|
|
|
(Harmonia) Yli! |
|
|
(0, 1) 2 |
Golygfa 1 |
(0, 1) 3 |
Mae Nicias yn eistedd yn fyfyrgar ar y llwyfan-ffedog. |
(0, 1) 4 |
Dealler mai ar lan afonig y mae, ac o bryd i'w gilydd clywir crawcian y llyffantod yn y brwyn cyfagos. |
(0, 1) 5 |
Cymer ambell ddracht o botel win sydd ganddo, a thoc, dengys ei werthfawrogiad ohono drwy fytheirio'n hyglyw a chyda boddhad amlwg. |
(0, 1) 6 |
~ |
(0, 1) 7 |
Yna, heb yn wybod iddo, daw Iris, ei wraig, a Harmonia, ei fam-yng-nghyfraith, i'r golwg o'r ochr arall. |
(0, 1) 8 |
Safant mewn syndod. |
|
(Harmonia) Yli! |
|
|
|
(Iris) Ond mam, rhaid bod yna ryw reswm! |
(0, 1) 21 |
Daw'r ddwy ymlaen at Nicias. |
|
(Iris) Wel? |
|
|
|
(Harmonia) Egwyddor wir, a thitha ddim uwch baw-sawdl! |
(0, 1) 95 |
Exit lris a Harmonia. |
|
(Nicias) Diolch am funud o heddwch! |
|
|
|
(Nicias) Affliw o ddim ond cyrn ar ei ddwylo, a chrys chwyslyd ar ei gefn. |
(0, 1) 103 |
Daw merch ifanc ymlaen gyda phecyn o bamffledi. |
|
(Merch) Gymerwch chi bamffled? |
|
|
|
(Nicias) A gobeithio y bydd Cerberws yn brathu eich, be-ydach chi'n alw... sodla"! |
(0, 1) 144 |
O dan ddylanwad y gwin mae'n syrthio i gysgu. |
(0, 1) 145 |
Miwsig addas. |
(0, 1) 146 |
Ymddengys Dionysos wedi'i wisgo fel twristiad nodweddiadol, gyda'i gamera a'i recordydd-tâp. |
(0, 1) 147 |
Mae'n cario cas mawr trwm. |
(0, 1) 148 |
Daw at Nicias ac edrych arno, ac ar ôl ennyd neu ddau mae hwnnw'n agor ei lygaid. |
(0, 1) 149 |
Y miwsig yn distewi. |
|
(Dionysos) Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill. |
|
|
|
(Nicias) Cario'r bag yna? |
(0, 1) 184 |
Nid yw Dionysos yn ateb. |
(0, 1) 185 |
Saif ac edrych o'i amgylch. |
|
(Dionysos) Welais i erioed wlad mor dlos â hon. |
|
|
|
(Nicias) Cil-dwrn, fel tae.... |
(0, 1) 197 |
Saib, Dionysos yn meddwl. |
|
(Dionysos) Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas? |
|
|
|
(Nicias) Be ydach chi'n i ddweud? |
(0, 1) 204 |
Mae Dionysos yn arogli'r botel win. |
|
(Dionysos) Sothach! |
|
|
|
(Nicias) Mi ydw i'n gry fel ceffyl. |
(0, 1) 241 |
Cymer y cas mawr |
|
(Nicias) Dowch ar f'ôl i rwan. |
|
|
|
(Nicias) Dyma'r ffordd ora i'r Ddinas. |
(0, 1) 244 |
Mae Nicias yn arwain y ffordd oddi ar y llwyfan. |
(0, 1) 245 |
Ar ôl ennyd neu ddau, agorir y llenni a gwelir nifer o rostra yn cynrychioli sgwâr yn Athen. |
(0, 1) 246 |
Mae nifer o bobl yma ac acw, rhai'n eistedd; rhai'n sgwrsio, eraill yn darllen papur-newydd neu chwarae cardiau ac yn y blaen. |
(0, 1) 247 |
Mae'r Côr — a fydd ar brydiau'n ymrannu'n ddau grŵp — yn sefyll gyda'i gilydd yn weddol agos i ffrynt y llwyfan. |
(0, 1) 248 |
Daw Dionysos a Nicias at y gris sy'n codi o'r gynulleidfa i'r llwyfan, a phetruso yno am ychydig. |
(0, 1) 249 |
Mae un o'r Côr yn eu gweld a thynnu sylw'r lleill atynt. |
|
(Blaenor y Côr) Edrychwch! |
|
|
|
(Côr) Ar ogoniannau adfeiliedig ein gorffennol. |
(0, 1) 267 |
Gwelir rhywun yn mynd at y ddau ymwelydd |
|
(Côr) Ond dacw rywun yn mynd atyn nhw i ysgwyd llaw, |
|
|
|
(Côr) Er gwaetha gwae y rhyfel. |
(0, 1) 271 |
Mae Dionysos yn dringo'r gris o'r llawr i'r llwyfan a Nicias yn honcian yn llafurus ar ei ôl. |
(0, 1) 272 |
Rhydd y cas yn ofalus i lawr ac eistedd ar un o'r rostra i gael ei wynt ato. |
