|
|
(1, 0) 1 |
SCENE.—Drawing room yn nhy Mrs. Davies, wedi ei dodrefnu yn wych gyda chlustogau, lampshades, paintings ar y mur, dau fwrdd bychan wedi eu hulio ag ornaments, sofa. |
(1, 0) 2 |
Ar y mur mae darlun o ddyn sydd ymlaen mewn dyddiau. |
(1, 0) 3 |
~ |
(1, 0) 4 |
AMSER.— Rhwng pedwar a chwech yn y prynhawn. |
(1, 0) 5 |
~ |
(1, 0) 6 |
Adelina—wedi ymwisgo yn hardd er mwyn yr achlysur—yn agor drws y drawing room i Jim Davies a Mari Myfanwy—y ddau yn eu dillad dydd Sul, Mari Myfanwy yn gwisgo het a phlufen wedi ei gosod arni ar osgo ryfedd, a gwisg o liw goleu-tarawiadol. |
(1, 0) 7 |
Mae'n gwisgo esgidiau uchel a menyg tywyll am ei dwylo. |
|
(Adelina) {Mewn llais mursenaidd.} |
|
|
|
(Adelina) She always puts her feet up after dinner, and we didn't expect you so early. |
(1, 0) 11 |
Yn edrych ar Fari Myfanwy o'i phen i'w thraed tra yn siarad. |
|
(Jim) Erbyn pedwar wedodd Modryb Mary Jane inni ddod, a mae'n hynny nawr. |
|
|
|
(Jim) Dyna gelwydd! |
(1, 0) 24 |
Mari Myfanwy yn eistedd i lawr ar ymyl cadair ac Adelina yn edrych o'i chwmpas. |
|
(Adelina) Here's an album. |
|
|
|
(Jim) Mi wnawn ni'n hunen yn gartrefol. |
(1, 0) 29 |
Adelina yn mynd allan. |
|
(Mari) {Yn rhoi ochenaid o ryddhad.} |
|
|
|
(Jim) Mae'n dda gen i bod hi wedi'n gadel ni wrth yn hunen, achos mae ishe arna i ichi gael golwg dda ar y rwm 'ma. |
(1, 0) 34 |
Mari Myfanwy yn codi ac yn cerdded o gwmpas i edrych ar y pethau yn yr ystafell. |
|
(Mari) O, dyna grand! |
|
|
|
(Mari) 'Rwi ddim yn mynd i aros yma i gael fy sengi dan drad. |
(1, 0) 98 |
Cyfyd ei scarf ac â tua chyfeiriad y drws. |
|
(Jim) {Yn ei dilyn.} |
|
|
|
(Jim) Wel, brodwn ni byth os na allwn ni gael y canpunt mas o Modryb Mary Jane. |
(1, 0) 117 |
Maent yn symud yng nghyfeiriad y sofa. |
|
(Mari) {Gyda mwy o ddiddordeb.} |
|
|
|
(Mari) Pam na wedsoch chi wrtho i am dano o'r blan? |
(1, 0) 121 |
Mae'r ddau yn eistedd ar y sofa. |
|
(Jim) Oe'ni ddim moyn y'ch gwneud chi yn nervous. |
|
|
|
(Mari) A pheth arall, 'rodd e mor neis! |
(1, 0) 271 |
Jim yn troi ei wyneb ymaith ac yn edrych yn guchiog. |
(1, 0) 272 |
Mari Myfanwy yn troi ei golwg arno unwaith neu ddwy. |
|
(Mari) O, all right! |
|
|
|
(Mari) Dim ond wedi i binno mae e. |
(1, 0) 278 |
Mae'n codi ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad y drych uwchben y tan. |
(1, 0) 279 |
Rhydd yr het ar gadair, a dechreua dacluso'i gwallt o flaen y drych. |
(1, 0) 280 |
Tra mae hi wrthi daw Mrs Davies i mewn, yn gwisgo gwn sidan du, locedi a chadwyni aur, etc. |
(1, 0) 281 |
Dilynir hi gan Adelina. |
(1, 0) 282 |
Saif Mrs Davies yn y drws i wylio Mari Myfanwy. |
(1, 0) 283 |
Mae Jim mewn cyni. |
|
(Mrs Davies) {Dan ddyfod i mewn.} |
|
|
|
(Mrs Davies) O, James, so you've brought your friend? |
(1, 0) 286 |
Mari yn troi. |
|
(Jim) {Yn sefyll i fyny.} |
|
|
|
(Mrs Davies) How do you do, Miss Williams? |
(1, 0) 291 |
