| (1, 0) 1 | Agorir y llenni a gwelir y llwyfan yn wag o bobl. |
| (1, 0) 2 | Yna clywir cwmpo mas a daw John a Martha i'r golwg a thipyn o stâd arnynt. |
| (1, 0) 3 | Y ddau wedi bod allan, a Martha yn dysgu dreifo. |
| (Martha) {Hanner lleisio mewn temper.} | |
| (John) Odd digon hawdd gweud hynny wrth y sbid o't ti yn mynd. | |
| (1, 0) 45 | Cnoc yn y drws. |
| (1, 0) 46 | Harri Post yn gweiddi 'Helô'. |
| (John) O, Mari Mosus, odd rhaid i hwnna ddod heddi. | |
| (John) Sycha dy wep, gloi. | |
| (1, 0) 49 | Harri yn dod mewn. |
| (Harri) Shwt mae heddi? | |
| (Harri) Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd. | |
| (1, 0) 97 | Sŵn yn y cefen. |
| (1, 0) 98 | Rhywun yn gweiddi, 'Pobol adre yma'. |
| (1, 0) 99 | PC Thomas yn dod i'r golwg. |
| (PC) Bore da. | |
| (Harri) O cer, yr hen asyn gwyntog. | |
| (1, 0) 158 | PC yn hanner clywed ac yn edrychtrwy'r drws. |
| (PC) Wedoch chi rywbeth Harri? | |
| (Harri) Odd gwyntog iawn. | |
| (1, 0) 162 | PC yn diflannu. |
| (Harri) Edrychwch 'ma, John, mae ise hoelen ym malwn hwnna, a ma' 'da fi ffordd i ti 'neud hynny, a dod mas o dy drwbwl. | |
| (John) Gad ti hyn rhyngto fi ag e. | |
| (1, 0) 188 | Martha yn mynd. |
| (1, 0) 189 | PC yn dod mewn. |
| (John) {Yn serchog.} | |
| (PC) Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws. | |
| (1, 0) 194 | John yn cerdded o amgylch y PC. |
| (John) Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi. | |
| (PC) ... 'chawswn i ddim byth fod yn Sarjant wedyn. | |
| (1, 0) 232 | PC yn llefen a macyn mawr. |
| (1, 0) 233 | Martha yn dod i'r golwg. |
| (Martha) O John, bachan, beth wyt ti wedi neud iddo fe. | |
| (John) Ie, a chi'n gwbod beth allwch chi neud a rheina. | |
| (1, 0) 242 | PC yn mynd. |
| (Martha) O, John, 'ddylet ti ddim fod wedi 'neud hyn'na. | |
| (John) Er mwyn achub dy groen di yn fwy na dim, ac eitha gwaith iddo fe, yr hen fwldog dau wynebog. | |
| (1, 0) 249 | Sŵn rhywun yn dod mewn i'r tŷ. |
| (1, 0) 250 | Jên Jones drws nesa yn dod mewn a jwg yn ei llaw ─ menyw fusneslyd ofnadwy. |
| (Jên) O, shwt ych chi heddi? | |
| (John) O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr. | |
| (1, 0) 320 | Martha yn wado'r cwshins a siarad â'i hunan. |
| (1, 0) 321 | Rhywun yn gweiddi 'Helo 'na'. |
| (Martha) Helo. | |
| (Martha) John ─ ma'n nhw 'ma. | |
| (1, 0) 325 | Daw Mari a'i ffrind i'r golwg. |
| (1, 0) 326 | Dim merch ond ei chariad, Roger, sydd gyda hi. |
| (1, 0) 327 | Roger yn dysgu Cymraeg. |
| (Mari) O, helo, mam, shwt ych chi? | |
| (Roger) {Roger yn neud sgwat arall a John yn 'i weld e o'r tu ôl i ddrws y stâr.} | |
| (1, 0) 360 | Martha yn gweld John a thorri mewn. |
| (Martha) O, John, dewch 'ma i chi gael cwrdd a ffrind Meri ni. | |
| (Roger) Ie, dewch, dewch i wneud cwpwl bach o pres-yps gyda fi ar y llawr, Mr. Huws. | |
| (1, 0) 405 | Roger yn mynd lawr ar y llawr. |
| (1, 0) 406 | Martha yn perswadio John i fynd ar y llawr. |
| (Martha) Dewch mlân nawr. | |
| (Martha) Penliniwch lawr fel mae Roger yn 'i neud. | |
| (1, 0) 409 | John yn penlinio ac yn teimlo'n anniddig. |
| (John) Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim. | |
| (Martha) Dewch ymlaen, bachan. | |
| (1, 0) 414 | John yn mynd lawr. |
| (Roger) I lawr ac i fyny, shwt wyt ti'n dod ymlaen, Mr. Huws? | |
| (Martha) Nawr te, lan â ti. | |
| (1, 0) 419 | John yn streino a dim ond 'i benôl e yn dod lan. |
| (1, 0) 420 | Roger yn codi. |
| (1, 0) 421 | John yn pwyso ar 'i ên ar y llwyfan a'i ben ôl lan yn yr awyr. |
