Drama un-act
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.



GOLYGFA.─Ar lan y môr ar noson arw. Gwelir tyrfa lled fawr o wŷr a gwragedd, a rhai plant, yn edrych allan i gyfeiriad y môr. Safant ar y traeth mewn cysgod, gan fod y graig ar un ochr, a'r môr o'r golwg o'u blaen. Mae'r rhan fwyaf o'r gwŷr yn ymddangos fel morwyr a physgotwyr. Mae'r gwragedd â shawls am eu pennau a thros eu hysgwyddau. Mae llong mewn perigl ar 'y creigiau draw. Clywir sŵn gwynt a glaw a "rockets," a daw rhagor o bobl i'r traeth. Edrycha pawb yn bryderus a gofidus. Sŵn cloch yn canu.

Ned

Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs. Dyna Capten Jones yn galw. Rhaid mynd. (Sŵn rhywun yn galw '"Hei! Hoi!') Good-bye, ferched... Dymunwch bob lwc i ni, wnewch chi?

Mari

Gwnawn, yn wir. Dewch â nhw i gyd 'nol yn y bad. Druan o'r llong! Mae ar ben arni. Dyna'r don wedi golchi drosti!

Shan

Nage─mae yn dal i fyny eto. Wyt ti yn mynd, Dic? (Yn rhoi ei braich am ei wddf.) O, 'machgen mawr i!

Dic

Wel, odw, mam! Welsoch chi fi erioed ar ol pan oedd galw? Ond mae'r bechgyn i gyd yn mynd. (Yn troi at MARY JANE.) Good-bye, merch i─fe ddown yn ol, os Duw a'i myn. Gofala am mam, wnei di? Dyma fi yn mynd, mam.



Nifer o'r morwyr yn mynd, gan ffarwelio â'u perth'nasau.

Nel

Rhaid i fi gael eu gweld yn tynnu'r bad mâs, ac yn mynd ag e' i'r dŵr. (NEL ac eraill yn rhedeg allan.)

Shan

(Yn gwaeddi) Dere 'nol, Nel, mae'n ofnadwy heibio i war y graig─mae eisieu dyn cryf i sefyll yn nannedd y gwynt. Mae cysgod lled dda fan hyn.

Beti

Ddaw Nel ddim 'nol, os gall fynd i'w gweld rywfodd. O diar! mae'n noson ofnadwy! Glyw di'r gwynt yn rhuo, ac yn curo'r tonnau yn erbyn y graig. Mae'n llawn cynddrwg heno a'r noson honno pan aeth y "Lady Mary" yn ddarnau ar y graig─mae yna agos i ddwy flynedd oddiar hynny, on'd oes e'?

Nel

(Yn dod nol gan sychu ei hwyneb, ac yn ymddangos yn flinedig) O 'r annwl bach! Mae hi'n ofnadwy 'r ochor arall i'r graig. Mae'r tonnau'n gynddeiriog, a'r gwynt yn wallgo'─fe fuo i bron â chael fy chwythu i'r môr.

Shan

Odi nhw'n barod? Mae'r llong bron â mynd i lawr. Na, mae'n dal i fyny eto. Dyna rocket arall o'r llong.

Nel

Edrychwch, dyna'r bad allan! (Yn gwaeddi) Hwre! Pob lwc, fechgyn!

Mary Jane

Dyma fi'n mynd lawr yn nês at y dŵr.

Sal

Mae yna ddigon yn barod. Arhoswch fan hyn, ferched.

Bess

Mae'r llong yna yn soddi. Druan o honynt. All dim, na neb eu hachub! Mae'r môr yn rhy arw i unrhyw fad i allu 'u cyrraedd.

Gwenno

(Yn rhedeg i mewn a'i gwallt ar led) Mae Tom, a Ned, a Bob ni yn y bad. A Sam chi, Pegi. O diar! mae'r gwynt yn ofnadwy!

Mari

Lwc dda i'r bechgyn, weda i.

Shan

Maent wedi mynd allan lawer tro o'r blaen, ac wedi gwneuthur gwaith da. Y nef a'u bendithio!

Nel

Dyna fe yn y dŵr! A welwch chi Capten Jones wrth y llyw, fel mae e' wedi bod pob tro mae'r bad wedi mynd allan am yn agos i ugain mlynedd?



