| (1, 1) 35 | Helo?... |
| (1, 1) 36 | Dei. |
| (1, 1) 37 | Dei Edwards. |
| (1, 1) 38 | Ffonio chi o Sir Fôn... |
| (1, 1) 39 | Ia, isio record... |
| (1, 1) 40 | Rŵan 'lly?... |
| (1, 1) 41 | Ia, iawn. |
| (Radio) John ac Alun... | |
| (Radio) Ti 'na? | |
| (1, 1) 57 | Ydw. |
| (Radio) Meddwl bo chdi 'di rhedag yn ôl i dy dwll 'chan. | |
| (Radio) O le ti'n ffonio, Dei? | |
| (1, 1) 60 | O Sir Fôn. |
| (Radio) Un arall o wlad y medra. | |
| (Radio) Un arall o wlad y medra. | |
| (1, 1) 62 | Ia... |
| (1, 1) 63 | Isio record 'dw i. |
| (Radio) Newydd fod yn siarad hefo Gloria. | |
| (Radio) Nabod hi? | |
| (1, 1) 66 | Nac'dw. |
| (Radio) Hogan ar y diawl, Gloria. | |
| (Radio) Ti'n lecio jam riwbob, Dei? | |
| (1, 1) 70 | Nac'dw. |
| (Radio) Pa jam ti'n lecio? | |
| (Radio) Pa jam ti'n lecio? | |
| (1, 1) 72 | Fydda i ddim yn lecio jam. |
| (Radio) O'n i'n meddwl fod pawb yn lecio jam. | |
| (Radio) Ti'n dal yna? | |
| (1, 1) 81 | Ydw. |
| (Radio) O ble'n union yn Sir Fôn ti'n ffonio? | |
| (Radio) O ble'n union yn Sir Fôn ti'n ffonio? | |
| (1, 1) 83 | Rhosceinwen. |
| (Radio) Lle ma' fanno? | |
| (Radio) Lle ma' fanno? | |
| (1, 1) 85 | Ddim yn bell o Niwbwrch. |
| (Radio) Hen le go lew, 'lly? | |
| (Radio) Hen le go lew, 'lly? | |
| (1, 1) 87 | Ma' siŵr. |
| (Radio) Ydyn nhw'n lecio jam cwsberis yna? | |
| (1, 1) 90 | 'D wn i'm duw. |
| (Radio) Be fasat ti'n lecio'i glywad Dei? | |
| (Radio) Be fasat ti'n lecio'i glywad Dei? | |
| (1, 1) 92 | Rhwbath gin Islwyn Davies. |
| (Radio) Ma'n ddrwg gin i? | |
| (Radio) Ma'n ddrwg gin i? | |
| (1, 1) 94 | Islwyn Davies. |
| (1, 1) 95 | Cyfansoddwr o'r sir 'ma. |
| (1, 1) 96 | Fuo fo farw bum mlynadd nôl. |
| (1, 1) 97 | Ma'n nhw'n dadorchuddio plac er co' amdano fo yn y pentra 'ma heno. |
| (1, 1) 98 | A deud y gwir, y darn faswn i'n lecio'i glywad fasa 'i drefniant o o |Gob Malltraeth|. |
| (Radio) Cob lle? | |
| (Radio) Cob lle? | |
| (1, 1) 100 | Cob Malltraeth. |
| (Radio) O, Malltraeth. | |
| (1, 1) 130 | Chwilio am dy fam. |
| (Dona) Dydi hi ddim yma. | |
| (Dona) Be sy 'lly? | |
| (1, 1) 135 | Gwlyb ydi hi yn y gwaelodion 'na. |
| (1, 1) 136 | Dydw i ddim isio stompio'r lle efo'r JCB 'na. |
| (1, 1) 137 | Ond be arall 'na i? |
| (Dona) Paid â gofyn i mi. | |
| (Dona) Mi fyddan nhw'n ôl munud, ma' siŵr. | |
| (1, 1) 141 | Be 'dw i fod i 'neud? |
| (1, 1) 142 | Bwrw mlaen? |
| (1, 1) 143 | Stomp fydd hi. |
| (1, 1) 144 | Y pridd yn rhy feddal. |
| (1, 1) 145 | I 'neud job iawn ma' gofyn rhoid llwythi o goncrit yna, sti? |
| (1, 1) 146 | Stompio diawl ydi peth fel hyn. |