Yn ysgwyd dwylo. |
(1, 0) 292 |
Ni ddwed Mari ddim. |
|
(Mrs Davies) {Yn oeraidd.} |
|
|
|
(Mrs Davies) There's nothing so untidy as clothes lying about the drawing room. |
(1, 0) 297 |
Mae Adelina yn mynd gymeryd yr hat, ond cipia Mari hi, dyry'r blufen arni yn gam, ac yna rhydd hi am ei phen. |
|
(Jim) {Yn gynhyrfus.} |
|
|
|
(Mrs Davies) Please sit down, Miss Jenkins. |
(1, 0) 301 |
Adelina yn mynd allan. |
|
(Mari) Williams. |
|
|
|
(Mari) [Yn stopio yn sydyn ac yn rhoddi ei llaw ar ei genau.} |
(1, 0) 327 |
Jim yn edrych yn druenus i'r eithaf. |
(1, 0) 328 |
Mari yn edrych arno yn erfyniol. |
|
(Mrs Davies) {Yn anfoddog.} |
|
|
|
(Jim) Mae pregethwyr da iawn gyda'r Annibynwyr hefyd. |
(1, 0) 333 |
Seibiant anghyffyrddus, a rhydd Mari ei thraed allan. |
(1, 0) 334 |
Ar ol ceisio cael ei sylw drwy besychu rhydd Jim bwniad i Mari. |
(1, 0) 335 |
Mae hithau yn dychryn ac yn taro ei thraed yn ol dan y sofa. |
|
(Mrs Davies) {Yn edrych o gwmpas ar y muriau fel pe'n chwilio am rywbeth i siarad am dano.} |
|
|
|
(Mrs Davies) Ond fel wedes i o'r blan mae Mr. Price yn dda iawn, ag yn wastod yn folon rhoi cyngor i fi mewn materion fel hyn. |
(1, 0) 384 |
Mari a Jim yn edrych ar ei gilydd yn anobeithiol. |
|
(Jim) Dyna fotor car neis mae e wedi i brynnu nawr. |
|
|
|
(Mari) Odyn nhw wdi 'mygagio? |
(1, 0) 411 |
Swn llestri te oddiallan. |
|
(Mrs Davies) We—el—y |
|
|
|
(Mrs Davies) Sh—sh! |
(1, 0) 415 |
Adelina yn dyfod i mewn gyda tray a lliain. |
|
(Mrs Davies) {Wrth Adelina.} |
|
|
|
(Mrs Davies) Ond, dyna fe, mae nhw'i gyd fel na, yn meddwl am ddim ond am i pleser i hunen. |
(1, 0) 424 |
Yn y cyfamser, rhydd Adelina y tray ar un bwrdd bach, a'r lliain a'r cwpanau ar y llall). |
|
(Mrs Davies) Yn ni'n wastod yn cal yn te fel hyn nawr. |
|
|
|
(Adelina) Do, mae nhw lawr yn y gegin. |
(1, 0) 433 |
Adelina yn mynd allan ac yn dyfod yn ol gydau phlat bara menyn a theisen ar stand. |
(1, 0) 434 |
Jim a Mari yn dechrau edrych yn gynhyrfus. |
(1, 0) 435 |
Mrs Davies yn tywallt y te, a thra mae hi wrthi edrych Mari ar Jim yn awgrymiadol, a nodia arno. |
(1, 0) 436 |
Saif Adelina wrth y bwrdd). |
(1, 0) 437 |
Jim |
|
(Mrs Davies) {Yn edrych i fyny mewn syndod.} |
|
|
|
(Adelina) Do, mae nhw lawr yn y gegin. |
(1, 0) 439 |
Modryb Mary Ja—y—y—Auntie Mary-y 'ry'n ni'n falch iawn i glywed am Adelina a Mr. |
(1, 0) 440 |
Price—y—y achos mae Mari Myfanwy a fi wedi bod yn meddwl—y—y—yn meddwl—am ddechre cadw ty gyda'n gilydd, cyn bo hir. |
|
(Mrs Davies) {Yn edrych i fyny mewn syndod.} |
|
|
|
(Mari) Odw, os gwelwch yn dda. |
(1, 0) 449 |
Adelina yn pasio cwpan i Fari ac un i Jim. |
(1, 0) 450 |
Ceisia Jim ddal ei gwpan a'i soser a'i blat ar ei lin, ond rhydd i fyny'r ymdrech, a dyry ei gwpan a'i soser ar lawr wrth ei ymyl, gan godi ei gwpan oddiar y llawr bob tro y bydd yn yfed. |
(1, 0) 451 |
Deil Mari y cwbl ar ei glin gydag anhawster. |
