|
|
(1, 0) 1 |
GOLYGFA.─Cartref JOHN PRICE ar Y Twmp, Aberpandy─y gegin. |
(1, 0) 2 |
(Rhoddir cyfarwyddiadau'r llwyfan o safbwynt y gynulleidfa.) |
(1, 0) 3 |
Gorchuddir y muriau â phapur ac arno batrwm mawr, lliwiedig, ond bod y lliwiau bellach wedi pylu. |
(1, 0) 4 |
Yn y gongl bellaf ar y dde y mae drws yn agor i'r stryd; ynghanol y mur ar y dde, ffenestr, ac arni lenni o ddefnydd cyffredin a |blind brown holland|. |
(1, 0) 5 |
Trwy'r ffenestr hon canfyddir mur garw o faen. |
(1, 0) 6 |
Ynghanol y pared ar yr aswy y mae lle tân hen ffasiwn. |
(1, 0) 7 |
Nid oes tân ynddo, eithr o'i flaen y mae fire-screen rhad o bapur. |
(1, 0) 8 |
Uwch ben, ar y silff ben tân, y mae nifer o gannwyll-brenni prês, cloc, heyrn smwddio, tê-cadi, etc. |
(1, 0) 9 |
Yn y gongl bellaf, ar yr aswy, tu draw i'r lle tân, y mae drws yn arwain i'r gegin fach a thrwy honno i'r ardd. |
(1, 0) 10 |
Yn yr un pared, ond yr ochr hyn i'r lle tân, y mae drws y parlwr. |
(1, 0) 11 |
~ |
(1, 0) 12 |
Mae'r dodrefn yn gyffredin a diaddurn, ac wedi cyflawni gwasanaeth da. |
(1, 0) 13 |
Yn erbyn y mur cefn, oddeutu'r canol, saif hen ddreser yn llwythog o jiwgiau a phlatiau. |
(1, 0) 14 |
Ar yr ail silff y mae llestr diaddurn, yn dal tusw mawr o |sweet peas|. |
(1, 0) 15 |
Ar y silff isa' rhes o lyfrau â'u cloriau yn dangos bod cryn lawer o ddarllen arnynt. |
(1, 0) 16 |
O bob tu'r dreser, silff lyfrau yn crogi ar y mur ac yn llawn o gyfrolau. |
(1, 0) 17 |
Saif pump o gadeiriau cegin yn y drefn a ganlyn─un yn erbyn y mur ar y dde yr ochr hyn i'r ffenestr, un gerllaw drws y parlwr, un gerllaw drws y gegin fach, ac un o bobtu'r dreser. |
(1, 0) 18 |
Hefyd y mae ger y lle tân gadair freichiau â chefn uchel. |
(1, 0) 19 |
Ynghanol yr ystafell saif bord gron hen ffasiwn ac arni liain coch diraen.. |
(1, 0) 20 |
Ar y mur cefn o bobtu'r dreser y mae darluniau o Gladstone a Spurgeon. |
(1, 0) 21 |
Mewn mannau eraill y mae darluniau Henry Richard a rhai o gewri pulpud Cymru. |
(1, 0) 22 |
~ |
(1, 0) 23 |
Pan gwyd y llen gwelir JOHN PRICE yn eistedd yn y gadair freichiau ar yr ochr aswy i'r ford, a GWEN ar yr ochr dde i'r ford yn eistedd yn y gadair a symudasai o'i lle gerllaw'r ffenestr. |
(1, 0) 24 |
~ |
(1, 0) 25 |
Gŵr oddeutu trigain oed, garw a chaled yr olwg arno, ydyw JOHN PRICE. |
(1, 0) 26 |
Mae'n llwyd ei wedd─un o nodweddion cyffredin y glowr─ac ar ei gern gwelir y graith las a achosir gan y llwch glo. |
(1, 0) 27 |
O dan ei ên ymestyn o'r naill glust i'r llall rimyn afler o farf brithwen. |
(1, 0) 28 |
Amdano y mae siwt o hen ddillad a chadach gwddf yn darn-guddio crys o wlanen cartref. |
(1, 0) 29 |
Awgryma ei symudiadau araf ac afrosgo y gallu i ymgynnal yn amyneddgar ond yn gyndyn, sy'n sylfaen i'w natur. |
(1, 0) 30 |