| (Dona) Gneud fawr o wahaniaeth, nac 'di? | |
| (Dona) A'r lle 'ma ar fin ca'l 'i werthu. | |
| (1, 1) 150 | Pwy ydi'r bobol 'ma sy'n mynd i' brynu o? |
| (Dona) Duw a ŵyr. | |
| (Dona) Rhyw syndicate o'r Wirral. | |
| (1, 1) 153 | Barry yn un ohonyn nhw ma' siŵr, tydi? |
| (Dona) Wn i'm. | |
| (Dona) Dallt dim. | |
| (1, 1) 157 | Pa flwyddyn o'dd hi? |
| (Dona) Be? | |
| (Dona) Be? | |
| (1, 1) 159 | Pa flwyddyn cyfansoddodd o |Cob Malltraeth|? |
| (Dona) Rhywbryd yn niwadd y chwe dega. | |
| (Dona) Rhywbryd yn niwadd y chwe dega. | |
| (1, 1) 162 | Pan o'dd o'n darlithio ym Mangor. |
| (1, 1) 163 | Mi ddoth yno yn 1969, do? |
| (1, 1) 164 | Do, bendant... |
| (1, 1) 165 | Be sy? |
| (1, 1) 166 | 'Di synnu wyt ti? |
| (Dona) Synnu? | |
| (Dona) Synnu? | |
| (1, 1) 168 | Synnu mod i'n gwbod y petha ma? |
| (Dona) Pawb at y peth y bo. | |
| (Dona) Pawb at y peth y bo. | |
| (1, 1) 170 | Wyddost ti be fydda i'n 'neud ar ddydd Sadwrn? |
| (Dona) Na wn i. | |
| (Dona) Na wn i. | |
| (1, 1) 172 | Picio ben bora i Gaer. |
| (1, 1) 173 | Parcio'r car wrth yr afon a'i gneud hi'n syth bin am HMV. |
| (1, 1) 174 | Mi arhosa i yno am ryw ddwyawr, jest yn gwrando ar weithia'r mawrion. |
| (1, 1) 175 | Ia 'chan, y mawrion. |
| (1, 1) 176 | Tua'r un ar ddeg 'ma mi a' i am goffi i ryw le bach Italian wrth ymyl yr eglw's gadeiriol. |
| (1, 1) 177 | Boi o Verona sy' bia fo. |
| (1, 1) 178 | Ti 'di bod yn Verona? |
| (1, 1) 180 | Rhaid i ti fynd. |
| (1, 1) 181 | Uffar o amffitheatr fawr yno. |
| (1, 1) 182 | Operâu drwy'r ha' yn yr awyr agorad. |
| (1, 1) 183 | O'n i yno llynadd. |
| (1, 1) 184 | Welis i |Aida|. |
| (1, 1) 185 | Iawn. |
| (1, 1) 186 | Gormod o sbloets i mi ond ro'dd hi'n noson braf ar y diawl. |
| (1, 1) 187 | Jest pobol yn enjoio'u huna'n. |
| (1, 1) 188 | Tu allan i'r amffitheatr ma' 'na piazza mawr. |
| (1, 1) 189 | Caffis a ballu. |
| (1, 1) 190 | Ar ôl y perfformiad fues i yno'n ista am oria... |
| (1, 1) 191 | Lle o'n i? |
| (1, 1) 192 | O, ia, ca'l panad yng Nghaer. |
| (1, 1) 193 | Ar ôl llyncu'r banad mi a' i'n ôl i'r siop. |
| (1, 1) 196 | Be ydi hon? |
| (1, 1) 197 | Cân newydd? |
| (Dona) Ia. | |
| (Dona) Ia. | |
| (1, 1) 199 | Fawr o siâp arni, nac oes?... |
| (1, 1) 200 | Rhei pobol yn medru chwara honna'n iawn, sti?... |
| (1, 1) 201 | Am faint fuost ti yn y Guildhall na? |
| (1, 1) 204 | Be ddeudis i?... |
| (1, 1) 205 | Dim ond gofyn 'nes i... |
| (Meilir) Cob Malltraeth. | |
| (Meilir) Cob Malltraeth. | |
| (1, 1) 217 | 'Dw i'n gwella ma' raid. |
| (Meilir) Peidwch â gada'l imi'ch styrbio chi. | |
