Adra

Cue-sheet for Desc

(1, 0) 1 Llwyfan.
(1, 0) 2 Stafell fyw mewn tŷ cymharol fychan heb fod yn hynod o fodern gyda ffenest a drws, soffa, cadeiriau a pouffe.
(1, 0) 3 O flaen y soffa mae bwrdd coffi ac arno lun.
(1, 0) 4 Mae silffoedd gyda llyfrau a gemau bwrdd arnyn nhw tua'r cefn a theledu ar lawr.
(1, 0) 5 Mae hi'n bwrw glaw yn drwm y tu allan.
(1, 0) 6 ~
(1, 0) 7 Daw Lisa i fewn mewn du yn ceisio rhoi trefn arni'i hun.
(1, 0) 8 O ddipyn i beth mae hi'n sylwi ar lun ar y bwrdd coffi ac yn ei godi, yn gwenu ac yna'n eistedd i edrych arno'n iawn.
(1, 0) 9 ~
(1, 0) 10 SAIB HIR.
(1, 0) 11 ~
(1, 0) 12 Daw'r teledu ymlaen.
(1, 0) 13 Arni mae hi'n noson tân gwyllt, gwelwn goelcerth, sparklers, sosejys rhad ymysg pobol yn cael hwyl ac yn y blaen.
(1, 0) 14 Mae popeth wedi ei ffilmio o berspectif unigol ac yn edrych fel fideo wedi ei dynnu ar ffôn rhywun.
(1, 0) 15 ~
(1, 0) 16 Cnoc ysgafn ar y drws.
(1, 0) 17 Lisa'n stwffio'r llun rhwng y glustog a'r fraich ac yn codi.
(1, 0) 18 Aiff at y ffenest.
(Lisa) Ia?
 
(Lisa) Ia?
(1, 0) 20 Daw Aaron i fewn, yntau mewn du a chau'r drws ar ei ôl.
(Aaron) Hei.
 
(Lisa) Hei.
(1, 0) 23 SAIB HIR
(Aaron) Ges di'r blaen ar y gweddill ohona ni braidd.
 
(Aaron) Ddim digon o oria mewn wsos.
(1, 0) 36 SAIB
(Lisa) Ddois di fyny'n iawn?
 
(Aaron) Do, do, fawr ddim traffig, lori tua Ganllwyd ond o'n i 'di dechra'n ddigon buan.
(1, 0) 39 SAIB
(Aaron) Sa ti 'di sôn swni 'di cynnig lifft.
 
(Lisa) Na, chwara teg, doni'm isio tarfu ar dy blania di.
(1, 0) 42 SAIB
(Aaron) Ddoth na griw da do.
 
(Lisa) Mi o'dd o'n ifanc, ma' pawb yn meddwl fod nhw'n nabod rhywun ifanc ddigon da i fynd i g'nebrwng.
(1, 0) 49 SAIB
(Aaron) Siŵr fod o'n gysur, i'r teulu lly, i weld cymaint.
 
(Lisa) Wn i.
(1, 0) 54 SAIB HIR
(Aaron) Biti am y tywydd.
 
(Lisa) Ia.
(1, 0) 57 SAIB.
(1, 0) 58 ~
(1, 0) 59 Daw Arwel drwy'r drws yn diferu, nid yw'n sylwi ar y ddau arall.
(Arwel) Ffyc mi am dywydd.
 
(Arwel) Fyddai'm yn cysgu efo fo, sa hynny'n od basa, ond mae o gen i o hyd.
(1, 0) 81 SAIB
(Arwel) Mewn cwpwrdd lly, sentimental de, gin pawb gwpwrdd felly does.
 
(Arwel) Da 'di letrig ffeiar.
(1, 0) 101 Cnoc ar y drws.
(1, 0) 102 Daw Megan a Ywain i mewn.
(Arwel) Yws.
 
(Arwel) Yws.
(1, 0) 104 Y ddau yn cofleidio.
(Arwel) Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla...
 
