a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1

{Act 1
Golygfa 1

Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn cyntaf...

Emyn
732 (Caneuon Ffydd)

O am nerth i dreulio 'nyddiau
yng nghynteddau tŷ fy Nhad,
byw yng nghanol y goleuni,
t'wyllwch obry dan fy nhra'd;
byw heb fachlud haul un amser,
byw heb gwmwl, byw heb boen,
byw ar gariad anorchfygol,
pur y croeshoeliedig Oen.

Dyro olwg ar dy haeddiant,
golwg ar dy deyrnas rad,
brynwyd imi ac a seliwyd,
seliwyd im â'th werthfawr wa'd:
rho im gyrchu tuag ati,
peidio byth â llwfwrhau;
ar fy nhaith ni cheisiaf gennyt
ond yn unig dy fwynhau.

Gyda thi mi af drwy'r fyddin,
gyda thi ma af drwy'r tân;
'dofnaf ymchwydd llif Iorddonen
ond i ti fynd yn y bla'n;
ti yw f'amddiffynfa gadarn,
ti yw 'Mrenin, ti yw 'Nhad,
ti dy hunan oll yn unig
yw fy iachawdwriaeth rad.

[William Williams]



Yn ystod yr emyn, araf-ddiffoddir y golau. O oleuni llachar yr 21ain ganrif dychwelwn at oleuni sy'n gydnaws â lampau olew ddechrau'r 20fed ganrif. Atgyfnerthir y siwrne hon yn ôl mewn amser wrth i organ gyfoes y cyfeiliant droi'n harmoniwm neu'n biano.

Yn ystod yr ail bennill, daw gwraig (Mrs. Jones) i'r sêt fawr. Mae hi'n bresennol yn y capel ond nid yw'n ymddangos pe bai'n rhan o bresenoldeb y gynulleidfa. Mae parsel yn ei llaw. Yn ei phwysau, mae'n datod y parsel ac yn gwisgo'r dilladach sydd ynddo amdani. Dillad galar ydynt. Eto, yn ei phwysau, mae'n dringo i'r pwlpud. Yn araf, mae'n codi ac yn ymestyn ei breichiau tuag at holl blant colledig ei bro. Wrth fôn ei hystym y mae galar am ei phlentyn ei hun. Ei hunig blentyn.

Wrth i'r emyn bennu dal i dyfu a chryfhau y mae ymestyniad y fam.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12