|
|
(1, 1) 1 |
Yr Olygfa: Parlwr moethus mewn plasdy bychan ar arfordir de-orllewinol Môn. |
(1, 1) 2 |
Mae wedi'i ddodrefnu'n chwaethus — hen ddodrefn da. |
(1, 1) 3 |
Mae ynddo silffoedd llyfrau a'r rheini'n or-daclus. |
(1, 1) 4 |
Ar y muriau mae lluniau haniaethol eu naws yn crogi. |
(1, 1) 5 |
Yn un pen i'r parlwr y mae piano grande agored a darnau o gerddoriaeth arni. |
(1, 1) 6 |
Mae yma hefyd hi-fi drudfawr ac wrth ei ymyl nifer o grynoddisgiau a thapiau caset. |
(1, 1) 7 |
Mae yna gitâr yn y parlwr hefyd. |
(1, 1) 8 |
Hwnt ac yma mae teganau plentyn ifanc iawn. |
(1, 1) 9 |
~ |
(1, 1) 10 |
Mae'r stafell yn arwain allan i batio sy'n arwain i lawr grisiau gerrig at lawnt. |
(1, 1) 11 |
Yng ngwaelod y lawnt hon y mae llyn ond ni all y gynulleidfa ei weld. |
(1, 1) 12 |
~ |
(1, 1) 13 |
Tywyllwch. |
(1, 1) 14 |
Fel y cyfyd y golau, clywn 'Ffrwd Ceinwen' yn cael ei chanu gan driawd piano. |
|
(Dei) {Ar y ffôn.} |
|
|
(1, 1) 16 |
Yn araf mae'r gerddoriaeth yn distewi. |
(1, 1) 17 |
Yn y pellter, clywir sŵn injian gref JCB yn nesáu at y tŷ. |
(1, 1) 18 |
Mae'r sŵn yn cryfhau ac yna'n peidio. |
(1, 1) 19 |
Y tu allan clywir llais. |
(1, 1) 20 |
DEI yn gweiddi: 'Mrs Davies? Mrs Davies?'. |
(1, 1) 21 |
Mae DEI yn ymddangos wrth y grisiau gerrig. |
(1, 1) 22 |
Mae'n ŵr ifanc tua 27 oed mewn dillad gwaith ac yn bur flêr yr olwg. |
(1, 1) 23 |
Mae'n edrych o'i gwmpas, diffodd ei sigarét a cherdded yn llechwraidd braidd i'r parlwr. |
(1, 1) 24 |
Unwaith eto, mae'n gweiddi 'Mrs Davies?', ac yna 'Dona?' ond ni chaiff ymateb. |
(1, 1) 25 |
Mae'n ymlacio rhywfaint gan gerdded o gwmpas. |
(1, 1) 26 |
Mae'n edrych ar y llyfrau, yna'r recordiau a'r crynoddisgiau. |
(1, 1) 27 |
Mae'n eistedd wrth y piano ac yn ceisio chwarae alaw o'i gof (un o eiddo Islwyn Davies, y cyfansoddwr, yn seiliedig ar 'Os Torrith Cob Malltraeth') ond mae'n cael cryn drafferth i fwrw ymlaen. |
(1, 1) 28 |
Mae hyn yn ei gordeddu a'i wneud yn hynod flin a rhwystredig. |
(1, 1) 29 |
Mae'n codi'n sydyn fel petai mewn siom a cherdded at yr hi-fi a'i droi ymlaen. |
(1, 1) 30 |
Mae'n tiwnio radio'r hi-fi i orsaf arbennig a chlywir un o ganeuon 'John ac Alun' yn cael ei chwarae ar y radio. |
(1, 1) 31 |
Mae'n ymateb i'r gân yn hynod flin. |
(1, 1) 32 |