Rhagor o'r gwragedd yn dod igysgod y graig.

Pegi

Y nefoedd a'u hachub hwynt! Mae Huw ni yn y bad. (Yn troi at y rhai fu lawr wrth y dŵr.) Welsoch chi fe?

Gwenno

Do, a Dic.

Shan

Pa fad all fyw yn y fath storm? Mae'r tonnau fel mynyddau!

Mary Jane

Ni ddaw yr un o nhw 'nol. Gwell fyddai gadael y llong druan, i'w thynged, na cholli ein dynion ni hefyd. (Yn dechreu crio.)

Sal

Taw sôn, Mary Jane, â dy gleber. Mae'r bad wedi mynd mâs ddwseni o weithiau, ac wedi bod mewn llawer storm cynddrwg a heno, a phawb wedi dod 'nol yn ddiogel. Cwn dy galon, da ti.

Shan

Wn inna ddim beth sy'n bod, ond mae arna i ofn ofnadw' heno.

Sal
(Yn canu yn ddistaw bach, ar y dôn "Melita".)

"Tydi fu gynt, Anfeidrol Iôr,
Yn cau anesmwyth donnau'r môr,
Gan erchi i'r dyfnder llydan, maith
Aros yn ei derfynau llaith.
O! clyw ein cri dros rai, ein Iôr,
Sydd mewn enbydrwydd ar y môr."

Nel

Welwch chi'r bad? Mae hi'n galed arno! Dyna'r don drostynt! Na, dyna fe i'r golwg eto!

Mary Jane

Wel, gwedwch y gwir! 'Tawn i byth o'r fan yma, dyma'r hen Sali Wat yn dod lawr dros y graig!

Gwenno

(Yn wyllt.) Pwy? B'le? Mam yn dod? Roedd hi yn y gwely gyda Mary fach a Tomi pan ddes i mâs. O'r annwl! (Yn rhedeg i gwrdd â'u mam.)

Shan

Nid wyf yn cofio i'r bad fynd mâs erioed o'r blaen heb fod Sali Wat gyda'r boys yn rhoi push off iddo. Aros yn y gwely! Na, allai hi ddim, er ei bod dros ei phedwar ugain a dwy oddiar Calan Mai.



SALI WAT yn dod ar bwys dwy ffon, cap nos ar ei phen o dan shawl fach. Shawl fawr bron a'i gorchuddio.

Mari

Wel, Sali fach, dyma ti wedi dod unwaith eto.

Sali Wat

Odi'r bad wedi mynd?

Shan

Odi, mae e' draw, bron o'r golwg 'nawr. Mae'r môr yn arw heno!

Sali Wat

Odi'n wir, ond mae "'Nhad wrth y llyw." Roedd Gwenno yn meddwl 'mod i yn mynd i aros yn y gwely, ond dim o'r fath beth. Ni aeth y bad mâs erioed o'r blaen heb 'mod i yma. Y fi oedd yma gynta' ar y noson ofnadwy honno bymtheng mlynedd yn ol pan aeth William ni yn y bad, ond ddaeth e', na llawer un arall, byth yn ol. Ni fydd fy amser i yn faith eto, fe groesa i 'r afon cyn bo hir.

Gwenno

Dewch i eistedd ar y garreg draw fan yna, mam, wnewch chi? Mae yna dipyn o gysgod.

Bess

Ie, dewch i gyd yn nês i gysgod y graig. Dyna wraig Ned Tomos fan yco, Mari. Mae Ned Tomos a Wil Bifan mâs yn pysgota oddiar neithiwr.

Shan

Druan o Shwan! Fe af i siarad â hi. (Yn croesi draw at dau gwraig sy'n llechu gerllaw'r graig.)

Nel

A welwch chi'r bad 'nawr yn rhywle?

Beti

Na, mae'r tonna' yn hy uchel. (Sŵn rocket.) Isht! Dyna rocket arall! Mae hi bron bod ar ben ar y llong druan. Faint sydd ynddi, tybed?

Sal

Wn i yn y byd. Mae'n edrych yn llong lled fawr. O b'le mae'n dod? Mae rhyw wragedd bach yn rhywle mewn pryder mawr heno ynghylch y rhai sydd fan draw yn disgwyl y bad i ddod.

