| (1, 0) 1 | GOLYGFA: Cegin JOHN GRIFFITHS. |
| (1, 0) 2 | Mae popeth yn daclus a glân. |
| (1, 0) 3 | Mae drws i'r gegin fach ar y dde i'r gynulleidfa, a drws arall (yn amlwg) i'r ystryd ar y chwith. |
| (1, 0) 4 | Ar y wâl, yn amlwg i bawb, mae almanac. |
| (1, 0) 5 | Mae llestri tê yn barod ar y ford. |
| (1, 0) 6 | ~ |
| (1, 0) 7 | Cyfyd y llên ar ESTHER mewn ffedog fawr, neu "overall" â llewysau, yn dod i mewn o'r gegin fach gan gario bara, etc. |
| (1, 0) 8 | Un bruddaidd ei gwedd yw ESTHER. |
| (1, 0) 9 | Saif wrth y ford am ychydig, yna sych ddeigryn, a rhydd ochenaid. |
| (1, 0) 10 | Yna daw curiad ar y drws ac ymddengys RACHEL, gwraig SAMUEL REES, drws nesaf. |
| (1, 0) 11 | Ceisia ESTHER guddio ei gofid. |
| (Rachel) Wyt ti wedi cael tê, Esther? | |
| (Esther) Fy eiddo i ydyw'r atgofion, wedi'r cyfan. | |
| (1, 0) 80 | Clywir lleisiau dynion tuallan yn pasio y drws. |
| (Esther) Bydd y lle yn orlawn heno, Rachel. | |
| (Sam) Hylo! | |
| (1, 0) 176 | Agorir y drws a chlywir llais John. |
| (1, 0) 177 | Edrychant i gyfeiriad y drws, heb ddweyd gair. |
| (John) Cewch eich dodi yn eich lle heno! | |
| (Esther) Do. | |
| (1, 0) 280 | Ychydig seibiant. |
| (Sam) Bu John bron a mynd yn wallgof yr adeg hynny, Esther. | |
| (Esther) Noswaith dda, Sam. | |
| (1, 0) 426 | SAM yn hanner mynd allan, ond yn troi yn ol eto. |
| (Sam) O, ie, John, sylwa di fan hyn heno. | |
| (Sam) Wel, noswaith dda, Esther. | |
| (1, 0) 433 | Y drws yn cau. |
| (1, 0) 434 | Clywir ef yn canu, "Love for our dear country we cherish." |
| (John) {Yn mynd i'r drws, yn ei agor, ac yn galw ar ol SAM.} | |
| (Sam) Lol i gyd! | |
| (1, 0) 444 | JOHN yn cau y drws dan chwerthin. |
| (Esther) Yr ydych eich dau fel plant bach. | |
| (John) {Yn eistedd wrth y bwrdd gan wynebu'r dorf.} | |
| (1, 0) 450 | O hyn i ddiwedd yr Act rhaid i ysgogiadau JOHN arddangos brys mawr. |
| (1, 0) 451 | Hefyd, ni ddylai'r ddialog fod yn rhy gyflym. |
| (1, 0) 452 | Byddai yn fantais i'r chwarae i JOHN fwyta banana neu afal. |
| (Esther) Mae clebran yn mynd â'r amser. | |
| (John) Reit—i olchi hwn i lawr. | |
| (1, 0) 478 | A ESTHER allan. |
| (John) Esther! | |
| (John) Diferyn bach. | |
| (1, 0) 499 | ESTHER yn mynd. |
| (John) Ac Esther! | |
| (John) 'Does dim |attack| gyda nhw. | |
| (1, 0) 506 | Esteher yn ymddangos. |
| (1, 0) 507 | Mae hi yn awr wedi diosg ei "overall," ac ymddengys yn ei gwisg ddu. |
| (Esther) Fe gei di |attack| yn'u lle nhw os na chymeri fwy o amser. | |
| (John) Mae llaw Cantwr Bach yn symud yn chwim fel hyn... | |
| (1, 0) 548 | Syrth cwpan i'r llawr ar ei dde yn ddarnau mân. |
| (1, 0) 549 | Edrych y ddau ar y darnau am eiliad, heb symud dim. |
| (Esther) Wel, rwy'n dechreu gwan-galonni. | |
| (John) Wel, wel, y menywod 'ma! | |
| (1, 0) 631 | Rhydd ddatganiad o linell neu ddwy o'r "Comrades in Arms," yna cydia yn yr esgid arall, gan ddechreu datod y lasen. |
| (1, 0) 632 | Yn ei frys tŷr y lasen. |
| (John) Daro shwd beth! | |
| (Esther) Beth 'nawr? | |
| (1, 0) 636 | O'r gegin fach clywir sŵn y llestri. |
| (John) B'le câf i lasen newydd? | |
| (John) O, dyma hi! | |
| (1, 0) 647 | Tŷn allan lasen, ond wrth wneud hynny syrth doli fach i'r llawr. |
| (1, 0) 648 | Saif JOHN heb symud am ychydig, â'i lygaid yn craffu ar y ddoli. |
| (1, 0) 649 | Gweddnewidia, a chyda chyffro dwfn yn argraffedig ar ei wyneb, plyg yn araf a chwyd y ddoli i fyny. |
| (1, 0) 650 | Saif felly am ysbaid, ac yna cerdda yn araf at yr almanac. |
| (1, 0) 651 | Âr ol syllu arno rhydd "start" sydyn, ac yna daw yn ol yn ben-isel at y ford. |
| (1, 0) 652 | Eistedda yn yr un gadair, ei holl ymddygiad yn arddangos dwyster. |
| (1, 0) 653 | Gesyd y ddoli ar y ford. |
| (1, 0) 654 | Yna, yn araf, "Tyn Yr Esgid Oddiam Ei Droed". |
| (1, 0) 655 | Deil y ddoli yn ei law chwith, gesyd ei freichiau ar y ford â'i ben yn pwyso arnynt, ac wyla'n dawel. |
| (1, 0) 656 | Ymddengys ESTHER, gan gario hêt JOHN yn ei llaw chwith, heb weld yn union fod dim o'i le; yna saif yn llonydd gan sylweddoli. |
| (1, 0) 657 | Daw cyffro iw hwyneb. |
| (1, 0) 658 | Neshâ yn araf y tu ol i JOHN, gan sychu ymaith ddeigryn. |
| (1, 0) 659 | Gesyd yr hêt ar y ford, ac yna ei llaw chwith yn dyner ar y llaw sy'n dâl y ddoli. |
| (1, 0) 660 | Cwyd JOHN ei law dde, heb godi ei ben, cydia ESTHER ynddo â'i llaw dde hithau, a chan ei gofleidio plyg ei phen nes pwyso ar JOHN. |
| (1, 0) 661 | Yna, a'r ddau yn wylo yn dawel, disgyn, yn araf, y |
| (1, 0) 662 | ~ |
| (1, 0) 663 | LLEN |