Drama un-act
Ⓗ 1985 Ifan Gruffydd/Gwasg Carreg Gwalch
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Agorir y llenni a gwelir y llwyfan yn wag o bobl. Yna clywir cwmpo mas a daw John a Martha i'r golwg a thipyn o stâd arnynt. Y ddau wedi bod allan, a Martha yn dysgu dreifo.

Martha

(Hanner lleisio mewn temper.) Peidwch chi rhoi y bai i gyd arna i. Odd cyment o fai arnoch chi.

John

A shwt wyt ti yn gallu gweud hynny? Ti odd yn dreifo. Dim ond rhoi y comands o'n i yn 'neud. Rarswyd, gês i ergyd ar'yn nhrwyn. Faint o waed sydd arna i?

Martha

O, peidwch â ffysan. Ma gyment o waed ar ych trwyn chi a sydd mewn gwmfedyn. Ac wrth roi ych comands fel ych chi yn 'u galw nhw, roisoch chi y fi yn y cawl.

John

(Yn rhoi plastar ar ei drwyn.) Beth ti yn feddwl, fenyw?

Martha

Wel, wedoch chi 'tro fan hyn'. Wedoch chi ddim i ble, na pwy ochr, a gofynes i ai i'r chwith, a ateboch chi "Right".

John

(Yn gweiddi.) Wel i'r "Right" o'n i yn feddwl achos p'un bynnag 'dodd unman i gael i droi i'r whith, fenyw dwp.

Martha

Pidwch chi gweiddi arna i. Own i'n meddwl mai gweud "Right, tro i'r chwith", o'ch chi yn feddwl a dim "Tro i'r dde",

John

O, ca' dy geg, fenyw, wyt ti'n sylweddoli bod ni mewn trwbwl hyd yn llyged. I ddechre, fuoch chi bron lladd Huws y Siop, wedyn bwrw postyn ffôn a dianc ar ôl y cwbwl. O, Martha, Martha, ni mewn trwbwl hyd 'yn llyged.

Martha

Wel, welodd neb, do fe, a p'un bynnag, ma Huws y Siop 'na mas yn clapan rownabout. Ma ise rhywbeth i gadw fe yn y siop. A ma'r postyn ffôn yna mewn lle twp. Ma' hwnna yn obstruction fan'na, John.

John

Ma' mwy o hawl gyda Huws fod mas ar yr hewl, na sydd gyda chi i ddreifo fel maniac i dreio'i ladd e, a ma gyda nhw hawl i roi postys ffôn y lle mynna nhw. O'n i wedi bod yn dreifo am bum mlynedd ar hugain heb un scrap a 'no claim bonus' trwy'r blynydde.

Martha

O, peidwch siarad fel bapa, ddyn. Allwch chi golbo y tamed tolc 'na mas â'r mwrthwl ych hunan ac os ffaelwch chi, prynwch wing arall, a fe dala i amdani, a fe gewch chi gadw ych 'no claim bonus' am byth, achos bydda i yn mynd i'r 'School of Motoring' rhagor.

John

Wel, gobitho bod digon o geir gyda nhw. Chi'n sylweddoli bod bobl yn cael jâl am bethe llai na hyn.

Martha

Wel gyda'ch holl wenwyn chi, fydde ni yn moyn cell 'yn hunan 'ta beth. (Martha yn dechre llefen yn uchel.)

John

O, Martha fach, paid dechre llefen nawr.

Martha

(Llefen yn uchel.) O'n i ddim yn meddwl 'i neud e.

John

O, rwy'n gwbod hynny, Martha fach. O, pam na fyddet ti wedi brêco.

Martha

Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc.

John

Odd digon hawdd gweud hynny wrth y sbid o't ti yn mynd.



Cnoc yn y drws. Harri Post yn gweiddi 'Helô'.

John

O, Mari Mosus, odd rhaid i hwnna ddod heddi. Sycha dy wep, gloi.



Harri yn dod mewn.

Harri

Shwt mae heddi? Rarswyd mawr, chi yn edrych fel 'sech chi newydd ddod adre o angladd.

John

O shwt wyt ti. Newydd gael newydd drwg, bachan.

Harri

Beth sydd, bachan?

John

(Rhaffo celwydd.) Newydd cael ffôn o Lunden. Ma' c'nither i Martha wedi cael 'heart attack' ar 'i chalon bore 'ma.

Harri

O, ma'n ddrwg gen i glywed, Martha. Odi hi yn serious?

John

Wrth gwrs bod hi'n serious. Ma pawb sydd yn cael 'heart attack' ar 'i galon yn serious. Ma hi wedi cael 'i rwsho mewn i'r Infestive Care.

Harri

Wel, dim ond un llythyr i chi heddi. Ysgrifen Mari weden i, Martha.

John

Wel, wyt ti wedi clywed rhyw newydd ar dy drafels heddi?

Harri

O, ma hi bant lawr y dre 'na heddi.

Martha

( Yn ofidus.) O, y... beth sydd wedi digwydd 'te?

Harri

O, achos o 'hit and run'. Rhyw idiot wedi mynd mas o gontrol ar dop Rhiw Fach. Buodd e bron lladd Huws Siop a bwrw polyn ffôn a wedi dianc. Rial dou idiot o'n nhw yn gweud. Ma Huws y Siop mewn stâd ofnadŵ, yn crynu fel jeli.

John

Bachan, paid gweud. Wel, os rhyw syniad gyda nhw pwy o'n nhw?

Harri

Wel, 'na'r unig beth wedodd Dai Nymbar 2 wrtha i odd bod car glas Escort gyda nhw ac odd e yn meddwl mai menyw odd yn dreifo.

John

(Yn wyllt.) Ond odd e ddim yn siŵr wedes di.

Harri

O na, odd e ddim yn siŵr ond greda i mai menyw odd yn dreifo. Fi yn gweud eriôd dyw menywod ddim fod i ddreifo. Dos gyda nhw ddim o'r beth ma'r sais yn i alw yn 'mental stability' fel ni y dynion.

