|
|
(1, 0) 1 |
GOLYGFA: |
(1, 0) 2 |
Ystafell fyw cartref Charles a Beti Bowen. |
(1, 0) 3 |
Dau ddrws, un allan llall i weddill y tŷ. |
(1, 0) 4 |
Mae'r ystafell yn flêr. |
(1, 0) 5 |
Dillad ar lawr, llestri budur ar y bwrdd. |
(1, 0) 6 |
Gwelir Beti Bowen a Doris. |
(1, 0) 7 |
Beti yn gwisgo wig gwallt melyn, dillad lliwgar ffasiynol, modern, tlysiau clust amlwg a'i hwyneb wedi ei or-goluro. |
(1, 0) 8 |
Gorwedda yn ôl ar gadair esmwyth gyda'i thraed ar stôl. |
(1, 0) 9 |
Mae Doris sydd yn paentio ewinedd traed Beti yn gwisgo cyrlyrs, hen ffedog flêr, slipars carpiog, tlysau clust anferth. |
(1, 0) 10 |
Mae ganddi sigarêt heb ei danio yn ei cheg a llawer iawn o bowdwr a phaent ar ei hwyneb. |
|
(Beti) Dyma'r bywyd yntê, Doris? |
|
|
|
(Beti) Colli pwysa? |
(1, 0) 33 |
Doris yn codi a mynd at feic cadw'n heini ac yn eistedd arno. |
|
(Doris) Wel, ia. |
|
|
|
(Doris) Wel cerwch i jecio ar y glorian. |
(1, 0) 47 |
Beti yn codi a mynd at y glorian a sefyll arni. |
|
(Beti) Ew, ti'n iawn ─ mi rydw i wedi rhoi lot o bwysau ymlaen. |
|
|
|
(Beti) Symud o'r ffordd. |
(1, 0) 51 |
Yn gwthio Doris oddi ar y beic a mynd arno a pedlo. |
(1, 0) 52 |
Doris yn mynd at y glorian. |
|
(Doris) Hwre! |
|
|
|
(Doris) Gofalus, dim lwcus. |
(1, 0) 59 |
Beti yn stopio pedlo. |
|
(Doris) Hei, dowch o'na. |
|
|
|
(Doris) Gamp i chi gyrraedd 30. |
(1, 0) 63 |
Beti yn pedlo'n gyflym a Doris yn edrych ar gloc y beic. |
|
(Doris) {Yn chwerthin.} |
|
|
|
(Doris) Does gynnoch chi ddim clem ─ dach chi ddim wedi cyrraedd pymtheg eto! |
(1, 0) 66 |
Beti allan o wynt ac yn arafu. |
|
(Doris) Dach chi'n cofio bod gynnoch chi broblem ariannol yn dydach? |
|
|
|
(Doris) Hei, dewch o'na ─ dim slacio! |
(1, 0) 83 |
Beti yn ailddechrau pedlo. |
|
(Beti) O diar, be wna' i? |
|
|
|
(Doris) Roedd o'n dawnsio o gwmpas y stafell 'ma fel dyn o'i go' hefyd. |
(1, 0) 98 |
Beti yn stopio pedlo. |
|
(Doris) Hei, dim slacio ddeudais i. |
|
|
|
(Doris) Dewch o'na ─ yn ôl ar y beic 'ma. |
(1, 0) 106 |
Beti yn ufuddhau ac yn pedlo. |
|
(Beti) Mi ga' i fenthyg gan fy chwaer. |
|
|
|
(Doris) Beth am dipyn o wên? |
(1, 0) 147 |
Beti yn gwenu a mae hithau yn dawnsio'n egniol. |
(1, 0) 148 |
Daw Ben i mewn yn gwisgo crys a throwsus "check" lliwgar. |
|
(Doris) Ben! |
|
|
|
(Doris) Tyrd, joinia i mewn. |
(1, 0) 151 |
Y ddwy yn gafael yn Ben a'i wneud i ddawnsio. |
(1, 0) 152 |
