| (1, 1) 1 | YR ACT GYNTAF | 
| (1, 1) 2 | ~ | 
| (1, 1) 3 | GOLYGFA I | 
| (1, 1) 4 | ~ | 
| (1, 1) 5 | Partin tan-ddaear. | 
| (1, 1) 6 | Amser brecwast. | 
| (1, 1) 7 | ~ | 
| (1, 1) 8 | Pethau a ddigwydd bob dydd, ym mhob "Cwm Glo" yn y Sowth, yw defnydd y chwarae hwn. | 
| (1, 1) 9 | Y cwbl a ofynnir yw cyfnod o bedair blynedd, i hadau'r ddwy olygfa gyntaf brifio: aeddfedant i'w priod ffrwyth yn ddiymod. | 
| (1, 1) 10 | ~ | 
| (1, 1) 11 | Pan gyfyd y llen y mae'r llwyfan mewn tywyllwch a llwch glo mân, ond bod un lamp glôwr, sydd yn hongian wrth un fraich pâr o goed yn agos î ganol y llwyfan, yn creu cylch clir o olau, fel gnotai, am ben y glôwr hwnnw. | 
| (1, 1) 12 | Wrth i'r llygaid gynefino â'r tywyllwch gallwn ninnau amgyffred yn well mai partin tan-ddaear sydd o'n blaen a bod pâr o reilffyrdd gloyw yn rhedeg ar draws y llwyfan o'r chwith uchaf i'r dde isaf. | 
| (1, 1) 13 | Rhed ohonynt ddeubar arall i mewn tua'r ffos sydd yn rhywle ar y dde. | 
| (1, 1) 14 | ~ | 
| (1, 1) 15 | Cliria'r llwch a gwelwn mai DAI DAFIS, gŵr ar ei ganol oed, sydd yn eistedd wrth droed y coler coed, a'i fod yn bwyta ac yn ceisio darllen papur yr un pryd. | 
| (1, 1) 16 | ~ | 
| (1, 1) 17 | Heb godi ei ben o'r papur, estyn ei law i'r tomi bocs ac at y jac bob yn ail, ac ni newidia ei osgo ddim pan glywn ninnau ei lais: | 
| (Dai) Hei, dere mlân, Dic. | |
| (Bob) Rwy'n dod, nawr. | |
| (1, 1) 26 | Ymhen ennyd daw RICHARD IFANS o'r twnnel isaf. | 
| (1, 1) 27 | Gŵr tua 6o oed yw, a chanddo wyneb rhadlon, pryfoclyd bron. | 
| (1, 1) 28 | Gwisg ei got amdano wrth ddod ymlaen. | 
| (1, 1) 29 | Daw IDWAL, bachgen ifanc iua 30 oed, o'r un man ag ef, ond try yn ei ôl i dynnu ei got oddi ar hoelen mewn coler arall a'i thaflu tros ei ysgwyddau. | 
| (1, 1) 30 | Daw BOB, crwtyn 16 oed, o'r twnnel uchaf ac â ar ei union i'r man lle y mae DAI a DIC yn eistedd. | 
| (Dic) {wrth gerdded ymlaen} | |
| (Dic) Ti, boi bach, sy'n codi glo i chi'ch dou, iefe? | |
| (1, 1) 38 | Wrth fod Bob yn paratoi i eistedd atelir ef a'i gael ar ei ddeulin. | 
| (1, 1) 39 | Saif #Idwal | 
| (1, 1) 40 | wrth y coler â'i gefn ai y lleill. | 
| (Dic) Dere, gofyn fendith, 'ngwas i. | |
| (Dic) Dere, gofyn fendith, 'ngwas i. | |
| (1, 1) 42 | Cyfyd DIC ei law ar osgo cyhoeddi bendith, a thry DAI ddalen o'i bapur yn ddigon stwrllyd. | 
| (Bob) {yn syml} | |
| (Dai) Bah!! | |
| (1, 1) 125 | Sylwa nad yw IDWAL ddim yn gwrando arno. | 
| (1, 1) 126 | Y mae hwnnw, tra fu DAI yn clebran, wedi tynnu sialc o'i boced, ac ar focs glo yn ei law wedi torri diagram theorem Pythagoras. | 
