Drama un-act

Y Canpunt (c1930)

Margaret Price, Kate Roberts, a Betty Eynon Davies

Ⓗ Margaret Price, Kate Roberts, Betty Eynon Davies
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



SCENE.—Drawing room yn nhy Mrs. Davies, wedi ei dodrefnu yn wych gyda chlustogau, lampshades, paintings ar y mur, dau fwrdd bychan wedi eu hulio ag ornaments, sofa. Ar y mur mae darlun o ddyn sydd ymlaen mewn dyddiau.

AMSER.— Rhwng pedwar a chwech yn y prynhawn.

Adelina—wedi ymwisgo yn hardd er mwyn yr achlysur—yn agor drws y drawing room i Jim Davies a Mari Myfanwy—y ddau yn eu dillad dydd Sul, Mari Myfanwy yn gwisgo het a phlufen wedi ei gosod arni ar osgo ryfedd, a gwisg o liw goleu-tarawiadol. Mae'n gwisgo esgidiau uchel a menyg tywyll am ei dwylo.

Adelina

(Mewn llais mursenaidd.) I'm sorry ma's not down. She always puts her feet up after dinner, and we didn't expect you so early.



Yn edrych ar Fari Myfanwy o'i phen i'w thraed tra yn siarad.

Jim

Erbyn pedwar wedodd Modryb Mary Jane inni ddod, a mae'n hynny nawr. (Yn edrych ar ei watch).

Adelina

Well, will you sit down, Miss Williams. I hope you'll excuse me not staying here with you, but I have to go and help ma to dress. You see, Blodwen, the girl, is in bed with a swollen face.

Jim

(Yn ddiamynedd.) Siaradwch Gymraeg, ferch. D'yw Mari Myfanwy ddim yn deall llawer o Sysneg.

Adelina

(Gyda chwerthin bach mursenaidd.) I'm afraid I've forgotten most of my Welsh, and I never did know much.

Jim

(O dan ei anadl.) Dyna gelwydd!



Mari Myfanwy yn eistedd i lawr ar ymyl cadair ac Adelina yn edrych o'i chwmpas.

Adelina

Here's an album. I think there are some photos of the family in it you might like to see, or perhaps you would like to look at this "Views of Llanelly".

Jim

O, fyddwn ni yn all right. Mi wnawn ni'n hunen yn gartrefol.



Adelina yn mynd allan.

Mari

(Yn rhoi ochenaid o ryddhad.) Un felna yw 'i mam?

Jim

O, dyna 'i ffordd nhw. Mae'n dda gen i bod hi wedi'n gadel ni wrth yn hunen, achos mae ishe arna i ichi gael golwg dda ar y rwm 'ma.



Mari Myfanwy yn codi ac yn cerdded o gwmpas i edrych ar y pethau yn yr ystafell.

Mari

O, dyna grand! Mae'n raid bod nhw'n gyfoethog

Jim

(Yn pwyntio at y darlun.) Dyna n'ewyrth Richard. Odd e'n gwbod ffordd i neud arian, ta beth. Dechreuodd fel bachgen negesi heb ddim ysgol, ac yn awr edrychwch ar y lle 'ma i gyd! (Yn troi ei fraich o gwmpas.) Mor wahanol i nhad druan. 'Rodd n'ewyrth yn ddyn clefer iawn.

Mari

(Yn codi ornament i fyny ac yn edrych arno.) O, drychwch, Jim, ond yw hwn yn bert?

Jim

Er mwyn popeth! dodwch hwnna i lawr. 'Rych yn siwr o'i dorri e.

Mari

(Yn edrych arno yn syn.) Beth sy' mater arnoch chi? (Rhydd yr ornament i lawr.)

Jim

(Yn edrych ami o'i phen i'w thraed fel pe na byddai ei gwisg wrth ei fodd.) Dyna dreni i chi ddodi'r hat yna lan. 'Rwi'n siwr y bydde Modryb Mary Jane yn meddwl y bydde'r sailor hat 'na yn ych taro chi'n well.

Mari

Diws anwyl! Alla i ddim gwishgo beth wi'n lico. (Mewn ton ddigalon.) Rown i'n meddwl ych bod chi'n wastod yn lico'r hat hyn. Jim Sh-sh-sh! Pidwch a iwso'r gair yna o flan Modryb Mary Jane. Fydd hi'n ffilu deall lle gesoch chi'ch magu. Pwff! Geso' i'n magu yn well na hi ta beth! Dim ond yr hen Ddaniel Trwyn Coch oedd i thad hi, wedi'r cwbwl.

Jim

(Wedi dychryn.) Pidwch a siarad felna. Mae miloedd o bunnau gyda Modryb Mary Jane.

Mari

(Yn uchel ei ffroen.) Lwc na chafodd i thad ddim gafael ynddyn nhw i roi rhagor o baent ar ei drwyn!

Jim

O ddifri nawr, Mari Myfanwy, rwi'n moyn ichi gofio popeth rwi wedi weud wrthoch chi, achos 'rwi'n moyn i chi neud argraff dda ar Modryb Mary Jane. Pidiwch ag edrych mor nervous, ferch!

Mari

(Yn chwarae gyda'i menyg ac yn edrych yn anghysurus.) Mi 'naf fy ngore, Jim. Beth wedsoch chi wrtho i?

Jim

'Stim dress arall gyda chi?

Mari

(Mewn syndod.) Dim ond un ddu wi'n wishgo mewn angladde.

Jim

Treni na fyddech chi wedi dodi hono mlan. Fydde hi ddim yn dishgwyl mor—mor—

Mari

(Yn frathlyd.) Beth?

Jim

Flighty!

Mari

(Yn edrych yn sur.) O!

Jim

(Yn edrych yn anfoddog ar ei thraed.) Dyna'ch sgitshe gore chi?

Mari

(Yn edrych arno mewn syndod.) Beth yw hynny i chi?

Jim

Dim. Ond ro'n i'n meddwl y bydde Modryb Mary Jane yn meddwl y bydde nhw dipyn yn glumsy i'w drawing room. Dyna dreni na ddodsoch y rhai arall!

Mari

(Yn gwta.) Allse 'ni ddim. Oe'n nhw wedi mynd i gael i tapo. Os nag yw nillad i digon da i'ch hen fodryb Mary Jane, well i fi fynd sha thre'. Ma'r traed sy'n gwishgo'r sgitshe hyn lawer yn well na thraed merch yr hen Ddaniel Trwyn Coch. 'Rwi ddim yn mynd i aros yma i gael fy sengi dan drad.



Cyfyd ei scarf ac â tua chyfeiriad y drws.

Jim

(Yn ei dilyn.) Mari fach, arhoswch. Dim ond moyn i narpar wraig edrych i gore'w i. Mae hynny yn ddigon naturiol.

Mari

Allwch chi weud hynny!

