a1

Deufor-Gyfarfod (1929)

John Oswald Francis
tr. Magdalen Morgan

Ⓒ 1929 Magdalen Morgan
Permission is required before performing or recording any part of the play.

Act 1


GOLYGFA.─Cartref JOHN PRICE ar Y Twmp, Aberpandy─y gegin. (Rhoddir cyfarwyddiadau'r llwyfan o safbwynt y gynulleidfa.) Gorchuddir y muriau â phapur ac arno batrwm mawr, lliwiedig, ond bod y lliwiau bellach wedi pylu. Yn y gongl bellaf ar y dde y mae drws yn agor i'r stryd; ynghanol y mur ar y dde, ffenestr, ac arni lenni o ddefnydd cyffredin a blind brown holland. Trwy'r ffenestr hon canfyddir mur garw o faen. Ynghanol y pared ar yr aswy y mae lle tân hen ffasiwn. Nid oes tân ynddo, eithr o'i flaen y mae fire-screen rhad o bapur. Uwch ben, ar y silff ben tân, y mae nifer o gannwyll-brenni prês, cloc, heyrn smwddio, tê-cadi, etc. Yn y gongl bellaf, ar yr aswy, tu draw i'r lle tân, y mae drws yn arwain i'r gegin fach a thrwy honno i'r ardd. Yn yr un pared, ond yr ochr hyn i'r lle tân, y mae drws y parlwr.

Mae'r dodrefn yn gyffredin a diaddurn, ac wedi cyflawni gwasanaeth da. Yn erbyn y mur cefn, oddeutu'r canol, saif hen ddreser yn llwythog o jiwgiau a phlatiau. Ar yr ail silff y mae llestr diaddurn, yn dal tusw mawr o sweet peas. Ar y silff isa' rhes o lyfrau â'u cloriau yn dangos bod cryn lawer o ddarllen arnynt. O bob tu'r dreser, silff lyfrau yn crogi ar y mur ac yn llawn o gyfrolau. Saif pump o gadeiriau cegin yn y drefn a ganlyn─un yn erbyn y mur ar y dde yr ochr hyn i'r ffenestr, un gerllaw drws y parlwr, un gerllaw drws y gegin fach, ac un o bobtu'r dreser. Hefyd y mae ger y lle tân gadair freichiau â chefn uchel. Ynghanol yr ystafell saif bord gron hen ffasiwn ac arni liain coch diraen.. Ar y mur cefn o bobtu'r dreser y mae darluniau o Gladstone a Spurgeon. Mewn mannau eraill y mae darluniau Henry Richard a rhai o gewri pulpud Cymru.

Pan gwyd y llen gwelir JOHN PRICE yn eistedd yn y gadair freichiau ar yr ochr aswy i'r ford, a GWEN ar yr ochr dde i'r ford yn eistedd yn y gadair a symudasai o'i lle gerllaw'r ffenestr.

Gŵr oddeutu trigain oed, garw a chaled yr olwg arno, ydyw JOHN PRICE. Mae'n llwyd ei wedd─un o nodweddion cyffredin y glowr─ac ar ei gern gwelir y graith las a achosir gan y llwch glo. O dan ei ên ymestyn o'r naill glust i'r llall rimyn afler o farf brithwen. Amdano y mae siwt o hen ddillad a chadach gwddf yn darn-guddio crys o wlanen cartref. Awgryma ei symudiadau araf ac afrosgo y gallu i ymgynnal yn amyneddgar ond yn gyndyn, sy'n sylfaen i'w natur. Ar ddechrau'r ddrama, tra mae ef a GWEN gyda'i gilydd, dengys ryw fath ar dynerwch trwstan tuag ati a thuag at GWILYM trwy'r ddrama, eithr ni chanfyddir mohono yn ei ymwneud â'r cymeriadau eraill.

