Drama un-act
Ⓗ 1990 David Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



GOLYGFA: Ystafell Wely

Mae Tom yn gorwedd yn ei wely, yn dioddef o annwyd. Ar y cwpwrdd bach sydd wrth ymyl ei wely mae casgliad amrywiol o feddyginiaethau. Wedi chwythu ei drwyn mewn macyn papur, mae'n ceisio ei luchio i'r bin sbwriel sydd ger traed y gwely, ond yn methu. Mae nifer o facynon papur eraill ar y llawr o amgylch y bin sbwriel.

Tom

Hen bethau di-ddim. (Wedi gwneud hyn mae'n edrych ar y rhestr sydd ar y wal wrth ei ymyl.) Nawr, beth sy' nesaf? O ie.



Rhoddi 'inhaler' yn ei ffroen ac anadlu yn drwm. Ei sychu ar facyn papur arall ac yna yn ceisio eto i'w luchio i'r bin sbwriel.

Tom

Hy!



Wedi edrych ar y rhestr drachefn, mae'n estyn am focs o bils. Ceisio agor y caead ond yn methu. Childproof. Mae'n parhau i'w droi ond y cyfan a glywir yw'r caead yn clician yn wag.

Tom

Be sy'n mater ar y diawl yma? Agora'r cythraul!



Rhoi bocs ar ymyl y cwpwrdd sydd wrth y gwely a cheisio taro'r caead i ffwrdd â chledr ei law. Daw Dafydd i mewn.

Dafydd

A be' dech chi'n trio gwneud rŵan 'te?

Tom

Does dim posib agor y bocs pils yma.

Dafydd

Dewch â fe yma.

Tom

(Gan roi'r bocs i Dafydd.) Mae'r hen gaead wedi sticio neu rywbeth.

Dafydd

(Gan agor y caead yn hwylus.) Dyna chi.

Tom

Sut yn y byd...

Dafydd

Beth yw rhain 'te?

Tom

(Gan geisio cael y bocs pils yn ôl.) Paid ti â phoeni beth ŷn nhw.

Dafydd

(Darllen y botel.) Androm ─ yr ateb cyflawn i ddôs o annwyd. Un pilsen bob chwarter awr. Bob chwarter awr?

Tom

Ie.

Dafydd

Glywais i erioed sôn am rhain o'r blaen.

Tom

Maen nhw'n rhai newydd. Gwella annwyd mewn chwinciad.

Dafydd

Dech chi erioed yn credu hynny?

Tom

Pwy a ŵyr ─ falle gwna nhw rhyw les.

Dafydd

(Yn ddirmygus.) Reit... Wel, gwell i chi rhoi hwn ar y rhestr eto 'te. (Edrych ar y rhestr.) Efallai mai rhwng yr 'inhaler' a'r pils gwyrdd fyddai orau.

Tom

Paid ti â gwawdio, fy machgen i.

Dafydd

Wel... Does dim syndod eich bod chi'n sâl ─ stwffio'r holl gowdel yma i lawr eich stumog.

Tom

Paid â barnu pethau nad wyt ti'n deall.

Dafydd

O ie, dech chi'n honni eich bod chi'n deall y pethau yma 'te?

Tom

Wrth gwrs. Rhain yw'r unig beth sy' rhwngdda i a'r fynwent.

Dafydd

Peidiwch â gadael i Ann glywed chi'n siarad fel na, neu chewch chi byth fynd i'r gêm rygbi ddydd Sadwrn.

Tom

Rydw i'n mynd i'r gêm ─ a dyna ben ar y peth!



Mae Tom yn taro'r cwpwrdd sydd wrth ei ymyl â chledr ei law. Wrth wneud hyn, mae ef hefyd yn taro llwy foddion sydd ar y cwpwrdd, ac mae honno'n hedfan i flaen y llwyfan.

Dafydd

(Gan osod y llwy yn ôl ar y cwpwrdd.) Dw i ddim yn credu fod Ann yn rhyw fodlon iawn.

Tom

Does dim gwahaniaeth gen i os yw hi'n fodlon ai peidio! Mae Ieuan Lloyd yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn, ac mae'n rhaid i mi fod yno.

Dafydd

Gawn ni weld erbyn hynny.

Tom

Hwn fydd yr achlysur pwysicaf yn hanes y clwb ─ yr aelod cyntaf i chwarae dros ei wlad.

Dafydd

Dech chi wedi esbonio hynny wrth Ann?

Tom

Wrth gwrs, ond dyw'r ferch yna sy' gen i yn deall dim.

Dafydd

Mae'n deall chi'n go lew. (Tom yn pesychu'n drwm ac yn hir.) (Yn bryderus.) Dech chi'n iawn?

Tom

Ydw, a phaid ag edrych arna i fel 'na ─ dw i ddim mor sâl â hynny.

Dafydd

Gawn i weld beth ddywed y doctor. Mi fydd yma yn y funud. (Dafydd yn dechrau mynd.)

Tom

Dafydd?

Dafydd

Ie?

Tom

Fase'n bosib i mi gael cwpanaid o de?

Dafydd

Siŵr o fod.

Tom

Mi faswn i'n ddiolchgar iawn.

Dafydd

Reit. (Cloch y drws yn canu.)

Tom

Mi fydde cael bisged siocled yn neis iawn hefyd.

Dafydd

Beth?

Tom

Chocolate Biscuit. Ma' nhw yn y cwpwrdd.

Dafydd

Does dim yna.

Tom

O... Oes. Mae Ann wedi ei cuddio nhw yn y cefn, tu ôl i'r fflŵr.

Dafydd

(Gan chwerthin.) Reit. Rhywbeth arall?

Tom

Na.

Dafydd

Iawn. Mi fydda i 'nôl yn y funud.

Megan

(Oddi allan.) Helo...

Tom

Megan, ti sy' yna?



Megan yn dod i mewn.

Megan

Wedi dod i weld y claf. (Gweld Dafydd.) A... Bore da Dafydd.

Dafydd

Bore da, Mrs Puw. (Dafydd yn mynd allan.)

Megan

(Eistedd.) A shwd ma' pethau heddi' Tomos?

Tom

Cystal â'r disgwyl am wn i.

Megan

Dyw'r annwyd ddim gwell?

Tom

Na ─ dim rhyw lawer. (Pesychu.)

