a1

Pros Kairon (1966)

Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1966 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Pan gyfyd y llen, mae'r ystafell mewn anhrefn: bwrdd ar ei ochr, cadeiriau, cwpwrdd, silff-lyfrau ac yn y blaen, wedi'u troi, a darluniau'n gam ar y mur. Saif MARTIN ar ganol y llwyfan, ac nid yw'n symud am eiliad ar ôl i'r llen godi. Yna try a mynd at y drws cefn ac amneidio ar rywun sy'n sefyll yno. Daw Dau Was i mewn a mynd ati'n ddiymdroi i dwtio'r ystafell heb ddweud yr un gair wrth ei gilydd. Ni ddylai hyn gymryd mwy na rhyw 3 munud.

Martin

O'r gora, hogia. Dyna ni, rwy'n credu.



Mae'n edrych o'i amgylch i weld bod y golau trydan yn gweithio a'i droi i ffwrdd drachefn. Mae'r Ddau Was yn tanio sigareti.

Martin

Ia, dyna ni. Popeth yn 'i le... Rhoi'r lle mewn trefn, dyna'r gorchymyn a ge's i. A hyd y gwelaf 'does yna ddim wedi'i anghofio, oes yna?



Mae'r Ddau Was yn edrych o'u hamgylch ac yn ysgwyd eu pennau.

Martin

Wel, dyna'r cyfan felly. Mi gewch chi fynd rŵan. 'Does yna ddim arall i chi'i wneud... Mae'n rhaid i mi aros yma am dipyn...



Exit y Ddau Was. Mae Martin yn troi a mynd i eistedd yn y gadair y tu ôl ir drws yn y cefn. Mae'n tynnu papur newydd o'i boced a dechrau ei ddarllen.

Toc, mae'r drws yn agor yn araf a rhydd MAC ei ben i mewn. Nid yw'n gweld MARTIN gan fod y drws yn ei guddio. Daw i mewn i'r ystafell braidd yn ofnus a dilynir ef gan ei wraig, Sadi; ond saif hi wrth y drws. Mae golwg digon tlodaidd ar y ddau,─MAC â hen gôt laes amdano, cadach am ei wddf a het ddi-siap ar ei ben, a SADI, hithau yr un mor ddiolwg. Mae gan MAC hen gas mawr lledr, a SADI yn cydio bag papur a phwrs. Edrych MARTIN arnynt dros ei bapur-newydd heb yngan gair. Rhydd MAC y cas i lawr ar ganol y llwyfan ac edrych o'i amgylch.

Mac

Palas, ar fenaid i!... Be wyt ti'n 'i ddweud?... E?

Sadi

(Dod ymlaen.) Del... del iawn. Clud.

Mac

Agos atat ti.

Sadi

Cartrefol.

Mac

Ia, dyna'r gair,─cartrefol. Fel tae o wedi'i wneud inni. A'r dodrefn─edrych ar y dodrefn. (Tynnu ei law ar hyd y bwrdd.) Dyma iti goedyn! E? Coedyn gwerth chweil. Heb gainc na thwll pry. Mae o fel melfed. A graen arno fo fel be-wyt-ti'n-alw, fel cefn macrell.

Sadi

Gwerth arian.

Mac

Gwaith llaw, 'sti. Llafur cariad. Crefftwr. 'Dydyn nhw ddim yn gwneud dodrefn fel hyn heddiw.

Sadi

Cofia di, mae yna dipyn o lwch yma─

Mac

Cadeiria reit solet hefyd. (Eistedd ar gadair.) Ia, solet iawn.

Sadi

Gwaith llnau─

Mac

(Codi.) Eisio hoelen neu ddwy efalla. Ond pethma bach ydy hynny─

Sadi

Ond buan iawn y daw o efo dipyn o eli penelin... wnes i ddim dychmygu, wnest ti?

Mac

E?

Sadi

Crwydro'r strydoedd, ddoe fel,─wel fel sipsiwn.