Gwahanol iawn ei nodweddion ydyw GWEN, ei briod─gwraig dirion a chanddi lais mwyn a wyneb caredig odiaeth, er braidd yn brudd. Y mae hyd yn oed yn ei gwên elfen o hiraeth sy'n awgrymu rhyw fywyd mewnol ac atgof a theimlad yn cael y lle blaenaf ynddo. Gwraig fechan, drigain mlwydd ydyw, ac yn cadw ei hoed yn dda, er bod ei gwallt yn wyn. Mae wedi ymwisgo yn hollol ddirodres ond yn hynod o ddestlus. Ar ddechrau'r ddrama mae hi'n brysur gywiro 'sanau a thoreth ohonynt at ei llaw mewn basged ar y ford. Gwelir PRICE, a'i spectol ar flaen ei drwyn, a'i wyneb yn crychu gan angerddolder ei ymdrech i gyflawni gorchwyl anghyfarwydd, yn ysgrifennu'r cyfeiriad ar amlen ac yna'n dodi'r llythyr ynddo. Wedi cau'r amlen dyry iddo ddyrnod drom i'w sicrhau; hefyd, efallai, i amlygu gollyngdod.

Price

(Gyda gollyngdod.) Wel, diolch i'r mawredd, dyna hwnna wedi 'i gwpla. Rwy'i wedi sgrifennu at Lizzie Ann. Fe fydd nol yma ddydd Llun.

Gwen

Feddylias i ariod pan adewais iddi fynd lawr i Lantrisant y byswn yn gweld cymaint o'i hisha hi. Wrth gwrs fysa ddim yn deg ifi 'i chatw hi a nwnta'n dishgwl babi yno cyn pen doufish.

Price

Wel, fe fydd nol ddydd Llun, ta beth.

Gwen

Nid 'mod i'n teimlo'r gwaith yn ormodd ifi, cofia, ond mae'n od yn y tŷ yma hepthi rywsut.

Price

(Yn ymestyn.) Dyna falch wy'i 'mod i wedi cwpla'r ddou lythyr yna. Dyna jobyn nad oes geni gynnig iddo─sgrifennu llythyron. Am na ches i fawr o ysgol ariod depig.

Gwen

Wyt ti wedi cwpla'r llythyr at Myfanwy, John?

Price

(Yn dangos dwy neu dair dalen o lythyr.) Wel am otw, merchi. O'r diwadd!

Gwen

(Yn gollwng ei hosan i'w harffed.) A fe wetast fod Gwilym yn cychwyn miwn pump wthnos?

Price

(Gydag ochenaid fechan.) Do, merchi, fe wetas hynny.

Gwen

Wn i ddim yn y byd shwd y galla' i fatal ag e. Peth ofnadw yw ffarwelio ag e fel hyn a finna'n fam iddo. Rwy'n ffaelu diall, John, pam mae'r Brenin Mawr yn doti dynon gita'i gilydd os yw E am 'u gwahanu nhw wetyn.

Price

Paid â becso, Gwen fach. Mynd fydd ora ar 'i les e. Roet ti dy hunan yn clwad Dr. Willie Jenkins yn gweyd pwy ddydd yma mai'r rhan yna o Australia yw'r man gora yn y byd i ddyn yn y decline. Lwc fawr oedd i Myfanwy gisho gita ni i hela fe mas yno, a hitha'n gwpod 'i fod e'n dost.

Gwen

Wel, fe fydd yn lwc i Myfanwy idd 'i gal e hed. Pwy allai gatw cownts y fferm yn well nag e, ag ynta'n sgrifennu shwd ddarna bach pert o farddoniaeth yn Sisnag yn gystal a Chymrag? Fe ddotast yn y llythyr am dano'n ennill y wobor yn Steddfod Mountain Ash, spo?

Price

Wel, am do, Gwen, wrth gwrs hynny!

Gwen

A dim ond pump wthnos cyn y bydd e'n mynd. Dwy' i ddim am sefyll ar 'i ffordd e, ond, O, mae'n ofnadw idd 'i golli e mor gynnad.

Price

(Gyda thynerwch trwsgl.) Ond meddwl, Gwen fach, beth fydd y canlyniad! Dim ond cwpwl bach o flynydda, yna wedi'r holl weddïo taer a cholli dagra, fe ddaw nol atom ni eto─yn ddyn cryf ac iach!

Gwen

Ia, ia, John, fe wn i hynny! Dyna'r ffordd rwy'n cisho perswato'm hunan o hyd. Dyna i gyd rwy'n ofyn gan y Brenin Mawr─ifi gal byw i weld Gwilym ni yn cal 'i iechyd nol eto. Tyswn i ddim ond cal byw i weld hynny─idd 'i weld e'n gryf a hoyw a gwrid iechyd yn 'i wynab e─unwaith, dim ond unwaith cyn marw, rwy'n cretu y gallwn i fatal â'r hen fyd yma dan ganu.

