Anne Frank

Ciw-restr ar gyfer Desc

(0, 1) 1 Dychwela OTTO i'r guddfan am y tro cyntaf wedi iddo derbyn y dyddiadur gan Miep.
(0, 1) 2 Mae'n gafael yn dynn yn y dyddiadur a'i anwesu wrth i'r hiraeth am ei deulu ei orchfygu.
(Llais) %Mehefin 12, 1942.
 
(Llais) %Rydw i'n gobeithio y galla i ymddiried y cyfan i ti gan nad ydw i erioed wedi gallu ymddiried yn neb o'r blaen, ac yn gobeithio y byddi di'n gefn ac yn gysur mawr i mi.
(0, 2) 5 Mae Anne yn darllen ei dyddiadur yn ddwys tra bo Margot yn ymdrechu i gael gweld y cynnwys.
(Anne) Paid!
 
(Margot) Ymddiheura!
(0, 2) 30 Saib.
(Margot) Mi gawn ni weld be sy gan Dad i'w ddeud!
 
(Margot) Rhosa yma tan fydd na well hwylia arnat ti.
(0, 2) 43 Saib.
(Margot) Ag i ti gael dallt, ddim y fi sy di bod yn sbio drwy dy ddyddiadur di.
 
(Margot) Ma isio ti ofalu be ti'n roi yno fo.
(0, 2) 47 Margot yn gadael.
(Anne) Margot tyd yn…
 
(Anne) Margot tyd yn…
(0, 2) 49 Ansicrwydd mawr yn dod dros ANNE.
(Llais) %Dydd Sadwrn, Gorffennaf 11, 1942.
 
(Llais) %Efallai ei fod yn damp a'r waliau'n gam, ond go brin fod yna guddfan fwy cyfforddus yn unman.
(0, 3) 56 ANNE yn ysgrifennu yn ei dyddiadur, MARGOT a PETER yn edrych allan ar y cymylau.
(Margot) Charades?
 
(Peter) Mond bo fi ddim yn gorfod mynd gynta!
(0, 3) 78 MARGOT yn cychwyn ar ei hunion heb roi cyfle i ANNE.
(Margot) Debyg i be di hwna ta?
 
(Peter) Swn i'n ei rhannu hi hefo pawb.
(0, 3) 103 ANNE yn anfodlon a'r ateb.
(0, 3) 104 MARGOT yn cyfeirio at gwmwl arall.
(Margot) Be am hwn ta?
 
(Margot) Mi a'i ddeud dy fod ti ar dy ffor!
(0, 3) 122 MARGOT yn gadael.
(Peter) Mi o'n i'n gwbod hynny'n barod!
 
(Anne) Cofia be ddudis i!
(0, 3) 140 Saib anghyfforddus.
(Tad) Anne ddim yn dy boeni di gobeithio!
 
(Tad) Na ti!
(0, 3) 152 Saib.
(Tad) Braf cael llonydd weithia dydi!
 
(Peter) Dwi am fynd at y lleill os ydi hynny'n iawn gynno chi!
(0, 3) 161 PETER yn gadael a OTTO yn siomedig nad oedd wedi gallu cyfleu byrdwn ei sgwrs yn ddigon clir.
(Llais) %Dydd Gwener, Tachwedd 20, 1942.
 
(Llais) %Na, alla i ddim gneud hynny, ac mae'r tristwch hwn yn siwr o fynd heibio.
(0, 4) 167 ANNE yn cipio llyfr gan MARGOT.
(Margot) Tyd a fo'n ol!
 
(Tad) Mi fysa na ffasiwn sterics tasa Margot druan yn meiddio sbio ar un o dy lyfra di!
(0, 4) 216 ANNE yn gollwng y llyfr yn swnllyd.
(Tad) Cwyd o, munud ma!
 
(Tad) Cwyd o, munud ma!
(0, 4) 218 ANNE yn gadael yn flin.
(Tad) Tyd yn ol yma!
 
(Llais) %Rydw i'n gneud fy ngorau glas i bleisio pawb, mwy nag y mae neb yn ei sylweddoli.
(0, 5) 225 ANNE a MARGOT yn dawnsio o gwmpas y stafell.
(0, 5) 226 ANNE yn tynnu sbectol MARGOT ac yn ei 'thrawsnewid'.
(Anne) Dal dy ben yn uwch!
 
(Margot) Ara deg!
(0, 5) 233 ANNE a MARGOT yn gafael yn ei gilydd ac yn ymgolli yn y canu a'r dawnsio.
(0, 5) 234 Embaras wrth gael eu dal gan PETER.
(Margot) Peter!
 
(Anne) Ma isio i bawb redeg i ti!
(0, 5) 257 Saib.
(Anne) Da ni am drio gneud rw barti bach i Margot heno!
 