Martha

O, paid siarad trwy dy het. Dw i ddim yn credu bod ti yn gwbod beth yw 'mental stability' i ddechre.

Harri

Wrth gwrs bo' fi. Gwed ti, pan welith menyw lygoden ma hi yn panico a sgrechen a jwmpo i ben stôl, ond fydden i yn mynd ar 'i hôl hi a rhoi cwpwl o gics iddi. 'Na beth yw 'mental stability'.

Martha

(Wedi darllen y llythyr.) O, John, mae Mari yn dod adre o'r coleg dros y Sul, a ma' hi yn dod â ffrind gyda hi. O dier, odd rhaid iddi ddod heddi, a 'do's dim yn tŷ gen i ond ffish ffingers.

Harri

O, paid becso. Jyst y peth ma student yn moyn. O'n i yn darllen yn rhywle pwy ddiwrnod bod students heddi yn byw ar ffish an' chips a chwrw, ac rwyn credu mai dyna beth sydd yn hela lot o nhw yn extremists. Ma'n nhw wedi profi ers blynydde cyn gallu di fod yn balanced lan top ma rhaid i ti fyta balanced diet lawr fan hyn 'twel.

Martha

Wel, ma' rhaid i fi fynd i baratoi. Fyddan nhw yma cyn hir siŵr o fod.

Harri

Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd.



Sŵn yn y cefen. Rhywun yn gweiddi, 'Pobol adre yma'. PC Thomas yn dod i'r golwg.

PC

Bore da. Mr a Mrs. Huws, yntefe?

John

O, ie. Bore da. Dewch ymlaen. (Golwg ofidus ar John a Martha.)

PC

Wel, rwyn galw ynglŷn â'r digwyddiad yna ddigwyddodd bore 'ma ger siop Robert Huws.

Harri

(Torri mewn.) Gwneud ymholiadau 'ife?

PC

Ie, dyna fe. Welsoch chi, Harri, ddim byd?

Harri

Na, dim ond beth wedodd Dai Nymbar 2 wrthof fi.

PC

Wel, beth wedodd Dai No.2 wrthoch chi 'te.

Harri

Wel dim ond bod e wedi gweld rhyw gar glas yn mynd fel cath i gythrel a bod dou yn y car, a mai menyw odd yn dreifo, 'na gyd.

PC

Wel, mae Mrs. Jenkins, Sŵn yr Afon yn dweud yr un peth, dim ond bod hi wedi codi rhif y car: BBX 121M. A phwy sydd yn berchen Escort glas a'r rhif 'na yn y dre 'ma.

Harri

Peidwch gweud mai un chi ych hunan yw e. Ha ha. Dim ond jôc fach, PC.

Martha

O ca' dy lap, Harri. Wel 'run man i chi gael gwbod y gwir ─ ni o'n nhw. Fe banices i ac ath y car mas o gontrol a, wel, chi'n gwbod y rest.

Harri

Jiw, Jiw. Chi yn eitha reit. Ych car chi yw e. Pam na 'sech chi wedi gweud wrtho i. Ond ma'n rhaid i chi gofio un peth. Mae cnither i Martha 'ma wedi cael 'heart attack' yn Llunden, bore 'ma, a ma'n nhw wedi cael sioc ofnadŵ.

PC

Wel, mae'n ddrwg gen i glywed hynny, wrth gwrs, ond ma'n rhaid i fi atgoffa chi bod chi wedi torri'r gyfreth. Yn gynta am 'dangerous driving', ac yn waeth na hynny, dianc ar ôl cyflawni y drosedd, ac o'ch chi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd i Huws y Siop.

John

O na. O'n ni'n gwbod bod e'n olreit achos fe edryches i nôl trŵ y ffenest ôl a weles i e yn carlampo mewn i'r siop.

Martha

A weda i beth arall wrtho chi. Mae'r hen bolyn ffôn yna mewn lle peryglus. Dele fe ddim bod fan yna.

PC

Diolchwch chi, Mrs. Huws, bod e yna. Onibai am y polyn fe alle chi fod wedi mynd lawr y dibyn yna ar ben y tai cownsil, a fyddech chi wedi lando mewn lot mwy o gawl wedyn.

Harri

Ie, ne allech chi fod wedi lando yn cawl rhywun. Ha ha ha.

PC

Chi, Harri, ddim yn meddwl fod hi'n bryd i chi fynd at ych gwaith, achos y peth diwetha sydd eisie ar Mr. a Mrs. Huws heddi yw comedian yn y tŷ.

Harri

Ie, reit te. Jiw erbyn meddwl falle gymrech chi, PC, ych llythyron nawr i arbed i fi fynd heibio, chi'n gwbod.

PC

Drychwch yma, Harri. Mae'r wladwriaeth yn fy nhalu i i fod yn blisman a chithe i fod yn bosman. Gwyliwch chi ar ôl ych busnes ac fe ofala i am 'y musnes inne.

Harri

O, fel'na ych chi yn edrych ar bethe, ife? Chi'n gweld, PC, 'yn ni wedi arfer helpu 'yn gilydd ffordd hyn. Cân di gân fach fwyn i'th Nain ac fe gan dy Nain i tithe. Fel'na 'yn ni yn gweithio ffordd hyn erioed.

PC

(Yn bwysig.) Wel cerwch i ganu i'ch Nain 'te, Harri bach.

Harri

(Yn bryfoclyd.) Mae hi wedi marw llynedd, PC. Ha ha ha. Eitha da, e, beth ych chi'n 'weud?

PC

Esgusodwch fi funud tra bydda i yn mynd i'r car i mofyn ffurflenni i gael ysgrifennu ych statement chi. (PC yn mynd trwy y drws.)

Harri

O cer, yr hen asyn gwyntog.



PC yn hanner clywed ac yn edrychtrwy'r drws.

PC

Wedoch chi rywbeth Harri?

Harri

Y... y... o... m... gweud wrth John bod hi yn wyntog neithiwr. Odd gwyntog iawn.



PC yn diflannu.

Harri

Edrychwch 'ma, John, mae ise hoelen ym malwn hwnna, a ma' 'da fi ffordd i ti 'neud hynny, a dod mas o dy drwbwl.

