Ei Seren Tan Gwmwl

Cue-sheet for Desc

(1, 0) 1 Pan gyfyd y llen, gwelir ROLANT HUW yn eistedd ar y seil wrth y tân, yn darllen "Seren tan Gwmwl", o waith Jac Glan-y-Gors.
(1, 0) 2 Y mae'n amlwg fod sylwadau miniog a bachog yr awdur wrth fodd ei galon.
(1, 0) 3 Tyrr allan i chwerthin yn uchel.
(1, 0) 4 Daw ei wraig #Sara
(1, 0) 5 i mewn, a chyn gynted ag y daw drwy'r drws, dywed:
(Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod?
 
(Sara) Wyt ti wedi colli dy ben, dywed?
(1, 0) 8 Y mae ganddi swp o ddillad yn ei breichiau, ac y mae yn eu rhoi ar y bwrdd o'i blaen.
(1, 0) 9 Yn ystod yr ymddiddan a ganlyn, y mae'n eu trin a'u dosbarthu, etc.
(Rolant) {Yn dal i chwerthin.}
 
(Sara) 'Dase ti'n gorfod trwsio dy 'sane dy hun...
(1, 0) 91 Daw IFOR i mewn drwy ddrws y gegin fach, yn ddrwg ei dymer.
(1, 0) 92 Y mae ar ganol gwisgo, a heb ei gôt.
(Ifor) {Yn ddreng.}
 
(Rolant) Pwy glywest ti'n galw Jac yn fradwr?
(1, 0) 166 Cyflyma'r tempo yma.
(Ifor) {Yn haerllug.}
 
(Rolant) Diodde' pob anghyfiawnder a thrais heb brotest yn y byd!
(1, 0) 188 Erbyn hyn y mae Ifor wedi cilio'n araf ac ofnus at ddrws y gegin fach.
(1, 0) 189 Mae ei fam yn mynd ati i'w gysuro dan fflangell lem ei dad.
(Sara) Ifor bach, mi gei di'r crys erbyn yfory...
 
(Sara) Wn i ddim be' fydd o'n ei feddwl ohono'i!
(1, 0) 233 Rolant yn mynd allan i'r cyntedd.
(1, 0) 234 Clywir lleisiau'r ddau yno.
(Foster) Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda.
 
(Rolant) Wrth gwrs, Mr. Foster, Dowch i mewn.
(1, 0) 237 Daw y ddau i mewn.
(Rolant) {Yn lled anghyfforddus.}
 
(Sara) O, 'machgen bach dewr i!
(1, 0) 294 Oddi yma ymlaen, cyflyma'r tempo, hyd at exit Mr. Foster, a chyfyd tymer Rolant.
(1, 0) 295 Erys Mr. Foster yn ddi-gyffro bron.
(Rolant) {Yn bendant iawn.}
 
(Rolant) Gresyn 'mod i wedi colli fy nhymer, hefyd.
(1, 0) 386 Yn ystod y sgwrs sy'n dilyn, y mae ROLANT yn bur anesmwyth, heb allu setlo'i lawr i wneud dim.
(1, 0) 387 Mae SARA erbyn hyn wedi cael pecyn yr hen Feti at ei gilydd.
(1, 0) 388 Y mae'n paratoi i fynd allan.
(Sara) 'R ydw i'n mynd â'r ychydig bethe 'ma i'r hen Feti, druan.
 
(Sara) 'Fydda' i fawr o dro, os na fydd yr hen Feti'n waeth.
(1, 0) 403 Y mae SARA yn mynd.
(1, 0) 404 Chwilia ROLANT am lyfr, cymer un a gwna ei hun yn gyfforddus i ddarllen ar y setl wrth y tân, fel ar ddechrau'r chwarae.
(1, 0) 405 ~
(1, 0) 406 Ymhen ysbaid gwelir drwy'r ffenestr wyneb JAC GLAN-Y-GORS.
(1, 0) 407 Edrycha hwnnw o'i gwmpas yn wyliadwrus, yna y mae'n tapio'n ddistaw ar y ffenestr.
(1, 0) 408 Cwyd Rolant ei olwg, ond y mae ei gefn at y ffenestr, ac ni wêl Jac.
(1, 0) 409 ~
(1, 0) 410 Dechreua'r tapio drachefn, yn uwch.
(1, 0) 411 Trŷ Rolant at y ffenestr, a gwêl wyneb Jac.
(1, 0) 412 Neidia ar ei draed, gan sibrwd gyda chryn syndod, "Jac"!
(1, 0) 413 ~
(1, 0) 414 Amneidia Rolant arno i ddod i mewn drwy'r cefn, a rhuthra i dynnu llenni'r ffenestr at ei gilydd.
(1, 0) 415 Diffodda'r ddwy gannwyll sydd ar y silf-ben-tân, nes bod y llwyfan rhwng tywyll a golau.
(1, 0) 416 ~
(1, 0) 417 Yna egyr ddrws y bac, a daw JAC i mewn.
(1, 0) 418 Y mae hwnnw'n cario pecyn bychan.
(1, 0) 419 ~
(1, 0) 420 Yn ystod rhan gyntaf yr ymgom sy'n dilyn, ymddengys Rolant yn lled anesmwyth, yn edrych o gwmpas yr ystafell yrŵan ac yn y man, a chlustfeinio am unrhyw sŵn dieithr.
(Rolant) {Yn sibrwd.}
 
