a1, g1

Ffrwd Ceinwen (2000)

William R Lewis

Ⓗ 2000 William R Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1


Yr Olygfa: Parlwr moethus mewn plasdy bychan ar arfordir de-orllewinol Môn. Mae wedi'i ddodrefnu'n chwaethus — hen ddodrefn da. Mae ynddo silffoedd llyfrau a'r rheini'n or-daclus. Ar y muriau mae lluniau haniaethol eu naws yn crogi. Yn un pen i'r parlwr y mae piano grande agored a darnau o gerddoriaeth arni. Mae yma hefyd hi-fi drudfawr ac wrth ei ymyl nifer o grynoddisgiau a thapiau caset. Mae yna gitâr yn y parlwr hefyd. Hwnt ac yma mae teganau plentyn ifanc iawn.

Mae'r stafell yn arwain allan i batio sy'n arwain i lawr grisiau gerrig at lawnt. Yng ngwaelod y lawnt hon y mae llyn ond ni all y gynulleidfa ei weld.

Tywyllwch. Fel y cyfyd y golau, clywn 'Ffrwd Ceinwen' yn cael ei chanu gan driawd piano. (Cyfansoddiad John Hywel.) Yn araf mae'r gerddoriaeth yn distewi. Yn y pellter, clywir sŵn injian gref JCB yn nesáu at y tŷ. Mae'r sŵn yn cryfhau ac yna'n peidio. Y tu allan clywir llais. DEI yn gweiddi: 'Mrs Davies? Mrs Davies?'. Mae DEI yn ymddangos wrth y grisiau gerrig. Mae'n ŵr ifanc tua 27 oed mewn dillad gwaith ac yn bur flêr yr olwg. Mae'n edrych o'i gwmpas, diffodd ei sigarét a cherdded yn llechwraidd braidd i'r parlwr. Unwaith eto, mae'n gweiddi 'Mrs Davies?', ac yna 'Dona?' ond ni chaiff ymateb. Mae'n ymlacio rhywfaint gan gerdded o gwmpas. Mae'n edrych ar y llyfrau, yna'r recordiau a'r crynoddisgiau. Mae'n eistedd wrth y piano ac yn ceisio chwarae alaw o'i gof (un o eiddo Islwyn Davies, y cyfansoddwr, yn seiliedig ar 'Os Torrith Cob Malltraeth') ond mae'n cael cryn drafferth i fwrw ymlaen. Mae hyn yn ei gordeddu a'i wneud yn hynod flin a rhwystredig. Mae'n codi'n sydyn fel petai mewn siom a cherdded at yr hi-fi a'i droi ymlaen. Mae'n tiwnio radio'r hi-fi i orsaf arbennig a chlywir un o ganeuon 'John ac Alun' yn cael ei chwarae ar y radio. Mae'n ymateb i'r gân yn hynod flin. "Blydi hel!" a throi y sain i lawr ychydig. Mae'n tynnu ffôn symudol o'i boced a phwyso'i fotymau.

Dei

(Ar y ffôn.) Helo?... Dei. Dei Edwards. Ffonio chi o Sir Fôn... Ia, isio record... Rŵan 'lly?... Ia, iawn.



Daw record John ac Alun' i ben.

Radio

John ac Alun... Cofiwch fynd i wrando arnyn nhw yn Nhafarn y Rhos wsnos nesa'. Mi fydd yn noson a hannar. Ewch ych hun Gloria bach. Peidiwch â mynd â'r hen ŵr diflas 'na sy' gynnoch chi i ddifetha'r noson... Ond pwyll hefo'r llaeth mwnci... Yr hen Gloria o Walchmai. Halan y ddaear... Reit bobol, ma'n nhw'n deud i mi fod 'na rywun o'r enw Dei ar ben arall y ffôn... Dei? Ti 'na?



Mae DEI yn cynhyrfu.

Radio

Dei? Ti 'na?

Dei

Ydw.

Radio

Meddwl bo chdi 'di rhedag yn ôl i dy dwll 'chan. O le ti'n ffonio, Dei?

Dei

O Sir Fôn.

Radio

Un arall o wlad y medra.

Dei

Ia... Isio record 'dw i.

Radio

Newydd fod yn siarad hefo Gloria. Nabod hi?

Dei

Nac'dw.

Radio

Hogan ar y diawl, Gloria. Newydd ddeud wrtha'i sut ma' gneud jam riwbob. Ti'n lecio jam riwbob, Dei?

Dei

Nac'dw.

Radio

Pa jam ti'n lecio?

Dei

Fydda i ddim yn lecio jam.

Radio

O'n i'n meddwl fod pawb yn lecio jam. Jam cwsberis fydda i'n lecio. Llond llwy ohono fo ar frechdan Hovis... Ti'n ca'l cythral o gollad sti? Y? Dydyn nhw ddim yn lecio jam yn Sir Fôn 'cw? Dei?... Dei? Ti'n dal yna?

Dei

Ydw.

Radio

O ble'n union yn Sir Fôn ti'n ffonio?

Dei

Rhosceinwen.

Radio

Lle ma' fanno?

Dei

Ddim yn bell o Niwbwrch.

Radio

Hen le go lew, 'lly?

Dei

Ma' siŵr.

Radio

Ydyn nhw'n lecio jam cwsberis yna?

Dei

(Yn flin.) 'D wn i'm duw.

Radio

Be fasat ti'n lecio'i glywad Dei?

Dei

Rhwbath gin Islwyn Davies.

Radio

Ma'n ddrwg gin i?

Dei

Islwyn Davies. Cyfansoddwr o'r sir 'ma. Fuo fo farw bum mlynadd nôl. Ma'n nhw'n dadorchuddio plac er co' amdano fo yn y pentra 'ma heno. A deud y gwir, y darn faswn i'n lecio'i glywad fasa 'i drefniant o o Gob Malltraeth.

Radio

Cob lle?

Dei

Cob Malltraeth.

Radio

O, Malltraeth. Ym Malltraeth ma'r hen Doris yn byw. Sut ma' hi pnawn 'ma Doris? Sut ma'r hen Sel? Ydi o am Man U dydd Sadwrn? Ydi m'wn. Stid gan' nhw, deuda wrtho fo... Hen bobol iawn ym Malltraeth. Halan y ddaear. Hogia'r werin, te?



Mae DEI yn rhoi'r ffôn i lawr yn hynod flin.

Radio

Reit Dei. 'Dw i newydd ga'l nodyn gin ryw bishyn bach yn fan'ma yn deud nad oes 'ma ddim byd gin Islwyn Davies. Fasa ti'n lecio rhwbath arall? Dei? Ti 'na? Dei? Lle a'th o 'dwch?... Ta waeth, enjoia hon gin yr hen Doreen Lewis. Hogan a hannar Doreen.



Mae'r gân i'w chlywed am ychydig ac yna, yn ei dymer, mae Dei yn diffodd y radio. Mae'n cerdded eto at y piano a cheisio chwarae, heb fawr o lwyddiant, y darn 'Cob Malltraeth'. Tra mae'n gwneud hyn ymddengys DONA ar y grisiau gerrig. Pan glyw'r gerddoriaeth, mae'n aros am ennyd. Mae mewn penbleth. Yna, mae'n cerdded i mewn. Am ennyd, nid yw DEI yn sylweddoli ei bod yno.

Dona

Be ti'n 'neud?

Dei

(Yn llawn ffwdan.) Chwilio am dy fam.

Dona

Dydi hi ddim yma. Ma' hi 'di picio i Fangor hefo Barry i nôl rhyw betha at heno. Pam? Be sy 'lly?

Dei

Gwlyb ydi hi yn y gwaelodion 'na. Dydw i ddim isio stompio'r lle efo'r JCB 'na. Ond be arall 'na i?

