Drama un-act

Atgofion (1926)

Brinley Jones

Ⓗ 1926 Brinley Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



GOLYGFA: Cegin JOHN GRIFFITHS. Mae popeth yn daclus a glân. Mae drws i'r gegin fach ar y dde i'r gynulleidfa, a drws arall (yn amlwg) i'r ystryd ar y chwith. Ar y wâl, yn amlwg i bawb, mae almanac. Mae llestri tê yn barod ar y ford.

Cyfyd y llên ar ESTHER mewn ffedog fawr, neu "overall" â llewysau, yn dod i mewn o'r gegin fach gan gario bara, etc. Un bruddaidd ei gwedd yw ESTHER. Saif wrth y ford am ychydig, yna sych ddeigryn, a rhydd ochenaid. Yna daw curiad ar y drws ac ymddengys RACHEL, gwraig SAMUEL REES, drws nesaf. Ceisia ESTHER guddio ei gofid.

Rachel

Wyt ti wedi cael tê, Esther?

Esther

Ydw. Cymer gadair; mae John yn gweithio 'mlaen.

Rachel

Dim ond am ychydig o funudau. Mae Sam ar fynd i'r steddfod.

Esther

Wyt ti'n mynd hefyd?

Rachel

Fi? Dim perigl. Wfft iddi nhw a'u hên ganu ac adrodd. 'Rwyf am fynd lawr i'r dre' i weld Mari, fy chwaer.

Esther

'Steddfod i'w chofio fydd hon.

Rachel

'Dyw'r Genedlaethol yn ddim i'w chymharu â hi. Mi fyddai'n falch i weld yfory. (Yn eistedd.) Dim ond 'steddfod, a male voice, a rallentando glywir yn ein tŷ ni o fore tan nos.

Esther

Synnwn i fawr, Rachel.

Rachel

Wyddost ti, mae Sam fel pe bae wedi ynfydu. Wrth gwrs, y mae John yn mynd?

Esther

(Yn dawel.) Ydi.

Rachel

A tithau hefyd, wrth gwrs.

Esther

Na, nid wy'n mynd heno.

Rachel

Beth? A'r fath gantores fuost ti erioed! A ti wyddost am gystadleuaeth y male voice heno; ni bu ei bath erioed!

Esther

(Yn dawel iawn.) Na, Rachel, arhosaf gartref.

Rachel

Ond, Esther, fe fydd canu da yn y gystadleuaeth heno!

Esther

Nid oes cân yn fy nghalon bellach. Torrwyd y tant.

Rachel

Wel, wel, dyna un ôd wyt ti, a dweyd y lleiaf. Gall'swn feddwl—. (Yn sylweddoli.) O, ie, wrth gwrs. (Ar ol seibiant.) Faint sy 'nawr oddiar y bu Neli fach farw?

Esther

(Gydag ymdrech.) Blwyddyn—i heno.

Rachel

Blwyddyn i heno! Yr annwyl, annwyl. Druan fach! Fel mae'r amser yn mynd!

Esther

Ydi.

Rachel

Cannwyll llygad John oedd Neli fach.

Esther

(Yn ddwys.) Eitha' gwir.

Rachel

Nid wyf yn cofio'n iawn—ai nid yn dy freichiau di y bu Neli fach farw?

Esther

(Mewn cyffro.) Nage, ym mreichiau John.

Rachel

Wrth gwrs, wrth gwrs; nawr 'rwy'n cofio. Peth òd fod John yn mynd heno, Esther!

Esther

(Yn frysiog.) Wedi anghofio'r date mae John, 'rwy'n siwr.

Rachel

Dd'wedi di rywbeth wrtho i'w atgofio, Esther?

Esther

(Yn apelgar.) Na, na, nid oes angen am wneud hynny. Gadewch i'r dynion gael eu dedwyddwch.

Rachel

Gâd i fi ddweyd wrtho.

Esther

(Yn codi ei llaw ac yn siglo ei phen.) Na (megis murmur)—na.

Rachel

Hwyrach mai ti sy'n iawn, Esther. Nyni, y menywod, sy'n cofio ac yn hiraethu. Dyna yw'n tynged ni ar y ddaear yma.

Esther

Hwyrach hynny, Rachel.

Rachel

Mae yna lawer o lawenydd yn ddyledus i ni yn y byd arall, gall'swn feddwl. Oes, sicr o fod.

Esther

Mae hiraeth yn well na bod yn ddi-brofiad, Rachel. Fy eiddo i ydyw'r atgofion, wedi'r cyfan.



Clywir lleisiau dynion tuallan yn pasio y drws.

Esther

Bydd y lle yn orlawn heno, Rachel.

