|
|
(1, 0) 1 |
GOLYGFA: Ystafell Wely |
(1, 0) 2 |
~ |
(1, 0) 3 |
Mae Tom yn gorwedd yn ei wely, yn dioddef o annwyd. |
(1, 0) 4 |
Ar y cwpwrdd bach sydd wrth ymyl ei wely mae casgliad amrywiol o feddyginiaethau. |
(1, 0) 5 |
Wedi chwythu ei drwyn mewn macyn papur, mae'n ceisio ei luchio i'r bin sbwriel sydd ger traed y gwely, ond yn methu. |
(1, 0) 6 |
Mae nifer o facynon papur eraill ar y llawr o amgylch y bin sbwriel. |
|
(Tom) Hen bethau di-ddim. |
|
|
|
(Tom) O ie. |
(1, 0) 11 |
Rhoddi 'inhaler' yn ei ffroen ac anadlu yn drwm. |
(1, 0) 12 |
Ei sychu ar facyn papur arall ac yna yn ceisio eto i'w luchio i'r bin sbwriel. |
|
(Tom) Hy! |
|
|
|
(Tom) Hy! |
(1, 0) 14 |
Wedi edrych ar y rhestr drachefn, mae'n estyn am focs o bils. |
(1, 0) 15 |
Ceisio agor y caead ond yn methu. |
(1, 0) 16 |
Childproof. |
(1, 0) 17 |
Mae'n parhau i'w droi ond y cyfan a glywir yw'r caead yn clician yn wag. |
|
(Tom) Be sy'n mater ar y diawl yma? |
|
|
|
(Tom) Agora'r cythraul! |
(1, 0) 20 |
Rhoi bocs ar ymyl y cwpwrdd sydd wrth y gwely a cheisio taro'r caead i ffwrdd â chledr ei law. |
(1, 0) 21 |
Daw Dafydd i mewn. |
|
(Dafydd) A be' dech chi'n trio gwneud rŵan 'te? |
|
|
|
(Tom) Rydw i'n mynd i'r gêm ─ a dyna ben ar y peth! |
(1, 0) 57 |
Mae Tom yn taro'r cwpwrdd sydd wrth ei ymyl â chledr ei law. |
(1, 0) 58 |
Wrth wneud hyn, mae ef hefyd yn taro llwy foddion sydd ar y cwpwrdd, ac mae honno'n hedfan i flaen y llwyfan. |
|
(Dafydd) {Gan osod y llwy yn ôl ar y cwpwrdd.} |
|
|
|
(Tom) Megan, ti sy' yna? |
(1, 0) 99 |
Megan yn dod i mewn. |
|
(Megan) Wedi dod i weld y claf. |
|
|
|
(Megan) Dyna welliant. |
(1, 0) 138 |
Daw Ann i mewn â cholied o ddillad a'u rhoddi mewn dror. |
|
(Ann) A shwd dech chi erbyn hyn 'Nhad? |
|
|
|
(Tom) Wel, rwy'n teimlo dipyn bach yn well... |
(1, 0) 141 |
Ann yn gweld yr annibendod o amgylch y bin sbwriel. |
|
(Ann) Oes rhaid i chi wneud y lle 'ma mor anniben? |
|
|
|
(Tom) Rwyt ti'n ofnadwy Megan, wyt wir. |
(1, 0) 178 |
Daw Dafydd i mewn yn cario hambwrdd. |
(1, 0) 179 |
Mae mygiaid o de a phaced cyfan o fisgedi siocled ar yr hambwrdd. |
|
(Dafydd) Reit. |
|
|
|
(Dafydd) Eisteddwch lan! |
(1, 0) 182 |
Tom yn codi i'w eistedd yn y gwely ac yn derbyn yr hambwrdd. |
|
(Tom) {Gweld y mygiaid o de.} |
|
|
|
(Megan) Defnyddia di hwnna, a bydd y peswch yna'n well mewn chwinciad. |
(1, 0) 236 |
Cloch y drws yn canu. |
|
(Dafydd) Efallai mai'r doctor sydd yna. |
|
|
|
(Megan) Gwell i mi fynd. |
(1, 0) 255 |
Codi o'r gadair. |
(1, 0) 256 |
Daw Ann a'r Doctor i mewn. |
|
(Ann) Dyma ni. |
|
|
|
(Doctor) Wrth gwrs, Mrs James, popeth yn iawn. |
(1, 0) 268 |
Ann yn symud yr hambwrdd o'r ffordd, ac yna'n hebrwng Megan allan. |
|
(Doctor) Nawr Mr Edwards, beth yn hollol sy'n bod? |
|
|
|
(Doctor) Dydd da. |
(1, 0) 392 |
Y Doctor yn mynd allan. |
(1, 0) 393 |
Wedi sicrhau fod y Doctor wedi mynd, mae Tom yn tynnu'r meddyginiaethau allan o'r bin sbwriel a'u rhoddi yn ôl ar y cwpwrdd wrth ymyl y gwely. |
(1, 0) 394 |
Ailosod y bin gwag wrth draed y gwely, ond yna wedi ail-feddwl, yn ei symud ymhellach i ffwrdd. |
(1, 0) 395 |
Wedi gwneud hyn, mae ei sylw yn troi yn ôl i fotel Hanna Morris. |
|
(Tom) Hanna Morris, beth wyt ti wedi rhoi yn y botel yma, ysgwn i? |
|
|
|
(Tom) Er mwyn plesio Megan... |
(1, 0) 400 |