| (Meilir) Peidwch â gada'l imi'ch styrbio chi. | |
| (1, 1) 219 | Potsian o'n i. |
| (1, 1) 220 | Disgwl i'ch mam ddwad nôl o Fangor... |
| (1, 1) 221 | Gneud rhyw joban 'dw i iddi. |
| (Meilir) Chi pia'r...? | |
| (Meilir) Chi pia'r...? | |
| (1, 1) 223 | JCB. |
| (1, 1) 224 | Ia... |
| (1, 1) 225 | Dei. |
| (1, 1) 226 | Dei Edwards. |
| (1, 1) 227 | Mi fydda nhad yn cadw'r garej stalwm. |
| (1, 1) 228 | Cofio? |
| (Meilir) Tomi. | |
| (Meilir) Tomi. | |
| (1, 1) 230 | Ia, Tomi... |
| (1, 1) 231 | Meilir, te? |
| (Meilir) Ia. | |
| (Meilir) Ia. | |
| (1, 1) 233 | Y darlithydd? |
| (Meilir) Ia. | |
| (Meilir) Ia. | |
| (1, 1) 235 | Caerdydd? |
| (Meilir) Ar hyn o bryd beth bynnag. | |
| (Meilir) Ar hyn o bryd beth bynnag. | |
| (1, 1) 237 | Braf arnach chi. |
| (Meilir) Pam 'dach chi'n deud hynna? | |
| (Meilir) Pam 'dach chi'n deud hynna? | |
| (1, 1) 239 | Digon o gyngherdda 'na, toes? |
| (Meilir) Oes, ma' siŵr. | |
| (Meilir) Oes, ma' siŵr. | |
| (1, 1) 241 | Diawl o ddim byd rownd ffor'ma, chi? |
| (1, 1) 242 | Weithia, ma' 'na rwbath go lew ymlaen yn y coleg. |
| (1, 1) 243 | Ond yn y sir 'ma? |
| (1, 1) 244 | Diawl o ddim. |
| (1, 1) 245 | Bygyr ôl. |
| (1, 1) 246 | Dim ond pensionïars yn puo emyna mewn steddfoda a karaoke yn y Crown nos Sadwrn. |
| (Meilir) Be'n union dach chi'n 'neud allan yn fanna? | |
| (Meilir) Be'n union dach chi'n 'neud allan yn fanna? | |
| (1, 1) 248 | Cwestiwn da ar y diawl. |
| (Meilir) Y ffrwd 'na sy 'di gorlifo? | |
| (Meilir) Y ffrwd 'na sy 'di gorlifo? | |
| (1, 1) 251 | Ia a naci. |
| (1, 1) 252 | Pryd fuoch chi yma ddwytha, d'wch? |
| (Meilir) Dolig? | |
| (Meilir) Dolig? | |
| (1, 1) 254 | O'n i'n ama. |
| (1, 1) 255 | Mi benderfynodd ych mam 'i bod hi isio creu llyn yn y gwaelodion 'na. |
| (1, 1) 256 | Atal lli'r ffrwd drw' godi argae bridd. |
| (Meilir) I be? | |
| (Meilir) I be? | |
| (1, 1) 258 | Fydda i ddim yn gofyn cwestiyna, dim ond gneud fel ma' pobol yn ddeud wrtha'i. |
| (1, 1) 259 | Job ydi job, ond, myn diawl, ma' hon yn mynd yn drech na rhywun. |
| (1, 1) 260 | Rhy wlyb tydi? |
| (1, 1) 261 | Pridd yn rhy feddal. |
| (1, 1) 262 | Ma'r dŵr 'di dechra torri trwadd wrth y clawdd 'na. |
| (1, 1) 263 | Mi fydd Lôn Bacsia 'na'n llifo pan ddoith hi'n law. |
| (1, 1) 264 | Ac mi fydd Jac Tŷ Gwyn yn chwara'r diawl. |
| (1, 1) 265 | Rhyngthoch chi a fi, mocha diawl ydi peth fel hyn a dim byd arall. |
| (1, 1) 266 | Lluchio pres. |
| (Meilir) E'lla bod nelo fo rwbath â'r gwerthu. | |
| (Meilir) E'lla bod nelo fo rwbath â'r gwerthu. | |
| (1, 1) 268 | E'lla. |
| (Meilir) Rhyw betha fel hyn yn codi gwerth llefydd, tydyn? | |