Rachel

Maent yn dod o bobman; weles i ddim o'r fath beth erioed. Mae'r ddau gôr lleol wedi rhoddi'r goron ar y cyfan.

Esther

'Rwy'n falch nad yw John yn y côr y tro hwn. Amhosibl iddo weithio gyda'r contract newydd 'ma a mynychu'r rehearsals.

Rachel

Byddai'n dân goleu 'ma rhwng Sam a John, pe bae un ohonynt ym Male Voice Dwynant, a'r llall yng Nghôr Pentwyn.

Esther

Eitha' gwir, Rachel.

Rachel

Hyd yn oed fel y mae pethau, dim ond sôn am roddi "whiff" i hên gôr John y mae Sam, nos a dydd. Ydi John yn siarad rhywbeth am y corau?

Esther

Y mae ambell i frawddeg yn dod allan 'nawr ac yn y man. Weithiau clywaf ef yn mwmian Comrades in Arms.

Rachel

Dyna fe! Comrades in Arms sydd yn fy nghlustiau innau byth ac hefyd. Gwyn fyd na buasai'r gân heb ei chyfansoddi erioed.

Esther

Ychydig o wahaniaeth wnelai hynny. Mi fyddai'r Martyrs of the Arena yn codi tô ein tai ni wedyn.

Rachel

Martyrs of the Arena yn wir! Mae'n bryd i ryw fenyw gyfansoddi darn o'r enw Martyrs of the Kitchen! Ydi'n wir.

Esther

Ond, Rachel, gwell fod ein dynion yn sobr ac yn dilyn y canu, na pe baent yn...

Rachel

(Yn gyflym.) Wrth gwrs, wrth gwrs. Ond trueni fod dynion yn cweryla â'u gilydd am ychydig o hên ganu. 'Nawr...

Sam

(O'r tuallan.) Rachel, Rachel!

Rachel

(Yn codi.) Os daw Sam i mewn, ar dy fywyd paid a sôn am Comrades in Arms.

Sam

(Yn agor y drws.) Hylo! Ydi—O, 'rwyt yma, Rachel?

Rachel

Cael sgwrs fach gydag Esther 'roedd i cyn mynd i'r dref.

Esther

Dewch ymlaen, ac eisteddwch,

Sam

Ydi John wedi dod adre'?

Esther

Nac ydi. Mae'n gweithio ymlaen. Nid wyf yn ei ddisgwyl am awr arall.

Sam

Awr arall? Y dyn, bydd y 'steddfod hanner drosodd, a'r male voice...

Rachel

Rho lonydd i'r male voice, da ti. 'Rwyf bron a gwirioni wrth glywed y tragwyddol Comrades in Arms. (Wrth Esther.) Dyna fi wedi'i gwneud hi!

Sam

Fe rown ni Comrades in Arms i'r sêt. Fe ddanghoswn iddynt sut i ganu. Nid chware plant bach yw cystadlu yn erbyn...

Rachel

(Yn ddi-amynedd.) Gloiaist ti ddrws y ffrynt cyn dod allan?

Sam

(Yn chwilio yn ei logell, ac yn tynnu allan allwedd.) Naddo—ar ol dod allan. (Yn rhoddi'r allwedd i Rachel.) Siarad 'roeddwn am Comrades in Arms. Fe ysgubwn y llawr â Chôr Pentwyn heno. Mae'n tenors ni...

Rachel

(Â'i dwylaw i fyny.) O'r nefoedd! Dôs i'r 'steddfod, er mwyn popeth, a phaid â phoeni Esther â dy lol. 'Rwy'n mynd i'r dre, Esther, allan o sŵn Comrades in Arms. Noswaith dda, Esther. (Yn mynd allan.)

Sam

(Ychydig yn hurt.) Mae—mae Rachel yn—yn—yn—yn—

Esther

(Yn ceisio ei wneud yn esmwyth.) Dewch chi, Sam, nid yw Rachel yn meddwl dim drwg!

Sam

(Yn fwy sicr.) Nag ydi'n wir? Fe'i clywsoch yn galw meddyliau calon dyn yn lol?

Esther

Do, do; ond cellwair roedd hi, Sam bach.

Sam

'Doeddwn i ddim am siarad dim ynglŷn â'r 'steddfod. Rachel soniodd am Comrades in Arms.

Esther

Eitha' gwir.

Sam

Ond, yn wir, Esther, fe ddyl'sech glywed ein tenors ni ar y climax yn y diwedd. Gallai'r angylion byth a'n curo. Na, ffaith! (Yn eistedd.)

Esther

Yn wir! (Yn dechreu torri bara.)

Sam

Ond 'rydych chi'n mynd i'r 'steddfod, wrth gwrs?

Esther

Dim heno, Sam.

