Noson o Farrug

Cue-sheet for Desc

(1, 0) 1 GOLYGFA.
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Cegin mewn ffermdy bychan.
(1, 0) 4 Gyferbyn â'r edrychwyr saif y lle tân.
(1, 0) 5 Ar y chwith mae drws yn cau ar y grisiau sy'n arwain i'r llofft, a drws arall ar y dde yn agor i'r buarth.
(1, 0) 6 Trefner hen soffa lwydaidd ar hyd yr ochr chwith i garreg yr aelwyd â'i chefn at ddrws y llofft, a chadair freichiau yr ochr arall wrth y pentan â'i chefn at ddrws y buarth.
(1, 0) 7 Saif y bwrdd rhwng y gadair freichiau a drws y buarth, a gofaler fod carreg yr aelwyd yn weladwy i'r edrychwyr.
(1, 0) 8 Dodrefner yn y dull mwyaf syml a chyffredin heb ddim gwychter.
(1, 0) 9 Croger almanac uwchben y lle tân.
(1, 0) 10 Pan y cyfyd y llen, gwelir ELIN HUWS mewn cap a shôl yn eistedd yn y gadair freichiau ac yn syllu yn synfyfyriol i'r tân.
(1, 0) 11 Mae ELIN tua 70 mlwydd oed ac yn wannaidd iawn ei hiechyd, a sieryd mewn llais go gwynfanus, fel un wedi hir ddioddef cystudd.
(1, 0) 12 Gwelir ei merch JANE yn smwddio ar y bwrdd ac yn mynd at y tân i newid yr haearn yn awr ac eilwaith.
(1, 0) 13 Mae JANE oddeutu 40 mlwydd oed, ac yn tueddu i fod yn oer a chaled ei natur.
(1, 0) 14 Mae profiad y blynyddoedd wedi ei suro i fesur.
(Jane) Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia.
 
(Elin) Mae'r breuddwyd wedi 'ngneud i'n anesmwyth iawn.
(1, 0) 44 Distawrwydd.
(Elin) 'Dwyt ti'n deyd dim, Jane.
 
(Jane) Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid.
(1, 0) 64 Daw'r Tad i mewn gyda rhaw a bwcedaid o datws: gesyd hwy yn y gongl y tu ol i'r soffa, ac yna daw at y tân i ymdwymo.
(1, 0) 65 Mae tua 70 mlynedd oed, yn ŵr penderfynol, ac i bob golwg yn stoicaidd ei natur.
(Tad) {Dan ymdwymo.}
 
(Tad) Bolltia fo fel arfar.
(1, 0) 105 Gwna JANE felly ac wedyn eistedd ar y soffa gyferbyn â'i mam.
(1, 0) 106 Tyn y tad y spectol o'r câs, glanha hi, a gesyd hi ar ei lygaid.
(1, 0) 107 Chwilia am y bennod a dechreua ddarllen.
(Tad) "Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd."
 
(Tad) "Ac ar ol ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon."
(1, 0) 111 Clywir curo gwan ar y drws.
(Elin) 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.
 
(Elin) Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.
(1, 0) 115 Curir eilwaith dipyn yn drymach.
(Tad) Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.
 
(Tad) Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.
(1, 0) 117 Tyn JANE y follt ac egyr y drws.
(Jane) Pwy sydd yna?
 
(Jane) Pwy sydd yna?
(1, 0) 119 DIC yn dyfod i mewn drwy'r drws a golwg llwm a chystuddiol arno, fel pe'n rhy wan i gerdded.
(1, 0) 120 Sieryd mewn llais bloesg a blinir ef gan beswch trwm.
(Dic) Jane!
 
(Tad) Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely.
(1, 0) 143 Goleua JANE y gannwyll ac â'r tad at y cloc sy ar y dresal i'w weindio.
(Elin) Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd.
 
(Elin) Tyrd at y tân, 'machgen i.
(1, 0) 152 A Dic ar ei liniau o flaen y tân wrth liniau ei fam, a gwelir hi'n teimlo'i ddwylo.