Megan

Diar mi. Mae'n bryd gwneud rhywbeth ynglŷn â'r peswch yna.

Tom

Fel be?

Megan

Wel, gwell i ti ddefnyddio hwn i ddechrau. (Tynnu potel o'i phoced.)

Tom

Beth yw e'?

Megan

Rhywbeth i wella tipyn ar yr annwyd yna. Hanna Morris y Felin wedi ei gymysgu yn arbennig.

Tom

Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio rhyw bethau mae honno wedi'i gymysgu. Duw a ŵyr be' sy' ynddo fe.

Megan

Paid â bod mor anniolchgar. Mi gymysgodd Hanna Morris y stwff yma yn arbennig i ti.

Tom

Wel, dw i ddim eisiau fe.

Megan

(Cyfeirio at y botel.) Dyma fyddai ei Mam yn ei ddefnyddio bob amser.

Tom

Ie, ac mi fu honno farw yn o sydyn hefyd.

Megan

Wel, mi faswn i'n dy gynghori di i ddefnyddio hwn ─ yn enwedig os wyt ti am fynd i'r gêm rygbi yna ddydd Sadwrn.

Tom

(Gan gymryd y botel.) Wyt ti'n meddwl y gwnaiff e' rhyw les?

Megan

Mae Gwyneth Watkin yn credu'n gryf yn y stwff yma.

Tom

Mae honno'n ddigon dwl i gredu rhywbeth.

Megan

Ac mae Jones y gweinidog yn defnyddio hwn hefyd.

Tom

Olreit... olreit... mi wna i.

Megan

Ti'n addo?

Tom

Er mwyn dy blesio di.

Megan

Dyna welliant.



Daw Ann i mewn â cholied o ddillad a'u rhoddi mewn dror.

Ann

A shwd dech chi erbyn hyn 'Nhad?

Tom

Wel, rwy'n teimlo dipyn bach yn well...



Ann yn gweld yr annibendod o amgylch y bin sbwriel.

Ann

Oes rhaid i chi wneud y lle 'ma mor anniben?

Tom

Ar yr hen bethau papur 'ma mae'r bai ─ maen nhw mor ysgafn.

Ann

Gwell i mi symud y bin yn nes 'te.

Tom

Paid ti â meiddio!

Ann

Pam lai?

Tom

Mae ei lond e' o... Be' ti'n galw'r pethau 'na?

Ann

Macynon papur?

Tom

Nagie. Germs ─ dyna'r gair. Mae ei lond e' o germs, ac mae gen i hen ddigon o rheini yn barod.

Ann

(Symud y bin at y gwely.) Gwnaiff ychydig mwy fawr o wahaniaeth 'te. (Ann yn tacluso'r ystafell.)

Megan

(Gan weld papur newydd ar y gwely.) Wyt ti wedi darllen y papur?

Tom

Naddo. Pam?

Megan

Gweld fod Lisa Jane Brynrodyn wedi marw.

Ann

Pwy?

Megan

Lisa Jane. Chwaer-yng-nghyfraith i Hywel y Postman.

Ann

Dim yn ei nabod hi.

Tom

Fawr o golled i ti.

Ann

Beth am ei gŵr?

Tom

Fawr o golled i hwnnw chwaith. Hen sguthan o ddynes oedd hi, a'i thrwyn ym musnes pawb.

Ann

Ddylech chi ddim dweud y fath beth, 'Nhad!

Tom

Mae'n ddigon gwir i ti. Er hynny, chwith meddwl fod hi wedi mynd.

Megan

Fel 'na mae hi yn yr hen fyd yma.

Tom

Ie, debyg. Y cyfan yn nwylo y Brenin Mawr.

Megan

Cofia, mae'n drueni mawr nad yw Lisa Jane yma heddiw i ddarllen y notice. Roedd hi bob amser yn licio gweld ei henw yn y papur.

Tom

Rwyt ti'n ofnadwy Megan, wyt wir.



Daw Dafydd i mewn yn cario hambwrdd. Mae mygiaid o de a phaced cyfan o fisgedi siocled ar yr hambwrdd.

Dafydd

Reit. Eisteddwch lan!



Tom yn codi i'w eistedd yn y gwely ac yn derbyn yr hambwrdd.

Tom

(Gweld y mygiaid o de.) Oes 'na brinder cwpanau?

Dafydd

Yfwch eich te a pheidiwch â chwyno.

Tom

Mi fydda i bob amser yn licio yfed te mewn cwpan.

Dafydd

Mae'r myg yna'n ddigon da i chi.

Ann

(Yn gweld y paced bisgedi.) Lle gawsoch chi rheina?

Tom

Rhain... Y... Dim syniad. Lle ges ti rhain Dafydd?

Dafydd

Beth... Y bisgedi 'na? Wel...

Tom

Digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd, ynte Dafydd?

Dafydd

Y... O ie, dyna chi ─ digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd.

Tom

Meddwl y byddai dy hen Dad yn hoffi un.

Dafydd

Ie, yn hollol.

Ann

Wel, gwell i mi fynd â nhw yn ôl cyn i chi fwyta'r paced i gyd. (Cydio yn y paced.)

Tom

Beth... Ond dw i heb gael un eto! (Ann yn rhoi un iddo.) Dim ond un?

Ann

(Yn rhoi un arall iddo.) A dim mwy. (Ann yn mynd at y drws.)

Tom

(Gweiddi ar ei hôl.) Rwyt ti'n union fel dy fam... (Ann yn aros.) Beth am ddangos ychydig o gydymdeimlad â'r rhai sy'n dioddef?

Ann

Pan dech chi'n sâl, 'Nhad, mae pawb yn dioddef! (Ann yn mynd allan.)

Dafydd

(Yn gweld botel Hanna Morris.) Beth yw hon 'te?

Tom

Megan ddaeth â hi.

Megan

(Wrth Dafydd.) Rhywbeth i wella annwyd Tomos. Hanna Morris wedi ei gymysgu yn arbennig.

Dafydd

Be sydd ynddo fe?

Tom

Duw a ŵyr!

Megan

Ond mae pawb yn dweud ei fod e'n stwff da.

Dafydd

(Edrych ar y botel yn amheus.) Dech chi'n mynd i ddefnyddio fe 'te?

Tom

Wel...