Sam

Y fenyw! A Chôr Dwynant yn cystadlu yn erbyn Côr Pentwyn! Gwarchod pawb!

Esther

Na, nid wyf am fyned allan o'r tŷ heno.

Sam

Falle mai ofni gweld Côr Dwynant yn gwneud hewl â hên gôr John 'rydych chi?

Esther

O'm rhan i, rwy'n fo'lon i'ch côr ennill ganwaith, Sam bach.

Sam

Ddwedwch chi hynny yn wyneb John?

Esther

'Rydw'i wedi ei ddweyd ugeiniau o droion eisoes.

Sam

Beth gynllwyn sy' arnoch chi heno, Esther? 'Roeddech chi 'n arfer dilyn y canu yn gyson!

Esther

'Rydw' i allan o hwyl heno, Sam.

Sam

(Yn ansicr.) Rhai ôd ydych chi'r menywod, a dweyd y lleiaf. (Yn dechreu eto.) Wyddoch chi, Esther, mae'n wlêdd i wrando ar ein bottom bass. Hylo!



Agorir y drws a chlywir llais John. Edrychant i gyfeiriad y drws, heb ddweyd gair.

John

Cewch eich dodi yn eich lle heno! Côr Dwynant yn gallu canu'n wir!

Llais

(O'r tu allan.) Dewch â mourning cards Pentwyn allan. Hei, fechgyn!

Lleisiau

(O'r tu allan.) Ha, ha! Ie, ie! Etc.

John

(Yn y golwg erbyn hyn, ond â'i gefn at y lleill.) Arhoswch nes i Bentwyn ganu. Tenors goreu y frô, a bass heb eu hail. (Yn uwch.) le, ac nid perthynas i chi yw'r beirniad heno. (Wedi cau'r drws ar y sŵn terfysglyd, trŷ, ac yna gwêl Sam.) O, 'rwyt ti yma, Sam? (Hyn yn ychydig yn lledchwith.)

Sam

Ydw, mae'n debyg. Perthynas i'r beirniad, aie?

Esther

'Nawr, Sam! (Yn troi at John.) 'Rwyt ti 'nol yn gynharach heno, John.

John

(Yn ansicr.) Wel, Esther fach, mae hi—fel hyn—

Sam

Dwed ar unwaith dy fod am gael gwlêdd, wrth glywed ni'n canu Comrades in Arms.

John

Gwlêdd? Ha, ha! Dyna'r tro cyntaf i mi glywed canu fflat yn cael ei alw'n wlêdd. (Yi gosod ei "thermos" a'r bocs bwyd ar y ford.)

Esther

Dyna ddigon, John. Gadewch lonyd i'ch dadleu parhaus, y ddau ohonoch. Fe wna' beirniad chwarae têg â chi. Gwell i ti ymolch unwaith, John.

John

Does gen i ddim amser at hynny. Ychydig o fwyd...

Esther

Beth? Yn mynd heb ymolch i gan torf o ddynion mewn dillad glân! Rhag dy gywilydd John! Dodaf y dŵr yn barod 'nawr. (Yn cydio y "thermos" a'r bocs bwyd, ac yn mynd allan.)

Sam

Wyt ti am i mi aros i ti?

John

Fel y mynnot. (Yn diosg ei gôt.) Os amser genti?

Sam

(Yn edrych ar ei oriawr.) Oes, oes: mae chwarter awr eto.

John

Gwêll i ti fynd, mae'n siwr fod angen practis ar dy gôr. Dyna'r si, beth bynnag. (Yn eistedd wrth y ford gyferbyn â Sam, ac yn dechreu codi llewysau ei grys.) 6

Sam

Rhai o dy gôr di wedi bod yn gwrando amom ni, aie? Yr un hên drics.

John

Gwrando arnoch chi'n wir. Ateb un peth, Sam. Ydi Wil Profundo yn canu yn eich côr heno?

Sam

(Yn ansicr.) Nac ydi.

John

Wyddost ti pam?

Sam

Y—y—mae anwyd trwm arno fe.

John

Ha, ha! Oes, oes; ond sut cafodd yr anwyd?

Sam

Sut y gwn i? Cael gwlychfa falle.

John

Ie, bwceded o ddŵr ar ei ben.

Sam

Bwceded o ddŵr ar ei ben?

John

Ie, o'r ffenestr uwchben lle 'roedd efe'n gwrando, wythnos yn ôl. O, ie, Niagara Falls!

Sam

Anwiredd pob gair! Does gyda chi ddim points gwerth eu dwyn.

John

Beth am y double forte yn y mudiad olaf?

Sam

Cyn y dewch o fewn i led cae i ni, bydd eisieu double eighty arnoch chi.



(ESTHER yn dychwelyd.)

Esther

Mae'r dŵr yn barod, John.