Ar ôl rhyw funud o ddawnsio syrthiant yn ôl ar gadeiriau wedi blino. |
(1, 0) 153 |
Doris yn diffodd y miwsig. |
|
(Ben) Ew! |
|
|
|
(Beti) Mae'n 'sennau i yn brifo wrth feddwl am y peth. |
(1, 0) 176 |
Daw Ben yn ôl gyda bwrdd snwcer bach. |
|
(Doris) Ew, be mae Steve Davis yn mynd i'w wneud? |
|
|
|
(Ben) Rhaid i mi gael practis. |
(1, 0) 181 |
Ben yn rhoi y bwrdd snwcer ar ben bwrdd yr ystafell ar ôl clirio y llestri a'u rhoi ar y llawr. |
(1, 0) 182 |
Yn gosod y peli a pharatoi i chwarae. |
|
(Beti) Ydi o'n chwaraewr da? |
|
|
|
(Beti) Tyrd i helpu Ben. |
(1, 0) 191 |
Ben yn ufuddhau. |
|
(Ben) Oes eisiau cael gwared ar y papurau 'ma i gyd? |
|
|
|
(Beti) Lle mae'r 'Times'? |
(1, 0) 199 |
Daw Doris i mewn i nôl mwy o lestri. |
|
(Ben) Alla i mo'i weld o. |
|
|
|
(Beti) Ben, plîs dos i'w nôl o y munud 'ma. |
(1, 0) 204 |
Ben yn mynd allan. |
(1, 0) 205 |
Doris yn codi mwy o lestri. |
(1, 0) 206 |
Un gwpan yn disgyn i'r llawr a malu. |
|
(Beti) O diar, bydd yn ofalus Doris bach. |
|
|
|
(Doris) Sori, meistres. |
(1, 0) 209 |
Doris yn casglu y darnau a mynd allan. |
(1, 0) 210 |
Daw Ben i mewn. |
|
(Ben) Dyma fo, ond mae golwg blêr iawn arno fo. |
|
|
|
(Ben) Fasach chi yn lecio i mi ei roi o yn y tymbyl dreiar hefyd? |
(1, 0) 218 |
Daw Doris i mewn yn cario jwg. |
|
(Doris) Rhaid i mi roi y jwg yma yn ôl. |
|
|
|
(Ben) Ac yn werth mil o bunnau medda fo. |
(1, 0) 225 |
Doris yn estyn i osod jwg ar ben y silff. |
(1, 0) 226 |
Braidd yn drwsgl yw hi ─ y jwg bron a disgyn o'i dwylo. |
|
(Ben) Ew, mae'n rhaid gen i bod hon ofn y meistr ─ mae hi'n nyrfs i gyd. |
|
|
|
(Doris) Na rydw i'n iawn. |
(1, 0) 232 |
Yr eiliad nesa syrth y jwg o'i dwylo. |
(1, 0) 233 |
Beti yn rhoi sgrech fach. |
(1, 0) 234 |
Ben yn taflu ei hun ar lawr a dal y jwg fodfeddi cyn iddo daro'r llawr. |
|
(Beti) Daria di Doris, mi rwyt ti yn lletchwith. |
|
|
|
(Beti) Rydw i wedi colli ffydd yn Doris ─ mae hi'n nyrfs i gyd. |
(1, 0) 241 |
Ben yn sefyll ar y gadair a rhoi y jwg yn ei lle. |
|
(Ben) Dyna ni. |
|
|
|
(Doris) Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma. |
(1, 0) 256 |
Doris yn estyn y tidli wincs. |
(1, 0) 257 |
Y ddwy yn penlinio a dechrau chwarae. |
|
(Beti) Dyro record arall i droi. |
|
|
|
(Beti) Rhywbeth hefo dipyn o fynd ami. |
(1, 0) 260 |
Doris yn ufuddhau a dod yn ôl at y gêm. |
(1, 0) 261 |
Oherwydd y miwsig gorfodir y ddwy i siarad yn uchel. |
|
(Doris) {Chwerthin.} |
|
|
