|
|
(1, 0) 1 |
ACT I |
(1, 0) 2 |
Pan godir y Llen, gwelir yr AWDUR wrth ei beiriant-teipio. |
(1, 0) 3 |
Mae'n amlwg ei fod yn cael cryn anhawster â'i waith, ac ar ôl ychydig eiliadau tyn y papur o'r peiriant a'i daflu'n ddiamynedd i'r fasged. |
(1, 0) 4 |
Cyfyd yr AWDUR, a dod ymlaen at ymyl y llwyfan; saif yno mewn myfyrdod, a thanio sigaret. |
(1, 0) 5 |
Heb yn wybod ddo, agorir y drws y tu ôl, a daw merch (ANN) i mewn; mae'n cau'r drws ac yn sefyll â'i chefn arno. |
(1, 0) 6 |
Yna, fel petai'n teimlo'i phresenoldeb, try'r AWDUR a syllu arni'n syn. |
(1, 0) 7 |
Am eiliad nid oes air rhyngddynt. |
|
(Awdur) Pwy ar y ddaear...? |
|
|
|
(Awdur) Pwy ar y ddaear...? |
(1, 0) 9 |
Nid yw'r ferch yn ateb. |
(1, 0) 10 |
Cymer yr AWDUR ddau neu dri cham tuag ati, yna saif drachefn. |
|
(Awdur) Esgusodwch fi, ond beth ydy' ystyr hyn? |
|
|
|
(Awdur) Pwy ydych chi? |
(1, 0) 14 |
Daw'r ferch ymlaen yn araf at yr AWDUR. |
|
(Awdur) Wel?... |
|
|
|
(Ann) Edrychwch arna' i eto—yn fanwl. |
(1, 0) 43 |
Mae'r AWDUR yn craffu arni. |
(1, 0) 44 |
Yna try oddiwrthi mewn mnenbleth. |
|
(Ann) Wel, 'ydych chi'n fodlon? |
|
|
|
(Ann) Teimlwch wres bywyd yn 'i chnawd, a churiad y gwaed yn 'i gwythiennau. |
(1, 0) 78 |
Edrych yr AWDUR arni'n syn, ond nid yw'n cyffwrdd ynddi. |
|
(Ann) Pam 'rydych chi'n petruso? |
|
|
|
(Awdur) Ewch, ewch i mi gael deffro! |
(1, 0) 97 |
Saif ANN am ennyd, yna try'n sydyn a rhedeg at y drws a'i agor. |
(1, 0) 98 |
Daw LEWIS i mewn ar bwys ei ffon. |
(1, 0) 99 |
Mae golwg braidd yn gystuddiol arno. |
|
(Ann) Lewis, mae o'n trio'n cadw ni allan! |
|
|
|
(Ann) Lewis, mae o'n trio'n cadw ni allan! |
(1, 0) 101 |
Daw LEWIS ymlaen yn araf at yr AWDUR. |
|
(Lewis) Mae'n rhy hwyr i hynny, wyddoch chi. |
|
|
|
(Seth) 'Rwy' wedi diodde' digon oddiar ei law heb iddo goroni'r cyfan â'i sarhad! |
(1, 0) 143 |
Mae'r AWDUR yn troi i ffwrdd. |
|
(Lewis) Gwranda arna' i am funud... |
|
|
|
(Seth) 'Chaiff o ddim cam. |
(1, 0) 153 |
Mae SETH yn tanio sigaret yn nerfus. |
|
(Lewis) Dyma nhw ar y gair 'rwy'n credu. |
|
|
|
(Lewis) Dyma nhw ar y gair 'rwy'n credu. |
(1, 0) 155 |
Daw DOCTOR MORUS i mewn a chaw'r drws ar ei ôl. |
(1, 0) 156 |
Saif am ennyd a syllu yn llygaid ANN. |
|
(Lewis) Na, Doctor Morus ydy' hwn. |
|
|
|
(Lewis) O ganlyniad, ar y groesffordd 'rydy' ni o hyd, a chwithau efo ni. |
(1, 0) 222 |
Mae'r AWDUR yn mynd â'r cwpwrdd a thywall gwirod bwygilydd i wydr. |
(1, 0) 223 |
Cymer lymaid ohono. |
|
(Awdur) {Dan wenu.} |
|
|
|
(Ann) Hwyrach y byddwch yn barotach wedyn i gydnabod a pharchu'n personoliaeth. |
(1, 0) 243 |
Mae ANN yn disgyn i gadair a chuddio'i hwyneb â'i dwylo. |
|
(Awdur) Peidiwch â dweud ein bod am gael dagrau! |
|
|
|
(Seth) Gafael yn ei war a'i daflu allan. |
(1, 0) 255 |
Mae'r AWDUR yn chwerthin ac yn gorffen ei ddiod. |
|
(Lewis) Paid â siarad yn wirion, Seth. |
|
|
|
(Morus) Arhoswch Seth...! |
(1, 0) 266 |
Maent yn gwrando ar sŵn traed yn nesáu. |
(1, 0) 267 |