Mac

Fel sipsiwn, ia.

Sadi

A heddiw, dyma ni yn y nyth bach yma!

Mac

Cartre am y tro cynta... Sut mae deall y Drefn, sgwn i!

Sadi

Y Drefn?

Mac

Ia, wyddost ti─petha. Sut mae deall petha?

Sadi

Fedrwn ni mo'u deall nhw. Wedyn, paid â mwydro dy ben. Pa ddiben dyfalu a phendroni? Derbyn, a dal ein gafael, dyna'r peth gora.

Mac

E? Wyt ti'n meddwl?... Ia, dodrefn gwerth chweil. Gwaith crefftwr, digon hawdd gweld. A dyna iti beth arall... (Mae'n gweld MARTIN ac yn neidio.) Dewcs annwyl!

Sadi

(Nid yw hi wedi sylwi.) Be?

Mac

Dewcs annwyl!

Sadi

(Troi.) O!



Nid yw MARTIN yn symud.

Mac

(Tynnu ei het.) Dewcs, wyddwn i ddim 'chi. Hynny ydy 'doeddwn i ddim wedi'ch gweld chi yn fan'na. E? 'Doeddwn i ddim yn meddwl... O'r Swyddfa 'rydych chi, decini?... Hynny ydy, wedi dwad yma i be-ydach-chi'n alw? (Wrth SADI.) Mi ddywedodd y dyn rywbeth, wyt ti'n cofio?

Sadi

Ydw.

Mac

Wel, mae'n dda gen i'ch cyfarfod chi... Mac ydy'r enw. A dyma'r wraig, Sadi. Mae'n siŵr iddyn nhw sôn wrthych chi amdanom ni. Hynny ydy, yn y Swyddfa yna?



(Mae Martin yn codi a mynd i sefyll i ganol y llwyfan.)

Martin

Beth ddywedodd o wrthych chi?

Mac

Pwy,─dyn y Swyddfa?

Martin

Beth ddwedodd o?

Mac

E? Wel, dweud wnaeth o. Hynny ydy... (Mae SADI yn eistedd.) Ia, eistedd di i lawr. Mae'n siŵr dy fod ti wedi blino... Heb gael gorffwys yn iawn ers tro byd, wyddoch chi, Mr...? Mr...? Wel, mi wyddoch fel mae hi wedi bod arnom ni yn y wlad yma. Yr holl drybini a'r tryblith a─

Martin

Martin.

Mac

E?

Martin

Martin,─dyna ydy f'enw.

Mac

O, ia?... Dewcs! Ond fel roeddwn i'n dweud Mr. Martin, digwydd troi i'r Swyddfa wnes i, y bore yma. Busnes preifat. Hynny ydy, wel, newid ein cardia. Mi wyddoch mor bwysig ydy cael eich cardia'n iawn. A dyma'r dyn yn gofyn imi, hynny ydy, cynnig swydd imi. 'Wel', medda finna, 'mae'n dibynnu', medda fi. 'Ar natur y gwaith', medda fi. 'Hynny ydy', medda fi, 'be fyddwn i'n 'i wneud?', medda fi.

Sadi

Fi ddwedodd hynny.

Mac

E?... Tybed?

Sadi

Ta waeth. Dos ymlaen.

Mac

Reit. Ble 'roeddwn i? O ia. 'Dim ond byw mewn tŷ', medda fo. 'Tŷ sy'n perthyn i'r Swyddfa yma. Byw ynddo fo, a'i gadw fo'n dwt ac yn lân. Gwneud eich cartre ynddo fo. Ei ddefnyddio fo'n ôl eich doethineb', medda fo.

Sadi

'Ei gadw fo mewn trefn', medda fo. 'Dyna'r unig amod. Fydd yna ddim rhent.'

Mac

'Am amser amhenodol', medda fo wedyn. Mae'n debyg bod arnyn nhw eisio'i gadw fo'n barod rhag ofn,─wel, ar gyfer rhywbeth neu'i gilydd. Er na ddwedodd o ddim am hynny, cofiwch.

