a1
Ⓗ 1927 Idwal Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr. Yn y cornel i'r dde y mae cruglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr. Yn y ben nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan.

Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan. Cedwir eí felly am ychydig amser, nes bod y gynulleidfa ar fin anesmwytho. Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos. Pan ddêl cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael a rhai crwydryn cyffredin. Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog.

Dafydd

(Yn estyn ei freichiau ac yn agor ei geg.) O di─aa─wch!



Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt, a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed. Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coeg-foneddig─yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael.

Y mae ei wyneb hefyd yn gyd-wedd â'r dillad─wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin. Y mae ei farf '' gafr " a'i waÌlt ac aeliau trwchus yn frith.

Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "Pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen. Cyfyd yn fwy disymwth na DAFYDD o'r gwellt a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar ol rhai DAFYDD.

Malachi

Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus. Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd.

Dafydd

Torred hi.

Malachi

Testun diolch sydd gennym, Dafydd. Testun diolch. Y wawr wedi torri a ninnau mewn tŷ diddos.

Dafydd

(Yn edrych oddiamgylch.) Buckingham Palas!

Malachi

Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond bwthyn cyffredin y gwerinwr. le, muriau moelion. Ond diolch am gymaint a hynny.

Dafydd

le, ond nid ni sydd berchen y bwthyn neu beth bynnag yw e.

Malachi

Goreu'n y byd, Dafydd, goreu'n y byd. 'Rwy'n sicr y buasai'r bobol sy'n perchenogi'r lle dinôd yma yn falch iawn i wybod eu bod wedi cyfrannu bendithion yn ddiarwybod.

Dafydd

Ie. Fe hyderwn 'u bod nhw wedi cadw'r ci yn sownd.

Malachi

Fe hyderwn hynny, Dafydd. Fe hyderwn hynny. Mae llawer i ddyn wedi troi angel yn ddiarwybod o'r tŷ am i fod e wedi anghofio clymu'r ci.

Dafydd

Malachi! Os rhywbeth ar y menu y bore 'ma? Os dim digwydd fod scadenyn coch rywle yn yr awyrgylch?

Malachi

Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, machgen i. (Yn cyflymu.) Bydd yn amyneddgar, bachan! Dysg bwyso ar Ragluniaeth. Wyddost ti ddim pa fendithion ddaw y diwrnod newydd hwn eto.

Dafydd

Wel, gobeitho y don' nhw'n glou. Wela i ddim ohonyn' nhw'n glawio hyd yn hyn.

Malachi

Diffyg gweledigaeth, 'y machgen i; diffyg gweledigaeth.

Dafydd

Odych chi'n gweld rhywbeth te?

Malachi

Llygad ffydd, Dafydd; llygad ffydd. Fe wêl dyn lawer. Mae yna fferm gerllaw, ond oes e, Dafydd?

Dafydd

Wel?

Malachi

Pwy ŵyr nad yw hi wedi insiwro yn lled drwm, Dafydd. Dywedwch rhyw bymtheg cant. Pwy ŵyr nad yw'r perchennog mewn dyled, a bod angen am dân,─am d─aa─n! Does dim i buro cymdeithas fel tân, Dafydd.

Dafydd

Pam─o─os rhywbeth mewn golwg gyda chi?

Malachi

O, na, na, na, Dafydd. Dim ond â llygad ffydd, 'y machgen i. Am argraffu ar dy feddwl di wyf i, na ŵyr dyn ddim pa fendithion a ddaw gyda'r wawr. Os cofi di, Dafydd, 'doeddwn i ddim mewn sefyllfa i weled rhyw lawer â'r llygad naturiol neithwr.. Son am dana ì 'rw' i nawr.

Dafydd

Dyna'r ffaith.

Malachi

Na, Dafydd. Yr oeddwn wedi edrych ar y gwin pan fyddo goch. Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn.

Dafydd

Go fore yw hi i bregeth, Malachi.

Malachi

'Roedd crefydd yn y teulu. Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd.

Dafydd

O, shwt?

Malachi

Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls. Dyna dynnodd sylw'r polisman, Dafydd.

Dafydd

'Ro'dd tipyn bach mwy o grefydd nag o gallineb yn perthyn i'ch tad, Malachi.

