Drama un-act

Adra (2019)

Llŷr Titus

Ⓗ 2019 Llŷr Titus
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Llwyfan. Stafell fyw mewn tŷ cymharol fychan heb fod yn hynod o fodern gyda ffenest a drws, soffa, cadeiriau a pouffe. O flaen y soffa mae bwrdd coffi ac arno lun. Mae silffoedd gyda llyfrau a gemau bwrdd arnyn nhw tua'r cefn a theledu ar lawr. Mae hi'n bwrw glaw yn drwm y tu allan.

Daw Lisa i fewn mewn du yn ceisio rhoi trefn arni'i hun. O ddipyn i beth mae hi'n sylwi ar lun ar y bwrdd coffi ac yn ei godi, yn gwenu ac yna'n eistedd i edrych arno'n iawn.

SAIB HIR.

Daw'r teledu ymlaen. Arni mae hi'n noson tân gwyllt, gwelwn goelcerth, sparklers, sosejys rhad ymysg pobol yn cael hwyl ac yn y blaen. Mae popeth wedi ei ffilmio o berspectif unigol ac yn edrych fel fideo wedi ei dynnu ar ffôn rhywun.

Cnoc ysgafn ar y drws. Lisa'n stwffio'r llun rhwng y glustog a'r fraich ac yn codi. Aiff at y ffenest.

Lisa

Ia?



Daw Aaron i fewn, yntau mewn du a chau'r drws ar ei ôl.

Aaron

Hei.

Lisa

Hei.



SAIB HIR

Aaron

Ges di'r blaen ar y gweddill ohona ni braidd.

Lisa

Pobol.

Aaron

M?

Lisa

Pobol, gormod ohonyn nhw. Dwi'm yn, y, rhy hoff o bobol.

Aaron

O.

Lisa

Ia.

Aaron

Ti'n cadw'n iawn?

Lisa

Ddim yn bad de, prysur... Chditha?

Aaron

Prysur. Ddim digon o oria mewn wsos.



SAIB

Lisa

Ddois di fyny'n iawn?

Aaron

Do, do, fawr ddim traffig, lori tua Ganllwyd ond o'n i 'di dechra'n ddigon buan.



SAIB

Aaron

Sa ti 'di sôn swni 'di cynnig lifft.

Lisa

Na, chwara teg, doni'm isio tarfu ar dy blania di.



SAIB

Aaron

Ddoth na griw da do.

Lisa

Do.

Aaron

Wyddwn i ddim...

Lisa

Be?

Aaron

Wel, fod o'n nabod cymaint.

Lisa

Mi o'dd o'n ifanc, ma' pawb yn meddwl fod nhw'n nabod rhywun ifanc ddigon da i fynd i g'nebrwng.



SAIB

Aaron

Siŵr fod o'n gysur, i'r teulu lly, i weld cymaint.

Lisa

Ia, o'dd 'na olwg wrth eu bodda arnyn nhw doedd.

Aaron

Wel, ddim dyna o'dd gen i.

Lisa

Wn i.



SAIB HIR

Aaron

Biti am y tywydd.

Lisa

Ia.



SAIB.

Daw Arwel drwy'r drws yn diferu, nid yw'n sylwi ar y ddau arall.

Arwel

Ffyc mi am dywydd. O, sori, o'n i'n meddwl na fi o'dd y cynta yma. Arwel dwi.

Lisa

Lisa.

Aaron

Aaron.

Arwel

Da chi'n iawn gobeithio? Wel, cystal a medar rhywun fod ia?

Aaron

Ia.

Arwel

Criw da doedd?

Aaron

O'n i jesd yn deud hynny, criw da iawn.

Arwel

Cystal teyrnged â'r un doedd.

Aaron

Oedd. Wir.

Lisa

O'dd dy un di yn un dda... Arwel?

Arwel

Ia, diolch. Fyddai'm yn un am sgwennu ond chwara teg, o'n i'n ffrindia gora... o'dd a ni'n ffrindia ers ysgol feithrin.

Aaron

Felly o'n i'n dallt. Da o'dd stori'r tedi.

Arwel

Ia, rhen Ted. Mae o dal gen i, y tedi. Fyddai'm yn cysgu efo fo, sa hynny'n od basa, ond mae o gen i o hyd.



SAIB

Arwel

Mewn cwpwrdd lly, sentimental de, gin pawb gwpwrdd felly does. Ella basia'i o'n mlaen. Y tedi. Dwi'n deud tedi lot braidd. Sori.

Lisa

Chdi o'dd yn nabod o hira masiwr.

Arwel

Heblaw am 'i fam, ia, ella. Gollodd o'i dad, ond da chi'n gwbod hynny masiwr... Hen dlawd, oddi'n ffwc o sioc.

Aaron

Debyg iawn.

Arwel

I bawb deud gwir. Ta waeth, ma' 'na fwy ar y ffordd. Mai'n oer 'ma braidd, rhoswch funud. (Arwel yn estyn tân trydan hen ffasiwn ac yn ei danio.) Ffyc it, tri bar am danni. (Arwel yn tynnu ei got wleb a'i gosod dros gefn cadair o flaen y tân.)

Aaron

Dwi heb weld un o'r rheina ers blynyddoedd.

Arwel

Naddo? Da 'di letrig ffeiar.



Cnoc ar y drws. Daw Megan a Ywain i mewn.

Arwel

Yws.



Y ddau yn cofleidio.

Arwel

Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla...

Ywain

O'n i'n gobeithio sa ti yma, ti'n cadw'n iawn?

Arwel

Eitha de. Sori, dwi'm yn nabod, y...

Megan

Megan.

Arwel

A dachi'n...?

Megan

O, na, digwydd rhannu ymbarél wnaethon ni.

Aaron

Ia, biti am y tywydd! Aaron dwi.

Megan

Hei.

Lisa

Lisa.

Ywain

Ywain.

Arwel

Ac Arwel dwi, dwi'n meddwl fod pawb yma yndi?

Lisa

O'dd 'na restr?

Arwel

Mewn ffordd. Hon ydi'r wêc. Yn ôl be dwi'n ddallt does 'na neb arall. (Aiff Arwel i gwpwrdd ac estyn potel wisgi a'i gosod ar y bwrdd.) A'r syniad ydi aros drw nos heno, ma' hon yma, ma' 'na fwy o stwff hefyd yn y ffrij.



Pawb yn oedi.

Aaron

O, wel, dwnim.

Megan

Fydd rhaid i mi fynd, fedrai'm yfed, gen i gar...

Ywain

Rosa i Tanci.

Lisa

A fi, gwylnos de.

Arwel

Ia.

Aaron

Gwylnos?

Lisa

Fydda pobol yn ista efo cyrff 'stalwm, drwy nos ar ôl iddyn nhw farw.

Aaron

Pam?

Lisa

Cofn i'r diafol fynd â nhw, ne rhag ofn bo nhw'n fyw.

Ywain

Ffwc o beth di ca'l dy gladdu'n fyw.

Lisa

Nain o'dd yn sôn, ac am olchi'r corff a ballu, a sut bydda nhw'n gneud sŵn weithia. Hyd yn oed y meirw ddim yn ddistaw medda hi.

