Yr un yw'r olygfa drwy'r ddrama—cegin fawr Gwmhelyg. Hen ddodrefn derw sydd ynddi; bwrdd yn y canol, rhai cadeiriau derw o'i amgylch, cadair freichiau ger y lle tân ar y chwith a dreser yn y cefn ar y dde. Yng nghanol y cefn y mae ffenestr. Y mae drws ar y chwith yn arwain i'r gegin fach ac i'r llaethdy; hwn yw'r drws a ddefnyddir i fynd i mewn ac allan o'r buarth. Y mae drws arall ar y dde yn arwain i'r gweddill o'r tŷ. Uwchben y lle tân y mae rhestl i'r dryll ac y mae'r pethau arferol ar y silff-ben-tân. Gan fod pymtheng mlynedd rhwng y prolog ac Act I rhaid newid ychydig ar y llwyfan rhyngddynt. Tebyg y bydd newid y lliain bwrdd a llenni'r ffenestr yn ddigon. Gorau i gyd po leiaf o amser a gymerir wrth y gwaith hwn. |
|
PROLOG |
|
Pan gyfyd y llen, gwelir Mrs. LLOYD yn glanhau cyllyll â bocs a bricsen wrlh y bwrdd. Benyw tua 35 oed ydyw, eithr y mae gofid wedi gwneud ei ôl ar ei hwyneb yn barod. Daw WILLIAM i mewn yn araf o'r chwith. Er ei fod tua 60 oed, y mae'n heini ei osgo. |
|
William |
(Yn eistedd yn y gadair freichiau.) Mae 'r giwed yna wedi bod wrthi eto, Rachel. |
Mrs Lloyd |
Pwy? Y Morgansiaid? |
William |
Pwy ond y nhw? |
Mrs Lloyd |
Beth maen nhw wedi'i wneud? |
William |
Saethu Rofer. |
Mrs Lloyd |
Beth? Ble cawsant gyfle? Pwy gafodd afael arno? |
William |
Ifan gadd afael arno—yn tynnu ei anadl ola yn y Waun Fawr. Doedd ganddyn nhw ddim digon o ddynoliaeth i'w orffen yn iawn—fe'i gadawsant i drigo bob yn dipyn. Druan o Rofer! |
Mrs Lloyd |
Ond beth wnaeth e iddyn nhw ei saethu? |
William |
Roedd Ifan yn meddwl ei fod wedi dilyn cwningen i mewn i gaeau Rhydyfran ac i un ohonynt ei saethu yno. Fe glywodd ergyd yn gynnar yn y prynhawn, medde fe. |
Mrs Lloyd |
Ond tadcu, wyddoch chi ddim yn iawn ai bechgyn Rhydyfran a'i saethodd ai peidio. |
William |
Gwybod! Gwn yn iawn, cystal a phetawn i wedi'i gweld nhw wrth yr anfadwaith. |
Mrs Lloyd |
Pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud? |
William |
Wnaeth e ddim drwg i neb—ei unig fai oedd mai ein ci ni ydoedd. |
Mrs Lloyd |
O'r annwyl, roeddwn i'n dechrau meddwl bod pawb wedi anghofio'r hen gynnen erbyn hyn. Roedd pethau wedi bod mor dawel y chwe mis diwetha. |
William |
Fydd yma ddim anghofio fyth, Rachel, ac fe ddylit ti o bawb wybod hynny. |
Mrs Lloyd |
Dydw i ddim wedi anghofio, ac nid yw'n debyg y gwna i. Ond rwy wedi sylweddoli nad yw cadw'r hen gynnen yn fyw yn gwneud lles i neb—dim ond magu gofid i ni fel teulu. |
William |
(Yn araf a phendant.) Tra bo un o'r Morgansiaid yn ffermio dros y clawdd ffin i'r fferm hon, mi wna fy ngorau i wneud iddyn nhw fel y maen nhw wedi gwneud i mi a'm teulu. Ac nid yw Rofer druan, ond un marc arall i'w roi yn y cownt gyferbyn â'u henwau. |
Mrs Lloyd |
Meddyliwch am y plant—dyna'r etifeddiaeth y byddwch yn ei throsglwyddo iddynt. |
William |
Mae'n gymaint i'r plant ag yw e i ti a minnau. |
Mrs Lloyd |
Ond dydy e'n ddim i'r plant eto—pam na allant dyfu i fyny heb gysgod yr hen gweryl a'r hen elyniaeth drostynt. |