|
(Dionysos) Wedi blino? |
|
|
|
(Dionysos) Mi ddo i'n ôl yn y man. |
(0, 1) 280 |
Mae Dionysos yn cerdded hwnt ac yma i edrych ar y bobl gyda'u gwahanol ddiddordebau, ond does neb yn cymryd y sylw lleiaf ohono. |
(0, 1) 281 |
Yn sydyn, clywir cyffro, a daw dau ddyn i'r golwg yn hebrwng dyn arall rhyngddynt â'i arddyrnau mewn cyffion. |
(0, 1) 282 |
Gwelir nifer o bobl ifainc yn ceisio'u rhwystro. |
|
(Pobl Ifainc) Gormes! |
|
|
|
(Pobl Ifainc) Gwarth! |
(0, 1) 289 |
Teflir y gwrthwynebwyr o'r fordd gan y ddau dditectif ac ânt â'r carcharor ar draws y sgwâr ac o'r golwg, heb i neb gymryd fawr sylw ohonynt. |
(0, 1) 290 |
Daw Dionysos yn ôl at Nicias. |
|
(Dionysos) Beth oedd y cyffro yna? |
|
|
|
(Nicias) A chyfarth fel dau gi ar ei gilydd. |
(0, 1) 320 |
Daw llais drwy'r corn-siarad. |
|
(Llais) Atheniaid! |
|
|
|
(Côr) Neu garu! |
(0, 1) 343 |
Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r bobl wedi ymgynnull ger un o'r rostra, a gwelir Cleon yn dringo arno. |
(0, 1) 344 |
Adwaith cymysglyd gan ei gynulleidfa. |
|
(Nicias) Cleon ydy hwn, Syr. |
|
|
|
(Pobl Ifainc) {Ac yn y blaen} |
(0, 1) 386 |
Mae rhai yn y dyrfa yn bygwth troi'n erbyn y protestwyr, ond atelir hwy gan Cleon. |
|
(Cleon) Na, na hidiwch nhw, Gyfeillion. |
|
|
|
(Llais) Cocos! |
(0, 1) 403 |
Rhai o'r dyrfa'n chwerthin |
|
(Cleon) Nid dyma'r amser i gellwair, Gymrodyr. |
|
|
|
(Cleon) Am gynhesrwydd cariad mam! |
(0, 1) 413 |
Mae Cleon fel petai'n brwydro i reoli ei deimladau. |
|
(Dionysos) Denwr dagrau da! |
|
|
|
(Cleon) Dyna'r ffordd i sicrhau gwell Athen i'n plant ac i blant ein plant. |
(0, 1) 451 |
Adwaith cymysglyd o'r gynulleidfa |
|
(Cleon) Ac fel ernes o'n ffydd yn y dyfodol, gwelodd y Llywodraeth yn dda i godi'r pensiwn henoed ddau swllt yr wythnos! |
|
|
|
(Cleon) Ac fei rhown â'r pleser mwya! |
(0, 1) 455 |
Adwaith cymysglyd eto a gwelir Cadmos yn dringo ar rostrwm arall. |
|
(Cadmos) {Codi ei lais} |
|
|
|
(Cadmos) Rhagrith! |
(0, 1) 458 |
Mae'r dyrfa'n troi oddi wrth Cleon i wrando ar Cadmos. |
|
(Nicias) Cadmos ydy hwn, Syr, Llefarydd yr Oligarchiaid — yr Wrth-Blaid. |
|
|
|
(Cadmos) Na chorddi eich teimladau efo ffregod barddonllyd ffug. |
(0, 1) 473 |
Adwaith cymysglyd y dyrfa. |
|
(Cadmos) Fe glywsoch Cleon rwan yn rhestru cardod prin ei Blaid fel tae o'n fendith hael o'r nef. |
|
|
|
(Cadmos) Ac Athen yn gwaedu'n raddol i farwolaeth. |
(0, 1) 490 |
Adwaith y dyrfa eto. |
|
(Cadmos) Fy neges i yn syml ydy hyn — heddwch! |
|
|
|
(Cadmos) Heddwch cyn i Athen fynd yn sarn, a dim ar ôl ond pentwr o adfeilion myglyd! |
(0, 1) 497 |
Adwaith cymysglyd. |
|
(Lleisiau) Rhagrithiwr arall! |
|
|
|
(Lleisiau) Socrates? |
(0, 1) 503 |
Yn ystod y cynnwrf daw Cadmos a Cleon i lawr oddi ar eu rostra a mynd ymaith i annerch cynulleidfa mewn rhan arall o'r Ddinas. |
|
(Côr B) Roedd hynna i gyd yn swnio'n dda! |
|
|
|
(Dionysos) Wyt ti'n sylweddoli be sydd yn y fantol? |
(0, 1) 525 |
Daw llais drwy'r corn-siarad. |
|
(Llais) Dalier sylw. |
|
|
|
(Llais) Dyna ddiwedd y datganiad. |
(0, 1) 532 |
Erbyn hyn mae'r bobl wedi mynd yn ôl at eu gweithgareddau a'u diddordebau blaenorol. |
(0, 1) 533 |