Sadi

A dyma ni'n derbyn, ydych chi'n gweld.

Mac

Wel nid pob dydd y cewch chi gynnig fel yna. A rydyn ni wedi blino crwydro. Mae ar bawb eisio rhoi gwreiddia i lawr yn y diwedd. Hynny ydy, gwneud cartre, ac ati.

Sadi

A dyma'r cynta inni ei gael, 'chi.

Mac

Y cynta erioed. Wel, fel y dwedais i, mi wyddoch fel y mae wedi bod arnon ni yn y wlad yma. Chawson ni ddim cyfle o gwbwl... Wnewch chi ddim eistedd am funud, Mr. Martin? (Nid yw MARTIN yn derbyn y gwahoddiad.) Go brin y medrwn ni gynnig paned o dê ichi. Hynny ydy, wyddon ni ddim ple mae'r gegin eto!

Sadi

(Codi.) Rhaid imi gael golwg arni... Esgusodwch fî. (Exit SADI drwy'r drws ar y dde.)

Mac

(Eistedd.) Maen debyg y byddwch chi'n dwad i'n gweld ni o bryd i'w gilydd, Mr. Martin?

Martin

(Dod ar ffrynt y llwyfan ac edrych allan i'r gynulleidfa drwy'r ffenestr ddychmygol.) Na fyddaf.

Mac

E?

Martin

'Rwy'i wedi gorffen yma rŵan. Rhoi'r lle mewn trefn a'ch disgwyl chi yma─dyna'r siars a ge's i. Fydda i ddim yn dwad yma eto, onibai i'r Swyddfa fy ngyrru i.

Mac

O? Ia wel, dyna ni. Mae hynna'n ddigon teg... Ac wrth gwrs, mi wnawn ein gora glas, fel y dywedais i wrth y dyn... (Codi.) Mae modd ei wneud o'n lle bach digon be-ydach-chi'n-alw... Beth oedd o, dwedwch─hen stordy neu rywbeth? Ac eto mi fuo fo'n dŷ i fyw ynddo fo unwaith. Mi welais i'r enw wrth ochr y drws. Enw digon od ydy o hefyd,─ Pros... Pros...

Martin

'Pros Kairon'.

Mac

Ia, dyna fo. Pa iaith ydy honno, sgwn i?... Wrth gwrs, mi fydd yma ddigon i' wneud. Yn ara deg y daw o a─

Martin

Groeg.

Mac

E?

Martin

Groeg. 'Pros Kairon'─Groeg ydy o.

Mac

O? Dewcs!... Be mae on 'i feddwl, sgwn i? Mae yna ryw ystyr iddo fo, decini?... Peth rhyfedd ydy enw 'te! Unwaith rydych chi'n rhoi enw i rywun ne rywbeth mae ganddo fo afael arnoch chi, rywsut.

Martin

Wnaethoch chi arwyddo rhywbeth?

Mac

E?

Martin

Yn y Swyddfa yna,─wnaethoch chi arwyddo cytundeb?

Mac

Naddo, 'chi. Dim o gwbl. Wnaeth y dyn ddim gofyn imi... Ydych chi am imi arwyddo rhywbeth?

Martin

(Troi at y ffenestr ddychmygol.) Mae'r ffenest yma'n gollwng dŵr.

Mac

Dewcs, tybed?

Martin

Dim ond rhyw ddiferyn,─welwch chi?

Mac

'Rydych chi'n iawn ar f'engoch i. Ond mater bach fydd setlo hynny. (Pwyntio allan i'r gynulleidfa.) Mae yna gytia defnyddiol i lawr acw. Rhai mawr hefyd. Hen stablau ac ati, mae'n debyg. Mi fedra i wneud defnydd o'r rheina. Hynny ydy, mi fydda'n bechod eu cadw nhw'n wag... Ydych chi'n siŵr na wnewch chi ddim eistedd, Mr. Martin?