(Arwel) A'r syniad ydi aros drw nos heno, ma' hon yma, ma' 'na fwy o stwff hefyd yn y ffrij.
(1, 0) 124 Pawb yn oedi.
(Aaron) O, wel, dwnim.
 
(Ywain) Un sesh eto de.
(1, 0) 151 SAIB
(Aaron) Fedra i aros hefyd, masiwr, am sbel.
 
(Aaron) Fydd rhaid mi ffonio i sôn.
(1, 0) 155 Megan yn tecstio.
(Megan) Dwi'm am yfed ond mi wna'i aros am chydig.
 
(Aaron) Oce, diolch, fyddai'm yn hir gobeithio.
(1, 0) 162 Aaron yn gadael, aiff Arwel ar ei ôl o tra bod Ywain yn closio at y tân trydan.
(Megan) Brifysgol?
 
(Ywain) Cefndar, a nabod o eniwe lly, odda ni'n yr un criw yn r'ysgol hefyd, ond adewish i yn sicstîn, nath o ddal ati.
(1, 0) 173 SAIB FER
(Ywain) O'dd 'i fam o mor falch pan a'th o i coleg, cynta o'r teulu.
 
(Megan) O, god, y, rhyw fardd dwi'n meddwl.
(1, 0) 182 Daw Arwel yn ôl gyda gwydrau a chwpanau o bob siâp a maint.
(Arwel) Dyma ni lwch, helpa dy hun Sbic.
 
(Arwel) A chitha fyd.
(1, 0) 185 Arwel yn tollti iddo'i hun.
(1, 0) 186 Ywain yn estyn am y botel, yna'n ei chynnig i Lisa.
(Ywain) Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc?
 
(Megan) A na, dwi'n iawn.
(1, 0) 199 SAIB
(Arwel) Think, don't drink and drive.
 
(Lisa) Posh/
(1, 0) 206 Daw Aaron i mewn.
(Aaron) /Sori, oddi'n anodd ca'l signal hyd yn oed ar ben y bont.
 
(Arwel) Da iawn, reit.
(1, 0) 211 Pawb sydd efo gwydr yn ei godi.
(Ywain) Be dduda ni?
 
(Pawb) Er cof.
(1, 0) 215 SAIB
(Lisa) Be nawn ni wan?
 
(Lisa) Be nawn ni wan?
(1, 0) 217 Amser yn pasio, y golau'n pylu am ennyd.
(1, 0) 218 Erbyn hyn mae pawb yn eistedd ac mae hi wedi tywyllu ychydig.
(1, 0) 219 Pawb sydd wedi bod yn yfed wedi dechrau meddwi.
(Ywain) O'dd o'n wahanol doedd.
 
(Ywain) Oedd mi oedd o'n glên, dda iawn efo'i fam.
(1, 0) 233 SAIB FER.
(Lisa) Doni'm yn weld o'n od fatha chi.
 
(Arwel) Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di.
(1, 0) 241 SAIB
(Ywain) O'dd o bach yn od.
 
(Arwel) Cradur.
(1, 0) 248 SAIB FER
(Aaron) Doni'm yn gwbod fod o/
 
(Arwel) Ia, wel.
(1, 0) 252 SAIB
(Lisa) Sut...
 
(Lisa) Sut nath o?
(1, 0) 255 SAIB
(Lisa) Sut ddigwyddodd o?
 
(Lisa) Sut ddigwyddodd o?
(1, 0) 257 SAIB
(Ywain) Ffycin hel di hynna'm yn iawn, holi cwestiwn fel'na.
 
(Lisa) Pam, dwi'n ddigwilydd am mod i isio gwbod sut nath ffrind i mi ladd ei hun yndw?
(1, 0) 260 SAIB HIR
(Lisa) Sori.
 
(Arwel) Megan?
(1, 0) 267 Megan yn oedi ac yna'n nodio.
(Arwel) Reit, wel.
 
(Arwel) Crogi nath o.
(1, 0) 272 SAIB HIR
(1, 0) 273 ~
(1, 0) 274 Wrth i Arwel siarad bydd y teledu yn chwarae fideo arall.
(1, 0) 275 Yn dechrau gyda rhywun yn cerdded mynydd ar ôl rhywun arall.
(1, 0) 276 Yna'n newid i ffôn yn canu.
(Aaron) Shit.
 