Nid oes neb yn cymryd nemor ddim sylw o'r datganiad ar wahân i'r grŵp ifanc a fu'n protestio eisoes. |
(0, 1) 534 |
Mae'n nhw'n sefyll fel petaent wedi'u syfrdanu. |
|
(Côr A) Be ddwedodd o — Socrates yn y Ddalfa? |
|
|
|
(Nicias) Reit, Syr. |
(0, 1) 559 |
Mae Dionysos yn mynd at y grŵp sy'n chwarae cardiau, gyda'i recordydd-tâp, a'r meicroffon yn ei law. |
|
(Dionysos) Esgudowch fi, gyfeillion. |
|
|
|
(Dionysos) Beth am Socrates? |
(0, 1) 571 |
Mae un o'r chwaraewyr yn amlwg wedi twyllo |
|
(Dyn 1) {Taflu ei gardiau i lawr} |
|
|
|
(Dyn 1) Paid â sgyrnygu arna i, mêt! |
(0, 1) 581 |
Mae'r ddau yn mynd i yddfau'i gilydd. |
(0, 1) 582 |
Daw'r lleill rhyngddynt, ac o'r diwedd mae'r cyffro'n tawelu. |
|
(Dyn 1) {Eistedd} |
|
|
|
(Dyn 2) Reit, twrn pwy ydy hi? |
(0, 1) 589 |
A'r chwarae ymlaen, try Dionysos at hen wraig sy'n croesi'r sgwâr. |
|
(Dionysos) Hanner munud, rhen wraig. |
|
|
|
(Hen Wraig) Digon gwir! |
(0, 1) 627 |
Exit yr hen wraig dan fwmial. |
(0, 1) 628 |
Try Dionysos at ddyn busnes llewyrchus yr olwg a ddaw heibio |
|
(Dionysos) Eich pardwn, Syr. |
|
|
|
(Dyn Busnes) Dyma rai o'm gweithwyr yn dwad rwan. |
(0, 1) 647 |
Pwyntio at ddau ddyn mewn dillad peirianwyr yn dod heibio |
|
(Dyn Busnes) Mwynhewch eich gwylia. |
|
|
|
(Gweithiwr 1) Mi fydd dyn biau'r drol yn tantro eto! |
(0, 1) 664 |
Exit y gweithwyr. |
(0, 1) 665 |
Daw merch ifanc heibio. |
|
(Dionysos) Maddeuwch i mi, os gwelwch yn dda. |
|
|
|
(Merch) Da boch, cariad. |
(0, 1) 690 |
Exit y ferch, edrych Dionysos ar y weddw am ennyd, yna try at y grŵp ifanc. |
|
(Dionysos) Ga' i air bach, os gwelwch yn dda? |
|
|
|
(Llanc) Mae rhai ohonon ni yn y carchar yn barod. |
(0, 1) 696 |
Maent yn troi eu cefnau arno ac o'r diwedd try yntau at 'y côr. |
|
(Dionysos) Atheniaid! |
|
|
|
(Côr) Hyd yn oed, yn gwegian uwch y gwagle. |
(0, 1) 725 |
Mae'r côr yn mynd allan, a thywyllir y llwyfan i gyd ac eithrio pelydryn ar Dionysos a Nicias. |
|
(Nicias) Dim llawer o dderbyniad, Syr? |
|
|
|
(Dionysos) A nawdd-dduw'r Ddrama, ia, Nicias. |
(0, 1) 787 |
Mae Nicias yn sefyll yn syfrdan, fel tae'n ansicr beth i'w wneud. |
(0, 1) 788 |
Tyn ei gap a disgyn yn drwsgl ar un ben-lin. |
(0, 1) 789 |
Rhydd Dionysos arwydd iddo godi ar ei draed. |
|
(Dionysos) Does dim angen y sioe ymgreinio yna. |
|
|
|
(Dionysos) Fydda i ddim yn hir. |
(0, 1) 863 |
Exit Dionysos. |
(0, 1) 864 |
Saib ennyd |
|
(Nicias) {Eistedd yn araf} |
|
|
|
(Nicias) Nefoedd yr adar! |
(0, 1) 868 |
Llen neu dywyllwch. |
(0, 2) 869 |
Golygfa 2 |
(0, 2) 870 |
Gwelir Nicias yn dal i eistedd yn fyfyrgar fel o'r blaen. |
(0, 2) 871 |
Daw un o'r dynion a oedd yn chwarae cardiau ato. |
|
(Dyn 1) Hei! |
|
|
|
(Dyn 1) Dowch yma, brysiwch! |
(0, 2) 942 |
Mae'r gweddill o'r grŵp yn gadael eu chwarae cardiau, a dod atynt. |
|
(Dyn 2) Be sy'n bod? |
|
|
|
(Dyn 2) Ne wnei di ddim dweud! |
(0, 2) 959 |
Daw y ferch ifanc heibio. |
|
(Merch) Be sy'n bod hogia? |
|
|
|
(Merch) Tyrd efo fi, a mi gei di awr yn y nefoedd! |
(0, 2) 969 |
Pawb yn chwerthin. |
(0, 2) 970 |
Daw'r hen wraig fyddar heibio. |
|
(Dyn 3) Hei, rhen wraig, hoffech chi drip i Hades? |
|
|
|
(Dyn 3) Wyt ti am drio'n nadu ni, y ceiliog dandi! |
(0, 2) 987 |