Megan

Ydi, wrth gwrs! Mae'n rhaid i ni dy wella yn o fuan neu chei di byth fynd i'r gêm rygbi na, a hwnna yw'r stwff i wneud y gwaith.

Tom

(Pesychu.) Gobeithio bod ti'n iawn...

Megan

Wrth gwrs 'mod i'n iawn. (Cyfeirio at y botel.) Defnyddia di hwnna, a bydd y peswch yna'n well mewn chwinciad.



Cloch y drws yn canu.

Dafydd

Efallai mai'r doctor sydd yna. (Edrych drwy'r ffenest.) Ie, mae'r car y tu allan.

Megan

Y doctor? Gwastraff amser yw galw un o rheini. Mae Hanna Morris yn deall mwy na'r doctoriaid i gyd gyda'i gilydd.

Dafydd

Gawn ni weld. (Dafydd yn mynd allan.)

Megan

Wel, os mai'r doctor sydd yna, gwell i minnau fynd hefyd. Cofia ddefnyddio stwff Hanna Morris...

Tom

Reit.

Megan

Mi fydda' i nôl cyn hir.

Tom

Lle ti'n mynd 'te?

Megan

Dim ond taro adref.

Tom

I beth?

Ann

(Oddi allan.) I mewn fan hyn ma' fe Doctor.

Megan

Gwell i mi fynd.



Codi o'r gadair. Daw Ann a'r Doctor i mewn.

Ann

Dyma ni. Dech chi'n mynd, Mrs Puw?

Megan

Ydw am ychydig. (Wrth Tom.) Fydda i ddim yn hir. Hwyl rŵan. Bore da, Doctor. (Mynd allan.)

Ann

(Wrth y doctor.) Os wnewch chi fy esgusodi i am eiliad.

Doctor

Wrth gwrs, Mrs James, popeth yn iawn.



Ann yn symud yr hambwrdd o'r ffordd, ac yna'n hebrwng Megan allan.

Doctor

Nawr Mr Edwards, beth yn hollol sy'n bod? (Dechrau ei archwilio.)

Tom

Rwy'n sâl.

Doctor

Ie, rwy'n deall hynny ond allwch chi fod ychydig bach mwy manwl?

Tom

Wel, ma'n nhrwyn i yn rhedeg fel tap ac ma' mhen i bron â hollti'n ddau. Hefyd, ma' ngwddwg i'n crafu...

Doctor

Dywedwch 'A'.

Tom

Aaaaa!

Doctor

Rhywbeth arall?

Tom

Mae gen i boen fan hyn... (Llaw ar ei foch.) Fan hyn... (Llaw ar ei wddf.) A fan hyn... (Llaw ar ei frest.) A weithiau fan hyn... (Llaw ar ei fol.) Doctor: (Gan bwyntio at ei apendics.) Beth am fan hyn? Fyddai byth yn cael poen mor bell lawr â hynna.

Doctor

Rhywbeth arall?

Tom

Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon?

Doctor

Wel, Mr Edwards, dw i ddim yn credu fod eisiau i chi boeni'n ormodol. O'r hyn dech chi'n ei ddweud, mae'n edrych yn o debyg eich bod chi wedi cael dôs go iawn o annwyd ─ dyna'r cyfan.

Tom

Rwy'n gwybod mai annwyd yw e' ─ does dim angen bod yn ddoctor i wybod hynny. Y cwestiwn yw, beth dech chi'n mynd i wneud ynglŷn â'r peth?

Doctor

Wel, mi faswn i yn eich cynghori i aros yn y gwely...

Tom

Aros yn fy ngwely! Ond mae'n rhaid i mi fynd i Gaerdydd ddydd Sadwrn.

Doctor

Dydd Sadwrn?

Tom

I weld y gêm rygbi ryngwladol.

Doctor

O! Wel, fydden i ddim yn eich cynghori...

Tom

Mae mab Gerallt Lloyd, Pencwm, yn chwarae. Ei gap cyntaf dros ei wlad.

Doctor

Neis iawn rwy'n siŵr, ond...

Tom

Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn.

Doctor

Do, rwy'n siŵr, ond...

Tom

Un o'r seddi gorau ar y maes. Dim byd ond y gorau i'w ffrind Tom.

Doctor

Wel Mr Edwards, os ydych chi'n dewis anwybyddu fy nghyngor...

Tom

Ond mae'n rhaid i mi fynd yno.

Doctor

Eich penderfyniad chi yw e' wrth gwrs. Fedra i byth eich rhwystro chi rhag mynd.

Tom

Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te?

Doctor

I pa bwrpas?

Tom

Dyw hi ddim yn fodlon i mi fynd chwaith. Ieuan Pencwm yn ennill ei gap cyntaf ─ ac mae pawb eisiau i mi aros yn y gwely drwy'r dydd!

Doctor

Dyna fyddai orau.

Tom

Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely...

Doctor

Fel y dywedais i eisoes Mr Edwards, dim fy lle i yw eich rhywstro rhag mynd...

Tom

Diolch yn fawr, Doctor.

Doctor

Ond ar y llaw arall, rhaid i mi gynghori eich merch fod e'n beth peryglus iawn i'w wneud o ystyried eich cyflwr a'ch oedran.

Tom

Beth? Ond Doctor...?

Doctor

Rhaid i chi aros yn eich gwely yn amyneddgar a rhoi'r cyfle i natur wneud ei waith.

Tom

Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig?

Doctor

Does dim byd y galla i ei wneud.

Tom

Dyw hyn ddim digon da. Rwy wedi talu fy National Insurance ar hyd y blynyddoedd.

Doctor

Ond does...

Tom

Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin.

Doctor

Dim o gwbwl. Y gwir amdani yw nad oes yna ddim byd ar gael i wella annwyd ar hyn o bryd.

Tom

Mae rhaid fod yna rhywbeth? (Mae Tom yn pesychu'n drwm.)

Doctor

Diar mi, Mr Edwards, mae'r peswch yna yn un cas. Gwell i chi gymryd un o rhain. (Cynnig tabledi iddo.)

Tom

Ydyn nhw'n gwella annwyd?

Doctor

Na, ond mi fyddan nhw'n help i wella'r peswch 'na. Cymerwch un.

Tom

(Yn gwneud hynny.) Hm! Ma' nhw yn rhai da. Tipyn gwell na'r hen rhai yma beth bynnag. (Dangos tin o bils i'r Doctor.)

Doctor

Dech chi erioed yn defnyddio rhain?