William |
Ni all neb o'r teulu hwn edrych ar wŷr Rhydyfran ond fel gelynion, Rachel. Beth wyt ti'n feddwl a fydd Dafydd yn ei ddweud pan ddaw e adre o'r ysgol yn y man a dim Rofer yn ei gwrdd ym mhen draw'r cae? |
Mrs Lloyd |
(Yn gyflym a chyda thaerineb.) Dydych chi ddim i ddweud wrtho beth sydd wedi digwydd i Rofer. |
William |
Fe fynn gael gwybod. Ac y mae ganddo hawl i gael gwybod. Ei gi ef oedd Rofer. |
Mrs Lloyd |
Ie, ond peidiwch â dweud wrtho pwy a'i saethodd. Dwedwch mai anlwc oedd, dwedwch rywbeth, rhywbeth ond y gwir. Peidiwch â'i dynnu ef i mewn i'r gynnen ac yntau'n ddim ond deg oed. Dydy hi ddim ond creulondeb i'w dynnu ef ac Olwen i mewn i'r gynnen—rydw i wedi gofalu nad oes neb wedi sôn dim am y peth wrth y ddau—gadewch iddynt fod yn eu diniweidrwydd. Fy mhlant i ydyn nhw ac y mae gen i hawl i'w magu nhw fel yr ydw i am. |
William |
Wyt ti'n anghofio beth a ddigwyddodd i'w tad? |
Mrs Lloyd |
Nac ydw i ddim yn anghofio. Roedd e'n ŵr i mi yn ogystal â bod yn fab i chi—sut galla i anghofio fyth? Ond rydw i am i'r plant dyfu i fyny yn eu hanwybodaeth. Maent mor hapus ac yr ydw i am iddynt gadw'r hapusrwydd yna cyhyd ag sy'n bosibl. |
William |
Dydw i ddim yn gweld bai arnat ti, Rachel. Ond, weld di, dwyt ti ddim wedi dod yn un o'r teulu yma eto ac ni ddoi di fyth, greda i. Ni fuost ti erioed yn teimlo tuag at wŷr Rhydyfran fel yr ydw i ac fel yr oedd Dafydd dy ŵr yn teimlo. A phan ddaethant ar ei draws y noson honno... |
Mrs Lloyd |
(ar ei draws) Dydych chi ddim yn gwybod mai'r Morgansiaid a ddaeth ar ei draws. Ni wyddoch chi ddim beth a ddigwyddodd. A does gennych chi run hawl i ddweud wrth y plant mai'r Morgansiaid oedd yn gyfrifol am farwolaeth eu tad. |
William |
Rydw i mor sicr mai un o'r Morgansiaid a ollyngodd ergyd ar ôl yr ebol yr oedd Dafydd yn ei farchogaeth... |
Mrs Lloyd |
Efallai mai rhedeg i ffwrdd a wnaeth yr ebol. |
William |
Rydw i wedi dweud wrthyt ganwaith, fe saethwyd ergyd ar ôl yr ebol i godi ofn arno ac fe daflodd Dafydd ar ei ben. Dyna beth a ddigwyddodd ac yr wyf mor sicr o hynny ag yr ydw i fod yr haul yn mynd i godi fory. A phan fydda i a thithau wedi mynd, fe fydd Dafydd ac Olwen yn cofio'r hyn a wnaethpwyd i'w tad, a'u plant hwy yn cofio hefyd, a thra bo Morgansiaid yn Rhydyfran, fe fydd rhywun yn gallu pwyntio bys atynt a'u hatgoffa o'r hyn a wnaethant y noson honno. |
Mrs Lloyd |
Beth gwell fyddwch chi a hwythau a phawb arall o hynny? Ni wnaeth gelyniaeth a digofaint fel hyn les i neb erioed. Ceisiwch sylweddoli beth a fyddwch yn ei wneud. Chwerwi ysbryd a natur y plant—rhoi baich ar eu hysgwyddau—baich i'w gario drwy eu hoes. Dau sydd mor hapus a llon bob amser. |
William |
Rhaid i ti gofio y gofala gwŷr Rhydyfran na chânt fod yn eu hanwybodaeth yn hir. Na, tra bo'r ddau deulu yn ffermio y naill ochr i'r clawdd ffin, y mae mor amhosibl i anghofio'r hyn a fu ac yw hi i'r ci a'r hwch fwyta o'r un cafn. |