Jim

(Yn cydio yn ei braich.) Dewch 'nol. Ych 'chi ddim yn moyn towli canpunt bant, odi chi?

Mari

(Yn wawdlyd ac yn stopio.) Canpunt? Pwy ganpunt? Odi'ch modryb yn mynd i roi canpunt i fi am wishgo y'n sailor hat, a'n dress ddu, a'n sgitshe gore? Nonsense!

Jim

(Yn ddifrifol.) Odi chi'n moyn inni briodi, Mari Myfanwy?

Mari

Wrth gwrs. Pidiwch a bod shwd ffwl!

Jim

Wel, brodwn ni byth os na allwn ni gael y canpunt mas o Modryb Mary Jane.



Maent yn symud yng nghyfeiriad y sofa.

Mari

(Gyda mwy o ddiddordeb.) Beth yw y canpunt 'na ych chi'n son am dano? Pam na wedsoch chi wrtho i am dano o'r blan?



Mae'r ddau yn eistedd ar y sofa.

Jim

Oe'ni ddim moyn y'ch gwneud chi yn nervous.

Mari

Cerwch ona, chi a'ch sgitshe, a'ch hat sailor, a'ch dress ddu! Gwedwch wrtho i ar unwaith. Oes ar ych modryb ganpunt i chi?

Jim

Wel, dim yn gwmws. Ond fe addawodd 'newyrth Richard i nhad druan y rhoise fe start imi, ond odd e ddim wedi dodi hynny yn i wyllys.

Mari

Y hi gadwodd e mas!

Jim

Ond pan oedd e ar i wely ange gofynnodd i modryb roi canpunt i fi, a gwnath iddi addo hynny o flan Mr. Jones, Siloh, a thri o'r blanoriaid, a 'newyrth Rhys, a Mrs. Evans, a mam.

Mari

A 'dyw'r hen scriw ddim wedi talu nhw eto?

Jim

(Yn ddigalon.) Nag yw.

Mari

Falle na wnaiff hi ddim nawr.

Jim

Fydd raid iddi rywbryd, achos fe glywodd y bobl hyn i gyd, a bydd arni gwiddyl bido. A'r unig beth sydd ofan arna i yw iddi gadel nhw imi yn i hewyllys, a dos dim golwg marw'n gloi arni—'dyw hi ddim ond hanner cant nawr.

Mari

(Yn wangalon, ond mewn llais uchel.) A mi fu Mari Daniel Trwyn Coch fyw i fod bedwar ugen!

Jim

Sh-sh-sh! Pidwch a gweiddi ne falle clywe nhw chi.

Mari

Pam 'ych chi wedi bod mor hir heb drio cal y canpunt?

Jim

Mae mam wedi bod yn trio o ar pan own i yn ddeuddeg. 'Roedd hi'n moyn hala fi i'r County; ond d'oedd e ddim iws. Allse'n fod yn teachio 'na erbyn hyn.

Mari

O, dyna hen fenyw glos yw hi!

Jim

Fasen haws symud y Darren na chal arian oddiwrthi hi.

Mari

Stim o hi wedi rhoi dim i chi?

Jim

Blwyddyn wedi marw 'newyrth, a'th mam i ofyn iddi am y canpunt, ond wedodd hi i bod yn rhy dorcalonnus i feddwl am fusnes, yn enwedig busnes y 'newyrth. A 'rodd hi fel yna am dair blynedd.

Mari

A fase ni'n rhyfeddu dim i bod hi'n mynd bob dydd Sadwrn i Abertawe i'r theatre, a thair gwaith yr wthnos i'r pictiwrs.

Jim

A mae mam yn mynd bob cwarter i'w hadgoffa hi, ond yn lle'r arian mae'n rhoi presents ifi—un bob Nadolig, ac un ar fy mhenblwydd.

Mari

Beth ma hi wedi roi i chi?

Jim

Dyna'r watch 'ma. (Yn tynnu ei watch allan.)

Mari

(Yn edrych arni yn wawdlyd.) Ingersoll's, Coron. Yn mynd bob tro ych chi'n mynd.

Jim

Dyma'r hancsher shidan 'ma. (Yn tynnu allan ei gadach poced.)

Mari

Shidanyn wir! Mercerised.

Jim

Rhos rhyw lyfr imi hefyd. "Life of Spurgeon" oedd i enw e.

Mari

Oedd hwnnw ddim yn newydd pan gesoch chi e. Gweles fod yr enw wedi cael i rwbo mas.

Jim

Wedyn, dyna'r tie—a'r—photo frame—a'r box matches—a'r—pwrs sofrin, a'r llun Oueen. Victoria, a'r—

Mari

Pwff! Lot o hen rwbish wedi i prynnu yn Woolworth's. Oen ni wedi bod yn rhyfeddu lle cesoch chi nhw.

Jim

O ie—a photel o beth i dyfu gwallt.

Mari

Mae digon o wallt 'da chi to beth, heb yr hen stwff 'na. Falle taw peth ar ol ych ewyrth oedd e.

Jim

Cerwch ona, ferch. Fyse diacon dim yn iwso stwff fel na.

Mari

Wi i ddim yn gwbod, Jim Davies. Rwi'n meddwl withe fod diaconied r'un peth a rhyw bobl arall, just fel chi a finne, ac yn colli i gwallt fel pobl arall. Ond pam ych chi'n meddwl y bydd hi'n rhoi y canpunt nawr?

Jim

Wel, pan ath mam i weld Modryb Mary Jane Nadolig dwetha, gwnath iddi addo rhoi y canpunt i fi i ddechreu cadw ty pan briodwn.

Mari

Wel, mae hynny'n all right, odi e ddim?

Jim

(Yn ddiysbryd.) Odi, ond ar yr amod i bod hi yn lico'r ferch.

Mari

(Yn ostyngedig.) O, ych chi'n meddwl y bydd hi yn fy lico i?

Jim

Wel, mae hynny'n dibynnu arnoch chi.

Mari

O! (Yn drist.) Dyna dreni i chi newis i, Jim.

Jim

O dyna nonsense, Mari fach. (Yn rhoddi ei fraich am dani.) Gwell 'da fi'ch cal chi heb y canpunt na'r canpunt heboch chi.

Mari

Ych chi'n siwr, yr hen gariad? Beth wnawn pan gawn i e?

Jim

Wel, ych chi'n 'nabod Dai Jones, Cwmllynfell? Mae e'n meddwl starto Cinema lan yn Clare Road, a mae e'n moyn ifi fentro tipyn o arian ynddo. Ond oes dim gyda fi i spario os na allwn i gal e mas o Modryb Mary Jane.

Mari

O, Jim, ych chi'n meddwl fod e'n saff?