"Blydi hel!" a throi y sain i lawr ychydig. |
(1, 1) 33 |
Mae'n tynnu ffôn symudol o'i boced a phwyso'i fotymau. |
|
(Dei) {Ar y ffôn.} |
|
|
|
(Dei) Ia, iawn. |
(1, 1) 42 |
Daw record John ac Alun' i ben. |
|
(Radio) John ac Alun... |
|
|
|
(Radio) Ti 'na? |
(1, 1) 54 |
Mae DEI yn cynhyrfu. |
|
(Radio) Dei? |
|
|
|
(Radio) Hogia'r werin, te? |
(1, 1) 111 |
Mae DEI yn rhoi'r ffôn i lawr yn hynod flin. |
|
(Radio) Reit Dei. |
|
|
|
(Radio) Hogan a hannar Doreen. |
(1, 1) 121 |
Mae'r gân i'w chlywed am ychydig ac yna, yn ei dymer, mae Dei yn diffodd y radio. |
(1, 1) 122 |
Mae'n cerdded eto at y piano a cheisio chwarae, heb fawr o lwyddiant, y darn 'Cob Malltraeth'. |
(1, 1) 123 |
Tra mae'n gwneud hyn ymddengys DONA ar y grisiau gerrig. |
(1, 1) 124 |
Pan glyw'r gerddoriaeth, mae'n aros am ennyd. |
(1, 1) 125 |
Mae mewn penbleth. |
(1, 1) 126 |
Yna, mae'n cerdded i mewn. |
(1, 1) 127 |
Am ennyd, nid yw DEI yn sylweddoli ei bod yno. |
|
(Dona) Be ti'n 'neud? |
|
|
|
(Dei) Stompio diawl ydi peth fel hyn. |
(1, 1) 147 |
Mae DONA yn chwilio am rywbeth yn y silff lyfrau. |
|
(Dona) Gneud fawr o wahaniaeth, nac 'di? |
|
|
|
(Dei) Pa flwyddyn cyfansoddodd o |Cob Malltraeth|? |
(1, 1) 160 |
Mae Dona yn codi ei hysgwyddau. |
|
(Dona) Rhywbryd yn niwadd y chwe dega. |
|
|
|
(Dei) Ti 'di bod yn Verona? |
(1, 1) 179 |
Mae Dona yn codi ei hysgwyddau eto. |
|
(Dei) Rhaid i ti fynd. |
|
|
|
(Dei) Ar ôl llyncu'r banad mi a' i'n ôl i'r siop. |
(1, 1) 194 |
Mae DONA yn tynnu darn o bapur allan, gafael yn y gitâr a dechrau rhyw fwmial cân Saesneg. |
(1, 1) 195 |
Mae DEI yn rhythu arni. |
|
(Dei) Be ydi hon? |
|
|
|
(Dei) Am faint fuost ti yn y Guildhall na? |
(1, 1) 202 |
Yn ei thymer, y mae DONA yn codi, taflu'r gitâr ar y soffa a rhuthro i fyny'r grisia. |
(1, 1) 203 |
Mae DEI wedi synnu at ei hymddygiad. |
|
(Dei) Be ddeudis i?... |
|
|
|
(Dei) Dim ond gofyn 'nes i... |
(1, 1) 206 |
Mae DEI ar ei ben ei hun eto. |
(1, 1) 207 |
Mae'n cerdded at y piano a cheisio, unwaith eto, chwarae'r un darn. |
(1, 1) 208 |
Y tro hwn y mae'n cael gwell hwyl arni. |
(1, 1) 209 |
Tra mae'n gwneud hyn mae MEILIR yn ymddangos. |
(1, 1) 210 |
Mae wedi gwisgo'n drwsiadus mewn siwt a chôt ddu laes. |
(1, 1) 211 |