Price

(Yn edrych drwy y llythyr.) Shwd mae spelian "endeavouring," Gwen?

Gwen

(Yn synfyfyriol.) "Endeavouring"? Aros funad 'nawr. Dyna'r Christian Endeavour Society ontefa? E-n-d─wn i yn y byd. Bysa'n llawar rhwyddach iti sgrifennu yn Gymrag, John bach.

Price

Ho'n wir! A gatal i ŵr Myfanwy feddwl 'mod i'n ffaelu wilia Sisnag, a ninna ddim yn wilia â'n gilydd pan madawson' nhw â Aberpandy? Dim perig, wir! (Yn edrych dros y llythyr drachefn.) Wel, wel, tyswn i ddim ond wedi cal ticyn o ysgol! O'r cyfla mae'r plant yn 'i gal heddi─Council School, yr Intermediate, a'r College! (Yn ochneidio'n hiraethus.)

Gwen

(Wedi ennyd o ddistawrwydd.) Sgwn i shwd bydd e'n dishgwl.

Price

Yn dishgwl? Pwy?

Gwen

Gwilym ni, pan ddaw e nol yn gryf ac iach. (Yn fyfyrgar.) Mae'n beth mawr, John, i fenyw ddishgwl ar 'i phlant a'u gweld nhw i gyd bob un yn ddynon cryf, mor gryfad fel y gallsan' nhw 'i lladd hi a'u dwylo noth, a'r dwylo hynny heb ariod gwrdd â hi ond mewn serch a charedigrwydd. Ond mae yna rwpath obeutu plentyn gwannaidd hed─alla' i ddim esbonio─mae yna rwpath sy'n 'i gatw e'n acos iawn at galon 'i fam. Mae fel tysa genti un sy heb dyfu lan fel y lleill, un sy'n gofyn am 'i gofal hi'n wastod.

Price

(Yn ceryddu'n dyner.) Gwen fach, rwyt ti byth a hefyd yn meddwl am y bechgyn yma.

Gwen

(Gydag arlliw o syndod.) Wel otw i ddim yn fam iddyn' nhw? Wyddost ti, John, alla' i lai na chretu fod Gwilym yn colli blas at fwyd y dyrnota dwetha yma. Dyna'r gwaetha o'r hen dywydd twym yma! Fel y gwetas i amser brecwast, tyswn i ddim ond yn gallu dod o hyd i ffowlyn bach, byswn yn gwneud diferyn bach o gawl tastus idd 'i ddenu fe i fyta. Ond mae ffowlyn yn costi ticyn, a does dim gormodd gita ni i sgwaro y dyddia yma rhwng y streic a chisho cynilo i hela Gwilym i Australia.

Price

(Yn chwerw.) Ia, dyna ti, y streic... Un ar ol y nall─streic, streic, streic! Allsat ti ddim cal ffowlyn ar hen gownt gan Parri'r Fish?

Gwen

Dyw e ddim yn rhoi hen gownt i neb nawr. Fe gollws gymant yn y streic ddwetha.

Price

(Yn llidiog.) Ia, dyna ti! (Mae'n codi ac yn cerdded yn gynhyrfus o amgylch yr ystafell.) A dyna'r criw mae Lewis ni yn byw ac yn bod gita nhw. A dyn teidi fel fi sy wedi Drill Hall y funad yma yn dewish ymgeisydd Seneddol─a mae nhw'n siwr o ddewish un pert hed!

Gwen

(Wedi dilyn ei meddyliau ei hun.) Ond mae'n siwr gen i, John, y gallwn i gal pishyn bach o ben gora'r rhag i wneud diferyn o gawl iddo. (Diflanna llid JOHN.) Rhaid i ni grynhoi pob cinog yr wthnosa nesa yma er mwyn cal mwy o betha iddo fe. (A ymlaen â'i gwaith cywiro.)

Price

(Yn sychlyd.) O, fe fydd yn ddicon respectable i Myfanwy ni, paid ti ofni hynny.