Beti

Tybed a all y bad eu cyrraedd ar noson mor arw? Mae'n galed arnynt. Beth petai'r bad yn methu, a'n bechgyn ni'n cael eu taflu i'r môr! O, mam fach annwyl!

Mari

Dim ond gweddïo yn ddistaw bach alla i wneud 'nawr, a'r un geiriau o hyd, "Duw, cadw hwynt." Dyna gyd, ond fe ddealla Ef beth wy'n geisio ddweyd.

Sali

Byddant yn eitha diogel, fe gei weld. Cofiwch sawl gwaith mae'r bechgyn wedi mynd allan o'r blaen, a gwyddoch nad oes yr un ohonom a garai wybod fod ei gŵr, neu ei mab, yn aros ar y lan yn ddiogel, yn lle cymeryd ei le yn y bad. Na wir, byddai cywilydd arna i edrych yn wyneb yr un o honoch petai Dai ni adre, yn lle bod yn y bad heno.

Pegi

Fe ddeuant 'nol, fe gewch weld, wedi achub pob un sydd yn y llong. Onid yw Capten Jones wrth y llyw? Sawl gwaith mae dy dad wedi bod mâs â'r bad, Jenny?

Jenny

(Merch fach, tua naw oed, sydd newydd ddod at y gwragedd.) Yr oedd e'n dweyd neithiwr, mae dim ond un tro eto oedd eisieu, iddo gael Jiwbili.

Sal

Hanner cant o weithia yw heno, felly.

Jenny

Ie, ac 'roedd mami yn dweyd fod bron saith mlynedd er pan daeth dadi a fi yn ol yn ei freichiau pan aeth y llong i lawr, ac y boddwyd pawb, ond myfi, a Jaci y morwr.

Shan

(Sydd wedi dod 'nol yn ystod y siarad.) Ie, bydd yn saith mlynedd wythnos i nos yfory, a noswaith arw iawn oedd hi, a ti oedd y babi glana' welais i erioed, er mod i wedi magu saith mor lân a neb yn y pentre, ond yr oeddet ti, Jenny fach, fel angel o'r nef.

Jenny

"Perl y môr" mae dadi yn fy ngalw i. Ydych chwi'n credu y daw'r bad 'nol â 'nhad heno?

Nel

Daw, wrth gwrs, er na bu dy dad mâs erioed ar waeth noswaith na heno.

Bess

Welwch chi'r bad? B'le mae e'?

Jenny

Mae'n well i fi redeg i'r tŷ i weld os oes eisieu rhywbeth ar mami. (Yn rhedeg allan heibio'r graig.)

Sal

Dyna'r trysor gore gafodd Capten Jones neu unrhyw un arall o'r môr. Dewch yn nês i gysgod y graig, ferched, mae hi'n dechre bwrw glaw eto, a mae'r gwynt yn ofnadwy.



Pawb yn symud ychydig. Dau ddyn a merch yn dod ŵr golwg.

Beti

Edrych, Sal, dyna ragor wedi dod. O! Lisa Jones, a Dai Jones, a Tim Ned sydd yna.

Sal

Ie, dau dda ydynt hwy. Wfft shwd ddynion! 'Nawr maent yn dod, ar ol i'r bad fynd mâs.



Dyn arall ym symud o gysgod y graig i siarad â DAI JONES a TIM NED.

Mari

A dyma Sam Caleb yn mynd atynt 'nawr. Ach-a-fi. (Yn codi ei llais.) Dynion yn wir! Beth ydych chi'n feddwl wrth sefyll fanna a'r bad y fan draw?

Lisa Jones

Ond mae yna ddigon yn y bad. Does dim eisieu rhagor ynddo.

Mari

Na, diolch i'r Arglwydd, yr oedd yna fwy na digon yn barod, ond wyddai y crachod yna ddim o hynny.

Shan

Weli di b'le maent 'nawr, Nel? B'le mae'r bad, a sut mae ar y llong druan?

Nel

Wn i ddim yn wir, wela i ddim.

Beti

O 'mhlant bach i─a ddaw eich tad 'nol?