Jim

(Yn frwdfrydig.) Saff? Odi. Pam, dyna ni wedi gwneud ein ffortiwn os allwn ni gal gafel yn y canpunt'na. Edrychwch nawr ar y Royal. Mae'r bechgyn startodd y Cinema 'na wedi gwneud tunelli o arian, a Dai Jones yw'r bachgen smarta' yn y Cwm. Byddwn yn gallu cael drawing room fel hyn un diwrnod ryfedde ni ddim.

Mari

O, Jim, alla'i gredu hynna?

Jim

Allwn gadw morwyn, a falle gawn ni motor bike a side car!

Mari

Pidwch a chyfri'ch cywion cyn bod nhw'n dod lawr, machgen i. Mae'r canpunt gyda'ch modryb hydyn hyn.

Jim

(Yn ochneidio.) O, ie, rhaid ifi gofio hynny.

Mari

Falle bydde'n well i chi weud wrtho i swd i bleso'ch modryb.

Jim

Wel, yn enw popeth, pidwch a gweud gair am ych bod yn Fethodist, all hi ddim godde i gweld nhw o ar y Bazaar 'na.

Mari

(Yn frwd.) Mae'r Methodistiaid cystal a neb, ac yn well na rhai pobl fel y—

Jim

(Yn torri ar ei thraws.) Odyn, odyn, ond meddwl di am y canpunt, Mari fach.

Mari

O, ro 'ni wedi anghofio. Cerwch ymlan.

Jim

A chymrwch ofal na wedwch air am y ty newydd 'na yr ochr arall i'r hewl.

Mari

Pam?

Jim

Achos taw Ezra Morgan sydd yn i fildo fe a'r arian gas e ar ol i ewyrth William, a 'rodd i wraig e yn arfer bod yn forwyn yma. Y mae Modryb Mary Jane yn cadw'r blinds lawr rhag iddi weld e.

Mari

(Yn wawdlyd.) Peth od nag yw hi'n byw yn y back!

Jim

A chofiwch pidwch gweud dim am rhubarb wine—nag am Woolworth's—nag am scadenyn coch —nag am bazaars—nag am Daniel Trwyn Coch.

Mari

Ond am beth ga i siarad, te?

Jim

Nid am y pethe yma, ta beth. A ma'n rhaid i finne hefyd beidio i galw hi yn '' Modryb Mary Jane." All hi ddim godde hyny. Mae hi yn dishgwl i fi i galw hi yn "Auntie Mary."

Mari

Falle fydde'n well ifi gaead y mhen.

Jim

O, raid i chi siarad, a falle se'n well i chi gadw ych traed o dan y sofa yn lle bod hi'n notishio ych sgitshe.

Mari

(Yn tynnu ei thraed yn sydyn dan y sofa.) Pidwch a siarad rhagor am yn sgitshe. Mae nhw dri size yn llai na sgitshe yr hen Adelina 'na.

Jim

(Yn gwynfannus.) Ond y canpunt, ynghariad i!

Mari

O, ie, roe'n i wedi anghofio yr hen ganpunt. Pe baech yn gofyn imi lyncu'n hat am y canpunt 'na, bydde rhaid i fi neud hynny.

Jim

Meddylwch am yn cartre bach ni, Mari fach.

Mari

(Yn curo ei dwylo ynghyd mewn gorlawenydd.) O, ie!

Jim

O, ie, peth arall. Raid i chi weud rhwbeth neis am bictiwrs Adelina. Fydd hynna yn pleso Modryb Mary Jane yn fwy na dim. A mae nhw'n rhai pert hefyd, chware teg.

Mari

(Fel pe byddai'n dwedyd cyfrinach.) Fyse'n i ddim yn rhyfeddu bod eich modryb ishe chi iddi Hadelina.

Jim

(Wedi dychryn.) Cato'n pawb, na! Rhyw sar fel fi! (Yn plygu yn agos ati ac yn siarad mewn ton gyfrinachol.) Ych chi'n nabod Sam Price sy' bia Gwaith Glo Cors-y-Bryniau?

Mari

(Yn dechreu chwerthin.) Pwff, yr hen fflirt mawr 'na.

Jim

Sh-sh-sh! Mae gan welydd glustie. Mae hi wedi bod yn rhedeg ar i ol e, o ar bod y gwaith wedi dechreu talu i ffordd.

Mari

Pwy wedodd wrthoch chi?

Jim

Mam. Mae Modyrb Mary Jane bron a marw ishe i gal e fel mab yn nghyfreth, yn enwedig nawr fod motor car ganddo, ond yn ol y marn i, mae e'n dderyn rhy hen i ddal.

Mari

(Yn chwerthin.) Odi'n wir! Mae e'n cael dipyn o sport gyda'r merched. Pam, y ffair ddwetha i gyd, fe tretodd fi ar y Gondolas, ac i Show y Lions, a phrynnodd brandy snaps i fi, ac Ystalyfera Rock, a grapes, a 'rodd e mor garedig pan bigodd pigwnnen fi.

Jim

(Yn edrych yn ddu.) Tro cynta i fi glywed am hynny!

Mari

Pwff, paid bod mor jealous. Beth oeni i neud? Alle chi ddim dod gyda fi. A pheth arall, 'rodd e mor neis!



Jim yn troi ei wyneb ymaith ac yn edrych yn guchiog. Mari Myfanwy yn troi ei golwg arno unwaith neu ddwy.

Mari

O, all right! Mae mwy o bysgod yn y mor nag a ddaliwyd. (Yn tynnu ei hat i ffwrdd.) Falle fydde'r plyfyn yn edrych yn fwy genteel pe bawn i'n ddodi e dipyn yn ish lawr. Dim ond wedi i binno mae e.



Mae'n codi ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad y drych uwchben y tan. Rhydd yr het ar gadair, a dechreua dacluso'i gwallt o flaen y drych. Tra mae hi wrthi daw Mrs Davies i mewn, yn gwisgo gwn sidan du, locedi a chadwyni aur, etc. Dilynir hi gan Adelina. Saif Mrs Davies yn y drws i wylio Mari Myfanwy. Mae Jim mewn cyni.

Mrs Davies

(Dan ddyfod i mewn.) O, James, so you've brought your friend?



Mari yn troi.

Jim

(Yn sefyll i fyny.) Oh—Modryb Mary Ja—Auntie Mary! Dyna Mari Myfanwy Williams.

Mrs Davies

How do you do, Miss Williams?



Yn ysgwyd dwylo. Ni ddwed Mari ddim.

Mrs Davies

(Yn oeraidd.) I'm glad you've made yourselves at home. Adelina, take Miss Williams's hat upstairs. There's nothing so untidy as clothes lying about the drawing room.



Mae Adelina yn mynd gymeryd yr hat, ond cipia Mari hi, dyry'r blufen arni yn gam, ac yna rhydd hi am ei phen.

Jim

(Yn gynhyrfus.) Dim ond dodi i gwallt yn i le odd Mari Myfanwy.

Mrs Davies

Please sit down, Miss Jenkins.



Adelina yn mynd allan.