John

(Yn mynd allan â'i gôt ar ei fraich.) Ydi'n wir fod arweinydd Côr Dowlais i fyny yma neithiwr yn rhoi tipyn o bolish i chi? Ha, ha!

Sam

(Yn cynhyrfu ac yn gwaeddi ar ei ol.) Nonsense i gyd; mae yna ddigon o bolish ar ein côr lanhau dy 'sgidiau am flwyddyn,

Esther

Peidiwch a'i gymryd yn seriws, Sam. Tynnu'ch coes mae John.

Sam

Nid tynnu coes dyn yw dweyd celwydd fe 'na! Mae'n harweinydd ni yn ddigon o feistr ar e waith heb help neb. O, ydi!

Esther

Dyna fe'n wir.

Sam

Mae William Phillips yn arweinydd di-guro, Mae'n ysbrydiaeth i'w weld yn arwain. Ac edrychwch ar ei wybodaeth!

John

(Yn ymddangos â'i ddwylaw a'i wyneb llawn sebon.) Pwff! Gwybodaeth yn wir! Pasiodd yr un exam, erioed.

Sam

Y dyn! Dim ond deuddeg certificate syd rhyngddo a chael ei AC.

Esther

John, ei di byth heno!

John

(Yn dechreu mynd eto.) Paid â mynd heno, Sam: fe fydd yn galed i ti weld ein bechgyn ni yn cipio'r cwpan. Ac fe arbedi y swllt am fynd i mewn. (Yn diflannu.)

Sam

Wyddoch chi, Esther, mae John braidd cynddrwg ag erioed. Wn i ddim sut byddai rhyngom ni'n dau pe bae yntau'n canu heno gyda'i hên gôr.

Esther

Na'n wir.

Sam

Trueni hefyd nad ydi yn y côr. Ond dyna fe, daeth marwolaeth y ferch fach. (Hyn yn dyner iawn.)

Esther

Do.



Ychydig seibiant.

Sam

Bu John bron a mynd yn wallgof yr adeg hynny, Esther.

Esther

Do.

Sam

Tŷ gwâg yw tŷ heb blentyn, Esther.

Esther

(Gyda ymdrech.) Y—ie—Sam. (Yn sychu deigryn.)

Sam

Gallaf ei gweld hi 'nawr. Yr annwyl, dyna lygaid oedd ganddi, fel dwy ffynnon loew! Faint sy' 'nawr, Esther?

Esther

Blwyddyn gyfan.

Sam

Yr arswyd fawr! Fel mae'r amser yn mynd. Blwyddyn wed'soch chi, Esther?

Esther

Ie—heno!

John

(Yn ymddangos eto ac yn sychu ei hunan â thywel.) A siarad am arweinwyr, fe wnaeth William Phillips stroke anfarwol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mi wn, fel ffaith, fod y beirniaid mewn hysterics am ei fod yn curo six-eight time o'r dechreu i'r diwed yn lle three-four.

Esther

Ydi'r sebon yn y dŵr genti, John?

John

Y—na—hynny yw—wn i ddim...

Esther

(Yn mynd.) Fel arfer.

Sam

Ti elli adael ein harweinydd ni yn llonyd John. Ŵn i am ddim sy'n siarad yn fwy bychanus am ddyn na'i fod yn ceisio arwain côr â chopi hên nodiant, ac hwnnw yn upside-down.

John

Gwell hynny na gweld arweinydd yn arwain yn ffyrnig am bedwar bar cyfan heb wybod fod y côr wedi gorffen canu.

Sam

John, paid a dweyd...

Esther

(Yn dychwelyd â dillad John ac yn e rhoddi iddo.) Gwell iti wisgo— (Sam, o'r neilltu: Ananias!) dy gôt a'th wasgod oreu, John.

John

O'r goreu. (Yn eu gwisgo gan siarad.) Os yw'r bwyd yn barod, Esther, mi gym'raf lond pen. Nid wyf am golli un côr yn canu.

Sam

Ond fe gollwch y cwpan, mae hynny'n sicr.

Esther

'Rwy'n credu y byddai'n well i chi fynd, Sam. Rhaid i John gael ychydig o fwyd a newid 'i esgidiau cyn...

John

Newid fy esgidiau! Pwy ar y ddaear lâs sy'n mynd i sylwi ar fy nhraed?

Sam

Ti fyddi'n fwy esmwyth ynddynt, fachgen; ac fe fyddi'n sioncach yn dy 'sgidiau goreu i redeg adre' â'r newyddion fod ein côr wedi ennill y cwpan.

John

Yr unig gwpan a gewch chi fechgyn heno yw cwpan wermod.

Esther

Rhaid sychu'r 'sgidiau gwaith hyn ar gyfer yfory, John. Mae'r amser yn pasio, Sam.