Mrs Lloyd |
(Yn daer ac eto yn sylweddoli mor anobeithiol oedd ei chais.) Tadcu, dewch i ffwrdd, dewch i ffwrdd tra bo'r plant yn ifainc, cyn iddynt sylweddoli'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. |
William |
Symud o Gwmhelyg? |
Mrs Lloyd |
Ie, pam lai? Mae fferm yn rhydd nawr yn ymyl lle Marged fy chwaer yn Lloegr—rhywle ymhell, bell oddi yma—lle na bydd sôn am dylwyth Rhydyfran—lle geill y ddau blentyn dyfu i fyny heb yr hen gynnen yma yn bla ar eu heneidiau. Dechrau bywyd newydd, a hyd yn oed os na allwn ni anghofio yr hyn a fu, ni fydd eisiau i'r plant fyth ddod i wybod. |
William |
Dwyt ti ddim ddim yn un o'r tylwyth, Rachel, neu ni fuasit yn meddwl am y fath ynfydrwydd. Ymadael â'r lle yma?—fferm fy nhad a 'nhadcu yn unig oherwydd pobl Rhydyfran? A wyt ti'n meddwl y gallwn i ddioddef gorfoledd y gethern yna petawn i'n sôn am symud? A wyt ti am i Dafydd allu dannod i mi pan fydd e'n ugain oed fy mod i'n credu na fyddai'n ddigon o ddyn i wrthsefyll gelyniaeth y Morgansiaid? |
Mrs Lloyd |
Be waeth am hynny? Ni ddaw i wybod am y gynnen. Rydw i am fagu fy mhlant yn rhywle heb gysgod y cwmwl hwnnw yno. |
William |
Mae gwaed fy mab yng ngwythiennau Dafydd ac ni fuaswn i ddim yn gwneud fy nyletswydd tuag ato petawn i ddim yn dweud wrtho am yr hyn a ddigwyddodd i'w dad. |
Mrs Lloyd |
Ond ni ddaw hynny â'i dad yn ôl. Pa lesâd â fydd y cwbl? Roedd colli ei dad yn fwy o golled i mi nag i neb, ond... |
William |
Rachel fach, ddoi di fyth i deimlo tuag at y tylwyth yna fel yr ydym ni fel teulu yn teimlo ac fel y bydd Dafydd ac Olwen yn teimlo ar ôl cael gwybod y cwbl. A wyt ti'n meddwl y bydd Dafydd yn fodlon colli Rofer? |
Mrs Lloyd |
Tadcu, rwy'n erfyn arnoch chi, gwnewch addo peidio â dweud y gwir wrtho heno. |
William |
Mae'n rhaid iddo gael gwybod rywbryd, Rachel. |
Mrs Lloyd |
Rwy'n gofyn i chi er mwyn y plant ac er eich mwyn chithau. Rydych ar y groesffordd heno. Os gwrthodwch chi ddilyn y llwybr a ofynnais i chi ei ddilyn, fe ddanfonwch y ddau blentyn yna ar lwybr sy'n arwain i atgasedd a dialedd, a chymylu eu holl fywyd. Rydych chi'n hen, ond y mae gan y ddau yna flynyddoedd Ìawer o'u blaen. Eu mam sy'n erfyn arnoch chi—nid er fy mwyn fy hun, ond er eu mwyn hwy. |
Clywir llais DAFYDD yn gweiddi "Mam", yna rhuthra i mewn—bachgen oddeutu 10 mlwydd oed. |
|
Dafydd |
(Wrth ddod trwy'r drws.) O mam... (Yna gwêl ei dadcu a thry ato.) Tadcu, mae Rofer wedi marw. Mae Ifan yn torri bedd iddo fe yn y cae. Beth ddigwyddodd iddo fe, tadcu? |
Ei fam yn codi ac yn ei arwain oddi wrth eì dadcu ac yna yn eistedd drachefn ger y bwrdd gan gadw DAFYDD wrth ei hochr. |
|
Mrs Lloyd |
Rhaid i ti beidio â holi beth a ddigwyddodd i Rofer, Dafydd. |
Dafydd |
Ond pam, mam? |
Mrs Lloyd |
Fe gei di gi arall yn ei le. |
Dafydd |
Dydw i ddim am gi arall—eisiau Rofer sydd arna i. (Yn mynnu ymryddhau o'i dwylo ac yn mynd yn ôl at ei dadeu.) Pam mae Rofer wedi marw, tadcu? A fuodd e'n gwneud drwg? |