(Rolant) O, ofn i rywun dy weld, Jac.
(1, 0) 443 Y mae'n cymryd yr unig gannwyll, ac yn croesi i oleuo'r ddwy arall ar y silff-ben-tân.
(Jac) Dyna welliant!
 
(Jac) Mi ro' i berson iddyn' nhw!
(1, 0) 513 Mae'n dal i chwerthin, ac ni all Rolant yntau beidio ag ymuno yn yr hwyl.
(1, 0) 514 ~
(1, 0) 515 A phan fo'r chwerthin ar ei fan uchaf, daw JANET FOSTER, merch y Person, i mewn heb gnocio, yn ôl ei harfer.
(1, 0) 516 ~
(1, 0) 517 Saif yn sydyn pan wêl pwy sydd yno.
(1, 0) 518 Derfydd y chwerthin hefyd yn sydyn iawn.
(Janet) {Wrth y drws.}
 
(Janet) O... esgusodwch fi, Mr. Huw, 'wyddwn i ddim fod yma neb dieithr, a mi ddois i mewn heb gnocio fel arfer.
(1, 0) 521 Cyfyd y ddau.
(1, 0) 522 Rolant yn araf araf, ond Jac ar unwaith, heb anghofio'i foesau da.
(1, 0) 523 Mae'n amlwg na ŵyr Rolant druan beth i'w wneud â'r sefyllfa newydd hon.
(1, 0) 524 Wedi edrych o un i'r llall yn ddigon ffwndrus, dywed yn drwsgl braidd:
(Rolant) {Yn cyflwyno Janet.}
 
(Rolant) Mae Mr. Williams ar ymweliad â mi, fel hyn...
(1, 0) 567 Drwy'r adeg, hyd at ei exit y mae Rolant yn lled aneswyth ac anghyfforddus yn ystod y sgwrs rhwng Janet a Jac.
(1, 0) 568 Ond y mae'r ddau yna yn mwynhau pob moment ohoni.
(1, 0) 569 Dylai'r ddau ddangos hyn yn glir, er mwyn datblygu'r gomedi.
(Janet) O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw.
 
(Janet) Jac Glan-y-Gors.
(1, 0) 593 Y mae Rolant a Jac bron â chael eu taro'n fud gan syndod.
(1, 0) 594 Ond dywed y ddau o'r diwedd, bron gyda'i gilydd:
(Y Ddau) P... p... |PWY|?
 
(Rolant) Wel, 'rhoswch chi, 'rŵan.
(1, 0) 646 Mae'n mynd o gwmpas yr ystafell, ac edrych yng nghwpwrdd y dresel, etc., tra y sieryd y ddau arall.
(Janet) {Yn swynol.}
 
(Rolant) 'Fyddai'r un dau funud.
(1, 0) 665 Wedi i Rolant fynd allan ceir distawrwydd am ennyd neu ddau.
(1, 0) 666 Yma dywed Janet yn eithaf swynol:
(Janet) Wel... JAC GLAN-Y-GORS!
 
(Janet) Nid ydych yn ddyn hawdd ei anghofio...
(1, 0) 676 Cyflyma'r tempo yn sydyn.
(1, 0) 677 Sieryd Janet yn gyflym mewn 'stage whisper', gan dorri'r brawddegaw'n gwta, ond pob gair a ddywed yn dangos ei bod o ddifrif calon.
(Janet) Gwrandewch!
 
(Janet) Mae gennyf ofn amdanoch... ofn.
(1, 0) 689 Daw Rolant yn ôl.
(Rolant) Mae o'n beth od, Janet, ond 'fedra'i yn fy myw da...
 
(Jac) Efallai fy mod i, Rolant Huw... yn sâl.
(1, 0) 731 Daw Jac ato'i hun yn sydyn.
(1, 0) 732 Cyflyma'r tempo ar unwaith.
(1, 0) 733 Sieryd Jac yn gyflym, ac y mae o ddifrif am unwaith.
(1, 0) 734 Darfu'r cellwair.
(Jac) Rolant Huw, 'rhaid imi ffoi ar unwaith!
 