Sam

(Yn codi.) Falle mai chi sy'n iawn, Esther. Dylwn i, fel un o'r côr, fod mewn pryd. Mae'n ddigon posibl mae'n tro ni fydd y cyntaf.

John

Eitha'da. A thi wyddost y gair, "A'r cyntaf a fydd olaf."

Sam

Paid ag anghofio sut y trech'som ni chi ar Hail, Bright Abode.

John

Do, ond fluke oedd y cyfan. A 'doedd hi ddim yn hir cyn y maeddom chi yn yfflon racs ar Hallelujah Chorus. Fe roisom Amen i chi.

Esther

Chi fyddwch yn ddiweddar, Sam.

John

Ond chware têg, chi gafodd y wobr 'Steddfod Maesglo, Sam.

Sam

(Yn ansicr.) Beth am hynny?

John

A chi oedd y côr gwaethaf yn y gystadleuaeth.

Sam

Y dyn! Sut hynny? Dim ond ni oedd cystadlu!

John

Ha, ha, dyna fe! Dyna'ch unig obaith am ennill.

Esther

Y mae'n amheus gen i a yw'r holl siarad 'ma yn beth da i'ch llais hefyd, Sam.

John

Os ellir ei alw yn llais!

Sam

Pan mae dyn yn eiddigeddus wrthyf, edrychaf ar y cyfan fel compliment i mi. Rwyt ti yn dod, John?

John

Collwn i ddim o'r gystadleuaeth heno am gan' punt; na, ddim ar un cyfrif.

Esther

Wyt ti'n barod am dy fwyd, John?

John

Ydw. Dim ond fy 'sgidiau 'nawr. B'le mae nhw?

Esther

Cymer dy fwyd yn gyntaf. Mae'r cyfan yn barod geni. (Yn mynd allan.)

Sam

Wel, dyma fi'n mynd. (Yna yn troi yn ol.) Ond un gair bach cyn cychwyn. Sylwa heno ar y march tua'r diwedd. Dyna lle bydd cyd-symudiad! A'r climax ar y diwedd! Fel hyn. (Yn rhoi esiampl. Cwyd John ei fysedd i'w glustiau.) Fe fydd yn ddigon i wneud y cyfansoddwr droi yn ei fedd.

John

Gan ddychryn?

Sam

(Yn fawreddog.) Gan ardderchowgrwydd y datganiad. Ffarwel, John, a chofia ddod. (Yn cyrraedd y drws.)

Esther

(Yn dod â'r plât bwyd.) Beth oedd y sŵn 'na 'nawr, John?

John

Ha, ha! Rhoddodd rhywun gic i gi tuallan i'r drws!

Sam

(Yn dod yn ol ychydig.) Mi rown gic i'ch côr chi heno nac anghofiwch mohono byth.

John

Wyddost ti beth, Sam, buaset wedi cael fy lle i yn ein côr ni oni bae un peth.

Sam

Pwy sydd yn awyddus am uno â'ch côr second rate chi?

John

Ie, dim ond un peth; ie, un peth.

Sam

(Yn ddrwg-dybus.) O'n wir! A beth yw'r un peth yna, os câf ofyn?

John

Llais.

Esther

John! John!!

Sam

Jelws, rwy'n gweld. Beth bynnag, 'rwy'n agor fy nghêg wrth ganu i'r llais ddod allan.

John

Ha, ha! Diar annwyl! Wyt, wyt! Dim ond yr wythnos ddiwethaf 'roedd Rachel yn dweyd fod yna ddrafft ofnadwy yn y tŷ pan oeddet yn agor dy gêg i bractiso ychydig,

Esther

Peidiwch a sylwi arno, Sam.

Sam

Dywedodd hi hynny, Esther?

Esther

Peidiwch a sylwi ar John, 'rwy'n dweyd.

John

'Rwyt ti'n gweld, Sam, fod Esther yn ameu dim.

Sam

Mae'r menywod 'ma yn dweyd pethau ofnadwy tu ol i'n cefnau ni.

John

A'r gwaethaf yw eu bod yn dweyd y gwir, Sam bach.

Esther

Yn wir, John!

Sam

Diain i, ond mae'r menywod 'ma â chôf aruthrol ganddynt am ein gwendidau ni, y dynion. Y maent yn wahanol iawn i ni yn hynny.

John

O, sut hynny?

Sam

Pan mae dyn yn clywed rhywbeth, aiff y peth i mewn drwy un glust ac allan trwy'r llall, ond am fenyw—hei!

Esther

Beth am danom ni, Sam?

Sam

Aiff i mewn trwy'r ddwy glust ac allan ar flaen ei thafod.

Esther

Sam! Sam!! Too bad, yn wir.