Megan

Ffycin cripi, eistedd hefo corff.

Lisa

Neith corff ddim byd i chdi.

Arwel

Dwi'n gwbod fod o'n fyr rybudd, ac yn niwsans mewn ffordd, ond ffycin niwsans ydi'r busnas ma o un pen iddo fo i'r llall. N'de? Tasa ni'n onast lly. Siŵr dduw fod na'm rhaid chi aros, ond do's na'm llawar ohona ni yma fel ma'i a peth lleia fedra i neud beth bynnag ydi ista 'ma heno am sbel.

Megan

Sut na jesd ni sy 'ma?

Arwel

Mi sgwennodd o betha i lawr. Ddim byd swyddogol, ond mi oedd 'na damad o bapur a rhyw fanion erill.

Aaron

O'dd o isio ni yma lly?

Arwel

Oedd, ni'n benodol. Ond chi bia deud.

Lisa

Dwi'n gêm.

Ywain

Un sesh eto de.



SAIB

Aaron

Fedra i aros hefyd, masiwr, am sbel. Gweld sut eith hi. Fydd rhaid mi ffonio i sôn.



Megan yn tecstio.

Megan

Dwi'm am yfed ond mi wna'i aros am chydig.

Aaron

Sa signal 'ma?

Ywain

Ar pwy wyt ti mêt?

Aaron

Foda.

Ywain

Rhaid ti fynd allan, os ei di lawr stryd de, at y bont, gin ti jans go lew yn fa'no.

Aaron

Oce, diolch, fyddai'm yn hir gobeithio.



Aaron yn gadael, aiff Arwel ar ei ôl o tra bod Ywain yn closio at y tân trydan.

Megan

Brifysgol?

Lisa

Sori?

Megan

O brifysgol odda chdi'n nabod o?

Lisa

O ia, yr un fflat flwyddyn gynta, a'r un cwrs.

Megan

O.

Lisa

Chditha?

Megan

Gwaith, cyn iddo fo roi'r gora iddi. Ond odda ni dal yn siarad weithia, weld o allan a ballu. Be am dana chdi Owain?

Ywain

Cefndar, a nabod o eniwe lly, odda ni'n yr un criw yn r'ysgol hefyd, ond adewish i yn sicstîn, nath o ddal ati.



SAIB FER

Ywain

O'dd 'i fam o mor falch pan a'th o i coleg, cynta o'r teulu. Heblaw am mrawd na'th sports science am bwl ond dodd hynny'm yn cyfri. Digri efo gafal ynddo fo, o'dd o'n gneud wbath wan fyd doedd?

Megan

PhD rhan amsar.

Ywain

Cinhel ia? O'dd mam 'di sôn wbath.

Lisa

Doni'm yn gwbod, be o'dd y pwnc?

Megan

O, god, y, rhyw fardd dwi'n meddwl.



Daw Arwel yn ôl gyda gwydrau a chwpanau o bob siâp a maint.

Arwel

Dyma ni lwch, helpa dy hun Sbic. A chitha fyd.



Arwel yn tollti iddo'i hun. Ywain yn estyn am y botel, yna'n ei chynnig i Lisa.

Ywain

Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc?

Arwel

O'n, rhyw fardd ne wbath ia? Fydda fo'n sôn weithia, dwi'm yn dallt rhyw betha fel'na. Hold on rwan, rosa ni i Aaron ia?

Ywain

Mond i ben bont o'dd isio fo fynd. Ti'n siŵr na chymri di ddim Megan?

Megan

Na, gyrru.

Arwel

Ffeif and dreif ydi hi pen yma. Ond chwara teg i chdi. Ma' 'na sgwash yma'n rwla os leci di.

Megan

Diolch. A na, dwi'n iawn.



SAIB

Arwel

Think, don't drink and drive.

Lisa

Honna'n gynghanedd.

Arwel

Hawdd gweld sut es di'n ffrindia efo fo. Dwi'n dallt dim am betha fel'na.

Ywain

Na finna chwaith, dwi'm isio deud gwir, lol posh uffar.

Lisa

Posh/



Daw Aaron i mewn.

Aaron

/Sori, oddi'n anodd ca'l signal hyd yn oed ar ben y bont. Mai'n dal i fwrw. Gymra'i un bach efo chi, er cof.

Arwel

Da iawn, reit.



Pawb sydd efo gwydr yn ei godi.

Ywain

Be dduda ni?

Arwel

Er cof dwi'n meddwl.

Pawb

Er cof.



SAIB

Lisa

Be nawn ni wan?



Amser yn pasio, y golau'n pylu am ennyd. Erbyn hyn mae pawb yn eistedd ac mae hi wedi tywyllu ychydig. Pawb sydd wedi bod yn yfed wedi dechrau meddwi.

Ywain

O'dd o'n wahanol doedd.

Arwel

M.

Aaron

Sut lly?

Lisa

Deud ti 'tha ni.

Ywain

Dwnim, meddwl de, ia?

Arwel

Ia, o'dd o'n meddwl am betha ac yn deud rhyw betha doedd. Yn wahanol lly, ac yn cîn yn r'ysgol de.

Megan

O'dd o'n glyfar doedd.

Arwel

Odda chi'm yn weld o'n, wel, yn wahanol lly?

Lisa

Ddim rili.

Aaron

Na, ddim yn y ffordd da chi'n feddwl eniwe.

Megan

O'dd o'n gleniach na lot.

Ywain

Oedd mi oedd o'n glên, dda iawn efo'i fam.



SAIB FER.

Lisa

Doni'm yn weld o'n od fatha chi.

Arwel

Ddudish i od?

Lisa

Ddim yn uchal, naddo.

Arwel

Ddim bod o'n od, jesd, do'dd o'm yr un fath.

Lisa

So od di hynna de.

Arwel

Nace! Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di.



SAIB

Ywain

O'dd o bach yn od.

Arwel

Ffyc sêc.

Ywain

Ddim mewn ffordd ddrwg. Ond pan odda ni'n blant, dwnim.

Arwel

Thalith hi ddim i siarad fel'ma. Cradur.



SAIB FER

Aaron

Doni'm yn gwbod fod o/

Megan

/na fi, ddim rili.

Arwel

Ia, wel.



SAIB

Lisa

Sut... Sut nath o?



SAIB

Lisa

Sut ddigwyddodd o?



SAIB

Ywain

Ffycin hel di hynna'm yn iawn, holi cwestiwn fel'na.

Lisa

Pam, dwi'n ddigwilydd am mod i isio gwbod sut nath ffrind i mi ladd ei hun yndw?



SAIB HIR

Lisa

Sori.

Arwel

Na. Na, ma'n iawn i chdi holi, oni'n cymryd fod pawb yn gwbod ne ddim isio gwbod.

Lisa

Wel, dwisio.

Aaron

A finna.

Arwel

Megan?



Megan yn oedi ac yna'n nodio.

Arwel

Reit, wel. Y, ia. Crogi. Crogi nath o.



SAIB HIR

Wrth i Arwel siarad bydd y teledu yn chwarae fideo arall. Yn dechrau gyda rhywun yn cerdded mynydd ar ôl rhywun arall. Yna'n newid i ffôn yn canu.