LEWIS |
|
(Abram) Mae'n ddrwg gen' i eich cadw. |
|
|
|
(Morus) Arhoswch Seth...! |
(1, 0) 269 |
Dyma fo 'nhad. |
(1, 0) 270 |
Mae'r drws yn agor a daw ABRAM MORGAN a SIONED i mewn. |
(1, 0) 271 |
Mae dallineb yr hen ŵr yn ychwanegu at ei urddas tawel). |
|
(Abram) Mae'n ddrwg gen' i eich cadw. |
|
|
|
(Lewis) Dyma fi, 'nhad. |
(1, 0) 276 |
Daw ABRAM ymlaen, a SIONED yn cynnig gafael yn ei fraich. |
|
(Abram) Na, mi ydw' i'n iawn 'rwan, Sioned. |
|
|
|
(Abram) Naw oed oeddwn i ar y pryd, ond 'rwy'n ei gofio fel petai ddoe. |
(1, 0) 303 |
Yr AWDUR yn edrych arno'n syn. |
|
(Seth) Wel, 'goeliwch chi rwan? |
|
|
|
(Seth) Wel, 'goeliwch chi rwan? |
(1, 0) 305 |
Yr AWDUR yn bras-gamu at y ffenestr. |
|
(Awdur) Ond beth am y tu allan yna? |
|
|
|
(Abram) 'Rwy' wedi gwrando ar eu deuawd ganwaith yng nghwrs y blynyddoedd. |
(1, 0) 318 |
Daw'r AWDUR yn araf oddi wrth y ffenestr ac eistedd i lawr. |
|
(Sioned) 'Rwy' am wneud tipyn o lefrith cynnes i chi, Abram Morgan... |
|
|
|
(Sioned) O wel, 'panaid o de yn nes ymlaen, efalla'. |
(1, 0) 323 |
SIONED yn mynd allan ar y dde. |
|
(Seth) {Wrth yr AWDUR} |
|
|
|
(Morus) Ia, cofiwch mai ni sy'n y mwyafrif,—chwech yn erbyn un. |
(1, 0) 338 |
Clywir cnoc ar y drws. |
(1, 0) 339 |
Cyfyd yr AWDUR yn obeithiol, ond saif SETH o'i flaen). |
|
(Seth) Safwch yn y fan yna. |
|
|
|
(Abram) Ond 'fynna' i ddim i ti ei rwystro. |
(1, 0) 359 |
Saif SETH o'r neilllu a gadael â'r AWDUR fynd at y drws. |
(1, 0) 360 |
Mae'n petruso yno. |
|
(Morus) Pam 'rydych chi'n petruso? |
|
|
|
(Awdur) Beth ydy' o? |
(1, 0) 379 |
Mae MABLI yn edrych o'i chwmpas heb ei ateb. |
|
(Mabli) "Llwyn Bedw"! 'Run fath o hyd. |
|
|
|
(Mabli) Os hauwch chi hedyn peidiwch â synnu ei weld o'n tyfu. |
(1, 0) 396 |
Mae MABLI yn mynd at ABRAM a rhoi ei llaw ar ei ysgwydd. |
|
(Abram) Croeso i chi yma, merch i. |
|
|
|
(Ann) Mae hi'n aros yma. |
(1, 0) 408 |
Daw SIONED i mewn â hambwrdd yn ei llaw. |
|
(Mabli) Wel, Sioned. |
|
|
|
(Seth) Yn rhydd, a'r dyfodol yn ein dwylo! |
(1, 0) 494 |
Mae ANN yn mynd at y ddesg a rhoi gorchudd ar y peiriant-teipio. |
|
(Lewis) 'Ydy' o wedi mynd o ddifri'? |
|
|
|
(Lewis) Doctor, edrychwch rhag ofn. |
(1, 0) 497 |
Mae MORUS yn mynd at y ffenestr. |
|
(Morus) Na, 'does yna ddim golwg ohono fo. |
|
|
|
(Seth) Rwy'n teimlo fel dawnsio,—dowch Sioned! |
(1, 0) 506 |
Mae'n gafael am SIONED. |
|
(Sioned) Seth! Be' sy' wedi dwad drosoch chi! |
|
|
|
(Ann) Gadwch iddi, Seth. |
(1, 0) 513 |
SETH yn gollwng SIONED dan chwerthin. |
|
(Sioned) Mae'r dyn o'i go'n lân! |
|
|
|
(Seth) Mae hyn yn haeddu ei ddathlu â gwin. |
(1, 0) 519 |
SETH yn mynd i'r cwpwrdd a thynnu gwydrau etc. allan. |
|
(Seth) Dowch, Sioned, helpwch fi efo'r gwydrau yma. |
|
|
|
(Sioned) Os ydy' hynny'n eich gwneud chi'n hapusach, wel, dyna fo. |
(1, 0) 538 |
Exit SIONED. |
|
(Morus) Chware teg iddi! |
|
|
|
(Morus) Mi gaf eich gweld yfory. |
(1, 0) 683 |
Exit LEWIS. |
(1, 0) 684 |
Saib ennyd. |