|
|
|
(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch, |
|
|
|
(Pobun) Dos yn ebrwydd i geisio goruchwyliwr y tŷ; rhaid i mi roi gorchymyniddo. |
(0, 2) 33 |
Mynd ymaith o'r gwas. |
|
(Pobun) Ys gwir, y mae golwg da ar fy nhŷ. |
|
|
|
(Pobun) Plasdy yn y wlad hefyd, tyddyn llawn o wartheg a defaid a'r rheiny'n dwyn elw i mi, fel yn wir y gallaf fyw'n llawen o ddydd i ddydd. |
(0, 2) 39 |
Dyfod o'r goruchwyliwr. |
|
(Pobun) Swyddog, dos i ymofyn côd lawn o aur i mi—fe anghofiais ei dodi yn fy ngwregys. |
|
|
|
(Pobun) Gyrr y Cogydd yma, dos dithau ynghylch yr aur. |
(0, 2) 44 |
Mynd o'r Goruchwyliwr, dyfod o'r Cogydd. |
|
(Pobun) Y mae arnaf eisiau gwledd gostfawr erbyn yfory. |
|
|
|
(Pobun) A wyt ti'n meddwl mai cinio cardotyn a fynnwn i? |
(0, 2) 54 |
Ymaith â'r Cogydd. |
(0, 2) 55 |
Dyfod o'r Goruchwyliwr a chod ganddo. |
(0, 2) 56 |
Cymryd o BOBUN y god. |
|
(Pobun) Cadw di olwg ar forwyn a gwas, nid ynt yn rhyngu mo'm bodd ym mhopeth. |
|
|
|
(Pobun) Cadw di olwg ar forwyn a gwas, nid ynt yn rhyngu mo'm bodd ym mhopeth. |
(0, 2) 58 |
Gwelir y Cymydog Tlawd yn dynesu. |
(0, 2) 59 |
Cydymaith Da Pobun hefyd yn dyfod ar frys. |
|
(Pobun) {Wrth y Goruchwyliwr.} |
|
|
|
(Pobun) Dyna pam yr wyt ti'n ben swyddog yma, er mwyn i ti—O, dyma'r cydymaith! |
(0, 2) 62 |
Mynd o'r Goruchwyliwr i'r tŷ. |
|
(Pobun) {Wrth y Cydymaith.} |
|
|
|
(Pobun) Am hynny, cymer ef rhag dy flaen, canys dyma dy gyfiawn ran. |
(0, 2) 121 |
Cymer yntau ac â ymaith. |
|
(Cydymaith) Diau, fe roddaist iddo synnwyr noeth. |
|
|
|
(Pobun) Bellach, ni awn, y mae hi'n hwyrhau. |
(0, 2) 125 |
Dyledwr yn dyfod rhwng dau swyddog, ei wraig a'i blant ar ei ôl, mewn carpiau. |
|
(Cydymaith) Beth yw'r creadur hwn o ddyn sy ganddynt, a'i ddwylo wedi eu rhwymo'n groes? |
|
|
|
(Gwraig y Dyledwr) Pa le y caf wely i'm plant heno? |
(0, 2) 191 |
A ar ôl eì gŵr. |
|
(Pobun) {wrth y Cydymaith.} |
|
|
|
(Mam Pobun) Cymeraf hwy fel rhybudd y byddaf innau farw yn fuan iawn. |
(0, 3) 273 |
A ymaith. |
|
(Pobun) Fe glywaf innau adsain felly hefyd! |
|
|
|
(Pobun) Ac yn awr, nid yn unig i'm clyw y daw, ond hefyd o flaen fy llygaid. |
(0, 3) 278 |
Daw meistres Pobun yno, gyda chwaryddion a bechgyn yn dwyn ffaglau. |
|
(Pobun) Ha, dyma hi, f'anwylyd, y mae fy nghalon eisoes yn hiraethu amdani. |
|
|
|
(Pobun) Dy freichiau annwyl di ydynt hwy, a mynnwn orwedd ynddynt. |
(0, 3) 299 |
Rhydd gusan iddo, a choron o flodau, a ddygir iddi gan un o'r hogiau, am ei ben. |
(0, 3) 300 |
Dring rhai o'r bechgyn i fyny gan wasgar blodau a llysiau peraroglus. |
(0, 3) 301 |
Cyfyd bwrdd o'r llawr, wedi ei osod yn barod a'i addurno â goleuadau. |