Ar ddechrau'r ddrama, tra mae ef a GWEN gyda'i gilydd, dengys ryw fath ar dynerwch trwstan tuag ati a thuag at GWILYM trwy'r ddrama, eithr ni chanfyddir mohono yn ei ymwneud â'r cymeriadau eraill. |
(1, 0) 31 |
~ |
(1, 0) 32 |
Gwahanol iawn ei nodweddion ydyw GWEN, ei briod─gwraig dirion a chanddi lais mwyn a wyneb caredig odiaeth, er braidd yn brudd. |
(1, 0) 33 |
Y mae hyd yn oed yn ei gwên elfen o hiraeth sy'n awgrymu rhyw fywyd mewnol ac atgof a theimlad yn cael y lle blaenaf ynddo. |
(1, 0) 34 |
Gwraig fechan, drigain mlwydd ydyw, ac yn cadw ei hoed yn dda, er bod ei gwallt yn wyn. |
(1, 0) 35 |
Mae wedi ymwisgo yn hollol ddirodres ond yn hynod o ddestlus. |
(1, 0) 36 |
Ar ddechrau'r ddrama mae hi'n brysur gywiro 'sanau a thoreth ohonynt at ei llaw mewn basged ar y ford. |
(1, 0) 37 |
Gwelir PRICE, a'i spectol ar flaen ei drwyn, a'i wyneb yn crychu gan angerddolder ei ymdrech i gyflawni gorchwyl anghyfarwydd, yn ysgrifennu'r cyfeiriad ar amlen ac yna'n dodi'r llythyr ynddo. |
(1, 0) 38 |
Wedi cau'r amlen dyry iddo ddyrnod drom i'w sicrhau; hefyd, efallai, i amlygu gollyngdod. |
|
(Price) {Gyda gollyngdod.} |
|
|
|
(Gwen) Fe fydd hynny yn ddiddorol, a hitha wedi arfadd ishta yn y cornal wrth yr harmonium o'r dydd y bedyddiwyd hi. |
(1, 0) 159 |
Ennyd o ddistawrwydd. |
|
(Price) Wn i ddim, Gwen, os wyt ti wedi taro ar yr un syniad a finna obeutu'r alwad yma. |
|
|
|
(Gwen) Fe fydda' i'n gallu gweld 'i wynab e bob awr o'r dydd, dim ond ifi gauad 'n llyced, a fe fydda' i'n clwad 'i laish e'n wastod wrth fynd ar hyd y tŷ a mas yn yr ardd wrth 'i wely blota fe. |
(1, 0) 177 |
Wrth ddweyd hyn, cwyd yn araf a gesyd y fasged a'r hosanau ar y dreser. |
(1, 0) 178 |
Yna, gan led-troi, digwydd iddi edrych drwy'r ffenestr. |
(1, 0) 179 |
Mae'n synnu a dechreua siarad yn frysiog. |
|
(Gwen) Wel, tawn i fyth o'r fan yma, dyma Gwilym a Sam yn dod lan o'r |Crossing| a dyma fi heb gymant a doti'r llestri ar y ford! |
|
|
|
(Gwen) A fe ferwa'i ddiferyn bach o gawl iddo fe erbyn swpar. |
(1, 0) 192 |
Cymer lestr a'r blodau ynddo oddiar y dreser a gesyd ef ar y ford. |
(1, 0) 193 |
Clywir sŵn traed oddiallan. |
(1, 0) 194 |
~ |
(1, 0) 195 |
Daw GWILYM a SAM THATCHER i mewn. |
(1, 0) 196 |
~ |
(1, 0) 197 |
Mae SAM yn ddwy a deugain oed, ond yn edrych yn hŷn gan fod ei wallt yn deneu ac yn dechrau britho. |
(1, 0) 198 |
Mae ei wyneb yn felyn-ddu gan losg haul a phob tywydd, ac wedi ei addurno â rhibyn afler o foustache brith. |
(1, 0) 199 |
Un fraich sydd ganddo, ac y mae'r llawes wag, y chwith, wedi ei gwthio i boced ei siaced las. |
(1, 0) 200 |
Gwisga drowsus moleskin a phocedi tu blaen ynddo. |
(1, 0) 201 |
Mae'n arfer ganddo fachu bawd ei law dde ym mhoced ei drowsus pan mae yn segur. |
(1, 0) 202 |
Deil o dan ei fraich flag goch wedi ei rholio am y pastwn. |