Dona

Paid â gofyn i mi. 'Dw i'n dallt dim. Mi fyddan nhw'n ôl munud, ma' siŵr.

Dei

Be 'dw i fod i 'neud? Bwrw mlaen? Stomp fydd hi. Y pridd yn rhy feddal. I 'neud job iawn ma' gofyn rhoid llwythi o goncrit yna, sti? Stompio diawl ydi peth fel hyn.



Mae DONA yn chwilio am rywbeth yn y silff lyfrau.

Dona

Gneud fawr o wahaniaeth, nac 'di? A'r lle 'ma ar fin ca'l 'i werthu.

Dei

Pwy ydi'r bobol 'ma sy'n mynd i' brynu o?

Dona

Duw a ŵyr. Rhyw syndicate o'r Wirral.

Dei

Barry yn un ohonyn nhw ma' siŵr, tydi?

Dona

Wn i'm. Fydda i byth yn holi. Dallt dim.

Dei

Pa flwyddyn o'dd hi?

Dona

Be?

Dei

Pa flwyddyn cyfansoddodd o Cob Malltraeth?



Mae Dona yn codi ei hysgwyddau.

Dona

Rhywbryd yn niwadd y chwe dega.

Dei

Pan o'dd o'n darlithio ym Mangor. Mi ddoth yno yn 1969, do? Do, bendant... Be sy? 'Di synnu wyt ti?

Dona

Synnu?

Dei

Synnu mod i'n gwbod y petha ma?

Dona

Pawb at y peth y bo.

Dei

Wyddost ti be fydda i'n 'neud ar ddydd Sadwrn?

Dona

Na wn i.

Dei

Picio ben bora i Gaer. Parcio'r car wrth yr afon a'i gneud hi'n syth bin am HMV. Mi arhosa i yno am ryw ddwyawr, jest yn gwrando ar weithia'r mawrion. Ia 'chan, y mawrion. Tua'r un ar ddeg 'ma mi a' i am goffi i ryw le bach Italian wrth ymyl yr eglw's gadeiriol. Boi o Verona sy' bia fo. Ti 'di bod yn Verona?



Mae Dona yn codi ei hysgwyddau eto.

Dei

Rhaid i ti fynd. Uffar o amffitheatr fawr yno. Operâu drwy'r ha' yn yr awyr agorad. O'n i yno llynadd. Welis i Aida. Iawn. Gormod o sbloets i mi ond ro'dd hi'n noson braf ar y diawl. Jest pobol yn enjoio'u huna'n. Tu allan i'r amffitheatr ma' 'na piazza mawr. Caffis a ballu. Ar ôl y perfformiad fues i yno'n ista am oria... Lle o'n i? O, ia, ca'l panad yng Nghaer. Ar ôl llyncu'r banad mi a' i'n ôl i'r siop.



Mae DONA yn tynnu darn o bapur allan, gafael yn y gitâr a dechrau rhyw fwmial cân Saesneg. Mae DEI yn rhythu arni.

Dei

Be ydi hon? Cân newydd?

Dona

Ia.

Dei

Fawr o siâp arni, nac oes?... Rhei pobol yn medru chwara honna'n iawn, sti?... Am faint fuost ti yn y Guildhall na?



Yn ei thymer, y mae DONA yn codi, taflu'r gitâr ar y soffa a rhuthro i fyny'r grisia. Mae DEI wedi synnu at ei hymddygiad.

Dei

Be ddeudis i?... Dim ond gofyn 'nes i...



Mae DEI ar ei ben ei hun eto. Mae'n cerdded at y piano a cheisio, unwaith eto, chwarae'r un darn. Y tro hwn y mae'n cael gwell hwyl arni. Tra mae'n gwneud hyn mae MEILIR yn ymddangos. Mae wedi gwisgo'n drwsiadus mewn siwt a chôt ddu laes. Yn un llaw mae ganddo gês teithio ac yn y llaw arall gyfrifiadur symudol bychan. Mae'n edrych o'i gwmpas, yn arbennig i gyfeiriad y llyn. Mae'n syllu ar yr hyn a wêl gyda syndod. Yna, mae'n cymryd sylw o'r gerddoriaeth a cherdded i mewn. Y tro hwn y mae DEI yn ei weld.

Meilir

Cob Malltraeth.

Dei

'Dw i'n gwella ma' raid.

Meilir

Peidwch â gada'l imi'ch styrbio chi.

Dei

Potsian o'n i. Disgwl i'ch mam ddwad nôl o Fangor... Gneud rhyw joban 'dw i iddi.

Meilir

Chi pia'r...?

Dei

JCB. Ia... Dei. Dei Edwards. Mi fydda nhad yn cadw'r garej stalwm. Cofio?

Meilir

Tomi.

Dei

Ia, Tomi... Meilir, te?

Meilir

Ia.

Dei

Y darlithydd?

Meilir

Ia.

Dei

Caerdydd?

Meilir

Ar hyn o bryd beth bynnag.

Dei

Braf arnach chi.

Meilir

Pam 'dach chi'n deud hynna?

Dei

Digon o gyngherdda 'na, toes?

Meilir

Oes, ma' siŵr.

Dei

Diawl o ddim byd rownd ffor'ma, chi? Weithia, ma' 'na rwbath go lew ymlaen yn y coleg. Ond yn y sir 'ma? Diawl o ddim. Bygyr ôl. Dim ond pensionïars yn puo emyna mewn steddfoda a karaoke yn y Crown nos Sadwrn.

Meilir

Be'n union dach chi'n 'neud allan yn fanna?

Dei

Cwestiwn da ar y diawl.



Maent yn edrych allan.

Meilir

Y ffrwd 'na sy 'di gorlifo?

Dei

Ia a naci. Pryd fuoch chi yma ddwytha, d'wch?

Meilir

Dolig?

Dei

O'n i'n ama. Mi benderfynodd ych mam 'i bod hi isio creu llyn yn y gwaelodion 'na. Atal lli'r ffrwd drw' godi argae bridd.

Meilir

I be?

Dei

Fydda i ddim yn gofyn cwestiyna, dim ond gneud fel ma' pobol yn ddeud wrtha'i. Job ydi job, ond, myn diawl, ma' hon yn mynd yn drech na rhywun. Rhy wlyb tydi? Pridd yn rhy feddal. Ma'r dŵr 'di dechra torri trwadd wrth y clawdd 'na. Mi fydd Lôn Bacsia 'na'n llifo pan ddoith hi'n law. Ac mi fydd Jac Tŷ Gwyn yn chwara'r diawl. Rhyngthoch chi a fi, mocha diawl ydi peth fel hyn a dim byd arall. Lluchio pres.

Meilir

E'lla bod nelo fo rwbath â'r gwerthu.

Dei

E'lla.

Meilir

Rhyw betha fel hyn yn codi gwerth llefydd, tydyn?

Dei

Ma' siŵr.

Meilir

Ond mae o'n beth hurt ar y naw i' ga'l, a chitha'n gwynebu'r môr, tydi? Rhwbath yn chwithig mewn ca'l llyn a môr yn yr un llun o flaen ych llygad chi... Neb adra 'lly?

Dei

Ma' Dona 'ma.

Meilir

Lle ma' hi?

Dei

Fyny grisia.

Meilir

Ydi 'mrawd wedi cyrraedd?

Dei

'Dw i ddim yn meddwl... Gewch chi ddewis ych llofft felly.

Meilir

Wel caf, caf?

Dei

Thâl hyn ddim. Mi fedra i fwrw mlaen hefo'r peipia 'na, medra?



Wrth fynd allan, mae DEI yn bwrw golwg ar y piano. Mae'n aros ennyd.

Dei

Ges i uffar o feirniada'th dda gynno fo, 'chi?

Meilir

Gin bwy?