(0, 3) 302 |
Gerdda Pobun a'i Feistres at y grisiau sy'n arwain i fyny. |
(0, 3) 303 |
Daw'r gwahoddedigion, deng mab a deng merch ieuainc, i mewn o'r naill du a'r llall tan ddawnsio a chanu. |
|
(Y Prif Gantor) {Yn canu.} |
|
|
|
(Pobun) Yr ydych yn edrych yn union fel estroniaid i mi. |
(0, 4) 361 |
Distawrwydd. |
|
(Car Tenau) Yr argen fawr, fy nghâr Pobun, a fynnech chwi'n gyrru ni adref eto? |
|
|
|
(Meistres Pobun) A saif y gair amdanaf innau hefyd? |
(0, 4) 369 |
Edrych Pobun arni. |
|
(Gwahoddedig 1) Araith gŵr goludog yn gymwys, peth cwbl hŷ a sarhaus. |
|
|
|
(Car Tew) Poethwch y gwin nes bod yr angerdd yn codi i'r awyr, a dodwch sinamwn a sinsir ynddo. |
(0, 4) 402 |
Poethir gwin yng nghefn y llwyfan. |
|
(Morwyn Ieuanc 2) [Mi glywais sôn fod maen i'w gael y tu mewn i'r wennol, a bod y meddygon mawr yn ei ddefnyddio, Chelidonius y gelwir ef.] |
|
|
|
(Morwyn Ieuanc 3) Ond mi a'i sibrydaf yn ei chlust. |
(0, 4) 416 |
Cyfyd a mynd a sibrwd yng nghlust y Feistres. |
(0, 4) 417 |
Tra bo wrthi deil y lleill wrthy bwrdd i siarad. |
|
(Gwahoddedig 1) Pan fo byw dyn o hyd yn rhy dda, bydd hynny'n troi ei waed yn rhy dew. |
|
|
|
(Gwahoddedig 2) Lle'r aeth fy nghariad chwim ei droed."] |
(0, 4) 446 |
Erbyn hyn bydd Pobun wedi yfed ei win poeth, ac yn edrych o'i gylch gyda gwên hapus. |
|
(Pobun) Byddwch lawen, geraint a chyfeillion hoff; nid oeddwn gynneu ddim yn teimlo'n rhyw dda iawn, ond erbyn hyn fe'm gwnaeth y ddiod eto'n iach. |
|
|
|
(Car Tew) [Fy nghyfaill tenau, gwae ni, gwae ni, cawn glywed ei gân am yr eira oer!] |
(0, 4) 456 |
Canant gan chwerthin. |
|
(Car Tenau) {Yn canu.} |
|
|
|
(Car Tenau) O gwrando, Wener lân! |
(0, 4) 467 |
Cyd-ganant oll. |
(0, 4) 468 |
Clywir sain fygedig clychau. |
(0, 4) 469 |
Gwthia Pobun ei wydr oddi wrtho. |
|
(Pobun) Ond pa sŵn clychau yw hwnyna? |
|
|
|
(Pobun) Llawer o ddiolch, fy nghâr, ond gadewch hynny. |
(0, 4) 488 |
Eistedda Pobun, a'i Feistres yn ymwasgu ato. |
(0, 4) 489 |
Câny gwahoddedigion wrth ben arall y bwrdd eio "Floret silva undique," etc. |
(0, 4) 490 |
Tra canont hwy daw Cydymaith Da Pobun a chymer y lle gwag wrth y bwrdd. |
(0, 4) 491 |
Fel y gostego'r canu clywir llawer o leisiau'n galw). |
|
(Lleisiau) Pobun! Pobun! Pobun! |
|
|
|
(Pobun) Clywch mor groch y maent yn galw "Pobun!" |
(0, 4) 512 |
Clywir y galw fel cynt. |
|
(Meistres Pobun) Ni chlywaf i ddim sain. |
|
|
|
(Meistres Pobun) Mi drengwn o ing a gofid pe'th welwn yn fynych fel yna! |
(0, 4) 526 |
Ant ymlaen gyda'r wledd. |
|
(Pobun) {Gan gyfodi mewn ing.} |
|
|
|
(Pobun) Ni cherdd ar wyneb daear ei debyg o ddyn. |
(0, 5) 531 |
Saif Angau ychydig draw. |