|
(Beti) Gna di yn well 'ta. |
(1, 0) 266 |
Doris yn rhoi cynnig arni. |
|
(Beti) Ti ddim gwell na fi. |
|
|
|
(Beti) Ti ddim gwell na fi. |
(1, 0) 268 |
Daw Ben i mewn. |
|
(Doris) Wyt ti isio gêm o tidli wincs, Ben? |
|
|
|
(Ben) Na, well gen i snwcer. |
(1, 0) 272 |
Mae yn codi'r ciw a dechrau chwarae. |
(1, 0) 273 |
Yr un pryd mae yn gwneud ychydig o symudiadau bach i'r miwsig. |
|
(Doris) 'Does gennoch chi ddim llawer o glem meistres. |
|
|
|
(Beti) Rydw i wedi cael tair i mewn ar ôl ei gilydd. |
(1, 0) 287 |
Doris yn stopïo chwarae snwcer, rhoi y ciw i Ben a mynd at Beti. |
|
(Doris) {Yn penlinio wrth ochr Beti.} |
|
|
|
(Doris) Wel, mae rhaid i mi drio curo hynna. |
(1, 0) 290 |
Ben yn cario ymlaen i chwarae snwcer ─ ei gefn at y drws. |
(1, 0) 291 |
Daw Charles i mewn. |
(1, 0) 292 |
Mae ganddo siwt dywyll gyda het 'bowler'. |
(1, 0) 293 |
Mwstas tenau a barf ar ei ên yn unig. |
(1, 0) 294 |
Aiff at y record a'i diffodd. |
(1, 0) 295 |
Wedyn aíff i sefyll y tu ôl i Ben. |
(1, 0) 296 |
Mae Doris a Beti yn ei weld a safant yn glos wrth ei gilydd mewn sioc. |
|
(Ben) {Yn dal i chwarae.} |
|
|
|
(Ben) Ti isïo siot bach eto Doris? |
(1, 0) 301 |
Charles yn pesychu. |
(1, 0) 302 |
Ben yn troi rownd gyda braw. |
(1, 0) 303 |
~ |
(1, 0) 304 |
LLEN |
(2, 0) 305 |
GOLYGFA: Yr un ystafell, bore canlynol. |
(2, 0) 306 |
Yn lân a thaclus. |
(2, 0) 307 |
Charles yn eistedd wrth y bwrdd yn bwyta ei frecwast ─ ŵy wedi ei ferwi. |
(2, 0) 308 |
Charles yn canu cloch ar y bwrdd unwaith. |
(2, 0) 309 |
Daw Doris i mewn wedi ei gwisgo yn ddestlus fel morwyn. |
(2, 0) 310 |
Ei hwyneb heb ei goluro. |
|
(Doris) Ia? |
|
|
|
(Doris) {Yn mynd allan gyda'r ŵy.} |
(2, 0) 324 |
Charles yn canu y gloch ddwywaith. |
(2, 0) 325 |
Daw Beti i mewn. |
(2, 0) 326 |
Dillad du llaes ganddi, gwallt mewn 'bun'. Dim coluro) |
|
(Beti) {Yn wylaidd.} |
|
|
|
(Charles) Gewch chi fynd rŵan. |
(2, 0) 334 |
Beti yn mynd allan, Charles yn canu'r gloch unwaith. |
(2, 0) 335 |
Daw Doris i mewn. |
|
(Doris) Dim ond dwy funud mae o wedi bod! |
|
|
|
(Doris) 'Di hwn byth yn fodlon. |
(2, 0) 341 |
Charles 'yn canu'r gloch deirgwaith. |
(2, 0) 342 |
Daw Ben i mewn. |
(2, 0) 343 |
Symud fel milwr. |
(2, 0) 344 |
Wedi ei wisgo fel chauffer. |
|
(Ben) Ia, syr? |
|
|
|
(Ben) {Yn mynd allan.} |
(2, 0) 349 |
Y ffôn yn canu. |
(2, 0) 350 |
Daw Beti i mewn yn gyflym. |
(2, 0) 351 |