MARTIN yn croesi i'r canol.

Martin

Yn ôl eich doethineb ddwedodd o?

Mac

E?

Martin

Defnyddio'r lle yma'n ôl eich doethineb,─dyna ddwedodd o?

Mac

O ia, yn hollol. Ei gadw fo mewn trefn. A mi fyddwn ni'n siŵr o wneud, peidiwch â phryderu! Mi fydd y wraig wrthi, gyda hyn, fel mam y cnafon. A minna'r ochr arall fel dyn yn lladd nadrodd! O, mi edrychwn ni ar 'i ôl o!... Mae croeso ichi eistedd, Mr. Martin. Ond mae'n debyg eich bod yn ddyn prysur ac eisio mynd, ac ati.

Martin

'Dwyf inna ddim am ofyn ichi arwyddo dim chwaith.

Mac

E?

Martin

Wedi'r cyfan dydy o ddim yn fater cyfreithiol.

Mac

Na, dydy o ddim, 'rydych chi yn llygad eich lle... Y peth cynta fyddwn ni'n 'i wneud rŵan fydd dadbacio. Dyma hynny sydd gennym ar ein helw, Mr. Martin. Yn yr hen gas yma. Y cyfan o'n heiddo yn y byd mawr yma'n grwn.

Martin

Fydd arnoch chi eisio fawr o ddim rŵan.

Mac

E? Na fydd, digon gwir. Hynny ydy, 'rydyn ni wedi bod yn hynod o lwcus... Arhoswch am funud, Mr. Martin, imi alw ar y wraig.



Mae'n mynd at y drws ar y dde a galw.

Mac

Sadi! Sadi! Tyrd, mae Mr. Martin ar fynd... (Dod yn ôl.) Fydda yna ddim tewi arni tawn i'n gadael ichi fynd â hitha ddim yma... Petha od ydy merched. Hynny ydy, 'dydyn nhw ddim 'run fath â ni, ddynion. Mae nhw mor be-ydych-chi'n-alw a chyfnewidiol. Fel ceiliogod-gwynt, neu ieir-gwynt yn hytrach! Rhaid bod yn ofalus sut 'rydych chi'n eu trin nhw, ne mae hi'n siop-siafins ar unwaith!



Daw SADI i mewn.

Mac

Mr. Martin, Sadi─mae o ar gychwyn.

Sadi

O?

Mac

Ia, wel, fedrwn ni wneud dim ond diolch ichi, Mr. Martin.

Sadi

Ia wir─am bopeth.

Mac

Ac os digwydd ichi ddwad i'r cyffinia yma, dowch i'n gweld ni. Mi gewch paned bryd hynny, reit siŵr.

Martin

Fydda i ddim yn dwad yma eto. Oni bai i'r Swyddfa fy ngyrru, fel y dywedais i o'r blaen.



MARTIN yn mynd at y drws.

Mac

Ia wel, chi sy'n gwybod, Mr. Martin. Hynny ydy... ac fel dywedais inna o'r blaen, diolch o galon ichi.

Sadi

Ia'n wir.

Mac

A phob hwyl ichi.



Edrych MARTIN arnynt am ennyd.

Martin

Da boch chi. (Exit.)

Sadi

Dyn od!

Mac

E? Wel ia. Ond eto'n ddigon tawel; digon di-ffwdan.

Sadi

'Roedd o'n gwneud i mi deimlo'n annifyr.

Mac

Twt, ti syn dychmygu petha'... Tae waeth, mae o wedi mynd. Welwn ni mono fo eto... Wel, be wyt ti'n feddwl o'r lle. Ydy o'n plesio? E? E?

Sadi

I'r dim. Cegin fach hwylus. Wel nid mor fechan â hynny chwaith. Tyrd i weld drosot dy hun.

Mac

Toc.

Sadi

Toc?