Tom

Wel... Ydw.

Doctor

Wyddwn i ddim eu bod nhw'n dal i wneud nhw.

Tom

Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn.

Doctor

Hen bethau sur sy'n gwneud mwy o ddrwg nag o les.

Tom

Dech chi'n meddwl?

Doctor

Yn bendant i chi. Y bin sbwriel ─ dyna'r peth gorau i wneud â rheina. (Taflu y tin i'r bin.)

Tom

Beth? Ond...

Doctor

Nawr, gadewch i ni weld beth arall sydd yma. (Edrych ar y casgliad sydd wrth y gwely.) Mae hwnna'n stwff reit dda... A hwnna... Ddylech chi ddim defnyddio hwnna... A dyw hwn fawr o werth... Na hwnna chwaith... (Eu taflu i'r bin.) A wn i ddim beth yw hon. (Potel Hanna Morris.)

Tom

Peidiwch â thaflu honna! (Ceisio atal y Doctor rhag ei thaflu i'r bin, ond yn methu.)

Doctor

Dyna ni, Mr Edwards. Dyna gael gwared â'r rheina.

Tom

Ond Doctor...

Doctor

Gormod o ddim nid yw'n dda, yntê? (Edrych ar ei wats.) Nawr, peidiwch â chymryd mwy o foddion nag sydd rhaid. Mae hynny'n bwysig. Hefyd, mae'n bwysig iawn cadw'n gynnes.

Tom

Dim ond cadw'n gynnes?

Doctor

Cadw'n gynnes yn y gwely, Mr Edwards. Mi ddo' i'ch gweld ddechrau'r wythnos nesaf. Rwy'n siŵr y byddwch yn well erbyn hynny.

Tom

Ond beth am Ann?

Doctor

Rydech chi'n ffodus iawn fod eich merch yma i ofalu ar eich hôl. Cofiwch hynny Mr Edwards. Os bydd unrhyw newid, dim ond galwad ffôn sydd angen.

Tom

Ond Doctor, wyddoch chi faint yw gwerth tocyn i gêm rygbi rhyngwladol? Byddai rhai bobol yn fodlon rhoi ffortiwn fach am gael un.

Doctor

Efallai wir, ond mae iechyd yn beth amhrisiadwy. Cofiwch hynny hefyd, Mr Edwards. Dydd da.



Y Doctor yn mynd allan. Wedi sicrhau fod y Doctor wedi mynd, mae Tom yn tynnu'r meddyginiaethau allan o'r bin sbwriel a'u rhoddi yn ôl ar y cwpwrdd wrth ymyl y gwely. Ailosod y bin gwag wrth draed y gwely, ond yna wedi ail-feddwl, yn ei symud ymhellach i ffwrdd. Wedi gwneud hyn, mae ei sylw yn troi yn ôl i fotel Hanna Morris.

Tom

Hanna Morris, beth wyt ti wedi rhoi yn y botel yma, ysgwn i? Does dim cyfarwyddiadau arni o gwbwl. O, wel... Er mwyn plesio Megan...



Arllwys ac yna yfed llwyaid o'r hylif. Mae e'n stwff sur iawn, ac mae Tom yn estyn, yn frysiog am wydraid o ddŵr sydd wrth ei ymyl.

Tom

Pam fod rhaid i'r pethau llesol 'ma fod mor chwerw? (Edrych ar y botel eto.) Un arall am lwc!



Cydio yn y llwy, yna'n newid ei feddwl, ac yn yfed llwnc o'r hylif yn syth o'r botel. Yfed dŵr yn frysiog eto ar ei ôl. Edrych ar ei restr a dewis un o'r boteli pils. Wrth geisio ysgwyd un allan o'r botel mae'r bilsen yn disgyn, ac yn mynd ar goll yn nillad y gwely.

Tom

O damio, lle mae honna wedi mynd eto?



Mae Tom yn ceisio chwilio amdani yn y dillad pan ddaw Ann i mewn. Mae'n edrych ar yr olygfa mewn syndod cyn symud at y gwely.

Ann

Be' dech chi'n wneud?

Tom

Rwy' wedi colli un o'r pils melyn.

Ann

O! Chi a'ch pils melyn. Gadewch i mi weld.



Ann yn chwilio dan y dillad. Yn sydyn mae Tom yn gwichian.

Ann

Be' sy'?

Tom

Mae dy ddwylo di'n oer.



Ann yn parhau i chwilio. Mae Tom yn gwichian drachefn.

Ann

Be sy eto?

Tom

Bydd ychydig bach yn fwy gofalus, wnei di.

Ann

Cwyno o hyd... Ust! Dw i wedi cael gafael ar rhywbeth!

Tom

(Yn bryderus.) Beth?

Ann

Wel, y bilsen wrth gwrs.

Tom

(Yn ymlacio.) Diolch byth.

Ann

Dyma chi. (Yn estyn y bilsen iddo ac yna'n dechrau tacluso'r gwely.) Gyda llaw, mi gefais i air gyda'r Doctor.

Tom

(Ei llyncu.) Do fe?

Ann

Do, ac mae'n cytuno mai'r gwely yw'r lle gorau i chi.

Tom

Ond Ann...

Ann

A dech chi ddim i godi o'r gwely na nes bod y Doctor yn dweud hynny.

Tom

Ond dyw'r Doctoriaid yma'n deall dim...

Ann

Dyna ddigon. Dydw i ddim eisiau clywed yr un gair arall ─ dech chi'n deall?

Tom

Ond Ann...

Ann

Dim un gair! Nawr, eisteddwch lan yn deidi. Mae gyda chi fisitor.

Tom

Pwy?

Ann

Aled Morgan.

Tom

Morgans y siop! Be ma' hwnnw eisiau?

Ann

Wedi dod i'ch gweld chi.

Tom

Wel, dydw i ddim eisiau ei weld e.

Ann

Pam? Be ma' fe wedi gwneud eto?

Tom

Ti'n gwybod yn iawn.

Ann

Dech chi ddim yn dal i rwgnach am fusnes y Cyngor Plwyf?

Tom

Fi fydde wedi ennill tase fe heb ganfasio hanner y pentre ─ a hynny ar ôl i ni gytuno fod neb yn mynd i wneud. Yr hen greadur bach dauwynebog.

Ann

(Mynd at y drws.) Mae hynna i gyd yn hen beth rŵan.

