Cofia'n Gwlad

Cue-sheet for Dafydd

(Emyn) 732 (Caneuon Ffydd)
 
(Y Pedwar) Ie!
(1, 10) 416 Ifan-John!
(Ifan-John) Dafydd.
 
(Ifan-John) Dafydd.
(1, 10) 419 Dyw hi ddim yn dod.
(1, 10) 420 Ddim yn gallu dod.
(1, 10) 421 Ma' rhyw chap uchel o'r fyddin yn y Plas heno.
(1, 10) 422 Swper a...
(Ifan-John) Boi recriwtio?
 
(Ifan-John) Boi recriwtio?
(1, 10) 424 O, ie-ie.
(1, 10) 425 Dad yn ei nabod e'n dda.
(1, 10) 426 Pryse wedi anghofio gweud, mae'n debyg.
(1, 10) 427 Wedes i weden i wrthot ti.
(Ifan-John) O'dd hi ddim yn hapus, debyg.
 
(Ifan-John) O'dd hi ddim yn hapus, debyg.
(1, 10) 429 Na.
(1, 10) 430 Ond wedyn...
(Ifan-John) Ie.
 
(Ifan-John) Wi'n gwbod.
(1, 10) 434 Ryw neges i fynd 'nôl?
(Ifan-John) Na.
 
(Ifan-John) Ti'n mynd 'nôl 'wan?
(1, 10) 438 Na.
(1, 10) 439 Nes mlaen.
(1, 10) 440 Yn hwyr.
(1, 10) 441 Â'i nôl i hebrwng Dad gatre.
 
(1, 10) 443 Beth amdanat ti? Be'ti'n mynd i 'neud 'wan?
(Ifan-John) Ddim yn gw'bod. Teg edrych tuag adre, siŵr o fod. Sypreis i Mam.
 
(Ifan-John) Ddim yn gw'bod. Teg edrych tuag adre, siŵr o fod. Sypreis i Mam.
(1, 10) 445 O, ie. Siwt mae dy fam? Gwella?
(Ifan-John) Gwella?
 
(Ifan-John) Gwella?
(1, 10) 447 Oedd hi ddim yn rhy dda wythnos ddiwetha', oedd-hi?
(Ifan-John) Nagoedd-hi?
 
(Ifan-John) Nagoedd-hi?
(1, 10) 449 O – wel, falle mai galw ar ryw neges ambiti'r capel wna'th Dad te.
(1, 10) 450 Sori.
(1, 10) 451 Anghywir, fel arfer.
(Ifan-John) Dafydd, mae'n bryd i ti stopio gwneud hynny.
 
(Ifan-John) Dim fel arfer.
(1, 10) 457 Ie, wel.
(1, 10) 458 Falle byddi di ddim yn gweud 'ny pan glywi di beth s'gen i i weud nesa'.
(1, 10) 459 Ti yw'r cynta' i w'bod, ti'n gw'bod.
(Ifan-John) Gw'bod beth, Dafydd?
 
(Ifan-John) Gw'bod beth, Dafydd?
(1, 10) 461 Dwi'n mynd i fynd.
(Ifan-John) Mynd?
 
(Ifan-John) Mynd?
(1, 10) 463 Ti'n gw'bod ble.
(Ifan-John) Dafydd!
 
(Ifan-John) Ti!
(1, 10) 466 Ie.
(1, 10) 467 Fi.
(1, 10) 468 Mister Gwerth-dim-byd-i-neb.
(Ifan-John) Mister Gwerth-dim-byd-i...
 
(Ifan-John) Ti ddim y teip i fynd.
(1, 10) 477 Nagw. Wi'n gw'bod.
(Ifan-John) Wel pam gythrel!...
 
(Ifan-John) Wel pam gythrel!...
(1, 10) 479 O'n i'n gw'bod byddet ti'n grac.
(Ifan-John) Wi ddim yn grac.
 
(Ifan-John) Wi'n...
(1, 10) 482 Wyt, Ifan-John.
(1, 10) 483 Wyt ti'n grac.
(Ifan-John) Ie.
 
(Ifan-John) O'n i'n meddwl bod e ddim yn pwyso.
(1, 10) 492 Dyw e ddim.
(1, 10) 493 Ddim arna'i.
(1, 10) 494 Dyw e ddim.
(Ifan-John) Wel mae'n pwyso ar bawb arall.
 
(Ifan-John) Wel mae'n pwyso ar bawb arall.
(1, 10) 496 Odi.
(1, 10) 497 Yn hollol.
(1, 10) 498 Pwyso ar bawb arall.
(1, 10) 499 Hollol.
(Ifan-John) O.
 
(Ifan-John) Wyt ti wedi gweud wrtho 'to?
(1, 10) 505 Dad?
(Ifan-John) Ie.
 
(Ifan-John) Ie.
(1, 10) 507 Na.
(1, 10) 508 Naddo.
(Ifan-John) Bydd hynny'n werth ei weld.
 
(Ifan-John) Beth am dy fam?
(1, 10) 513 Dwi heb weud wrth neb.
(1, 10) 514 Dim ond ti.
(Ifan-John) Gwd.
 
(Ifan-John) Bydd neb ddim callach.
(1, 10) 519 Mi fydda' i.
(Ifan-John) {Yn mynd i ymresymu ag e.}
 
(Ifan-John) Dafydd, Dafydd...
(1, 10) 523 Taw pia hi, Ifan-John.
(1, 10) 524 Ma'r penderfyniad wedi'i wneud.
(1, 10) 525 Dwi wedi penderfynu.
(Ifan-John) Wyt.
 
(Ifan-John) Pryd wyt ti'n mynd?
(1, 10) 532 Yr... yr un pryd â thi?
 
(1, 10) 534 Pryd wyt ti'n mynd?
(1, 10) 535 Wyt ti wedi gweud 'tho hi 'to?
(Ifan-John) Ddim 'to.
 
(Ifan-John) Ddim 'to.
(1, 10) 537 O.
(1, 10) 538 Ow'n i'n meddwl bo' ti'n meddwl gweud 'tho hi wythnos ddiwetha'.
(Ifan-John) Ie.
 
(Ifan-John) Ow'n i wedi meddwl.
(1, 10) 541 O.
(1, 10) 542 Ond wnes di ddim.
(Ifan-John) Naddo.
 
(Ifan-John) Wnes i ddim.
(1, 10) 545 Ond...wel... wyt ti'n dal...
(Ifan-John) Dafydd, wyt ti'n gw'bod mod i'n mynd.
 
(Ifan-John) 'Mhell cyn 'ny.
(1, 10) 551 Sori, Ifan-John.
(Ifan-John) Mowredd y byd!
 
(Ifan-John) Ymddiheuro.
(1, 10) 555 Odw.
(1, 10) 556 Am dy...
(Ifan-John) Am f'atgoffa o beth dwi wedi ffaelu 'wneud – ei chael hi mor anodd i wneud.
 
(Ifan-John) Mam fach!
(1, 10) 571 Ond dim ond ti sydd gyda hi, Ifan-John.
(1, 10) 572 Ontife.