Mynd at y ffôn a dod â fo i Charles. |
(2, 0) 352 |
Charles yn ei dderbyn heb edrych arni. |
(2, 0) 353 |
Beti yn mynd allan. |
|
(Charles) Helo David, sut ydach chi? |
|
|
|
(Charles) Hwyl. |
(2, 0) 361 |
Charles yn canu y gloch ddwywaith a daw Beti i mewn a chymryd y ffôn oddi wrth Charles a'i roi yn ei le. |
(2, 0) 362 |
Wedyn mynd allan. |
(2, 0) 363 |
Charles yn canu'r gloch deirgwaith a daw Ben i mewn. |
|
(Ben) Syr! |
|
|
|
(Ben) Wrth gwrs, syr. |
(2, 0) 369 |
Mynd allan. |
(2, 0) 370 |
Daw Doris i mewn gyda the ffres ac ŵy arall. |
(2, 0) 371 |
Mae hi'n sefyll i edrych ar Charles yn torri'r ŵy a dechrau bwyta. |
|
(Doris) Ydi hwnna'n well! |
|
|
|
(Charles) Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro. |
(2, 0) 374 |
Doris yn troi a mynd allan. |
(2, 0) 375 |
Siarad 'yn uchel wrthi ei hun. |
|
(Doris) Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn. |
|
|
|
(Doris) Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn. |
(2, 0) 377 |
Daw Ben i mewn gydag amlen a'i roi i Charles. |
|
(Ben) Newydd gyrraedd, meistr. |
|
|
|
(Ben) Newydd gyrraedd, meistr. |
(2, 0) 379 |
Charles yn ei gipio heb ddiolch. |
(2, 0) 380 |
Ben yn mynd allan. |
(2, 0) 381 |
Charles yn agor cynnwys yr amlen a darllen. |
|
(Charles) Rargian fawr! |
|
|
|
(Ben) {Ben yn mynd allan.} |
(2, 0) 387 |
Charles yn canu'r gloch unwaith a daw Doris i mewn. |
|
(Charles) 'Rydw i ar frys. |
|
|
|
(Doris) {Yn mynd allan.} |
(2, 0) 392 |
Charles yn canu'r gloch ddwywaith a daw Beti i mewn. |
|
(Charles) Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd. |
|
|
|
(Beti) Wrth gwrs, Charles. |
(2, 0) 395 |
Beti yn mynd allan. |
(2, 0) 396 |
Daw Doris yn ôl i mewn gyda'r esgidiau. |
|
(Charles) Rho nhw ar fy nhraed i. |
|
|
|
(Doris) {Rhoi yr esgidiau am ei draed.} |
(2, 0) 401 |
Charles yn darllen. |
(2, 0) 402 |
Daw Beti i mewn gyda'r gôt a'r tei. |
|
(Charles) Rhowch y tei ymlaen. |
|
|
|
(Charles) Rhowch y tei ymlaen. |
(2, 0) 404 |
Beti yn ufuddhau. |
(2, 0) 405 |
Beti gyda'r tei, Doris gyda'r esgidiau a Charles yn darllen yr un pryd. |
|
(Charles) Dwi ddim yn gallu darllen, Beti. |
|
|
|
(Beti) Sori, Charles. |
(2, 0) 409 |
Y ddwy yn gorffen. |
(2, 0) 410 |
Charles yn codi. |
(2, 0) 411 |
Y ddwy yn ei helpu gyda'i gôt. |
(2, 0) 412 |
Charles yn dal i ddarllen. |
|
(Doris) 'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr. |
|
|
|
(Charles) Tyrd a fo yma 'ta. |
(2, 0) 415 |