Aaron

Shit.

Arwel

Dwi'm yn dallt bob dim cofiwch, jesd digwydd bod o'n i o gwmpas. Dwi'm yn byw yn bell a mi a'th y ffôn, rhif tŷ fama o'dd o ac o'n i'n gweld hynny'n od braidd achos os bydda fo'n cysylltu ar me enger ne wbath fydda fo. Ond i fam o o'dd yno, o'dd i mewn bach o stad deud gwir. Oni'n methu dallt hi'n siarad. A dwnim os na achos bo hi'n crio ac yn gweiddi o'dd hynny ta jesd achos na fi o'dd o. Oni'n gwbod be o'dd.



SAIB FER.

Y fideo yn troi i recordiad o bersbectif rhywun yn rhedeg, popeth yn aneglur, gwelir y llawr yn fwy na dim.

Arwel

Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi.



SAIB

Lisa

Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio.

Arwel

Dwi 'di dechra wan. A dyma fi i'r iard a fano oedd hi yn dal y ffôn yn sbio arno fo.

Ywain

Tŷ gwair o'dd o medda chdi.



Tŷ gwair ar y teledu, y llun yn simsanu. Torri eto i'r rhedeg. Yna i saethiadau o fwced ar ei hochr o wahanol onglau.

Arwel

Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly. Dwn i'm lle ffwc gath o honno. O'dd 'na fwcad ar i hochor. Ffycinhel fedrai weld o rŵan. Bwcad o dan i draed o. Rhaff am ei wddw fo, dwi'n gwbod bod hynna'n amlwg lly ond... O'dd 'na olwg arno fo de, oddi wynab o'n ddu fel tasa fo di ca'l stîd. O'dd o di bod yno ers sbel medda nhw wedyn. Nes i dorri fo lawr a llacio'r rhaff a trio'r pethma, y CPR, ond dwi ond di weld o ar teledu ac oddi wynab o'n ddu ac o'dd o di chwdu a...



Er bod Arwel wedi bod yn ceisio dal rhag crio mae o'n gwneud hynny. Y fideo yn dangos dwylo a golau glas ambiwlans yn golchi drostyn nhw. Pawb arall yn eistedd mewn tawelwch.

Arwel

Ddoth 'na ambiwlans, dwni'm pwy o'dd 'di gofyn am dani os na fi ta... a mi drio nhw ond o'dd o'n oer. O'dd o'n ffycin oer.



Y fideo yn dangos cysgod corff yn crogi. Amser yn pasio.

Megan

Doni'm yn gwbod fod o.

Ywain

Na fina chwaith rili.



SAIB

Arwel

Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic.

Ywain

Soniodd neb 'tha i.

Arwel

Odda chdi'n gwbod nad o'dd o'n iawn fyd. Sut fedra ti beidio.

Ywain

Ia ond, nes i 'rioed...



SAIB

Lisa

Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo...



SAIB

Aaron

Be ddudodd o?



SAIB

Lisa

Dwnim, ddim byd mawr... jesd holi sut o'dd petha'n mynd. Be o'n i'n neud a ballu. Tywydd, dwni'm. Nathom ni'm siarad llawar.

Arwel

Ac o'n inna o fewn hannar milltir iddo fo.

Lisa

O'dd o isio help dachi'n feddwl?

Aaron

Waeth ni heb a meddwl fel'na.

Arwel

Mai'n anodd iawn peidio.



SAIB

Megan

Chi be, gymra'i ddrinc, ga'i aros yn fam'a caf?

Arwel

Ma' 'na soffa, ma' 'na gadeiria, carpad faint fynnir.

Ywain

Be gymri di?

Megan

Mai'n win ne'n rym.

Arwel

Do's na'r un o'r rheiny yma, dwi'n farman shit sori.

Megan

Ma' 'na siop yn y pentra oes?

Arwel

Rhaid ti frysio, ma' siop Magi Ann yn cau am ddeg.

Megan

Siop Magi Ann?

Ywain

Yr OmniSaver ma'n feddwl.



Lisa'n chwerthin.

Arwel

Be?

Lisa

Siop Magi Ann, ma' fatha bochi'n byw mewn rhyw raglan S4C shit ne Midsummer Murders ne wbath. Magi Ann.

Arwel

Wel dyna o'dd i henw hi, cyn i Magi Ann farw.



Lisa'n chwerthin eto.

Arwel

A ma'n bwysig cadw'r petha ma.

Ywain

Hen gont oddi.

Arwel

Sut wydda ti?

Ywain

Pawb yn sôn, golwg 'tha bo hi di ista ar ddildo weiran bigog arni hi, dyna fydda taid yn ddeud.

Megan

Ffycin hel Owain.

Ywain

Taid ddudodd ddim fi, a OmniSaver 'di hi rwan efo bîns own brand a congol i bobol pen yma werthu moron cam a wya' efo cachu arnyn nhw. Llanast de.

Aaron

Diolchwch fod ganddoch chi siop o gwbwl.

Ywain

A ma'r siop jips yn siop gebabs.

Arwel

Ei di yno'r un fath.

Ywain

Sgin i fawr o ffycin ddewis nagos! 'Di mam ddim yn gneud swpar ar nos Wenar.



Lisa'n chwerthin eto.

Arwel

O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... /

Megan

/Reis crispies/

Arwel

/Reis crispies, ffyc off, calzone. Dyna o'dd gen i.

Aaron

Pitsa ydi calzone.

Arwel

Nace.

Lisa

Ia, pitsa di blygu tha pasti.

Arwel

Wel dio'm yn bitsa felly nacdi. Eniwe, ma' 'na ddewis, dyna o'dd gen i. A ma'nwn gneud, y, ffish a chips r'un fath.

Ywain

Dio'm r'un fath.

Arwel

Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio.

Ywain

Nace.

Arwel

Garantîd.

Ywain

Di'r, peth, di'r sgodyn ddim r'un fath.

Aaron

Be'dio Goldffish?

Ywain

Y ffycin batyr de coc oen! Dio'm cin neisiad, a ma'r chips yn deneuach, chips pacad.

Arwel

Gwranda/

Ywain

/a'r pys, di'r pys ddim r'un fath, o dunia ma' nhw'n dŵad.

Arwel

Sut wyddost ti?

Ywain

Achos ma nhw fatha ffycin pys tun! Dio ddim r'un fath!

Arwel

Ma'n ddigon agos.



Pawb heblaw am Ywain yn dechrau chwerthin.

Ywain

Nacdi!

Arwel

Wel yndi! Ma'n iawn.

Ywain

Nacdi!

Arwel

O pam Sbic?

Ywain

Achos na ffycin pacis 'dy nhw!



SAIB HIR

Lisa

Be?

Megan

Fedrai'm coelio bo chdi di deud hynna.

Arwel

Hold on rŵan.

Aaron

Ti'm am ei amddiffyn o?

Arwel

Nacdw, jesd/

Lisa

/ti'n ei amddiffyn o!

Arwel

Na! Chei di'm deud petha fel'na Sbic.

Ywain

Pam?

Lisa

Achos ma'n ffycin hiliol!