Martha

Harri, am beth wyt ti'n siarad?

Harri

Mrs. Wilkins 'na sydd yn byw yn Terrace Road. Ma gwr honna yn night watchman yn y ffatri 'na yng ngwaelod y dre tair nosweth bob wythnos, a ma fe PC yn cwato'i fan yn yr hen gwar 'na ac yn mynd at 'i wraig e. Rwy wedi'i weld e a'm llyged 'yn hunan. Ma fe yn mynd lan ysgol a mewn i'r box room. Fancy woman, chi'n gweld. Nawr ma'i wraig e yn nervous wreck ─ cael pwle o sterics a ma fe yn cael amser caled 'da hi, a'r peth diwetha fydde fe moyn yw bod hi yn dod i wybod hyna. Nawr, Jack, rho di Mrs. Wilkins ar 'i blat, a chlywi di ddim rhagor am y trwbwl yma heddi.

John

Bachan, bachan, ti ddim yn gweud wrtho fi am 'i flacmeilo fe. Alla i gael jâl am hyn'na.

Harri

Dim blacmel yw e, bachan. Ffeithie. Ffeithie. Rhoi ffeithie ar 'i blât e a chi ych dau mewn trwbwl lan i fanna nawr. Run man i chi fynd yr holl ffordd, rhagor. Gwna di fel fi'n gweud a fyddi di yn ddyn rhydd mewn deng munud. Rwy'n mynd nawr. Alwa i nôl nes ymlaen. (Harri'n mynd trwy ddrws y cefn.)

John

Ie, ond, Martha, 'do's gyda fi ddim i'w golli nawr.

Martha

O, John, pidwch. Meddyliwch beth all y canlyniade fod.

John

Ma fe yn dod nôl, Martha, cer i'r cefn o'r golwg. Gad ti hyn rhyngto fi ag e.



Martha yn mynd. PC yn dod mewn.

John

(Yn serchog.) Eisteddwch, PC, a dyma gwshin i chi. Ma' fforms mowr gyda chi.

PC

Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws.



John yn cerdded o amgylch y PC.

John

Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi.

PC

O, mae hi yn iawn diolch. Fydda i moyn gweld ych yswiriant chi hefyd.

John

Gwedwch shwt mae'i nerves hi nawr, o'n i yn clywed bod hi yn cael pwle weithie.

PC

Wel, dyw hi ddim yn dda ers echdoe.

John

Bachgen, beth ddigwyddodd echdoe.

PC

Chi'n gweld, odd hi yn cael 'i phenblwydd echdo ac o'n i yn gwybod bod hi am gael handbag. Wel, fe brynes i handbag ─ un du ─ iddi, ond pan roddes i e iddi aeth hi yn hlics, chi'n gweld, odd hi eisie un glas a ma' hi wedi bod mewn temper ofnadŵ ers hynny.

John

O ma ddrwg gen i glywed, a fyse handbag du llawer gwell iddi i fynd i angladde 'chwel.

PC

Chi'n gwbod beth 'nath hi bore heddi amser brecwast?

John

Dim syniad, PC bach.

PC

Wel, wnes i ddim ond gofyn am wy wedi'i ferwi ac fe dowlodd hi ddwsin o wye ar 'y mhen i.

John

Bachgen, bachgen, ac o'ch chi ddim wedi gofyn am sgrambled eggs chi?

PC

Beth sydd yn bod arna i. Dylwn i ddim fod yn gweud y pethe hyn wrthoch chi.

John

O ma fe yn help mowr. A gyda llaw gobeitho na ddaw hi byth i wybod bod chi'n dringad 'sgolion yn ystod y nos.

PC

Dringad 'sgolion, beth ych chi'n feddwl ddyn?

John

O, dewch nawr, PC. Mrs. Wilkins, 'chi'n gwbod, ei gŵr hi yn night watchman yn y ffatri bylbs 'na, a PC Thomas yn watcho ar ôl 'i wraig gyda'i dorch. Dewch 'mlân, ni'n gwbod ych hanes chi.

PC

(Yn codi ar 'i draed a cymryd cam yn ôl.) Mr. Huws, cymrwch ofal beth chi'n 'weud. Cofiwch chi fod y frenhines y tu ôl i fi.

John

Wel, chi wedi damscin 'i thrad hi'n stwmps 'te, os yw hi.

PC

Odych chi'n awgrymu fod gen i fancy lady, ac yn ceisio fy mlacmeilo i.

John

Bachan, dim awgrymu odw i, ond gweud wrthoch chi. Ma' digon wedi'ch gweld chi ac os ych chi am i MrsThomas beidio dod i wybod, chi'n gwbod beth 'yf fi am i chi 'neud. Fel oedd Harri Post yn gweud gynne fach, cân di gân fach fwyn i'th Nain ac fe gân dy Nain i chithe, fel 'na ni'n gwitho ffordd hyn.

PC

(Yn mynd ar 'i benlinie o flaen John.) O Mr. Huws, fe wna i unrhyw beth i Patsi fach beidio dod i wybod am hyn.

John

Ie, wel, anghofiwch chi bopeth am yr hen drwbwl yma bore 'ma, a weda inne ddim un gair wrth neb.

PC

(Yn dechre llefen ar 'i benlinie, a cydio yng nghoes John.) O, odych chi yn addo peidio gweud. O plîs, plîs, peidiwch gweud wrth Patsi, achos pe bai hi yn dod i wybod, falle yr ele hi bant, a wedyn... (Neud wep.) ... 'chawswn i ddim byth fod yn Sarjant wedyn.



PC yn llefen a macyn mawr. Martha yn dod i'r golwg.

Martha

O John, bachan, beth wyt ti wedi neud iddo fe. Edrych arno fe. O, dewch mlan nawr, ma' popeth yn iawn. 'Wedith John ddim gair wrth neb, ofala i am hynny. (Martha yn ei helpu fe ar 'i draed.)

PC

A chlywch chi ddim byth rhagor o' wrtho i.

