|
|
(1, 0) 1 |
Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr. |
(1, 0) 2 |
Yn y cornel i'r dde y mae cruglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr. |
(1, 0) 3 |
Yn y ben nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan. |
(1, 0) 4 |
~ |
(1, 0) 5 |
Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan. |
(1, 0) 6 |
Cedwir eí felly am ychydig amser, nes bod y gynulleidfa ar fin anesmwytho. |
(1, 0) 7 |
Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos. |
(1, 0) 8 |
Pan ddêl cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael a rhai crwydryn cyffredin. |
(1, 0) 9 |
Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog. |
|
(Dafydd) {Yn estyn ei freichiau ac yn agor ei geg.} |
|
|
|
(Dafydd) O di─aa─wch! |
(1, 0) 12 |
Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt, a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed. |
(1, 0) 13 |
Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coeg-foneddig─yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael. |
(1, 0) 14 |
~ |
(1, 0) 15 |
Y mae ei wyneb hefyd yn gyd-wedd â'r dillad─wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin. |
(1, 0) 16 |
Y mae ei farf '' gafr " a'i waÌlt ac aeliau trwchus yn frith. |
(1, 0) 17 |
~ |
(1, 0) 18 |
Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "Pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen. |
(1, 0) 19 |
Cyfyd yn fwy disymwth na DAFYDD o'r gwellt a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar ol rhai DAFYDD. |
|
(Malachi) Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus. |
|
|
|
(Dafydd) 'Dwy ddim am fynd yn ol. |
(1, 0) 162 |
Edrych MALACHI yn synfyfyrgar am ysbaid. |
(1, 0) 163 |
Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd. |
(1, 0) 164 |
Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc. |