Sal

Dere fan hyn, Beti, i ni weddïo ar i Dduw eu cadw, a'u dwyn yn ol. (Yn mynd ychydig bach naill ochr, ac i'w gweled fel petai'n gweddio.)

Nel

Ust! clywch, maent yn canu.

Mari

Nage, sŵn y tonnau yn taro ar y graig wyt ti'n glywed.

Nel

Canu maent yn wir. Ust! Clywch! (Yn sisial ganu, "Tyn am y lan, forwr, tyn am y lan," etc.)

Shan

Na, Nel fach, does yna neb yn canu, ond y gwynt ofnadwy─ti sy'n meddwl eu bod. (Sŵn rocket arall.)

Gwenno

Dyna rocket arall! Welwch chi'r bad?

Bess

Na, ond maent yn tynnu at y llong.

Nel

Ow! o mam annwl! Dyna'r llong wedi taro'r graig!



Pawb yn symud ymlaen ac 'yn craffu, gan wasgu eu dwylaw mewn braw. Sŵn llefain o bell.

Mary Jane

O'r trueiniaid bach! (Yn gweddïo.) Arglwydd grasol, cadw hwynt! cadw hwynt!

Pegi

B'le mae'r bad? Welwch chi e'?

Nel

Na, mae'r cyfan wedi ei guddio gan y tonna'. (Yn rhedeg yn nês at y dŵr.)

Sal

Isht! clywch hwy'n gwaeddi! Dyna'r bad wedi troi! Maent i gyd yn y dŵr! Mae ar ben ar y bad! Beth allwn ni wneud? Rhywun! Rhywbeth!

Mari

O, dyna'r bad wedi mynd yn ganddryll ar y creigiau. Mae ar ben arnynt! O, 'mechgyn bach i! Ow! Ow!



Pawb yn symud yn nês at y môr, a llawer yn wylo.

Shan

Welwch chi rywun yn y dŵr?

Sali

Na, ddim yn awr. O! dyna rai wedi nofio i'r ogof, a mae dau wedi cyrraedd i ochor arall y graig. Hwre! Diolch iddo!

Nel

(Yn dod 'nol) Hwre! dyna dri wedi cyrraedd y lan. Whaff, Pegi a Beti, mae Sam ac Ifan draw fan yna!



Tair neu bedair ym rhedeg allan.

Bess

Oes yna rywun arall i'w weld? Ydych chi'n credu fod pawb oedd yn y bad wedi dod i'r ogof neu i'r traeth yr ochor draw i'r graig. Os ydynt, fe'u cawn adre pan yr â y tide 'nol.

Sal

(Yn gwaeddi mewn braw) O! mae rhywun yn y dŵr─draw fan yna. (Yn cyfeirio â bys.)

Shan

O! druan bach!

Mari

Mae ei nerth yn pallu. Mae yn boddi yn ymyl y lan! Allwn ni wneuthur dim i'w achub! (Llawer yn torri allan i wylo.) O! mi af yn ddwl, af yn wir!

Nel

Dewch, chi'r dynion! Gwnewch rywbeth yn rhwydd. Mae hi ar ben arno, dewch ar unwaith. Y dyn bach yn ymladd â'r tonnau, a neb yn mynd i'w waredu!

Tim Ned

All neb ei achub a'r môr fel y mae heno. Taflu bywyd i ffwrdd fyddai ceisio, ïe'n wir.

Dai Jones

Fe fyddwn ni'n barod i fynd petai rhyw ffordd i'w achub ef, ond y mae ar ben arno! Poor fellow! (Yn crynu gan ofn.)

Bess

(Yn cyflym dorri es shawl yn ddarnau hirion.) Poor fellow, yn wir!

Nel

Beth wyt ti'n 'neud, Bess?

Sam Caleb

Does yma'r un raff, ac ni all neb fynd heb raff. Wel! wel! mae yn drueni hefyd ei adael i foddi, ond ni all neb fyw yn y fath fôr, na all yn wir!

Bess

(Yn c'lymu y darnau o'r shawl.) Dyma raff, ferched. Rhaid ei achub e'.

Sal

Ydych chi'n galw'ch hunain yn ddynion! Na, babis ydych eich tri! Rhag cywilydd i chi! Ach-a-fi!

