Drama un-act

Noson o Farrug (1910)

Robert Griffith Berry

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.



GOLYGFA.

Cegin mewn ffermdy bychan. Gyferbyn â'r edrychwyr saif y lle tân. Ar y chwith mae drws yn cau ar y grisiau sy'n arwain i'r llofft, a drws arall ar y dde yn agor i'r buarth. Trefner hen soffa lwydaidd ar hyd yr ochr chwith i garreg yr aelwyd â'i chefn at ddrws y llofft, a chadair freichiau yr ochr arall wrth y pentan â'i chefn at ddrws y buarth. Saif y bwrdd rhwng y gadair freichiau a drws y buarth, a gofaler fod carreg yr aelwyd yn weladwy i'r edrychwyr. Dodrefner yn y dull mwyaf syml a chyffredin heb ddim gwychter. Croger almanac uwchben y lle tân. Pan y cyfyd y llen, gwelir ELIN HUWS mewn cap a shôl yn eistedd yn y gadair freichiau ac yn syllu yn synfyfyriol i'r tân. Mae ELIN tua 70 mlwydd oed ac yn wannaidd iawn ei hiechyd, a sieryd mewn llais go gwynfanus, fel un wedi hir ddioddef cystudd. Gwelir ei merch JANE yn smwddio ar y bwrdd ac yn mynd at y tân i newid yr haearn yn awr ac eilwaith. Mae JANE oddeutu 40 mlwydd oed, ac yn tueddu i fod yn oer a chaled ei natur. Mae profiad y blynyddoedd wedi ei suro i fesur.

Jane

Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia.

Elin

(Yn procio'r tân.) Mae'r breuddwyd ges i neithiwr wedi 'ngneud í'n reit anesmwyth.

Jane

(Yn awdurdodol.) Rwy'n synnu atoch chi'n codlo'ch pen hefo breuddwydion: ryda chi'n rhoi gormod o goel arnyn' nhw o lawer.

Elin

(Yn gwynfanus.) Da ti, Jane, paid a 'nghipio i mor chwyrn, achos dydw i ddim y peth fûm i o ran f'iechyd.

Jane

'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn. Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na.

Elin

Hawdd y gelli di siarad, 'ngeneth i: rwyt ti wedi cael iechyd di-dor ar hyd dy fywyd: fuost ti rioed fis yn sâl i mi gofio, ac fel y dywed yr hen air, "Nid cyfarwydd ond a wypo." Ac anodd iawn i rai fel dy dad a thitha gydymdeimlo'n iawn â phobol wanllyd. Dyna dy dad─

Jane

Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd─mod i'n tynnu ar ol 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo.

Elin

Waeth hynny na rhagor, rwyt ti'n debycach yn dy ffordd i ochor dy dad nag i f'ochor i. Cofia, ddeydis i rioed air bach am dy dad; dyn cyfiawn ydi o; mae o'n garedig hefyd yn 'i ffordd 'i hun, ond mae 'na rywbeth caled yno fo er hynny.

Jane

O ïe, ewch ymlaen─rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth stiff yn 'y natur i. Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun.

Elin

Do, Jane bach, rwyt ti wedi bod yn dda i mi, a ddylwn i ddim achwyn, ond mod i ambell waith yn teimlo'th fod braidd yn ddi-amynadd hefo fi. Hwyrach fod y bai arna i; rwy'n mynd yn fwy plentynnaidd efallai wrth fynd yn hynach.

Jane

Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith. Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach.

Elin

Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun.

Jane

Wel, mi gadawn hi ar hynyna. Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi?

Elin

Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion.

Jane

Na, na, deydwch y breuddwyd: mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o.

Elin

Mi freuddwydis neithiwr fod Dic, dy frawd, wedi dod adre a bod golwg torcalonnus o wael a llwm arno fo. Roedd o mor blaen o flaen 'y ngolwg i ag rwyt ti, ac roedd o'n edrach fel un yn dihoeni─ïa, roedd golwg un yn marw arno fo. Mae'r breuddwyd wedi 'ngneud i'n anesmwyth iawn.



Distawrwydd.

Elin

'Dwyt ti'n deyd dim, Jane.

Jane

'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn.

Elin

Gwn, 'ngeneth i─rwyt ti 'run farn a dy dad. Dyma dros bum mlynedd wedi mynd heibio er pan safodd dy dad ar garreg yr aelwyd 'ma─ anghofia i byth mo'i eiriau: mi warniodd fi nad oeddwn i enwi Dic yn i glyw o hynny allan; a wnes i byth, ond ma' 'nghalon i ar dorri i gael siarad amdano fo hefo dy dad, ond fod ofn gneud hynny arna i.