Tom

Ond dydw i heb anghofio a wna i ddim chwaith.

Ann

(Gan agor y drws.) Dewch i mewn Mr Morgan.

Aled

Diolch yn fawr, Mrs James.

Tom

Beth wyt ti eisiau?

Ann

'Nhad! (Wrth Aled.) Rhaid i chi beidio â chymryd sylw ar beth mae e'n ei ddweud, Mr Morgan.

Aled

Popeth yn iawn, Mrs James.

Ann

Dyw e ddim wedi bod yn teimlo'n dda ers rhai dyddiau...

Aled

Deall yn iawn, Mrs James, deall yn iawn.

Ann

(Gan arwyddo at gadair.) Wel... eisteddwch.

Aled

(Yn eistedd.) Diolch yn fawr. (Mae cwdyn papur yn ei law.) Wedi dod â rhywbeth bach i'r claf hefyd....

Tom

(Gan gydio yn y cwdyn yn swta.) Be' sy' gen ti? (Edrych yn y cwdyn.) Grêps! Grêps! Gas gen i grêps! (Stwffio'r cwdyn yn ôl i Aled.)

Ann

(Gan gymryd y cwdyn oddi wrth Aled.) Dech chi'n garedig iawn, Mr Morgan. Mae fy 'Nhad yn mwynhau grêps.



Mae Ann yn estyn y cwdyn i Tom drachefn. Yn rybuddiol.

Ann

Dywedwch 'diolch' wrth Mr Morgan, 'Nhad! (Tom yn gwrthod.) 'Nhad!!

Tom

(Gan gymryd y cwdyn yn anniolchgar.) Diolch. (Ffôn yn canu.)

Ann

Os gwnewch chi fy esgusodi?

Aled

Wrth gwrs, Mrs James, wrth gwrs. (Ann yn mynd allan.) Wel, sut wyt ti'r hen gyfaill?

Tom

Dydw i ddim yn hen gyfaill i ti. Beth wyt ti eisiau?

Aled

Wedi clywed yn y pentref nad wyt ti ddim yn dda. (Tom yn gwrthod ateb.) Wel, wyt ti yn sâl?

Tom

Na, rwy i bob amser yn fy ngwely am ddeg o'r gloch yn y bore. (Gan droi yn ddig tuag ato.) Wrth gwrs 'mod i'n sâl.

Aled

Be' sy'n bod 'te?

Tom

Rwy' wedi cael annwyd.

Aled

Ai dyna'r cyfan?

Tom

Mae hynny'n hen ddigon.

Aled

Dim byd mwy... wel... mwy difrifol?

Tom

Be' ti'n feddwl?

Aled

Wel, mae dôs o annwyd yn beth mor gyffredin.

Tom

Does dim byd yn gyffredin am yr hyn sy' gen i.

Aled

Ac mae pawb yn cael annwyd weithiau.

Tom

Dim mor ddrwg ag yr ydw i'n ei gael e.

Aled

Os wyt ti'n dweud. Mae'n rhaid fy mod i wedi eu camddeall.

Tom

Camddeall pwy?

Aled

Wel, roedd pawb yn dweud...

Tom

Beth roedd pawb yn ddweud?

Aled

(Gan edrych yn siomedig.) Dim byd o bwys. Anghofia'r peth. (Saib.) Wyt ti'n barod am y gêm ddydd Sadwrn 'te? Roeddwn i'n clywed fod Gerallt wedi ffeindio sêt yn arbennig i ti.

Tom

Do, chwarae teg iddo.

Aled

Mi gei weld y cyfan yn glir.

Tom

Mae hynny'n dibynnu os ca' i fynd, yn dyw e?

Aled

Be ti'n feddwl?

Tom

Fe ddywedodd y Doctor y dyliwn i aros yn y gwely.

Aled

Am faint?

Tom

Am rhyw ddiwrnod neu ddau o leiaf.

Aled

(Yn hapus.) Am rhyw ddiwrnod neu ddau? O leiaf?

Tom

Ie, dyna ddywedodd y Doctor.

Aled

(Wrth ei fodd.) Mi fyddi yn dy wely dros y penwythnos 'te?

Tom

Fel hynny mae'n edrych rŵan. (Yn dechrau amau.) Pam wyt ti'n holi?

Aled

(Yn euog.) Dim ond poeni am iechyd hen gyfaill.

Tom

Boenaist ti erioed am hynny cyn hyn. (Yn sylweddoli.) A! Rwy'n dechrau deall rŵan!

Aled

Deall beth? Does yna ddim i'w ddeall.

Tom

Roeddwn i'n amau dy fod ti eisiau rhywbeth.

Aled

Dw i ddim eisiau dim.

Tom

(Yn bendant.) Wel, yr ateb yw 'na'. Taset ti'n mynd ar dy liniau i ofyn, 'na' fyddai'r ateb bob tro.

Aled

Beth? Ond dwi ddim yn....

Tom

Waeth i ti heb, rwy'n dy nabod di'n rhy dda. Bob amser eisiau rhywbeth!

Aled

Ond Tomos!

Tom

Paid ti â rhoi "Ond Tomos!" i mi. 'Na' yw yr ateb. Wyt ti'n deall! Na, na, na!

Aled

Ond Tomos...

Tom

Chei di mo'r tocyn.

Aled

Ond mae'n drueni ei wastraffu...

Tom

Byddai'n well gen i losgi'r diawl cyn ei roi i ti o bawb.

Aled

Ond Tomos bach...

Tom

Chei di mo'r tocyn i'r gêm ddydd Sadwrn, waeth i ti heb na holi. Nawr, cer o 'ma. A cer â dy grêps gen ti.

Aled

Ond Tomos...

Tom

Byth! Wyt ti'n clywed! Byddai'n well gen i... (Mae Tom yn stopio yn sydyn ac yn gafael yn ei stumog mewn poen.)

Aled

Tomos? Be' sy'? Wyt ti'n sâl? (Tom yn griddfan.) Be' sy' bod?

Tom

Hanna Morris.

Aled

Beth?

Tom

Hen stwff Hanna Morris. (Yn llamu allan o'r gwely.) Cwic! Cer o'r ffordd!

Aled

Beth? (Yn symud o'i ffordd.) Ond Tomos... Beth am y tocyn...



