|
|
(1, 0) 1 |
GOLYGFA.─Ar lan y môr ar noson arw. |
(1, 0) 2 |
Gwelir tyrfa lled fawr o wŷr a gwragedd, a rhai plant, yn edrych allan i gyfeiriad y môr. |
(1, 0) 3 |
Safant ar y traeth mewn cysgod, gan fod y graig ar un ochr, a'r môr o'r golwg o'u blaen. |
(1, 0) 4 |
Mae'r rhan fwyaf o'r gwŷr yn ymddangos fel morwyr a physgotwyr. |
(1, 0) 5 |
Mae'r gwragedd â shawls am eu pennau a thros eu hysgwyddau. |
(1, 0) 6 |
Mae llong mewn perigl ar 'y creigiau draw. |
(1, 0) 7 |
Clywir sŵn gwynt a glaw a "rockets," a daw rhagor o bobl i'r traeth. |
(1, 0) 8 |
Edrycha pawb yn bryderus a gofidus. |
(1, 0) 9 |
Sŵn cloch yn canu. |
|
(Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs. |
|
|
|
(Dic) Dyma fi yn mynd, mam. |
(1, 0) 32 |
Nifer o'r morwyr yn mynd, gan ffarwelio â'u perth'nasau. |
|
(Nel) Rhaid i fi gael eu gweld yn tynnu'r bad mâs, ac yn mynd ag e' i'r dŵr. |
|
|
|
(Nel) A welwch chi Capten Jones wrth y llyw, fel mae e' wedi bod pob tro mae'r bad wedi mynd allan am yn agos i ugain mlynedd? |
(1, 0) 70 |
Rhagor o'r gwragedd yn dod igysgod y graig. |
|
(Pegi) Y nefoedd a'u hachub hwynt! |
|
|
|
(Shan) Na, allai hi ddim, er ei bod dros ei phedwar ugain a dwy oddiar Calan Mai. |
(1, 0) 109 |
SALI WAT yn dod ar bwys dwy ffon, cap nos ar ei phen o dan shawl fach. |
(1, 0) 110 |
Shawl fawr bron a'i gorchuddio. |
|
(Mari) Wel, Sali fach, dyma ti wedi dod unwaith eto. |
|
|
|
(Sal) Dewch yn nês i gysgod y graig, ferched, mae hi'n dechre bwrw glaw eto, a mae'r gwynt yn ofnadwy. |
(1, 0) 166 |
Pawb yn symud ychydig. |
(1, 0) 167 |
Dau ddyn a merch yn dod ŵr golwg. |
|
(Beti) Edrych, Sal, dyna ragor wedi dod. |
|
|
|
(Sal) 'Nawr maent yn dod, ar ol i'r bad fynd mâs. |
(1, 0) 173 |
Dyn arall ym symud o gysgod y graig i siarad â DAI JONES a TIM NED. |
|
(Mari) A dyma Sam Caleb yn mynd atynt 'nawr. |
|
|
|
(Nel) Dyna'r llong wedi taro'r graig! |
(1, 0) 201 |
Pawb yn symud ymlaen ac 'yn craffu, gan wasgu eu dwylaw mewn braw. |
(1, 0) 202 |
Sŵn llefain o bell. |
|
(Mary Jane) O'r trueiniaid bach! |
|
|
|
(Mari) Ow! Ow! |
(1, 0) 221 |
Pawb yn symud yn nês at y môr, a llawer yn wylo. |
|
(Shan) Welwch chi rywun yn y dŵr? |
|
|
|
(Nel) Whaff, Pegi a Beti, mae Sam ac Ifan draw fan yna! |
(1, 0) 230 |
Tair neu bedair ym rhedeg allan. |
|
(Bess) Oes yna rywun arall i'w weld? |
|
|
|
(Mari) Dyma fi yn dod gyda thi. |
(1, 0) 269 |
JENNY yn dod 'nol. |
|
(Sal) {Yn torri ei ffedog ac yn clymw'r darnau fel y ddwy arall} |
|
|
|
(Mari) 'Nawr am fy nghanol i. |