Dei

Ych tad. Ga'th o wahoddiad i feirniadu yn steddfod 'r ysgol. Unawd bechgyn dan bymthag. Un o'i ganeuon o'i hun o'dd y darn. 'Llyn Cerrig Bach'. Hen ddarn digon anodd i lais ifanc ond, myn diawl, ges i gynta gynno fo. A beirniada'th. Mi fynnodd draddodi'r feirniada'th. Yr unig un draddododd o drw' gydol y steddfod. Isio imi fynd am wersi canu... Mynd i goleg cerdd a ballu. Uffar o hwb i rywun ar y pryd. Oedd 'chan. Hwb ar ar y diawl.

Meilir

Pam na fasach chi wedi mynd?

Dei

A'th nhad yn giami, do? Rhwbath ar yr iau. Naethon nhw ddim byd ond 'i agor o fath â macrall a'i gau o. Blydi doctoriad. Cofio un ohonyn nhw'n galw mam a finna' i ryw 'stafall. "Ma'n ddrwg gynnon ni Mrs.Edwards. 'Fedrwn i 'neud dim byd iddo fo." dyma fo'n troi ar i sowdwl a'i gluo hi allan. Y peth nesa' o'n i'n 'i glywad o'n chwerthin ar y coridor hefo rhyw ddoctor arall. Sais. Sôn am Baron Hill a rhyw golff a ballu. 'I weld o'n beth rhyfadd i neud a mam o fewn deg llath iddo fo'n beichio crio. Ia, blydi doctoriad. Arglwydd, rhaid imi watsiad be 'dw i'n ddeud. 'Dach chi'n ddoctor, tydach?

Meilir

Nac 'dw, ond gweithio'n yr un maes.

Dei

Be 'lly?

Meilir

Geneteg.

Dei

'Genes' a ballu, ia?

Meilir

'Dach chi wedi clywad am y petha 'ma felly?

Dei

Uffar o ddim byd arall yn y papura ma' dyddia yma, nac o's?... Ta waeth, ro'dd rhaid i rywun gymryd y garej, toedd? Fel 'a ma' hi, ond myn diawl ro'dd o'n beth braf gwbod bod o ynach chi... Yn yr hen 'genes' 'ma, te?

Meilir

Wel, ia. (Mae MEILIR yn edrych ar y piano am ennyd.)

Dei

Cob Malltraeth. Uffar o gân.



Mae DEI yn mynd allan. Pan â allan drwy ddrws y patio mae'n aros am ennyd ac edrych i gyfeiriad y llyn. Ymddengys fel petai'n ffieiddio ato'i hun. Mae'n magu plwc a cherdded i gyfeiriad y llyn gan adael MEILIR ar ei ben ei hun yn y stafell. Mae MEILIR yn edrych o'i gwmpas a thynnu ei ffôn symudol allan a phwyso'i fotymau. Mae rhywun, y pen arall, yn ateb yr alwad.

Meilir

Claire?... Meilir... Are you teaching?... Just ringing to tell you I've arrived... Tonight... I don't think it's much of a do. Just the family, a few friends and some local dignitaries. Look. I'm coming down to London tomorrow... There's this conference at Imperial College. I also want a chat with the prof... Yes, I've applied for the post... How many times do I have to tell you? I don't care what Eleri says. Could we meet tomorrow evening somewhere?... A concert? Where? What time does it finish?... Meet me afterwards... What about that little French place in Covent Garden?... I have to see you, Claire...



Daw Dona i mewn fel pe bai ar frys gwyllt. Mae MEILIR yn ddiplomataidd yn dirwyn y sgwrs ffôn i ben.

Meilir

I'll give you a ring later on... Fine. Great. Cheers. (Mae'n rhoi'r ffôn i lawr ac edrych ar DONA yn ymbalfalu yng nghanol y crynoddisgiau.)

Dona

'Chlywis i mohonat ti'n cyrra'dd.

Meilir

Newydd landio.

Dona

Dy hun wyt ti?

Meilir

Ia. Eleri'n methu dwad. Rhyw gwrs gynni hi. A ma' Deian a Glain yn cymryd rhan mewn gala nofio. Rhwbath gin yr Urdd. 'Nes i ddim dallt yn iawn.

Dona

Mi faswn i 'di lecio'u gweld nhw.

Meilir

Ia, wel, fel 'a ma' hi... Faint o'r gloch ma'r cyfarfod 'ma?

Dona

Tua'r saith 'ma.

Meilir

Syniad gwallgo' pwy o'dd trefnu peth fel hyn?

Dona

Rhyw bwyllgor placia ne' rwbath.

Meilir

Be?

Dona

Ma'n nhw'n rhoid plac ar gartrefi enwogion yr ynys 'ma.

Meilir

Ond yn y capal ma'n nhw'n rhoid y plac er cof am dad.

Dona

Dyna o'dd dymuniad mam.

Meilir

Gwasanaeth crefyddol.

Dona

Ma' siŵr y medrat ti 'i alw fo'n hynny.

Meilir

Pwy fydd yn cymryd y gwasanaeth 'ma?

Dona

Rhys.

Meilir

Ydi o 'di cytuno 'lly?

Dona

Am wn i...

Meilir

Diddorol.

Dona

Pam? Pryd welist ti o ddwytha?

Meilir

Rhys? Yn Llundain rhyw ychydig ar ôl Dolig. Ro'n i mewn cynhadledd yn Imperial College. Amsar cinio o'dd hi. Bicis i i Jermyn Street. Isio prynu crys ne' ddau a phwy ddoth rownd rhyw gongol ond Rhys. Dau offeiriad arall hefo fo. Ges i dipyn o sioc a deud y gwir. Wedi cymryd ychydig ddyddia o wylia medda fo. 'Chawson ni fawr o sgwrs. Ro'dd o ar frys. Ar 'i ffordd i weld rhyw sioe neu'i gilydd.

Dona

O'dd o'n edrach yn hapus?

Meilir

Edrach yn ddigon bodlon 'i fyd. Ac yn medru byw yn ddigon twt ar gyflog offeiriad. Mi fydd yn gyrru rhyw gildwrn i'r plant 'cw rownd y rîl. Fydd o'n gyrru rhwbath i Tudur?

Dona

(Yn gwta.) Bydd, weithia.

Meilir

Faint 'neith Tudur rŵan?

Dona

Pedair Dolig nesa.

Meilir

Llond llaw?

Dona

Ydi.

Meilir

Mynd i'r ysgol feithrin?

Dona

Nac 'di.

Meilir

Pam?

Dona

Ca'l 'i hel o'no, y tinllach bach drwg.

Meilir

Lle mae o rŵan?

Dona

Ca'l 'i warchod.

Meilir

Gin bwy?

Dona

Mrs Ashfield. Byw yn Tŷ Calch. Athrawes ydi hi ond yn methu ca'l gwaith. Dim Cymraeg gynni hi. Tudur wrth 'i fodd yna. Mi geith aros 'na heno. Ma' hi'n dda fel 'na. Dim byd yn ormod o draffarth iddi... (Mae DONA yn anesmwytho.)

Meilir

Leciwn i 'i weld o. Plant yn altro. Rhei acw 'di altro'n ofnadwy. Yn enwedig Glain. Glain yn ca'l hwyl ar y cello. Ddoth adra o'r ysgol ryw ddiwrnod a deud "Dad, 'dw i'n mynd i ddysgu chwara'r cello." "Wyt ti wir?" medda fi, "a phwy sy'n mynd i brynu peth felly iti, mwyn tad?" "Chi, siŵr iawn", medda hi. Be fedrwn i ddeud? Chwe chant o bunna. Ond mae o wedi bod 'i werth o. Ma' hi'n dda iawn chwara teg 'ddi.