Yn un llaw mae ganddo gês teithio ac yn y llaw arall gyfrifiadur symudol bychan. |
(1, 1) 212 |
Mae'n edrych o'i gwmpas, yn arbennig i gyfeiriad y llyn. |
(1, 1) 213 |
Mae'n syllu ar yr hyn a wêl gyda syndod. |
(1, 1) 214 |
Yna, mae'n cymryd sylw o'r gerddoriaeth a cherdded i mewn. |
(1, 1) 215 |
Y tro hwn y mae DEI yn ei weld. |
|
(Meilir) Cob Malltraeth. |
|
|
|
(Dei) Cwestiwn da ar y diawl. |
(1, 1) 249 |
Maent yn edrych allan. |
|
(Meilir) Y ffrwd 'na sy 'di gorlifo? |
|
|
|
(Dei) Mi fedra i fwrw mlaen hefo'r peipia 'na, medra? |
(1, 1) 283 |
Wrth fynd allan, mae DEI yn bwrw golwg ar y piano. |
(1, 1) 284 |
Mae'n aros ennyd. |
|
(Dei) Ges i uffar o feirniada'th dda gynno fo, 'chi? |
|
|
|
(Dei) Uffar o gân. |
(1, 1) 330 |
Mae DEI yn mynd allan. |
(1, 1) 331 |
Pan â allan drwy ddrws y patio mae'n aros am ennyd ac edrych i gyfeiriad y llyn. |
(1, 1) 332 |
Ymddengys fel petai'n ffieiddio ato'i hun. |
(1, 1) 333 |
Mae'n magu plwc a cherdded i gyfeiriad y llyn gan adael MEILIR ar ei ben ei hun yn y stafell. |
(1, 1) 334 |
Mae MEILIR yn edrych o'i gwmpas a thynnu ei ffôn symudol allan a phwyso'i fotymau. |
(1, 1) 335 |
Mae rhywun, y pen arall, yn ateb yr alwad. |
|
(Meilir) Claire?... |
|
|
|
(Meilir) I have to see you, Claire... |
(1, 1) 357 |
Daw Dona i mewn fel pe bai ar frys gwyllt. |
(1, 1) 358 |
Mae MEILIR yn ddiplomataidd yn dirwyn y sgwrs ffôn i ben. |
|
(Meilir) I'll give you a ring later on... |
|
|
|
(Meilir) Ma' hi'n dda iawn chwara teg 'ddi. |
(1, 1) 442 |
Mae DONA, mewn tymer, yn rhuthro allan i'r patio. |
|
(Meilir) {Mewn syndod.} |
|
|
|
(Dona) Hogia'r lle 'ma i gyd yn chwil rownd y rîl. |
(1, 1) 461 |
Maent yn symud i mewn. |
|
(Dona) 'Nest ti sylwi ar y bloda? |
|
|
|
(Meilir) Popeth. |
(1, 1) 561 |
Mae MEILIR yn anesmwytho. |
(1, 1) 562 |
Mae'n edrych allan at y lawnt. |
|
(Meilir) Nhad wrth 'i fodd yn mynd at y ffrwd 'na. |
|
|
|
(Meilir) Wedyn mi ddôi i mewn, mynd at y piano a chyfansoddi tan berfeddion. |
(1, 1) 569 |
Mae'r ffôn yn canu. |
(1, 1) 570 |
Mae Dona yn mynd i mewn a'i godi. |
|
(Dona) {Ar y ffôn.} |
|
|
|
(Dona) Hwyl. |
(1, 1) 582 |
Mae'n dod yn ôl at MEILIR. |
|
(Meilir) Pwy o'dd 'na? |
|
|
|
(Meilir) O. |
(1, 1) 586 |
Ymddengys DEI. |
|
(Dei) Dwad yma i dwtio 'nes i, ddim i blydi 'redig. |
|
|
|