(Arwel) Oni'n gwbod be o'dd.
(1, 0) 284 SAIB FER.
(1, 0) 285 ~
(1, 0) 286 Y fideo yn troi i recordiad o bersbectif rhywun yn rhedeg, popeth yn aneglur, gwelir y llawr yn fwy na dim.
(Arwel) Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi.
 
(Arwel) Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi.
(1, 0) 288 SAIB
(Lisa) Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio.
 
(Ywain) Tŷ gwair o'dd o medda chdi.
(1, 0) 293 Tŷ gwair ar y teledu, y llun yn simsanu.
(1, 0) 294 Torri eto i'r rhedeg.
(1, 0) 295 Yna i saethiadau o fwced ar ei hochr o wahanol onglau.
(Arwel) Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly.
 
(Arwel) Nes i dorri fo lawr a llacio'r rhaff a trio'r pethma, y CPR, ond dwi ond di weld o ar teledu ac oddi wynab o'n ddu ac o'dd o di chwdu a...
(1, 0) 305 Er bod Arwel wedi bod yn ceisio dal rhag crio mae o'n gwneud hynny.
(1, 0) 306 Y fideo yn dangos dwylo a golau glas ambiwlans yn golchi drostyn nhw.
(1, 0) 307 Pawb arall yn eistedd mewn tawelwch.
(Arwel) Ddoth 'na ambiwlans, dwni'm pwy o'dd 'di gofyn am dani os na fi ta... a mi drio nhw ond o'dd o'n oer.
 
(Arwel) O'dd o'n ffycin oer.
(1, 0) 310 Y fideo yn dangos cysgod corff yn crogi.
(1, 0) 311 Amser yn pasio.
(Megan) Doni'm yn gwbod fod o.
 
(Ywain) Na fina chwaith rili.
(1, 0) 314 SAIB
(Arwel) Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic.
 
(Ywain) Ia ond, nes i 'rioed...
(1, 0) 320 SAIB
(Lisa) Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo...
 
(Lisa) Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo...
(1, 0) 322 SAIB
(Aaron) Be ddudodd o?
 
(Aaron) Be ddudodd o?
(1, 0) 324 SAIB
(Lisa) Dwnim, ddim byd mawr... jesd holi sut o'dd petha'n mynd.
 
(Arwel) Mai'n anodd iawn peidio.
(1, 0) 333 SAIB
(Megan) Chi be, gymra'i ddrinc, ga'i aros yn fam'a caf?
 
(Ywain) Yr OmniSaver ma'n feddwl.
(1, 0) 343 Lisa'n chwerthin.
(Arwel) Be?
 
(Arwel) Wel dyna o'dd i henw hi, cyn i Magi Ann farw.
(1, 0) 348 Lisa'n chwerthin eto.
(Arwel) A ma'n bwysig cadw'r petha ma.
 
(Ywain) 'Di mam ddim yn gneud swpar ar nos Wenar.
(1, 0) 361 Lisa'n chwerthin eto.
(Arwel) O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... /
 
(Arwel) Ma'n ddigon agos.
(1, 0) 386 Pawb heblaw am Ywain yn dechrau chwerthin.
(Ywain) Nacdi!
 
(Ywain) Achos na ffycin pacis 'dy nhw!
(1, 0) 393 SAIB HIR
(Lisa) Be?
 
(Ywain) /Dwi'n mynd am ffag.
(1, 0) 411 Ywain yn gadael.
(1, 0) 412 ~
(1, 0) 413 SAIB.
(Arwel) A'i ar ei ôl o.
 
(Arwel) A'i ar ei ôl o.
(1, 0) 415 Arwel yn gadael.
(Aaron) Waw.
 
(Megan) Eniwe dwi am fynd i siop Jini Bach Penclawdd ne be bynnag 'di enw hi.
(1, 0) 434 Megan yn gadael.
(Lisa) Sa well taswn i heb aros.
 