Mari

Williams. (Yn eistedd ar y sofa wrth ochr Jim.)

Mrs Davies

Oh, yes, Williams (Seibiant lledchwith.) Have you visited this neighbourhood before, Miss Williams?

Mari

(Mewn dychryn.) I—I—not—

Jim

(Yn gyflym.) 'Dyw Mari Myfanwy ddim yn siarad llawer a Sysneg, Modryb Mary Ja—Auntie Mary. Mae hi'n dod o Cwm Llyffannod. Fysech chi mor garedig a siarad yn Gymraeg, os gwelwch yn dda?

Mrs Davies

(Mewn syndod.) Dim yn siarad Sysneg? Dyna beth od! Fel arall mae hi 'da Adelina. (Yn ymfalchio.) Mae ofan arna i bod hi wedi anghofio rhan fwya o'i Chymraeg o ar pan a'th hi i'r private school—The Ferns, Porthcawl. Odd Miss Emmeline Dalrymple Jones byth yn gadel i'r merched siarad Cymraeg. Odd hi'n meddwl fod Sysneg yn fwy genteel.

Jim

O, yn wir?

Mrs Davies

Ydych chi wedi bod y ffordd hyn o'r blan, Miss Williams?

Mari

(Gydag atal-dweyd.) Fues yma unwaith mewn Cyrdde Mawr gyda'r Methodistiaid, a geson bregethe da iawn. Mae pregethwyr da gyda'r Methodistiaid. [Yn stopio yn sydyn ac yn rhoddi ei llaw ar ei genau.}



Jim yn edrych yn druenus i'r eithaf. Mari yn edrych arno yn erfyniol.

Mrs Davies

(Yn anfoddog.) Felly wir?

Jim

(Yn anobeithiol.) Mae pregethwyr da iawn gyda'r Annibynwyr hefyd.



Seibiant anghyffyrddus, a rhydd Mari ei thraed allan. Ar ol ceisio cael ei sylw drwy besychu rhydd Jim bwniad i Mari. Mae hithau yn dychryn ac yn taro ei thraed yn ol dan y sofa.

Mrs Davies

(Yn edrych o gwmpas ar y muriau fel pe'n chwilio am rywbeth i siarad am dano.) A ydych chi'n paento, Miss Williams?

Mari

(Yn rhwbio ei grudd.) Nag w i.

Mrs Davies

(Yn ymfalchio.) Mae Adelina yn paento yn spendid.

Mari

Mae digon o liw 'da fi yn naturiol. (Yn dodi ei llaw ar ei genau.) O!

Mrs Davies

(Yn ffroenuchel.) Meddwl am bictiwrs yr oen ni. Baentodd Adelina y pictiwrs hyn i gyd mewn mish. (Yn pwyntio at y darluniau ar y mur.)

Jim

Mae hi bound o fod yn glefer!

Mari

(Yn pwyntio at un.) Dyna un pert yw hwnna! Beth yw e?

Mrs Davies

Dyna bainting o Aber Falls. Baintodd Adelina hwnna pan oedd hi lan yn North Wales yn aros gyda Miss Rowlands, merch Mr.Rowlands, J.P., ffrynd mawr i Lloyd George. Miss Rowlands odd i ffrynd mwya hi yn y Ferns. Mae 'da nhw olwg fawr ar Adelina yng nghartre Miss Rowlands. O, dyna bobl genteel, neis ŷ nhw. (Gyda phwyslais.) A thri motor car!

Mari

(Yn edrych ar y darlun.) Mae'n bert hefyd. Weles un yn gwmws 'run peth yn Ben Evans, a 'rodd e'n costu 9s 11d. (Yn cofio.) O—o!

Mrs Davies

(Yn flin.) 9s 11d yn wir! Halodd Adelina un fel 'na i ryw Fazaar, a 'rodd wedi i farco yn bum punt, a 'rodd Mr. Sam Price yn gweud fod hynny'n lawer rhy chep, i fod yn werth degpunt.

Mari

(Gan gymryd arni fod yn ddiniwed.) Brynodd Mr. Price e?

Mrs Davies

Naddo. 'Dyw e ddim yn moyn pictiwrs eto. (Yn gwenu yn arwyddocaol.)

Jim

Mr. Sam Price o Gors-y-Bryniau?

Mrs Davies

Ie, ie. Mae e'n dod yma mor fynych, mae e fel mab i fi. Wn i ddim beth fydde ni neud hebddo fe. Mae'n help mawr i fi gyda materion busnes. Ych chi'n gwbod, mewn lle fel hyn mae dynon yn meddwl bod gwidw dlawd fel fi wedi i gwneud o arian. Gofyn, gofyn, gofyn yw hi o hyd, a rhyw gasgliad byth a hefyd. Rodd Richard druan lawer rhy garedig, a mae pobl yn dishgwl i fi gadw mlan yr un ffordd. Y dydd o'r blan, ofynson i fi roi pumpunt at Gapel Siloh, a wedes i wrthyn nhw wir nag odd hi ddim mor hawdd i ddodi 'ch law ar bumpunt ag oeddyn nhw yn meddwl. Ond fel wedes i o'r blan mae Mr. Price yn dda iawn, ag yn wastod yn folon rhoi cyngor i fi mewn materion fel hyn.



Mari a Jim yn edrych ar ei gilydd yn anobeithiol.

Jim

Dyna fotor car neis mae e wedi i brynnu nawr.

Mari

(Yn bwysig.) Ie. Jolls-Joyce yw e—y car mwya expensive alle neb gal. Mae Adelina yn wastod yn gweud wrtho i mor gyfforddus mae e—cushions o plush, a silver vase i ddodi y blode, a chloc bach—dyna glefer mae dynon 'nawr! Mae Adelina wedi bod sawl gwaith 'da fe yn y motor. Mae'n gweud i fod e'n gallu drifo yn splendid. (Yn frysiog.) Ar yr un pryd, mae chauffeur 'da fe. (Wrth Jim.) Y Mr. Price yna glywsom ni yn canu yn y concert ym Mhontardawe?

Jim

Ie, dyna fe.

Mrs Davies

Ie, mae llais beautiful 'da fe. Mae e ag Adelina yn fynych iawn yn canu duets mewn concerts. Mae i lleise nhw yn siwto i gilydd i'r dim. Mae Adelina yn gweud fod i lais e yn debyg iawn i lais Ben Davies, ond i fod e lawer yn well. Mae mwy a deimlad ynddo fe, ac i fi teimlad yw popeth. Dyna beth mae Adelina 'n feddwl hefyd, a mae hi'n gwbod dipyn am ganu achos fe gafodd hi y music masters gore yn y wlad pan odd hi yn y Ferns.

Mari

Mae'n neis i allu canu.