Wrth weld y lleill yn dechrau symud tuag ato yn fygythiol, saif Nicias ar ei draed i'w amddiffyn ei hun, a'r cas. |
(0, 2) 988 |
Mae'n sgarmes mewn dim, a phery hyn am ennyd, nes yr ymddengys Dionysos. |
(0, 2) 989 |
Y foment honno, mae ei ymosodwyr yn cilio'n ôl oddi wrth Nicias. |
(0, 2) 990 |
Erbyn hyn, gwelir bod Dionysos wedi newid i ddillad ffurfiol, fel dyn busnes llewyrchus ar ei ffordd i'r swyddfa — siaced ddu, trowsus streip, het-galed ac ymbarel. |
|
(Dionysos) {Yn dawel} |
|
|
|
(Dionysos) Cael tipyn o hwyl? |
(0, 2) 993 |
Try'r bechgyn yn llechwraidd a mynd ymaith. |
|
(Dionysos) Wel, Nicias, dyma fi wedi dwad yn f'ôl. |
|
|
|
(Nicias) Mi wyddoch fel mae'r merched yma. |
(0, 2) 1021 |
Daw Iris i'r golwg |
|
(Dionysos) Hon ydy hi? |
|
|
|
(Iris) Dydd da ichi, Syr. |
(0, 2) 1053 |
Exit Iris |
|
(Dionysos) Mae gen ti wraig dda yn honna, Nicias. |
|
|
|
(Dionysos) A chymer ofal o'r cas yna. |
(0, 2) 1060 |
Exit Dionysos. |
(0, 2) 1061 |
Cwyd Nicias ei ysgwyddau wrth dderbyn yr anochel. |
(0, 2) 1062 |
Yna cymer y cas a dilyn Dionysos oddi ar y llwyfan. |
(0, 2) 1063 |
Gostynger y goleuadau. |
(0, 2) 1064 |
Pan ddônt i fyny drachefn nid oes neb ar y llwyfan ond ar ôl ennyd neu ddau, daw Dionysos a Nicias i'r golwg, yn edrych braidd yn flinedig, fel petaent wedi bod yn teithio am hir. |
(0, 2) 1065 |
Dealler eu bod wedi cyrraedd glan yr afon Stycs. |
|
(Nicias) {Saif yn flinedig.} |
|
|
|
(Dionysos) Eto! |
(0, 2) 1114 |
Mae Nicias yn ufuddhau. |
|
(Dionysos) Unwaith eto. |
|
|
|
(Dionysos) Yn uwch! |
(0, 2) 1118 |
Mae Nicias yn ymdrechu'n lew, yna clywir llais Charon o'r pellter.} |
|
(Charon) {Draw} |
|
|
|
(Dionysos) Dyma fo'n dwad. |
(0, 2) 1123 |
Daw Charon i'r golwg yn ei gwch — hwnnw'n symud, mae'n debyg, ar olwynion anweledig — a gwthir ef ymlaen drwy gymorth polyn. |
(0, 2) 1124 |
Mae gan Charon gap pig-gloyw, siersi-longwr las ac esgidiau bysgota. |
|
(Charon) {A'i dymer yn fyr} |
|
|
|
(Dionysos) lawn. |
(0, 2) 1225 |
Mae Nicias yn cymryd y polyn a sefyll yn simsan yn y cwch. |
(0, 2) 1226 |
Eistedd Charon o flaen Dionysos. |
|
(Charon) Tawn i yn eich lle chi, Syr, mi fyddwn i'n agor yr ymbarel yna. |
|
|
|
(Charon) Reit, i ffwrdd â ni! |
(0, 2) 1233 |
Mae Nicias yn meimio pwnio'r cwch ymlaen. |
(0, 2) 1234 |
Gostynger y goleuadau yn araf. |
|
(Dionysos) Mae hi'n tywyllu'n fuan iawn, Charon! |
|
|
|
(Charon) Siawns na phery'r tarth ddim yn hir. |
(0, 2) 1242 |
Tywyller y llwyfan yn llwyr. |
(0, 2) 1243 |
Clywir eu lleisiau ohono. |
|
(Nicias) Dwy' i'n gweld affliw o ddim! |
|
|
|
(Charon) Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi! |
(0, 2) 1252 |
Clywir sŵn Nicias yn tuchan wrth ymdrechu'n galed |
|
(Dionysos) Mae hi'n dechra golueo ychydig draw acw rwy'n credu. |
|
|
|
(Charon) Gofal rwan, beth bynnag ydy d'enw di hefyd! |
(0, 2) 1257 |
Daw goleuadau i fyny ychydig gyda llewyrch gwyrdd a gwelir cysgodion y llyffantod ar y rostra sydd y tro hwn yn cynrychioli creigiau a cherrig yng nghanol yr Afon Stycs. |
(0, 2) 1258 |
Clywir miwsig "Llyffantaidd" yn y cefndir, ynghŷd â chrawcian. |
|
(Nicias) Be ydi'r sŵn yna, d'wedwch? |
|
|
|
(Charon) Chawn ni ddim mynd ymlaen ganddyn nhw am dipyn. |
(0, 2) 1266 |
Cryfhaer y goleuadau a'r miwsig. |
(0, 2) 1267 |