Mac

Toc. Tamaid o fwyd yn gynta. Fedra i ddim symud heb damaid o fwyd. Bron llwgu. Fy stumog i,─mae hi fel crempog ar fas cefn i.

Sadi

Wel, 'does gen i fawr o ddim 'i gynnig iti! Felly paid â disgwyl gwledd. (Agor y bag papur.) 'Does yma ddim ond torth a lwmp a gaws a hanner sosej. (Mae'n eu tynnu allan a'u rhoi ar y bwrdd.)

Mac

A photel o win, 'rhen chwaer!

Sadi

Potel o win? Mac (Pwyntio at y cas mawr.) Yn hwn. Ble gest ti hi?

Mac

Hidia di befo ble ges i hi. Mae hi yma. Aros. (Mae'n agor y cas a thynnu pob math o feddiannau ohono.)

Sadi

Wel, paid â'u rhoi nhw'n lluch-eu-tafl ar y llawr yna!

Mac

E? Dim ond am funud.

Sadi

Aros, tyrd â nhw i mi!



Mae SADI yn cymryd y dillad yn ofalus a'u rhoi o'r neilldu.

Mac

Hwyrach y cawn ni gyfle rŵan i wisgo rhai o'r rhain. E? Wedi'r cyfan, rhaid inni drio byw yn ôl ein safle newydd.

Sadi

(Mae'n plygu dilledyn isaf arbennig, a hwnnw braidd yn hen-ffasiwn.) Dosbarth canol, sti. Mac (Rhoi un arall cyffelyb iddi.) Safonau newydd ac ati. Gwerthoedd. Mac (Rhoi dyrnaid o ganhwyllau iddi.) Diwylliant. Cyfrifoldeb cymdeithasol. Mac (Rhoi hen bwrs iddi.) Economeg. Politics. Mac (Rhoi cloc-larwm iddi.) Crefydd. Crefydd?

Mac

Wel, mae'n rhaid inni drio bod yn barchus rŵan, fel pawb arall... Mae'r hen gloc yma wedi mesur dipyn go lew o'n hoes ni. E? A hynny heb nogio unwaith.



Mae SADI yn anwylo'r cloc.

Sadi

Ffyddlon.



Mae Mac, yn ystod y sgwrs a ganlyn yn mynd ati i agor y botel efo'r teclyn ar ei gyllell-poced tra bo SADI yn rhannu'r bara a'r caws.

Mac

Ffyddlon, a be-wyt-ti'n-alw, didrugaredd... Sôn am grefydd, dim ond tri chwestiwn sylfaenol sydd yna, 'sti. O ble y daethon ni? Be ydyn ni'n i wneud yma? A, i ble rydyn ni'n mynd?

Sadi

Mae pig y tebot yma wedi torri.

Mac

E?

Sadi

Ond hwyrach bod yna un yn y gegin. Ches i ddim ond cip at y cypyrdda.

Mac

Ia, fel ro'n i'n dweud, chwilio am ateb i'r tri chwestiwn yna ydy swm a sylwedd pob crefydd ac athroniaeth, 'sti. Ffaith iti... Duwcs, mae'r corcyn yma'n be-wyt-ti'n-alw... A, dyna fo!... Rŵan...



Mae Mac yn tywallt gwin i'r cwpanau a dynnwyd eisoes o'r cas.

Mac

Gwaed a gwlith a chusan yr haul!

Sadi

Mewn cwpan dun!

Mac

Hidia befo. (Mae'n yfed dracht.) Yr un ydy'r awch.



Maent yn eistedd wrth y bwrdd: Mac yn tynnu hances o'i boced a'i gwthio fel napcyn i'w goler. Cymer damaid o gaws.

Mac

Does yna ddim tebyg i gaws i ddenu'r blas o'r gwin!

Sadi

Be?

Mac

Dweud roeddwn i─dim tebyg i─

Sadi

Fedri di ddim siarad â llond dy geg o fwyd!