Mrs Davies

Mae e'n dod yma heno i gal practice. Mae nhw'n mynd i ganu duet mewn concert cyn bo hir— (Yn ymfalchio.) —mas o Opera Italian. Mae e'n wastod yn ol ac ymlan yma. Mae ofan arna i y bydda i'n colli fy merch fach un o'r dyddie nesa yma.

Mari

Odyn nhw wdi 'mygagio?



Swn llestri te oddiallan.

Mrs Davies

We—el—y (Yn nodio at y drws.) Sh—sh!



Adelina yn dyfod i mewn gyda tray a lliain.

Mrs Davies

(Wrth Adelina.) Druan fach, ych chi wedi blino, yn siwr. (Wrth Mari.) Ych chi'n gwbod, 'dyw hi ddim wedi arfer a gwaith ty. Ond fel ma'n digwydd, mae Blodwen, y forwyn, yn y gwely. Mae' i gwyneb hi wedi hwyddo. Wir, rw i'n meddwl withe i bod hi yn i neud e yn bwrpasol. Ond, dyna fe, mae nhw'i gyd fel na, yn meddwl am ddim ond am i pleser i hunen.



Yn y cyfamser, rhydd Adelina y tray ar un bwrdd bach, a'r lliain a'r cwpanau ar y llall).

Mrs Davies

Yn ni'n wastod yn cal yn te fel hyn nawr. Mae e lawer mwy genteel. Yn nhy y Rowlandses d'yn nhw byth yn meddwl am eistedd lawr wrth y ford i gal te.

Mari

(Yn syn.) Nag ŷn nhw, wir?

Mrs Davies

(Wrth Adelina.) A gesoch chi'r teacakes o shop Jones?

Adelina

Do, mae nhw lawr yn y gegin.



Adelina yn mynd allan ac yn dyfod yn ol gydau phlat bara menyn a theisen ar stand. Jim a Mari yn dechrau edrych yn gynhyrfus. Mrs Davies yn tywallt y te, a thra mae hi wrthi edrych Mari ar Jim yn awgrymiadol, a nodia arno. Saif Adelina wrth y bwrdd). Jim (Yn gynhyrfus, ac yn clirio ei wddf.) Modryb Mary Ja—y—y—Auntie Mary-y 'ry'n ni'n falch iawn i glywed am Adelina a Mr. Price—y—y achos mae Mari Myfanwy a fi wedi bod yn meddwl—y—y—yn meddwl—am ddechre cadw ty gyda'n gilydd, cyn bo hir.

Mrs Davies

(Yn edrych i fyny mewn syndod.) O yn wir, odi chi wedi cal rhiw job arall, achos rhaid i chi gal rhywbeth i fyw a chadw ty—a dyna 'ch mam hefyd?

Jim

Wel, mae Dai Jones o Cwmllynfell—ych chi'n nabod i dad e'n dda iawn—yn meddwl agor Cinema lan yn Clare Road. Mae e'n barnu fod e'n le splendid am fusnes, a mae e'n gweud os investa i ganpunt yn y busnes, fydd e'n siwr o dalu hanner cant y cant.

Mrs Davies

A, ond ŷch chi ddim yn ffindo canpunt yn tyfu ar bob draenen y dyddie yma. Fyse'n dda gen i allu dodi fy llaw ar ganpunt. Siwgr a llaeth, Miss Williams?

Mari

Odw, os gwelwch yn dda.



Adelina yn pasio cwpan i Fari ac un i Jim. Ceisia Jim ddal ei gwpan a'i soser a'i blat ar ei lin, ond rhydd i fyny'r ymdrech, a dyry ei gwpan a'i soser ar lawr wrth ei ymyl, gan godi ei gwpan oddiar y llawr bob tro y bydd yn yfed. Deil Mari y cwbl ar ei glin gydag anhawster. Rhydd Mrs Davies ac Adelina yr eiddynt hwy ar y bwrdd).

Adelina

(Gan estyn y stand.) Pun gymrwch chi, seed cake neu deisen whinberry?

Mari

Tipyn o dishen, os gwelwch yn dda.



Adelina yn mynd a'r teisennau i Jim, a chymer ef damed o'r deisen arall.

Jim

Ond—y Auntie Mary—y—'roe'n ni'n gobeitho—y—

Mrs Davies

(Yn torri ar ei draws.) 'Rych chi lawer rhy ifanc i feddwl am briodi. Fyddwch wedi newid ych meddwl mhen wech mis ynghynta, a fyddwch ych doi wedi cwmpo mewn cariad a rywun arall erbyn Nadolig nesa.

Jim

(Mewn tymer.) Na—dim a neb byth—ond Mari Myfanwy!



Mae Mari yn ystod yr holl amser hwn a'i holl feddwl ar ddal ei phlat, ei chwpan, a'r deisen.

Mrs Davies

A! dyna beth ych chi'n feddwl nawr, ond fyddwch yn siwr o newid ych meddwl. Faint yw'ch oedran chi, Jim?

Jim

(Yn gwta.) Dwy ar hugen, Modryb.

Mrs Davies

O, lawer rhy ifanc. A chithe, Miss Williams?

Mari

Un a'r hugen.

Mrs Davies

Wel, dim ond plant ych chi. Briodes i ddim nes own i'n naw a'r hugen, a digon cynnar hefyd. 'Does dim syniad gyda chi beth yw cadw ty.

Mari

Ond 'rwi wedi cadw ty nhad er pan own i'n beder a'r ddeg.

Mrs Davies

Beth oedd hynny, Miss Williams fach?

Jim

Mae Dai Jones yn gweud na fyddai ddim yn debyg o gal shwd chance eto. A 'dwi ddim moin i golli e.

Mrs Davies

Fase'n dda gen i allu rhoi canpunt yn y Cinemas 'na, er 'dyw Mr. Price ddim yn meddwl llawer o honyn nhw fel investment, ych chi byth yn gwbod ffordd tro nhw mas. Beth wyddoch chi, falle fydd Diwygiad—a gobeitho bydd e, medda i, mae digon o'i ishe fe—a ble fydd eich Dai Jones chi wedyn?

Jim

Dim llawer o ddanger i hynny ddigwydd, Modryb. Edrychwch ar—



Yn y fan yma mae plat Mari yn llithro i lawr addiar ei glin a phan yn ceisio ei ddal, gollynga ei chwpan, a chyll y te ar y carped.

Mari

Diws! Dyna fi wedi gneud hi nawr!

Mrs Davies

(Yn codi ac yn gwaeddi mewn cynnwrf.) Adelina, Adelina; rhedwch, rhedwch i moyn clwtyn o'r gegin, a dewch a'r botel ammonia gyda chi.



Adelina yn rhuthro allan. Mrs Davies yn dechreu sychu'r te a'i chadach poced. Mari yn sefyll yn ymyl, yn edrych yn druenus.

Mrs Davies

Carped ych tad druan a gostodd gyment iddo yn Shop Ben Evans. Talodd gyment a deg punt am dano, druan o hono.