John

Go dda, Sam, am unwaith. Trueni na fuasai dy ganu gystal.

Sam

Ti elli adael y canu i mi—a'r agor fy nghêg i ganu hefyd. Gall Esther yma dystio fod gennyt dithau wyneb digon agored pan 'rwyt ti'n disturbo'r cymdogion â'th floeddio.

Esther

Gadewch lonydd, eich dau, yn wir!

Sam

John ddechreuodd, Esther. Ond dyma fi'n mynd. (Yna yn dychwelyd eto.) John, machgen i, ar dy waethaf, mi ganaf heno fel yr eos.

John

Glywaist ti 'nawr, Esther? Mae Sam yn meddwl canu heno fel yr eryr!

Esther

Yr annwyl, annwyl! Bydd yr eisteddfod hanner drosodd cyn i un o chi gyrraedd yno.

Sam

O wel, dyma fi'n mynd. (Yn dychwelyd eto.) Ond cofia fy ngeiriau, John, bydd Comrades in...

Esther

Mae'n ugain munud wedi saith, Sam!

Sam

Wel, noswaith dda, Esther. So long, John, mi wela'i dy wyneb hir di nes ymlaen.

Esther

Noswaith dda, Sam.



SAM yn hanner mynd allan, ond yn troi yn ol eto.

Sam

O, ie, John, sylwa di fan hyn heno. (Yn tynnu copi o'r darn allan o'i logell.)

Esther

Ewch, Sam! (Yn ei wthio allan.)

Sam

Eitha' da! Wel, noswaith dda, Esther.



Y drws yn cau. Clywir ef yn canu, "Love for our dear country we cherish."

John

(Yn mynd i'r drws, yn ei agor, ac yn galw ar ol SAM.) Sam!

Sam

(O'r tuallan.) Beth 'nawr?

John

Gwendid eich côr chi yw—yw...

Sam

Yw beth?

John

Nad oes gyda chi ddim tenors na bass gwerth yr enw.

Sam

Twt, twt! Lol i gyd!



JOHN yn cau y drws dan chwerthin.

Esther

Yr ydych eich dau fel plant bach.

John

Mae plant bach yn dweyd y gwir, fel rheol. (Yn edrych ar y cloc.) Yr annwyl fach, mae'n hanner awr wedi saith. (Yn eistedd wrth y bwrdd gan wynebu'r dorf.)



O hyn i ddiwedd yr Act rhaid i ysgogiadau JOHN arddangos brys mawr. Hefyd, ni ddylai'r ddialog fod yn rhy gyflym. Byddai yn fantais i'r chwarae i JOHN fwyta banana neu afal.

Esther

Mae clebran yn mynd â'r amser. Cymer bwyll, John bach!

John

(Â'i fwyd yn ei gêg.) Ond—mm—ww...

Esther

Beth?

John

(Yn ymdrechu eto.) Byddaf—yn—ddiweddar.

Esther

Mae dy fryd ar fynd heno?

John

(Yn llyncu rhwng ei eiriau.) Cymerwn i ddim yn y byd—am fod—yn absennol heno.

Esther

(Ar ol seibiant.) 'Rwyt ti wedi clywed digon o gystadleuaethau, a gwell rhai na hon.

John

{Â'i ddwylaw yn symud. Wn—mm—mm—ss...

Esther

'Rwy't ti'n siwr o dagu os na fyddi yn ofalus.

John

'Rwyf am—weld Dwynant—a Phentwyn yn setlo'r pwnc—unwaith am byth. A mae beirniad da 'na heno.

Esther

(Yn ymroddi.) O'n wir.

John

Mae'n bechgyn ni yn—yn—wel, nid oes eu trechu ar Comrades in Arms.

Esther

Fynni di ychydig o dê?

John

{Yn arwyddo "ie" â'i ben) A—mm—ww—oo.

Esther

Beth?

John

Reit—i olchi hwn i lawr.



A ESTHER allan.

John

Esther!

Esther

(O'r gegin fach.) Ie!

John

Mae'n tenors—ni—yn—wel, daw neb—yn agos atyn' nhw. Na!

Esther

Llond cwpan?

John

Ie—a digon o laeth i'w oeri.

Esther

(Yn ymddangos.) John bach, paid a stwffo dy hunan felna; ti fyddi yn wael ar ol hyn.

John

Mm—mm—ss—ww...

Esther

Paid a siarad a bwyta yr un pryd.

John

(Ar ol ei lyncu ag ymdrech.) Mae côr Sam—yn colli—yn y down bass.

Esther

(Heb ddiddordeb.) O!

John

Ac y mae eu second tenors nhw—yn wallus —yn yr intonation.

Esther

Rhagor o laeth?