Mae Aled yn gweiddi ar ei ôl, ond mae Tomos wedi mynd ar garlam i'r ystafell ymolchi. Wedi meddwl am ennyd, mae Aled yn dechrau archwilio'r ystafell yn fanwl i geisio darganfod y tocyn, gan fwyta rhai o'r grawnwin yr un pryd. Mae ef yn chwilio o dan fatras y gwely pan ddaw Megan i mewn. Mae hi'n cario pentwr o lyfrau swmpus.

Megan

Dech chi wedi colli rhywbeth, Mr Morgan?

Aled

(Wedi dychryn.) Beth! O, chi sy' yna Mrs Puw! Wnes i ddim clywed chi'n dod i mewn.

Megan

Naddo, mae'n debyg. Beth oe'ch chi'n wneud o dan y fatres 'na 'te?

Aled

Mae hynny'n gwestiwn da, Mrs Puw ─ cwestiwn da iawn.

Megan

Wel?

Aled

Ie, wel... Rwy'n sylweddoli fod e'n edrych yn od iawn ond mi alla' i esbonio'r cyfan...

Megan

Mae'n dda gen i glywed hynny.

Aled

Dech chi'n gweld... Y rheswm i mi edrych dan y fatres...

Megan

Ie?

Aled

Ie... Wel... Roedd yn rhaid i mi edrych yno er mwyn ceisio chwilio am... am... amdano.

Megan

Chwilio am beth?

Aled

Hynny yw, meddwl efallai fod e' dan y fatres... ac felly, yn meddwl mai'r peth gorau fyddai edrych i wneud yn siŵr... Ond dyw e' ddim yna, ac felly doedd dim angen chwilio dan y fatres wedi'r cyfan... Ond wrth gwrs, doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd.

Megan

Dw i ddim yn deall...

Aled

Mae'r peth yn hollol syml. Wyddwn i ddim cyn edrych fod e ddim yna, ond rŵan rwy' wedi edrych ac rwy'n gwybod fod e' ddim yna. Wrth gwrs, tasen ni'n gwybod hynny cyn i mi edrych, faswn i ddim wedi mynd i'r drafferth o edrych, ond doeddwn i ddim yn gwybod hynny cyn i mi edrych, ac felly dyna oeddwn i'n wneud pan ddaethoch chi i mewn. Rwy'n siŵr fod hynna'n esbonio'r cyfan...

Megan

(Yn amheus.) Wel...

Aled

Iawn. Os wnewch chi fy esgusodi i, mae'n rhaid i mi fynd. Gwaith yn disgwyl ynte! Neis iawn eich gweld chi. Hwyl rŵan. (Aled yn mynd allan yn frysiog.)

Megan

Ddeellais i yr un gair...!



Daw Tom yn ôl i mewn wedi newid gwaelod ei bajamas.

Tom

Mae'n dda cael gwared o hwnna!

Megan

Beth?

Tom

Chwarae teg i ti Megan. Roedd e'n carlamu lawr y staer yna, tri step ar y tro.

Megan

Pwy?

Tom

Mistar Aled Morgan wrth gwrs! Be ddywedaist ti wrtho fe?

Megan

Ges i ddim cyfle i ddweud dim byd.

Tom

Ma' fe'n hen greadur bach slei, ond roeddwn i'n amau o'r dechrau, fod e eisiau rhywbeth.

Megan

Beth oedd e' eisiau 'te?

Tom

Wel, y tocyn wrth gwrs.

Megan

Pa docyn?

Tom

Tocyn gêm dydd Sadwrn.

Megan

Na...

Tom

Cyn gynted ag y clywodd e 'mod i'n sâl, dyma fe'n dod heibio... Fe a'i baced grêps.

Megan

Wel, y creadur digywilydd...!

Tom

Meddwl y byddwn i'n ddigon dwl i'w rhoi iddo fe o bawb...!

Megan

Wnest ti ddim...?

Tom

Dim peryg!

Megan

(Yn sylweddoli.) Dyna beth oedd e'n chwilio amdano!

Tom

Pryd?

Megan

Pan ddes i mewn roedd e'n chwilio am rhywbeth dan fatres y gwely.

Tom

(Gan chwerthin.) Wel, ffindieth e 'run tocyn lawr fan 'na.

Megan

Lle ma' fe 'te?

Tom

Ma' fe'n ddigon saff i ti.

Megan

Yn lle?

Tom

Rhaid i ti ofyn i Ann. Hi sy'n gwybod lle ma' popeth yn y tŷ yma.

Megan

Wyt ti ddim yn gwybod lle ma' fe 'te?

Tom

Na, Ann sy'n gofalu am y cyfan.

Megan

Wyddost ti, Tomos, rwyt ti'n ffodus iawn fod Ann yma i ofalu amdanat ti.

Tom

Felly mae pawb yn dweud. (Mynd yn ôl i'w wely.)

Megan

Paid â mynd i'r gwely eto.

Tom

Beth?

Megan

Paid â mynd 'nôl mewn i'r gwely 'na.

Tom

Pam?

Megan

Rydw i eisiau ti gyntaf.

Tom

(Yn methu credu.) Beth?

Megan

Rwy' am i ti orwedd ar y gwely.

Tom

Pam?

Megan

Os wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn, gorwedd ar y gwely 'na.

Tom

Ond pam?

Megan

(Fel pe'n gorchymyn ci.) Gorwedd!

Tom

Ond Megan... (Yn gorwedd.)

Megan

(Yn darllen un o'r llyfrau.) Tynna gôt dy bajamas i ffwrdd.

Tom

Beth? Ond Megan... Dim dyma'r amser...

Megan

Tynna hi i ffwrdd.

Tom

(Yn dechrau agor botymau côt ei bajamas.) Ond Megan, beth pe tase...

Megan

(Mynd drwy'r tudalennau.) Mae hwn yn lyfr da.

Tom

Rwy'n siŵr ei fod e', ond 'wyt ti ddim yn meddwl...

Megan

Digon o luniau... i esbonio'r cyfan.

Tom

Rwy wedi clywed sôn am lyfrau fel 'na!

Megan

Paid â phoeni. Rwy'n siŵr y byddi di'n teimlo'n well wedyn.

Tom

Wn i ddim wir. Rwy' wedi mynd braidd yn rhy hen i rhyw bethau fel hyn.