Bess

(Yn troi ei dillad am ei chanol.) Dyma fi yn mynd. Pwy ddaw gyda fi!

Mari

(Yn gwneud yr un fath.) Dyma fi yn dod gyda thi.



JENNY yn dod 'nol.

Sal

(Yn torri ei ffedog ac yn clymw'r darnau fel y ddwy arall) Gadewch i fi fynd!

Shan

Na, Sal, cofia am dy blant bach. Aros di yma.

Sal

Beth os mai Wil ni sydd fan draw ar ei oreu druan bach, yn treio dod 'nol ataf fi a'r plant.

Nel

Clymwch hwynt i gyd gyda'i gilydd. (Yn clymu y darnau shawls.) Jenny fach, edrych am raff, wnei di, a gofyn i'r plant dy helpu di.

Jenny

O'r gore. (Yn mynd i chwilio.)

Mari

Un clwm eto! Dyna fe! 'Nawr am fy nghanol i.



NEL yn rhoi'r rhaff am ganol MARI a'i ch'lymu'n dyn.}

Sal

Weli di e' 'nawr, Bess?

Bess

Gwelaf, mae'n cadw 'mlaen, ond mae'n galed arno, druan bach!

Nel

'Nawr am danat ti, Bess. Dyna fe! (Yn c'lymw'r rhaff am ganol Bess tra y saif ychydig tu ol i MARI.) Dere â rhagor, Mary Ann! C'lymwch ymlaen. Dyna fe!

Mari

Cofiwch roi clwm cryf iddi. (NEL yn ei roi.) Dyna fe! Rho dy law i fi, Bess, a fe gydiwn yn y rhaff â'r llaw arall. Dyma ni yn mynd, ferched. (Yn mynd allan.)

Nel

Pob lwc i chi. Dewch ag e' 'nol! Cofiwch dynnu'r rhaff os byddwch am ddod 'nol.

Shan

(Yn galw) Peidiwch mentro gormod, da chi, ferched!

Pawb

(Yn galw) Lwc dda i chi, a'r nefoedd fo gyda chi!



Pawb yn dal gafael yn y rhaff, ond NEL. Mae hi yn teimlo pob clwm, i weld os yw'r rhaff yn ddigon cryf.

Jenny

(Yn rhedeg i mewn â rhaff yn ei llaw.) Dyma raff o fad Shôn Bifan.

Nel

Rhowch glwm cryf arni. (Yn c'lymu y rhaff wrth y llall.)

Gwenno

Mae popeth wedi distewi, ond y storom.

Shan

Fe achubant y dyn─gwnant, 'rwy'n siwr─maent yn llaw Duw.

Tomi Bach

(Yn dod i mewn.) Dyna nhw o'r golwg, dan y don!

Nel

O'r annwl! beth os boddant gyda'r lleill! Rhowch y rhaff allan─digon o honi!

Shan

Na, foddant hwy ddim─dal dy afal yn y rhaff, Nel. Fe arbeda Duw ddwy mor wrol a Mari a Bess.

Gwenno

Alla i wneud dim ond gweddïo a dal ar y rhaff.

Sal

Faint mwy wyt ti am wneud? Dyna i gyd mae'r Brenin Mawr am i ni wneud─gweddïo a gweithio. Dal dy afal yn y Dwyfol, ond paid ag anghofio y rhaff ddynol sydd yn dy law.

Nel

Isht! Beth oedd y sŵn yna? Dyna fe eto! (Bloedd ym dod o'r pellter.) Welwch chi rywbeth?

Mary Jane

Na, ond dyna floedd eto. Ust! Clywch! (Bloedd yn dod.)

Shan

O! diolch i'r nefoedd, maent wedi ei gael. Mae'r rhaff yn cael ei thynnu! Dyna'r arwydd ini dynnu i mewn! Dewch, tynnwch ferched, tynnwch!

Nel

'Nawr, pawb gyda'i gilydd!



Pawb yn tynnu a'r dynion yn dod i'w cynorthwyo.

Sali Wat

(Yn dod atynt.) Dyna 'r ffordd. Eto! Eto! O, diolch i'r nefoedd!