A gwelir y llyffantod yn dawnsio. |
(0, 2) 1268 |
Ar ddiwedd y ddawns, mae Nicias ar fin ail-ddechrau pwnio'r cwch ymlaen |
|
(Charon) Paid! |
|
|
|
(Côr y Llyffantod) Peidiwch, da chi, â'i ddifetha. |
(0, 2) 1354 |
Ar ôl y corawd hwn, gostynger y goleuadau ychydig, tra bo'r llyffantod yn dawnsio o'r golwg |
|
(Nicias) Mae hi'n dechrau twyllu eto! |
|
|
|
(Charon) Hidia di befo, pwnia ymlaen. |
(0, 2) 1358 |
Mae Nicias yn meimio pwnio gyda'r polyn. |
(0, 2) 1359 |
Miwsig i fyny ychydig, yna cryfhaer y goleuadau unwaith eto, y tro hwn gyda llewyrch melyn |
|
(Charon) Gofal rwan, rydan ni bron wedi cyrraedd. |
|
|
|
(Charon) Reit, rho'r polyn i mi. |
(0, 2) 1364 |
Rhydd Nicias y polyn i Charon, a gesyd hwnnw ef yn ofalus yn y cwch. |
(0, 2) 1365 |
Yna mae'n neidio i'r lan, a meimio rhwymo'r cwch yn ddiogel |
|
(Charon) Rwan, y cas yna, gynta. |
|
|
|
(Dionysos) Gair bach yn dy glust. |
(0, 2) 1375 |
Gwelir Dionysos yn sibrwd yng nghlust Charon. |
(0, 2) 1376 |
Ar y cyntaf, mae hwnnw'n ysgwyd ei ben yn bendant fel petai'n anghytuno'n llwyr â chais Dionysos. |
(0, 2) 1377 |
Yna, dan berswâd, ymddengys, toc, ychydig yn fwy bodlon. |
|
(Charon) Ia, wel, os ydach chi'n dweud, Syr. |
|
|
|
(Dionysos) Ond cystal inni eistedd nes y daw o. |
(0, 2) 1417 |
Mae Dionysos yn eistedd ar rostrwm isel ond saif Nicias yn ofnus ar ei draed. |
|
(Dionysos) Ofn? |
|
|
|
(Dionysos) Tyrd â'r cas yna i mi. |
(0, 2) 1424 |
Rhydd Nicias y cas iddo, ac ar ôl ei agor mae Dionysos yn tynnu dwy botel allan. |
(0, 2) 1425 |
Rhydd un i Nicias. |
|
(Nicias) I mi? |
|
|
|
(Dionysos) Eistedd. |
(0, 2) 1431 |
Eistedd Nicias. |
(0, 2) 1432 |
Mae Dionysos yn agor ei botel a chymryd dracht ohoni, ond saif Nicias fel petai'n ansicr beth i'w wneud. |
|
(Dionysos) Be sy'n bod? |
|
|
|
(Dionysos) Ust! |
(0, 2) 1500 |
Clywir sŵn fel drwm draw. |
|
(Nicias) Yr arswyd! |
|
|
|
(Dionysos) A chofia beth ddwedais i — dim gair nes bydd rhaid iti! |
(0, 2) 1504 |
Mae'r sŵn yn cynyddu a daw Cerberws i'r golwg. |
(0, 2) 1505 |
Plisman yw ar gefn beic. |
(0, 2) 1506 |
Ar ôl rhoi'r beic o'r neilltu a thynnu'r clipiau oddi ar odrau ei drowsus, daw atynt yn awdurdodol. |
(0, 2) 1507 |
Try Nicias ei ben y ffordd arall. |
|
(Cerberws) Wel, beth ydy peth fel hyn? |
|
|
|
(Cerberws) Finna, wedyn yn dechra teimlo... dechra teimlo'n gysglyd... hynny ydy... ia... cysglyd... cysglyd... c... y... s... g... l... y... d...! |
(0, 2) 1687 |
Mae pen Cerberws yn disgyn ac yntau'n cysgu â'i geg yn llydan agored. |
|
(Dionysos) Dyna ni, rwy'n credu, Nicias! |
|
|
|
(Nicias) Reit. |
(0, 2) 1700 |
Maent yn mynd heibio i Cerberws ar flaenau eu traed. |
|
(Dionysos) Y ffordd yma. |
|
|
|
(Dionysos) Ymlaen â ni felly. |
(0, 2) 1705 |
Exit Dionysos a Nicias. |
(0, 2) 1706 |
Mae Cerberws yn dal i chwyrnu cysgu. |
(0, 2) 1707 |
Tywyller y llwyfan neu cauer y llenni |
(0, 3) 1708 |
Golygfa 3 |
(0, 3) 1709 |
Llwyfan gwag, a llewych coch ar y goleuadau, yna daw Dionysos a NIciAs i'r golwg, ac y mae'n amlwg iddyn nhw deithio'n hir |
|
(Dionysos) Wedi blino? |
|
|
|
(Dionysos) Edrych — dyma realaeth y felltith arbennig honno ar ei gwaethaf: |
(0, 3) 1751 |
Daw nifer o bobl ar draws y llwyfan yn dioddef pangau eithaf cyffuriau. |