Megan

Y cyfan sy' angen yw gosod ambell i nodwydd yn y cnawd yma ac acw.

Tom

Be' ddywedaist ti?

Megan

Ar gyfer annwyd mae angen gosod un nodwydd yn dy fraich ac yna un arall yn dy...

Tom

(Yn neidio o'r gwely.) Beth yw'r llyfr 'na?

Megan

Acupuncture for Beginners.

Tom

Dim peryg!

Megan

Ond Tomos...

Tom

Na. Wyt ti'n deall? Dwyt ti ddim yn mynd i ddechrau sticio nodwyddau ynddo' i.

Megan

Ond mae e'n ffordd dda i leddfu poen.

Tom

Does gen i ddim gwahaniaeth beth yw e. Cer i sticio dy nodwyddau yn rhywun arall.

Megan

Ond Tomos...

Tom

Na ─ a dyna ben ar y peth.

Megan

O wel, beth am y llyfr hwn 'te? (Agor y llyfr arall.)

Tom

Beth yw e'?

Megan

Mae nhw'n dweud fod hwn yn gallu bod yn effeithiol iawn hefyd.

Tom

Gad i mi weld. (Mynd â'r llyfr oddi wrthi ac eistedd ar y gwely i'w ddarllen.)

Megan

Wrth gwrs, i hyn weithio'n iawn, bydd rhaid i ni droi'r gwely rownd gyntaf.

Tom

Troi'r gwely rownd?

Megan

Ie, mae'n rhaid i'r gwely wynebu'r gogledd.

Tom

Wel, paid ag edrych arna i, mae'n nghefn i'n rhy wael i symud yr un gwely.

Megan

Ond mae'n rhaid iddo gyd-redeg â llinellau magnetic y ddaear.

Tom

Os wyt ti'n dweud.

Megan

Dim fi sy'n dweud ─ ond y llyfr.

Tom

Os oes rhaid troi'r gwely, gwell i ti basio'r ffon i mi.

Megan

Wyddwn i ddim fod ti'n iwsio ffon?

Tom

Mae 'na fwy na un defnydd i ffon. (Taro'r llawr a'r ffon dair gwaith ac yna'n dechrau cyfrif.) Un... dau... tri... pedwar... pump... chwech... saith... wyth... naw...



Daw Dafydd i mewn ar frys.

Dafydd

Ie, be' dech chi eisiau?

Tom

Mae angen troi'r gwely.

Dafydd

Beth?

Megan

I wynebu'r gogledd.

Dafydd

Ond pam?

Tom

(Yn flinedig.) Paid â holi, Dafydd bach ─ jyst troia'r gwely.

Dafydd

Reit-i-o. Mi fase'n help tasech chi'n codi gyntaf. (Tomos yn codi a Dafydd yn ei droi.) Dyna chi.

Megan

(Arwyddo at y gwely.) Nawr Tomos, i mewn â thi. (Tom yn mynd yn ôl i mewn i'w wely.) (Edrych yn ei llyfr drachefn.) Beth sydd nesaf? O ie ─ mae angen ychydig o ddail te. Pasia'r myg 'na Dafydd.

Dafydd

Dim ond 'tea bag' sydd yn hwn.

Megan

Mi fydd rhaid iddo wneud y tro. (Rhoi'r 'tea bag' ar dalcen Tom.)

Tom

Mae hwnna'n wlyb.

Megan

Cwyno o hyd. Wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn?

Tom

Wel ydw, wrth gwrs ond...

Megan

Bydd dawel 'te. Nawr, lle o'en i? O ie. (Cydio yn y llyfr a cherdded o gylch y gwely gan adrodd y pennill.)

Rhaid yw dewis rhan o ddeilen,
Rhoi'n ofalus ar ei dalcen,
Dail a ddaw o'r India pell,
Bydd y claf cyn hir yn well.
Wel?

Tom

Wel be?

Megan

Wyt ti'n teimlo'n well?

Tom

(Yn amheus.) Dw i ddim yn credu...

Megan

Gobeithio fod ti'n cymryd y pethau yma o ddifrif.

Tom

Wrth gwrs.

Megan

Reit. Dafydd ─ Dewch chi fan hyn... (Dafydd yn gwneud hynny.) A cherddwch chi ffordd yna o amgylch y gwely...



Megan yn dechrau cerdded o gylch y gwely a Dafydd yn dilyn. Yn sydyn mae Megan yn dechrau llafarganu.

Megan

Hym - hade - hade - fw! (Mae hi'n canu'r geiriau yma, trosodd a throsodd, ond nid yw'r lleill yn ymuno.) Wel, dewch 'mlaen Dafydd... A tithau Tomos!

Pawb

Hym - hade- hade - fw! (Mae'r tri yn llafarganu fel hyn pan ddaw Ann i mewn yn sydyn.)

Ann

A beth ar wyneb daear sy'n mynd mlaen fan hyn 'te? Wel?



Neb yn dweud dim. Ann yn cydio yn y llyfr

Ann

A beth yw hwn?

Megan

Un o hen lyfrau Hanna Morris.

Ann

A pham fod y gwely wedi'i symud?

Megan

Roedd y llyfr yn dweud...

Ann

Does gen i ddim gwahaniaeth beth mae'r llyfr yn ddweud. (Troi at Dafydd.) Pam mae'r gwely wedi'i droi? Wel?

Dafydd

Nhw ddywedodd wrtho fi am ei droi e. Meddwl y bydde fe'n help i wella annwyd dy Dad...

Ann

Rwyt ti'n mynd yn ddylach bob dydd hefyd.

Tom

Rwy'n credu mod i'n teimlo'n well yn barod. (Dechrau dod o'r gwely.)

Ann

Peidiwch chi â meiddio symud un cam allan o'r gwely 'na.

Tom

Ond Ann...

Ann

Rwy wedi dweud wrthoch chi'n barod, 'dech chi ddim yn dod o'r gwely 'na.

Tom

Ond mae'n drueni gwastraffu'r tocyn.

Ann

Fydd y tocyn ddim yn cael ei wastraffu!

Dafydd

Be ti'n feddwl?

Ann

Rydw i wedi werthu e.

Tom

Ti wedi gwneud beth?

Dafydd

Wedi'i werthu e'?

Ann

Do.

Dafydd

Ann!

Tom

I pwy?

Ann

Beth?

Tom

Na, i pwy?

Ann

I pwy beth?