Gwenno

Dyma 'mam yn dod i'n helpu. Dewch fan hyn, mam, fe ellwch dynnu tipyn bach gyda fi.

Sali Wat

Fe dynnaf i â'r anadl ola i gael y merched 'nol, gwnaf yn wir! (Yn tynnu gyda GWENNO.)

Nel

Tynnwch! Eto! "Diolch iddo, byth am gofio llwch y llawr!"

Tomi

(Yn rhedeg i mewn) Maent yn dod i'r golwg heibio'r graig fawr, a mae rhywun rhwng y ddwy!



Yn neidio ac yn gwaeddi "Hwre!" Y gwragedd yn gwaeddi "Hwre!"

Shan

Tomi, dere yma. Cer i 'mofyn Dr. Williams, a dere ag e' i dŷ Mari a Bess!



TOMI yn mynd.

Nel

'Nawr, chi nad ydych yn tynnu'r rhaff, ewch lawr i'w cwrdd, a chariwch y dyn i'r tŷ agosaf ─tŷ Mari a Bess yw hwnnw!



Y dynion ac ychydig o wragedd yn mynd.

Mary Jane

Gwenno, dere i ni fynd i'r tŷ i roi pethau yn barod erbyn daw'r merched 'nol â'r baich dynol!

Shan

Ie, dyna fydd ore, Mary Jane.

Gwenno

Dyma fi yn mynd, mam. Shan, gofala am mam, wnei di, a dere a hi lan tua'r tŷ ar ol i'r merched ddod 'nol, da ti?

Shan

O'r gore, cer di, Gwenno fach.



GWENNO a MARY JANE yn mynd allan.

Nel

(Yn galw ar ei hol.) Cofia, Mary Jane, fod yna ddigon o ddillad sych, a thân mawr, a dŵr berw yn barod. Mae Bess yn cadw'r dillad glân yn y cas-an-drors.

Gwenno

(Yn ateb o bell.) O'r gore. Fe wnawn bopeth yn barod, a chwpanaid o dê berw.

Sal

Tynnwch i gyd! Dewch! dewch! Dyna nhw ar y traeth! Mae'r rhaff yn slack. Tyn y clwm hyn yn rhydd, Nel, i fi gael rhedeg i'w cwrdd.



(NEL yn rhedeg allan.)

Sal

O! dyna Nel wedi mynd. Torrwch y clwm, wnewch chi─rhywun, dyma fi yn mynd. (Yn rhedeg allan.)

Y Plant a'r Gwragedd

(O'r golwg gerllaw y dŵr.) Hwre! Hwre! Hip─hip─hwre!

Sam Caleb

Mae'n well i fi dorri y clwm fan hyn, lle bod y rhaff yn tynnu wrthynt o hyd. (Yn ei thorri.)

Sali Wat

Dere, Shan, cer â fi lawr at y dŵr. Fe fydd eisieu shawls ar y merched wedi bod yn y dŵr. (Pawb arall wedi mynd allan.)

Shan

Cadw dy afael yn y rhaff, Sali, a fe awn ar ol y lleill. Dyna nhw wedi dod i'r lan! Glyw di y gwaeddi!



Sŵn "Hwre!" Y ddwy yn mynd allan. Sŵn "Well done, Bess a Mari! Hwre! Hwre!" Yr orymdaith yn dod i'r golwg. MARI wedi ei chuddio â shawl NEL, a BESS â shawl SALI WAT. Y morwr yn cael ei gario gan TIM NED a DAI JONES.

Sal

Ewch ag ef i dŷ Mari. Mae popeth yn barod.



Y dymion yn wynd allan, a phawb yn siglo llaw â MARI a BESS, a llawer o siarad.

Beti

(Yn dod 'nol.) Pwy yw e'?

Nel

Ben, brawd Mari a Bess. Dyna ryfedd mae pethau yn digwydd!

Beti
"Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
Yn dwyn Ei waith i ben."

Shan

Ie'n wir.

Pegi

(Yn dod 'nol.) Ydi e'n fyw?

Bess

O, odi; ond mae wedi cael dolur mawr ar ei fraich dde a'i ysgwydd.

Mari

'Roedd e' bron a threngi pan gawsom afael ynddo, â'i fraich am damaid o'r bad. Dyna'i cadwodd e' i'r lan neu fe fuasai wedi boddi.