Malachi

Oedd, falle i fod e. Ond dyna ddull syml yr hen bobol, weidi. (Yn synfyfyrio.) Rhyfedd meddwl fod fy nhad wedi cael ei ddal am beth mor fach a dwyn ffowls.

Dafydd

Fuoch chi'n dwyn ffowls eriod, Malachi?

Malachi

Do, Dafydd, do droeon. Fyddwn i byth yn edrych i lawr hyd yn oed ar ddull syml fel yna o ennill 'y nhamed bara. Ond, gyda pharch i goffadwriaeth hen ŵr 'y nhad, 'rwy'n credu mod i wedi gneyd mwy o arian mewn noswaith cyn hyn nag a neise fe mewn whech mis wrth ddwyn ffowls. le, rhai syml oedd yr hen bobol... Mam, 'run fath wedyn.

Dafydd

Dioddefodd hi oherwydd 'i chrefydd?

Malachi

'Roedd hi'n dal cysylltiad agos â'r achos, Dafydd. Roedd hi'n casglu mewn hen gapel bach yn agos i gartre, ac felly, mewn ffordd o siarad, dipyn o flaen ei hoes.

Dafydd

'Rodd hi dipyn fwy ar y metals na'ch tad, te?

Malachi

Wel, oedd, mewn ffordd o siarad, er, mor bell ag yr 'w i'n cofio, roeddem ni fel teulu yn byw yn weddol foethus pan oedd mam yn casglu yn yr hen gapel bach. Hwyrach fod bendith ar yr achos da. Gyda llaw, beth oedd dy rieni di, Dafydd?

Dafydd

Y─wel. Ma' nhw─ma' nhw wedi marw ych dou.

Malachi

Ma'n rhai inne hefyd.

Dafydd

Wel─a─mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd.

Malachi

Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei?

Dafydd

O'n─wel o'n, mewn ffordd o siarad.

Malachi

Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw. Mae'r rhan fwyaf o bobol y wlad yma wedi byw mor respectabl nes bod i plant yn ofni i harddel nhw. 'Rwy' wedi diolch llawer fod 'y nhad ymron cymint o flagard a finne... (Yn ddisymwth.) Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus?

Dafydd

Wn 'im. Falle taw am i bod nhw'n bobol barchus.

Malachi

Be' ti'n feddwl wrth hynny?

Dafydd

Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl.

Malachi

Câl digon ar fod yn respectabl? Be nest ti, meddwi?

Dafydd

Nage.

Malachi

Ladratest ti rywbeth?

Dafydd

Naddo.

Malachi

Beth te?

Dafydd

Dim. Laru ar fod yn respectabl. Dyna'r cwbwl.

Malachi

Ie, ond beth wyt ti'n neyd fan hyn, heb geinog ar dy elw?

Dafydd

'Rwy' wedi gweyd. Mi ges ddigon ar fod yn respectabl, a mi gliries mâs.

Malachi

'Doet ti ddim yn deico dy waith, gw'lei.

Dafydd

Nag own.

Malachi

'Rown i'n meddwl.

Dafydd

le, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i?

Malachi

Na wn i.

Dafydd

Bod yn respectabl.

Malachi

Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd. Beth oet ti─clerc?

Dafydd

Nage. Mwy respectabl na hynny.

Malachi

Bancer?

Dafydd

Nage.

Malachi

Na. D'wyt ti ddim digon si-miw i fod yn fancer. 'Doet ti ddim twrne?

Dafydd

Cyfreithiwr? Nage.

Malachi

Na, 'dos dim digon o'r diawl yndo ti i fod yn dwrne. Crynhoi insiwrin?

Dafydd

(Yn ysgwyd ei ben.) Na.

Malachi

Wel mâs â hi.

Dafydd

Pregethwr.

Malachi

Beth? Beth? Beth?

Dafydd

Bugel Methodist.

Malachi

Bugel Methodist! Bugel Methodist! Ystyria, Dafydd, 'y machgen i. Ystyria... Rwy'n hen ŵr penwyn, Dafydd. Paid a thwyllo hen ŵr!

Dafydd

'Dwy ddim yn ych twyllo chi. 'Row'n i'n fugel Methodist wythnos yn ôl.

Malachi

Wythnos yn ôl? Wythnos yn ôl?