Dafydd

I pwy werthaist ti'r tocyn?

Ann

Wel, i Aled Morgan wrth gwrs!

Tom

B... B... Beth?

Ann

Mi ddywedodd eich bod chi wedi trafod y peth ac wedi cytuno mai'r peth gorau o dan yr amgylchiadau fyddai ei werthu iddo fe.

Tom

Wnes i ddim cytuno i'r fath beth.

Dafydd

Rwyt ti wedi gwerthu y tocyn...

Megan

I Aled Morgan o bawb?

Tom

Ddylet ti ddim... Fy nhocyn i oedd e'...

Ann

Am hanner canpunt.

Tom

Doedd gen ti ddim hawl... Wyt ti'n clywed, doedd gen ti... Am faint?

Ann

Hanner canpunt.



Saib.

Tom

Ar y llaw arall... Roedd hi'n drueni ei wastraffu.

Ann

Meddwl y byddai'n syniad reit dda i roi'r arian tuag at brynu teledu ar gyfer yr ystafell yma.

Dafydd

Mae hynny'n syniad da.

Tom

Ie, wel...

Dafydd

Meddyliwch 'Nhad, cael teledu i chi eich hun yma yn eich ystafell.

Tom

Mae'n rhaid cyfaddef, mae e'n syniad neis iawn.

Ann

Cael gorwedd yn esmwyth yn eich gwely...

Dafydd

A gwylio snwcer drwy'r nos...

Ann

Neu wreslo...

Megan

Pobol y Cwm...

Ann

A'r gêm rygbi dydd Sadwrn.

Dafydd

Wel ie, ac mae pawb yn dweud bod chi'n gweld pethau'n well ar y teledu na tasech chi yno!

Tom

Mae hynny'n ddigon gwir... (Yn gyfrinachol.) Ac mewn gwirionedd, doedd hi ddim yn sedd mor dda â hynny.

Dafydd

Dyna hynna wedi setlo 'te.

Ann

Mi gaiff Dafydd fynd lawr i'r dre y prynhawn yma i brynu set.

Tom

Wel, diolch yn fawr i ti, 'ngeneth i. (Cloch y drws yn canu.)

Dafydd

Mi ateba' i e'. (Mynd i ateb y drws.)

Tom

Wyddost ti beth Ann, roeddwn i'n dweud wrth y Doctor gynne fach 'mod i'n ddyn ffodus iawn.

Ann

O ie?

Tom

Dy gael di yma i ofalu ar fy ôl. Mae hynny'n mynd yn beth anghyffredin iawn y dyddiau yma wyddost ti.

Ann

Ie, wel...

Tom

Nid pawb fyddai'n fodlon aros gartre er mwyn gofalu ar ôl ei hen Dad. Rwy'n gwybod bod ni'n cael ambell i air croes weithiau ond paid ti â meddwl 'nad ydw i yn gwerthfawrogi yr hyn wyt ti'n wneud i mi. Pan ddei di i fy oedran i, rwyt ti'n dod i sylweddoli pa mor bwysig yw y pethau yma. Y pethau bach, rheini sy'n bwysig.

Ann

Popeth yn iawn 'Nhad.



Daw Gerallt a Dafydd i mewn.

Gerallt

Tomos!

Tom

Gerallt! Be' sy'?

Gerallt

Mae gen i newyddion drwg.

Tom

Dyw Ieuan ddim yn sâl?

Gerallt

Na' di.

Tom

Dyw e' ddim wedi torri ei goes neu rhywbeth?

Gerallt

Na, dim byd felly.

Tom

A ma' fe yn chwarae dydd Sadwrn?

Gerallt

Ydy, ydy. Mae Ieuan yn iawn.

Tom

Wel, dweda be' sy'n bod 'te.

Gerallt

Wel... wel... Ynglŷn â'r tocyn...

Ann

'Dech chi ddim eisiau fe 'nôl?

Gerallt

Na... na...

Tom

Wel be' sy' 'te?

Gerallt

Dyw e' ddim yn un iawn.

Tom

Be' ti'n feddwl?

Gerallt

Tocyn ffug yw e'.

Tom

Tocyn ffug?

Gerallt

Ie. Mae'n ddrwg iawn gen i.

Tom

Tocyn ffug! (Tom yn dechrau chwerthin.)

Gerallt

Wela i ddim byd yn ddigri yn y peth.

Tom

Ond mae hyn yn fendigedig...

Gerallt

Ond Tomos, dwyt ti ddim yn sylweddoli ─ chei di ddim mynd mewn i'r maes dydd Sadwrn. Byddan nhw'n gwrthod derbyn y tocyn wrth y gât.

Tom

Gwrthod derbyn y tocyn wrth y gât. Glywaist ti hynna Dafydd...



Dafydd ag Ann yn ymuno yn y chwerthin.

Gerallt

Ond dech chi ddim yn deall...

Dafydd

Na, chi sydd ddim yn deall.

Ann

Dech chi'n gweld Mr Lloyd, mae fy 'Nhad wedi gwerthu y tocyn.

Gerallt

Beth? Ond...

Ann

Roedd y Doctor o'r farn y byddai'n well iddo beidio mynd dydd Sadwrn.

Gerallt

Ond... ond... I bwy werthaist ti'r tocyn 'te?

Tom

I Morgan y siop.

Gerallt

Aled Morgan?

Tom

Ie. Am hanner canpunt.



Gerallt yn ymuno yn y chwerthin.

Tom

Wyddost ti be' Dafydd, rwy'n teimlo'n dipyn gwell erbyn hyn.

Dafydd

Mae'n dda gen i glywed hynny.



Pawb yn chwerthin. Mae Megan yn edrych yn graff ar botel moddion Hanna Morris.

Megan

Tomos?

Tom

Ie Megan?

Megan

Rwyt ti wedi dechrau defnyddio botel Hanna Morris 'te?

Tom

Do. Wedi yfed rhyw lwyaid neu ddwy... hen beth digon sur yw e' hefyd.

Megan

Wedi yfed e'?



Y chwerthin yn tewi yn sydyn.

Tom

Do. Pam?

Megan

Ond stwff i rwbio ar dy frest oedd hwn!

Tom

Beth? Ond... ond... Dafydd?

Dafydd

Ie?

Tom

Rwy'n teimlo'n sâl!!



Y DIWEDD

Drama un-act