John

(Rhoi y ffurflenni iddo fe.) Ie, a chi'n gwbod beth allwch chi neud a rheina.



PC yn mynd.

Martha

O, John, 'ddylet ti ddim fod wedi 'neud hyn'na. Weloch chi ei olwg e. Dw i ddim yn meddwl alla i wynebu fe byth eto.

John

Paid ti dechre cadw'i bart e. Ti'n gwbod pam o'n i'n 'i 'neud e. Er mwyn achub dy groen di yn fwy na dim, ac eitha gwaith iddo fe, yr hen fwldog dau wynebog.



Sŵn rhywun yn dod mewn i'r tŷ. Jên Jones drws nesa yn dod mewn a jwg yn ei llaw ─ menyw fusneslyd ofnadwy.

Jên

O, shwt ych chi heddi? Jiw, ges i ofan bod rhywbeth wedi digwydd yma pan weles i PC yn dod mas o'r tŷ. Wel, ych chi'n clywed cyment am hen bethe od yn digwydd yntefe.

John

O na, ishe gweld fi ynglŷn â leisens y gwn o'dd e.

Jên

Ond 'do's dim gwn i gael gyda chi, os e?

John

Na, ond rwy'n meddwl cael un.

Jên

Ych a fi, i beth ych chi ishe gwn, ddyn?

John

Wel, dwn i ddim, yn meddwl mynd mas i bysgota ag e odw i.

Jên

Wel, mae hi bant yn tŷ ni heddi.

Martha

Os rhywbeth yn bod 'te?

Jên

O, cefen Dai wedi mynd eto.

Martha

Wel, wel, os dim llawer ers pan fuodd i gefen e o'r blaen. Wel, pryd aeth e nawr te?

Jên

Neithiwr, a chredwch neu beidio, yn gwely ath e.

Martha

Wel, wel, na beth od yntefe.

Jên

Wel, chi'n gweld, fel hyn odd hi. Nawr chi'n gwbod y trwbwl 'yf fi wedi bod yn ei gael gyda'r ffaelu cysgu yma. Beth ma'n nhw yn ei alw fe nawr, yr insomaniac yma. Wel, chi'n gweld, y peth gore fi wedi ffeindio i hela cwsg arna i, yw darllen nofelau. Wel, rwy' hanner ffordd trwy un nawr a ma hi yn nofel fendigedig. Fi'n ffaelu cofio'r teitl nawr. Mae hi yn sôn am y bachan golygus yma yn cwrdd â'r ferch yma ar wylie a ma'n nhw yn cwmpo dros eu pennau a'u clustie mewn cariad, a ma'n nhw yn rhedeg bant a phriodi ganol nos.

John

Gyda rhyw offeirad sy'n ffaelu cysgu, siŵr o fod. Ha ha.

Jên

Ie, ie, siŵr o fod, ha, ha. Wel, ta beth, 'dyw hi ddim wedi gweud wrtho fe'i bod hi yn briod yn barod a dyw e ddim wedi gweud wrthi hi 'fod e yn briod, ac wrth gwrs, dyw 'i gŵr hi ddim yn gwbod bod hi wedi priodi a hwn, a dyw 'i wraig e ddim yn gwbod 'fod e wedi priodi â hi, y fenyw, chi'n gwbod.

John

Esgusodwch fi funud, ond beth sydd gyda hyn i neud â cefen Dai yn mynd o'i le, Jen.

Jên

Wel nawr, chi'n gweld, pan 'benes i'r bedwaredd bennod, 'wedes i wrth Dai, galle fe switcho bant... y gole rwy'n feddwl... Hy, hy... ac wrth 'fod e yn estyn am y cordyn, cordyn y gole, fe aeth e, cloc felna, ─ nid y gole ond ei gefen e, a fuodd e mewn poen drwy'r nos.

Martha

Wel, wel, mae'n rhaid iddo fe weld rhywun ynglŷn ag e nawr.

Jên

Wel, rwy'i wedi ffono Dr. Jenkins a ma fe wedi addo galw mor gloi ag y gall e. Wel, mae Dai yn dwli ar bwdin reis ac addewais i neud tamed bach, ond rwy'n brin o laeth, a dw'i ddim ishe gadel y tŷ rhag ofan daw y doctor. Chi'n meddwl allech chi sbario jwged fach?

Martha

O, sefwch fanna, allwch chi gael peint gyda fi nawr, ma digon gyda fi heddi. (Martha'n mynd i moyn y llaeth.)

John

Dim un newydd arall gyda chi 'te, Jên.

Jên

Na, dim byd. O, ie, rwy'i wedi clywed bod gwraig Jack y Siop 'Ffish an Chips' wedi rhedeg bant gyda rhyw ddyn tân o Gaerfyrddin.

John

Wel, allwn ni weud bod honna wedi mynd o'r ffreipan i'r tân, Jen. Ha, ha.

Jên

Ha, ha. Chi'n ffraeth iawn heddi 'to, John.

Martha

(Dod â'r llaeth.) Wel, dyma'r llath i chi. Odi peint yn ddigon, neu fe allwch chi gael rhagor?

Jên

O, na, fydd e'n hen ddigon gyda'r peth sydd gyda fi. Gyda llaw, beth ych chi wedi gael ar ych trwyn 'te, John?

John

O, dim byd, dim ond cered mewn i ddrws wnes i.

Jên

(Yn mynd.) O, dyna beth ma'n nhw i gyd yn 'i ddweud. Wel, hwyl nawr, gewch chi'r botel nôl nes ymlaen.

Martha

(Edrych ar y cloc.) Rarswyd mawr, mae'n rhaid i fi baratoi. Bydd Mari a'r ffrind yna yma chwap, a John, tynnwch y plaster 'na oddi ar ych trwyn, achos 'dyw e ddim ond yn hela pobol i holi o hyd.

John

Ond falle eith e i waedu, Martha.

Martha

Pwy waedu neith e, achos dim ond lliw gwaed oedd yna i ddechre. Tynnwch e bant.