Jane

Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ol rhoi'r ddeddf i lawr.

Elin

Dyna'r noson─yr un noson pan yr aeth o ar 'i draed ar y gadair i osod almanac i fyny uwchben y lle tân 'ma, i guddio llun Dic bach rhag i neb gael gweld y llun, ond ŵyr dy dad ddim pa mor amal rydw i'n codi cwr yr hen almanac hefo'r procar i sbio ar 'y machgen. Dic bach benfelyn ydi o i mi er 'i holl ddrwg.

Jane

(Yn frochus.) Dic bach, wir! Mae'n ddigon hen i fod wedi torri'ch calon chi beth bynnag er's dros bum mlynedd: mae'n ddigon hen i fod wedi gneud 'y nhad ddeng mlynedd yn hynach na'i oed. 'Dydw i ddim yn synnu na fyn 'y nhad ddim clywed i enw yn y tŷ 'ma. Dic bach, ai ê? Fo chwalodd ddedwyddwch yr aelwyd 'ma am byth.

Elin

"A anghofia mam ei phlentyn sugno?" (Sych ei llygaid â chwr ei ffedog.) Beth bynnag ddeydi di a dy dad, Dic f'unig fachgen ydi o i mi, a dyna fydd o byth. O'r tad! sgwn i ymhle mae o'r noson rewog 'ma. Dic, Dic! pam rwyt ti wedi 'nghadw i am bum mlynedd heb yr un cipolwg arnat ti ac heb yr un gair o dy helynt?

Jane

Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid.



Daw'r Tad i mewn gyda rhaw a bwcedaid o datws: gesyd hwy yn y gongl y tu ol i'r soffa, ac yna daw at y tân i ymdwymo. Mae tua 70 mlynedd oed, yn ŵr penderfynol, ac i bob golwg yn stoicaidd ei natur.

Tad

(Dan ymdwymo.) Mae min yr awel yn torri fel rasal heno: roedd hi'n oer erwinol yn yr ardd 'na rwan,

Elin

Mae hi'n galed ar bob crwydryn digartref ' ar noson fel heno.

Tad

(Yn dal i ymdwymo.) Mae'r crwydriaid, fel rheol, yn derbyn 'u haeddiant: y nhw, mi wranta, sy'n gyfrifol am 'u cyflwr. Jane, 'dwyt ti ddim bron dwyn y smwddio na i ben? Does dim ond rhyw awr ne ddwy rhyngom ni a bore Saboth, wyddost.

Jane

Rwyf bron wedi gorffen.

Tad

(Yn eistedd i dynnu'i legins a'i esgidiau.) Does dim fel darfod gwaith y tŷ yn brydlon nos Sadwrn i fod yn barod i'r Sul.

Jane

Yma y bydd y pregethwr fory yntê yn cael cinio a thê?

Tad

Ie.

Elin

Pwy ydi'r pregethwr fory, William?

Tad

Ezra Davis, Llanllios.

Jane

(Dan bacio'r taclau smwddio.) Does gen i fawr o feddwl o Ezra Davis, waeth gen i pwy glywo.

Tad

Jane, 'dalla i d'aros di yn siarad yn fychanus am ddynion da.

Jane

Da ne beidio, un poenus ydi o i aros mewn tŷ beth bynnag.

Tad

Be sy o'i le arno?

Jane

Dim, am wn i, ond i fod o'n ofnadwy o barticlar hefo'i fwyd. Pam na fedar o fyta fel rhyw ddyn arall─byta popeth, yn lle pigo fel cyw iar?

Tad

Paid a beio dyn am rhyw fân betha fel yna. (Cyfyd i osod y legins a'r esgidiau wrth y bwcedaid datws: yna â at y dresal i gael y Beibl, ac ar ol symud y bwrdd yn nês i'r tân, cymer gadair ac egyr y Beibl.) Fe ddarllena chydig adnodau, ac wedyn mi awn i orffwys. Leiciech chi ddarllen heno, Elin?

Elin

Na, mae'n well gen i beidio heno.

Tad

Pam? Ydych chi ddim yn dda heno?

Elin

Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma.

Tad

Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen?

Elin

Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc.

Tad

O'r gore. Jane, ddaru ti folltio'r drws?

Jane

Naddo. (Â at y drws.)

Elin

Paid a'i folltio fo 'rwan, ngeneth i.

Tad

Pam? (Nid etyb ELIN.) Bolltia fo fel arfar.



