|
|
1 |
Yr un yw'r olygfa drwy'r ddrama—cegin fawr Gwmhelyg. |
2 |
Hen ddodrefn derw sydd ynddi; bwrdd yn y canol, rhai cadeiriau derw o'i amgylch, cadair freichiau ger y lle tân ar y chwith a dreser yn y cefn ar y dde. |
3 |
Yng nghanol y cefn y mae ffenestr. |
4 |
Y mae drws ar y chwith yn arwain i'r gegin fach ac i'r llaethdy; hwn yw'r drws a ddefnyddir i fynd i mewn ac allan o'r buarth. |
5 |
Y mae drws arall ar y dde yn arwain i'r gweddill o'r tŷ. |
6 |
Uwchben y lle tân y mae rhestl i'r dryll ac y mae'r pethau arferol ar y silff-ben-tân. |
7 |
~ |
8 |
Gan fod pymtheng mlynedd rhwng y prolog ac Act I rhaid newid ychydig ar y llwyfan rhyngddynt. |
9 |
Tebyg y bydd newid y lliain bwrdd a llenni'r ffenestr yn ddigon. |
10 |
Gorau i gyd po leiaf o amser a gymerir wrth y gwaith hwn. |
|
(Hlin) PROLOG |
|
|
|
(Hlin) PROLOG |
12 |
Pan gyfyd y llen, gwelir Mrs. LLOYD yn glanhau cyllyll â bocs a bricsen wrlh y bwrdd. |
13 |
Benyw tua 35 oed ydyw, eithr y mae gofid wedi gwneud ei ôl ar ei hwyneb yn barod. |
14 |
Daw WILLIAM i mewn yn araf o'r chwith. |
15 |
Er ei fod tua 60 oed, y mae'n heini ei osgo. |
|
(William) {Yn eistedd yn y gadair freichiau.} |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Eu mam sy'n erfyn arnoch chi—nid er fy mwyn fy hun, ond er eu mwyn hwy. |
111 |
Clywir llais DAFYDD yn gweiddi "Mam", yna rhuthra i mewn—bachgen oddeutu 10 mlwydd oed. |
|
(Dafydd) {Wrth ddod trwy'r drws.} |
|
|
|
(Dafydd) Beth ddigwyddodd iddo fe, tadcu? |
118 |
Ei fam yn codi ac yn ei arwain oddi wrth eì dadcu ac yna yn eistedd drachefn ger y bwrdd gan gadw DAFYDD wrth ei hochr. |
|
(Mrs Lloyd) Rhaid i ti beidio â holi beth a ddigwyddodd i Rofer, Dafydd. |
|
|
|
(Mrs Lloyd) Rydych wedi cynnau tân na welwch chi na minnau mo'i ddiffodd. |
193 |
WILLIAM a DAFYDD yn mynd. |
194 |
MRS LLOYD yn eistedd ger y bwrdd. |
195 |
~ |
196 |
LLEN |