Ywain

Dwi'm yn rêsist!

Lisa

Wyt os ti'n iwsio geiria felna!

Ywain

Ond dyna ydyn nhw!

Arwel

Dodd o'm yn meddwl dim byd wrth ddeud/

Lisa

/So be, jesd am laff ti'n deud petha felna ia?/

Megan

/Dwi'm yn meddwl na dyna o'dd o'n/

Ywain

/Dwi'n mynd am ffag.



Ywain yn gadael.

SAIB.

Arwel

A'i ar ei ôl o.



Arwel yn gadael.

Aaron

Waw.

Lisa

Fedrai'm coelio fod pobol fel'na'n bodoli. Be o'dd o'n weld yn rheinia duda?

Aaron

Dwi'm yn gwbod, wel, yndw. Ti'n ca'l dy fagu mewn lle penodol ac amgylchfyd penodol a ti'n teimlo rhyw gysylltiad hefo pobol dwyt. A ti'n madda petha fel'na iddyn nhw.

Lisa

Be sgin ti griw fel'ma yn y pentra chwaral na nes di adael?

Aaron

God nagoes, peth cynta nes i odd deud ta-ta wrth rheiny ond 'di pawb ddim.

Megan

Sgynoch chi'm syniad nagos.

Lisa

Be?

Megan

Y lol bo chdi'm yn gwbod fod pobol fel'na'n bodoli. Lle ti'n byw? A 'di dy fam a dy dad rioed di deud dim byd doji naddo masiwr?

Lisa

Naddo.

Megan

Ma nhw'n wahanol ar y diawl i'n rhei i ta.

Aaron

O'dd o'n rong.

Megan

Oedd, dwi'n gwbod hynny, jesd ddim ond fo sydd fel'na, a 'di hynna'm yn deud fod o'n iawn, jesd deud dwi. Eniwe dwi am fynd i siop Jini Bach Penclawdd ne be bynnag 'di enw hi.



Megan yn gadael.

Lisa

Sa well taswn i heb aros.

Aaron

Sa'n shit tasa ni heb, ac ydi'r ni a nhw ma'n helpu?



SAIB FER

Aaron

Dwi'n gwbod na fi a nhw di dy default di.

Lisa

Dos i halio Aaron.

Aaron

Jesd yma o ran parch ma pawb, yn ffyicn hics a nazis a be bynnag da ni.



SAIB HIR

Lisa

Jesd ma'n anodd, am lot o resyma, a 'di stwff fel'na ddim yn helpu.

Aaron

Nacdi. Meddylia sut dwi'n teimlo ma ta, dwi ofn y byddai mewn rhyw ffycin wicker man cyn bora.

Lisa

Yr un gwreiddiol, nid fersiwn Nic Cage gobeithio.

Aaron

Y, ia. Ffwcio Nic Cage...

Y ddau

The bees! Aaah!

Lisa

Rhaid ni gal noson ffilms shit eto.

Aaron

Bydd, mai'i 'di bod yn flynyddoedd. Mi fasa...



SAIB

Aaron

Dio'm 'di hitio fi sti. Dwi'm yn gwbod pryd neith o.

Lisa

O'n i'n golchi'n nannadd bora ddoe a nath o jesd dod o nunlla. O'n i'n llanast. Gweld fi'n hun yn y drych o'dd o dwi'n meddwl. Dyna nath y drwg.



SAIB

Aaron

Nes i 'rioed feddwl lot am lle gath o'i fagu, dodd o'm yn trafod y lle. Ma'n siwtio fo mewn ffordd, er na faswn i byth 'di meddwl am y lle fel'ma.

Lisa

Soniodd o am y goedan?

Aaron

Coedan?

Lisa

O'dd ganddo fo rhyw goedan yn cefn medda fo lle o'dd o'n gallu gweld y môr, mi alla ni drio ffendio hi.

Aaron

Ia, sa hynna'n braf basa deud gwir.



Daw Megan i mewn gyda potel win coch yn ei llaw.

Megan

Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn.



Daw Arwel ac Ywain i mewn.

Arwel

Ma' gin Ywain wbath i ddeud.

Ywain

Dwi'n sori am weiddi'r petha 'na, ac am ddeud y gair 'na, dio'm yn un ddylia fod neb yn iwsio. Es i i hwylia a ma'i 'di bod yn gont o wsos.



SAIB FER

Aaron

Ma'i 'di bod yn wsos anodd.



SAIB

Lisa

Do.

Ywain

Sori. Dwi'm i fod i deimlo felma, dio'm yn iawn.

Aaron

Ma'n naturiol siŵr.



Ywain yn yfed mwy o'r wisgi.

Arwel

Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn.



(Y teledu'n tanio eto, plant yn chwarae arni, pêl droed, dringo coed ac yn y blaen ac yna'n codi argae cerrig mewn afon. Siot o'r dŵr yn llifo a haul arno, beics yn mynd ar iard.

Ywain

Na, dio ddim yn iawn. Odda ni'n ffrindia, yn ffrindia gora, mots be ddudi di Arwel, ni o'dd y dybyl act, ni o'dd y ffrindia gora/

Arwel

/Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/

Ywain

/Ella bod hi i fi. Ar y pryd, ella'i bod hi. O'dd gin ti frodyr a chwiorydd doedd, ffrindia erill, fo o'dd y mrawd i a'n ffrind gora fi. Jesd gadwch fi ddeud hyn plîs. Odda ni'n gneud bob dim efo'n gilydd, ma'r rhes o gerrig rotho ni'n r'afon rhyw ha' pan odda ni tua deuddag dal yna. Gin i graith ar y nghoes lle frifish i efo beic a mi nath o gario fi adra, a fethish i...



SAIB

Arwel

Yws/

Ywain

/Dwi'm 'di gorffan eto.



Y fideo'n newid─nosweithiau allan, cwrw, strydoedd gwlyb o dan olau lampau, cebabs ar bafin.

Ywain

O'n i'n disgwl y basa petha'n newid chydig wrth i fi adal ysgol ond odda ni'n dal i fynd i dai'n gilydd a wedyn mynd allan a ballu ac yn ca'l laff. Ond wedyn dyma fo'n mynd i ffwrdd a iawn oce, weld o bob holides, do'm ots gen i am hynny. Ond wedyn... fwya sydyn o'dd o fel tasa ni'n bagio o wrth yn gilydd. Rhyw Ddolig, dyma fi'n weld o'n dre, a do'dd o'm 'di deud fod o allan. A dyma ni'n siarad am y tywydd a prisia cwrw a be da ni'n neud mewn rhyw ffordd fel tasa ni'n mart lly. Odda ni'n ddiarth. A rhyw sgwrs llawn tylla, sgwrs sati'n gal hefo rhywun tu ôl i gowntar ne wrth dorri dy wallt oddi. Sut ddigwyddodd hynna? E?

Arwel

Ma' pobol yn newid.