Gwna JANE felly ac wedyn eistedd ar y soffa gyferbyn â'i mam. Tyn y tad y spectol o'r câs, glanha hi, a gesyd hi ar ei lygaid. Chwilia am y bennod a dechreua ddarllen.

Tad

"Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd." (Tyn y spectol oddiar ei lygaid gan gymryd arno fod angen ei glanhau eilwaith.) "Ac ar ol ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon."



Clywir curo gwan ar y drws.

Elin

'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.

Tad

Ddylai dim gael torri ar y darllen.

Elin

Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.



Curir eilwaith dipyn yn drymach.

Tad

Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.



Tyn JANE y follt ac egyr y drws.

Jane

Pwy sydd yna?



DIC yn dyfod i mewn drwy'r drws a golwg llwm a chystuddiol arno, fel pe'n rhy wan i gerdded. Sieryd mewn llais bloesg a blinir ef gan beswch trwm.

Dic

Jane!

Elin

(Yn codi yn egwan ar ei thraed a'i llais yn grynedig.) Pwy sydd 'na, Jane? Dic annwyl, ai ti sydd yna, dywed? Tyrd at y tân, 'machgen bach i, i dwymo dy ddwylo oerion. Mae 'meddwl i wedi bod hefo ti drwy gydol nosweithia'r barrug 'ma.

Tad

(Yn dreng.) Elin, steddwch i lawr, a pheidiwch a chyffroi'ch hunan.

Elin

Wiliam, Wiliam! sut y medra i beidio, a Dic bach wedi dwad adre ar ol blynyddoedd o fod í ffwrdd. "Fy mab hwn oedd farw ac a aeth yn fyw drachefn, efe a gollesid ac a gaed."

Tad

(Yn chwerw.) Wraig! rhag cwilydd i chi adrodd geiria mor gysegredig uwchben creadur fel acw (gan gyfeirio ei fys ato), sy wedi dwyn gwarth ardal gyfa arno ni; 'nacw sy'n gyfrifol am ddwyn y bedd flynyddoedd yn nês atoch chi, ei fam, ac ataf innau ei dad. Ai mab yw'r un a gurodd hoelion i eirch ei rieni?

Elin

O, Wiliam! mi lladdwch o â'ch geiriau brathog!

Dic

(Yn neshau'n wylaidd at y bwrdd ac estyn ei law i'w dad.) 'Nhad, newch chi ysgwyd llaw hefo fi?

Tad

(Yn tynnu ei spectol yn bwyllog a'i gwthio i'r câs.) Na wna.

Elin

Wiliam! Dic ydi o! yr unig fab sy gynno ni!

Tad

Na, dydi o ddim yn fab i mi bellach: mi fu 'y mab i farw chwe blynedd yn ol pan y gadawodd i gartref mewn gwarth. Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely.



Goleua JANE y gannwyll ac â'r tad at y cloc sy ar y dresal i'w weindio.

Elin

Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd. Fe gymeri damaid, yn nei di, 'machgen i?

Dic

Na, does dim taro arna i heno, mam: mi elli fynd i dy wely, Jane.

Elin

'Ngwas bach i, rhaid iti gymryd rhywbeth i'w fyta; pryd y cest di fwyd ddwaetha?

Dic

Wel wir, dydw i ddim yn cofio'r funud 'ma, ond fedra i fyta dim rwan beth bynnag.

Jane

Dyma fi'n mynd ynteu. (A drwy ddrws y grisiau gyda'r gannwyll.)

Elin

Tyrd at y tân, 'machgen i.



A Dic ar ei liniau o flaen y tân wrth liniau ei fam, a gwelir hi'n teimlo'i ddwylo.

Elin

Gwarchod pawb! mae dy ddwylo di fel y clai; da ti, twyma nhw'n dda. Cymer gwpanaid o dê, Dic bach, i 'mhlesio i.

Dic

Na, wir, mam, fedra i ddim, ond mi leiciwn gael gorfadd ar y soffa 'ma o flaen y tân, os ydi 'nhad yn fodlon: mi rydw i wedi blino. Mi â i ffwrdd ben bore fory ond i mi gael gorffwys heno.

Tad

Na, 'dei di'r un cam o'r tŷ 'ma tan fore Llun: rwyt ti wedi torri digon ar y Saboth y blynyddoedd dwaetha; thorri di mono fory o'r tŷ yma: os dyna dy fwriad, gwell i ti fynd oddiyma heno nesa. Cofia, un o'r ddau beth─aros yma tan fore Llun, neu fynd heno. Rwan, Elin, mi'ch helpiaf chi tua'r llofft.

[Rhagor o destun i'w ychwanegu]

Drama un-act