Mae DONA, mewn tymer, yn rhuthro allan i'r patio.

Meilir

(Mewn syndod.) Be sy?... Dal i 'meio i twyt?

Dona

Nac 'dw.

Meilir

Ti'n dal i 'meio i am y busnas Arthur 'na twyt?

Dona

Nac 'dw.

Meilir

Trio achub dy groen di o'n i.

Dona

Do'dd gin ti ddim hawl i 'myrryd.

Meilir

Ro'dd o 'di hannar malu'r lle 'ma.

Dona

Dim hawl i fysnesu.

Meilir

Ac wedi dy gicio di'n ddu las a chditha'n disgwl i blentyn o. Be ddiawl o'n i fod i 'neud?

Dona

Ddylat ti ddim fod wedi gada'l iddo fo ddreifio'r car. 'Nest ti ddim hyd yn oed trio dal pen rheswm hefo fo.

Meilir

Fedra neb ddal pen rheswm hefo fo. Ro'dd o wedi meddwi, toedd?

Dona

Duw, Duw. Hogia'r lle 'ma i gyd yn chwil rownd y rîl.



Maent yn symud i mewn.

Dona

'Nest ti sylwi ar y bloda?

Meilir

Pa floda?

Dona

Ar y groeslon Pen Ffridd 'na, lle a'th Arthur ar 'i ben i'r wal.

Meilir

Naddo.

Dona

Bob dydd Sadwrn ma' Barry yn mynd â bloda yna. Parcio'r car wrth Ben Ffridd, croesi'r lôn a'u gosod nhw'n dwt wrth fôn y clawdd. Mi sefith yna am tua hannar awr yn gneud dim ond rhythu arnyn nhw... O'n i'n mynd heibio diwrnod o'r blaen... Rhwbath... gwag yn yr holl beth... Ond dyna fo... ro'dd o'n dad i Arthur, toedd?

Meilir

Ydi Barry yn gwbod?

Dona

Am y noson honno? Nac 'di. Mae o'n dal i feddwl ma' ar y ffordd adra o'r Crown o'dd o.

Meilir

Ŵyr o ddim ma' yma o'dd o?

Dona

Na, a cheith o'm gwbod chwaith bellach. 'Dw i ddim isio cynhyrfu'r dyfroedd. Ma' mam a fynta yn gymaint o lawia tydyn?

Meilir

Be ti'n feddwl, 'llawia'?

Dona

I helpu hi i ga'l caniatâd cynllunio ar yr hen sgubor 'na a ballu. Barry yn ddyn go bwysig erbyn hyn. Nabod pawb. Rhan o sefydliad y twll lle 'ma. Dydi o ddim yn ddrwg i gyd. Rhwbath reit ffeind yn'o fo. Eith â Tudur ar wylia i rwla bob hyn a hyn... Ma' hynny'n rhoid cyfla i mi roid mwy o sylw i'r band... A fydda i ddim yma mewn chydig fisoedd, na fydda'?

Meilir

O? A lle ti'n mynd, 'lly?

Dona

Brighton.

Meilir

Brighton?

Dona

Fanno ma'r rhan fwya o hogia'r band yn coleg. Ma'n nhw'n gorffan 'leni. 'Dan ni wedi penderfynu byw yno. 'Neith betha'n haws i bawb.

Meilir

Petha ar i fyny?

Dona

Ydyn.

Meilir

Ei di â Tudur hefo chdi?

Dona

E'lla gwna'i ada'l o hefo mam. Ga'i weld sut eith hi.

Meilir

'Dach chi wedi trafod y peth?

Dona

Do... Fydd hi ddim yn broblem fawr a deud y gwir. Mi fydd Tudur yn dechra'n 'r ysgol gyda hyn... Ysgol breifat yn rhwla.

Meilir

Ti'n sylweddoli faint 'neith hynny gostio?

Dona

Barry fasa'n talu. Isio gneud medda fo.

Meilir

Lle eith o felly?

Dona

Duw a ŵyr... A be ydi dy hanas di dyddia yma?

Meilir

Newydd 'neud cais am gadair.

Dona

Yng Nghaerdydd?

Meilir

Naci. Llundain.

Dona

Meddwl cei di hi?

Meilir

Siawns reit dda.

Dona

Be ma' Eleri'n ddeud?

Meilir

Cefnogol, fel arfar.

Dona

Be tasa ti'n i cha'l hi?

Meilir

Ia? Wel?

Dona

Wnâ' hi symud?

Meilir

Ma' siŵr.

Dona

Prinder athrawon yn Llundain meddan nhw.

Meilir

Felly ma'n nhw'n deud.

Dona

A'r plant?

Meilir

Fydd hynny ddim problem.

Dona

Pam?

Meilir

O'n inna wedi bwriadu gyrru rhei 'cw i ysgol breswyl hefyd.

Dona

Tydan ni fel teulu'n codi'n y byd?

Meilir

Ydan, tydan? Ond dyna fo, ma' rhaid talu am addysg dda dyddia yma... Mi fuon ni fel plant yn lwcus, sti? Ca'l mynd i lefydd a gweld petha, ca'l ehangu'n gorwelion. Cofio fel byddan ni'n mynd i Stratford 'stalwm? Stopio yn y dafarn 'na tu allan i Warwick. Be o'dd 'i henw hi d'wad?

Dona

Yr 'Horse and Jockey'.

Meilir

Gardd fawr yn y cefn i blant. Cofio ar ôl rhyw beint ne' ddau mi fydda' nhad yn mynd i hwyl. Dechra dyfynnu o'r ddrama ro'ddan ni wedi dwad i lawr i' gweld. (Mae'n dechrau dyfynnu.)

=v "There may be in the cup A spider steep'd and one may drink, depart And yet partake no venom, for his knowledge Is not infected; but if one present The abhorr'd ingredient to his eye, make known How he hath drunk, he cracks his gorge, his sides With violent hefts. (DONA yn ymuno.) I have drunk, and seen the spider."

Dona

The Winter's Tale. Leontes, Brenin Sisilia.

Meilir

Gwybodaeth yn llwyr newid y byd. Newid y cwbwl lot. Popeth.



Mae MEILIR yn anesmwytho. Mae'n edrych allan at y lawnt.

Meilir

Nhad wrth 'i fodd yn mynd at y ffrwd 'na. Yn yr ha' mi fydda'n mynd â chadair lan môr ac ista am oria yna. Mynd â dim hefo fo. Dim ond gorfadd yn ôl, cau'i lygaid a myfyrio. Tuag amser te, mi fydda mam yn mynd â phanad iddo fo. Wedyn mi ddôi i mewn, mynd at y piano a chyfansoddi tan berfeddion.



Mae'r ffôn yn canu. Mae Dona yn mynd i mewn a'i godi.

Dona

(Ar y ffôn.) Helo?... O, Iwan, sut ma hi?... Be? Sori?... Pleidleisio?... Naddo... Ddo'i heibio nes ymlaen, reit?... Na, na... Pobol ddiarth sy gynnon ni... Hwyl.



Mae'n dod yn ôl at MEILIR.

Meilir

Pwy o'dd 'na?

Dona

Rhyw foi yn gofyn o'ddwn i wedi pleidleisio.

Meilir

O.



Ymddengys DEI.

Dei

Dwad yma i dwtio 'nes i, ddim i blydi 'redig. Ylwch? Lawnt ydi honna i fod.

Dona

Isio panad?

Dei

Wna'i ddim gwrthod.

Dona

Meilir.

Meilir

Ia, iawn.

Dona

Dowch i mewn.

Dei

Na, ma'n nhraed i'n drybola o faw.

Dona

Tynna dy sgidia a gad nhw'n fanna.

Dei

Fedri di ddiodda'r ogla?

Dona

(Wrth DEI.) Coffi 'ta te?