Ywain

Yndyn, a ma nhw'n gadal ac yn ca'l jobsus ac yn gneud pres a grêt de. Ga nhw brynu tŷ efo llwyth o snobs erill a dod yn ôl i'r tylla tin pentrefi 'ma nhw 'di adal bob hyn a hyn i weld mam a dad sy'n mynd yn hen, yn colli'u lliw fatha'r adeilada, ac yn colli nabod arnyn nhw, a mi ddo nhw a rhyw blant sydd efo acan wahanol i weld nain a taid.

Lisa

'Di hynna'm yn deg.



Y fideo'n dangos rhywun yn pwyso ar giât mewn glaw yn edrych ar gaeau.

Ywain

Dwni'm, ond da chi di ca'l ych pregethu do. Tydw i ddim. O'dd gin i'm dewis, o'n i'n unig blentyn, mi o'dd 'na dir a dyna fo, tyff shit. Ddudodd neb hynny ond yn y fynwant 'na fedri di weld o'r iard ma na ddega o gyrff a'th i'r ddaear yn gynt fel fod y tir yna i fi, so pa ddewis o'dd gen i? Ma' nhw'n deud na rhaid ydi symud i ffwrdd ond ffycin lycshyri 'dio. Fedrith pawb ddim codi pac, chawn ni ddim. Da ni ar ôl. A dwi'm isio piti neb na gneud rhyw esgus jesd deud dwi.

Aaron

So be, odda chdi'n dal hyn yn ei erbyn o?

Ywain

Nagon i, ond dodd o'm o'i blaid o chwaith. Ond sti be, ma'r cerrig na'n yr afon ers dros ddeg mlynadd a chydig ar y diawl o ddŵr ma nhw'n sdopio rhag mynd i'r môr.



Dŵr yr afon eto ar y sgrin.

Megan

Owain.

Ywain

Ywain di'n enw fi!

Arwel

Yws, callia.

Ywain

Dio jesd ddim yn deg Tanc, dos na'm byd yn ffycin deg.



Ywain yn crio. Arwel yn gafael am danno. Pawb yn troi at ei diodydd, Megan yn agor y botel win ac yn yfed. O ddipyn i beth daw Ywain ato'i hun.

Ywain

Sori bois.

Lisa

Ma'n oce.

Arwel

Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach?



Lisa yn edrych ar y silffoedd.

Lisa

Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath?

Aaron

God.

Arwel

Syniad da.

Lisa

Be gawn ni 'di peth?

Megan

Hangman?



SAIB

Ywain

Ffycin hel.

Megan

Shit, sori nes i'm meddwl, oni, ffyc.



SAIB

Lisa

Snakes and ladders.

Aaron

Be 'da ni, plant?

Megan

Na, gwo on.

Ywain

Ofn ca'l stîd mae o.

Arwel

Sa ddigon o gowntars a ballu?

Lisa

Dria ni.



Lisa'n gosod y gêm, pawb yn eistedd o'i chwmpas hi ac yn dechrau chwarae.

Lisa

Fydda'n gas ganddo fo fonopoli bydda.

Megan

O ia?

Arwel

Collwr gwael.

Ywain

Gath o sterics rhyw dro efo twister do, ti'n cofio?

Arwel

O, iesu do, a gweiddi.

Aaron

O'dd o'n chwara twister?

Ywain

Ia, tua pump o'dd o cofiwch. Parti pwy o'dd o?

Arwel

Dwnim. Cain ella?

Aaron

Fydda fo'n cicio'n nhin i ar Cluedo.

Megan

Whodunnit. Fydda ni'n siarad dipyn am betha fel'na, rhaglenni felly lly.



SAIB

Aaron

Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd.



SAIB

Lisa

Shit, neidar eto.

Arwel

Felly weli di hi'n amal iawn (yn ysgwyd y deis) a dyma fina lawr efo chdi.

Aaron

Jesd lwc ydi hon de.

Ywain

Fatha' rhan fwya o betha.



Pawb yn chwarae mewn tawelwch.

Megan

Reit, bob tro dachi'n cal neidar rhaid chi ddownio.

Arwel

Fel'na ma'i gneud hi!



Amser yn mynd heibio. Bellach mae'r gêm bron wedi'i hanghofio, pawb wedi meddwi.

Ywain

Dwi'n deud 'tha chi, dyna ydi o. Ma' nhw'n trefnu'r petha 'ma.

Aaron

Ma'n gneud sens.

Megan

Bwl. Shit.

Arwel

Ma' hon fatha'r un am y Ryshians na sgin ti.

Lisa

Be 'di honno?

Arwel

Deud ti, Yws, dwi'm yn chofio hi'n ddigon da.

Ywain

Jesd cymyd y pi newch chi.

Arwel

Na, nawn ni ddim.

Ywain

Iawn, oce, so. Adag y Cold War, oddi'n ras fawr i fynd i sbês doedd/

Lisa

/biti na fasa na rhyw enw fwy bachog i hynna de/

Ywain

/taw. Felly odd y Ryshans a'r Mericans yn trio cal pobol yn y gofod doedd, a cŵn a mwncis a ffycin... dwni'm... chimps a ballu. A dydyn nhw ddim r'un peth Tanc, dwi 'di deud o'r blaen, so ffyc off, ma David Attenbrough 'di deud.

Arwel

Yr unig beth dwi'n ddeud ydi sa rhywun yn deud fod na fwnci yn dy dŷ di a sa ti'n mynd i parlwr a gweld chimp yna fasa ti'm yn synnu.

Lisa

Wel swni'n synnu i weld ffycin epa de.

Megan

A fi, chos sgin i'm parlwr.

Ywain

Ma' gin ffycin, y, ma' gin fwnci gynffon reit, i falansio mewn briga a ballu, sgin chimps ddim.

Aaron

Pam fod gan chimps ddim cynffona?

Arwel

Achos bo nhw'n cerddad ar lawr yn ôl Iolo Williams yn fama.

Ywain

Ia, a ffyc off eto achos adar a shit felna mae o'n lecio. A ma' nhw yn gneud fwy ar lawr na mwncis.

Aaron

Hen dinna' hyll sgynyn nhw de.

Ywain

Eniwe so Ryshans/

Arwel

/ffoc mi/

Ywain

/Chdi o'dd isio. Felly ma'r Ryshans yn deud, 'o, dani di gyrru Yuri Gagarin i'r gofod a ma di landioi'n ôl yn saff, ma'n coc ni'n fwy na un neb arall.' A ma Merica'n mynd 'o shit lle ma Stanley Kubrick i ni gal cogio landio ar y lleuad'/

Megan

/o Iesu/

Ywain

/Ia, ond y point ydi de. Fod 'na fwy o bobol, a cŵn a ballu 'di cal eu hel i fyny 'na ond bo nhw heb ddod yn ôl ne 'di llosgi. So ma' 'na lond gwlad o Ryshans yn y gofod 'na, 'di marw, ne 'di ca'l 'u lladd wrth landio a dosna'm sôn o gwbwl am danyn nhw.



SAIB

Aaron

Fedrai goelio hynna deud gwir.

Lisa

Ia, a fi, odd Chernobyl yn hysh hysh am fisoedd doedd.

Megan

Yr holl fwncis heb gynffonna druan 'na 'di rhewi uwch yn penna ni. (Megan yn gwneud wyneb mwnci ac yn chwerthin)

Arwel

Ia, oce, ella bo chi'n coelio honna ond no wê bo nhw yn rhoi llai o'r stwff melyn yn ganol crîm egs bob blwyddyn.