(Anne) Dos rwan!
(0, 5) 263 MARGOT yn gadael yn anfoddog.
(0, 5) 264 PETER a ANNE yn siarad yr un pryd.
(Anne) Dos di.
 
(Llais) %Fydda i ddim hyd yn oed yn trafferthu ateb bellach, dim ond gorwedd ar y gwely a chysgu er mwyn i'r amser, y tawelwch a'r arswyd dychrynllyd fynd heibio'n gynt, gan nad oes modd eu dileu.
(0, 6) 296 Mae PETER yn gafael am ANNE ac yn edrych am allan drwy ffenest yr atig.
(Peter) Gwena!
 
(Llais) %Mae crio yn gallu dwyn rhyddhad, ond i rywun beidio a gneud hynny ar ei ben ei hun.
(0, 7) 330 OTTO'n gwbwl aflonydd wrth iddo fod yn argyhoeddiedig fod swn yn y swyddfa islaw.
(0, 7) 331 ANNE yn aflonydd oherwydd y gwres.
(Tad) Sh!
 
(Margot) Tyd i ddarllan efo fi.
(0, 7) 347 ANNE yn parhau i sefyll wrth y ffenestr.
(Anne) Ga'i hagor hi'r mymryn lleia?
 
(Margot) Plis!
(0, 7) 376 OTTO'n sylweddoli'n sydyn gymaint mae wedi dychryn y merched.
(Tad) Ma ddrwg gynna i…
 
(Llais) %Mi wn fod na reswm am hynny, ond mi fydda i'n meddwl weithiau ei fod o'n beth ofnadwy na elli di byth ymddiried yn neb, hyd yn oed y rhai agosaf atat ti.
(0, 8) 387 ANNE yn penlinio a gweddio wrth ei gwely.
(0, 8) 388 OTTO'n ochneidio'n drwm cyn cael y nerth i ddod i mewn i'r ystafell.
(Tad) Barod am dy wely?
 
(Tad) Isio'r gora i ti dwi.
(0, 8) 419 ANNE yn cael ei chyfareddu gan awydd i afael am ei thad.
(0, 8) 420 Mae'r ddau yn dal ei gilydd yn dynn am yn hir.
(Anne) Da chi werth y byd Dad!
 
(Llais) %Y cyfan wn i ydi fy mod i'n dyheu am rywbeth.
(0, 9) 478 TAD, ANNE a MARGOT yn gorfoleddu tra mae Peter yn dawedog.
(Tad) Meddyliwch amdano fo'n gorwedd yn sbyty yn diawlio'i Swyddogion.
 
(Tad) Gawn ni barti i ddiolch i bawb am eu help!
(0, 9) 503 Saib.
(0, 9) 504 Sylweddoliad fod yna bobol yn guddfan.
(Anne) Dad?
 
(Anne) Dad?
(0, 9) 506 Swyddogion SS yn dod i mewn i'r fflat a chludo pawb i ganolfan i'w creosholi.
(0, 9) 507 Y pedwar yn codi eu breichiau i ddangos nad ydynt am wrthwynebu'r arestio cyn gafael am ei gilydd yn dynn.
(0, 9) 508 Goleuo yn cryfhau yn sydyn a cherddoriaeth glasurol yn dwyshau tristwch y sefyllfa.
(0, 10) 509 MARGOT a ANNE yn gafael yn nwylo ei gilydd.
(0, 10) 510 Holi yn digwydd y tu ol iddynt.
(Milwr) Mi fydda hi'n haws i chi, ac yn llai o waith i mi, pe byddech chi'n deud pob dim rwan, a wedyn mi gewch chi fynd nol at eich teulu.
 
(Milwr) Waeth i chi heb a meddwl ein twyllo ni chwaith achos mi ydan ni yn tueddu i ffeindio bod merched yn plygu'n haws i dipyn o berswad.
(0, 10) 531 Saib.
(Milwr) A'i enw fo?
 
(Milwr) Dallt sut mae'r pethau ma'n gweithio.
(0, 10) 543 Saib.
(Milwr) Ddown ni'n ol at hynny.
 
(Milwr) Enwau!
(0, 10) 552 Saib.
(Milwr) Os na fel hyn mae ei dallt hi, mi fydd raid i ni alw eich gwraig.
 
(Milwr) Celwydd eto!
(0, 10) 558 Chwipio.
(Milwr) Mi ydan ni angen y gwir.
 
(Milwr) Mi ddowch chi i ddallt yn diwedd.
(0, 10) 561 TAD yn dychwelyd at ANNE a MARGOT.
(Anne) Dad!
 