John

(Wedi profi'r tê a'i gael yn rhy boeth.) Mae hwn yn rhy boeth. Diferyn bach.



ESTHER yn mynd.

John

Ac Esther!

Esther

(O'r gegin fach.) Beth 'nawr?

John

Mae—mm—ss—ww...

Esther

Dyna ti eto.

John

'Does dim attack gyda nhw.



Esteher yn ymddangos. Mae hi yn awr wedi diosg ei "overall," ac ymddengys yn ei gwisg ddu.

Esther

Fe gei di attack yn'u lle nhw os na chymeri fwy o amser. (Daw hi i'r dde i JOHN i arllwys y llaeth.)

John

(Ar ddechreu siarad eto, ond yn aros.) Esther! 'Rwyt ti'n dod i'r eisteddfod wedi'r cyfan? (Hyn yn obeithiol, â gwên ar ei wyneb.)

Esther

Nac ydw, John. (Yn troi oddiwrtho.)

John

(Yn dyner.) Wel, pam wyt ti wedi gwisgo fel hyn heno?

Esther

(Yn ansicr.) Meddyliais—yn...

John

Wyt ti'n mynd lawr i'r dre?

Esther

Nac ydw.

John

I ble 'rwyt ti'n mynd, ynte?

Esther

Nid wyf yn mynd allan o'r tŷ.

John

(Yn ddyryslyd.) Pam 'rwyt ti wedi gwisgo fel'na? Wyt ti'n disgwyl rhywun yma?

Esther

Nac ydw. Ond dôs ymlaen â dy fwyd.

John

(Yn dyner.) Yn wir, Esther fach, tyrd gen i i'r eisteddfod. Fe fydd fel yr hen amserau i glywed y corau wrthi am y cwpan.

Esther

Na, ddim heno, John.

John

Wel, dyna ôd wyt ti heno. (Yn rhoddi i fyny ac yn dechreu bwyta eto.) Ond fel 'roeddwn yn dweyd, attack sy'n cyfrif. (Yn bwyta.) A—ww—mm—s...

Esther

A ydwyt yn dweyd rhywbeth?

John

Wel, rwy'n treio, beth bynnag. Mae'r bechgyn fel un llais yn (yn canu) |Love for our dear —. (Yn pesychu yn arswydus.)

Esther

(Gan guro ei gefn.) Carwn pe byddet yn gwneud un peth ar y tro—canu neu fwyta.

John

(Gydag ymdrech.) Aeth—ychydig i lawr—y ffordd wrong; ond y mae'r bechgyn—fel un yn dod i mewn—yn y fan yna. (Yn dechreu ffugio arwain côr, â'r gyllell a'r fforc yn ei ddwylaw.) Mae llaw Cantwr Bach yn symud yn chwim fel hyn...



Syrth cwpan i'r llawr ar ei dde yn ddarnau mân. Edrych y ddau ar y darnau am eiliad, heb symud dim.

Esther

Wel, rwy'n dechreu gwan-galonni. (Yn codi y darnau.)

John

(Rhwng y bwyta.) Paid a becso, Esther fach. Daw'r côr â'r cwpan arall yn ei le heno.

Esther

Mae'r amser yn hedeg. (Yn mynd â'r darnau allan.)

John

(Gan droi at y drws.) Ac Esther!

Esther

(O'r gegin fach.) Ie, beth 'nawr?

John

Mae Williams, y Manager, wedi sibrwd yng nghlustiau'r pwyllgor fod 'na wlêdd i fod ar ei gost ef os enillant heno!

Esther

O, yn wir! JOHN (Yn falch.) Ac y maent wedi fy ngwahodd i yno fel hên aelod o'r côr. (Yn ymddangos, gan gario esgidiau John.) Rhaid ennill yng nghyntaf, onid oes?

John

Ennill? Nid oes colli i fod. Wm—mm—ss...

Esther

Dyna ti'n dechreu eto.

John

Mae'r accelerando ar y mudiad olaf yn odidog. Wyddost ti, Esther, ar ol y consart nos Fawrth, aeth hanner dwsin o fechgyn ieuenc oedd yn y dorf i listo gyda'r Welsh Guards.

Esther

Bydd popeth ar ben cyn ei di allan o'r tŷ.

John

'Rwyf bron a gorffen. (Yn llawn o'i destun eto, ac yn desgrifio yn ddramatig.) Nid yn rhy gryf ar y cychwyn, yna yn dod allan â'r holl reserve yn y diwedd. (Yn fawreddog.) le, reserve, dyna'r gair.

Esther

Os nad oes reserved seat genti heno, bydd hi ar ben arnat i fynd i fewn i'r hall. JOHN (Yn symud ei gadair.) Dyna! B'le mae'r 'sgidiau? O, diolch! (Yn llawn apêl.) Oes yna eisieu 'u newid nhw'n wir, Esther? O'r annwyl, oes! A choler a tie hefyd.