Gwen

Crotan ryfadd oedd Myfanwy─'roedd hi'n llawn bywyd ac yn dân ac yn deimlad i gyd. O'r annwl! fel y byddai hi'n canu! Rwy' i bron cretu bod John Henry ni'n tyfu yr un ffunud a'i fotryb Myfanwy.

Price

Mae fe rwpath yn depig, mae'n wir. Ag all neb ama nag oes ganto lais hyfryd.

Gwen

A mae fe rwpath yn depig obeutu 'i drwyn a'i ên hed. Ddotast ti air am dano yn y llythyr?

Price

Wel am do! (Yn eistedd ac yn darllen.) "We are expecting our John Henry back from college─"

Gwen

University, John, University!

Price

(Yn cywiro'r llythyr.) "From the University in Cardiff to-morrow or the day after. I think I told you before that he is preparing for the ministry. He is now in his second year, and next year he will be trying for the B.A."

Gwen

(Wrthi ei hun gydag arddeliad mawr.) Y Parch. John Henry Price, B.A.

Price

"Perhaps he will study for the B.D. afterwards, but that isn't quite settled yet. Fortunately─ (Cwyd GWEN ei phen o glywed y gair lluosill.) fortunately, he won a County Exhibition, so that we don't have to keep him altogether."

Gwen

Allsem ni ddim gwneud, John, a Gwilym druan mor wannaidd. Mae wedi bod yn ddicon calad arnom ni er inni gal Sam i lodgo yma.

Price

(Yn gollwng y llythyr ar y ford.) Dyna brecath grand roes e inni Nadolig dwetha─precath ardderchog oedd hi. Doedd Isaac Pugh ddim yn rhyw wresog iawn obeutu hi, ond roedd y diaconiaid erill yn 'i chanmol hi tuhwnt.

Gwen

Wel, John, wyt ti'n gweld, mae 'i fab 'i hunan, William Ewart, yn paratoi i fod yn bregethwr hed, a falle na alla neb ddishgwl iddo fod yn rhyw wresog iawn.

Price

A hefyd, mae fe mor gyndyn dros roi galwad i Jones Dowlais.

Gwen

Fe wetast wrth Myfanwy am yr alwad i Horeb, spo? Fe fydd hynny yn ddiddorol, a hitha wedi arfadd ishta yn y cornal wrth yr harmonium o'r dydd y bedyddiwyd hi.



Ennyd o ddistawrwydd.

Price

Wn i ddim, Gwen, os wyt ti wedi taro ar yr un syniad a finna obeutu'r alwad yma.

Gwen

(Yn ddigyffro.) Otw, John, otw.

Price

(Gyda brwdfrydedd.) Wel, fe fyddai'n ardderchog o beth tysa John Henry wedi cwpla yn y Coleg ac yn gallu cymryd yr eclws, on' byddai, Gwen?

Gwen

(Yn gollwng ei gwaith gwnïo i'w harffed.) A fe allai fyw yn nhre gita ni a fe allwn i ofalu am 'i ddillad e. Ta beth, fe fydd John Henry yma hyd fish Hydre'. Mae hynny'n rhyw gysur; achos fe fydd yr hen dŷ yma'n od iawn ar ol i Gwilym druan fynd dros y dŵr. (Yn ochneidio.) Pump wthnos, dim ond pump wthnos.

Price

Dere, Gwen fach, dere. Does dim iws iti fecso felna.

Gwen

Alla' i ddim help, John bach. Dyna fel y gnath y Brenin Mawr fi. Mae rhyw ofan arno'i rywsut, ofan yr aros a'r dishgwl, yn meddwl am dano ddydd a nos, ag ynta 'mhell o dre yn y gwletydd pell yna. Fe fydda' i'n gallu gweld 'i wynab e bob awr o'r dydd, dim ond ifi gauad 'n llyced, a fe fydda' i'n clwad 'i laish e'n wastod wrth fynd ar hyd y tŷ a mas yn yr ardd wrth 'i wely blota fe.



Wrth ddweyd hyn, cwyd yn araf a gesyd y fasged a'r hosanau ar y dreser. Yna, gan led-troi, digwydd iddi edrych drwy'r ffenestr. Mae'n synnu a dechreua siarad yn frysiog.