(0, 5) 532 |
Cyfyd pawb. |
|
(Angau) Pobun, a wyt ti mor llawen dy fryd? |
|
|
|
(Angau) Nid arbedaf neb. |
(0, 5) 559 |
Ffy llawer o'r gwahoddedigion. |
|
(Pobun) [Beth? |
|
|
|
(Angau) O'r gorau, mi af o'r golwg; eto, cymer ofal rhag ofera'r oediad hwn, ond ei ddefnyddio'n gall fel Cristion. |
(0, 5) 588 |
Mynd o Angau o'r golwg. |
|
(Pobun) {Gan droi at ei gydymaith.} |
|
|
|
(Cydymaith) Siarad â mi yn rhydd, rhaid ì mi gael popeth yn glir o'th enau di dy hun; mi safaf gyda thi hyd yr awr olaf, yn gymwys fel y dylai Cydymaith Da. |
(0, 6) 605 |
Pobun ar fedr siarad. |
|
(Cydymaith) Y mae dy drueni yn gwasgu'n drwm arnaf. |
|
|
|
(Cydymaith) A phe byddit ti'n dymuno rhywbeth arall, bod gyda'r merched yn gwmpeini da, neu beth a fynni, yna, ceit fy ngweled wrth dy ystlys cyhyd ag y rhoddai Duw ddiwrnod teg, neu gyda'r ffaglau tân ar ôl iddi nosi—yr wyf yn dywedyd hyn oll o ddifrif. |
(0, 6) 657 |
Try i fyned ymaith. |
|
(Pobun) O, gyfaill, os gallaf eto d'alw di felly. |
|
|
|
(Cydymaith) Ie, trist iawn yw gwahanu, 'rwy'n deall hynny'n awr. |
(0, 6) 676 |
 ymaith. |
|
(Pobun) [Gwae fi! |
|
|
|
(Car Tew) Ond rhaid iti adael i mi ddywedyd hyn—ni ddygi di monof i unwaith ar hyd y llwybr yna. |
(0, 7) 741 |
 ymaith. |
|
(Pobun) {Wrth y Car Tenau.} |
|
|
|
(Car Tew) Aros yma, a dymuno pob da i tithau! |
(0, 7) 752 |
Ânt ymaith. |
|
(Pobun) [Och Iesu, ai dyna ddiwedd pob peth? |
|
|
|
(Car Tenau) Y mae gennyt ddigon o daeogion a chennyt hawl i alw arnynt, ond y mae mwy o werth na hynny ar d'annwyl geraint.] |
(0, 7) 758 |
[Â ymaith.] |
|
(Pobun) [Taeogion, pa beth fyddent i mi pe cymerwn hwy i'm canlyn—ni byddai hynny ond cymorth prin. |
|
|
|
(Pobun) A yw'r wledd lawen drosodd a phawb wedi mynd o'r neuadd?] |
(0, 8) 762 |
[Mynd o hono at y bwrdd. |
(0, 8) 763 |
Rhai o'r gwahoddedigion eto'n bwyta ac yfed, yn neidio ar eu traed wrth ei weled ac yn ffoi rhagddo. |
(0, 8) 764 |
Sudda'r bwrdd o'r golwg i'r llawr.] |
|
(Pobun) Onid erys un cymorth arall i mi ynteu, ai un colledig ydwyf innau? |
|
|
|
(Pobun) Hai! caned y clychau—-alarwm ynteu, chwithau daeogion, peidiwch ag ystelcian yn y tŷ, dowch allan ataf oll. |
(0, 8) 769 |
Daw'r goruchwyliwr ac eraill yn gyflym. |
|
(Pobun) Rhaid i mi fynd ar daith ar frys, a hynny nid mewn cerbyd ond ar droed. |
|
|
|
(Pobun) Ie, rhag blaen, heb lawer o siarad. |
(0, 8) 774 |
Daw gweision eraill, wyth ohonynt yn dwyn cist drom. |
|
(Pobun) Gelwais arnoch ar gyfer taith, a bydd raid i bob un fod yn ufudd i mi. |
|
|
|
(Pobun) Yn awr, cychwynnwn i'r daith yn dawel iawn, heb yn wybod i neb. |
(0, 8) 780 |
Daw Angau i'r golwg draw. |
|