John

(Yn ceisio gael e i ffwrdd gan bwyll, a gneud stumie ofnadw.) Hei, ma'fe yn rhy sownd, Martha, ma' fe'n pinsho.

Martha

Pwy binsho, ddyn, chi fel babi odych. Dewch 'ma i fi weld. (Martha yn rhoi plwc sydyn i'r plastar.)

John

Aw, aw. O, fenyw gythrel, chi wedi tynnu croen 'y nhrwyn i bant. Dodd dim ise bod mor ryff â 'na, odd e?

Martha

Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off.

John

Wel, rwy'n mynd lan i gael wash cyn don nhw, achos 'w i wedi cael llond bola, odw.

Martha

Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen.

John

O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr.



Martha yn wado'r cwshins a siarad â'i hunan. Rhywun yn gweiddi 'Helo 'na'.

Martha

Helo. (Yn nrws y stâr.) John ─ ma'n nhw 'ma.



Daw Mari a'i ffrind i'r golwg. Dim merch ond ei chariad, Roger, sydd gyda hi. Roger yn dysgu Cymraeg.

Mari

O, helo, mam, shwt ych chi? Dyma ni o'r diwedd, a dwi am i chi gwrdd â Roger, y ffrind sonies i amdano yn y llythyr. Roger ─ Mam.

Martha

Helo, Roger, shwt ych chi. Neis cwrdd â chi.

Roger

O, helo, Mrs. Jones. Fi wedi clywed llawer am ti gyda Meri. Rhaid i ti esciwso Cymraeg fi achos nawr fi yn dysgu fe yn ysgol nos. Fi wedi bod yn dod lot i Tre yma blynydde nôl i aros ar gwylie ato uncle a auntie fi.

Mari

Odi, mae PC Thomas yn wncwl i Roger, mam.

Martha

(Wedi syfrdannu.) O, dier, odi fe.

Roger

Ti yn nabod Uncle Bill ac Auntie Patsy, Mrs. Huws?

Martha

O, na, alla i ddim gweud bod fi yn 'u nabod nhw, dim ond 'u gweld nhw yn paso, ie, dim ond 'u gweld nhw yn paso.

Mari

Mam, dw i bownd o fynd lawr i'r Swyddfa Bost i moyn archeb bost i bosto y llythyr yma, achos ma' fe yn cau heddi am hanner dydd, on' dyw e? Gofalwch chi am Roger, fydda i ddim yn hir. Gyda llaw, ble mae dad, te?

Martha

O, ma fe wedi mynd i'r bathrwm, fydd e lawr nawr.

Mari

Reit, fydda i nôl cyn bo hir. Ta, ta cariad.

Roger

O, ta ta, Bubbles.

Martha

Bubbles?

Roger

Dyna yw pet name fi am Meri.

Martha

O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus.

Roger

Ni pobl heddi yn eistedd gormod ar 'yn pen ole, Mrs. Huws. (Yn sydyn mae Roger yn dechru neud sgwats lan a lawr ar ganol y llawr.)

Martha

(Wedi syfrdanu.) Esgusodwch fi, odi ych trowsus chi yn gwasgu arnoch chi yn rhywle?

Roger

O, no, exserseisus yw rhain. Fi yn neud rhain pob dydd i cadw yn ffit. Os na fydda i wedi cael amser y bore i neud routine i gyd, fi yn iwsho bob chance fi cael yn y dydd wedyn. (Roger yn neud sgwat arall a John yn 'i weld e o'r tu ôl i ddrws y stâr.)



Martha yn gweld John a thorri mewn.

Martha

O, John, dewch 'ma i chi gael cwrdd a ffrind Meri ni. Roger, dyma John y gŵr.

Roger

Da iawn gyda fi gael cwrdd â ti, Mr Huws.

Martha

Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John.

John

O'n i'n meddwl bod e yn swno bach yn dywyll. Ha, ha. Neis cwrdd â chi.

Martha

A John, chi'n gwbod PC Thomas, ma fe yn wncwl i Roger.

John

(Wedi cael sioc. Cwmpo y bibell o'i geg.) Y... y... PC Thomas yn wncwl i chi.

Martha

Odi, odi, wncwl iddo fe, John.

John

Bachgen, bachgen, a fe yn wncwl i chi. Chi'n eitha siŵr?

Roger

O odw, fi yn arfer pan o'n i'n small dod ar holidays ato Uncle Bill a Aunty Patsy bob blwyddyn.

Martha

Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te?

Roger

Ti gweld mae tad fi yn brawd iddo fe a mae tad fi yn Chief Constable yn Birmingham, a mae mam yn Saesnes o Birmingham. Mae teulu fi yn od iawn a gweud y gwir.

John

Rwy'n deall hynny.

Roger

Mae gyda fi un tadcu odd wedi dod o Scotland a un mamgu yn dod o Ireland, tad o Gymru a mam o England.

John

Bachan, ddyle nhw fod wedi ych galw chi yn United Nations. Ha, ha, ha. United Nations, chi'n 'i chael hi?

Martha

Byddwch dawel, bachan. Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac ma fe yn neud ecserseisus bob dydd, John.

Roger

Pe bai mwy o pobl yn neud ecserseisus bob dydd bydde lot llai o pobl yn marw yn cwic o heart attacks a pethe felna. Odyt ti, Mr Huws, yn neud ecserseisus? Achos wyt ti wedi dod i 'funny age' nawr, cofia.

John

O fi yn cered digon bob dydd, achan.

Roger

A, Mr. Huws, dyw cered ddim digon. Dyle ti neud ecserseisus sydd yn hela calon ti i mynd yn ffast bob dydd achos pam bod calon ti yn mynd yn ffast mae gwaed ti yn cael i cadw yn thin.

John

Weda i un peth sydd yn hela nghalon i fynd yn ffast. Mynd gyda Martha ni yn y car.

Roger

Mae lot o dynion fel ti ar ôl dod i middle age yn gollwng 'u hunen i fynd yn fflabby.

Martha

O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi.

John

Beth wyt ti'n feddwl mod i'n fflabi?

Martha

O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'.