Gwen

Wel, tawn i fyth o'r fan yma, dyma Gwilym a Sam yn dod lan o'r Crossing a dyma fi heb gymant a doti'r llestri ar y ford! (Yn tynnu lliain gwyn o ddror y dreser.) Dyna un ofnadw i glepran wyt ti, John! (Yn taenu y lliain.) Does gen i gynnig i'r bechgyn ddod sha thre a phetha ddim yn barod. Gall menyw ddim dishgwl catw gafal ar 'i phlant os na fydd hi'n gwneud petha dicyn yn gyfforddus iddyn' nhw. (Mae'n brysio i'r gegin fach a chlywir hi'n symud llestri.) Trueni hed na fysa Lizzie Ann yma! Mae hi'n ddicon twp; rwy' i wastod yn gweyd wrthi na fu hi ariod ym mhen draw'r ffwrn─ (Yn brysio i mewn â basged yn cynnwys llestri tê.) ─ond mae hi'n handi, a rwy'n lico gweld 'i hen wynab hi obeutu'r tŷ. A fe ferwa'i ddiferyn bach o gawl iddo fe erbyn swpar.



Cymer lestr a'r blodau ynddo oddiar y dreser a gesyd ef ar y ford. Clywir sŵn traed oddiallan.

Daw GWILYM a SAM THATCHER i mewn.

Mae SAM yn ddwy a deugain oed, ond yn edrych yn hŷn gan fod ei wallt yn deneu ac yn dechrau britho. Mae ei wyneb yn felyn-ddu gan losg haul a phob tywydd, ac wedi ei addurno â rhibyn afler o foustache brith. Un fraich sydd ganddo, ac y mae'r llawes wag, y chwith, wedi ei gwthio i boced ei siaced las. Gwisga drowsus moleskin a phocedi tu blaen ynddo. Mae'n arfer ganddo fachu bawd ei law dde ym mhoced ei drowsus pan mae yn segur. Deil o dan ei fraich flag goch wedi ei rholio am y pastwn. Mae ei leferydd yn ei fradychu mai Cockney ydyw, ac yn ei oddefgarwch mawrfrydig o Aberpandy a'i holl ffyrdd, datguddir ysbryd trahaus brodor o'r Brifddinas.

Mae GWILYM yn dair neu bedair-ar-hugain oed, wedi ymwisgo yn blaen ond yn daclus. Gwna afiechyd ei wyneb yn llwyd a theneu. Ymddengys yn ŵr ifanc meddylgar a llawn cydymdeimlad, ac yn ddiragrith oherwydd ei fod yn meddu llawer o hiwmor tawel. Llefara'n bwyllog ac ystyriol, ac yn fynych sylla i wyneb y sawl sy'n ymddiddan ag ef megis un sy'n amcanu at dreiddio dan yr wyneb. Yn ei ymwneud â phobl eraill dengys gwrteisrwydd dirodres un yn ddiwylliedig wrth natur. Tuag ato ef dengys pawb dynerwch diffael; yn wir, eu hawydd i'w ymgeleddu ef ydyw'r elfen gyffredin sy'n cadw'r teulu yn gyfan.

Price

(Yn dosturiol iawn.) Wel, Gwilym, ffordd mae hi nawr, machan i?

Gwen

Ble buast ti mas yna'r holl amsar, boi bach, a hitha mor dwym yn yr houl?

Price

Rown i'n gweyd wrth dy fam ar ol cino y dylat ti fynd i orffws am spel bob diwetydd.

Gwilym

Rwy'n olreit, nhad!

Gwen

Ista lawr, nghalon i. Fe gei dy dê miwn wincad.



Mae GWEN yn brysio i'r gegin. Dechreua GWILYM fynd i gyfeiriad y gadair gerllaw'r dreser ond rhed ei dad o'i flaen i'w hestyn gan ddweyd, "Olreit, olreit, machan i," a gesyd hi ar y dde i'w gadair ei hun wrth y ford. Wedi dodi ei flag ar y dreser, cymer SAM y gadair yr eisteddai GWEN arni gynneu. Dyma ei le cynefin wrth y ford. Mae'r tri dyn yn eistedd. Tyn GWILYM ato y llestr yn cynnwys y blodau a chraffa arnynt fel un sy'n eu deall.