Ywain

Ffycin ma' nhw!

Arwel

Sa pobol yn sylwi!

Ywain

Aaron!

Aaron

Ma nhw'n llai, ac yn blasu'n wahanol.

Megan

Ond jesd lliw gwahanol dio, ddim blas.

Arwel

Diolch!

Ywain

Mae o'n fwy rich.



Pawb yn chwerthin.

Lisa

Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo.



SAIB

Ywain

Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd.

Arwel

O'dd o'n joio'i hun yna doedd, siŵr fod gen ti straeon Lisa.

Lisa

Oes, fedrai'm cofio, dim fel'na chwaith, rhyfadd.

Megan

Nath o'm sôn lot am ddyddia coleg wrtha fi.

Arwel

Dyddia gora dy fywyd di medda nhw.

Lisa

Dodda nhw ddim, ddim bob tro.

Aaron

Wel, di hynny'm yn/



Mae'r teledu yn fflachio'n mlaen am eiliad, ac yn dangos llafn rasel.

Lisa

/mi driodd o o'r blaen.

Megan

Be?

Lisa

I neud hyn, mi driodd o o'r blaen, o'n i yna.

Arwel

Do?

Aaron

Doni'm yn gwbod.



Ar y teledu bydd golygfeydd o fywyd coleg yn chwarae.

Lisa

O'dd o cyn i chdi ddod ar y sin. Flwyddyn gynta odda ni, odda ni'n blant o hyd ne'n bobol ifanc be bynnag ffwc o'dd hynny. Dodd yn hannar ni ddim yn gwbod pwy, ne be odda ni, ond mi oedd o. Dwi'n meddwl fod o di ca'l ei eni yn gwbod be'n union oedd o a be o'dd am ddigwydd iddo fo. Diawl o beth 'di nabod chdi dy hun, ddigon a dy ddychryn di. R'adag honno oedd bob dim yn newydd, a chyfla i fod yn pwy bynnag odda chdisio a rhyddid ond mi oedd 'na ochor arall hefyd. Y gwaith, y stre, y ffraeo sdiwpid rhwng criwia a'r pwysa i fod yn rwbath, i fwynhau, i fynd allan, i fynd yn ffycd. Dodd hynna'm yn siwtio pawb ac yn washing mashîn y strydoedd lliw chwd na mi gafodd y ddau ohona ni'n taflu at ein gilydd, dwy hosan o'dd ddim yn matsio. Iawn de. Oddi'n braf gallu deud na wrth griw y drydedd pan odda nhw'n coinio dy beint di yn gwbod fod na oleia un person arall fasa'm yn meddwl bo chdi'n jibar. Felly ddaetho'n ni'n ffrindia.

Aaron

O'dd pawb yn meddwl bo chi efo'ch gilydd.

Lisa

Naethon ni rioed, dwi'm yn meddwl. Ond mi o'dd o yno i fi pan gafodd n'chwaer ddamwain ac oni... jesd yno. Do'dd o byth ddim byd penodol rili, jesd rhyw syniad fod 'na wal ynddo fo'n rwla neu garpad lle odd petha'n cael eu stwffio.

Arwel

O'dd o'n un cyndyn i sgwrsio'n iawn.

Lisa

Un peth fedra ni gytuno arno fo.



SAIB

Teledu'n dangos y rasel eto, yna dŵr yn rhedeg mewn sinc a gwaed ynddo fo. Mae'r golau'n pylu a golau goch y tân trydan yn llenwi'r stafell.

Lisa

Ond fuodd na bwl lle o'dd o'n hyd'n oed gwaeth... a... O'dd o'm di bod yn y darlithoedd, ddim di bod yn dangos llawar ar ei wynab rili o gwbwl. Nes i gynnig siarad droeon ond ches i'm atab. Iawn de. Ffain. Ond un noson dyma fo'n gweiddi'n enw fi. Odd o'n gwaedu, ond heb neud job iawn ohonni. Ac, odd o'n ofn dwi'n meddwl? Ne yn difaru? Dwi'm yn gwbod. Ond gorish i gwffio am y rasal efo fo. Gorish i thynnu hi o'i ddwylo fo. Nes o'n i'n goch i gyd. (Lisa'n edrych ar ei dwylo'n ngolau'r tân trydan) Ges i hi, a mynd a hi i'm mathrwm a'u rhoi hi yn y bin tampons. Wedyn nes i llnau'i waed o o'n nwylo fi ar ôl ca'l warden ato fo. Pam nes i'm hynny'n gynt, dwi'm yn gwbod. Panic. O'dd rhaid mi ll'nau... Wedyn es i i shower a chrio am awr. Jesd toriada bach odda nhw, ond o'dd o'n deud fod o am neud mwy. Ma' toriada bach yn gwaedu lot.



SAIB FER

Lisa

Doni'm yn gwbod be'i neud. Na wedyn chwaith, ond ma'n rhaid mi goelio fod o'm isio gneud go iawn. No we swni di gallu tynnu nhw o'i fysadd o sa fo 'di trio cwffio'n iawn. Ond naethon ni rioed sôn am y peth wedyn. A dwi 'di bod yn meddwl, am y ffordd nes i ymatab a taswn i di bod yn gallach ella fasa hyn ddim 'di digwydd, ella basa fo 'di gweiddi arna'i eto.

Aaron

Sa ti di gallu sôn...

Lisa

Sa fo hefyd.

Megan

Helpu nes di Lisa, dim byd arall.

Lisa

Ond di helpu ddim yn ddigon nacdi, weithia.



SAIB HIR

Lisa

Faint o gloch di? Dwi am fynd i biso.

Arwel

Fyny grisia, ail ar y dde, paid a cloi chos ma'r drws yn mynd yn sdyc.



Lisa'n gadael. Mae Megan wedi cysgu ac Ywain wedi dechrau pen-dwmpian.

Arwel

Deud hanas wrtha fi am dano fo.

Aaron

Dwnim.

Arwel

Plîs.

Aaron

Wel, nath o'm golchi'i lestri am fisoedd yn y tŷ oedd ganddo fo a mi dyfodd na fyshrwms arnyn nhw. Odd hynny'n reit ffyni mewn ffordd.



SAIB

Arwel

Sut odda chdi'n nabod o ta?

Aaron

Brifysgol. O'n i ddwy flynadd yn hŷn na fo, cyfarfod pan odda ni allan.

Arwel

O. Peint yn ddrud yno medda fo 'tha ni.

Aaron

Oedd, fydda ni'n yfad yn tŷ/

Ywain

Fejiterian Tecs/

Aaron

/y?

Arwel

Reffryns o'dd o, paid â phoeni.