John

Dim coler a tie heno, Esther. Af â'r mwffler wen. Bl'e mae hi?

Esther

Beth ddywed pobl wrth dy weld?

John

Mynd i glywed y male voice bydd y dorf, nid i astudio ffashiwnau. (Yn eistedd ar y gadair wrth ben y ford, ar y chwith—i'r gynulleidfa.) 'Rwy'n dotio ar Comrades in Arms. Mae 'na ddigon o fynd ynddo. (Yn tynnu ei esgidiau gwaith i lawr.)

Esther

'Does dim mynd ynot ti heno, John. Mae mwy o fynd yn y cloc.

John

Fydda'i ddim pum' munud o'r tŷ i'r hall. (Yn canu.) Love for our dear country we cherish.

Esther

O'r annwyl! (Yn dechreu casglu'r llestri.) JOHN (Yn eithaf di-sylw o honi.) Gallaf weld yr hên Gantwr Bach yn awr! (Yn gwneud ysgogiadau dyn yn arwain côr.) Ennill? Gwnaiff! Mae'n tynnu ymlaen am wyth o'r gloch, John.

John

(Yn gosod un esgid arno.) Amynedd, fy merch i; amynedd. (Yn troi ati.) Yn wir, Esther, gall'swn feddwl dy fod yn awyddus iawn i mi fynd allan heno.

Esther

(Yn frysiog.) Na, na, dim ond sicrhau dy fod mewn pryd i glywed y corau yw fy mwriad.

John

Dere gyda fi heno, Esther. Yn wir, 'nawr.

Esther

Na, diolch; gwell gennyf aros gartref.

John

Yr wyt tu hwnt i mi heno. Wyddost di beth, Esther, byddai'n well gen i wrthod can' punt na cholli'r gystadleuaeth 'ma. 'Does yr un gallu a'm ceidw yn y tŷ heno, a finnau'n gwybod fod y bechgyn wrthi am eu bywyd i lawr 'na.

Esther

O'r gore, John. Af i olchi'r llestri 'ma. Galw arnaf cyn mynd. (A allan gan gario rhai o'r llestri.)

John

(Yn ei dilyn â'i lygaid nes iddi fynd allan o'r ystafell.) Wel, wel, y menywod 'ma!



Rhydd ddatganiad o linell neu ddwy o'r "Comrades in Arms," yna cydia yn yr esgid arall, gan ddechreu datod y lasen. Yn ei frys tŷr y lasen.

John

Daro shwd beth! Esther!

Esther

Beth 'nawr?



O'r gegin fach clywir sŵn y llestri.

John

B'le câf i lasen newydd? 'Roedd yn rhaid i hon dorri 'nawr. (Gesyd ei esgid ar y llawr.)

Esther

Yn nror y ford.

John

Reit. (Yn agor y "drawer" ac yn teimlo.)

Esther

Gefaist di un?

John

Hanner munud. (Yn canu, "Love for our dear country," etc.) O, dyma hi!



Tŷn allan lasen, ond wrth wneud hynny syrth doli fach i'r llawr. Saif JOHN heb symud am ychydig, â'i lygaid yn craffu ar y ddoli. Gweddnewidia, a chyda chyffro dwfn yn argraffedig ar ei wyneb, plyg yn araf a chwyd y ddoli i fyny. Saif felly am ysbaid, ac yna cerdda yn araf at yr almanac. Âr ol syllu arno rhydd "start" sydyn, ac yna daw yn ol yn ben-isel at y ford. Eistedda yn yr un gadair, ei holl ymddygiad yn arddangos dwyster. Gesyd y ddoli ar y ford. Yna, yn araf, "Tyn Yr Esgid Oddiam Ei Droed". Deil y ddoli yn ei law chwith, gesyd ei freichiau ar y ford â'i ben yn pwyso arnynt, ac wyla'n dawel. Ymddengys ESTHER, gan gario hêt JOHN yn ei llaw chwith, heb weld yn union fod dim o'i le; yna saif yn llonydd gan sylweddoli. Daw cyffro iw hwyneb. Neshâ yn araf y tu ol i JOHN, gan sychu ymaith ddeigryn. Gesyd yr hêt ar y ford, ac yna ei llaw chwith yn dyner ar y llaw sy'n dâl y ddoli. Cwyd JOHN ei law dde, heb godi ei ben, cydia ESTHER ynddo â'i llaw dde hithau, a chan ei gofleidio plyg ei phen nes pwyso ar JOHN. Yna, a'r ddau yn wylo yn dawel, disgyn, yn araf, y

LLEN

Drama un-act