Dei

Coffi. A gwna fo'n gry'.



Mae DONA yn mynd allan. Mae MEILIR yn cerdded at y piano ac eistedd i lawr yn rhythu ar y nodau. Mae DEI yn tanio sigarét.

Dei

Stomp fel hyn ddim yn mynd i godi gwerth y lle 'ma, nac 'di? Y? Blydi syniad lloerig. Ffrydia. Petha rhyfadd ar y diawl. Fel tasa gynnyn nhw'u hewyllys 'u huna'n.



Mae MEILIR yn ceisio chwarae nodau 'Ffrwd Ceinwen' ar y piano.

Dei

Betia i chi, pan ddo'i yma ben bora fory, mi fydd 'na dros droedfadd o ddŵr ar y blydi lôn 'na. 'Dw i 'di cario tunelli at y clawdd 'na'n barod. Gneud diawl o ddim gwahania'th. Be 'dach chi'n chwara?

Meilir

Ffrwd Ceinwen.

Dei

Gwaith ych tad 'lly?

Meilir

Ia.

Dei

'Chlywis i 'rioed amdani.

Meilir

'Nath o rioed 'i chyhoeddi hi.

Dei

Gwahanol rywsut, tydi? Hynny ydi, gwahanol i'r petha er'ill gyfansoddodd o.



Mae MEILIR yn rhoi'r gorau i chwarae.

Dei

Sori... Cariwch ymlaen.

Meilir

Na. Fedra i ddim yn 'y myw gofio'r gweddill.

Dei

Pam?

Meilir

Wn i'm. Rhyw ddarn na fedrwch chi rywsut deimlo be sy'n dwad nesa'. Y cwbwl ar chwâl, rywsut.

Dei

'Sgynnoch chi gopi ohoni?

Meilir

Oes, yn y stydi 'cw'n rhwla. Yng nghanol y nialwch.

Dei

'Dach chi'n un blêr?

Meilir

Gythreulig.



Mae DEI yn chwerthin.

Meilir

Be sy' mor ddoniol?

Dei

Ddim yn disgwl i chi ddeud gair fel 'na.

Meilir

Pam?

Dei

Wn i'm. Swnio mor, be fasa'r gair, gartrefol? Hen ffasiwn? Fath â tasach chi rioed wedi gada'l y lle 'ma.

Meilir

Ges i 'magu yma.

Dei

Do... O'dd o'n siomedig?

Meilir

Pwy?

Dei

Ych tad.

Meilir

Ynglŷn â be?

Dei

Na 'naethoch chi ddim mynd yn gerddor?

Meilir

Os o'dd o, ddeudodd o 'rioed.

Dei

Meindio i mi ofyn 'lly... sut geuthoch chi afa'l ar y diwn 'ma, ta?

Meilir

Fo roth hi imi.

Dei

Pryd?

Meilir

Rhyw fis cyn iddo fo farw. Ro'dd o'n Clatterbridge. Newydd ga'l 'i driniaeth. Do'dd o ddim hannar da ond mi fynnodd mod i'n mynd â fo am dro. Mi aethon ni i Hoylake. Parcio'r car wrth y môr. Hwyl dda arno fo. Aethon ni am dro gerddad. Fel ro'ddan ni'n cerddad yn ôl at y car dyma fo'n tynnu'r darn papur 'ma allan. "Rhwbath bach iti", medda fo. "Ges i hyd i biano yn y diawl lle 'na." Ddeudis i ddim byd ond 'i daro fo ym mhocad rhyw anorac o'dd gin i. Yr holl ffordd nôl i'r sbyty, ro'dd o'n sôn am y darn. Ond do'n i ddim yn gwrando. Yr unig beth o'dd ar 'y meddwl i o'dd rhyw ddarlith o'n i'n 'i rhoid yn Lerpwl gyda'r nos. Pan gyrhaeddon ni'r 'sbyty, do'dd o ddim isio imi fynd â fo'n ôl i'r ward. Ffarweliodd hefo fi yn y maes parcio. Llusgo cerddad o'r car ac fel o'n i'n cychwyn troi i edrach arna'i. Codi'i law a gwenu. Duw a ŵyr lle taris i hi.

Dei

E'lla ma yn yr anorac 'na mae hi?

Meilir

E'lla... Barry Williams?

Dei

Be amdano fo?

Meilir

Nabod o?

Dei

'Dw i'n gweithio iddo fo, tydw?

Meilir

Mam a fynta'n dipyn o lawia, medda Dona.

Dei

Dyna ddeudodd madam?

Meilir

Ma 'na fwy iddi na hynny, toes?

Dei

Ylwch, dim ond dwad yma i weithio 'dw i.

Meilir

Syniad pwy o'dd gwerthu'r lle 'ma? Fo ta hi?

Dei

Ylwch, do's 'nelo fo'm byd â fi... Ond, os cewch chi hyd i'r darn 'na, fasach chi'n fodlon anfon copi ata' i?

Meilir

Atab 'y nghwestiwn i! Be sy'n mynd ymlaen rhwng y ddau! Atab fi!... Ma'n ddrwg gin i.

Dei

Well gin i stomp 'dw i'n gyfarwydd â hi, myn diawl.



Mae DEI yn mynd allan wedi cynhyrfu, i'r lawnt. Mae MEILIR yn mynd yn ôl i'r parlwr. Mae'n cerdded o gwmpas fel petai mewn penbleth. Daw DONA i mewn gyda'r coffi. Mae'n rhoi un i MEILIR.

Dona

'Ma chdi.

Meilir

O... diolch. (Mae'n mynd i gyfeiriad y patio gan dybio fod DEI yno.)

Dona

Yn enw'r nefo'dd, tynna'r sgidia 'na a ty'd i mewn 'nei di. (Sylweddola nad yw DEI yna.) Lle me o 'di mynd?

Meilir

I'r gwaelodion 'na i rwla.

Dona

Ydi o'n dwad nôl?

Meilir

Wn i'm... Pryd ddechreuodd y ddau ddwad yn llawia?

Dona

Pwy?

Meilir

Barry a mam.

Dona

'Dw i ddim yn siŵr. Llynadd rywbryd...

Meilir

Be o'dd enw'i wraig o?

Dona

Mam Arthur?

Meilir

Ia.

Dona

Mair.

Meilir

Pam 'naethon nhw ysgaru?

Dona

'Naethon nhw ddim. Mi fuo hi farw ddwy flynadd yn ôl.

Meilir

Ond ro'ddan nhw wedi gwahanu, toeddan?

Dona

Oeddan.

Meilir

O'dd o'n potsian hefo rhywun?

Dona

Ddim i mi wbod. Pam ti isio gwbod y petha 'ma?

Meilir

Yr haf y buo nhad farw fues i gartra am bythefnos. Es i am dro i Langwyfan. Ar ganol y lôn 'na sy'n arwain at y traeth, ro'dd 'na Land Rover. Ro'n i'n meddwl ma' rhyw ffarmwr o'dd pia hi. Symud defaid ne' rwbath. Ond pwy ddoth ond Barry. Rhyw hogan hefo fo. Dal i gofio be o'dd hi'n 'i wisgo. Côt laes ddu. Golwg y diawl arni hi. Mae'n amlwg 'i bod nhw wedi bod yn ffraeo. Mi fagis i'r car at ben lôn i neud lle iddo fo basio. Dydw i ddim yn meddwl iddo fo nabod i. 'Mhen rhyw ddeuddydd, ro'n i'n nôl petrol yn y garej 'na yn Borth a phwy ddreifiodd i mewn ond y fo. Droth o'i ben. Ddeudodd o ddim gair wrtha'i... Ma' nhw'n fwy na llawia, tydyn?

Dona

Ma'n nhw'n bobol yn 'u hoed a'u hamsar, Meilir.