| (Meilir) Rhyw betha fel hyn yn codi gwerth llefydd, tydyn? | |
| (1, 1) 270 | Ma' siŵr. |
| (Meilir) Ond mae o'n beth hurt ar y naw i' ga'l, a chitha'n gwynebu'r môr, tydi? | |
| (Meilir) Neb adra 'lly? | |
| (1, 1) 274 | Ma' Dona 'ma. |
| (Meilir) Lle ma' hi? | |
| (Meilir) Lle ma' hi? | |
| (1, 1) 276 | Fyny grisia. |
| (Meilir) Ydi 'mrawd wedi cyrraedd? | |
| (Meilir) Ydi 'mrawd wedi cyrraedd? | |
| (1, 1) 278 | 'Dw i ddim yn meddwl... |
| (1, 1) 279 | Gewch chi ddewis ych llofft felly. |
| (Meilir) Wel caf, caf? | |
| (Meilir) Wel caf, caf? | |
| (1, 1) 281 | Thâl hyn ddim. |
| (1, 1) 282 | Mi fedra i fwrw mlaen hefo'r peipia 'na, medra? |
| (1, 1) 285 | Ges i uffar o feirniada'th dda gynno fo, 'chi? |
| (Meilir) Gin bwy? | |
| (Meilir) Gin bwy? | |
| (1, 1) 287 | Ych tad. |
| (1, 1) 288 | Ga'th o wahoddiad i feirniadu yn steddfod 'r ysgol. |
| (1, 1) 289 | Unawd bechgyn dan bymthag. |
| (1, 1) 290 | Un o'i ganeuon o'i hun o'dd y darn. |
| (1, 1) 291 | 'Llyn Cerrig Bach'. |
| (1, 1) 292 | Hen ddarn digon anodd i lais ifanc ond, myn diawl, ges i gynta gynno fo. |
| (1, 1) 293 | A beirniada'th. |
| (1, 1) 294 | Mi fynnodd draddodi'r feirniada'th. |
| (1, 1) 295 | Yr unig un draddododd o drw' gydol y steddfod. |
| (1, 1) 296 | Isio imi fynd am wersi canu... |
| (1, 1) 297 | Mynd i goleg cerdd a ballu. |
| (1, 1) 298 | Uffar o hwb i rywun ar y pryd. |
| (1, 1) 299 | Oedd 'chan. |
| (1, 1) 300 | Hwb ar ar y diawl. |
| (Meilir) Pam na fasach chi wedi mynd? | |
| (Meilir) Pam na fasach chi wedi mynd? | |
| (1, 1) 302 | A'th nhad yn giami, do? |
| (1, 1) 303 | Rhwbath ar yr iau. |
| (1, 1) 304 | Naethon nhw ddim byd ond 'i agor o fath â macrall a'i gau o. |
| (1, 1) 305 | Blydi doctoriad. |
| (1, 1) 306 | Cofio un ohonyn nhw'n galw mam a finna' i ryw 'stafall. |
| (1, 1) 307 | "Ma'n ddrwg gynnon ni Mrs.Edwards. |
| (1, 1) 308 | 'Fedrwn i 'neud dim byd iddo fo." |
| (1, 1) 309 | dyma fo'n troi ar i sowdwl a'i gluo hi allan. |
| (1, 1) 310 | Y peth nesa' o'n i'n 'i glywad o'n chwerthin ar y coridor hefo rhyw ddoctor arall. |
| (1, 1) 311 | Sais. |
| (1, 1) 312 | Sôn am Baron Hill a rhyw golff a ballu. |
| (1, 1) 313 | 'I weld o'n beth rhyfadd i neud a mam o fewn deg llath iddo fo'n beichio crio. |
| (1, 1) 314 | Ia, blydi doctoriad. |
| (1, 1) 315 | Arglwydd, rhaid imi watsiad be 'dw i'n ddeud. |
| (1, 1) 316 | 'Dach chi'n ddoctor, tydach? |
| (Meilir) Nac 'dw, ond gweithio'n yr un maes. | |
| (Meilir) Nac 'dw, ond gweithio'n yr un maes. | |
| (1, 1) 318 | Be 'lly? |
| (Meilir) Geneteg. | |
| (Meilir) Geneteg. | |