(0, 3) 1752 |
Ânt o'r golwg yr ochr arall. |
|
(Nicias) Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi! |
|
|
|
(Dionysos) Dyma iti felltith sydd mor hen â'r ddynoliaeth ei hun: |
(0, 3) 1756 |
Clywir sŵn rhyfel — er enghraifft ffrwydradau, ergydion magnelau ac yn y blaen. |
(0, 3) 1757 |
Ar yr un pryd, gwelir fflachiadau ar y seiclorama i awgrymu tân, ac amrywiol oleuadau ynglŷn â brwydr. |
(0, 3) 1758 |
Yna tawelwch. |
(0, 3) 1759 |
~ |
(0, 3) 1760 |
Lliw coch ar y seiclorama, miwsig yn y cefndir — awgrymaf Adagio yn G {Trefniant Giazotto} gan Tomas Albinoni |
(0, 3) 1761 |
~ |
(0, 3) 1762 |
Yna daw côr o ferched ymlaen yn araf, gydag ystum trallod Groegaidd. |
(0, 3) 1763 |
Safant yn grŵp fel silŵet yn erbyn cochni'r cefndir. |
(0, 3) 1764 |
Ennyd o ddistawrwydd ac eithrio'r miwsig isel yn y cefndir. |
(0, 3) 1765 |
Mae Dionysos yn tynnu ei het, a Nicias ei gap. |
|
(Côr) Mae tawelwch yn ein pentre ni heddiw, |
|
|
|
(Côr) A bod ein gwaed yn staenio'r canrifoedd. |
(0, 3) 1811 |
Cryfhaer y miwsig ychydig tra bo'r merched yn mynd oddi ar y llwyfan. |
(0, 3) 1812 |
Daw'r goleuadau i fyny. |
|
(Nicias) Wyddoch chi be, dwy' i ddim yn teimlo'n benisel yn amal. |
|
|
|
(Dionysos) A hyd yma, che'st ti ddim ond cipolwg ar ei ymylon. |
(0, 3) 1817 |
Tywyller y tu ôl i'r llwyfan, neu tynner y llenni-canol yn araf er mwyn darparu ar gyfer yr olygfa nesaf ym mhencadlys Plwton. |
|
(Nicias) 'Does arna i ddim eisio gweld mwy. |
|
|
|
(Dionysos) Dilyn fi, a chymer ofal. |
(0, 3) 1854 |
Mae Nicias yn gafael yn y cas a dilyn Dionysos oddiar y llwyfan. |
(0, 3) 1855 |
Miwsig addas am ennyd, yna goleuer cefn y llwyfan — neu agorer y llenni canol — a gwelir Plwton fel dyn-busnes yn eistedd tu ôl i'w ddesg yn sgrifennu. |
(0, 3) 1856 |
Mae cloch y teliffôn yn canu. |
|
(Plwton) {i'r ffôn} |
|
|
|
(Plwton) Diolch. |
(0, 3) 1868 |
Rhydd Plwton y ffôn i lawr a sgrifennu nodyn ar ei lyfr nodiadau. |
(0, 3) 1869 |
Daw ei ysgrifenyddes i mewn. |
|
(Plwton) la? |
|
|
|
(Plwton) Anfonwch nhw i mewn, rhag blaen. |
(0, 3) 1892 |
Exit yr ysgrifenyddes a dod yn ôl yn syth gyda Dionysos a Nicias. |
(0, 3) 1893 |
Rhydd Dionysos amnaid i Nicias aros efo'r cas ar drothwy'r "swyddfa" fel tae, a mynd ei hun i fyny at Plwton. |
(0, 3) 1894 |
Mae hwnnw'n codi i'w gyfarch. |
|
(Plwton) Cyfarchion, Dionysos, a chroeso i Hades. |
|
|
|
(Dionysos) Purion. |
(0, 3) 1913 |
Cân Plwton gloch, a daw ei gynghorwyr i mewn a sefyll yn drefnus gerllaw. |
(0, 3) 1914 |
Hwy fydd y côr. |
|
(Plwton) Gynghorwyr, rwy i wedi eich galw yma i'ch cyflwyno i Dionysos. |
|
|
|
(Plwton) Ond cyn galw arno, mi hoffwn ddweud un peth; am reswm arbennig, mae o wedi dod â chydymaith anarferol — a dweud y lleiaf — gydag ef. |
(0, 3) 1920 |
Mae'r côr yn troi fel un i edrych yn syn ar Nicias, sy'n sefyll yn unig, gyda'r cas bondigrybwyll, ar un ochr i'r llwyfan. |
(0, 3) 1921 |
Mae'n symud yn swil o un droed i'r llall wrth iddyn nhw syllu arno. |
(0, 3) 1922 |
Try'r côr yn ôl i wrando ar Plwton. |
|
(Plwton) Rwy'i am argymell, Gynghorwyr, ein bod yn rhoi clust i Dionysos. |
|
|
|
(Côr) I drafod cais mor hynod! |
(0, 3) 1940 |
Saif Dionysos ar un o'r rostra |
|