Mac

E? (Mae'n llyncu.) Caws,─dim tebyg iddo fo i hudo'r blas o hanfod y gwin.

Sadi

Dim tebyg i win, chwaith, i dynnu allan gwir naws y caws.

Mac

Ia, rwyt ti yn llygad dy le. Dwy ochor i'r un gwirionedd... (Saib ennyd.)

Sadi

(Codi'n sydyn.) Breuddwyd a thwyll a lledrith ydy hyn i gyd, wrth gwrs. 'Rydyn ni'n siŵr o ddeffro, toc.

Mac

Taw â sôn! Twt twt! E?

Sadi

Mi ddeffrwn i ail-ddechrau crwydro eto.

Mac

Ia, mae'n anodd credu. Ond fel y dwedaist ti gynna, pa ddiben dyfalu?... Chwaneg o win?



Mae'n ei dywallt gydag osgo bonheddig.

Sadi

Mi fyddi di'n feddw toc!

Mac

Melys moes mwy! (Yfed.) Wyt ti wedi edrych allan yna?... Tyrd at y ffenast am funud. (Mae'n codi.) Tyrd.

Sadi

(Yn ei ddilyn at ffrynt y llwyfan ac edrych allan drwy'r ffenestr ddychmygol.) Be sy yna?

Mac

Weli di? Gardd! Chwarter acer os ydy hi lathen sgwâr.

Sadi

Tybed? Sut drefn sydd arni?

Mac

Eitha da... Hynny ydy, go lew. Ond mae yna bosibiliadau dirifedi. O, mi ydw i'n ysu i fynd ati! Ffaith iti,─ysu. Wyt ti'n gweld lawnt yna, ryw ddiwrnod? Lawnt fel─fel darn o felfed gwyrdd!

Sadi

Ydw, a border o lafant a Phen-ci-bach!

Mac

Rhosynnau a pherlysiau!

Sadi

Blodau Mihangel!

Mac

A Thresi Aur! A Blodau'r Cledd!

Sadi

A phren afalau!

Mac

Dyn yn ei ardd,─pinacl gwareiddiad!

Sadi

Be sy draw acw?

Mac

Cytia,─hen stablau ac ati. Digon o le... Wyddost ti be ddwedais i o dan fy ngwynt pan welais i nhw gynna efo Mr. Martin?

Sadi

Be ddwedaist ti?

Mac

Ieir! Dyna be ddwedais i,─Ieir!

Sadi

O? (Troi a mynd i ganol yr ystafell.)

Mac

(Ei dilyn.) Ia, cadw ieir. Bugeilio da-pluog. Cyfuno proffid a phleser. 'Defnyddio'r lle yn ôl ein doethineb', ─dyna ddwedodd o. Dyna'r amod. Fedra i feddwl am ddim gwell, fedri di?

Sadi

Wel...

Mac

Pleser a phroffid! Wya a chig a phlu i'r gobennydd! Heb sôn am eu cwmni tra byddan nhw'n fyw... Beth wyt ti'n feddwl o'r syniad?

Sadi

Syniad da. Gwreiddiol. Petha bach od ydy ieir. Diniwed. Del... Mi fydda i'n rhoi enw i bob un ohonyn nhw. Alis, Cleopatra, a Meri Ann Ddu!

Mac

A'r ceiliog?

Sadi

Siôn Chwimwth.

Mac

O?

Sadi

Ne Syr Harri,─'dwy' i ddim yn gwybod eto. Mi ga i weld... Be ddwedaist ti rŵan─ Wya, a be?

Mac

Wya, a chig a phlu i'r gobennydd.

Sadi

Wya, ia. Ond cig? Eu lladd nhw? Fedrwn i byth!

Mac

Twt, twt!

Sadi

Mi fydda fel lladd fy nheulu, canibaliaeth!

Mac

E? Mae gen ti ormod o be-wyt-ti'n-alw dychymyg, 'sti. Hynny ydy... ia, wel... rhaid imi fynd i weld y stafelloedd eraill yna rŵan.