Arllwys ac yna yfed llwyaid o'r hylif. |
(1, 0) 401 |
Mae e'n stwff sur iawn, ac mae Tom yn estyn, yn frysiog am wydraid o ddŵr sydd wrth ei ymyl. |
|
(Tom) Pam fod rhaid i'r pethau llesol 'ma fod mor chwerw? |
|
|
|
(Tom) Un arall am lwc! |
(1, 0) 405 |
Cydio yn y llwy, yna'n newid ei feddwl, ac yn yfed llwnc o'r hylif yn syth o'r botel. |
(1, 0) 406 |
Yfed dŵr yn frysiog eto ar ei ôl. |
(1, 0) 407 |
Edrych ar ei restr a dewis un o'r boteli pils. |
(1, 0) 408 |
Wrth geisio ysgwyd un allan o'r botel mae'r bilsen yn disgyn, ac yn mynd ar goll yn nillad y gwely. |
|
(Tom) O damio, lle mae honna wedi mynd eto? |
|
|
|
(Tom) O damio, lle mae honna wedi mynd eto? |
(1, 0) 410 |
Mae Tom yn ceisio chwilio amdani yn y dillad pan ddaw Ann i mewn. |
(1, 0) 411 |
Mae'n edrych ar yr olygfa mewn syndod cyn symud at y gwely. |
|
(Ann) Be' dech chi'n wneud? |
|
|
|
(Ann) Gadewch i mi weld. |
(1, 0) 417 |
Ann yn chwilio dan y dillad. |
(1, 0) 418 |
Yn sydyn mae Tom yn gwichian. |
|
(Ann) Be' sy'? |
|
|
|
(Tom) Mae dy ddwylo di'n oer. |
(1, 0) 421 |
Ann yn parhau i chwilio. |
(1, 0) 422 |
Mae Tom yn gwichian drachefn. |
|
(Ann) Be sy eto? |
|
|
|
(Ann) Mae fy 'Nhad yn mwynhau grêps. |
(1, 0) 489 |
Mae Ann yn estyn y cwdyn i Tom drachefn. |
(1, 0) 490 |
Yn rybuddiol. |
|
(Ann) Dywedwch 'diolch' wrth Mr Morgan, 'Nhad! |
|
|
|
(Aled) Beth am y tocyn... |
(1, 0) 596 |
Mae Aled yn gweiddi ar ei ôl, ond mae Tomos wedi mynd ar garlam i'r ystafell ymolchi. |
(1, 0) 597 |
Wedi meddwl am ennyd, mae Aled yn dechrau archwilio'r ystafell yn fanwl i geisio darganfod y tocyn, gan fwyta rhai o'r grawnwin yr un pryd. |
(1, 0) 598 |
Mae ef yn chwilio o dan fatras y gwely pan ddaw Megan i mewn. |
(1, 0) 599 |
Mae hi'n cario pentwr o lyfrau swmpus. |
|
(Megan) Dech chi wedi colli rhywbeth, Mr Morgan? |
|
|
|
(Megan) Ddeellais i yr un gair...! |
(1, 0) 636 |
Daw Tom yn ôl i mewn wedi newid gwaelod ei bajamas. |
|
(Tom) Mae'n dda cael gwared o hwnna! |
|
|
|
(Tom) Un... dau... tri... pedwar... pump... chwech... saith... wyth... naw... |
(1, 0) 739 |
Daw Dafydd i mewn ar frys. |
|
(Dafydd) Ie, be' dech chi eisiau? |
|
|
|
(Megan) A cherddwch chi ffordd yna o amgylch y gwely... |
(1, 0) 785 |
Megan yn dechrau cerdded o gylch y gwely a Dafydd yn dilyn. |
(1, 0) 786 |
Yn sydyn mae Megan yn dechrau llafarganu. |
|
(Megan) Hym - hade - hade - fw! |
|
|
|
(Ann) Wel? |
(1, 0) 795 |
Neb yn dweud dim. |
(1, 0) 796 |
Ann yn cydio yn y llyfr |
|
(Ann) A beth yw hwn? |
|
|
|
(Ann) Hanner canpunt. |
(1, 0) 839 |
Saib. |
|
(Tom) Ar y llaw arall... |
|
|
|
(Ann) Popeth yn iawn 'Nhad. |
(1, 0) 872 |
Daw Gerallt a Dafydd i mewn. |
|
(Gerallt) Tomos! |
|
|
|
(Tom) Glywaist ti hynna Dafydd... |
(1, 0) 904 |
Dafydd ag Ann yn ymuno yn y chwerthin. |
|
(Gerallt) Ond dech chi ddim yn deall... |
|
|
|
(Tom) Am hanner canpunt. |
(1, 0) 917 |
Gerallt yn ymuno yn y chwerthin. |
|
(Tom) Wyddost ti be' Dafydd, rwy'n teimlo'n dipyn gwell erbyn hyn. |
|
|
|
(Dafydd) Mae'n dda gen i glywed hynny. |
(1, 0) 920 |
Pawb yn chwerthin. |
(1, 0) 921 |
Mae Megan yn edrych yn graff ar botel moddion Hanna Morris. |
|
(Megan) Tomos? |
|
|
|
(Megan) Wedi yfed e'? |
(1, 0) 928 |
Y chwerthin yn tewi yn sydyn. |
|
(Tom) Do. |
|
|
|
(Tom) Rwy'n teimlo'n sâl!! |
(1, 0) 937 |
Y DIWEDD |