Doris yn cynnig y blât a'r ŵy arno iddo. |
|
(Charles) {Dal i ddarllen.} |
|
|
|
(Doris) Wel, agorwch eich ceg 'ta. |
(2, 0) 420 |
Charles yn agor ei geg a darllen. |
(2, 0) 421 |
Doris yn ei fwydo. |
(2, 0) 422 |
Beti yn brwsio ei gôt. |
|
(Charles) {Dal i ddarllen.} |
|
|
|
(Charles) Rhowch hi ar fy mhen. |
(2, 0) 431 |
Beti yn gwneud hynny. |
(2, 0) 432 |
Daw Ben i mewn. |
|
(Ben) Car yn barod syr! |
|
|
|
(Ben) Car yn barod syr! |
(2, 0) 434 |
Charles yn rhoi'r gorau i ddarllen a cerdded allan. |
(2, 0) 435 |
Ben yn ei ganlyn. |
|
(Beti) Welwn ni mono fo am rai oriau gobeithio. |
|
|
|
(Doris) Iawn. |
(2, 0) 443 |
Y ddwy yn mynd allan i'r gegin. |
(2, 0) 444 |
Daw Doris yn ôl yn syth gyda llestri. |
(2, 0) 445 |
Rhoi nhw ar y bwrdd a throi yn ôl at y gegin. |
(2, 0) 446 |
Ar y ffordd 'yn ôl mae hi'n pasio Beti sydd wedi dod i mewn gyda thebot) |
|
(Doris) Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw? |
|
|
|
(Doris) Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw? |
(2, 0) 448 |
Doris yn mynd allan. |
(2, 0) 449 |
Dod yn ôl yn syth gyda theisen. |
(2, 0) 450 |
Beti yn ei phasio ar y ffordd allan. |
|
(Beti) Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud. |
|
|
|
(Beti) Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud. |
(2, 0) 452 |
Beti yn mynd allan. |
(2, 0) 453 |
Dod yn ôl yn syth gyda rhywbeth arall i'w roi ar y bwrdd. |
(2, 0) 454 |
Doris ar ei ffordd allan yn ei phasio eto. |
|
(Doris) Sut maen nhw'n dod? |
|
|
|
(Doris) Sut maen nhw'n dod? |
(2, 0) 456 |
Doris yn mynd allan a dod yn ôl yn syth gyda rhywbeth arall. |
(2, 0) 457 |
Beti yn ei phasio. |
|
(Beti) Mae 'mrawd, Dei, yn dod â nhw yn ei gar ─ ond dydi o ddim yn aros. |
|
|
|
(Doris) Mi a' i i'w ateb o. |
(2, 0) 463 |
Yn mynd allan. |
(2, 0) 464 |
Beti yn gorffen gosod y bwrdd. |
(2, 0) 465 |
Clywir lleisiau yn y cefndir. |
|
(Doris) Na, peidiwch â phoeni. |
|
|
|
(Doris) Dydi o ddim yma. |
(2, 0) 468 |
Daw dwy ddynes i mewn. |
(2, 0) 469 |
Doris tu ôl iddynt. |
|
(Doris) Hei, beth am eich cotiau chi. |
|
|
|
(Doris) Dowch â nhw i mi. |
(2, 0) 472 |
Y ddwy yn diosg eu cotiau. |
|
(Beti) Sut 'dach chi mam? |
|
|
|
(Beti) Hylo, Anti Jên. |
(2, 0) 475 |
Rhoi cusan i'r ddwy. |
(2, 0) 476 |
Doris yn mynd â'r cotiau allan. |
|
(Beti) Dewch at y bwrdd. |
|
|
|
(Jên) Ia wir, rydan ni ein dwy wedi mynd heb frecwast i fwynhau honno. |
(2, 0) 481 |