William |
Naddo, machgen i. Wnaeth Rofer ddim drwg erioed. |
Dafydd |
Pam mae e wedi marw, ynte? |
William |
Fe ddweda i wrthyt ti maes o law. |
Dafydd |
Ond rydw i am gael gwybod nawr. Roedd e'n iawn pan es i i'r ysgol bore heddiw. Fe ddaeth gyda mi i ben draw'r cae. Ac mae Ifan yn pallu dweud beth a ddigwyddodd. Roedd ei'n dweud wrthyf am ofyn i chi. |
Mrs Lloyd |
(Yn cydio ynddo a'i dynnu ati eto.) Dafydd, os cei di boni i'w marchogaeth, a wyt ti'n fodlon peidio â gofyn rhagor sut y cafodd Rofer ei ddiwedd? |
Dafydd |
(Yn troi ac wynebu ei dadcu.) Chi laddodd Rofer, tadcu! Dyna pam na ddwedwch chi. |
William |
Fi! Nage, machgen i, fuaswn i ddim yn debyg o wneud hynny. |
Dafydd |
Pam na ddwedwch chi ynte? |
William |
Cael ei saethu wnaeth e, Dafydd; Ifan a'i cafodd yn gorwedd yn... |
Mrs Lloyd |
Dafydd, cerdd allan am funud at Ifan. |
Dafydd |
(Yn cydio'n dynn yn eì dadcu.) Na! Rydw i am gael gwybod. Pwy saethodd e, tadcu? |
William |
Fe fynn gael gwybod ac y mae ganddo hawl i gael gwybod. Ei gi ef oedd Rofer. |
Mrs Lloyd |
Nac oes ganddo, ddim hawl. Ni ŵyr beth y mae'n ei ofyn. Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb i gyd. Peidiwch â cheisio ei daflu ar ei ysgwyddau ef. |
Dafydd |
(Yn siglo braich ei dadcu.) Dwedwch, tadcu! |
William |
Mae'n rhaid iddo gael gwybod, Rachel. |
Mrs Lloyd |
Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb, cofiwch. Chi yn unig. |
William |
Mae'r cyfrifoldeb am farwolaeth ei dad arnom ni i gyd. |
Dafydd |
(Yn siglo ei fraich.) Dwedwch, tadcu. Pwy saethodd Rofer? |
William |
(Yn rhoi eì ddwy law ar ei ysgwyddau ac yn syllu i'w wyneb.) Shincyn Rhydyfran a'i saethodd e, Dafydd. |
Dafydd |
Ond pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud? |
William |
Wnaeth e ddim drwg o gwbl. |
Dafydd |
Pam ynte? Pam ynte? |
William |
Fe ddoi di i wybod y rheswm wedi i ti dyfu i fyny, Dafydd. |
Dafydd |
Ond doedden ni ddim wedi gwneud un drwg i'w ci nhw. Ydych chi ddim yn mynd i gosbi pobol Rhydyfran, tadcu? Ydych chi ddim yn mynd i saethu eu ci nhw? |
Mrs Lloyd |
Dafydd! Dwyt ti ddim i ddweud pethau felna. |
Dafydd |
Ydych chi ddim, tadcu? Os na wnewch chi, fe wna i pan fydda i wedi tyfu i fyny. |
Mrs Lloyd |
(Yn cydio ynddo yn drwsgl.) Rhaid i ti addo i mi nawr, Dafydd, na ddwedi di ddim peth fel yna eto. |
Dafydd |
(Yn ei wynebu.) Ond fy nghi i oedd Rofer. Doedd ganddyn nhw ddim hawl i'w saethu e. |
Mrs Lloyd |
Fe gei di gi eto... |
Dafydd |
Dydw i ddim eisiau ci arall. Fe gofia i am hyn pan fydda i... pan fydda i wedi tyfu i fyny. (Rhedeg at ei dadcu.) Faint sy'n raid i mi dyfu eto, tadcu, cyn bydda i'n ddigon mawr i handlo dryll? |
Mrs Lloyd |
(Wrth ei dadcu.) A ydych chi'n sylweddoli nawr beth yr ydych wedi'i wneud? |
William |
(Yn codi ac yn mynd al y drws chwith.) Dere allan gen i, Dafydd. |
Mrs Lloyd |
Rydych wedi cynnau tân na welwch chi na minnau mo'i ddiffodd. |
WILLIAM a DAFYDD yn mynd. MRS LLOYD yn eistedd ger y bwrdd. LLEN |