Sam

(Yn sychu'r chwys oddiar ei dalcen.) Wel, dyma ti diwarnod twym, boss. Fi just â rosto, ta beth. Os bydd y tywydd yn dala yn twym fel hyn a'r boys yn dala i wilia'r hot stuff 'na─bydd 'ma first-class row yn Aberpandy. Ti cal gweld, boss,fi gwpod yn all right.



Daw GWEN i mewn o'r gegin gefn, yn cario'r tebot, plataid o fara 'menyn a phlataid o deisennau crynion─Welsh cakes. Cymer y gadair a saif yr ochr dde i'r dreser ac eistedd wrth y bwrdd ar y llaw dde i SAM. Gadewir lle LEWIS yn wag, rhwng GWILYM a GWEN. Mae GWEN yn arllwys tê.

Gwen

Ble buast ti, Gwilym?

Gwilym

Wel, fe fuas am dro at yr Institute, ac yna meddyliais y byswn yn aros i glywad pwy gas 'i ethol fel yr ymgeisydd newydd.

Price

Yr hen Binkerton yna, spo.

Sam

Right, boss, right, the very first time!



Ysgwyd PRICE ei ben mewn diflastod.

Gwen

Bara 'menyn, Sam?

Sam

Os gwelwch yn dda, missis, fi gwed "Os gwelwch yn dda " all right nawr.



Curo ar y drws.

Gwen

Dewch miwn.



Gwelir ISAAC PUGH yn sefyll ar y trothwy, hen ŵr wedi ymwisgo yn gyffredin a diraen. Gan ei fod ef a PRICE yn anghydweld ar faterion o bwys yng nghapel Horeb, mae ei ymarweddiad braidd yn ffurfiol, ond yn awgrymu, yr un pryd, addfwynder gostyngedig a goddefgar.

Gwen

(Yn oeraidd ond yn gwrtais.) A! Shwd ych-chi, Isaac Pugh? Dewch miwn.

Pugh

Shwd ych-chi yma heddi? (Yn petruso ar y trothwy.) O, ych-chi'n cal tê?

Gwen

Otyn, otyn. Dewch chi miwn. (Yn cyfeirio at gadair wrth ddrws y parlwr.) Gymrwch chi ddishglad o dê gita ni?

Pugh

(Yn dod ymlaen.) Na'n wir! Na'n wir! Dim diolch. Newydd gal 'nhê wy' i. (Eistedd.)

Gwen

Mae yma ddicon o groeso, cofiwch chi.

Pugh

Oes, oes! Fe wn i hynny. (Wrth PRICE.) Fe glywsoch y newydd, spo?

Price

Do, fe glywas.

Pugh

Wel, feddylias i ariod y byswn i byw i weld shwd ddyn a'r hen Binkerton yn M.P. dros y Cwm─naddo'n wir!

Gwilym

Mae' nhw'n gweyd 'i fod e'n ddyn galluog iawn, Mr. Pugh.

Price

Dynon fel fe sy'n felldith i'r wlad yma heddi. Pwy yw e, sgwn i, i gal 'i hannar addoli? Rwy' i wedi byw yn y cwm yma nawr am drician mlynadd. Rwy' i'n cofio Aberpandy cyn byth i'r Powel Griffiths shinco'r pwll cynta. Rwy'n cofio defid y Pandy'n pori'n dawal lle mae Pwll Bryndu nawr. A chlywas i ariod sôn am y Pinkerton yma tan ryw ddwy ne dair blynadd yn ol.

Pugh

Wel, rown i'n meddwl fod pawb yn diall 'slawar dydd taw Evan Davies oedd i ddilyn George Llewelyn.

Gwilym

Bysa wedi ei ddilyn ddeng mlynadd yn ol, yn ddi-os, Mr. Pugh; falle bum mlynadd yn ol. Ond mae'r cwbwl wedi newid yn y cwm erbyn heddi.