(Dionysos) Plwton a Chynghorwyr Hades. |
|
|
|
(Côr A) Y truan hwn a'i debyg? |
(0, 3) 1984 |
Mae Nicias yn adweithio'n swil wrth i'r côr gyfeirio a phwyntio ato. |
|
(Côr B) Na, na! |
|
|
|
(Plwton) Rhowch eich cenadwri yn ôl cais Dionysos, i'r Gwrol Arwyr, a dowch yn ôl yn ddiymdroi gyda'r ateb a gewch chi ganddyn nhw. |
(0, 3) 2019 |
Exit Côr A. |
|
(Plwton) Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol. |
|
|
|
(Plwton) Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol. |
(0, 3) 2021 |
Mae pawb ond Nicias yn fferu'n hollol ddisymud mewn dwysfyfyrdod. |
(0, 3) 2022 |
Gwelir Nicias yn crafu ei ben mewn penbleth. |
(0, 3) 2023 |
Distawrwydd llethol am ennyd. |
|
(Nicias) Wel, myn uffern! |
|
|
|
(Nicias) Wel, myn uffern! |
(0, 3) 2025 |
Gostynger y goleuadau i dywyllwch llwyr. |
(0, 3) 2026 |
Clywir llais Nicias o'r tywyllwch. |
|
(Nicias) Dwy' i'n gweld affliw o ddim. |
|
|
|
(Nicias) Ond dydy amser ddim yn cyfri yn y lle yma! |
(0, 3) 2048 |
Daw'r goleuadau i fyny'n raddol. |
|
(Nicias) Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan! |
|
|
|
(Nicias) Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan! |
(0, 3) 2050 |
Daw Plwton a'r lleill allan o'r myfyrdod a gwelir Côr A yn dychwelyd. |
|
(Plwton) Croeso'n ôl, Gynghorwyr. |
|
|
|
(Côr A) Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi ei hun." |
(0, 3) 2083 |
Saif Dionysos am ennyd fel petai'n ystyried y geriau a glywodd, yna daw yn araf i ffrynt y llwyfan. |
(0, 3) 2084 |
Daw Plwton ato. |
(0, 3) 2085 |
Tywyller y cefndir — neu tynner y llenni-traws gan adael pelydryn ar y ddau. |
(0, 3) 2086 |
Gwelir Nicias hefyd yn y cysgod. |
|
(Plwton) Wel, dyna ni. |
|
|
|
(Plwton) Tyrd, rhaid inni wneud trefniadau pendant rhag blaen. |
(0, 3) 2127 |
Mae Plwton yn mynd â Dionysos o'r neilltu. |
(0, 3) 2128 |
Cryfhaer y pelydryn ar Nicias. |
|
(Nicias) Siawns na cha i fynd yn ôl yn o fuan rwan. |
|
|
|
(Nicias) Ond dyma Fo'n dwad yn 'i ôl! |
(0, 3) 2144 |
Daw Dionysos ato. |
|
(Dionysos) Wel Nicias, mae'r amser wedi dwad. |
|
|
|
(Dionysos) Rwy i wedi rhoi un o'r poteli-gwin yn dy boced di. |
(0, 3) 2184 |
Mae Nicias yn teimlo yn ei boced a thynnu'r botel allan, edrych arni a'i rhoi yn ôl. |
|
(Nicias) Diolch yn fawr, Syr. |
|
|
|
(Dionysos) Tyrd. |
(0, 3) 2193 |
Exit Dionysos a Nicias. |
(0, 3) 2194 |
Pelydryn ar y cas am ennyd, yna tywyllwch. |
(0, 3) 2195 |
~ |
(0, 3) 2196 |
Miwsig. |
(0, 4) 2197 |
Golygfa 4 |
(0, 4) 2198 |
Daw Dionysos a Nicias i'r golwg ar eu ffordd i'r afon Stycs. |
|
(Dionysos) Seibiant, Nicias. |
|
|
|
(Dionysos) Eistedd yma am funud. |
(0, 4) 2201 |
Eisteddant ar rostrwm isel yn weddol agos i ffrynt y llwyfan. |
|
(Nicias) Beth am Cerberws? |
|
|
|
(Dionysos) Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau! |
(0, 4) 2258 |
Clywir dwndwr draw. |
|
(Nicias) Cerberws! |
|
|
|
(Dionysos) Dos, brysia! |
(0, 4) 2270 |
Rhed Nicias ac ymguddio y tu ôl i'r rostrwm. |
(0, 4) 2271 |
Daw Cerberws i'r golwg. |
(0, 4) 2272 |
Mae Dionysos yn mynd i'w gyfarfod. |
|
(Dionysos) Hoi Cerberws! |
|
|
|
(Dionysos) Mae'r creadur yna'n beryg bywyd. |
(0, 4) 2308 |
Try Cerberws ei gefn a rhydd Dionysos yr arwydd i Nicias ddianc, a gwelir hwnnw'n mynd ar flaenau ei draed. |