John

Beth wyt ti'n feddwl odw i, cangarŵ? Os arna i ddim ofan gweud mod i mor ffit nawr a fues i eriod. (Rhoi un besychan.)

Roger

Reit te, Mr. Huws, dewch i ti gael profi ych geirie, dewch i ti cael neud cwpwl bach o ecserseisus gyda fi.

Martha

Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi.

John

O rwy i yn rhy hen i neud rhyw hen bethe fel'na.

Martha

Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed.

Roger

Ie, dewch, dewch i wneud cwpwl bach o pres-yps gyda fi ar y llawr, Mr. Huws.



Roger yn mynd lawr ar y llawr. Martha yn perswadio John i fynd ar y llawr.

Martha

Dewch mlân nawr. Penliniwch lawr fel mae Roger yn 'i neud.



John yn penlinio ac yn teimlo'n anniddig.

John

Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim.

Roger

Nawr te, Mr. Huws, coese a pen ôl yn stret. Pwyso ar y breichie a wedyn i lawr ac i fyny, i lawr ac i fyny.

Martha

Dewch ymlaen, bachan.



John yn mynd lawr.

Roger

I lawr ac i fyny, shwt wyt ti'n dod ymlaen, Mr. Huws?

John

(Yn edrych yn boenus.) Wel, rwy i wedi mynd lawr yn iawn ta beth.

Martha

Nawr te, lan â ti.



John yn streino a dim ond 'i benôl e yn dod lan. Roger yn codi. John yn pwyso ar 'i ên ar y llwyfan a'i ben ôl lan yn yr awyr.

Roger

Ti'n tsheto nawr, Mr. Huws, dim pen ôl fod i dod lan o gwbwl.



Roger yn cydio yn trowser John ac yn ei ysgwyd ei grys e ac yn ei dynnu fe lan a gwasgu e lawr dwy waith neu dair o'r bron.

Roger

Dyna shwt mae gneud pres-yps, ti'n gweld, Mr. Huws.

Martha

Odd Roger yn iawn eich bod chi wedi gollwng ych hunan, fyse eliffant ddim mwy stiff.



John yn codi gan bwyll wedi cael llond bola ar y cwbwl. Sŵn rhywun yn gweiddi 'Helo, Helo, fi sydd 'ma 'to'. Jên yn dod i'r golwg â basn yn ei llaw a gweld John ar ei benlinie yn codi.

Jên

O, John bach, os rhywbeth yn bod arnoch chi?

John

(Yn codi.) Na fi'n eitha reit, 'sen i'n cael llonydd.

Martha

O, odd e wedi bod yn trio gneud ecserseisus gyda Roger, a dim shap o gwbwl ac... O... ych chi, Jen, ddim wedi cwrdd a Roger wrth gwrs. Roger dyma Mrs. Williams drws nesa.

Roger

Neis i cwrdd â ti.

Jên

Neis cwrdd a chithe hefyd. Mae e'n olygus iawn, ond yw e te?



John yn eistedd yn smoco'i bibell.

Martha

Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac mae'i dad e yn Brif Gwnstabl yn Birmingham a mae Roger wedi dysgu Cymraeg. Saesnes yw ei fam e, chi'n gweld.

Jên

O neis iawn. Chi'n gwbod, Roger, mae nai i fi yn blisman yn Coventry ac odd e yn gweud bod Saeson ofnadŵ yn byw yn fan'ny.

Roger

O, mae gyda fe panda, siŵr o bod.

Jên

Wel 'wi ddim yn siŵr. Tro dwetha fues i a Dai draw gyda fe, corgi odd gyda nhw.

John

(Yn y stôl yn ysmygu yn braf.) (Chwerthin yn uchel.) Ha ha ha ha. Ew, ych chi Jên yn gymeriad. Shwt mae Dai gyda chi erbyn hyn?

Jên

O jyst yr un peth yn 'i ddwbwl o hyd, a fuodd Dr. Jenkins acw gynne fach ac mae fe am iddo fe fynd i gael X-Ray fory achos ma fe yn credu mai slipping discus sydd arno fe.

Martha

O hen beth cas yw slip disc. Rwy'n cofio cath 'yn chwaer i e blynydde 'nôl. O, peth poenus ofnadŵ.

Roger

Ti'n gwbod ─ lack of ecserseisus yn amal yn achosi slip discs oherwydd bod mysyls y cefen dim yn rhoi digon o syport i'r spine.

Jên

(Yn troi at Martha.) Wel, wel, digon hawdd gwbod 'i fod e yn y coleg, on'dyw e. Wel pa ecserseisus fydde hi yn 'u cynnig 'te i Dai ni?

Roger

O dim byd yn well i'r cefen na digon o nofio.

Jên

O wel, sgen i ddim gobeth, achos rwy'n gorfod cwmpo mas â Dai am orie cyn ca'i e i gymryd bath, ac aros ar ei drâd ma fe yn cymryd hwnnw.

Roger

A peth arall sydd yn dda i ôl-rownd ffitnes yw squash.

Jên

Jiw, jiw, dim ond Barley Water yfith Dai ni ─ mae fe yn well i'r blader, mynte fe.

Roger

(Yn chwerthin yn posh.) Dim yfed Squash fi'n meddwl ond chware squash. Ma hi yn sport.

Jên

(Yn chwerthin ar ben 'i hunan.) O, chi siŵr o fod yn meddwl bod fi'n dwp. Ie, a ych chi siŵr o fod yn ffaelu deall beth fi neud â'r basn yma.

John

Chi wedi mynd yn brin o reis, Jên.

Jên

Na, dyw hi ddim mor ddrwg â hynny chwaith, 'os dim sultanas gyda fi a mae Dai ni'n dwli ar sultanas, chi'n gweld. Ma digon o gurrens 'da fi, ond ma currens yn dueddol o hela Dai ni i redeg, a dyw Dai ni ddim mewn stâd i redeg i unman heddi yn enwedig lan stâr.

Martha

O dewch 'ma, a i 'mofyn tipyn o sultanas i chi nawr, Jên.