(1, 0) 203 |
Mae ei leferydd yn ei fradychu mai Cockney ydyw, ac yn ei oddefgarwch mawrfrydig o Aberpandy a'i holl ffyrdd, datguddir ysbryd trahaus brodor o'r Brifddinas. |
(1, 0) 204 |
~ |
(1, 0) 205 |
Mae GWILYM yn dair neu bedair-ar-hugain oed, wedi ymwisgo yn blaen ond yn daclus. |
(1, 0) 206 |
Gwna afiechyd ei wyneb yn llwyd a theneu. |
(1, 0) 207 |
Ymddengys yn ŵr ifanc meddylgar a llawn cydymdeimlad, ac yn ddiragrith oherwydd ei fod yn meddu llawer o hiwmor tawel. |
(1, 0) 208 |
Llefara'n bwyllog ac ystyriol, ac yn fynych sylla i wyneb y sawl sy'n ymddiddan ag ef megis un sy'n amcanu at dreiddio dan yr wyneb. |
(1, 0) 209 |
Yn ei ymwneud â phobl eraill dengys gwrteisrwydd dirodres un yn ddiwylliedig wrth natur. |
(1, 0) 210 |
Tuag ato ef dengys pawb dynerwch diffael; yn wir, eu hawydd i'w ymgeleddu ef ydyw'r elfen gyffredin sy'n cadw'r teulu yn gyfan. |
|
(Price) {Yn dosturiol iawn.} |
|
|
|
(Gwen) Fe gei dy dê miwn wincad. |
(1, 0) 218 |
Mae GWEN yn brysio i'r gegin. |
(1, 0) 219 |
Dechreua GWILYM fynd i gyfeiriad y gadair gerllaw'r dreser ond rhed ei dad o'i flaen i'w hestyn gan ddweyd, "Olreit, olreit, machan i," a gesyd hi ar y dde i'w gadair ei hun wrth y ford. |
(1, 0) 220 |
Wedi dodi ei |flag| ar y dreser, cymer SAM y gadair yr eisteddai GWEN arni gynneu. |
(1, 0) 221 |
Dyma ei le cynefin wrth y ford. |
(1, 0) 222 |
Mae'r tri dyn yn eistedd. |
(1, 0) 223 |
Tyn GWILYM ato y llestr yn cynnwys y blodau a chraffa arnynt fel un sy'n eu deall. |
|
(Sam) {Yn sychu'r chwys oddiar ei dalcen.} |
|
|
|
(Sam) Ti cal gweld, |boss|,fi gwpod yn |all right|. |
(1, 0) 229 |
Daw GWEN i mewn o'r gegin gefn, yn cario'r tebot, plataid o fara 'menyn a phlataid o deisennau crynion─|Welsh cakes|. |
(1, 0) 230 |
Cymer y gadair a saif yr ochr dde i'r dreser ac eistedd wrth y bwrdd ar y llaw dde i SAM. |
(1, 0) 231 |
Gadewir lle LEWIS yn wag, rhwng GWILYM a GWEN. |
(1, 0) 232 |
Mae GWEN yn arllwys tê. |
|
(Gwen) Ble buast ti, Gwilym? |
|
|
|
(Sam) |Right, boss, right, the very first time|! |
(1, 0) 237 |
Ysgwyd PRICE ei ben mewn diflastod. |
|
(Gwen) Bara 'menyn, Sam? |
|
|
|
(Sam) Os gwelwch yn dda, missis, fi gwed "Os gwelwch yn dda " |all right| nawr. |
(1, 0) 240 |
Curo ar y drws. |
|
(Gwen) Dewch miwn. |
|
|
|
(Gwen) Dewch miwn. |
(1, 0) 242 |
Gwelir ISAAC PUGH yn sefyll ar y trothwy, hen ŵr wedi ymwisgo yn gyffredin a diraen. |
(1, 0) 243 |
Gan ei fod ef a PRICE yn anghydweld ar faterion o bwys yng nghapel Horeb, mae ei ymarweddiad braidd yn ffurfiol, ond yn awgrymu, yr un pryd, addfwynder gostyngedig a goddefgar. |
|
(Gwen) {Yn oeraidd ond yn gwrtais.} |
|
|
|
(Pugh) Ond gan 'ch bod chi mor garetig─ |
(1, 0) 297 |
Cymer y tê a dechreua ei droi yn egniol. |
(1, 0) 298 |
Yna yf ef. |