(0, 4) 2309 |
Yn anffodus mae'n baglu a syrthio ar ei hyd ar lawr. |
(0, 4) 2310 |
Try Cerberws a'i weld. |
|
(Cerberws) Dyna fo'r llaprwth powld! |
|
|
|
(Cerberws) Hei, ti yna, aros! |
(0, 4) 2313 |
Neidia Nicias ar ei draed a dechrau rhedeg. |
|
(Cerberws) Wyt ti'n clywed, y cnaf digywilydd! |
|
|
|
(Cerberws) Tyrd yma imi gael gafael ar dy wegil di! |
(0, 4) 2317 |
Rhed Cerberws ar ei ôl dan chwythu ei bib. |
(0, 4) 2318 |
Wrth iddynt groesi'n ôl a blaen ar draws y llwyfan, fflachier y goleuadau. |
(0, 4) 2319 |
~ |
(0, 4) 2320 |
Miwsig cyflym. |
(0, 4) 2321 |
~ |
(0, 4) 2322 |
Wedi iddynt redeg droeon ar draws y llwyfan fel hyn, a neidio ambell waith i fyny ac i lawr y rostra, gostynger y goleuadau i dywyllwch. |
(0, 4) 2323 |
Mae sŵn llais a phib Cerberws yn pellhau; felly hefyd y miwsig, ond pery o hyd yn y cefndir. |
(0, 4) 2324 |
~ |
(0, 4) 2325 |
Ar ôl ychydig eiliadau, cryfhaer y goleuadau, gyda llewych gwyrdd, a dealler mai'r afon Stycs yw'r llwyfan yn awr. |
(0, 4) 2326 |
Clywir eco pell o bib Cerberws, drwy'r miwsig; yna daw Nicias i'r golwg gan bwnio'r cwch yn ffyrnig ymlaen. |
(0, 4) 2327 |
O'r diwedd mae'n cyrraedd y lan — a'r byd hwn! |
(0, 4) 2328 |
Neidia allan a disgyn yn flinedig a swrth ar yr union rostrwm lle y cysgai ar ddechrau'r ddrama. |
(0, 4) 2329 |
Mewn dim mae mewn trwmgwsg. |
(0, 4) 2330 |
~ |
(0, 4) 2331 |
Gwelir y cwch yn mynd yn ôl ac o'r golwg ohono'i hun. |
(0, 4) 2332 |
~ |
(0, 4) 2333 |
Mae'r goleuadau'n melynu, a chlywir yr un miwsig ag a gafwyd ar y dechrau yn ogystal â chrawcian y Llyffantod. |
(0, 4) 2334 |
~ |
(0, 4) 2335 |
Ar ôl ennyd neu ddau, daw Iris a Harmonia i'r golwg. |
(0, 4) 2336 |
Maer miwsig yn distewi. |
|
(Iris) Mae o'n dal i gysgu! |
|
|
|
(Harmonia) Hy! |
(0, 4) 2345 |
Mae Iris yn mynd at Nicias a rhoi ei llaw ar ei ysgwydd. |
|
(Iris) Nic! |
|
|
|
(Nicias) Ust! Glywch chi rywbeth? |
(0, 4) 2402 |
Clywir crawcian y Llyffantod a sibrwd fel lleisiau ar yr awel yn dweud geiriau olaf y gwrol-rai yn Hades. |
|
(Lleisiau) {Sibrwd drwy'r corn-siarad.} |
|
|
|
(Lleisiau) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun." |
(0, 4) 2405 |
Clywir y geiriau hyn deirgwaith. |
|
(Iris) Chlywa i ddim ond crawcian y llyffantod. |
|
|
|
(Nicias) Dyna'r newydd gwaetha un! |
(0, 4) 2457 |
Mae Harmonia yn chwerthin a throi i fynd oddi ar y llwyfan. |
|
(Iris) Wyt ti'n dwad rwan, Nic? |
|
|
|
(Iris) Rwyt ti wedi clertian digon. |
(0, 4) 2466 |
Exit Iris ar ôl et mam. |
(0, 4) 2467 |
~ |
(0, 4) 2468 |
Unwaith eto clywir crawcian y Llyffantod ac ar eu traws y sibrwd fel o'r blaen. |
|
(Lleisiau) {Sibrwd drwy'r corn-siarad.} |
|
|
|
(Lleisiau) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun." |
(0, 4) 2471 |
Gwrendy Nicias am ennyd neu ddau fel petai'n ceisio penderfynu pa sŵn i'w ddewis a'i dderbyn. |
(0, 4) 2472 |
Yna cymer ddracht o'r botel a'i thaflu ymaith. |
|
(Nicias) Blydi llyffantod! |
|
|
|
(Nicias) Blydi llyffantod! |
(0, 4) 2474 |
Try ar ei sawdl a mynd oddi ar y llwyfan. |
(0, 4) 2475 |
Mae'r crawcian a'r sibrwd yn toddi i'w gilydd fel y gostyngir y goleuadau'n raddol. |
(0, 4) 2476 |
Daw miwsig i fyny. |
(0, 4) 2477 |
~ |
(0, 4) 2478 |
Tywyllwch |