Jim

Wel, Mari Myfanwy!

Mrs Davies

A 'rwi'n siwr nag wi ddim yn gwbod shwd i gal un arall a meddwl gyment o arian rwy'n gorfod dalu mas ddydd ar ol dydd.



Adelina yn dyfod i mewn gyda'r clwtyn a'r botel.

Adelina

O, ma, mae'r carped wedi spwylo! Gawn i'r stain bant byth.

Mrs Davies

Na chawn wir, a Mr. Price yn dod yma heno, a chwbl. Beth wnawn ni?



Adelina yn penlinio ar lawr ac yn cynorthwyo. Mrs Davies yn codi i fyny.

Adelina

Odd Miss Dalrymyle-Jones yn wastod yn disgusted iawn os bydde un o'r merched yn colli i the ar y carped.

Mari

O, mae'n flin iawn genni! Alla i'ch helpu chi?

Mrs Davies

Na allwch. All neb neud dim. Mae wedi spwylo nawr. Adelina, well i chi sychu gwn Miss Williams.



Adelina yn sychu gwn Mari Myfanwy. Jim yn rhoi ei chwpan a'i soser ar y bwrdd ac yn ceisio trefnu'r y lle.

Jim

Dyna fe. Mae'n all right nawr, Auntie Mary Dyna beth sy'n dod o gael te fel y Rowlandses!



A Jim i eistedd ar gadair yr ochr arall i'r ystafell gyferbyn a'r sofa. Mrs Davies yn eistedd wrth y bwrdd eto, ac Adelina wrth ei hochr. Eistedda Mari Myfanwy ar y sofa.

Mrs Davies

Ie, 'n enwedig os nag ych chi wedi arfer a manners dynon neis. A gymrwch chi ddishgled arall, Miss Williams.

Mari

Na, dim diolch... 'Rwi wedi cal itha digon.



Mrs Davies, Adelina a Jim yn mynd ymlaen gyda'u te. Seibiant hir a lledchwith, a phob un yn edrych yn druenus).

Jim

I fynd nol at y busnes yna eto, Auntie Mary, odych chi'n cofio'ch siarad a mam y Nadolig dwetha?

Mrs Davies

Pwy siarad? Fues i'n siarad a'ch mam y Nadolig dwetha?

Jim

(Mewn tymer.) Wel, do, wrth gwrs, pan wedsoch wrth mam y bysech yn rhoi y canpunt 'na adawodd 'newyrth i fi, pan oe'n i'n meddwl am briodi.

Mrs Davies

(Gyda phwyslais, yn edrych ar Fari Myfanwy.) Do, ond ar yr amod y byse ni yn lico'r ferch!

Jim

(Mewn tymer.) Mari Myfanwy yw y ferch anwyla yn y byd—yn gwitho'n galed—yn gallu canu fel yr eos—ac mae lot o gommon sense gyda hi—prin gan rai y dyddie yma. (Yn edrych ar Adelina.) A mae'n dda iawn i'w hen dad, a rwi'n meddwl bod chi'n angharedig iawn iddi, Modryb Mary Jane. Mae'n ddigon da i'r Prince of Wales i hunan. Beth sydd gyda chi yn i herbyn hi?

Mrs Davies

(Yn ddigllon iawn.) Llawer o bethe. Yn un peth, ma'n ferch i was ffarm, ac yn dod o'r lle ofnadw 'na, Cwm Llyffannod. All hi ddim siarad Sysneg a dall hi ddim behafio 'i hunan mewn cwmpni, a mae wedi spwylo'r carped gostodd ddeg punt i'ch Uncle Richard druan y flwyddyn cyn iddo farw.

Mari

(Yn codi.) Rwi'n credu y dyle ni fynd nawr. (Gyda theimlad.) Ryn ni wedi aros digon hir lle nad oes dim o'n ishe ni. Ag os gwas ffarm oedd y nhad, oedd e'n onest ta pun, a lawer mwy respectable na Daniel Trwyn Coch. (Mrs Davies yn codi mewn tymer). Cadwch ych hen ganpunt. Allwn ni neud yn brion hebddo, a byw yn gyfforddus. Dewch, Jim!



Swn car modur i'w glywed oddiallan.

Mrs Davies

(Yn gynhyrfus.) Dyna Mr. Price! Sefwch, sefwch! Pidwch a mynd nawr. Shteddwch lawr, shteddwch lawr. Adelina, rhedwch i agor y drws yn gloi.



Adelina yn rhedeg allan.

Mrs Davies

(Yn taro'r cwpanau te yn eu dwylo ac yn eu gwthio yn ol i'w llefydd.) Shteddwch lawr, shteddwch lawr! Gewch fynd ymhen cwpl o fynude. Fydde'n edrych yn od os byse fe'n meddwl bod ni'n ffrio.



Eisteddant i lawr wedi eu syfrdanu. Daw Sam Price i mewn a dilynir ef gan Adelina. Dyn deugain oed ydyw, yn gwisgo dillad o liw tarawiadol, gwasgod wen, spats, a modrwy).

Sam

(Mewn llais uchel soniarus.) Shwd ych chi, Mrs. Davies... Dyma fi wedi dod a'r duet i gal practice.

Mrs Davies

(Yn ffwdanus.) Rwi'n falch iawn i'ch gweld chi, Mr. Price. Dyma fy nai, James, a Miss Williams. Shteddwch lawr yma ar bwys y tan. Mae'n oer reit heddy.



Nodia Sam ar Jim, ac ysgwyd law gyda Mari.

Sam

Rwi'n nabod Miss Mari Myfanwy yn dda iawn. Shwd ych chi?



Eistedda ar y sofa yn ymyl Mari Myfanwy, a gwna lygaid arni.

Mrs Davies

Ddewch chi ddim ar bwys y tan? Adelina, dodwch de ffresh yn y tepot, a dewch ar teacakes nethoch chi'r bore 'ma lan.



Adelina yn mynd allan.

Sam

Wel, Mrs. Davies, mae dipyn o amser er pun fues i yma o'r blan. Rwi wedi bod yn Llandrindod er pan weles i chi ddwetha. Rown i yno am bythewnos, yn aros yn y Gwalia, a geso i amser splendid. Digon o ferched ifanc neis, Miss Mari Myfanwy, ond dim un mor neis a chi!

Mari

(Yn gwneud llygaid arno.) Cerwch ona, Mr. Price! Rych chi'n wastod yn rhy ffond o jocan!

Sam

Dim joke yw e, rwi'n siwr.



Edrych Jim yn anesmwyth. Ceisia gael sylw Mari.

Mrs Davies

Rwi'n ffond iawn o aros yn y Gwalia yn hunan. Rych chi'n cwrdd a shwd bobl genteel yna. Pan oedd Adelina a fi yn aros yna y llynedd, rodd yna dri M.P., doi stockbroker cyfoethog iawn o Lerpwl, deg o weinidogion, a'r Rowlandses o North Wales. Dyna pam aethon ni yna. Odi chi'n nabod Mr. Noah Rowlands, J.P., Mr. Price?