Dafydd

Wythnos yn ôl.

Malachi

Dim erioed!

Dafydd

O'wn wir.

Malachi

Wel, alli di ddim mynd yn ol 'na?

Dafydd

'Dwy ddim am fynd yn ol.



Edrych MALACHI yn synfyfyrgar am ysbaid. Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd. Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc.

Malachi

Dafydd, fy mab. Dafydd, Dafydd. Pam na fyset ti'n i phriodi hi?

Dafydd

Eh? Be'─be' chi'n feddwl?

Malachi

Pam na fyset ti'n i phriodi hi, Dafydd; pam na fyset ti'n i phriodi hi? Lodes ffein o'dd y lodes. Ddylet ti ddim o'i gadel hi.

Dafydd

Be' chi'n dreio weyd? O, 'rych chi'n meddwl mod i wedi dod â rhyw ferch i drwbwl.

Malachi

Odw i ddim yn iawn, Dafydd? Odw i ddim yn iawn?

Dafydd

Nag ych. Rych chi'n hollol mâs o'ch lle.

Malachi

Dafydd, Dafydd, paid a thwyllo hen ŵr.

Dafydd

'Dwy'n twyllo dim ohonoch chi. Mi wedwn i wrthoch chi ar unwaith 'se chi'n iawn.

Malachi

'Nawr, Dafydd; 'nawr, 'nawr.

Dafydd

'Rwy'n gweyd yr union wir wrthoch chi. Os nad ych chi'n 'y nghredu i, peidiwch... 'Drychwch 'ma, leicech chi ddim bod yn bregethwr, leicech chi? Meddyliwch chi 'se chi yn fy lle i.

Malachi

Pam na leicwn i, Dafydd? Pam na leicwn i?

Dafydd

Wel─wn i ddim. Meddwl 'rown i.

Malachi

O. Dafydd, Dafydd! Mae'n ened i yn dyheu am y cyfle. (Yn cerdded oddiamgylch ac yn rholio'r geiriau oddiar ei dafod.) Y Parchedig Malachi Jones, B.A., B.D. Bydd y Parchedig Malachi Jones yn pregethu yma y Saboth nesaf! Pregethir yng nghyfarfod yr hwyr gan y Parch. Malachi Jones, B.A., B.D. Malachi Jones, o Gapel Seion! (Yn dechreu "hwylio".) Pan fydd stormydd bywyd yn torri ar eich traws, pan ddaw'r ddrycin a'r tywyllwch, pwy rydd gysur i'r weddw a'r amddifad? Malachi Jones! Pwy fydd barod i godi cardotyn o'r llwch? Pwy rydd gynhorthwy i'r gweiniaid? Pwy ond yr hen Falachi. Fe wela i yr hen saint yn eu hwylio hi drwy ddrycin y gaeaf i glywed yr hen Falachi Jones yn traethu'r genadwri.

Dafydd

le, dyna'r ochor ych chi'n weld ohoni.

Malachi

(Heb gymryd sylw, ond yn gostwng ei lais o'r hwyl.) Effeithiol iawn. Odfa rymus iawn. Malachi Jones ar grefydd ac ymarweddiad. Yr hen wragedd yn foddfa o ddagrau. (Yn dechreu "hwylio" eto.)

Arglwydd, gâd i'm dawel orffwys,
Dan gysgodau'r palmwydd clyd,
Lle'r eistedda'r pererinion
Ar eu ffordd i'r nefol fyd.

le, mae llawer i hen sant yn teimlo'n bur ddiolchgar heno am gysgodau'r palmwydd. Chwi'r oedrannus sydd o'm blaen i heno, mae ôl llafur a lludded y dydd ar eich hwynebau chwi; mae stormydd bywyd wedi gadael creithiau ar eich gruddiau. Beth am dani, mobol i? Beth am gysgodau'r palmwydd? Deuwch gyda mi. Mae yno ffynnon risial i'r sychedig, a lle i galon friw i orffwys─dan gysgodau'r palmwydd clyd! (Yn disgyn i'r modd cyffredin yn sydyn, ac yn edrych yn ddifrifol ar Dafydd.) Wyddost ti, neyd sport 'rown i 'nawr, ond nid dyna fel y byswn i'n pregethu. Mi fyddwn i wedi troi pob pechadur yn yr odfa cyn pen hanner awr. Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd!