Beti yn tywallt te a thorri'r darten. |
|
(Beti) Does 'na neb i guro Doris am darten 'fala. |
|
|
|
(Mam) Rydw i jest â chlemio. |
(2, 0) 484 |
Daw Doris i mewn. |
|
(Doris) Sut mae'r darten yn plesio? |
|
|
|
(Jên) Dy ora di eto 'mach i. |
(2, 0) 487 |
Daw Ben i mewn. |
|
(Ben) Well i chi glirio o'r ystafell yma. |
|
|
|
(Ben) {Yn mynd allan.} |
(2, 0) 502 |
Daw Charles i mewn. |
(2, 0) 503 |
Beti yn sgwario a mynd ato. |
|
(Beti) Gwrandwch arna' i, Charles. |
|
|
|
(Charles) Doris cliria'r bwrdd. |
(2, 0) 509 |
Doris 'yn ufuddhau. |
|
(Doris) {Wrthi ei hun.} |
|
|
|
(Beti) Yn mynd allan.} |
(2, 0) 523 |
Cloch y drws yn canu. |
(2, 0) 524 |
Lleisiau yn y cefndir. |
(2, 0) 525 |
Daw Doris i mewn gyda dau ddyn, Seimon Pyrs ac Emlyn Prydderch. |
|
(Charles) Hylo, Seimon. |
|
|
|
(Charles) Dowch i eistedd. |
(2, 0) 529 |
Y ddau yn tynnu eu cotiau a'u rhoi i Doris. |
|
(Charles) {Yn gwenu.} |
|
|
|
(Charles) Diolch Doris. |
(2, 0) 532 |
Doris yn cychwyn allan. |
|
(Charles) Rydan ni yn lwcus iawn o gael Doris. |
|
|
|
(Charles) Eisteddwch, gyfeillion. |
(2, 0) 539 |
Y ddau yn eistedd. |
|
(Emlyn) Diolch C.J. |
|
|
|
(Charles) Fy un gorau i ers talwm. |
(2, 0) 573 |
Pawb yn cyffwrdd gwydrau. |
|
(Pawb) I Bryn Awelon. |
|
|
|
(Seimon) Syniad da. |
(2, 0) 583 |
Y ddau yn arllwys eu gwin i'r pot blodau. |
(2, 0) 584 |
Daw Charles i mewn gyda Beti a'i fraich rownd ei chanol. |
|
(Charles) Rwyf am i chi gyfarfod dau gyfaill i mi, cariad. |
|
|
|
(Emlyn) Iawn C.J. |
(2, 0) 607 |
Y ddau yn rhoi y gwydrau ar y bwrdd a throi at y drws. |
|
(Charles) Gyfeillion, rwy'n synnu atoch chi. |
|
|
|
(Seimon) Campus ydi'r unig air amdano fo. |
(2, 0) 614 |
Y ddau yn yfed. |
(2, 0) 615 |
Y gynulleidfa yn unig yn gweld y diflastod ar eu hwynebau. |
|
(Charles) Dewch gyfeillion. |
|
|
|
(Charles) Gwelaf chi yn hwyrach, siwgwr. |
(2, 0) 619 |
Y tri yn mynd allan. |
(2, 0) 620 |
Daw Doris i mewn. |
|
(Doris) Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei. |
|
|
|
(Doris) Dach chi wedi cael eich siâr am y flwyddyn yma felly. |
(2, 0) 625 |
Daw Ben i mewn. |
|
(Ben) Wel, myn dian i. |
|
|
|
(Beti) Well gen i beidio. |
(2, 0) 667 |
Yn cychwyn allan. |
(2, 0) 668 |
Doris yn sefyll yn ei ffordd. |
|
(Doris) 'Rydw i wedi fy siomi ynoch chi meistres. |
|
|
|
(Doris) Wyddwn i ddim eich bod chi mor ofnus. |
(2, 0) 671 |
Beti yn meddwl. |
|
(Beti) Reit, be wyt ti isio imi ei wneud? |