Aaron

Ia, wedyn yfad yn y fflat cyn mynd allan... Sori dwi'm yn dda iawn am siarad am betha fel'ma. Cnebrwng cynta i mi fynd iddo fo rili, ac i feddwl na rhywun tua'r un oed a fi o'dd o. Mond un nain sgin i a ma hi dal yn fyw, rhyw fath, mewn cartra ochra Deganwy. O'dd lleill 'di marw cyn mi gal fy ngeni. Cansar a hartan. A da ni'm i fod i farw nacdan? Ti'n disgwl pobol yn priodi dwyt, a ca'l plant. Ond ddim marw, wbath at nes mlaen di hwnnw de. Lot o'n ffrindia fi 'di dechra priodi fyd, pawb yn setlo rwan, rhaid chdi cyn ti'n thyrti bydd. Ffendio rhywun, cal tŷ, cal morgej, plant ella, ne gi os di plant yn ormod o gommitment. Ma' 'na ogla panic mewn pybs a clybia rŵan pan dwi yna efo criw r'un oed a fi sti, beioleg dio, ogla hormons o'dd o ddeg mlynadd nol.

Arwel

Lot yn fa'ma r'un fath. Diawl mi o'n i.

Aaron

Oia?

Arwel

Ai, jesd ddim 'di gneud lot rioed os ti'n dallt be sgin i. Methu cychwyn arni ne o'dd wbath yn teimlo'n chwithig, dwnim. Dwi efo rhywun wan lly, a ma'n grêt. Jesd oni'n poeni weithia.

Aaron

Poeni?

Arwel

Ia, fedrai'm deud pam, o'dd pawb arall doedd efo rhywun lly. Pwysa ella? Ond nace chwaith. O'dd 'na rhywun yn byw wrth ymyl ni stalwm, ben 'i hyn. Hen lanc, fydda fo'n dod heibio nain bob hyn a hyn, jesd i weld rhywun am wn i, ac o'dd o wastad bach yn od wsti. Fydda ni'n mynd draw efo bagia Kwics gwag yn yr haf i hel eirin i'w ardd o. Welist ti rioed le taclusach, Saeson sy 'na rŵan a mai'n gwilydd i weld. Fydda ni'n hel yr eirin 'ma, a rhei ohonyn nhw mor barod i'w byta nes bo nhw'n bystio wrth i chdi dwtsiad nhw, fydda ni'n cal llond bag bob un mond fod y dyn ma'n ca'l pot ne ddau o jam. O'n i fymryn o ofn y boi ma, un tro o'n i'n chwara mewn rhyw hen doman dywod, o'dd dad di prynu tywod i neud sment ond 'di adal o a'i lond o o gachu cath erbyn diwadd. Ta waeth o'n i'n chwara yn y tywod 'ma, ac o'dd y dyn 'ma, Robat odd i enw fo, yn siarad efo dad wrth ymyl. A dyma fo draw a llenwi'n welingtons i efo'r tywod 'ma a chwerthin, o'n i'n gwisgo nhw gyda llaw. A chwerthin o'dd o. Fatha fod o'r peth fwya hileriys ac o'n i ofn am mywyd. Dwi di anghofio'n mhoint wan.



SAIB FER

Arwel

O nace, y point o'dd, bod y boi ma 'di arfar ei hun gymaint nes fod o 'di mynd yn ormod o fo'i hun, tha sa fo'n jam 'di berwi gormod lly. Dwi'm isio bod fel'na sti.



SAIB FER

Arwel

Ond da ni'n hapus, ma hi'n gneud y peth athrawon 'ma wan. Da ni'n meddwl ca'l tŷ, ne oleia llun o un i roi ar wal wrth i ni safio pres am yr ugian mlynadd nesa.

Aaron

Be 'di enw'r cariad?

Arwel

Sian.

Aaron

Enw neis, enw cyfarwydd lly, fel soffa ti di arfar efo hi.

Arwel

Siani Flewog dwi'n galw hi achos, wel, hy.



SAIB

Arwel

Sori, dwi'n gwbod bo ni'n deud rhyw betha sydd ddim yn iawn. Tynnu ar ein gilydd yda ni, dio'm yn gas sti.

Aaron

Pam?

Arwel

Fel'na ma'i. Rhan o'r hwyl am wn i.

Aaron

Dwi'n weld o'n annifyr, fydda fo sti yn deud rhyw betha weithia, petha annifyr mond fod o 'di newid pitj y frawddeg fel bo hi'n jôc. Dwi 'di bod o gwmpas llefydd fel fama o'r blaen, 'di ca'l fy magu mewn lle tebyg a dachi'n deud jôcs ac yn chwerthin ond dachi'n casáu'ch gilydd go iawn. Casáu'ch hunan fyd. Nes i drio helpu fo efo hynny.

Arwel

Odda chi'n agos lly?

Aaron

Odda ni efo'n gilydd, Arwel, am ddwy flynadd. Dwi'm yn synnu fod o heb sôn.

Arwel

O, wel, naddo. Doni'm yn... ond iawn de, chwara teg.

Aaron

M.

Arwel

Biti fod o heb sôn deud gwir.

Aaron

Sut galla fo?

Arwel

Y?

Aaron

Sut galla fo sôn wrtha chdi, a'r cefndar 'na a gweddill criw pen yma. Mewn ardal lle ma gê yn rwbath ma plant ysgol yn ddeud fatha insult? Lle os wti fymryn yn wahanol ma'n iawn i bobol dynnu arna chdi a dy fwlio di. Os tisio ffendio lle ddechreuodd hyn dos yn ôl i'r ysgol na lle odda chi gyd.

Arwel

'Di hynna'm yn deg.

Aaron

Deud ti.

Arwel

Iawn oce, ma na lot o betha gwirion yn cal 'u deud ond no wê, no wê na jesd 'pobol pen yma' be bynnag ffwc ydi hynny sydd wrthi. Ma' 'na bobol yn bob man, a ma' 'na lot mwy sydd yn dal i feddwl y petha ma'i gyd mond bo nhw di dysgu peidio'u deud nhw, ne dysgu sut ma'i ddeud o mewn ffordd sy'n dal yn iawn. Jesd, paid a'n meirniadu fi plîs. Gawn ni drafod a ma hynny'n iawn, ond dwi'm isio ffraeo. Yr unig wahaniath rhyngtha chdi a Yws yn fana ydi cyfla, a lwc mul bo chdi di cal mynd i rwla i ddysgu sut ma' bihafio. A dwi'n gwbod fod o'n nob sy'n deud petha gwirion ond mae o'n foi iawn hefyd a ma posib bod y ddau beth.



SAIB

Arwel

Sori, dwi'n teimlo mod i 'di pregethu.

Aaron

Dio'm ots gen i, dio'm ots gen i am ddim byd heno ma. Ffyc it.



SAIB FER

Aaron

Pam fod o 'di goro gneud hynna Arwel?

Arwel

Dwn i'm. Dwi'n meddwl hynna lot fy hun.



Daw Lisa'n ôl.

Lisa

Bob dim yn iawn 'ma?

Arwel

Yndi tad.

Aaron

Ydi.



Arwel yn estyn ei got ac yn ei defnyddio fel blanced. Lisa'n yfed ac yn swatio. Pawb yn cysgu heblaw am Aaron sy'n pendwmpian.