Shan

Cer tua thre, Mari, a thithau, Bess, i newid eich dillad a chael rhywbeth twym. Cerwch chwaff, nawr!

Jenny

(Yn cydio yn llaw BESS ac hefyd yn un MARI.) Diolch yn fawr am achub Ben o'r môr. Welsoch chi Dadi?

Bess

Naddo, Jenny fach, ond mae dadi a'r lleill wedi cyrraedd yr ogof, neu'r lan fan draw, ti elli fod yn siwr.

Gwenno

(Yn dod 'nol.) Dewch, ferched! Mae Mary Jane a Shenad Tomos yn rhoi Ben yn y gwely, a mae Dr. Williams wedi dod. Dewch 'nawr, da chi, dewch.



BESS, MARI, JENNY, NEL, SAL, etc. yn mynd allan.

Gwenno

Mam, b'le mae eich shawl fawr chi? Byddwch yn siwr o fod yn dost yn y gwely ar ol heno.

Sali Wat

Mae'n shawl i gyda Bess.

Shan

Yr oedd yn rhaid i dy fam gael rhoi ei shawl i Mari─ni wnai shawl neb arall y tro.



GWENNO yn tynnu ei shawl ac yn ei rhoi am ei mam.

Gwenno

(Yn mynd ar ol BESS a MARI.) Dewch â mam adre, Shan a Beti.

Shan

(Yn troi at BETI a PEGI.) Sut mae eich dynion chi? Yr ydym i gyd wedi anghofio am bawb, ond am Bess a Mari.

Pegi

O, nid ydynt damaid gwaeth; maent wedi newid 'nawr, ac yn cael tamaid o fwyd.

Beti

Yr oedd rhaid i ni ddod lawr pan glywsom y gwaeddi, i gael gweld pwy oedd Bess a Mari wedi ei gael o'r môr. Dewch i lan i'r tŷ. (Yn mynd allan.)

Jenny

(Yn rhedeg 'nol) Mae dadi wedi dod! Hwre! a'r bechgyn gydag e'. Hwre! (Yn rhedeg allan.)

Shan

I feddwl mai eu hunig frawd a achubwyd ganddynt!

Sali Wat

Mae yna galonnau trwm mewn llawer man heno─faint oedd yn y llong, tybed? Mae yma destun diolch fod ein gweddïau ni wedi eu hateb, a'r bechgyn wedi eu harbed i gyd.

Shan

Dere adre, Sali. Bydd cof am heno mewn oesau i ddod, a bydd merched Cymru mewn canrifoedd yn darllen am ferched y Mwmbwls, fel oeddent yn barod pan ddaeth yr alwad i wneud gorchest fawr.

Sali Wat

Ie, fyddwn ni ddim yma yn hir eto. Mae stormydd bywyd bron â dod i ben, ac er bod y cwch bach yma wedi taro yn aml yn erbyn y graig, mae'r Bywyd-fad gerllaw i fynd â fi i'r Hafan Dawel. Fe ddaw y bad, heb fod yn hir─a fe fydd y Pen-Capten wrth y llyw─ar ryw noson, yn sŵn y storm, i'm mofyn i adre, ond 'rwy'n falch Ei fod wedi'm gadael yma hyd heno, i mi gael gweld dewrder Bess a Mari; a phan gwrdda i â'u tad a'u mam ar y lan draw, dyna stori fydd gen i i ddweyd wrthynt am eu plant. Bendigedig!

Shan

Ie'n wir. Dere, mae pawb wedi mynd. Isht! Dyna ganu! Mae Capten Jones a'r bechgyn i gyd o flaen y tŷ yn canu. Clyw! Dere i ni fynd lan yna.



Y ddwy yn symud allan yn araf a sŵn canu y dôn "Melita" yn dod atynt.}

Cân
"O Drindod Cariad! cadw'n awr
Ein brodyr mewn cyfyngder mawr,
Rhag craig a thymestl, llid a brad,
Dy nawdd fo drostynt ymhob gwlad:
Ac yna byth i Ti, ein Iôr,
Boed llawen fawl ar dir a môr."


LLEN

Drama un-act