(Aaron) Sa'n shit tasa ni heb, ac ydi'r ni a nhw ma'n helpu?
(1, 0) 437 SAIB FER
(Aaron) Dwi'n gwbod na fi a nhw di dy default di.
 
(Aaron) Jesd yma o ran parch ma pawb, yn ffyicn hics a nazis a be bynnag da ni.
(1, 0) 441 SAIB HIR
(Lisa) Jesd ma'n anodd, am lot o resyma, a 'di stwff fel'na ddim yn helpu.
 
(Aaron) Mi fasa...
(1, 0) 453 SAIB
(Aaron) Dio'm 'di hitio fi sti.
 
(Lisa) Dyna nath y drwg.
(1, 0) 460 SAIB
(Aaron) Nes i 'rioed feddwl lot am lle gath o'i fagu, dodd o'm yn trafod y lle.
 
(Aaron) Ia, sa hynna'n braf basa deud gwir.
(1, 0) 467 Daw Megan i mewn gyda potel win coch yn ei llaw.
(Megan) Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn.
 
(Megan) Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn.
(1, 0) 469 Daw Arwel ac Ywain i mewn.
(Arwel) Ma' gin Ywain wbath i ddeud.
 
(Ywain) Es i i hwylia a ma'i 'di bod yn gont o wsos.
(1, 0) 473 SAIB FER
(Aaron) Ma'i 'di bod yn wsos anodd.
 
(Aaron) Ma'i 'di bod yn wsos anodd.
(1, 0) 475 SAIB
(Lisa) Do.
 
(Aaron) Ma'n naturiol siŵr.
(1, 0) 480 Ywain yn yfed mwy o'r wisgi.
(Arwel) Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn.
 
(Arwel) Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn.
(1, 0) 482 (Y teledu'n tanio eto, plant yn chwarae arni, pêl droed, dringo coed ac yn y blaen ac yna'n codi argae cerrig mewn afon.
(1, 0) 483 Siot o'r dŵr yn llifo a haul arno, beics yn mynd ar iard.
(Ywain) Na, dio ddim yn iawn.
 
(Ywain) Gin i graith ar y nghoes lle frifish i efo beic a mi nath o gario fi adra, a fethish i...
(1, 0) 493 SAIB
(Arwel) Yws/
 
(Ywain) /Dwi'm 'di gorffan eto.
(1, 0) 496 Y fideo'n newid─nosweithiau allan, cwrw, strydoedd gwlyb o dan olau lampau, cebabs ar bafin.
(Ywain) O'n i'n disgwl y basa petha'n newid chydig wrth i fi adal ysgol ond odda ni'n dal i fynd i dai'n gilydd a wedyn mynd allan a ballu ac yn ca'l laff.
 
(Lisa) 'Di hynna'm yn deg.
(1, 0) 510 Y fideo'n dangos rhywun yn pwyso ar giât mewn glaw yn edrych ar gaeau.
(Ywain) Dwni'm, ond da chi di ca'l ych pregethu do.
 
(Ywain) Ond sti be, ma'r cerrig na'n yr afon ers dros ddeg mlynadd a chydig ar y diawl o ddŵr ma nhw'n sdopio rhag mynd i'r môr.
(1, 0) 522 Dŵr yr afon eto ar y sgrin.
(Megan) Owain.
 
(Ywain) Dio jesd ddim yn deg Tanc, dos na'm byd yn ffycin deg.
(1, 0) 527 Ywain yn crio.
(1, 0) 528 Arwel yn gafael am danno.
(1, 0) 529 Pawb yn troi at ei diodydd, Megan yn agor y botel win ac yn yfed.
(1, 0) 530 O ddipyn i beth daw Ywain ato'i hun.
(Ywain) Sori bois.
 
(Arwel) Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach?
(1, 0) 534 Lisa yn edrych ar y silffoedd.
(Lisa) Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath?
 
(Megan) Hangman?
(1, 0) 540 SAIB
(Ywain) Ffycin hel.
 
(Megan) Shit, sori nes i'm meddwl, oni, ffyc.
(1, 0) 543 SAIB
(Lisa) Snakes and ladders.
 