Jên

O, diolch, gewch chi nhw nôl bob un. (Jen yn gwenu ar Roger ar y soffa mewn safle od.) Esgusodwch fi yn gofyn, Roger. Rwy'i fel 'sen ni yn meddwl 'mod i wedi gweld chi yn rhywle o'r blân.

Roger

Falle bod ti wedi gweld fi pan o fi yn dod ar holidays blynydde nôl at Uncle Bill a Auntie Patsy. Falle bod ti nabod e yn well fel PC Thomas.



Jên yn chwysu wrth 'i glywed e.

Jên

Na chi, 'once seen never forgotten' yw hi gyda fi. Wel, wel, PC Thomas yn wncwl i chi, o 'na neis, yntefe, John? |

John

M m... odi, neis iawn.

Jên

Rwy'n nabod eich Auntie Patsy chi yn iawn, ma' hi yn y W.I. gyda ni. Fuodd hi'n dangos i ni llynedd y gwahanol fwydydd o chi yn gallu neud gyda wye. Odd e'n wych y pethe odd hi yn gallu neud gyda wye. Gwych!



Martha yn dod â'r sultanas i Jên.

Jên

O, diolch yn fawr. Wel, rhaid i fi fynd nawr. Neis cwrdd â chi, Roger. Wel, hwyl nawr te.

John

Reit o, Jên, os fyddwch chi ishe cwcer, chi'n gwbod ble ma hi.



Jên yn chwerthin a mynd. Jên a Mari yn cwrdd yn y cyntedd a siarad cyfarchion. Mari yn dod i'r golwg.

Martha

O, ti wedi dod 'te.

Mari

Do, yn y diwedd, dim diwedd ar holi menyw y Post 'na.



Mari yn mynd i eistedd yng nghôl Roger a chofleidio. John a Martha yn ddiflas.

Mari

Mam, rwy'i wedi cael syniad grêt ar ffordd adre. Beth 'sen ni yn ffono PC Thomas a'i wraig i ddod lan yma i gwrdd â ni i gyd a chael cwpaned o de gyda'n gilydd i bawb cael dod i nabod ei gilydd.

Martha

(Wedi syfrdannu.) O, wel, fi ddim yn gwbod.

John

Na, na, mae'n well i chi fynd lawr i'w gweld nhw... odi... Cewch chi lawr i'w gweld nhw, achos fi ddim yn credu fydden nhw ishe dod lan yma.

Mari

(Yn bwdlyd.) Pam? Shwt ych chi yn gwbod?

John

(Yn gynhyrfus.) Achos, wel fi'n gwbod, a p'un bynnag fydda'i yn gorfod mynd mas cyn bo hir.

Martha

Mas i ble, bachan?

John

Wel... wel... mas, fenyw.

Mari

Wel mae e yn bell i gered lawr yr holl ffordd i'r Police Station.

John

O, gewch chi fenthyg y car gyda fi nawr.

Mari

Ych chi'n teimlo yn reit, Dadi?

John

Wrth gwrs 'mod i, groten, cerwch â'r car, cerwch ag e nawr.

Mari

O'n i byth yn arfer cael edrych arno fe.

Martha

O, dyw dy dad ddim yn ffysi am y car ers pan gath e bwmp ar y wing rhyw fis yn ôl yn erbyn clawdd.

Mari

(Yn cydio yn llaw Roger.) O reit, dewch, Roger, ewn ni lawr nawr. A mae Roger yn gyfarwydd â dreifo Escort (Y ddau ar eu trâd yn barod i fynd.)

Martha

O na fe te, bydd bwyd yn barod gyda fi erbyn dewch chi'n ôl.

John

Bant â chi te, a falle na fydda i ddim yma pan ddowch chi nôl.



Mari a Roger yn mynd.

John

O, Martha, 'roedd hynna'n agos. Weles i eriod shwd ddydd â heddi. Weles i eriod shwd gawl.

Martha

O peidwch becso, ma'r gwaetha drosodd nawr, a ma' Roger i'w weld i bob golwg yn fachgen hyfryd. Wel dw i ddim wedi golchi llestri brecwast eto, ma'n rhaid i fi fynd ati.



Martha yn mynd i'r cefn. John yn cydio ym mhapur i fynd i eistedd. Harri Post yn pipo mewn a gweiddi.

Harri

Odi'r coast yn glir. Ti yn edrych yn wath nawr nag o't ti bore 'ma. Wel, ollyngodd e'i charges gwed?

John

O, do, a fe ollyngodd 'i hunan, bachgen. Weles i eriod shwd beth. Fuodd e ar hyd llawr ffor hyn ag yn llefen dros y lle a begian i fi bido gweud. Weles ti eriod shwd beth.

Harri

Na fe, wedes i wrthot ti. Todde fe fel jelly. Dim ond i ti roi Mrs. Wilkins ar 'i blat e. Wel, wyt ti'n ddyn rhydd nawr te.

John

Cofia, fydden ni ddim wedi neud shwd beth onibai i ti weud bod ti wedi ei weld e a llyged dy hunan.

Harri

Wel, a gweud y gwir wrthot ti, o'n i ddim wedi'i weld e 'yn hunan.

John

(Wedi cael sioc arall.) Bachan, beth wyt ti'n feddwl, ti ddim yn gweud bod ti wedi hela fi i'w flacmeilo e heb fod yn siŵr dy hunan.

Harri

Wel, Dai No. 2 wedodd wrtho i, ond odd e ddim wedi'i weld e'i hunan. Wil Mecanic odd wedi gweud wrtho fe, a gwraig hwnnw odd wedi digwydd 'i weld e wrth ddod adre o'r W.I.

John

Bachan, wedest ti bod ti wedi'i weld dy hunan, bachan. Ma gwraig Wil Mecanic y geg gwya sydd yn y dre. Sdim gair i gredu o honna. Pam na fyddet ti wedi gweud y gwir wrtho i?

Harri

Wel, 'sen i yn gweud y stori i gyd wrthot ti, fyddet ti ddim wedi'i gael e ar 'i benlinie wedyn.

John

O, jiw, jiw, allen ni fod ar y ffordd i'r jâl nawr. Ti'n sylweddoli hynny!