| (Roger) Ti'n tsheto nawr, Mr. Huws, dim pen ôl fod i dod lan o gwbwl. | |
| (Roger) Ti'n tsheto nawr, Mr. Huws, dim pen ôl fod i dod lan o gwbwl. | |
| (1, 0) 423 | Roger yn cydio yn trowser John ac yn ei ysgwyd ei grys e ac yn ei dynnu fe lan a gwasgu e lawr dwy waith neu dair o'r bron. |
| (Roger) Dyna shwt mae gneud pres-yps, ti'n gweld, Mr. Huws. | |
| (Martha) Odd Roger yn iawn eich bod chi wedi gollwng ych hunan, fyse eliffant ddim mwy stiff. | |
| (1, 0) 426 | John yn codi gan bwyll wedi cael llond bola ar y cwbwl. |
| (1, 0) 427 | Sŵn rhywun yn gweiddi 'Helo, Helo, fi sydd 'ma 'to'. |
| (1, 0) 428 | Jên yn dod i'r golwg â basn yn ei llaw a gweld John ar ei benlinie yn codi. |
| (Jên) O, John bach, os rhywbeth yn bod arnoch chi? | |
| (Jên) Mae e'n olygus iawn, ond yw e te? | |
| (1, 0) 438 | John yn eistedd yn smoco'i bibell. |
| (Martha) Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac mae'i dad e yn Brif Gwnstabl yn Birmingham a mae Roger wedi dysgu Cymraeg. | |
| (Roger) Falle bod ti nabod e yn well fel PC Thomas. | |
| (1, 0) 479 | Jên yn chwysu wrth 'i glywed e. |
| (Jên) Na chi, 'once seen never forgotten' yw hi gyda fi. | |
| (Jên) Gwych! | |
| (1, 0) 488 | Martha yn dod â'r sultanas i Jên. |
| (Jên) O, diolch yn fawr. | |
| (John) Reit o, Jên, os fyddwch chi ishe cwcer, chi'n gwbod ble ma hi. | |
| (1, 0) 494 | Jên yn chwerthin a mynd. |
| (1, 0) 495 | Jên a Mari yn cwrdd yn y cyntedd a siarad cyfarchion. |
| (1, 0) 496 | Mari yn dod i'r golwg. |
| (Martha) O, ti wedi dod 'te. | |
| (Mari) Do, yn y diwedd, dim diwedd ar holi menyw y Post 'na. | |
| (1, 0) 499 | Mari yn mynd i eistedd yng nghôl Roger a chofleidio. |
| (1, 0) 500 | John a Martha yn ddiflas. |
| (Mari) Mam, rwy'i wedi cael syniad grêt ar ffordd adre. | |
| (John) Bant â chi te, a falle na fydda i ddim yma pan ddowch chi nôl. | |
| (1, 0) 526 | Mari a Roger yn mynd. |
| (John) O, Martha, 'roedd hynna'n agos. | |
| (Martha) Wel dw i ddim wedi golchi llestri brecwast eto, ma'n rhaid i fi fynd ati. | |
| (1, 0) 532 | Martha yn mynd i'r cefn. |
| (1, 0) 533 | John yn cydio ym mhapur i fynd i eistedd. |
| (1, 0) 534 | Harri Post yn pipo mewn a gweiddi. |
| (Harri) Odi'r coast yn glir. | |
| (Harri) Fuest ti yn lwcus ohona i heddi. | |
| (1, 0) 562 | Martha yn dod i'r gegin a brwsh llawr. |
| (Harri) Wel, Martha, ti siŵr o fod yn teimlo'n well nawr na gynne, fach. | |
| (John) Ti, Harri, ddim yn cymryd pethe yn seriws o gwbwl, bachan, 'dos dim diwedd i rhywbeth fel hyn. | |
| (1, 0) 579 | Clywir rhywun yn gweiddi. |
| (Emrys) Mr. Jones, Mr. Jones, Mr. Jones. | |
| (Emrys) Mr. Jones, Mr. Jones, Mr. Jones. | |
| (1, 0) 581 | Daw Emrys i'r golwg a helmet ar ei ben. |
| (Emrys) {Crwt ifanc.} | |
| (Harri) Treia 'i gal e rownd. | |
| (1, 0) 598 | Harri yn rhedeg i'r cefn. |
| (1, 0) 599 | Martha ar ei phenlinie yn dweud wrth John. |
| (Martha) O, John, John bachan, dewch mlan. | |
| (Martha) O, John, John bachan, dewch mlan. | |
| (1, 0) 601 | Harri'n rhedeg nôl â dŵr yn bwced a towli fe dros gwyneb John. |
| (John) {Yn dechre dod at 'i hunan a siarad.} | |
| (Martha) Bydd popeth yn iawn. | |
| (1, 0) 608 | John yn codi ─ Martha yn ei helpu. |
| (1, 0) 609 | Daw Jên mewn â photel llaeth nôl. |
| (1, 0) 610 | Emrys yn rhoi stôl yn barod i John. |
| (Jên) Helo, fi sydd yma to. | |
| (Harri) Ie, paid ti becso dim nawr, ofala i bod cyfiawnder yn cael ei neud. | |
| (1, 0) 632 | Pawb yn mynd yn gloi. |
| (Jên) Shwt ych chi yn teimlo nawr 'te John, gwell? | |
| (John) heddi! | |
| (1, 0) 644 | Y ddau'n diflannu. |