(Lisa) Dria ni.
(1, 0) 550 Lisa'n gosod y gêm, pawb yn eistedd o'i chwmpas hi ac yn dechrau chwarae.
(Lisa) Fydda'n gas ganddo fo fonopoli bydda.
 
(Megan) Fydda ni'n siarad dipyn am betha fel'na, rhaglenni felly lly.
(1, 0) 564 SAIB
(Aaron) Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd.
 
(Aaron) Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd.
(1, 0) 566 SAIB
(Lisa) Shit, neidar eto.
 
(Ywain) Fatha' rhan fwya o betha.
(1, 0) 571 Pawb yn chwarae mewn tawelwch.
(Megan) Reit, bob tro dachi'n cal neidar rhaid chi ddownio.
 
(Arwel) Fel'na ma'i gneud hi!
(1, 0) 574 Amser yn mynd heibio.
(1, 0) 575 Bellach mae'r gêm bron wedi'i hanghofio, pawb wedi meddwi.
(Ywain) Dwi'n deud 'tha chi, dyna ydi o.
 
(Ywain) So ma' 'na lond gwlad o Ryshans yn y gofod 'na, 'di marw, ne 'di ca'l 'u lladd wrth landio a dosna'm sôn o gwbwl am danyn nhw.
(1, 0) 610 SAIB
(Aaron) Fedrai goelio hynna deud gwir.
 
(Ywain) Mae o'n fwy rich.
(1, 0) 623 Pawb yn chwerthin.
(Lisa) Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo.
 
(Lisa) Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo.
(1, 0) 625 SAIB
(Ywain) Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd.
 
(Aaron) Wel, di hynny'm yn/
(1, 0) 633 Mae'r teledu yn fflachio'n mlaen am eiliad, ac yn dangos llafn rasel.
(Lisa) /mi driodd o o'r blaen.
 
(Aaron) Doni'm yn gwbod.
(1, 0) 639 Ar y teledu bydd golygfeydd o fywyd coleg yn chwarae.
(Lisa) O'dd o cyn i chdi ddod ar y sin.
 
(Lisa) Un peth fedra ni gytuno arno fo.
(1, 0) 657 SAIB
(1, 0) 658 ~
(1, 0) 659 Teledu'n dangos y rasel eto, yna dŵr yn rhedeg mewn sinc a gwaed ynddo fo.
(1, 0) 660 Mae'r golau'n pylu a golau goch y tân trydan yn llenwi'r stafell.
(Lisa) Ond fuodd na bwl lle o'dd o'n hyd'n oed gwaeth... a...
 
(Lisa) Ma' toriada bach yn gwaedu lot.
(1, 0) 683 SAIB FER
(Lisa) Doni'm yn gwbod be'i neud.
 
(Lisa) Ond di helpu ddim yn ddigon nacdi, weithia.
(1, 0) 693 SAIB HIR
(Lisa) Faint o gloch di?
 
(Arwel) Fyny grisia, ail ar y dde, paid a cloi chos ma'r drws yn mynd yn sdyc.
(1, 0) 697 Lisa'n gadael.
(1, 0) 698 Mae Megan wedi cysgu ac Ywain wedi dechrau pen-dwmpian.
(Arwel) Deud hanas wrtha fi am dano fo.
 
(Aaron) Odd hynny'n reit ffyni mewn ffordd.
(1, 0) 704 SAIB
(Arwel) Sut odda chdi'n nabod o ta?
 
(Arwel) Dwi di anghofio'n mhoint wan.
(1, 0) 748 SAIB FER
(Arwel) O nace, y point o'dd, bod y boi ma 'di arfar ei hun gymaint nes fod o 'di mynd yn ormod o fo'i hun, tha sa fo'n jam 'di berwi gormod lly.
 
(Arwel) Dwi'm isio bod fel'na sti.
(1, 0) 751 SAIB FER
(Arwel) Ond da ni'n hapus, ma hi'n gneud y peth athrawon 'ma wan.
 
