| (1, 0) 1 | Pan gyfyd y llen, mae'r ystafell mewn anhrefn: bwrdd ar ei ochr, cadeiriau, cwpwrdd, silff-lyfrau ac yn y blaen, wedi'u troi, a darluniau'n gam ar y mur. |
| (1, 0) 2 | Saif MARTIN ar ganol y llwyfan, ac nid yw'n symud am eiliad ar ôl i'r llen godi. |
| (1, 0) 3 | Yna try a mynd at y drws cefn ac amneidio ar rywun sy'n sefyll yno. |
| (1, 0) 4 | Daw Dau Was i mewn a mynd ati'n ddiymdroi i dwtio'r ystafell heb ddweud yr un gair wrth ei gilydd. |
| (1, 0) 5 | Ni ddylai hyn gymryd mwy na rhyw 3 munud. |
| (Martin) O'r gora, hogia. | |
| (Martin) Dyna ni, rwy'n credu. | |
| (1, 0) 8 | Mae'n edrych o'i amgylch i weld bod y golau trydan yn gweithio a'i droi i ffwrdd drachefn. |
| (1, 0) 9 | Mae'r Ddau Was yn tanio sigareti. |
| (Martin) Ia, dyna ni. | |
| (Martin) A hyd y gwelaf 'does yna ddim wedi'i anghofio, oes yna? | |
| (1, 0) 14 | Mae'r Ddau Was yn edrych o'u hamgylch ac yn ysgwyd eu pennau. |
| (Martin) Wel, dyna'r cyfan felly. | |
| (Martin) Mae'n rhaid i mi aros yma am dipyn... | |
| (1, 0) 19 | Exit y Ddau Was. |
| (1, 0) 20 | Mae Martin yn troi a mynd i eistedd yn y gadair y tu ôl ir drws yn y cefn. |
| (1, 0) 21 | Mae'n tynnu papur newydd o'i boced a dechrau ei ddarllen. |
| (1, 0) 22 | ~ |
| (1, 0) 23 | Toc, mae'r drws yn agor yn araf a rhydd MAC ei ben i mewn. |
| (1, 0) 24 | Nid yw'n gweld MARTIN gan fod y drws yn ei guddio. |
| (1, 0) 25 | Daw i mewn i'r ystafell braidd yn ofnus a dilynir ef gan ei wraig, Sadi; ond saif hi wrth y drws. |
| (1, 0) 26 | Mae golwg digon tlodaidd ar y ddau,─MAC â hen gôt laes amdano, cadach am ei wddf a het ddi-siap ar ei ben, a SADI, hithau yr un mor ddiolwg. |
| (1, 0) 27 | Mae gan MAC hen gas mawr lledr, a SADI yn cydio bag papur a phwrs. |
| (1, 0) 28 | Edrych MARTIN arnynt dros ei bapur-newydd heb yngan gair. |
| (1, 0) 29 | Rhydd MAC y cas i lawr ar ganol y llwyfan ac edrych o'i amgylch. |
| (Mac) Palas, ar fenaid i!... | |
| (Sadi) O! | |
| (1, 0) 87 | Nid yw MARTIN yn symud. |
| (Mac) {Tynnu ei het.} | |
| (Mac) Ydych chi'n siŵr na wnewch chi ddim eistedd, Mr. Martin? | |
| (1, 0) 219 | MARTIN yn croesi i'r canol. |
| (Martin) Yn ôl eich doethineb ddwedodd o? | |
| (Mac) Arhoswch am funud, Mr. Martin, imi alw ar y wraig. | |
| (1, 0) 244 | Mae'n mynd at y drws ar y dde a galw. |
| (Mac) Sadi! | |
| (Mac) Rhaid bod yn ofalus sut 'rydych chi'n eu trin nhw, ne mae hi'n siop-siafins ar unwaith! | |
| (1, 0) 255 | Daw SADI i mewn. |
| (Mac) Mr. Martin, Sadi─mae o ar gychwyn. | |
| (Martin) Oni bai i'r Swyddfa fy ngyrru, fel y dywedais i o'r blaen. | |
| (1, 0) 264 | MARTIN yn mynd at y drws. |
| (Mac) Ia wel, chi sy'n gwybod, Mr. Martin. | |
| (Mac) A phob hwyl ichi. | |
| (1, 0) 269 | Edrych MARTIN arnynt am ennyd. |
| (Martin) Da boch chi. | |
| (Sadi) Aros, tyrd â nhw i mi! | |
| (1, 0) 314 | Mae SADI yn cymryd y dillad yn ofalus a'u rhoi o'r neilldu. |
| (Mac) Hwyrach y cawn ni gyfle rŵan i wisgo rhai o'r rhain. | |
| (Mac) A hynny heb nogio unwaith. | |
| (1, 0) 340 | Mae SADI yn anwylo'r cloc. |
| (Sadi) Ffyddlon. | |
| (Sadi) Ffyddlon. | |
| (1, 0) 342 | Mae Mac, yn ystod y sgwrs a ganlyn yn mynd ati i agor y botel efo'r teclyn ar ei gyllell-poced tra bo SADI yn rhannu'r bara a'r caws. |
| (Mac) Ffyddlon, a be-wyt-ti'n-alw, didrugaredd... | |
| (Mac) Rŵan... | |
| (1, 0) 357 | Mae Mac yn tywallt gwin i'r cwpanau a dynnwyd eisoes o'r cas. |
| (Mac) Gwaed a gwlith a chusan yr haul! | |
| (Mac) Yr un ydy'r awch. | |
| (1, 0) 363 | Maent yn eistedd wrth y bwrdd: Mac yn tynnu hances o'i boced a'i gwthio fel napcyn i'w goler. |
| (1, 0) 364 | Cymer damaid o gaws. |
| (Mac) Does yna ddim tebyg i gaws i ddenu'r blas o'r gwin! | |
| (Mac) Chwaneg o win? | |
| (1, 0) 386 | Mae'n ei dywallt gydag osgo bonheddig. |
| (Sadi) Mi fyddi di'n feddw toc! | |
| (Mac) Syniad da. | |
| (1, 0) 495 | Rhydd ei gôt amdano ac eistedd unwaith eto. |
| (1, 0) 496 | Yna mae'n dechrau tynnu ei esgidiau. |
| (Sadi) Paid â thynnu dy sgidia. | |
| (Sadi) Mi fedrwn gysgu ar lein ddillad! | |
| (1, 0) 513 | SADI yn rhoi ei chôt amdani ac eistedd. |
| (Mac) Cyffyrddus? | |
| (Sadi) Nos dawch. | |
| (1, 0) 551 | Ennyd o ddistawrwydd. |