(1, 0) 283 |
NEL yn rhoi'r rhaff am ganol MARI a'i ch'lymu'n dyn.} |
|
(Sal) Weli di e' 'nawr, Bess? |
|
|
|
(Pawb) Lwc dda i chi, a'r nefoedd fo gyda chi! |
(1, 0) 305 |
Pawb yn dal gafael yn y rhaff, ond NEL. |
(1, 0) 306 |
Mae hi yn teimlo pob clwm, i weld os yw'r rhaff yn ddigon cryf. |
|
(Jenny) {Yn rhedeg i mewn â rhaff yn ei llaw.} |
|
|
|
(Nel) 'Nawr, pawb gyda'i gilydd! |
(1, 0) 337 |
Pawb yn tynnu a'r dynion yn dod i'w cynorthwyo. |
|
(Sali Wat) {Yn dod atynt.} |
|
|
|
(Tomi) Maent yn dod i'r golwg heibio'r graig fawr, a mae rhywun rhwng y ddwy! |
(1, 0) 352 |
Yn neidio ac yn gwaeddi "Hwre!" |
(1, 0) 353 |
Y gwragedd yn gwaeddi "Hwre!" |
|
(Shan) Tomi, dere yma. |
|
|
|
(Shan) Cer i 'mofyn Dr. Williams, a dere ag e' i dŷ Mari a Bess! |
(1, 0) 356 |
TOMI yn mynd. |
|
(Nel) 'Nawr, chi nad ydych yn tynnu'r rhaff, ewch lawr i'w cwrdd, a chariwch y dyn i'r tŷ agosaf ─tŷ Mari a Bess yw hwnnw! |
|
|
|
(Nel) 'Nawr, chi nad ydych yn tynnu'r rhaff, ewch lawr i'w cwrdd, a chariwch y dyn i'r tŷ agosaf ─tŷ Mari a Bess yw hwnnw! |
(1, 0) 358 |
Y dynion ac ychydig o wragedd yn mynd. |
|
(Mary Jane) Gwenno, dere i ni fynd i'r tŷ i roi pethau yn barod erbyn daw'r merched 'nol â'r baich dynol! |
|
|
|
(Shan) O'r gore, cer di, Gwenno fach. |
(1, 0) 364 |
GWENNO a MARY JANE yn mynd allan. |
|
(Nel) {Yn galw ar ei hol.} |
|
|
|
(Shan) Glyw di y gwaeddi! |
(1, 0) 392 |
Sŵn "Hwre!" |
(1, 0) 393 |
Y ddwy yn mynd allan. |
(1, 0) 394 |
Sŵn "Well done, Bess a Mari! Hwre! Hwre!" |
(1, 0) 395 |
Yr orymdaith yn dod i'r golwg. |
(1, 0) 396 |
MARI wedi ei chuddio â shawl NEL, a BESS â shawl SALI WAT. |
(1, 0) 397 |
Y morwr yn cael ei gario gan TIM NED a DAI JONES. |
|
(Sal) Ewch ag ef i dŷ Mari. |
|
|
|
(Sal) Mae popeth yn barod. |
(1, 0) 400 |
Y dymion yn wynd allan, a phawb yn siglo llaw â MARI a BESS, a llawer o siarad. |
|
(Beti) {Yn dod 'nol.} |
|
|
|
(Gwenno) Dewch 'nawr, da chi, dewch. |
(1, 0) 423 |
BESS, MARI, JENNY, NEL, SAL, etc. yn mynd allan. |
|
(Gwenno) Mam, b'le mae eich |shawl| fawr chi? |
|
|
|
(Shan) Yr oedd yn rhaid i dy fam gael rhoi ei |shawl| i Mari─ni wnai |shawl| neb arall y tro. |
(1, 0) 428 |
GWENNO yn tynnu ei |shawl| ac yn ei rhoi am ei mam. |
|
(Gwenno) {Yn mynd ar ol BESS a MARI.} |
|
|
|
(Shan) Dere i ni fynd lan yna. |
(1, 0) 459 |
Y ddwy yn symud allan yn araf a sŵn canu y dôn "Melita" yn dod atynt.} |
|
(Cân) "O Drindod Cariad! cadw'n awr |
|
|
|
(Cân) Boed llawen fawl ar dir a môr." |
(1, 0) 466 |
LLEN |