(Gwas 2) Dacw ddiawl yn sefyll ac yn arwyddo arnom aros. |
|
|
|
(Goruchwyliwr) Dacw fo'n dyfod tuag atom yn ei rym a'i lid. |
(0, 8) 784 |
Y Gweision yn gollwng y gist ac yn ffoi a'r Goruchwyliwr i'w canlyn. |
|
(Angau) Ti ynfyd, buan yr aeth dy awr drosodd, ac ni ddysgaist tithau eto ddim doethineb. |
|
|
|
(Angau) Ni wyddost sut i geisio cydymaith cymwys, a buan y byddi heb un gobaith ac yn dy felltithio dy hun. |
(0, 8) 787 |
Diflanna. |
|
(Pobun) Och, Dduw, faint f'arswyd rhag Angau! |
|
|
|
(Pobun) Am hynny, i fyny â thi ac allan rhag blaen! |
(0, 9) 801 |
Ymegyr y gist yn sydyn—cyfyd Mamon ohoni. |
(0, 9) 802 |
Aruthr o faint. |
|
(Mamon) Ha, Pobun, pa beth sydd arnat ti? |
|
|
|
(Mamon) Ni thâl iti ddim oll daflu breichiau na rhincian dannedd, cei fynd i'r pridd yn noethlymyn groen, yn union fel y daethost o groth dy fam. |
(0, 9) 855 |
Plyg Mamon i lawr. |
(0, 9) 856 |
Cau o'r gist hithau. |
(0, 9) 857 |
Saif Pobun yn fud. |
(0, 9) 858 |
Saib hir. |
(0, 9) 859 |
Daw Gweithredoedd Da i'r golwg, fel un gwael ar wely truenus. |
(0, 9) 860 |
Hanner cyfyd a galw â llais gwan. |
|
(Gweithredoedd Da) Pobun! |
|
|
|
(Gweithredoedd Da) Pobun! |
(0, 10) 862 |
Nis clyw Pobun. |
|
(Gweithredoedd Da) Pobun, oni'm clywi? |
|
|
|
(Gweithredoedd Da) Na, mynnaf ddyfod i'th ganlyn, gan mai d'eiddo di wyf. |
(0, 10) 888 |
Cyfyd Pobun ei olwg. |
|
(Gweithredoedd Da) Oni bai dydi, gallwn ymsymud yn rhwydd, a chydgerddwn â thi lle'r elit. |
|
|
|
(Pobun) [Pe bai dyn heb dafod, fe'i gwnai ing ac angen yn hyawdl.] |
(0, 10) 946 |
Ffydd yn dyfod. |
|
(Gweithredoedd Da) [Nid rhaid galw'n groch, teimlaf fod y chwaer yn dyfod!] |
|
|
|
(Gweithredoedd Da) Nid oes i mi mo'r nerth, rhy wan wyf, ni allaf ddadlau drosto. |
(0, 10) 950 |
Ymollynga. |
|
(Ffydd) {Wrth Bobun.} |
|
|
|
(Pobun) [Pa le y mae ffynnon gysegredig fel y gallwyf fynd yno'n ddi-oed?] |
(0, 11) 983 |
[Gwelir mynach draw.] |
|
(Ffydd) [Mae cymorth da yn disgwyl amdanat. |
|
|
|
(Pobun) Gwrando ar fy ngweddi gan ddarfod iti drengi ar y Grog a phrynu'n heneidiau ni.] |
(0, 11) 996 |
Gorwedda ar ei wyneb mewn gweddi. |
(0, 11) 997 |
Cân yr organ yn uwch, tra gwelir Mam Pobun yn mynd heibio yn y gwyll, fel pe bai'n mynd i offeren fore, a gwas o'i blaen yn dwyn llusern. |
|
(Gwas 1) Paham y sefwch, meistres, yma? |
|
|
|
(Gwas 1) Y mae'r amser yn mynd, y mae'r wawr yn torri eisoes. |
(0, 12) 1013 |
Ant. |
|
(Ffydd) Pobun, Duw gyda thi! |
|
|
|
(Ffydd) A phan orchmynnaf di, yn awr ac yma, i ddwylaw dy Waredwr, felly boed dy gyfrif heb wall. |
(0, 13) 1016 |
Gweithredoedd, wedi bwrw ymaith ei baglau, yn dyfod atynt. |
|