Sam

Na, 'dwi ddim yn cofio'r enw.

Mrs Davies

Wel, mae e'n adnabyddus iawn yn North Wales. Mae e'n ffrynd mawr i Lloyd George. Mae nhw'n meddwl y byd o Adelina. Oedd hi'n aros yna ddwy flynedd yn ol.

Sam

O, yn wir!

Mrs Davies

Mae Adelina yn hir iawn. Chi'n gwbod, Mr. Price, mae Blodwen, y forwyn, yn y gwely a'r ddanodd. Mae Adelina yn gorfod paratoi'r te. Mae'n lwcus bod hi wedi arfer a gwaith ty. Mae'n werth y byd. Wi ddim yn gwbod beth fydde ni'n wneud hebddi.

Sam

(Yn ddidaro.) Fydd y dyn gaiff hi yn lwcus!



Daw Adelina i mewn gyda'r te, a rhydd ef ar y bwrdd.

Mrs Davies

Dyma'r te. Adelina, powrwch ddishgled mas i Mr. Price.

Adelina

(Yn ceisio ennill edmygedd.) Siwgr a llaeth, Mr. Price?

Sam

Thank you. Tri lwmp os gwelwch yn dda. (Yn troi at Fari Myfanwy.) Rwi'n moin llawer o bethe melys achos wi mor sur yn hunan!

Mari

(Yn chwerthin.) O nagych, Mr. Price. Ych chi'n ddigon melys i fi, ta beth.

Mrs Davies

Fynnwch chi tea-cake, Mr. Price? Fe wnath Adelina y rhai hyn i hunan achos o'dd hi yn gwbod ych bod chi yn i lico nhw.

Sam

(Yn foesgar.) Yr oedd hynny yn neis iawn ynddi. (Daw Adelina a'r plat tea-cakes a saif o'i flaen.) Nawr, Miss Mari Myfanwy, raid i chi yn helpu i i ddewis pishin neis.



Cymerant arnynt edrych at y plât, gyda'u pennau yn agos iawn at ei gilydd.

Sam

Dyna bishin mawr neis yr olwg!

Mari

O, dyna un greedy ych chi! Chewch chi ddim o hwnna. Ble ma'ch manners chi? Raid i chi gymryd yr ucha.



Chwarddant uwchben y plat. Mae Adelina yn cipio'r plat i ffwrdd, ac yn chwyrlio yn ol at y bwrdd.

Mrs Davies

Mr. Price, odi'ch te chi'n ddigon melys? Adelina, rhowch ragor o laeth i Mr. Price. Rwi'n siwr nag os dim digon yn i de fe.

Sam

Rwi'n berffeth hapus, thank you.



Yn ail ddechreu siarad a Mari Myfanwy, Mrs. Davies yn edrych yn ffyrnig ac yn ceisio tynnu sylw Jim at Fari Myfanwy.)

Mrs Davies

(Yn uchel.) Gesoch chi dywydd ffein yn Llandrindod, Mr. Price? Gesoch chi lawer o golf?

Jim

(Yn codi ac yn cuchio.) Rwi'n meddwl bydde'n well i ni fynd, Modryb Mary Jane.

Mrs Davies

(Yn awchio am gael dywedyd.) Wel, 'dos dim llawer o amser cyn y train.

Jim

Dewch ymlan, Mari Myfanwy.

Sam

Mynd nawr? A finne ddim ond just wedi dod? Na, na, Miss Mari Myfanwy, ych chi ddim yn mynd i redeg bant nawr. Yn ni ddim yn mynd i'ch gadel chi, odyn ni, Mrs. Davies?

Mrs Davies

Mae nhw'n siwr o golli y 6-15, a dyna'r un dwetha.

Sam

'Dos dim ods. Fe gewch ride nol yn y nghar i.

Mari

O, diolch yn fawr, Mr. Price. Dyna neis! Shteddwch lawr, Jim.



Jim yn eistedd i lawr ac yn cuchio mwy. Llygaid Mrs. Davies yn serennu gan ffyrnigrwydd.

Mrs Davies

(Yn nodio at y lle gwag ar y sofa.) Shteddwch lawr, Adelina.



Adelina yn eistedd i lawr yn ufudd.

Sam

"A rose between two thorns" ys dywed y Sais.

Mari

(Yn ei slapio yn chwareus.) Cerwch ona, Mr. Price, yn galw draenen arno i. (Yn achosi iddo ollwng ei lwy.) O, Mr. Price, mindwch na gollwch chi 'ch te ar y carped! Edrychwch beth netho i. (Yn pwyntio at y llawr.)

Sam

O, rydyn ni'n doi yn yr un bocs. (Yn garuaidd.) Rwi'n lico bod yn yr un bocs a chwi. .

Mrs Davies

(Yn uchel.) O, ry ni'n edrych ymlan i'ch clywed chi'n canu yn y concert y mish nesa. Odi chi wedi dod a'ch copy gyda chi, Mr. Price? Mae Adelina wdi bod yn practiso bob dydd.

Adelina

Rwi'n meddwl bod e'n bert iawn, ond wi ddim yn gwbod e eto.

Mrs Davies

Wel, well i chi bractiso nawr. Mae'r piano yn barod, a licsen i i'ch clywed chi'n fawr Mr. Price. 7; SAM PRICE Mae arna i ofan na alla i ddim canu heno, Mrs. Davies. Y ffaith amdani yw, bod annwyd mawr arna'i. (Yn pesychu ac yn clirio ei wddf.) Wyddoch chi beth rwi wedi bod yn meddwl am ofyn i Miss Adelina os ffindith hi rwun arall i ganu gyda hi yn y concert. Dyna John Morgan, nawr. Mae e'n canu lawer yn well na fi. 'Dwi ddim digon da i ganu gyda chi, a pheth arall, rwi'n meddwl y bydda'i bant yn Llunden ar fusnes y pryd hynny. Rwi'n siwr bod llais beautiful gyda chi, Mr. Price. Rwi'n wastod yn gweud bod e'n gwmws fel llais Ben Davies.

Adelina

O, fydda'i ddim yn lico canu gyda Mr. Morgan hanner gyment a gyda chi. Fydd pawb yn disappointed iawn.

Sam

Na, wi ddim yn meddwl. (Yn troi at Fari Myfanwy.) Odi chi'n gallu canu, Miss Mari Myfanwy?

Mari

Odw, dipyn bach, ond nid o Operas Italian. Mae caneuon Cymraeg yn fwy yn yn line i. (Pn edrych ar ei gwpan.) O, drychwch Mr. Price, mae yna ddyn dierth yn ych cwpan chi. Pwy yn e, wish?

Sam

Nawr, Miss Mari Myfanwy, pidwch chi a gadel y gath mas o'r cwdyn.