(1, 0) 452 |
Rhydd Mrs Davies ac Adelina yr eiddynt hwy ar y bwrdd). |
|
(Adelina) {Gan estyn y stand.} |
|
|
|
(Mari) Tipyn o dishen, os gwelwch yn dda. |
(1, 0) 456 |
Adelina yn mynd a'r teisennau i Jim, a chymer ef damed o'r deisen arall. |
|
(Jim) Ond—y Auntie Mary—y—'roe'n ni'n gobeitho—y— |
|
|
|
(Jim) Na—dim a neb byth—ond Mari Myfanwy! |
(1, 0) 463 |
Mae Mari yn ystod yr holl amser hwn a'i holl feddwl ar ddal ei phlat, ei chwpan, a'r deisen. |
|
(Mrs Davies) A! dyna beth ych chi'n feddwl nawr, ond fyddwch yn siwr o newid ych meddwl. |
|
|
|
(Jim) Edrychwch ar— |
(1, 0) 482 |
Yn y fan yma mae plat Mari yn llithro i lawr addiar ei glin a phan yn ceisio ei ddal, gollynga ei chwpan, a chyll y te ar y carped. |
|
(Mari) Diws! |
|
|
|
(Mrs Davies) Adelina, Adelina; rhedwch, rhedwch i moyn clwtyn o'r gegin, a dewch a'r botel ammonia gyda chi. |
(1, 0) 487 |
Adelina yn rhuthro allan. |
(1, 0) 488 |
Mrs Davies yn dechreu sychu'r te a'i chadach poced. |
(1, 0) 489 |
Mari yn sefyll yn ymyl, yn edrych yn druenus. |
|
(Mrs Davies) Carped ych tad druan a gostodd gyment iddo yn Shop Ben Evans. |
|
|
|
(Mrs Davies) A 'rwi'n siwr nag wi ddim yn gwbod shwd i gal un arall a meddwl gyment o arian rwy'n gorfod dalu mas ddydd ar ol dydd. |
(1, 0) 494 |
Adelina yn dyfod i mewn gyda'r clwtyn a'r botel. |
|
(Adelina) O, ma, mae'r carped wedi spwylo! |
|
|
|
(Mrs Davies) Beth wnawn ni? |
(1, 0) 499 |
Adelina yn penlinio ar lawr ac yn cynorthwyo. |
(1, 0) 500 |
Mrs Davies yn codi i fyny. |
|
(Adelina) Odd Miss Dalrymyle-Jones yn wastod yn disgusted iawn os bydde un o'r merched yn colli i the ar y carped. |
|
|
|
(Mrs Davies) Adelina, well i chi sychu gwn Miss Williams. |
(1, 0) 508 |
Adelina yn sychu gwn Mari Myfanwy. |
(1, 0) 509 |
Jim yn rhoi ei chwpan a'i soser ar y bwrdd ac yn ceisio trefnu'r y lle. |
|
(Jim) Dyna fe. |
|
|
|
(Jim) Dyna beth sy'n dod o gael te fel y Rowlandses! |
(1, 0) 513 |
A Jim i eistedd ar gadair yr ochr arall i'r ystafell gyferbyn a'r sofa. |
(1, 0) 514 |
Mrs Davies yn eistedd wrth y bwrdd eto, ac Adelina wrth ei hochr. |
(1, 0) 515 |
Eistedda Mari Myfanwy ar y sofa. |
|
(Mrs Davies) Ie, 'n enwedig os nag ych chi wedi arfer a manners dynon neis. |
|
|
|
(Mari) 'Rwi wedi cal itha digon. |
(1, 0) 520 |
Mrs Davies, Adelina a Jim yn mynd ymlaen gyda'u te. |
(1, 0) 521 |
Seibiant hir a lledchwith, a phob un yn edrych yn druenus). |
|
(Jim) I fynd nol at y busnes yna eto, Auntie Mary, odych chi'n cofio'ch siarad a mam y Nadolig dwetha? |
|
|
|
(Mari) Dewch, Jim! |
(1, 0) 548 |
Swn car modur i'w glywed oddiallan. |
|
(Mrs Davies) {Yn gynhyrfus.} |
|
|
|
(Mrs Davies) Adelina, rhedwch i agor y drws yn gloi. |
(1, 0) 555 |
Adelina yn rhedeg allan. |
|
(Mrs Davies) {Yn taro'r cwpanau te yn eu dwylo ac yn eu gwthio yn ol i'w llefydd.} |
|
|
|
(Mrs Davies) Fydde'n edrych yn od os byse fe'n meddwl bod ni'n ffrio. |