(Dei) A gwna fo'n gry'. |
(1, 1) 602 |
Mae DONA yn mynd allan. |
(1, 1) 603 |
Mae MEILIR yn cerdded at y piano ac eistedd i lawr yn rhythu ar y nodau. |
(1, 1) 604 |
Mae DEI yn tanio sigarét. |
|
(Dei) Stomp fel hyn ddim yn mynd i godi gwerth y lle 'ma, nac 'di? |
|
|
|
(Dei) Fel tasa gynnyn nhw'u hewyllys 'u huna'n. |
(1, 1) 611 |
Mae MEILIR yn ceisio chwarae nodau 'Ffrwd Ceinwen' ar y piano. |
|
(Dei) Betia i chi, pan ddo'i yma ben bora fory, mi fydd 'na dros droedfadd o ddŵr ar y blydi lôn 'na. |
|
|
|
(Dei) Hynny ydi, gwahanol i'r petha er'ill gyfansoddodd o. |
(1, 1) 623 |
Mae MEILIR yn rhoi'r gorau i chwarae. |
|
(Dei) Sori... |
|
|
|
(Meilir) Gythreulig. |
(1, 1) 637 |
Mae DEI yn chwerthin. |
|
(Meilir) Be sy' mor ddoniol? |
|
|
|
(Dei) Well gin i stomp 'dw i'n gyfarwydd â hi, myn diawl. |
(1, 1) 695 |
Mae DEI yn mynd allan wedi cynhyrfu, i'r lawnt. |
(1, 1) 696 |
Mae MEILIR yn mynd yn ôl i'r parlwr. |
(1, 1) 697 |
Mae'n cerdded o gwmpas fel petai mewn penbleth. |
(1, 1) 698 |
Daw DONA i mewn gyda'r coffi. |
(1, 1) 699 |
Mae'n rhoi un i MEILIR. |
|
(Dona) 'Ma chdi. |
|
|
|
(Dona) Ydi hwn isio'r coffi 'ma ta be? |
(1, 1) 766 |
Mae DONA yn mynd at y patio a thaflu'r coffi allan ar y lawnt. |
(1, 1) 767 |
Yn y cyfamser mae MEILIR wedi estyn ei gyfrifiadur ac yn dechrau gweithio arno. |
(1, 1) 768 |
Daw DONA yn ôl i mewn. |
(1, 1) 769 |
Mae'n edrych ar MEILIR am ennyd. |
|
(Dona) Newid dim, nac wyt? |
|
|
|
(Dona) Newid dim, nac wyt? |
(1, 1) 771 |
Mae MEILIR yn ei fyd bach ei hun. |
|
(Meilir) Mm? |
|
|
|
(Dona) Peltio nhw?... |
(1, 1) 793 |
Mae MEILIR yn llawn rhwystredigaeth yn gwrando ar hyn. |
|
(Dona) Be ti'n 'neud? |
|
|
|
(Dona) Sori. |
(1, 1) 799 |
Mae DONA yn cerdded at y silffoedd wrth ymyl yr hi-fi, tynnu crynoddisg allan, a'i roi i mewn yn y chwaraeydd. |
(1, 1) 800 |
Mae miwsig pop yn diasbedain yn y stafell. |
(1, 1) 801 |
Mae'n disgwyl ymateb gan MEILIR. |
(1, 1) 802 |
Ni chaiff. |
(1, 1) 803 |
Mae'n troi'r sain yn uwch.) |
|
(Meilir) Diffa hwnna, 'nei di? |
|
|
|
(Dona) Na 'na! |
(1, 1) 819 |
Mae MEILIR yn ei dymer yn mynd at yr hi-fi a throi'r sain i lawr. |
(1, 1) 820 |
Mae DONA unwaith yn rhagor yn troi'r sain yn uwch. |
(1, 1) 821 |
Mae MEILIR yn ei droi i lawr. |
(1, 1) 822 |