Mari

Newch hast i gwpla'ch te ichi glywed y'ch ffortiwn.

Sam

(Yn gorffen yn frysiog.) Pryd wi'n mynd i briodi? (Yn chwerthin.)

Mari

(Yn edrych i mewn i'w gwpan.) O dim am amser mawr. Wi'n gweld pum amser yn y cwpan hyn. Alle i ddim gweud pun ai pum mlynedd ne pum mish yw e. Neu falle taw pum wythnos. Ond mae ofan arna i taw pum mlynedd. Ma nhw'n dishgwl yn hir iawn, ta beth. Druan ohonoch chi, Mr. Price.

Sam

O, rwi'n itha hapus fel hyn. Fydd y merched ifenc ddim yn edrych arna i wedyn, ych chi'n gweld.

Mari

(O hyd yn archwilio ei gwpan.) Ond mae yna un fenyw sydd yn eglur iawn. Dyna hi! Mae hi'n dal—yn ole iawn—ac yn dene—ŷch chi'n cofio am rywun fel yna?—un yn siarad lot—allwch chi ddim cal gair mewn... (Disgrifia rywun hollol wahanol i Adelina.)

Sam

Cerwch ona, Miss Mari Myfanwy. Mae rywun wedi bod yn gweud fy hanes i wrthoch chi. Ga i weud pwy wi'n weld. (Yn cymryd y gwpan ac yn edrych i mewn iddi, ac yn disgrifio Mari Myfanwy.) Rwi'n gweld merch—'dyw hi ddim yn dal—dyw hi ddim yn ole—a mae hi'n canu fel yr eos—a mae i henw yn dechre a M!

Mari

(Yn torri ar ei draws.) O, dyna ddyn od ych chi, Mr. Price. (Yn chwerthin.) Shwd ych chi'n gallu gweud ei bod hi'n gallu canu?

Sam

A, dyna secret mawr. Wi inne'n gwbod shwd i weud ffortiwn. Ddangosodd un o'r merched neis odd yn aros yn y Gwalia i fi.

Mari

(Yn cymeryd ei gwpan yn ol ac yn mynd ymlaen.) Raid i chi fod yn ofalus iawn, Mr. Price. Mae merch dywyll yn byw dim ond dau gam oddiwrthoch—a dau gam byrr iawn ŷn nhw hefyd—a wnaiff hi ddim da i chi. Raid i chi gwylio hi.



Siaradant ymlaen gyda'i gilydd a chwarddant gyda'u pennau yn agos at ei gilydd. Edrych Mrs. Davies a Jim arnynt yn anobeithiol o ffyrnig.

Mrs Davies

(Wrth Jim.) Mae hi'n anghofio bod hi'n engaged a chi, Jim.

Jim

(Mewn ystum anobeithiol.) Dyn a wyr beth mae'n feddwl!

Sam

(Yn chwerthin yn uchel.) Splendid. Dyna'r un oreu rwi wedi glywed ers amser! Gadewch i ni fynd round gyda'n gilydd ar hyd y ffeirie i weud ffortiwn!

Mrs Davies

(Yn uchel ac yn eglur.) Fydd dim llawer o amser, Mr.Price, achos mae Mari Myfanwy yn mynd i briodi fy nai, Jim, cyn bo hir.

Sam

(Wedi ei daro a syndod.) O, yn wir?

Mari

Ond allwn ni ddim. Dos dim digon o arian gyda ni. A dyna'ch mam hefyd, Jim.

Mrs Davies

(Yn awyddus.) Ond falle allwn i fanagio hynny rwffordd.

Mari

Ych chi'n gweld, Mr. Price, odd chance da i Jim ddodi arian mewn Cinema, ond fydda ishe canpunt o leiaf. Dim pawb sydd yn gallu dodi i llaw ar ganpunt y dyddie hyn, ie fe, Mr. Price.

Sam

Nage, wir! Pam na ddewch chi gyda fi i'r Cinema ryw nosweth?

Mari

(Yn gwneud llygaid.) Falle dwa i!

Mrs Davies

(Wedi ymdrech fewnol galed.) Ych chi'n cofio, Jim, odd ych Uncle Richard yn wastod yn meddwl rhoi start i chi mewn busnes. Wel, mae wedi bod yn amser caled er pan fu e farw, a choste mawr arno i. Ond am ych bod wedi cal cynnig mor dda, ro i y canpunt i chi nawr.

Jim

(Mewn petrusder, yn edrych ar Fari Myfanwy.) Diolch yn fawr, Modryb fach, diolch yn fawr.

Mari

(Yn torri ar ei draws.) Ond ŷn ni'n lawer rhy ifanc. 'Dyw Jim ond 22 a finne yn 21, a falle fyddwn ni wedi newid yn meddwl mhen wech mish, a ni'n doi wedi cwmpo mewn cariad a rywun arall erbyn y Nadolig nesa. Ond allen ni, Mr. Price?

Sam

Ryfedden i ddim.

Mrs Davies

(Gyda phwyslais.) Yn rhy ifanc, wir! Na! Rwi'n meddwl y dylse pawb briodi'n ifanc.

Mari

(Yn cymeryd arni betruso.) Ond falle gwrdda i rywun fydda i'n licio'n well. A pheth arall, mae pobl weithe yn anghofio'u haddewidion. Mae deryn mewn llaw yn werth doi mewn llwyn.



Mae Mrs. Davies heb ddwedyd gair yn mynd at y bureau yn tynnu allan focs cadw arian, ac yn cyfri arian nodau yn gwneud y swm o £100. Daw a hwy i Fari Myfanwy, gwthia hwynt i'w llaw.

Mrs Davies

Dyna!

Mari

(Yn eu cyfri.) Ugen—deg-ar-hugen—m—m —Canpunt! Odi, mae'n all right, Jim. Wel, nawr, Modryb Mary Jane, mae'n amser i ni fynd. Beth yw hi o'r gloch?

Jim

Cwarter i wech.

Mari

O, mae digon o amser. Ddalwn y train yn rhwydd, wedi'r cwbl. Good-bye, Mr. Price.

Sam

Na, dim good-bye. Odi chi ddim yn dod nol yn y car 'da fi?

Mari

Na, dim heno, diolch. Falle gewn ni'r ride yna rywbryd eto. (Wrth Jim.) Dwedwch goodbye wrth Mr. Price, Jim. Fe ddylsech fod yn ddiolchgar iawn iddo fe. (Wrth Mrs. Davies.) Goodbye, Modryb Mary Jane. Mi ofynnwn i chi ddod i'r briodas. Goodbye, Adelina. (Yn cymryd braich Jim.) Dere mlan, Jim bach. Chi ydi 'nghariad i, wedi'r cwbl, ond rown i wedi penderfynu cal y canpunt 'na!



Y ddau yn mynd allan.

LLEN

Drama un-act