Meilir

Pam ddeudist ti g'llwydda wrtha'i?

Dona

'Nes i ddim deud c'lwydda wrthat ti.

Meilir

Do'ddat ti ddim isio imi ga'l gwbod am hyn, nac o'ddat?

Dona

Mam ofynnodd imi beidio deud.

Meilir

Pam?

Dona

Do'dd hi ddim isio rhyw hen annifyrdod. Y cyfarfod 'ma 'di drefnu a ballu, toedd? Be ydi o'r ots? Neno'r nefo'dd ma' gynnon ni'n tri yn bywyda'n hunan rŵan. Rhyngthyn nhw a'u petha.

Meilir

Be? Dydyn nhw 'rioed yn bwriadu...?

Dona

'D wn i'm. Diawl o ots gin i chwaith. Paid â chymryd arnat dy fod ti'n ama dim, reit? Ges i siars i gau ngheg... Ti'n gaddo imi?... Wel? Wyt ti?

Meilir

Iawn. Iawn.

Dona

Ydi hwn isio'r coffi 'ma ta be?



Mae DONA yn mynd at y patio a thaflu'r coffi allan ar y lawnt. Yn y cyfamser mae MEILIR wedi estyn ei gyfrifiadur ac yn dechrau gweithio arno. Daw DONA yn ôl i mewn. Mae'n edrych ar MEILIR am ennyd.

Dona

Newid dim, nac wyt?



Mae MEILIR yn ei fyd bach ei hun.

Meilir

Mm?

Dona

Dyna'r co' sy gin i amdanat ti.

Meilir

Be?

Dona

Dy drwyn mewn rhyw lyfr ne' rwbath rownd y rîl. (Mae DONA yn chwerthin.) Cofio ca'l uffar o beltan gin mam pan o'ddat ti'n gneud dy Lefel "A'. Ro'ddat ti'n gweithio ar gyfer rhyw bapur ffiseg yn y llofft. Ro'dd pawb i fod i gadw'n dawal. Ond y noson honno mi ddoth Gwenda Cae Llys adra o'r ysgol hefo fi. Ro'dd hi 'di prynu rhyw dâp. Duran Duran ne' rwbath, os 'dw i'n cofio'n iawn. Mi fynnodd 'i chwara fo'n llofft. Argo, dyma mam i mewn. Diffod y peth a rhoid peltan iawn imi. Ro'dd Gwenda wedi dychryn cymaint mi redodd adra heb 'i thâp. Mae o yma o hyd yn rhwla... (Mae DONA yn chwilio am y tâp.) Ges di lonydd, 'do?... Châi neb dy strybio di... Be ti'n 'neud pan ma'r hogia 'cw'n dy strybio di? Peltio nhw?...



Mae MEILIR yn llawn rhwystredigaeth yn gwrando ar hyn.

Dona

Be ti'n 'neud?

Meilir

Tsiecio rhyw ystadega.

Dona

Ystadega be?

Meilir

Am funud, Dona, plîs...

Dona

Sori.



Mae DONA yn cerdded at y silffoedd wrth ymyl yr hi-fi, tynnu crynoddisg allan, a'i roi i mewn yn y chwaraeydd. Mae miwsig pop yn diasbedain yn y stafell. Mae'n disgwyl ymateb gan MEILIR. Ni chaiff. Mae'n troi'r sain yn uwch.)

Meilir

Diffa hwnna, 'nei di?

Dona

Pam?

Meilir

Fedra'i ddim canolbwyntio.

Dona

Dos i'r llofft.

Meilir

'Dw i ddim isio mynd i'r llofft.

Dona

'Dw i isio clywad hon!

Meilir

O's rhaid iti?

Dona

Rhaid.

Meilir

Ti ddim yn gweld? 'Dw i'n trio gweithio!

Dona

Pam ma' rhaid iti weithio rŵan?

Meilir

'Cha' i ddim cyfla heno!

Dona

"Cha' inna ddim cyfla i wrando ar hon heno chwaith!

Meilir

Tro hi i lawr ta!

Dona

Na 'na!



Mae MEILIR yn ei dymer yn mynd at yr hi-fi a throi'r sain i lawr. Mae DONA unwaith yn rhagor yn troi'r sain yn uwch. Mae MEILIR yn ei droi i lawr. Mae DONA yn ei droi'n uwch. Dechreuant ymladd, bron.

Dona

Paid 'nei di! Ma' gin i hawl i' chlywad hi!

Meilir

Be ddiawl haru ti, d'wad! Faint ti'n feddwl ydi d'oed di?



Trwy'r drws cefn ymddengys DWYNWEN a BARRY. Mae'r ddau'n cario bagiau siopa. Mae gan Barry un bag neilltuol o fawr.

Dwynwen

Be ar wynab y ddaear ydi'r holl sŵn 'ma?

Barry

'I glywad o o dop lôn myn diawl.



Mae DWYNWEN yn rhoi'r bagiau ar lawr ac yn cerdded at yr hi-fi a'i ddiffodd.

Dwynwen

(Wrth MEILIR.) Newydd gyrraedd wyt ti?

Meilir

Rhyw hannar awr yn ôl.

Dwynwen

Nabod Barry, twyt?

Meilir

Ydw.

Barry

Gest ti siwrna go lew?

Meilir

Di-fai.

Dona

Rhywun wedi bod yn gwario eto?

Dwynwen

(Yn edrych ar BARRY.) A 'dan ni'n gwbod pwy, tydan?



Mae BARRY yn codi bag coch.

Barry

Rhwbath bach i ti.

Dona

Chwara teg.



Mae DONA yn cymryd y bag.

Barry

Agor o.



Mae DONA yn agor y bag a thynnu ffrog ddigon hyll allan. Nid yw'n siŵr beth i'w ddweud.

Dwynwen

Barry ddaru 'i dewis hi.

Barry

Gweld hi yn y boutique newydd 'na wrth ymyl capal Pen-dre.

Dwynwen

Dos i fyny i thrio hi, inni ga'l 'i gweld hi amdanat ti.

Dona

Rŵan 'lly?

Barry

Wel ia, siŵr dduw... Ydi Tudur yma?

Dona

Nac 'di. Ca'l 'i warchod.

Barry

Eto? Pryd ddiawl geith 'i daid 'i weld o?

Dona

A be dach chi 'di brynu iddo fo tro 'ma?



Mae'n tynnu cwch model allan o'r bag ynghyd â radio i'w reoli.

Barry

Hon, 'mechan i.

Dona

Ddylach chi ddim.

Barry

Dos i newid a paid â chwyno.



Mae DONA yn mynd allan.

Dwynwen

Pam na 'nei di gyfadda? Chdi dy hun o'dd isio hi, te?

Barry

Pawb hawl i ga'l ail blentyndod mechan i. Y? (Wrth MEILIR.) Be ti'n ddeud?

Meilir

Oes, ma' siŵr.

Dwynwen

Mi fasa ni'n ôl yn gynt onibai 'u bod nhw 'di codi'r lôn wrth Bryn Ysgo.

Meilir

Ges inna ddalfa'n fanno hefyd. Be ma'n nhw'n 'neud yna?

Dwynwen

Gofyn i Barry 'ma.

Barry

Pam gofyn i mi?

Dwynwen

Dy faes carafan di ydi o.

Barry

Oreit, oreit. Gwario 'dw i. Pawb isio steil dyddia yma, tydyn? Y? Showers a ballu. 'Neith pobol ddim mo'i ryffio hi heddiw. Isio'u blydi cysuron. Y job lot. Gwahanol iawn i fel bydda hi stalwm. 'Dw i'n cofio Mair a finna pan o'dd Arthur yn fabi...

Dwynwen

(Yn gwenu.) 'Dw i ddim isio'i chlywad hi.