Mae DONA yn ei droi'n uwch. |
(1, 1) 823 |
Dechreuant ymladd, bron. |
|
(Dona) Paid 'nei di! |
|
|
|
(Meilir) Faint ti'n feddwl ydi d'oed di? |
(1, 1) 828 |
Trwy'r drws cefn ymddengys DWYNWEN a BARRY. |
(1, 1) 829 |
Mae'r ddau'n cario bagiau siopa. |
(1, 1) 830 |
Mae gan Barry un bag neilltuol o fawr. |
|
(Dwynwen) Be ar wynab y ddaear ydi'r holl sŵn 'ma? |
|
|
|
(Barry) 'I glywad o o dop lôn myn diawl. |
(1, 1) 833 |
Mae DWYNWEN yn rhoi'r bagiau ar lawr ac yn cerdded at yr hi-fi a'i ddiffodd. |
|
(Dwynwen) {Wrth MEILIR.} |
|
|
|
(Dwynwen) A 'dan ni'n gwbod pwy, tydan? |
(1, 1) 844 |
Mae BARRY yn codi bag coch. |
|
(Barry) Rhwbath bach i ti. |
|
|
|
(Dona) Chwara teg. |
(1, 1) 847 |
Mae DONA yn cymryd y bag. |
|
(Barry) Agor o. |
|
|
|
(Barry) Agor o. |
(1, 1) 849 |
Mae DONA yn agor y bag a thynnu ffrog ddigon hyll allan. |
(1, 1) 850 |
Nid yw'n siŵr beth i'w ddweud. |
|
(Dwynwen) Barry ddaru 'i dewis hi. |
|
|
|
(Dona) A be dach chi 'di brynu iddo fo tro 'ma? |
(1, 1) 862 |
Mae'n tynnu cwch model allan o'r bag ynghyd â radio i'w reoli. |
|
(Barry) Hon, 'mechan i. |
|
|
|
(Barry) Dos i newid a paid â chwyno. |
(1, 1) 866 |
Mae DONA yn mynd allan. |
|
(Dwynwen) Pam na 'nei di gyfadda? |
|
|
|
(Barry) Picia i nôl nhw, gwael. |
(1, 1) 953 |
Mae BARRY yn lluchio goriad at MEILIR. |
(1, 1) 954 |
Mae MEILIR yn ei ddal. |
(1, 1) 955 |
Mae MEILIR ar fin mynd pan wêl BARRY y cyfrifiadur. |
|
(Barry) Handi. |
|
|
|
(Meilir) Costio mwy i 'gneud nhw meddan nhw i mi. |
(1, 1) 963 |
Mae BARRY ar fin rhoi ei fysedd arno. |
(1, 1) 964 |
Mae MEILIR yn cynhyrfu. |
|
(Meilir) Peidiwch â twtsiad hwnna! |
|
|
|
(Barry) Sori, sori. |
(1, 1) 969 |
 MEILIR allan. |
|
(Barry) Sych ar y diawl, tydi? |
|
|
|
(Dwynwen) Ia, du. |
(1, 1) 993 |
Mae DWYNWEN yn rhoi'r gôt amdani. |
(1, 1) 994 |
Mae DEI yn rhoi ei ben i mewn drwy ddrws y patio. |
|
(Dei) Fedra i 'neud dim byd yn y gwaelodion 'na. |
|
|
|
(Barry) Caria hi imi, gwael. |
(1, 1) 1026 |
Mae DEI yn cymryd y cwch. |
|
(Dei) Ew. |
|
|
|
(Barry) Gneud diawl o ddim ond mocha yn y lle 'ma... |
(1, 1) 1034 |
Diflanna DEI a BARRY i gyfeiriad y llyn. |
(1, 1) 1035 |
Ymddengys DONA mewn ffrog erchyll o hyll. |
(1, 1) 1036 |
Mae DWYNWEN yn edrych arni. |
|
(Dwynwen) O, ma' hi'n hyfryd, Dona. |
|
|
|