| (1, 1) 320 | 'Genes' a ballu, ia? |
| (Meilir) 'Dach chi wedi clywad am y petha 'ma felly? | |
| (Meilir) 'Dach chi wedi clywad am y petha 'ma felly? | |
| (1, 1) 322 | Uffar o ddim byd arall yn y papura ma' dyddia yma, nac o's?... |
| (1, 1) 323 | Ta waeth, ro'dd rhaid i rywun gymryd y garej, toedd? |
| (1, 1) 324 | Fel 'a ma' hi, ond myn diawl ro'dd o'n beth braf gwbod bod o ynach chi... |
| (1, 1) 325 | Yn yr hen 'genes' 'ma, te? |
| (Meilir) Wel, ia. | |
| (Meilir) {Mae MEILIR yn edrych ar y piano am ennyd.} | |
| (1, 1) 328 | |Cob Malltraeth|. |
| (1, 1) 329 | Uffar o gân. |
| (Meilir) Claire?... | |
| (Meilir) O. | |
| (1, 1) 587 | Dwad yma i dwtio 'nes i, ddim i blydi 'redig. |
| (1, 1) 588 | Ylwch? |
| (1, 1) 589 | Lawnt ydi honna i fod. |
| (Dona) Isio panad? | |
| (Dona) Isio panad? | |
| (1, 1) 591 | Wna'i ddim gwrthod. |
| (Dona) Meilir. | |
| (Dona) Dowch i mewn. | |
| (1, 1) 595 | Na, ma'n nhraed i'n drybola o faw. |
| (Dona) Tynna dy sgidia a gad nhw'n fanna. | |
| (Dona) Tynna dy sgidia a gad nhw'n fanna. | |
| (1, 1) 597 | Fedri di ddiodda'r ogla? |
| (Dona) {Wrth DEI.} | |
| (Dona) Coffi 'ta te? | |
| (1, 1) 600 | Coffi. |
| (1, 1) 601 | A gwna fo'n gry'. |
| (1, 1) 605 | Stomp fel hyn ddim yn mynd i godi gwerth y lle 'ma, nac 'di? |
| (1, 1) 606 | Y? |
| (1, 1) 607 | Blydi syniad lloerig. |
| (1, 1) 608 | Ffrydia. |
| (1, 1) 609 | Petha rhyfadd ar y diawl. |
| (1, 1) 610 | Fel tasa gynnyn nhw'u hewyllys 'u huna'n. |
| (1, 1) 612 | Betia i chi, pan ddo'i yma ben bora fory, mi fydd 'na dros droedfadd o ddŵr ar y blydi lôn 'na. |
| (1, 1) 613 | 'Dw i 'di cario tunelli at y clawdd 'na'n barod. |
| (1, 1) 614 | Gneud diawl o ddim gwahania'th. |
| (1, 1) 615 | Be 'dach chi'n chwara? |
| (Meilir) |Ffrwd Ceinwen|. | |
| (Meilir) |Ffrwd Ceinwen|. | |
| (1, 1) 617 | Gwaith ych tad 'lly? |
| (Meilir) Ia. | |
| (Meilir) Ia. | |
| (1, 1) 619 | 'Chlywis i 'rioed amdani. |
| (Meilir) 'Nath o rioed 'i chyhoeddi hi. | |
| (Meilir) 'Nath o rioed 'i chyhoeddi hi. | |
| (1, 1) 621 | Gwahanol rywsut, tydi? |
| (1, 1) 622 | Hynny ydi, gwahanol i'r petha er'ill gyfansoddodd o. |
| (1, 1) 624 | Sori... |
| (1, 1) 625 | Cariwch ymlaen. |
| (Meilir) Na. | |
| (Meilir) Fedra i ddim yn 'y myw gofio'r gweddill. | |
| (1, 1) 628 | Pam? |
| (Meilir) Wn i'm. | |
| (Meilir) Y cwbwl ar chwâl, rywsut. | |
| (1, 1) 632 | 'Sgynnoch chi gopi ohoni? |
| (Meilir) Oes, yn y stydi 'cw'n rhwla. | |
| (Meilir) Yng nghanol y nialwch. | |
| (1, 1) 635 | 'Dach chi'n un blêr? |
| (Meilir) Gythreulig. | |
| (Meilir) Be sy' mor ddoniol? | |