Barry

Pam?

Dwynwen

Ma 'hi'n ffia'dd.

Barry

Dydi o ddim 'di chlywad hi, nac 'di? Mair a finna yn penderfynu rhentu carafan tu allan i Aberaeron. Do'ddan ni ddim isio mynd yn bell. Babi o'dd Arthur. Cyrraedd yno'n hwyr ryw nos Sadwrn. Sôn am uffar o le. Dim toilets. Dim showers. Bygyr ôl. Aethon ni adra ar ôl tridia. Pwy welis i ond Elis Huws Plas. Fo a'i wraig, newydd fod ar cruise o gwmpas Jamaica. "Sut a'th yr holidays Wilias?" medda fo. "Uffernol", medda fi. Dyma fi'n disgrifio'r twll lle 'ma gaethon ni yn Aberaeron. Ti'n gwbod be ddeudodd o?

Meilir

Na wn i.

Barry

"Ylwch, Wilias bach", medda fo, "dach chi'n ddyn sy'n gweithio fath â slaf drw'r flwyddyn. Pam ddiawl 'dach chi'n mynd i ffwrdd i rwla am wsnos jest i gachu mewn pwcad?" (Mae BARRY yn chwerthin llond ei fol.)

Dwynwen

Twt lol, Barry.

Barry

Deud y gwir, toedd? Y? Sbiis i ddim ar garafan wedyn. Sbaen fuo hi bob blwyddyn ar ôl hynny. Ond ma' rhei o'r petha Lerpwl ma'n ciwio i fynd iddyn nhw. "Iawn", medda fi, "os ma' dyna be 'dach chi isio, pob croeso ichi'r ffernols." Ond ma' hyd yn oed y diawlad rheini 'di dechra molchi rŵan. Isio'r job lot ar blât... A be ydi dy hanas di dyddia yma? Dal yng Nghaerdydd 'na?

Meilir

Ydw.

Barry

Fydda' i yng Nghaerdydd yn amal, 'bydda Dwynwen?

Dwynwen

Byddi.

Barry

Blydi cyfarfodydd. 'Nes i alw heibio'r coleg 'cw fythefnos nôl ond do'ddat ti ddim ar gyfyl y lle. Yr ysgrifenyddes 'na sy gynnoch chi'n cau deud wrtha'i ble ro'ddat ti. Lle ro'ddat ti felly?

Meilir

Yn y labordy ma' siŵr.

Barry

Pam na fasa hi wedi deud hynny wrtha'i, ta? Hulpan. Peth hyll ar y diawl hefyd. Do's 'na ddim genod del o gwmpas Caerdydd 'na, d'wad?

Meilir

Ma' hi'n ysgrifenyddes ardderchog.

Barry

Pan fydda i'n chwilio am rywun i deipio imi, mi fydda i'n chwilio am rywun del, yli. Uffar ots be sy'n i phen hi. Peth braf ydi cerddad i mewn i swyddfa yn y bora a rhywun del yn dy wynebu di hefo gwên. Gneud gwahania'th, sti? Pobol yn gweithio'n well. Hapusach yli. Mi faswn i'n ca'l gwarad â honna ffordd gynta. Rhoid y lôn i'r garglan. (Wrth DWYNWEN.) Ydan ni wedi dwad â bob dim o'r car, d'wad?

Dwynwen

Do, heblaw am y taflenni ar gyfar heno.

Barry

Lle ma'n nhw?

Dwynwen

Mewn bocs yn y bŵt.

Barry

(Wrth MEILIR.) Picia i nôl nhw, gwael.



Mae BARRY yn lluchio goriad at MEILIR. Mae MEILIR yn ei ddal. Mae MEILIR ar fin mynd pan wêl BARRY y cyfrifiadur.

Barry

Handi.

Meilir

Ydi, handi ar y naw.

Barry

D'rofun prynu un o'r rhein. Petha drud?

Meilir

Tua mil.

Barry

Drytach na'r petha mawr 'ma, 'lly?

Meilir

Costio mwy i 'gneud nhw meddan nhw i mi.



Mae BARRY ar fin rhoi ei fysedd arno. Mae MEILIR yn cynhyrfu.

Meilir

Peidiwch â twtsiad hwnna!

Barry

Pam?

Meilir

'Dw i ar ganol gneud rhwbath.

Barry

Sori, sori.



 MEILIR allan.

Barry

Sych ar y diawl, tydi?

Dwynwen

Mae o wedi dreifio o Gaerdydd, cofia.

Barry

Gneud hynny yn 'y nghwsg, 'chan.

Dwynwen

Bora bach hyfryd.

Barry

Joio dy hun?

Dwynwen

Do. Yn arbennig y cinio. 'Mhen i'n troi ar ôl y gwin 'na. Y petha 'ma... do'dd dim rhaid gwario'n wirion arnan ni.

Barry

Tara'r gôt 'na brynis i iti amdanat.

Dwynwen

Aros inni ga'l panad, wir.

Barry

Ty'd laen. 'Dw i isio 'i gweld hi.

Dwynwen

(Wedi blino.) Barry.

Barry

Ma' gin i hawl i weld be ges i am ddau gan punt.

Dwynwen

Mi welist ti hi amdana' i yn y siop.

Barry

Ddim yn iawn. Rhyw hen ola rhyfadd yna. (Mae'n edrych ar y gôt wrth i DWYNWEN ei thynnu allan.) Ia... Du ydi hi, te?

Dwynwen

Ia, du.



Mae DWYNWEN yn rhoi'r gôt amdani. Mae DEI yn rhoi ei ben i mewn drwy ddrws y patio.

Dei

Fedra i 'neud dim byd yn y gwaelodion 'na. Ma' hi'n rhy wlyb.

Barry

Chdi sy 'di bod yn stompio, te? Y?

Dei

Ma'n rhaid inni ga'l at y llyn, rhaid?

Barry

Gad hi tan fory. Ella sychith hi... Lecio hi? Y?

Dei

Be?

Barry

'I chôt hi.

Dwynwen

(Yn flin.) Barry.

Dei

Del. Del iawn, Mrs Davies.

Barry

Dau gant, washi.

Dei

(Mewn syndod.) Arglwydd... (Mae DEI ar fin mynd.)

Barry

Paid â mynd. Paid â mynd.

Dei

Pam?

Barry

Gin i rwbath i ddangos iti.

Dei

Be?

Barry

Aros am funud. (Mae BARRY yn codi'r cwch a'r radio.) Ddeudis i wrthat ti mod i am brynu un i Tudur, do?

Dwynwen

Lle ti'n mynd?

Barry

I' thrio hi, te? (Wrth DEI.) Caria hi imi, gwael.



Mae DEI yn cymryd y cwch.

Dei

Ew. Cwch bach handi 'chan.

Barry

Ydi dy facha di'n lân? (Mae DEI yn edrych ar ei ddwylo.) Ty'd â hi yma... Sglyfa'th!... Gneud diawl o ddim ond mocha yn y lle 'ma...



Diflanna DEI a BARRY i gyfeiriad y llyn. Ymddengys DONA mewn ffrog erchyll o hyll. Mae DWYNWEN yn edrych arni.

Dwynwen

O, ma' hi'n hyfryd, Dona. Ydi ma' hi.

Dona

Ma' hi'n uffernol.

Dwynwen

Be haru ti?

Dona

Dach chi ddim yn disgwl i mi wisgo peth fel hyn, debyg?

Dwynwen

Ydw. Heno.

Dona

Be?

Dwynwen

Paid â gneud lol. Gwisga hi.

Dona

(Yn edrych ar y ffrog.) Fo ddewisodd honna i chitha hefyd?

Dwynwen

Naci tad.



Ymddengys MEILIR gyda bocs yn cynnwys taflenni yn ei law.