(Arwel) Siani Flewog dwi'n galw hi achos, wel, hy.
(1, 0) 758 SAIB
(Arwel) Sori, dwi'n gwbod bo ni'n deud rhyw betha sydd ddim yn iawn.
 
(Arwel) A dwi'n gwbod fod o'n nob sy'n deud petha gwirion ond mae o'n foi iawn hefyd a ma posib bod y ddau beth.
(1, 0) 789 SAIB
(Arwel) Sori, dwi'n teimlo mod i 'di pregethu.
 
(Aaron) Ffyc it.
(1, 0) 793 SAIB FER
(Aaron) Pam fod o 'di goro gneud hynna Arwel?
 
(Arwel) Dwi'n meddwl hynna lot fy hun.
(1, 0) 797 Daw Lisa'n ôl.
(Lisa) Bob dim yn iawn 'ma?
 
(Aaron) Ydi.
(1, 0) 801 Arwel yn estyn ei got ac yn ei defnyddio fel blanced.
(1, 0) 802 Lisa'n yfed ac yn swatio.
(1, 0) 803 Pawb yn cysgu heblaw am Aaron sy'n pendwmpian.
(1, 0) 804 ~
(1, 0) 805 Y golau'n isel.
(1, 0) 806 Y teledu'n cynnau eto, llun annelwig o wely arni, yna o fwrdd mewn fflat gyda thiwlips arno fo, rhywun yn gosod plât gyda tost arni ar y bwrdd.
(1, 0) 807 Aaron yn dod ato'i hun yn sydyn ac yn dod o hyd i'r llun wrth balfalu o'i gwmpas.
(Aaron) Shit.
 
(Aaron) Wel dwi yn, a mi o'n i cynt, a wedyn do'n i ddim, a dyna sy'n normal, dyna sut ma' pobol fod.
(1, 0) 814 Ffilm o ffrae ar y teledu, drysau'n cau'n sydyn, rywun yn cerdded yn gyflym oddi wrth person arall yn Ikea.
(Aaron) Os na rhywun heblaw fi yn y stafall 'ma yn gwbod sut odda chdi go iawn?
 
(Aaron) Dwi'n gwbod na fi o'dd yn wan masiwr.
(1, 0) 822 Mae'r drysau'n agor.
(1, 0) 823 Ffôn yn canu mewn gwahanol sefyllfaoedd.
(Aaron) Dwi'm yn gwbod pam nes i'm atab.
 
(Aaron) Ond dwi'n dy ffycin fethu di fyd.
(1, 0) 839 Dau yn eistedd wrth y bwrdd hefo'r tost.
(1, 0) 840 Mae Megan yn deffro.
(Megan) Pwy sy na?
 
(Aaron) Falla bo hi'n haws siarad efo chdi na neb ohonna ni, dwi'n gwbod fod o heb grybwyll fi wrth y Deliverance Twins yn fana felly ma gin ti hynna.
(1, 0) 868 SAIB
(Megan) Pam ni de?
 
(Megan) Feddyliodd o am dana ni ti'n meddwl?
(1, 0) 873 Amser yn pasio.
(1, 0) 874 Bellach mae hi'n fore ac mae pawb yn dioddef.
(1, 0) 875 Ywain yn dal i gysgu, Arwel yn tacluso.
(Lisa) Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel?
 
(Arwel) Dyma ni.
(1, 0) 896 Mae o'n ei agor o, a phawb yn sbio.
(1, 0) 897 Mae pawb o flaen y soffa.
(Lisa) Ni 'di...
 
(Aaron) Naddo...
(1, 0) 902 Mae pawb yn gadael fesul un yn araf deg.
(1, 0) 903 Wedi i Arwel gau'r drws caiff y lluniau a'r fideos sydd wedi cael eu chwarae ar y teledu eu taflunio dros y llwyfan, gyda phob dim ar draws ei gilydd i gyd.
(1, 0) 904 Y llun yn dirywio a dechrau neidio, yn aros ar y corff yn hongian a coeden lle fedrwch chi weld y môr yna'n diffodd.
(1, 0) 905 ~
(1, 0) 906 Tywyllwch.