(Dwynwen) Naci tad. |
(1, 1) 1050 |
Ymddengys MEILIR gyda bocs yn cynnwys taflenni yn ei law. |
|
(Dwynwen) Pam? |
|
|
|
(Dwynwen) Tara nhw ar y bwrdd. |
(1, 1) 1058 |
Mae MEILIR yn mynd at y bwrdd ac wedyn yn mynd at y cyfrifiadur. |
|
(Meilir) {Yn flin.} |
|
|
|
(Dwynwen) Hefo Dei, wrth y Llyn. |
(1, 1) 1076 |
Mae MEILIR yn rhuthro i gyfeiriad y patio ac edrych allan. |
|
(Dona) 'Dw i ddim yn gwisgo hon heno, reit? |
|
|
|
(Dwynwen) Neno'r nefo'dd, ty'd i mewn, 'nei di! |
(1, 1) 1085 |
Daw MEILIR i mewn yn ysgwyd ei ben mewn anghredinedd. |
(1, 1) 1086 |
Mae DWYNWEN yn mynd at y bocs taflenni sydd ar y bwrdd a thynnu taflen allan. |
|
(Dwynwen) Dyma daflan y gwasana'th. |
|
|
|
(Dwynwen) Gobeithio 'i bod hi'n iawn. |
(1, 1) 1090 |
Mae'n rhoi taflen yn llaw MEILIR. |
(1, 1) 1091 |
Mae yntau'n edrych arni. |
|
(Dwynwen) Wel? |
|
|
|
(Meilir) Chi ddaru 'i dewis hi? |
(1, 1) 1117 |
Mae DWYNWEN yn tynnu ei chôt. |
|
(Dwynwen) Ia. |
|
|
|
(Meilir) A be wedyn, mam? |
(1, 1) 1128 |
Mae BARRY yn dod i mewn yn flin gyda'r rheolydd radio yn ei law. |
|
(Barry) Dydi'r diawl peth ddim yn gweithio. |
|
|
|
(Barry) Lecio hi? |
(1, 1) 1149 |
Mae'r ffôn yn canu. |
(1, 1) 1150 |
Mae DWYNWEN yn codi'r ffôn. |
|
(Dwynwen) {Ar y ffôn.} |
|
|
|
(Barry) Wyt ti'n lecio'r gôt? |
(1, 1) 1162 |
Mae MEILIR yn edrych ar y gôt. |
|
(Meilir) Anghyffredin. |
|
|
|
(Dwynwen) Hwyl, Iwan. |
(1, 1) 1171 |
Mae BARRY yn gweld y daflen yn llaw MEILIR. |
|
(Barry) Mi fydd yn gyfarfod champion... |
|
|
|
(Barry) Lle daw im help wyllysgar." |
(1, 1) 1182 |
Mae MEILIR yn cael ei gordeddu. |
|
(Meilir) Well imi nôl petrol. |
|
|
|
(Meilir) 'Naethon nhw rwbath arall, 'rioed? |
(1, 1) 1197 |
Mae MEILIR yn troi at y patio yn barod i fynd allan. |
(1, 1) 1198 |
Ymddengys RHYS. |
(1, 1) 1199 |
Mae mewn dillad cyffredin. |
(1, 1) 1200 |
Nid yw'n gwisgo coler gron offeiriad. |
(1, 1) 1201 |
Mae MEILIR yn ei weld. |
|
(Meilir) Rhys. |
|
|
|
(Dwynwen) Lle gebyst ti 'di bod? |
(1, 1) 1208 |
Mae RHYS yn mynd i mewn gan adael MEILIR ar y patio. |
(1, 1) 1209 |
Mae DWYNWEN yn rhuthro ato a'i gofleidio'n dynn. |
(1, 1) 1210 |
Mae'r golau'n diffodd a chlywir "Ffrwd Ceinwen" yn cael ei chwarae gan driawd. |
(1, 1) 1211 |
~ |
(1, 1) 1212 |
DIWEDD YR OLYGFA GYNTAF |