Y golau'n isel. Y teledu'n cynnau eto, llun annelwig o wely arni, yna o fwrdd mewn fflat gyda thiwlips arno fo, rhywun yn gosod plât gyda tost arni ar y bwrdd. Aaron yn dod ato'i hun yn sydyn ac yn dod o hyd i'r llun wrth balfalu o'i gwmpas.

Aaron

Shit. Nes di ddeud sa chdi'n dod yn ôl fel ysbryd do. A ma'r tŷ 'ma'n llawn ohonna chdi. Tisio clywad ni'n deud bo ni'n drist wyt? Bo ni'n dy fethu di? Wel dwi yn, a mi o'n i cynt, a wedyn do'n i ddim, a dyna sy'n normal, dyna sut ma' pobol fod.



Ffilm o ffrae ar y teledu, drysau'n cau'n sydyn, rywun yn cerdded yn gyflym oddi wrth person arall yn Ikea.

Aaron

Os na rhywun heblaw fi yn y stafall 'ma yn gwbod sut odda chdi go iawn? O'dd 'na rywun yn y capal 'na? Sut odda chdi'n gallu bod yn oriog ac annifyr a pwdlyd ac yn ffycin gas heb fod isio ond yn hollol briliant hefyd? A gallu'n ngwylltio fi i'r ffasiwn radda... Nes i drio. Wir i chdi mi nes, ond ma' 'na ddiwadd ar drio ac ar allu hefyd a dwi'n sori am hynny. Dwi'n gwbod na fi o'dd yn wan masiwr.



Mae'r drysau'n agor. Ffôn yn canu mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Aaron

Dwi'm yn gwbod pam nes i'm atab. Dduda i mod i'n brysur, ne 'di blino, ne fod o'm yn gyfleus. Dduda i mod i heb glywad y ffycin ffôn na'n canu ac yn canu. Fydd na neb callach. Ond dwi'm yn gwbod pam. O'n i'n gwbod bo chdi yna. Ond... odda ni 'di ffraeo ers blynyddoedd! Odda chdi di dod yn ôl i'r shithol yma at dy fam a'r josgins ma' ers hynny. Mond pan odda chdi'n pisd odda chdi'n tecstio a choelia ne beidio dydi llun sgi wiff o goc llipa ddim yn mynd i neud i neb ddisgyn yn ôl mewn cariad efo chdi. Oni'n gwbod na ddim dyna o'dd y tro dwytha na ond, dwnim. Do'n i'm isio chdi farw. Ond oni isio llonydd. Brêc. Ac o'n i 'di symud mlaen, 'di ffendio rhywun arall, a, dwnim, odda ti'n fwy o hasyl na dim byd arall. Ond dwi'n dy ffycin fethu di fyd.



Dau yn eistedd wrth y bwrdd hefo'r tost. Mae Megan yn deffro.

Megan

Pwy sy na?

Aaron

Fi, sori i dy ddeffro di.

Megan

Na, ma'n iawn, doni'm isio cysgu eniwe rili. Doni'm i fod yma mor hwyr, gin i waith fory i fod.

Aaron

Cyfieithu ti ia?

Megan

M, yn dre.

Aaron

Ffonia fewn, gei di gymyd amsar off efo galar sti, dwi'n gyfreithiwr, ddylia mod i'n gwbod.

Megan

Chdi odd y cyfreithiwr? Oni'n ama.

Aaron

Be, o'dd o'n sôn am danai?

Megan

Am rhyw gyfreithiwr beth bynnag, sôn ddipyn deud gwir.

Aaron

Am be lly?

Megan

Wel, wsti, hel straeon de. Bob math o betha. Petha da ddo.

Aaron

O, wel, oce.

Megan

Dyna pam mod i yma dwi'n meddwl ia? Am mod i di siarad efo fo am betha fel'na?

Aaron

Dwi'm yn gwbod, dwni'm pam fod o isio neb yma o gwbwl.

Megan

Jesd ma'n rhyfadd achos doni'm yn nabod o fatha chdi, ne neb arall yma rili. Jesd nabod gwaith odda ni de. Dibynnu ar y ffaith bo ni'n gorfod bod yn yr un adeilad am oria odda ni, a petha fel y bos a'r mashin coffi shit yn lle petha fel profiada ne atgofion yn dod a ni at 'n gilydd.

Aaron

I ddechra cychwyn ia, ond fedri di dal gal ffrindia gwaith.

Megan

Sgin ti rei?

Aaron

Crwner sy'n saethu ar y wicends ydi un a dynas yn ei ffifftis sy'n byta sardins o gan wrth ei desg 'di'r llall so nagoes, ond ddim dyna ydi'r point.

Megan

Dwi jesd yn teimlo tha mod i ddim i fod yma rwsut.

Aaron

Falla bo hi'n haws siarad efo chdi na neb ohonna ni, dwi'n gwbod fod o heb grybwyll fi wrth y Deliverance Twins yn fana felly ma gin ti hynna.



SAIB

Megan

Pam ni de?

Aaron

Cysylltiada? Dwnim, doddna'm llythyr nagoedd ond o'dd 'na wbath.

Megan

Feddyliodd o am dana ni ti'n meddwl?



Amser yn pasio. Bellach mae hi'n fore ac mae pawb yn dioddef. Ywain yn dal i gysgu, Arwel yn tacluso.

Lisa

Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel?

Arwel

Ma na weatherspoons yn dre, ne os ddowch chi acw na'i wbath i chi. (Arwel yn taflu can at Ywain.) Deffra twat!

Ywain

Ffyc off.

Aaron

Fydd rhaid i mi throi hi'n o fuan ma'rnai ofn.

Ywain

Sa well i minna fynd adra fyd.

Megan

Be sgwennodd o, Arwel?

Arwel

Y?

Megan

Nes di sôn fod 'na bapura. O'dd 'na tha llythyr ne wbath?

Ywain

Ia, be o'dd hynny?

Arwel

Dwni'm os dio werth...

Aaron

Swni'n lecio gwbod fyd.

Arwel

Doddna'm llythyr, na esboniad, heblaw am betha o'dd o'n sgwennu eniwe. O'dd ei fam o'n confinsd fod rheiny'n wbath ond dodda nhw ddim, jesd sgwennu, ond fod 'na wreiddia go iawn iddo fo. Ond gafo ni betha'n ôl, ei ddillad o a ballu. Ac yn bocad ei drwsus o, rhoswch mae o gen i yn fy walat, dwnim pam, jesd, odd isio fo fod yn rwla saff. (Arwel yn estyn y papur.) Dyma ni.



Mae o'n ei agor o, a phawb yn sbio. Mae pawb o flaen y soffa.

Lisa

Ni 'di...

Arwel

Enwa a rhifa ffôn y pump ohona ni. Ma'raid fod o di meddwl... ond ddath na'm byd o hynny.

Aaron

Naddo...



Mae pawb yn gadael fesul un yn araf deg. Wedi i Arwel gau'r drws caiff y lluniau a'r fideos sydd wedi cael eu chwarae ar y teledu eu taflunio dros y llwyfan, gyda phob dim ar draws ei gilydd i gyd. Y llun yn dirywio a dechrau neidio, yn aros ar y corff yn hongian a coeden lle fedrwch chi weld y môr yna'n diffodd.

Tywyllwch.

Drama un-act