(Tad) Da chi'n dallt?
(0, 10) 572 ANNE a MARGOT yn ysgwyd eu pennau'n ansicr.
(0, 11) 573 ANNE a MARGOT yn cyrraedd Auschwitz.
(0, 11) 574 Swn tren.
(0, 11) 575 MILWYR yn gweiddi'n uchel dros ei gilydd.
(Milwr 2) Dewch allan yn drefnus!
 
(Milwr 2) Os oes gynnoch chi unrhyw beth gwerthfawr, dowch a nhw…
(0, 11) 598 MILWR yn sylwi ar ANNE a MARGOT yn gafael yn ei gilydd.
(Milwr) Rhosa!
 
(Milwr) Ti'n hogan fawr i fod yn gafael llaw!
(0, 11) 601 ANNE yn gollwng llaw MARGOT yn frysiog.
(Milwr) S'ddim isio bod ofn!
 
(Milwr) Isio mwytha ti?
(0, 11) 604 ANNE yn ysgwyd ei phen yn bendant.
(Milwr) Fama'n gallu bod yn le unig i hogan ifanc!
 
(Milwr) Dowch!
(0, 11) 611 ANNE a MARGOT yn mynd o'r golwg.
(Milwr 2) Cadwa di at dy waith!
 
(Milwr 2) Dynion i'r dde, merched a phlant i'r chwith.
(0, 12) 626 ANNE a MARGOT wedi newid i wisg y gwersyll.
(0, 12) 627 Blanced dros y ddwy.
(0, 12) 628 Swn crio a thagu.
(Anne) Na'i byth gysgu!
 
(Anne) A Dad a Mam.
(0, 13) 652 ANNE a MARGOT yn sefyll i gael eu cyfri.MARGOT yn teimlo'n sal.
(Milwr 2) 634, 635, 636…
 
(Milwr) Saf yn syth!
(0, 13) 666 MARGOT yn chwydu.
(Milwr) Y mochyn!
 
(Margot) Helpa fi Anne!
(0, 14) 683 ANNE yn cadw llygad ar MARGOT ac yn ymateb i bob swn ma hi'n ei wneud.
(Anne) Well rwan?
 
(Milwr) 174, 175, 176…
(0, 14) 707 ANNE yn hymian can y dawnsio nes mae ei rhif hi a MARGOT yn cael ei alw.
(Milwr) 182…182?
 
(Anne) Ia.
(0, 14) 712 MILWR 2 yn sylwi mai ANNE sydd wedi ateb y ddau rif.
(0, 14) 713 ANNE yn ofni cael ei chosbi.
(0, 14) 714 ~
(0, 14) 715 MARGOT yn gorwedd yn farw ym mreichiau ANNE.
(Anne) Gafael yn y mwg Margot rhag ofn i rywun ei ddwyn o.
 
(Anne) Ma hi'n styrio!
(0, 14) 753 MILWR yn chwerthin.
(0, 14) 754 ANNE yn ymuno am rhywfaint.
(Milwr) Allan!
 
(Milwr) Rwan!
(0, 14) 758 ANNE yn ddiymadferth.
(0, 14) 759 MILWR yn galw ar MILWR 2.
(Milwr) Un arall di mynd!
 
(Milwr) Isio ffor dy hun hefo bob dim!
(0, 14) 766 MILWR ar fin gafael yn ANNE mewn ffordd rywiol.
(0, 14) 767 ANNE yn poeri yn ei wyneb.
(0, 15) 768 ANNE yn cario cerrig o un ochr i'r llall.
(0, 15) 769 Cyn iddi cyrraedd y cerrig mae'n cael gorchymyn newydd nes ei bod yn gwbwl simsan ar ei thraed.
(Milwr) Ma raid i ti symud yn gynt!
 
(Milwr 2) Dos a nhw'n ol!
(0, 15) 777 ANNE yn syrthio ar ei phenegliniau.
(Milwr) Ar dy draed!
 
(Milwr) Cwyd!
(0, 15) 784 ANNE yn syrthio ar lawr a chael ei llusgo i ffwrdd gan MILWR 2.
(0, 16) 785 Fel mae'r MILWR yn ymfalchio yn ei bwer mae'r goleuo a'r gerddoriaeth yn newid i gyfleu goresgyn y Natsiaid.
(0, 16) 786 MILWR yn tynnu ei siaced ac yn colli pob arwydd o awdurdod.
(0, 16) 787 Llusgo ei siaced ar ei ol ar lawr.
(0, 16) 788 Yn sydyn, mae'n codi ei freichiau yn yr awyr sy'n ein hatgoffa o'r guddfan.
(0, 17) 789 OTTO yn dychwelyd i'r guddfan a ANNE i'w gweld yn y cefndir yn gafael yn dynn yn ei dyddiadur.