Dwynwen

Pam? Ti ddim yn 'i lecio hi?

Meilir

Nac 'dw.

Dwynwen

Diolch yn fawr.

Meilir

Du ddim yn gweddu ichi. Lle ro' i rhein?

Dwynwen

Tara nhw ar y bwrdd.



Mae MEILIR yn mynd at y bwrdd ac wedyn yn mynd at y cyfrifiadur.

Meilir

(Yn flin.) Be mae o wedi'i 'neud i hwn?

Dwynwen

Dim byd.

Meilir

Ma' rhywun 'di bod yn chwara hefo fo.

Dwynwen

Ddaru o ddim mo'i dwtsiad o.

Meilir

Ro'dd 'na stwff ar y sgrin 'na. Lle mae o 'di mynd?

Dwynwen

Paid â gofyn i mi.

Meilir

'Nes i ddeud wrtho fo am beidio twtsiad yn'o fo.

Dwynwen

Am y tro dwytha 'na'th o ddim byd.

Meilir

(Wrth DONA.) 'Nes ti dwtsiad o?

Dona

Naddo.

Dwynwen

O'dd 'na rwbath pwysig arno fo?

Meilir

Wrth gwrs bod 'na rwbath pwysig arno fo. Lle mae o?

Dwynwen

Hefo Dei, wrth y Llyn.



Mae MEILIR yn rhuthro i gyfeiriad y patio ac edrych allan.

Dona

'Dw i ddim yn gwisgo hon heno, reit?

Dwynwen

Wyt! A dyna ddiwadd arni.

Meilir

Fedra i ddim coelio hyn! (Mae MEILIR yn chwerthin.)

Dwynwen

Gad lonydd iddyn' nhw. Presant i Tudur ydi o. Neno'r nefo'dd, ty'd i mewn, 'nei di!



Daw MEILIR i mewn yn ysgwyd ei ben mewn anghredinedd. Mae DWYNWEN yn mynd at y bocs taflenni sydd ar y bwrdd a thynnu taflen allan.

Dwynwen

Dyma daflan y gwasana'th. 'Nes i ofyn gawn i 'i pharatoi hi yn hytrach na'r pwyllgor o dwps 'na... Gobeithio 'i bod hi'n iawn.



Mae'n rhoi taflen yn llaw MEILIR. Mae yntau'n edrych arni.

Dwynwen

Wel? 'Neith hi'r tro? Ydi hi'n deilwng o dy dad?

Meilir

Ydi Rhys yn gwbod i fod o'n rhoi'r deyrnged?

Dwynwen

Ydi.

Meilir

Pryd cytunodd o?

Dwynwen

Wsnosa'n ôl.

Meilir

Ac mi ro'dd o'n fodlon gneud?

Dwynwen

Oedd. Mwy na pharod.

Meilir

Be ydi peth fel hyn?

Dwynwen

Be?

Meilir

Yr emyn 'ma.

Dwynwen

Rhyw feddwl o'n i y dylan ni ganu emyn i gloi'r cyfarfod.

Meilir

Iawn, iawn. Ond pam dewis yr hen dôn yma?

Dwynwen

Pa dôn ydi hi?

Meilir

Degannwy.

Dwynwen

Ia? Wel?

Meilir

Ro'dd 'y nhad yn 'i chasáu hi.

Dwynwen

O'dd o?

Meilir

Oedd. Gyda chas perffaith. Chi ddaru 'i dewis hi?



Mae DWYNWEN yn tynnu ei chôt.

Dwynwen

Ia. 'Nes i ddim meddwl ar y pryd. Fedrwn i ofyn i bwy bynnag sy'n chwara'r organ ddewis tôn arall, medrwn? (Yn ymosodol.) Pam ti'n mynnu tynnu'n groes, Meilir? Difaru f'enaid mod i wedi gofyn iti ddwad i fyny. O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi? Y cwbwl 'dw i isio 'neud ydi rhoid coffâd teilwng iddo fo ac wedyn...

Meilir

Ia? A be wedyn, mam?



Mae BARRY yn dod i mewn yn flin gyda'r rheolydd radio yn ei law.

Barry

Dydi'r diawl peth ddim yn gweithio.

Dwynwen

Be ddim yn gweithio?

Barry

Hwn, te? (Mae'n agor y teclyn.) Does na ddim blydi batris yn'o fo. (Wrth MEILIR.) Sbia, yli...

Meilir

(Yn ddiamynedd.) Dallt dim.

Barry

(Try at MEILIR) Ti'n wyddonydd? Be 'dw i fod i 'neud? Presant ydi hwn i fod. (Wrth DWYNWEN.) Oes 'na fatris yn y blydi lle 'ma?

Dwynwen

Duw a ŵyr.

Barry

Pam ti 'di tynnu'r gôt 'na?

Dwynwen

Ro'n i'n mynd i' hongian hi.

Barry

(Wrth MEILIR.) Lecio hi?



Mae'r ffôn yn canu. Mae DWYNWEN yn codi'r ffôn.

Dwynwen

(Ar y ffôn.) Helo... O, Iwan, chdi sy' 'na...

Barry

(Wrth MEILIR.) 'Nest ti mo f'atab i.

Meilir

Be ddaru chi ofyn imi?

Dwynwen

(Ar y ffôn.) Pleidleisio? Na, dydan ni ddim wedi ca'l cyfla...

Barry

(Wrth MEILIR.) Wyt ti'n lecio'r gôt?



Mae MEILIR yn edrych ar y gôt.

Meilir

Anghyffredin.

Dwynwen

(Ar y ffôn.) Ma'r cyfarfod coffa 'ma gynnon ni heno, tydi?

Barry

Du.

Meilir

Ia, du...

Dwynwen

(Ar y ffôn.) Nes ymlaen ella, ia?... Hwyl, Iwan.



Mae BARRY yn gweld y daflen yn llaw MEILIR.

Barry
Mi fydd yn gyfarfod champion... Degannwy. Tôn bach hyfryd, 'chan. Fydda Mair wrth 'i bodd hefo Degannwy. Rhwbath glân, syml yn'i hi, toes? Y?... (Yn canu.)

"Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw
Lle daw im help wyllysgar."



Mae MEILIR yn cael ei gordeddu.

Meilir

Well imi nôl petrol. Mi fydd rhaid imi gychwyn ben bora.

Barry

Be ydi'r brys?

Meilir

Gwaith.

Barry

Y busnas geneteg 'ma?

Meilir

Ia. Y busnes geneteg 'ma.

Barry

Ydi o'n wir, 'lly?

Meilir

Be'n wir?

Barry

Y byddwch chi a'ch tebyg, mhen rhyw 'chydig flynyddo'dd yn medru, be ddiawl ydi'r gair, tra-arglwyddiaethu ar yr hen fyd 'ma? Rhoid trefn ar y dam lle unwaith ac am byth.

Meilir

'Dw i ddim yn meddwl.

Barry

Papura 'ma'n deud c'lwydda felly?

Meilir

'Naethon nhw rwbath arall, 'rioed?



Mae MEILIR yn troi at y patio yn barod i fynd allan. Ymddengys RHYS. Mae mewn dillad cyffredin. Nid yw'n gwisgo coler gron offeiriad. Mae MEILIR yn ei weld.

Meilir

Rhys.

Rhys

Meilir.

Dwynwen

(Yn frwdfrydig.) Ty'd i mewn. Ty'd i mewn. Lle gebyst ti 'di bod?



Mae RHYS yn mynd i mewn gan adael MEILIR ar y patio. Mae DWYNWEN yn rhuthro ato a'i gofleidio'n dynn. Mae'r golau'n diffodd a chlywir "Ffrwd Ceinwen" yn cael ei chwarae gan driawd.

DIWEDD YR OLYGFA GYNTAF

a1, g1