(Ffydd) Weithian, bydd di lawen dy fryd; bellach cryfhaodd dy weithredoedd, rhydd ydynt o'u holl gŵyn, a cherddant rhagddynt â chamau sicr. |
|
|
|
(Pobun) Chwi, gyfeillion, gyda'n gilydd yr awn, ac oddi wrthych chwi nid af i mwy. |
(0, 13) 1023 |
A i fyny ar ôl y mynach. |
(0, 13) 1024 |
Erys Gweithredoedd a Ffydd mewn gweddi. |
|
(Diawl) {Yn dyfod gan neidio, gweiddi a gwneud arwyddion.} |
|
|
|
(Diawl) Bydd yma ffordd ar unwaith! |
(0, 13) 1061 |
Cais fynd drwy drais. |
|
(Ffydd) A fynni di setlo'r peth â'th ddyrnau a thorri ar draws ein gweddi? |
|
|
|
(Ffydd) Gwêl pwy sydd yn dyfod yn gyfnerth inni! |
(0, 13) 1064 |
Angylion yn dyfod. |
|
(Diawl) Ydyw'r cyfeillion hyn hefyd yn y chwarae, heb wybod yn well na segura a rhythu [yn hwyr y nos ac yn gynnar y bore, tra bo pobl eraill, yn sur ddigon, yn edrych at eu gorchwylion?] |
|
|
|
(Diawl) Ydyw'r cyfeillion hyn hefyd yn y chwarae, heb wybod yn well na segura a rhythu [yn hwyr y nos ac yn gynnar y bore, tra bo pobl eraill, yn sur ddigon, yn edrych at eu gorchwylion?] |
(0, 13) 1066 |
[Ni chymer Gweithredoedd Da na Ffydd un sylw ohono, ond dal i weddïo a'u dwylaw ymhleth.] |
|
(Diawl) [{Yntau, wrth y gynulleidfa, gan eistedd ar lawr.}] |
|
|
|
(Ffydd) Gerbron y farn y mae ef yn ei wynebu, ni saif dy hawliau di ddim—[gorffwysant ar ymddangosiad a thwyll, ar y fan yma a'r awr hon a'r byd hwn, y maent oll yn rhwym mewn amser, wedi eu cau oddi mewn i'w derfynau..] |
(0, 13) 1094 |
Clywir cloch gladdu'n canu oddi mewn. |
(0, 13) 1095 |
Penlina Ffydd a Gweithredoedd. |
|
(Ffydd) Pan glywer y clychau hyn yn canu, bydd tragwyddoldeb wedi dechrau. |
|
|
|
(Diawl) A fo deg, ffyddlon a deallus, fe'i meistrolir gan gyfrwystra a thwyll.] |
(0, 13) 1113 |
 ymaith. |
(0, 14) 1114 |
Daw Pobun i lawr mewn gwisg wen laes. |
(0, 14) 1115 |
Ffon pererin yn ei law, eì wyneb yn welw fel angau, ond wedi newid ei olwg. |
(0, 14) 1116 |
 tuag at y lleill. |
|
(Gweithredoedd Da) [Oni theimlais i fod Pobun yn dyfod? |
|
|
|
(Ffydd) Mi safaf gyda thi megis y sefais gynt gyda Iwdas Maccabaeus. |
(0, 14) 1128 |
Ant i fyny'r llwyfan. |
(0, 14) 1129 |
Daw Angau ymlaen a'u canlyn. |
(0, 14) 1130 |
Safant wrth y bedd. |
|
(Pobun) {Gan gau ei lygaid.} |
|
|
|
(Pobun) Gan iti fy mhrynu'n rhydd, cadw eto f'enaid fel nas coller ac fel yr esgynno atat Ti yn y dydd diweddaf gyda theulu'r gwaredigion.] |
(0, 14) 1141 |
[Sudda o'r golwg.] |
|
(Ffydd) Weithion, fe orffennodd ei ddynol daith. |
|
|
|
(Ffydd) Bendithiant ef; tybiaf mai lleisiau'r angylion a ddaw i'm clyw, a hwy yn galw ar yr enaid tlawd i blith eu nefol raddau. |
(0, 14) 1145 |
Angylion yn canu. |
(0, 14) 1146 |
~ |
(0, 14) 1147 |
LLEN |