Price

Eitha gwir, Gwilym, y cwbwl wedi newid, a newid er gwath hed, mae'n flin gen i weyd. Dyn da, stydi yw Evan Davies, dyn teidi, respectable, ac yn ddiacon ers ucian mlynedd. Rwy'n cofio'r diwarnod pan ethom ni'n dou i lawr y cwm i weld Gladstone. (Edrych i fyny at lun yn crogi ar y mur.) Ia, yr hen Gladstone! Dyna ddyn i chi! A drychwch ar yr hen Binkerton yma. Glywsoch chi son iddo ariod dywyllu drws capal ne hyd yn oed eclws tysa fatar o hynny? Pam na wnaiff e gynnal 'i hen gyfarfotydd ar ryw ddiwarnod arall heblaw'r Saboth? Mae'n ddicon calad i gal pobol i'r capal ar ddydd Sul heb iddo fe gatw 'i hen gyfarfotydd. "Chwe diwrnod y gweithi," medda'r Gair. Ond dyna, mae petha felly mas o ddate heddi.

Gwen

(Yn arllwys cwpanaid o dê.) Eitha gwir. Dyw hi ddim fel oedd hi, pan oen' nhw'n gorffod dod â'r meincia mas o'r festri acha nos Sul. (Yn rhoi cwpan i'w gŵr i'w estyn.) Cymrwch honna yn 'ch llaw fanna nawr, Isaac Pugh.

Pugh

Wel yn wir, doedd dim o'i isha arno' i. Ond gan 'ch bod chi mor garetig─



Cymer y tê a dechreua ei droi yn egniol. Yna yf ef.

Gwen

(Yn dal plataid o fara 'menyn.) Ych-chi'n siwr nawr na chymrwch chi ddim tamad o fara 'menyn? Dyna bishyn bach neis tena i chi.

Pugh

Wel yn wir, Mrs. Price fach, gan 'ch bod chi mor daer─ (Cwyd a chymer y darn bara 'menyn.)

Gwen

Rych chitha, fel ninna, Isaac Pugh, yn dishgwl ymlan at 'u gweld nhw'n dod sha thre o'r coleg, spo?

Price

(Yn gwenieithio'n groesawgar.) Clywas fod William Ewart chi wedi cal hwyl dda arni lan yn Treherbert pwy ddydd Sul 'ma.

Pugh

Fe geso' i lythyr oddiwrth William Ewart y bora 'ma. (Petrusa am ennyd gan edrych yn llechwraidd i gyfeiriad PRICE a GwEN.) Glywsoch chi oddiwrth John Henry yn ddiweddar?

Gwen

Dim ond cwpwl o bicture-postcards yr wthnosa dwetha yma, ond 'dym ni ddim yn poeni o achos hynny am 'i fod e wrthi yn gwitho erbyn yr examination. Petha ofnadw yw'r hen examinations yma. Rwy'n gobitho fod y fenyw lle mae fe'n lodgo yn dishgwl ar 'i ol e, ond rhaid ifi weyd, i fi'n 'i chal hi'n fenyw fach ddicon teidi, er bod hi'n perthyn i'r eclws.

Pugh

(Megis yn ymson.) Peth rhyfadd hed na fysa fe'n sgrifennu! (Yn newid y sgwrs.) Mae Lewis chi wedi bod yn gwitho dros Pinkerton, spo, Price?

Sam

Gwitho? Gwitho? I don't think! A ma Lewis yn champion i wilia. Fi wedi clwad lot yn Trafalgar Sguare, a fi wedi clwad nhw yn Hyde Park, a fi wedi clwad nhw ar Tower Hill, ond dim one gwell na Lewis. Ffor ma fe allu neud e, fi dim gwpod. Ar ol chooso candidate just now, nhw cal meeting amboiti blacklegs ma mishtri am cal. Tysa chi clwad fe─showto, wafo breichia, a llycid yn llosgi yn pen fe, a dynon gryndo fel fe'n mesmeriso nhw. Wedi cwpla fe wedi blino, clean fagged out ac yn tremblo all over. Bwndel o teimlata, dyna ti Lewis chi. Ond bachan smart, right enough.

Gwen

(Gyda phleser.) Dyna ti, John. Ond wetas i wrthot ti? Ag ynta ddim ond yn betar-ar-ddeg yn gatal yr ysgol! Ond doedd dim modd 'i atal e. Bant â fe i'r ysgol nos bob gaea. A'r llyfra roedd e'n brynu ag ynta ddim ond coliar bach!

Gwilym

Mae yna un peth yn siwr am Lewis, pun a fyddwch chi'n cytuno ag e ne bido, allwch chi ddim llai na theimlo'n falch ohono.



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1