Harri

Bachan, paid becso rhagor. Mae e wedi dangos 'i bod hi yn gweud y gwir. Fuest ti yn lwcus ohona i heddi.



Martha yn dod i'r gegin a brwsh llawr.

Harri

Wel, Martha, ti siŵr o fod yn teimlo'n well nawr na gynne, fach. Lwcus i fi roi yr hint fach 'na i chi.

Martha

O, Harri bach, weles i erioed shwd beth. Dw i ddim yn credu alla i edrych yn i wyneb e byth eto. Gobitho y ceith e bromoshon gloi iddo fe fynd o'r dre yma.

John

Ti'n gweld, wyt ti ddim yn gwbod y cwbwl. Mae pethe wedi gwaethygu. Ti'n gwbod y ffrind odd Mari ni yn sôn amdano. Wel maen nhw wedi cyrraedd a mae'r idiot yma sydd gyda hi yn nai i PC Thomas.

Martha

O, paid gwrando ar John i gyd. Mae e yn fachan neis iawn a gall neb help bod e yn digwydd perthyn i PC Thomas, a maen nhw wedi mynd lawr nawr i weld e a'i wraig yn 'yn car ni.

Harri

Ho, ho... o... jiw, jiw... Hei, Martha, bydd hi off 'ma os ddaw y diwrnod mowr a bod nhw yn priodi. Bydd werth gweld John a PC Thomas yn yfed shampers gyda'i gilydd, e?

John

(Yn grac.) Ti, Harri, ddim yn cymryd pethe yn seriws o gwbwl, bachan, 'dos dim diwedd i rhywbeth fel hyn.



Clywir rhywun yn gweiddi.

Emrys

Mr. Jones, Mr. Jones, Mr. Jones.



Daw Emrys i'r golwg a helmet ar ei ben.

Emrys

(Crwt ifanc.) O, Mr. Jones, Mr. Jones. Dewch gloi, ma' damwain mowr wedi digwydd.

John

Damwain, pa ddamwain?

Emrys

O, mae Mari chi wedi smasho car yn yfflon yn erbyn car Mrs. Wilkins, a ma PC Thomas a chwbwl 'na, a helodd e fi i ddweud wrthoch chi.

John

(Yn cael llwgfa.) Smash â Mrs. Wilkins. (John yn cwmpo fel sloshen.)

Martha

(Yn sgrechen a rhedeg ato.) O, Harri, beth sydd wedi digwydd?

Harri

(Mynd ato.) Mae e wedi cael shwgfa, siŵr o fod. Datod 'i grys e, Martha. Bachan, ddylet ti ddim fod wedi gweud mor ddisymwyth. Af i moyn dŵr nawr. Treia 'i gal e rownd.



Harri yn rhedeg i'r cefn. Martha ar ei phenlinie yn dweud wrth John.

Martha

O, John, John bachan, dewch mlan.



Harri'n rhedeg nôl â dŵr yn bwced a towli fe dros gwyneb John.

John

(Yn dechre dod at 'i hunan a siarad.) Brêca, fenyw. Brêca, fenyw.

Harri

Ew, Martha, ma fe yn credu bod e yn car gyda ti nawr.

Martha

O, John, dewch chi, chi wedi cael sioc ofnadŵ. Bydd popeth yn iawn.



John yn codi ─ Martha yn ei helpu. Daw Jên mewn â photel llaeth nôl. Emrys yn rhoi stôl yn barod i John.

Jên

Helo, fi sydd yma to. O dier, beth sy'n bod yma?

Martha

O, ni newydd cael newydd bod Mari a Roger wedi cael smash a roedd e'n ormod i John. Gath e lewyg bach.

Jên

Wel, wel, ma ddrwg gen i glywed.

Martha

Gwed, wyt ti'n gwbod rhywbeth a o's rhywun wedi cael dolur?

Emrys

Wel, 'sa i'n credu, o'n nhw i gyd yn gorfod mynd lawr i Swyddfa'r Heddlu nawr, ond odd y... y... Roger i'w weld yn gloff.

John

O, wel, neith e ddim pres-yps am sbel 'te ─ hy... Ma well i chi Martha fynd lawr i weld.

Jên

Ie, ie, cewch chi. Ofala i am Mr. Jones fan hyn, peidwch chi becso dim byd.

Emrys

Allwch chi ddod lawr gyda fi ar y moped os hoffech chi.

Harri

Pwy fynd ar moped, bachan. Na, ma'r fan bost gyda fi, af i lawr â chi, Martha fach. Gwisgwch got gloi.

Martha

Olreit te, chi John yn siŵr bod chi'n iawn nawr?

John

Odw, odw, cer di ymlaen, bydd Jên gyda fi.

Harri

Reit te, barod, Martha.

Emrys

Ma'n ddrwg dâ fi, Mr. Huws, 'mod i wedi hela chi i gal shwt ofan.

John

O, paid â becso dim, diolch i ti am ddod.

Harri

Ie, paid ti becso dim nawr, ofala i bod cyfiawnder yn cael ei neud.



Pawb yn mynd yn gloi.

Jên

Shwt ych chi yn teimlo nawr 'te John, gwell?

John

O fe fydda' i byw, paid ti becso. Weles i eriôd shwd beth a heddi, Jen fach, mae popeth fel 'se fe wedi 'i ribo yma heddi'r bore.

Jên

Weda i wrthoch chi, ma gen i syniad da. Mae'r pwdin reis yn barod gen i. Dewch draw 'da fi i gael disgled gyda Dai ni.

John

Wel ma rhaid gweud, dw i ddim wedi byta dim ers brecwast ac erbyn i chi weud ma' whant pwdin reis arna i. (John yn codi.)

Jên

Ie, ie, dewch mlân, achos yn y diwedd rwyf i wedi gwneud gormod o lawer o bwdin.

John

O peidiwch â becso dim, Jên fach, nid chi yw'r unig un i neud gormod o bwdin ffordd hyn, heddi!



Y ddau'n diflannu.

Drama un-act