Sadi

Weli di ddim llawer arnyn nhw, bellach.

Mac

E?... Pam?

Sadi

Tywyll.

Mac

Be wyt ti'n 'i feddwl, 'tywyll'?

Sadi

Dim gola.

Mac

Ond mae yna ola yma!

Sadi

'Does yna ddim yn unlle arall.

Mac

Dewcs! Dim bylbia, mae'n debyg... O wel, mi ga i eu setlo nhw fory. Haws gwneud yng ngola dydd... A pheth arall, mi ydw i wedi hen flino heno.

Sadi

Syrthni gwin.

Mac

E? Ia, hwnnw hefyd... O wel, gorffwys amdani.

Sadi

Ar y cadeiria.

Mac

Be wyt ti'n 'i feddwl?

Sadi

Wel, ble arall? Fedrwn ni ddim rhyfygu gwely tamp.

Mac

Hidia befo. Esmwyth cwsg potas maip.

Sadi

Mi gawn wely nos yfory os byddwn ni'n fyw ac iach.

Mac

Os na fyddwn ni, wnawn ni ddim poeni rhyw lawer!

Sadi

Be?

Mac

Pa gadair gymeri di?

Sadi

Dim gwahaniaeth. 'Run fath ydyn nhw i gyd.

Mac

Ia, digon gwir. Mi gymera i hon felly... (Mae'n eistedd.) Dewcs, mae hi'n oer!

Sadi

Côt amdanat.

Mac

Syniad da.



Rhydd ei gôt amdano ac eistedd unwaith eto. Yna mae'n dechrau tynnu ei esgidiau.

Sadi

Paid â thynnu dy sgidia. Mi fydd dy draed di fel llyffantod, toc.

Mac

Fedra i ddim cysgu efo nhw am fy nhraed. Mi wyddost ti hynny'n iawn.

Sadi

O wel, ti sy'n gwybod. Mac (Codi'n sydyn.) Het! Het?

Mac

Gwynt oer ar fy mhen i. (Rhoi het ar ei ben.) A, dyna welliant! (Eistedd yn ôl yn y gadair.) Wyt ti ddim wedi blino, dwed?

Sadi

Blino? Mi fedrwn gysgu ar lein ddillad!



SADI yn rhoi ei chôt amdani ac eistedd.

Mac

Cyffyrddus?

Sadi

Go lew.

Mac

Mi newidiwn ni gadeiria os mynni di.

Sadi

Na, mi ydw i'n iawn.

Mac

Ia, wel, ti sydd i ddweud. (Saib ennyd.) Mi gei di newid toc os byddi di'n teimlo felly.

Sadi

Dos i gysgu.

Mac

Dim ond iti wybod,─dyna oedd gen i.

Sadi

Ia.

Mac

Nos dawch.

Sadi

Nos dawch. (Saib ennyd.) Mac!

Mac

Ia?

Sadi

Gola.

Mac

E?

Sadi

Gola. Fedra i ddim cysgu efo'r gola mawr yna. Mac (Codi.) Aros am funud. (Mae'n mynd at y botwm trydan, ac yn petruso.) Ar y llaw arall, mae hwn yn dŷ diarth. Hynny ydy, gwell bod yn ofalus... Beth am y gannwyll? Wnaiff honno dy boeni di? Na, 'dwy'i ddim yn meddwl. Mac (Mae'n goleuo'r gannwyll a throi'r trydan i ffwrdd.) Dyna ni. (Mynd yn ôl i'r gadair.) Sut mae hynna? Iawn.

Mac

Reit... Wel, nos dawch eto.

Sadi

Nos dawch.



Ennyd o ddistawrwydd.

Mac

Wyddost ti be, tawn i'n ddyn crefyddol...

Sadi

Ia?

Mac

Tawn i'n ddyn crefyddol, diawch synnwn i flewyn na fyddwn i'n gweddïo heno!

Sadi

Pam?



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1