(1, 0) 560 |
Eisteddant i lawr wedi eu syfrdanu. |
(1, 0) 561 |
Daw Sam Price i mewn a dilynir ef gan Adelina. |
(1, 0) 562 |
Dyn deugain oed ydyw, yn gwisgo dillad o liw tarawiadol, gwasgod wen, spats, a modrwy). |
|
(Sam) {Mewn llais uchel soniarus.} |
|
|
|
(Mrs Davies) Mae'n oer reit heddy. |
(1, 0) 571 |
Nodia Sam ar Jim, ac ysgwyd law gyda Mari. |
|
(Sam) Rwi'n nabod Miss Mari Myfanwy yn dda iawn. |
|
|
|
(Sam) Shwd ych chi? |
(1, 0) 574 |
Eistedda ar y sofa yn ymyl Mari Myfanwy, a gwna lygaid arni. |
|
(Mrs Davies) Ddewch chi ddim ar bwys y tan? |
|
|
|
(Mrs Davies) Adelina, dodwch de ffresh yn y tepot, a dewch ar teacakes nethoch chi'r bore 'ma lan. |
(1, 0) 577 |
Adelina yn mynd allan. |
|
(Sam) Wel, Mrs. Davies, mae dipyn o amser er pun fues i yma o'r blan. |
|
|
|
(Sam) Dim joke yw e, rwi'n siwr. |
(1, 0) 586 |
Edrych Jim yn anesmwyth. |
(1, 0) 587 |
Ceisia gael sylw Mari. |
|
(Mrs Davies) Rwi'n ffond iawn o aros yn y Gwalia yn hunan. |
|
|
|
(Sam) Fydd y dyn gaiff hi yn lwcus! |
(1, 0) 607 |
Daw Adelina i mewn gyda'r te, a rhydd ef ar y bwrdd. |
|
(Mrs Davies) Dyma'r te. |
|
|
|
(Sam) Nawr, Miss Mari Myfanwy, raid i chi yn helpu i i ddewis pishin neis. |
(1, 0) 625 |
Cymerant arnynt edrych at y plât, gyda'u pennau yn agos iawn at ei gilydd. |
|
(Sam) Dyna bishin mawr neis yr olwg! |
|
|
|
(Mari) Raid i chi gymryd yr ucha. |
(1, 0) 631 |
Chwarddant uwchben y plat. |
(1, 0) 632 |
Mae Adelina yn cipio'r plat i ffwrdd, ac yn chwyrlio yn ol at y bwrdd. |
|
(Mrs Davies) Mr. Price, odi'ch te chi'n ddigon melys? |
|
|
|
(Sam) Rwi'n berffeth hapus, thank you. |
(1, 0) 637 |
Yn ail ddechreu siarad a Mari Myfanwy, Mrs. Davies yn edrych yn ffyrnig ac yn ceisio tynnu sylw Jim at Fari Myfanwy.) |
|
(Mrs Davies) {Yn uchel.} Gesoch chi dywydd ffein yn Llandrindod, Mr. Price? |
|
|
|
(Mari) Shteddwch lawr, Jim. |
(1, 0) 655 |
Jim yn eistedd i lawr ac yn cuchio mwy. |
(1, 0) 656 |
Llygaid Mrs. Davies yn serennu gan ffyrnigrwydd. |
|
(Mrs Davies) {Yn nodio at y lle gwag ar y sofa.} |
|
|
|
(Mrs Davies) Shteddwch lawr, Adelina. |
(1, 0) 659 |
Adelina yn eistedd i lawr yn ufudd. |
|
(Sam) "A rose between two thorns" ys dywed y Sais. |
|
|
|
(Mari) Raid i chi gwylio hi. |
(1, 0) 735 |
Siaradant ymlaen gyda'i gilydd a chwarddant gyda'u pennau yn agos at ei gilydd. |
(1, 0) 736 |
Edrych Mrs. Davies a Jim arnynt yn anobeithiol o ffyrnig. |
|
(Mrs Davies) {Wrth Jim.} |
|
|
|
(Mari) Mae deryn mewn llaw yn werth doi mewn llwyn. |
(1, 0) 779 |
Mae Mrs. Davies heb ddwedyd gair yn mynd at y bureau yn tynnu allan focs cadw arian, ac yn cyfri arian nodau yn gwneud y swm o £100. |
(1, 0) 780 |
Daw a hwy i Fari Myfanwy, gwthia hwynt i'w llaw. |
|
(Mrs Davies) Dyna! |
|
|
|
(Mari) Chi ydi 'nghariad i, wedi'r cwbl, ond rown i wedi penderfynu cal y canpunt 'na! |
(1, 0) 805 |
Y ddau yn mynd allan. |
(1, 0) 806 |
~ |
(1, 0) 807 |
LLEN |