| (1, 1) 127 | Edrydd y theorem wrtho'i hun gan ddilyn y llinellau, weithiau â'i fys trwy'r awyr, weithiau â'r sialc ar y diagram. | 
| (1, 1) 128 | Croesa BOB ato, a sylwi yn ddistaw arno. | 
| (1, 1) 129 | Pan wêl ei fod yn methu mynd ymlaen, ar yr un munud ag y bydd DAI yn gofyn am y swllt, gofyn iddo: | 
| (Bob) Beth wyt ti'n wneud? | |
| (Bob) Odw. | |
| (1, 1) 139 | Enwer y llythrennau bob tro yn Saesneg. | 
| (Idwal) Rwy i i brofi bod y sgwâr ar yr ochor hir 'na—AC yr hypotenuse, weldi e? | |
| (Dai) Mi leiciwn i gael mwgyn bach o hon nawr. | |
| (1, 1) 205 | Edrych y tri yn syn arno, ac yna tery DIC ei law yn ôl chwap ar draws ei geg, nes bwrw'r bibell i'r llawr a chael gafael ynddi, a'i dal i fyny ennyd.} | 
| (Dic) Ti yw'r diawl. | |
| (Idwal) Cod lan, y blagard sut ag wyt ti! | |
| (1, 1) 269 | Nid yw DAI yn symud. | 
| (1, 1) 270 | Neidia BOB o'r ffordd i roi lle i'r ymladd y carai ef ei weld. | 
| (Bob) Go on, Id. | |
| (Dai) Mi ges i beth o'i ofan e nawr. | |
| (1, 1) 283 | Â BOB yn ôl at ei waith a chlywir ef yn cynghori IDWAL, sydd yn hongian ei got a chrynhoi ei bethach. | 
| (Bob) Mi ddylet ti fod wedi rhoi un iddo, reit ym môn ei glust a left-hook yn ei chops e. | |
| (Lewis) Bydd yn fwy cryno, machgen i. | |
| (1, 1) 364 | Daw yn ôl at y dram lo, a chwalu'r talpau ar ei phen hi â'i law: edrych yn fwy craffus arni: dyd ei law i mewn rhwng y talpau, a chodi dernyn o slag i'r golwg a'i daflu i'r llawr. | 
| (1, 1) 365 | Y mae DAI yn myned heibio iddo yn ôl i'w ffâs. | 
| (Lewis) Dysg y crwtyn yna i fod yn fwy cryno Dai, neu fydd e dda i ddim byth; mae'r lle 'na yn ddychrynllyd. | |
| (Lewis) Dysg y crwtyn yna i fod yn fwy cryno Dai, neu fydd e dda i ddim byth; mae'r lle 'na yn ddychrynllyd. | |
| (1, 1) 367 | Daw ei law ar draws telpyn arall o slag a gesyd ef ar ymyl y dram, yn y golwg. | 
| (1, 1) 368 | Wrth iddo alw ar DAI â heibio i du blaen y dram a sefyll ar yr ochr isaf iddi. | 
| (1, 1) 369 | Pan ddaw DAI allan saif ef lle safasai MORGAN LEWIS. | 
| (Lewis) Dere yma Dai... ar unwaith! | |
| (Lewis) Dyw hyn ddim yn ddigon da. | |
| (1, 1) 382 | Dyd ei law i mewn ym mherfedd y dram a thyn allan ddyrnaid o lo mân gwlyb, a'i gario yn ei law i ganol y llwyfan. | 
| (1, 1) 383 | Mae llygaid DAI yn ei ganlyn ac y mae ansicrwydd yn ei wedd. | 
| (Lewis) Does dim rhyfedd nad ŷm ni'n gallu gwerthu glo. | |
| (Dic) {Try i'w le. Â'r golau'n is.} | |
| (1, 1) 466 | LLEN |