(Jac) Na,mae hi ar ben...
(1, 0) 761 Y mae'n cydio yn ei bac, ac ar gychwyn allan pan y daw Sara ac Ifor i mewn.
(1, 0) 762 Arafa'r tempo.
(Sara) {Heb weld Jac eto.}
 
(Jac) Wel, ie siŵr.
(1, 0) 774 Ifor yn croesi at Jac, ac yn estyn ei law iddo.
(1, 0) 775 Mae rhyw golyn yng nghynffon pob ymadrodd o eiddo Ifor yma, ond ymddengys yn eithaf siriol a chyfeillgar:
(Ifor) Y |mae|'n dda gennyf gwrdd â chwi, Mr. Jones!
 
(Jac) 'D oes gen' i ddim ond diolch...
(1, 0) 807 Clywir cnocio awdurdodol ar y drws canol.
(1, 0) 808 Cyflyma'r tempo ar unwaith.
(Rolant) {Mewn cyffro.}
 
(Jac) Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda!
(1, 0) 812 Cnocio eto, a llais: "Agorwch, yn enw'r Brenin!".
(Sara) Y Brenin!
 
(Jac) {Yn chwerthin.}
(1, 0) 820 Mae Jac yn camu at y drws hwnnw, ond saif Ifor ar ei ffordd, â'i gefn at y drws.
(Ifor) {Wedi gorffen 'actio' bellach.}
 
(Ifor) Ara' deg, John Jones o Lan-y-Gors,... bradwr!
(1, 0) 823 Cyffro, a'r cnocio yn dal.
(Rolant) {Bron wedi ei syfrdanu.}
 
(Jac) Hen ffrindie!
(1, 0) 833 Cnocio eto, a llais Mr. Foster i'w glywed.
(Rolant) Dyna Hugh Foster,
 
(Rolant) Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...
(1, 0) 837 Egyr y drws, a daw Mr. Foster i mewn.
(1, 0) 838 Dilynir ef gan Capten Rogers, swyddog ym Milishia Sir Ddinbych.
(Rolant) Beth yw ystyr hyn, Mr. Foster?
 
(Rogers) Dewch, Mr. Jones...
(1, 0) 893 Ac fel yr â Capt. Rogers i gymryd gafael yn Jac, clywir lleisiau'r Milishia oddi allan, ac hefyd lais arall.
(1, 0) 894 Egyr drws, a daw JANET i mewn yn frysiog.
(1, 0) 895 Hawdd gweld bod rhywbeth anghyffredin wedi peri iddi frysio yno.
(Ifor) Janet!
 
(Ifor) 'R ydw i wedi cael hen ddigon arnoch chi i gyd... hen ddigon...
(1, 0) 945 Yn mynd allan gan floeddio'r geiriau yn histeraidd.
(Sara) {Yn mynd ar ei ôl.}
 
(Sara) Ifor... 'y 'machgen annwyl i...
(1, 0) 948 Saib am ennyd neu ddwy.
(Foster) Capten Roger s...
 
(Foster) Capten Rogers?
(1, 0) 962 Â'r Capten allan.
(Foster) Wel, fy merch i, beth ydyw?
 
(Foster) Mr. Huw, carwn i chwi ddod allan gyda mi i siarad â'r swyddog...
(1, 0) 1027 Y mae'n troi at Jac, a cheisio'i orau i ymddangos mor ddi-gyffro ag y sydd modd.
(Foster) Mr. Jones, y mae... y... wel... yr amgylchiadau yn caniatâu i chwi fod yn rhydd... i adael y plwyf hwn heb oedi.
 
(Foster) A gawn ni fynd, Mr. Huw?
(1, 0) 1037 Mr. Foster a Rolant yn mynd allan.
(1, 0) 1038 Saib fer.
(Jac) Janet... a gaf fi eich galw felly?
 
(Janet) Wel, dyma fi'n mynd...
(1, 0) 1064 Y mae Jac yn ymgrymu i gusanu ei llaw.
(1, 0) 1065 Yn sydyn, tynn hi ato'i hun, a chusana'r ddau ei gilydd.
(1, 0) 1066 Y maent yn ymwahanu, ac â Janet at y drws.
(Janet) {Wrth y drws.}
 
(Janet) Cofiwch am y |Seren|.
(1, 0) 1070 A chyn iddi fynd allan, dywed yntau'n dawel wrthi.
(Jac) Ond heno, Janet, y mae fy Seren i... dan gwmwl...
 
(Jac) Ond heno, Janet, y mae fy Seren i... dan gwmwl...
(1, 0) 1072 LLEN