha'ch arian yni hi, Mr. Evans?

Mr Evans

Os na wna i, pwy wnaiff? Rydw i'n barod wedi rhoi'r geinog bach oedd gen i mewn yn y Gymdeithas. Be am danoch chi a Mari Huws, Gruffydd Huws?

Mari

Rydw i wedi dilyn hanes y Gymdeithas ers misoedd, ymhell yn wir cyn bod sôn am dani yma hefo ni. Mae gen i frawd yn Lerpwl fentrodd arni'n bur ddwfn, ac mae'r lloga'n dwad i mewn yn gyson fel y cloc. A dydi Gruffydd ma chwaith wedi cael fawr o lonydd ers plwc byd, mi rydw i'n gneud y ngora i gael ganddo roi deucant ne dri i mewn yni hi. Pam y rhaid i ni golli petha gora'r byd a chrafu a chynhilo a phinsio'n hunain a dim uwch bawd troed yn y diwedd?

Gruffydd

Wn i ddim yn iawn beth i ddeyd ar ol yr araith na─prun ai "Amen,'' ne "Clywch, clywch"; ond myn gafr, un dda oedd hi.



Egyr GWEN EVANS y drws a saif ynddo.

Gwen

Mi ddarum addo galw am y nhad wrth fyned heibio. Sut mae pawb yma heno?

Gruffydd

(A at y drws i ysgwyd llaw â hi a thyn hi i mewn i'r gegin.) Neno'r tad, dowch i mewn, Miss Evans, fytwn i mono chi, er ych bod chi'n ddigon da i'ch byta unrhyw ddiwrnod o'r wsnos.

Gwen

Na wir, rhoswn ni ddim heno, mae hi'n mynd yn hwyr. Sut rydach chi, Mari Huws?

Mari

(Dan ysgwyd llaw.) Go lew wir, thenciw; newch chi ddim eista funud?

Gwen

Na wir, rhaid mynd. Rwan nhad.

Mr Evans

(Gwisg ei het.) O'r gora. Wel, meddyliwch am y Gymdeithas yma'ch dau a chitha hefyd, Dafydd Roberts, mae hi'n camol i hun heb i mi ddeyd dim. Nos dawch i chi'ch tri.

Dafydd

Waeth i mi ddwad hefo chi Mr. Evans, mae'n bryd i minna fynd i glwydo. Nos dawch.



A DAFYDD allan yn gyntaf, MR. EVANS wedyn, a GWEN ar ei ol.

Gruffydd

(Pan mae GWEN yn mynd.) Miss Evans, os gwelwch chi Morus ni ar y ffordd yn rhywle, gofynnwch iddo fo be ydi'r rhif lluosog o'r gair bygêjmant─bygêjmynt, ne bygêjmantiau.

Mari

(Gan gydio yn ei fraich.) Tewch, y Iolyn gwirion. Nos dawch, Miss Evans. (Tyn y llian bwrdd o'r dror a thaena ef ar y bwrdd.)

Gruffydd

(Yn synfyfyriol.) Ma'r gloch bach yn canu yn y nghlust inna fel Dafydd, gresyn fod Mr. Evans yn codlo efo'r Gymdeithas ma.

Mari

Cloch bach yn canu yn ych clust chi, wir! Canu yn ych stumog chi y bydd hi amlaf. Wn i ar y ddaear fawr pam rydach chi'n petruso, achos ma'r Gymdeithas fel y Banc o Ingland, ac mi gewch weld y gnaiff Mr. Evans agent rhagorol.



LLEN

a1