| (1, 1) 639 | Ddim yn disgwl i chi ddeud gair fel 'na. |
| (Meilir) Pam? | |
| (Meilir) Pam? | |
| (1, 1) 641 | Wn i'm. |
| (1, 1) 642 | Swnio mor, be fasa'r gair, gartrefol? |
| (1, 1) 643 | Hen ffasiwn? |
| (1, 1) 644 | Fath â tasach chi rioed wedi gada'l y lle 'ma. |
| (Meilir) Ges i 'magu yma. | |
| (Meilir) Ges i 'magu yma. | |
| (1, 1) 646 | Do... |
| (1, 1) 647 | O'dd o'n siomedig? |
| (Meilir) Pwy? | |
| (Meilir) Pwy? | |
| (1, 1) 649 | Ych tad. |
| (Meilir) Ynglŷn â be? | |
| (Meilir) Ynglŷn â be? | |
| (1, 1) 651 | Na 'naethoch chi ddim mynd yn gerddor? |
| (Meilir) Os o'dd o, ddeudodd o 'rioed. | |
| (Meilir) Os o'dd o, ddeudodd o 'rioed. | |
| (1, 1) 653 | Meindio i mi ofyn 'lly... sut geuthoch chi afa'l ar y diwn 'ma, ta? |
| (Meilir) Fo roth hi imi. | |
| (Meilir) Fo roth hi imi. | |
| (1, 1) 655 | Pryd? |
| (Meilir) Rhyw fis cyn iddo fo farw. | |
| (Meilir) Duw a ŵyr lle taris i hi. | |
| (1, 1) 676 | E'lla ma yn yr anorac 'na mae hi? |
| (Meilir) E'lla... | |
| (Meilir) Barry Williams? | |
| (1, 1) 679 | Be amdano fo? |
| (Meilir) Nabod o? | |
| (Meilir) Nabod o? | |
| (1, 1) 681 | 'Dw i'n gweithio iddo fo, tydw? |
| (Meilir) Mam a fynta'n dipyn o lawia, medda Dona. | |
| (Meilir) Mam a fynta'n dipyn o lawia, medda Dona. | |
| (1, 1) 683 | Dyna ddeudodd madam? |
| (Meilir) Ma 'na fwy iddi na hynny, toes? | |
| (Meilir) Ma 'na fwy iddi na hynny, toes? | |
| (1, 1) 685 | Ylwch, dim ond dwad yma i weithio 'dw i. |
| (Meilir) Syniad pwy o'dd gwerthu'r lle 'ma? | |
| (Meilir) Fo ta hi? | |
| (1, 1) 688 | Ylwch, do's 'nelo fo'm byd â fi... |
| (1, 1) 689 | Ond, os cewch chi hyd i'r darn 'na, fasach chi'n fodlon anfon copi ata' i? |
| (Meilir) Atab 'y nghwestiwn i! | |
| (Meilir) Ma'n ddrwg gin i. | |
| (1, 1) 694 | Well gin i stomp 'dw i'n gyfarwydd â hi, myn diawl. |
| (Dona) 'Ma chdi. | |
| (Dwynwen) Ia, du. | |
| (1, 1) 995 | Fedra i 'neud dim byd yn y gwaelodion 'na. |
| (1, 1) 996 | Ma' hi'n rhy wlyb. |
| (Barry) Chdi sy 'di bod yn stompio, te? | |
| (Barry) Y? | |
| (1, 1) 999 | Ma'n rhaid inni ga'l at y llyn, rhaid? |
| (Barry) Gad hi tan fory. | |
| (Barry) Y? | |
| (1, 1) 1004 | Be? |
| (Barry) 'I chôt hi. | |
| (Dwynwen) Barry. | |
| (1, 1) 1008 | Del. |
| (1, 1) 1009 | Del iawn, Mrs Davies. |
| (Barry) Dau gant, washi. | |
| (1, 1) 1012 | Arglwydd... |
| (Barry) Paid â mynd. | |
| (1, 1) 1016 | Pam? |
| (Barry) Gin i rwbath i ddangos iti. | |
| (Barry) Gin i rwbath i ddangos iti. | |
| (1, 1) 1018 | Be? |
| (Barry) Aros am funud. | |
| (Barry) Caria hi imi, gwael. | |
| (1, 1) 1027 | Ew. |
| (1, 1) 1028 | Cwch bach handi 'chan. |