|
|
|
(Doris) Da iawn. |
(2, 0) 689 |
Daw Ben yn ôl i mewn. |
|
(Ben) Mae 'mrawd wedi cadarnhau'r peth. |
|
|
|
(Doris) Ar ôl iddo fo setlo, mi gaiff meistres ddod i mewn ato fo. |
(2, 0) 704 |
Y tri yn mynd allan. |
(2, 0) 705 |
Daw Charles i mewn. |
(2, 0) 706 |
Mae yn cicio cadair o'r neilltu. |
(2, 0) 707 |
Yn taflu ei gôt a'i het ar gadair arall ac yn canu y gloch. |
(2, 0) 708 |
Neb yn ateb. |
|
(Charles) Lle gebyst mae pawb? |
|
|
|
(Charles) Lle mae'r merchaid 'ma? |
(2, 0) 712 |
Yn mynd allan i chwilio. |
(2, 0) 713 |
Daw Beit i mewn ar frys. |
|
(Beti) Charles, rydan ni... |
|
|
|
(Beti) Charles, rydan ni... |
(2, 0) 715 |
Stopio mewn syndod pan wêl neb yno. |
(2, 0) 716 |
Daw Doris imewn. |
|
(Doris) Lle mae o? |
|
|
|
(Doris) Pob lwc. |
(2, 0) 726 |
Beti yn mynd allan. |
(2, 0) 727 |
Doris yn gwneud ychydig o dacluso. |
(2, 0) 728 |
Daw Ben i mewn. |
(2, 0) 729 |
Pan wêl Doris sydd â'i chefn ato mae yn mynd ati ar flaenau ei draed ac yn rhoi ei freichiau o'i chwmpas. |
|
(Doris) {Gwaedd.} |
|
|
|
(Beti) Iawn. |
(2, 0) 752 |
Yn mynd allan. |
(2, 0) 753 |
Ben yn ceisio rhoi ei fraich rownd Doris. |
|
(Doris) Paid. |
|
|
|
(Doris) Mae rhywun yn dod. |
(2, 0) 756 |
Daw Charles i mewn. |
|
(Charles) A dyma be mae fy ngweision i yn wneud pan rydw i'n troi fy nghefn. |
|
|
|
(Ben) Gwnawn wrth gwrs, syr. |
(2, 0) 769 |
Charles yn mynd allan. |
(2, 0) 770 |
Daw Beti i mewn gydag Oscar ─ dyn mawr yn edrych yn fygythiol. |
|
(Doris) Mae o newydd fod yma yn gofyn amdanoch chi meistres. |
|
|
|
(Doris) Ffordd hyn. |
(2, 0) 776 |
Doris yn mynd allan gyda Oscar ─ y ffôn yn canu. |
(2, 0) 777 |
Beti yn ateb. |
|
(Beti) Snwcer? |
|
|
|
(Ben) Mi a'i. |
(2, 0) 799 |
Yn mynd allan. |
(2, 0) 800 |
Daw Doris yn ôl i mewn. |
|
(Doris) {Chwerthin.} |
|
|
|
(Beti) O Doris, rwyt ti'n werth y byd. |
(2, 0) 816 |
Doris yn mynd allan. |
(2, 0) 817 |
Daw Oscar yn ôl i mewn. |
|
(Oscar) Chewch chi ddim mwy o drwbwl hefo fo. |
|
|
|
(Oscar) Dydd da. |
(2, 0) 820 |
Oscar allan. |
(2, 0) 821 |
Doris i mewn. |
|
(Doris) 'Dach chi'n lwcus meistres. |
|
|
|
(Ben) Sh... rydw i'n meddwl ei fod o yn dŵad. |
(2, 0) 831 |
Daw Charles i mewn yn cario côt ffyr, amlen a watsh aur. |
|
(Charles) {Gwên gyfeillgar.} |
|
|
|
(Beti) Hwyl, Charles. |
(2, 0) 859 |
Y tri yn mynd allan. |
(2, 0) 860 |
Charles yn sefyll yn geg-agored mewn syndod. |
(2, 0) 861 |
~ |
(2, 0) 862 |
Y DIWEDD |