Dafydd

O ie, yr hen ffrind. Rych chi fel pob un o'r tuallan yn i gweld hi'n bert iawn. Ma' digon hawdd i chi sefyll fanna a chanu "Palmwydd clyd." Ond fe gawsech lawer i neyd heblaw hynna.

Malachi

Wel? Cysuro'r weddw a'r amddifad. Dweyd gair wrth y bobol ieuainc. Cynnal ambell i seiat. O, Malachi Jones yw'r dyn─

Dafydd

Ie, ie; mae hynna'n swno'n iawn. Ond mi flinech yn gynt nag y meddyliech chi. Mi flines i arni.

Malachi

Blino ar beth?

Dafydd

Blino ar fyw'n respectabl─respectabl─respectabl! Ddydd a nos. Un wythnos ar ôl y llall. Y swydd fwya respectabl yn y wlad, fwya respectabl dan haul. Dyna sy'n damio'n gwlad ni. Nid culni. Nid Piwritanieth. Mae tân mewn Piwritanieth. 'Does dim mewn respectability. Mae Cymry'r ganrif hon yn byw mewn frock-coat, gorff ac enaid.

Malachi

'Nawr, mi fyswn i yn yng elfen mewn frock-coat.

Dafydd

Wisges i ddim un eriod─o leia, ddim am 'y nghorff─nac am y'n ened chwaith. Rwy'n credu y byswn i wedi gneyd llawer o waith mewn cylch lle rôdd yna ddigon o ryddid a neb yn boddro dim shwt own i'n byw. Ond, fel bugel, down i ddim yn llwyddiant. Rown i'n gneyd popeth yn wahanol i bob pregethwr arall. Down i ddim yn hoff o gwmni pregethwyr, i ddechre. Rown i'n câl digon arnyn' nhw. Doen nhw ddim a'u llaw ar byls y bobol rywsut. 'Dwy ddim yn i beio nhw chwaith. Mi ffeules i'n hunan.

Malachi

Beth ddigwyddodd?

Dafydd

O, mi âth popeth go whith. Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rodd gormod o Ebrill yndw i. 'Rown i'n rhoi gormod o shocks i'r saint─a ma gwaith neyd hynny y dyddie hyn.

Malachi

Shocks i'r saint! Rwy'n leico hwnna. Dere gâl i clywed nhw.

Dafydd

O, cofiwch chi, 'dwy ddim am ddweyd mod i'n iawn lawer tro. Rown i'n ddigon gonest yn y dechre. Rown i am gêl gafel yn nynolieth pobol. A mi gês i afel yndo fe lawer tro. Ond dim y teip mae pobol respectabl yn hoffi. Rodd gen i ormod o gydymdeimlad â'r dyn off y metals. Rown i'n i hoffi e am i fod e off y metals; am nad oedd e'n respectabl. Lliw, a sport, a bywyd, a rhamant, a ienctid! 'Rodd gâs gen i furie moelion y capel. Mi addolwn yn well mewn eglws Gatholig brydferth.

Malachi

Ond be' nest ti i boeni'r saint?

Dafydd

O, llawer o bethe. Ma' dyn yn mynd yn rebel gydag amser. Dyma engraifft... Rodd un o'm ffrindie i─un o'r rhai off y metals─yn cynnal dawns nos Sul yn rhywle. Mi'n heriodd i ddod yna ar ôl cwrdd. Mi es gam ymhellach: mi cyhoeddes hi yn y Seiat.

Malachi

Beth am y─beth yw hwnna─dim y seiat─y Cwrdd Misol?

Dafydd

Dyna chi'n gofyn cwestiwn 'nawr na fedra i byth ateb. Pan fydd rhyfeddode mawr y byd yn câl i croniclo mi fydd hwnna ar lawr.

Malachi

Wedson nhw ddim un gair?

Dafydd

Mi synnech chi mor ychydig. Mae'n anodd rhoi gwir shock i sgerbwd anghydffurfieth. 'Rown i wedi gorffen bod yn respectabl ers tro, a 'doedd dim a wnawn i yn 'i synnu nhw─os na wnawn i rywbeth fel dyn arall. 'Rown i mron bod yn respectabl o unconventional.



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1